hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh...

18
Cemeg Uwch Gyfrannol Canllaw i'ch helpu i ymbaratoi ar gyfer astudio Cemeg Uwch Gyfrannol

Transcript of hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh...

Page 1: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Cemeg Uwch

GyfrannolCanllaw i'ch helpu i ymbaratoi ar gyfer

astudio Cemeg Uwch Gyfrannol

Page 2: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Argymhellion o ran LlyfrauPeriodic Tales: The Curious Lives of the Elements

Mae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau adeiladu ein bydysawd.

A Really Short History of Nearly Everything

Taith gyflym trwy sawl agwedd ar hanes, o'r Glec Fawr hyd at 'nawr. Mae hwn yn llyfr rhwydd iawn ei ddarllen, a fydd yn sicrhau eich bod yn ailymgyfarwyddo â chysyniadau cyffredin ac yn eich cyflwyno i rai o'r cymeriadau mwy lliwgar yn hanes Gwyddoniaeth!

The Science of Everyday Life: Why Teapots Dribble, Toast Burns and Light Bulbs Shine

A ydych chi erioed wedi ystyried pam y mae iâ yn arnofio a pham y mae dŵr yn hylif mor rhyfedd? Neu pam y mae tsilis a mwstard, fel ei gilydd, yn boeth ond mewn ffyrdd gwahanol? Neu pam nad yw poptai microdon yn coginio o'r tu mewn allan? Ar y daith hudolus hon o amgylch gwrthrychau yn y cartref, mae gan Marty Jopson yr ateb i'r holl gwestiynau astrus hyn, a mwy, ynghylch cemeg a ffiseg y deunyddiau cyffredin yr ydym yn eu defnyddio bob dydd.

Page 3: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Bad Science

Mae Ben Goldacre yn datgymalu'r wyddoniaeth amheus sydd y tu ôl i rai o'r prif dreialon cyffuriau, achosion llys, a chyfleoedd a gollwyd yn ein hoes, a hynny mewn modd celfydd iawn. Mae hefyd yn dangos i ni’r stori gyfareddol am y modd yr ydym yn gwybod yr hyn a wyddom, ac yn rhoi'r offer i ni ddatgelu gwyddoniaeth wael drosom ein hunain.

Argymhellion o ran FfilmiauDyma rai ffilmiau sy'n seiliedig ar wyddonwyr a darganfyddiadau go iawn – yn wych i'w gwylio ar ddiwrnod glawog!

Erin Brockovich (2000)

Mae Erin Brockovich yn fenyw mewn cyfyng-gyngor. Yn dilyn damwain car nad oedd yn fai arni hi, mae Erin yn erfyn ar ei chyfreithiwr, Ed Masry, i roi swydd iddi yn ei gwmni cyfreithwyr. Daw Erin ar draws cofnodion meddygol sydd wedi cael eu rhoi mewn ffeiliau eiddo tirol. Mae'n perswadio Ed i ganiatáu iddi ymchwilio, ac mae'n darganfod cynllun i gelu gwybodaeth am ddŵr halogedig mewn cymuned leol sy'n achosi salwch dinistriol ymhlith y trigolion.

Dante’s Peak (1997)

Mae trychineb yn dilyn pan fo folcano, a fu ynghwsg ers amser maith, yn deffro'n sydyn. Pan fo pethau rhyfedd yn dechrau digwydd o amgylch tref heddychlon Dante's Peak, caiff y fylcanolegydd nodedig, Harry Dalton, ei anfon i ymchwilio. Mae ymchwiliad Harry yn ei arwain i gredu bod trychineb folcanig ar ddigwydd; ond nid yw ei bennaeth yn ei gredu, ac mae'n gwrthod rhybuddio'r trigolion.

Page 4: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Fantastic Four (2005)

Mae Mr Fantastic, sy'n gallu ymestyn ei gorff; Invisible Woman, sydd nid yn unig yn gallu mynd yn anweladwy yn ôl ei dewis, ond sydd hefyd yn gallu gwneud gwrthrychau eraill yn anweladwy; Human Torch, sy'n gallu saethu tân o flaenau ei fysedd a phlygu fflamau; a The Thing, sy'n fwystfil erchyll, di-lun, â chryfder goruwchddynol, yn brwydro gyda'i gilydd yn erbyn y Doctor Doom dieflig.

Argymhellion eraill ar y sgrin:

Rough science – Y Brifysgol Agored – 34 o benodau ar gael Caiff gwyddonwyr go iawn eu ‘gadael’ ar ynys, a rhoddir problemau gwyddonol iddynt eu datrys gan ddefnyddio dim ond yr hyn y gallant ddod o hyd iddo ar yr ynys. Tipyn o hwyl os ydych yn hoffi gweld sut y caiff gwyddoniaeth ei defnyddio i ddatrys problemau.

https://www.youtube.com/playlist?list=PLMC_-FtZbKXJRIWszjknt63nR9ETWS8rY

A thread of quicksilver – Y Brifysgol AgoredHanes gwych un o'r elfennau mwyaf rhyfeddol – mercwri. Mae'r rhaglen hon yn dangos y modd y bu i un sylwedd arwain at ymerodraethau a rhyfeloedd, yn ogystal â dangos rhai o briodweddau mwy diddorol mercwri.

https://www.youtube.com/watch?v=t46lvTxHHTA

Faces of chemistry – Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

A ydych erioed wedi ystyried pa ddigwyddiadau a ysbrydolodd gemegwyr enwog? Neu sut y mae ymchwil ym maes Cemeg yn arwain at gynhyrchion a thechnolegau newydd? Neu at ba fath o yrfa y gall astudio Cemeg arwain?

Mae Faces of Chemistry yn gasgliad cyfoethog o fideos ac adnoddau yn ymwneud â chemeg mewn bywyd go iawn, a hynny trwy yrfaoedd pobl go iawn.

https://edu.rsc.org/resources/collections/faces-of-chemistry

Page 5: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

TED Talks

The incredible chemistry powering your

smartphone

Erioed wedi ystyried sut y mae eich ffôn clyfar yn gweithio? Ewch ar daith i lawr i'r lefel atomig gyda'r gwyddonydd Cathy Mulzer, sy'n datgelu'r modd y mae bron pob cydran o'n dyfeisiau pwerus yn bodoli diolch i gemegwyr – ac nid yr entrepreneuriaid yn Silicon Valley sy'n dod i feddwl y rhan fwyaf ohonom. Fel y mae'n ei ddweud: "Cemeg yw arwr cyfathrebu electronig".

A crash course in organic chemistry

Mae Jakob Magolan yma i newid eich canfyddiad o gemeg organig. Mewn anerchiad hygyrch sy'n llawn graffigwaith trawiadol, mae'n ein dysgu am y pethau sylfaenol, ac, ar yr un pryd, yn chwalu'r stereoteip bod cemeg organig yn rhywbeth i'w hofni.

The chemistry of cookiesRydych yn rhoi toes cwcis mewn popty a, thrwy hud a lledrith, cewch lond plât o gwcis cynnes, meddal. Ond nid hud a lledrith mohono; gwyddoniaeth sydd ar waith. Mae Stephanie Warren yn egluro, trwy egwyddorion cemeg sylfaenol, y modd y mae'r toes yn lledaenu, ar ba dymheredd y gallwn ladd salmonela, a pham y mae'r arogl hudolus hwnnw sy'n codi o'ch

Page 6: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

popty yn arwydd bod y cwcis y barod i'w bwyta.

How pollution is changing the ocean’s

chemistry

Wrth i ni barhau i bwmpio carbon deuocsid i mewn i'r atmosffer, mae rhagor ohono'n yn ymdoddi yn y cefnforoedd, gan arwain at newidiadau eithafol yng nghemeg y dŵr. Mae Triona McGrath yn ymchwilio i'r broses hon, a elwir yn asideiddio'r moroedd, ac, yn yr anerchiad hwn, mae'n plymio gyda ni i fyd yr eigionegydd. Dysgwch ragor am y modd y mae "efaill cythreulig y newid yn yr hinsawdd" yn effeithio ar y cefnfor – a'r bywyd sy'n dibynnu arno.

Gweithgareddau YmchwilMae ymchwilio, darllen a gwneud nodiadau yn sgiliau hanfodol ar gyfer astudio Cemeg Safon Uwch. Ar gyfer y tasgau canlynol, byddwch yn llunio ‘Nodiadau Cornell’ i grynhoi'r hyn yr ydych wedi'i ddarllen.

1. Rhannwch eich tudalen yn dair adran, fel hyn.

2. Ysgrifennwch yr enw, y dyddiad a’r pwnc ar frig y dudalen.

3. Defnyddiwch y blwch mawr i wneud nodiadau. Gadewch le rhwng syniadau gwahanol. Talfyrrwch lle bo hynny’n bosibl.

4. Adolygwch y pwyntiau allweddol a’u nodi yn y blwch ar y chwith.

Page 7: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

5. Ysgrifennwch grynodeb o’r prif syniadau yn y lle gwag ar y gwaelod.

Gweithgareddau YmchwilI gael y graddau gorau wrth astudio Cemeg Safon Uwch, bydd yn rhaid i chi feistroli ymchwil annibynnol a gwneud eich nodiadau eich hun ar bynciau anodd.

Ar gyfer pob un o'r pynciau canlynol, gwnewch eich gwaith ymchwil eich hun i lunio tudalen o nodiadau yn arddull Cornell.

Pwnc 1: Cemeg tân gwylltBeth yw cydrannau sylfaenol tân gwyllt? Pa gyfansoddion cemegol sy'n peri i dân gwyllt ffrwydro? Pa gyfansoddion cemegol sy'n gyfrifol am liw tân gwyllt?

Page 8: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Pwnc 2: Pam y mae copr sylffad yn las?Mae gan gyfansoddion copr, yn debyg i nifer o gyfansoddion y metelau trosiannol, liwiau llachar, amlwg – ond pam?

Pwnc 3: Asbirin Beth oedd hanes darganfod asbirin, a sut yr ydym yn cynhyrchu asbirin mewn proses gemegol fodern?

Pwnc 4: Y twll yn yr haen osonPam yr ydym wedi gwneud twll yn yr haen oson? Pa gemegion oedd yn gyfrifol amdano? Pam yr oeddem yn cynhyrchu cymaint o'r cemegion hyn? Beth yw'r gemeg y tu ôl i ddinistrio'r oson?

Pwnc 5: ITO a dyfodol dyfeisiau sgrin gyffwrddITO – indiwm tun ocsid yw prif gydran y sgrin gyffwrdd mewn ffonau a thabledi. Mae'r elfen indiwm yn elfen brin, ac mae'n dod i ben yn gyflym. Mae cemegwyr wrthi'n daer yn chwilio am elfen arall, sydd ar gael yn rhwydd, yn ei lle. Pa gynnydd y mae cemegwyr wedi'i wneud o ran darganfod elfen arall i'w disodli?

Paratoi i astudio ...Bydd Cemeg Safon Uwch yn defnyddio eich gwybodaeth o'r cwrs TGAU, ac yn adeiladu arni, i'ch helpu i ddeall syniadau newydd, mwy heriol. Cwblhewch y tasgau canlynol er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn gyfredol a'ch bod yn barod i ddechrau astudio.

Pwnc Cemeg 1 – Adeiledd electronig, y modd y mae electronau wedi'u trefnu o amgylch y niwclews

Gall tabl cyfnodol roi rhif proton/atomig elfen i chi; mae hwn hefyd yn dweud wrthych sawl electron sydd yn yr atom.

Byddwch wedi defnyddio'r rheol ar gyfer llenwi plisg electronau, lle:

Mae'r plisgyn cyntaf yn dal hyd at 2 electron, mae'r ail yn dal hyd at 8, mae'r trydydd yn dal hyd at 8 ac mae'r pedwerydd yn dal hyd at 18 (neu efallai eich bod wedi clywed 8).

Page 9: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Pwnc Cemeg 1 – Adeiledd electronig, y modd y mae electronau wedi'u trefnu o amgylch y niwclews

Gall tabl cyfnodol roi rhif proton/atomig elfen i chi; mae hwn hefyd yn dweud wrthych sawl electron sydd yn yr atom.

Byddwch wedi defnyddio'r rheol ar gyfer llenwi plisg electronau, lle:

Mae'r plisgyn cyntaf yn dal hyd at 2 electron, mae'r ail yn dal hyd at 8, mae'r trydydd yn dal hyd at 8 ac mae'r pedwerydd yn dal hyd at 18 (neu efallai eich bod wedi clywed 8).

Pwnc Cemeg 2 – Ocsidiad a rhydwythiad

Ar lefel TGAU, rydych yn gwybod bod ocsidiad yn golygu ychwanegu ocsigen at atom neu foleciwl, a bod rhydwythiad yn golygu tynnu ocsigen, neu fod ocsidiad yn golygu tynnu hydrogen a bod rhydwythiad yn golygu ychwanegu hydrogen. Mae'n bosibl eich bod hefyd wedi dysgu bod ocsidiad yn golygu tynnu electronau a bod rhydwythiad yn golygu ychwanegu electronau.

Ar lefel Safon Uwch, rydym yn defnyddio'r syniad o rif ocsidiad yn aml iawn! Rydych yn gwybod bod y metelau yng ngrŵp 1 yn adweithio i ffurfio ïonau sy'n +1, e.e. Na⁺, a bod grŵp 7, yr halogenau, yn ffurfio ïonau -1, e.e. Br⁻. Dywedwn fod gan sodiwm rif ocsidiad o +1 ar ôl iddo adweithio, a bod gan fromid rif ocsidiad o -1.

Gellir rhoi rhif ocsidiad i bob atom sy'n cymryd rhan mewn adwaith.

Rhoddir cyflwr ocsidiad o sero (0) bob amser i elfen, er enghraifft Na neu O2, ac mae gan unrhyw elfen sydd wedi adweithio gyflwr ocsidiad o + neu -.

Page 10: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Pwnc Cemeg 2 – Ocsidiad a rhydwythiad

Ar lefel TGAU, rydych yn gwybod bod ocsidiad yn golygu ychwanegu ocsigen at atom neu foleciwl, a bod rhydwythiad yn golygu tynnu ocsigen, neu fod ocsidiad yn golygu tynnu hydrogen a bod rhydwythiad yn golygu ychwanegu hydrogen. Mae'n bosibl eich bod hefyd wedi dysgu bod ocsidiad yn golygu tynnu electronau a bod rhydwythiad yn golygu ychwanegu electronau.

Ar lefel Safon Uwch, rydym yn defnyddio'r syniad o rif ocsidiad yn aml iawn! Rydych yn gwybod bod y metelau yng ngrŵp 1 yn adweithio i ffurfio ïonau sy'n +1, e.e. Na⁺, a bod grŵp 7, yr halogenau, yn ffurfio ïonau -1, e.e. Br⁻. Dywedwn fod gan sodiwm rif ocsidiad o +1 ar ôl iddo adweithio, a bod gan fromid rif ocsidiad o -1.

Gellir rhoi rhif ocsidiad i bob atom sy'n cymryd rhan mewn adwaith.

Rhoddir cyflwr ocsidiad o sero (0) bob amser i elfen, er enghraifft Na neu O2, ac mae gan unrhyw elfen sydd wedi adweithio gyflwr ocsidiad o + neu -.

Pwnc Cemeg 3 – Siapiau moleciwlau a bondio.

A ydych erioed wedi ystyried pam yr oedd eich athro yn tynnu llun moleciwl dŵr fel hyn?

Mae'r llinellau'n cynrychioli bond cofalent, ond pam eu llunio ar ongl anarferol? Os ydych yn ansicr ynghylch bondio cofalent, darllenwch amdano yma:

https://www.chemguide.co.uk/atoms/bonding/covalent.html

Page 11: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Pwnc Cemeg 4 – Hafaliadau cemegolCydbwyso hafaliadau cemegol yw'r garreg sarn at ddefnyddio hafaliadau i gyfrifo masau mewn cemeg.

Mae yna lwythi o wefannau sy'n dangos sut i gydbwyso hafaliadau, ynghyd â llawer o ymarferion cydbwyso.

Gall rhai o'r hafaliadau i'w cydbwyso gynnwys cemegion rhyfedd, ond peidiwch â phoeni am hynny – y syniad allweddol yw cydbwyso'n gywir.

http://www.chemteam.info/Equations/Balance-Equation.html https://phet.colorado.edu/en/simulation/balancing-chemical-equations

4.1 Cydbwyswch yr hafaliadau canlynol:

Pwnc Cemeg 3 – Siapiau moleciwlau a bondio.

A ydych erioed wedi ystyried pam yr oedd eich athro yn tynnu llun moleciwl dŵr fel hyn?

Mae'r llinellau'n cynrychioli bond cofalent, ond pam eu llunio ar ongl anarferol? Os ydych yn ansicr ynghylch bondio cofalent, darllenwch amdano yma:

https://www.chemguide.co.uk/atoms/bonding/covalent.html

Page 12: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Pwnc Cemeg 4 – Hafaliadau cemegolCydbwyso hafaliadau cemegol yw'r garreg sarn at ddefnyddio hafaliadau i gyfrifo masau mewn cemeg.

Mae yna lwythi o wefannau sy'n dangos sut i gydbwyso hafaliadau, ynghyd â llawer o ymarferion cydbwyso.

Gall rhai o'r hafaliadau i'w cydbwyso gynnwys cemegion rhyfedd, ond peidiwch â phoeni am hynny – y syniad allweddol yw cydbwyso'n gywir.

http://www.chemteam.info/Equations/Balance-Equation.html https://phet.colorado.edu/en/simulation/balancing-chemical-equations

4.1 Cydbwyswch yr hafaliadau canlynol:

Pwnc Cemeg 5 – Mesur cemegion – y môl

O hyn ymlaen, bydd angen i chi ddefnyddio tabl cyfnodol Safon Uwch – gallwch weld un yma:

'Nawr ein bod wedi cydbwyso ein hafaliadau cemegol, mae angen i ni allu eu defnyddio i gyfrifo masau cemegion y mae arnom eu hangen neu y gallwn eu cynhyrchu.

Y môl yw mesur y cemegydd sy'n gyfwerth â dwsin. Mae atomau mor fach fel na allwn eu cyfrif yn unigol, felly rydym yn pwyso cemegion.

Er enghraifft: magnesiwm + sylffwr magnesiwm sylffid Mg + S MgS

Gallwn weld y bydd un atom o fagnesiwm yn adweithio gydag un atom o sylffwr. Pe byddai'n

Page 13: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Y Cyfryngau CymdeithasolAwgrymiadau o ran pobl i'w dilyn ar Twitter:

Cylchgronau cemeg sy'n rhoi'r newyddion a'r ymchwil gemeg ddiweddaraf bob dydd. Cyhoeddir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Pwnc Cemeg 5 – Mesur cemegion – y môl

O hyn ymlaen, bydd angen i chi ddefnyddio tabl cyfnodol Safon Uwch – gallwch weld un yma:

'Nawr ein bod wedi cydbwyso ein hafaliadau cemegol, mae angen i ni allu eu defnyddio i gyfrifo masau cemegion y mae arnom eu hangen neu y gallwn eu cynhyrchu.

Y môl yw mesur y cemegydd sy'n gyfwerth â dwsin. Mae atomau mor fach fel na allwn eu cyfrif yn unigol, felly rydym yn pwyso cemegion.

Er enghraifft: magnesiwm + sylffwr magnesiwm sylffid Mg + S MgS

Gallwn weld y bydd un atom o fagnesiwm yn adweithio gydag un atom o sylffwr. Pe byddai'n

Page 14: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

@ChemistryWorld

Yma i roi'r cymorth, yr adnoddau a'r cysylltiadau angenrheidiol i bob meddwl yn y gwyddorau cemegol fel y gallant lunio dyfodol cemeg. @RoySocChem

Dyma'r cyfrif Twitter ar gyfer unrhyw un sy'n astudio Cemeg Safon Uwch. @ChemistryALevel

Cadw pethau'n ffres ...Mae'n bwysig cadw'r wybodaeth a ddysgwyd gennych ar lefel TGAU yn ffres yn eich meddwl, yn barod i ddechrau ar eich cwrs Safon Uwch ym mis Medi.

Page 15: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae'r gwerthwr gorau gwych hwn, gan Hugh Andersey-Williams, yn llawn dop o straeon cyfareddol a gwybodaeth annisgwyl am flociau

Beth am dreulio ychydig amser yn edrych dros hen bapurau, gan ddefnyddio'r cynllun marcio i asesu pa mor dda yr ydych wedi gwneud.

TGAU Cemeg Unedau 1 a 2 – Hen Bapurau a Chynlluniau Marcio:

https://www.wjec.co.uk/qualifications/qualification-resources.html?subject=Chemistry&level=gcsefrom2016&pastpaper=true

TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd Unedau 2 a 5 – Hen Bapurau a Chynlluniau Marcio:

https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/gwyddoniaeth-tgau-dwyradd/#tab_pastpapers

Cynllunio Ymlaen Llaw ...Er mwyn eich paratoi eich hun i astudio rhagor, edrychwch ar yr adnoddau isod:

Manyleb CBAC – TAG UG/Safon Uwch mewn Cemeg

https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/cemeg-ug-safon-uwch/#tab_overview

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol CBAC

https://www.cbac.co.uk/media/a3jnkgq1/wjec-gce-chemistry-sams-from-2015-welsh.pdf

Hen Bapurau a Chynlluniau Marcio CBAC

https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/cemeg-ug-safon-uwch/#tab_pastpapers

Llyfr Labordy Cemeg Safon UG/Uwch CBAC

https://www.cbac.co.uk/media/wzmbp5rs/chemistry-lab-book-welsh.pdf

Canllaw Adolygu – Unedau 1 a 2

https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=2959&langChange=cy-GB

Canllaw Adolygu – Uned 3

https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=2735&langChange=cy-GB

Canllaw Adolygu – Uned 4

https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=2768&langChange=cy-GB