GWEITHIO GYDA’N GILYDD
description
Transcript of GWEITHIO GYDA’N GILYDD
GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Pan fo angen cymydog
Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti?
Pan fo angen cymydog
Ble'r wyt ti?
Waeth pa liw, na pha gredo
Enw chwaith, paid â hidio
Ble'r wyt ti?
Rwyf heb fwyd a heb ddiod
Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti?
Rwyf heb fwyd a heb ddiod
Ble'r wyt ti?
Waeth pa liw, na pha gredo
Enw chwaith, paid â hidio
Ble'r wyt ti?
Pa le bynnag y byddi
Wele fi, wele fi
Pa le bynnag y byddi
Wele fi
Waeth pa liw, na pha gredo,
Enw chwaith, paid â hidio
Wele fi, wele fi
GWEITHIO GYDA’N GILYDD
UN FFORDD DDA O GOFIO PA MOR BWYSIG YW GWEITHIO GYDA'N GILYDD YW EDRYCH AR FYSEDD EICH LLAW DDE
Ar y dde mae Mistar Bys Bach, y lleiaf o'r pump. Mae Americanwyr yn ei alw'n 'Pinkie'. Nid yw'n gryf iawn ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth y gallai ei wneud ar ei ben ei hun. Yn yr hen amser, roedd rhai pobl bwysig o dras yn estyn eu bys bach wrth ddal paned o de yn arwydd o foesau da.
Nesaf ato mae Mistar Gwanllyd, am ei fod mor wan. Yn wir, mae'n cael trafferth symud heb help ei frodyr. Ceisiwch ei wiglo ac fe welwch pam rwy'n dweud hynny.
Yna daw Mistar Bys Canol. Ef yw'r talaf o'r cyfan ond mae arna i ofn nad yw'n fwy defnyddiol na'r ddau arall.
Wrth ei ymyl y mae Mistar Pwyntio. Ef yw'r prysuraf o'r cyfan. Yn ogystal â phwyntio, mae'n gwasgu cloch drws, yn helpu i godi mân bethau, ac wrth ei chwifio'n yr awyr, mae'n pwysleisio'r hyn rydym ni'n ei ddweud pan fyddwn yn dweud y drefn wrth rywun neu'n rhoi araith rymus. Does dim amheuaeth mai Mistar Pwyntio yw'r mwyaf grymus o'r brodyr.
Yr olaf wrth gwrs yw Mistar Pwtyn/Stwcyn (y bys bawd). Yn fyr a thrwchus, ef yw'r cryfaf o'r pum brawd. Gall wthio'n gryfach - mae'n dda iawn â phinnau bawd - a phan fyddwn yn ei godi'n syth uwchben ein dwrn, mae'n golygu "popeth yn dda".
Nawr ni all yr un o'r rhain wneud llawer ar ei ben ei hun, ond pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd, gallant gyflawni gwyrthiau.
Gallant baentio lluniau gwych
Chwarae cerddoriaeth sy'n felys i'r glust
Iacháu corff anafus
Dal pêl yn yr awyr
Rheoli ceffyl cyflym
Clymu carrai esgidiau
Gwnïo neu wau
Defnyddio cyllell a fforc
Mae pobl fel bysedd. Dim ond hyn a hyn y gall y rhan fwyaf ohonom ei gyflawni ar ein pennau ein hunain, ond drwy weithio gyda'n gilydd, does dim diwedd i'r hyn y gallwn ei wneud.