Gramadeg – 1a)
-
Upload
basil-brennan -
Category
Documents
-
view
67 -
download
5
description
Transcript of Gramadeg – 1a)
Cwestiwn 1a)
Bydd gofyn i chi greu brawddeg i ddangos yn eglur ystyron a defnydd:
i) Berfau;
ii) Arddodiaid;
iii) Cysyllteiriau;
iv) Cymalau;
v) Idiomau.
Cwestiwn 1a)
i) Berf –
Gwelodd Iolo gwch ar Lyn Tegid ddoe.
ii) Arddodiad –
Mae’r cathod yn eistedd ar y to.
iii) Cysylltair –
Aeth i’r ysgol ond roedd yn hwyr yn cyrraedd.
Cwestiwn 1a)
iv) Cymal –
Dyma’r tystion a welodd y ddamwain ddoe.
v) Idiom –
Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn ac felly mae’n rhaid i
mi wisgo côt law rhag gwlychu.
Pwysig!
• Ysgrifennwch frawddegau perthnasol.
• Ysgrifennwch frawddegau syml.
• Peidiwch â llunio brawddegau hir gan fod mwy o siawns o wallau ynddynt!
• Meddyliwch yn ofalus cyn ysgrifennu eich brawddeg.
•Cofiwch roi priflythyren ac atalnod llawn!
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng berf a berfenw?
Bwyta Bwytais
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng berf a berfenw?
Bwyta Bwytais
Berfenw Berf
Bwyta = BERFENW
Dim ond dangos gweithred a wna ‘bwyta’.
?
Befenw = enw ar y weithred
Bwytais = BERF
Mae ‘bwytais’ hefyd yn dangos gweithgaredd ond mae hefyd yn cynnig ychydig mwy o fanylion i ni trwy gyfrwng y terfyniad ‘ais’:
1.PWY sy’n cyflawni’r weithred?
2.SAWL person sy’n cyflawni’r weithred?
3.PRYD y mae’r weithred yn digwydd? ddoe
Berfau – Amser Amherffaith
Berfau – pethau i’w cofio!
• Amser y ferf – meddyliwch cyn ysgrifennu!
• Rhagenw ôl – arfer dda yw rhoi’r rhagenw yma i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
• Defnyddiwch y ‘tag amser’.
• Defnyddiwch y ‘tag arferiadol’ i wahaniaethu rhwng yr amser amherffaith a’r amser gorffennol.
Rhagenwau Ôl
UNIGOL LLUOSOG
1af fi ni
2il ti chi
3ydd
fo/hi nhw/hwy
Amser Amherffaith – y terfyniadau
UNIGOL LLUOSOG
1af -wn -em
2il -it -ech
3ydd
-ai -ent
Amhersonol: -id
Amser Amherffaith – y terfyniadau
UNIGOL LLUOSOG
1af Rhedwn
2il
3ydd
Amhersonol:
Rhedeg:
Amser Amherffaith – y terfyniadau
UNIGOL LLUOSOG
1af Rhedwn Rhedem
2il Rhedit Rhedech
3ydd
Rhedai Rhedent
Amhersonol: Rhedid
Rhedeg:
Berfau – Amser Amherffaith
Amser Amherffaith
Amser Amherffaith = rhywbeth oedd yn digwydd yn y gorffennol dros gyfnod o amser.
Mae’r weithgaredd wedi digwydd fwy nac unwaith ac nid oes sicrwydd pryd y daeth i ben.
Felly mae’n weithred amherffaith.
Tag amser a’r tag arferiadol
Credwn i, pan oeddwn yn blentyn, fod Siôn Corn yn ymweld â mi bob Nadolig.
Tag amser
Tag arferiadol
Tag amser a’r tag arferiadol
Credwn i, pan oeddwn yn blentyn, fod Siôn Corn yn ymweld â mi bob Nadolig.
Tag amser
Tag arferiadol
Mae’n syniad da rhoi rhagenw ôl yn y frawddeg hefyd i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
Rhagenw ôl
Tag amser a’r tag arferiadol
Rhedai hi i’r ysgol bob bore pan oedd yn blentyn.
Tag amserTag arferiadolRhagenw ôl
Amser Amherffaith
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau canlynol:
Rhedit Cerddai Eisteddem
Siaradwn GwaeddaiYmolchent
Amser marcio!
A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam?
X
X
Byddwn i’n mynd i’r ffair bob hâf.
Byddwn i’n mynd i’r dref efo mam pan oeddwn yn blentyn
Byddwn i’n mynd i’r sinema bob nos Sadwrn pan oeddwn yn lanc ifanc.
Byddwn yn mynd i’r cyngerdd bob NadoligX
Berfau amhersonol –Amser Amherffaith
Amser Amherffaith – y terfyniadau
UNIGOL LLUOSOG
1af -wn -em
2il -it -ech
3ydd
-ai -ent
Amhersonol: -id
Berf amhersonol – pethau i’w cofio!
• Rhoi’r arddodiad ‘gan’ yn y frawddeg.Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn blentyn bach, gan ei brawd.
• Ni cheir treiglad ar ôl berf amhersonol.Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn blentyn bach, gan ei brawd.
• Tag amser.Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn blentyn bach, gan ei brawd.
Tag arferiadol.Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn blentyn bach, gan ei brawd.
Amser Amherffaith
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau amhersonol canlynol gan ddefnyddio’r amser gorffennol:
Eisteddid Cenid
Gwelid Sathrid
Crynhoi – BERFAU PERSONOL
• Priflythyren;
•Rhagenw ôl;
• Tag amser;
•Tag arferiadol;
•Atalnod llawn;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!
Crynhoi – BERFAU AMHERSONOL
• Priflythyren ac atalnod llawn;
• Dim treiglad ar ôl berf amhersonol;
•Arddodiad ‘gan’;
• Tag amser;
•Tag arferiadol;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!