Go Safe December Newsletter
-
Upload
lesa-hitchings -
Category
Documents
-
view
221 -
download
5
description
Transcript of Go Safe December Newsletter
Y diweddaraf am y bartneriaethJim Moore, Rheolwr y Bartneriaeth, WRCRP
Gan Bwyll www.ganbwyll.org
Croeso i rifyn y gaeaf o Fflach Newyddion.
FFLACH NEWYDDIONCylchlythyr Gan Bwyll Rhagfyr 2010 Rhifyn 05
Am gyfrannu?
Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau darllen ein cylchlythyr, ond, os oes gennych unrhyw syniadau am sut i’w
wella neu os hoffech gyfrannu at rifyn yn y dyfodol, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch hi ar
01792 637764.
Unwaith eto, mae’r sbotolau ar ddyfodol camerâu diogelwch yn y DU gyda Heddlu Thames
Valley a Chyngor Sir Swydd Rhydychen yn cytuno ar drefniant newydd lle mae camerâu ar ffyrdd
y sir yn gweithio eto, dri mis yn unig ar ôl iddynt gael eu diffodd.
Rydym hefyd yn croesawu canfyddiadau adroddiad newydd gan yr Athro Richard Allsop o Goleg
Prifysgol Llundain ar ran Sefydliad RAC, sy’n honni y gallai 800 neu fwy o bobl gael eu lladd neu
eu hanafu’n ddifrifol bob blwyddyn ar ffyrdd Prydain petai’r holl gamerâu cyflymder sefydlog a
theithiol yn cael eu digomisiynu. Rydym bob amser wedi dweud nid ar chwarae bach y dylid torri
neu atal gorfodi, ac mae’r astudiaeth hon yn amlygu manteision diogelwch ffyrdd parhaus
camerâu a’r canlyniadau posib os cânt eu gwaredu.
Roedd hi’n galonogol gweld cynifer o’n partneriaid a’n cefnogwyr yn y lansiad diweddar o’n
Hymgyrch Deadly Mates o’r DVLA a DSA. Ymunodd y fam, Angela Smith, â ni i siarad am golli ei
mab Kyle, pan oedd yn deithiwr yng nghar ei ffrind. Byddai Kyle wedi bod yn 21 oed erbyn hyn
ac roedd geiriau Angela’n taro deuddeg am yr hyn yw colli rhywun rydych yn ei garu, yn enwedig
plentyn. Rydym yn gobeithio bod pobl ifanc ar draws Cymru yn gwrando ar y neges a pheidio ag
ofni dweud wrth eu ffrindiau sy’n gyrru’n rhy gyflym neu’n esgeulus.
I gloi, Nadolig llawen a blwyddyn newydd ddiogel i chi a’ch teuluoedd.
Dyma gylchlythyr chwarterol Partneriaeth Lleihau
Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n rhoi’r newyddion
diweddaraf i chi am newyddion diogelwch ffyrdd yng
Nghymru.
Yn y rhifyn hwn........
l DVLA a DSA yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates
l Mynd i’r afael â chyflymder ym Mlaendulais
2Gan Bwyll www.ganbwyll.org
MYND I’R AFAEL Â CHYFLYMDER YM MLAENDULAIS
Rydym ar fin dechrau gorfodi cyflymder ar Rodfa Wembley, Onllwyn ar ôl i arolwg ganfod y ceir
cyflymder hyd at 78mya ar hyd y ffordd 30mya.
Yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion am oryrru, cynhaliwyd arolwg, gyda chyflymder o
43mya neu’n uwch yn cael ei gofnodi’n gyson - a nifer sylweddol yn gyrru dros ddwywaith y
cyfyngiad cyflymder.
Meddai Kate Hopkins, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yng ngorsaf heddlu Blaendulais,
“Mae hyn wedi bod yn bryder mawr i’r trigolion, nid yn unig mewn cyfarfodydd PACT ond mae
llawer wedi dod i siarad â mi pan wyf yn cerdded ar hyd y strydoedd. Mae hon yn ardal adeiledig
gyda cheir wedi parcio ar y ddwy ochr a chlwb lles prysur ar y ffordd. Mae llawer o ddamweiniau
bron wedi digwydd ac rydym am wneud rhywbeth cyn i ni gael damwain ddifrifol.”
Ychwanegodd Sarsiant Stuart Matthews, cydlynydd Heddlu De Cymru i Gan Bwyll – Partneriaeth
Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n gyfrifol am orfodi camerâu cyflymder a goleuadau traffig,
“Mae’n codi ofn arnaf nad yw gyrwyr yn cymryd sylw o’r cyfyngiadau cyflymder ac yn peryglu
bywydau, gyda’r arolwg yn canfod bod nifer mawr yn gyrru dros ddwywaith y cyfyngiad 30mya.
Bydd ein camerâu teithiol yn gorfodi’n rheolaidd ar y safle mewn ymgais i arafu’r bobl sy’n teithio
ar hyd Rhodfa Wembley.”
DVLA A DSA YN CEFNOGI’R YMGYRCH DEADLY MATES
Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda, gyrrwch yn ofalus y Nadolig hwn.
Mae’r DVLA a’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates ar ôl iddi
ddatgelu bod trwyddedau gyrru mwy nag 8,000 o yrwyr ifanc rhwng 17 a 24 wedi’u dirymu dan
reolau’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn ystod naw mis cyntaf 2010.
Mae 22 Canolfan Prawf Gyrru DSA Cymru’n cefnogi’r ymgyrch, gan ddosbarthu’r daflen ‘10
Ffordd i Golli’ch Trwydded’ gan Deadly Mates i gwsmeriaid ifanc ac yn gosod posteri ar eu
hysbysfyrddau. Mae’r DVLA hefyd yn cefnogi’r ymgyrch yn
ei chanolfannau yng Nghymru – Abertawe, Caerdydd a
Bangor.
Meddai Rosemary Thew, prif weithredwr DSA, “Rydym yn
gweithio’n galed iawn i helpu pobl ifanc fod yn yrwyr diogel
a chyfrifol. Os ydych yn cyrraedd chwe phwynt cosb neu
fwy yn ystod y ddwy flynedd ar ôl i chi lwyddo yn y prawf,
byddwch yn colli’ch trwydded ac yn gorfod sefyll y profion
theori ac ymarferol eto. Mae DSA yn cefnogi ymgyrch
Deadly Mates, oherwydd mae’n helpu ffrindiau gyrwyr
newydd i ddeall eu rôl i gadw ein ffyrdd yn ddiogel.”
Ychwanegodd prif weithredwr y DVLA, Simon Tse, “Ffyrdd Prydain yw’r rhai mwyaf diogel yn y
byd, ond ni allwn fod yn hunanfodlon. Dyna pam y mae’r DVLA yn cefnogi ymgyrch Deadly
Mates: ffrindiau gyrwyr sydd newydd gymhwyso yw’r rhai yn y sefyllfa orau i annog gyrru da a
herio ymddygiad gwael.”
Julie Palmer DVLA, Angela Smith, Jim Moore Gan Bwyll, Garry Monk
Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, PGC Nick Croft Heddlu De Cymru