Ffurflen y Gronfa i Gymru

6
Cefnogi Cymunedau Cymreig Rhif Elusen Gofrestredig 1074655 Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant 3670680 www.cronfaigymru.org.uk +44 (O)292O 536 59O [email protected] Cronfa yn deilio o’r Fund-for-WalesCronfa-i-Gymru @FundforWales

description

A Welsh language leaflet about the Fund for Wales

Transcript of Ffurflen y Gronfa i Gymru

Page 1: Ffurflen y Gronfa i Gymru

Cefnogi Cymunedau Cymreig

Rhif Elusen Gofrestredig 1074655 Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant 3670680

www.cronfaigymru.org.uk

+44 (O )292O 536 [email protected]

Cronfa yn deilio o’r

Fund-for-WalesCronfa-i-Gymru@FundforWales

Page 2: Ffurflen y Gronfa i Gymru

Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaethMae’r Gronfa i Gymru yn gwneud gwahaniaeth nawr ac yn y dyfodol, trwy annog pobl i roddi er mwyn ariannu prosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae’n Gronfa waddol genedlaethol, unigryw, sy’n rhoddi grantiau i grwpiau cymunedol y mae eu gwaith gwerthfawr yn disgyn oddi ar radar rhoddwyr ac arianwyr yn aml. Trwy gysylltu’r bobl sy’n poeni gyda’r achosion sydd o bwys, mae’r Gronfa’n meithrin cymuned fywiog o roddwyr y mae eu rhoddion - o bob maint ac o bob cwr o’r Byd - yn meithrin diwylliant, treftadaeth ac amgylchedd Cymreig ac mae’n gwella bywydau pobl ar hyd a lled Cymru.

Mae’r Gronfa i Gymru yn un o ymgyrchoedd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac mae’n ysbrydoli pobl sy’n caru Cymru i roddi’n effeithiol i Gymru. Mae eich rhodd elusennol, bach neu fawr, yn mynd i’r achosion sydd o bwys i chi.

Rhowch nawr a bydd eich rhodd yn cael ei dybluDiolch i’r Cronfa Loteri Fawr, bydd y £1 miliwn nesaf a fydd yn cael ei roddi i’r Gronfa i Gymru’n cael ei gyfateb, gan wneud i’ch arian chi i fynd yn bellach.

Mae’r Gronfa i Gymru’n addas ar eich cyfer chi os...

• Ydych chi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru

• Yw eich clwb, cymdeithas neu grŵp eisiau codi arian ar gyfer ymgyrch genedlaethol unigryw

• Ydych chi eisiau gweld eich rhodd elusennol yn cynorthwyo prosiectau cymunedol sylfaenol ar hyd a lled Cymru

• Ydych chi eisiau rhoi rhodd sy’n rhoddi o hyd

• Ydych chi’n caru Cymru!

Mae’r Gronfa i Gymru yn gwneud gwahaniaeth trwy...

• Alluogi pobl ifanc a hybu addysg, menter a dysgu gydol oes

• Meithrin cydlyniant a hyder mewn cymunedau

• Gwella iechyd meddwl a chorfforol

• Meithrin treftadaeth a diwylliant• Diogelu ein hamgylchedd

Trwy roddi grantiau i brosiectau a arweinir gan wirfoddolwyr

Page 3: Ffurflen y Gronfa i Gymru

Mae meithrin uchelgeisiau, talentau a chydnerthedd ymhlith pobl ifanc yn ganolog i waith Ieuenctid Merthyr

Mae’r clwb ysbrydoledig hwn yn gweithio’n galed i wyrdroi delweddau a disgwyliadau negyddol ac mae ganddo dros 120 o aelodau, rhwng 9 a 22 oed.

Mae gweithgareddau megis: perfformio dramâu; trefnu digwyddiadau; helpu plant iau ac ymweld â lleoedd newydd yn rhoi cyfleoedd newydd i’r aelodau i ddysgu a rhannu.

Talodd y grant y gwnaethant ei dderbyn oddi wrth y Gronfa i Gymru

am ddau weithgaredd, a ddyluniwyd i ysbrydoli a chyfoethogi aelodau’r clwb ieuenctid: penwythnos meithrin tîm ar y Gŵyr (a oedd yn cynnwys gêm o griced ar y traeth sy’n draddodiad erbyn hyn!) a gwibdaith ddrama i Lundain. Mae llawer o bobl ifanc a’u teuluoedd ddim yn gallu fforddio teithio y tu allan i’w cymdogaethau neu elwa o sialensiau newydd, sydd yn rhan mor bwysig o’u dysgu a’u datblygiad. Os ydych chi’n angerddol am Gymru a’ch bod chi eisiau helpu i gael effaith ddofn a pharhaol ar ein cymunedau – yna gwnewch wahaniaeth heddiw

Cefnogi Cymunedau Cymreig

“Mae Ieuenctid Merthyr wedi rhoi llu o gyfleoedd newydd i fi. Rwy’n dwli ar y gweithdai drama a nawr rydw i eisiau mynd i’r coleg.”

Page 4: Ffurflen y Gronfa i Gymru

“Fel Americanes gyda gwreiddiau Cymreig, fe wnes i ddarganfod y Gronfa i Gymru wrth fynychu cwrs Cymraeg tra ar wyliau yng Ngogledd Cymru. Roedd fy nhad-cu’n gweithio mewn chwarel lechi yn Llanberis ac rwy’n falch o gael rhoi rhodd i’r Gronfa i Gymru i anrhydeddu fy nhreftadaeth Gymreig.”

Karen Burdette

Y Sefydliad Cymunedol yng NghymruMae’r Sefydliad yn elusen gofrestredig Gymreig, sy’n hybu a rheoli dyngarwch ac sy’n cysylltu’r bobl sy’n poeni gyda’r achosion sydd o bwys. Fe’i sefydlwyd ym 1999 ac mae’n rhoddi grantiau o dros £1.8 miliwn y flwyddyn i elusennau a grwpiau cymunedol ysbrydoledig ar ran ei roddwyr (unigolion a theuluoedd, busnesau ac ymddiriedolaethau). Mae 364 o elusennau a phrosiectau wedi elwa o’r grantiau yma, a chawsant eu cefnogi gan dros 5,100 o wirfoddolwyr, ac fe wnaethant helpu mwy na 36,000 o bobl. Sicrheir ansawdd y Sefydliad trwy raglen gadarn a ardystir gan y Comisiwn Elusennau.

Sesiwn cymorth i berson ifanc mewn cyfyngder

Llety dros dro i fam a phlentyn sy’n dianc rhag trais yn y cartref

Gŵyl gymunedol ar gyfer tref farchnad fach a chylchlythyr dwyieithog

Rhaglen blwyddyn gron ar gyfer clwb henoed wythnosol mewn ardal wledig

Cronfa i Crymru

BETH ALL EICH CYMORTH CHI GYFLAWNI

Your DonationMae eich rhodd yn mynd tuag at yr achosion sydd o bwys i chi, ac mae’n gwneud gwahaniaeth nawr ac am byth. Chi sy’n penderfynu pa thema yr ydych yn dymuno’i chefnogi, a sut a faint rydych chi’n dymuno rhoddi. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth yng Nghymru!

Medrwch roi eich rhodd ar-lein, cwblhewch y ffurflen rhodd sy’n amgaeëdig, ymwelwch â’n gwefan i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch â Sian Stacey, Cydlynydd y Gronfa i Gymru, i drafod opsiynau eraill i roddi, er enghraifft: • Mae pawb sy’n rhoi yn ymuno a

chymuned y Gronfa i Gymru• Gadewch Eich Marc ar Gymru, trwy

gael eich rhodd wedi’i gynnwys ar ein Map o Gymru – rhoddion o dros £1,000 oddi wrth unigolion, grwpiau neu deuluoedd

• Ymunwch...• Fe’ch gwahoddir chi i ymuno â’r Cylch

Noddwyr, ar gyfer rhoddion o dros £10,000

• Medrwch gael eich Cronfa ag Enw eich hun i roddi grantiau blynyddol, yn unol â’ch dymuniad, ar gyfer rhoddion o £25,000 neu fwy

• Gadewch rodd yn eich ewyllys – etifeddiaeth i Gymru

Page 5: Ffurflen y Gronfa i Gymru
Page 6: Ffurflen y Gronfa i Gymru