Dylanwad technolegol ar weithgaredd busnes – 1...

138
TGAU Busnes 2 Dylanwadau ar Fusnes

Transcript of Dylanwad technolegol ar weithgaredd busnes – 1...

(TGAU Busnes Dylanwadau ar Fusnes)

TGAU Busnes 2

Dylanwadau ar Fusnes

Mynegai

Dylanwad technolegol ar weithgaredd busnes 1 Dylanwadau moesegol ar weithgarwch Busnes - 16 Dylanwad amgylcheddol ar weithgaredd busnes - 23 Dylanwadau economaidd ar weithgarwch busnes - 29 Dylanwad cyfreithiol ar weithgaredd busnes - 44 Effaith globaleiddio ar fusnesau - 65

Yr Undeb Ewropeaidd - 79

Dylanwadau ar Fusnes

Nid yw busnesau'n gweithio'n ynysig. Yn Adran 1 yr adnoddau hyn, rydym eisoes wedi gweld sut mae'r amgylchfyd busnes yn un deinamig a chystadleuol. Yn ogystal, mae yna ffactorau allanol sy'n dylanwadu ar weithgaredd busnes.

Gall rhai ffactorau allanol gael dylanwad cadarnhaol ar y busnes, tra bo effeithiau eraill yn

rhai negyddol.

Ni all busnes fyth rheoli'r ffactorau hyn, ond mae'n bwysig ei fod yn eu hystyried yn ei strategaeth gynllunio a busnes. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys:

Technolegol

Moesegol

Amgylcheddol

Economaidd

Cyfreithiol

Globaleiddio

Dylanwad technolegol ar weithgaredd busnes

Defnyddir technoleg gan fusnesau yn unig. Waeth beth fo'r gweithgaredd busnes, mae rhyw fath o dechnoleg yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn gallu cynnwys cysylltu chwsmeriaid gan ddefnyddio ffonau clyfar, defnyddio EPOS (pwynt gwerthu electronig) wrth werthu neu ddefnyddio roboteg wrth gynhyrchu.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae cyflymder a datblygiad technoleg wedi bod yn aruthrol ac mae lefelau cynyddol o awtomeiddio (gwneud i beiriant weithio heb fewnbwn gan fodau dynol) a defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) wedi cael dylanwad sylweddol ar bob gweithle a'r modd y maen nhw'n gweithredu.

Mae rhai busnesau wedi cofleidio'r technolegau newydd hyn i'r eithaf, tra bo eraill yn llai brwdfrydig. Dros y degawd diwethaf, mae dealltwriaeth perchenogion a rheolwyr busnes o effaith bosibl roboteg ac awtomeiddio, ynghyd 'u gallu i gyfathrebu'n rhad ag unrhyw le yn y byd, yn golygu bod yn rhaid i fusnesau mewn marchnadoedd cystadleuol dderbyn y bydd angen i'r technolegau newydd hyn ddod yn rhan annatod o'u gweithrediadau, os ydyn nhw am barhau i fod yn gystadleuol.

Y defnydd o becynnau cyfrifiadurol yn y gweithle

Y mae ystod o becynnau cyfrifiadurol ar gael i fusnesau sy'n eu galluogi i ymgymryd ag ystod o dasgau. Gall defnyddio'r pecynnau hyn wella effeithiolrwydd y busnes, lleihau costau yn y tymor hir a gwella ansawdd y gwaith.

(TGAU Busnes Dylanwadau ar Fusnes)

(1)

Mae pecynnau cyfrifiadurol yn cynnwys:

Prosesu geiriau - yn cael ei ddefnyddio i greu dogfennau sy'n gallu cael eu cadw a'u golygu. Mae busnesau angen ystod o ddogfennau ar gyfer defnydd mewnol ac allanol, ac mae'r defnydd o feddalwedd prosesu geiriau wedi gwella cyflwyniad y dogfennau hyn yn sylweddol. Gellir cadw templedi ar gyfer dogfennau a ddefnyddir yn aml a chadw hen ddogfennau a'u golygu er mwyn creu fersiynau wedi'u diweddaru.

Cronfeydd data - yn cael eu defnyddio i gadw gwybodaeth. Mae busnesau angen cadw storfa eang o wybodaeth, a chyn i ni gael cronfeydd data electronig, roedd y wybodaeth yn cael ei gadw ar bapur a oedd yn hawdd ei golli neu'n cymryd llawer o amser i ddod

o hyd iddo. Mae'n bosib i ddefnyddwyr chwilio a chael hyd i wybodaeth y maen nhw ei angen yn gyflym ac yn gywir mewn cronfeydd data. Gall busnes ddefnyddio cronfeydd data i gadw gwybodaeth am stoc, cwsmeriaid, cyflenwyr, gweithwyr, cydrannau ac ati. Mae defnyddio postgyfuno (mail-merge) yn galluogi cronfeydd data i fod yn gysylltiedig dogfennau a gynhyrchwyd trwy brosesu geiriau fel ei bod yn bosibl i anfon llythyrau safonol i gannoedd os nad miloedd o gwsmeriaid gydag ambell glic ar y llygoden.

Taenlenni - defnyddir i gadw cofnodion cyfrifon (ariannol) ac i gyfrifo. Mae'r data meintiol a ddefnyddir mewn gweithgareddau busnes yn enfawr; rhaid cofnodi'r data a'i ddefnyddio i gynhyrchu cofnodion ariannol a stoc i'r busnes. Mae taenlen yn cyflwyno data mewn fformat adeiladol sy'n caniatu dehongliad rhwydd o'r wybodaeth. Hefyd, mae taenlenni'n defnyddio fformiwlu sy'n caniatu cyfrifo effeithiol o ddata. Hefyd, gellir cyflwyno'r data ar ffurf graffiau a siartiau. Defnyddir taenlenni i gynhyrchu rhagolygon llif arian a datganiadau incwm ac mae defnydd o fformiwlu yn caniatu modelu (beth sy'n digwydd pan mae gwerth yn cael ei newid i ragweld digwyddiadau'r dyfodol). Yn ychwanegol at daenlenni safonol, mae yna amrywiaeth o becynnau cyfrifyddiaeth ar gael i fusnesau ar gyfer cynhyrchu'r cofnodion ariannol y maen nhw eu hangen.

Fideo-gynadledda - caiff ei ddefnyddio gan bobl sydd ar wasgar i gysylltu 'i gilydd. Cyswllt byw, clyweledol yw hyn sy'n ei gwneud yn bosibl i gynnal cyfarfodydd rhwng lleoliadau yn unrhyw ran o'r byd. Gellir defnyddio fideo-gynadledda i gynnal cyfarfodydd gyda gweithwyr mewn gwahanol ardaloedd neu wrth gysylltu chwsmeriaid. Gall arbed amser (nid oes angen teithio ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb) a chostau (costau teithio). Mae'n fwy effeithiol na galwad ffn gan fod cyfranwyr yn gallu gweld ei gilydd

ac mae trafodaeth grp yn bosibl. Ar gyfer fideogynadledda, mae angen cyfrifiaduron, gwe-gam (webcam), meicroffon, seinyddion, cyswllt 'r rhyngrwyd a meddalwedd fideogynadledda.

Meddalwedd cyflwyniadau - maen nhw'n cael eu defnyddio ar gyfer creu cyflwyniadau. Mae'r meddalwedd yn ei gwneud yn bosibl i'r defnyddiwr greu cyflwyniadau proffesiynol ac aml-gyfryngol (testun, lluniau, fideo a sain), yn aml trwy gyfres o sleidiau. Gellir defnyddio'r rhain i gyflwyno cynhyrchion newydd i gwsmeriaid neu mewn cyflwyniadau mewnol rhwng gwahanol weithwyr mewn busnes (er enghraifft, rheolwr marchnata

yn cyflwyno manylion am ymgyrch farchnata neu hyrwyddo). Yn oes y rhyngrwyd (caiff cyflwyniadau eu llwytho i wefannau yn aml), mae'r defnydd o feddalwedd cyflwyno'n ddi-ben-draw ac mae'n erfyn effeithiol wrth roi gwybodaeth i ddarpar gwsmeriaid a rhan-ddeiliaid eraill sy'n gysylltiedig busnes.

Pecynnau graffeg cyfrifiadurol - maen nhw'n cael eu defnyddio i greu dogfennau graffig fel hysbysebion, deunydd hyrwyddo, logos a gwaith celf. Wrth farchnata busnes, neu ei gynhyrchion a'i wasanaethau, mae pecynnau graffeg cyfrifiadurol yn ei gwneud

yn bosibl i fusnes greu ei ddeunydd hyrwyddo ei hun, o safon uchel, i ddenu cwsmeriaid. Gall hyn olygu busnesau bychain yn creu taflenni neu gardiau busnes (meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith), neu fusnesau mawrion yn creu ystod o ddeunydd a all gynnwys taflenni gwybodaeth, catalogau a chylchgronau.

Dylunio gwefannau - maen nhw'n cael eu defnyddio i greu a chynnal gwefannau. Mae'r rhyngrwyd o bwysigrwydd creiddiol i'r amgylchfyd busnes ar hyn o bryd. Beth bynnag fo'u maint, mae mwyafrif o fusnesau heddiw rhyw fath o blatfform ar y rhyngrwyd,

o wefan syml sy'n cynnig gwybodaeth i wefan gyfan gwbl ryngweithiol sy'n galluogi

e-fasnach a rhyngweithio parod phersonl cefnogi ar-lein. Erbyn hyn, mae yna lawer o becynnau meddalwedd ar gael i'w prynu sy'n gallu cyfrannu at adeiladu gwefan. Hefyd, mae llawer o fusnesau mawrion thm o weithwyr sydd wedi'i neilltuo i adeiladu, gwella a chynnal eu gwefannau.

(Defnyddiwch ystod o feddalwedd cyfrifiadurol i gwblhau'r tasgau canlynol:Cynhyrchwch daflen i hyrwyddo syniad busnes newydd.Lluniwch gyflwyniad byr ar gyfer cynnig eich syniad i ddarpar fuddsoddwyr yn eichbusnes.Defnyddiwch y data isod a'r fformiwlu mewn taenlen i gyfrifo'r data refeniw gwerthiant canlynol:Ionawr1 000Chwefror1 500Mawrth1 750Ebrill2 200Mai2 500Mehefin2 500Cyfanswm Refeniw gwerthiant am y 6 mis.Ychwanegwch golofn i greu ffigur refeniw gwerthiant ar gyfer pob mis gyda chynnydd o10%.Ychwanegwch golofn i gyfrifo'r elw misol os yw costau yn gyfanswm o 60% o'r refeniw gwerthiant.Crwch gyfansymiau 6 misol ar gyfer y colofnau ychwanegol.Cynhyrchwch graff i ddangos y refeniw gwerthiant misol.)

Mae'r cynnydd parhaus yn natblygiad technolegol cyfrifiaduron yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o feddalwedd ar gael ar gyfer defnydd busnes. Mae meddalwedd rheoli stoc flaengar eisoes yn cael ei ddefnyddio ac mae pecynnau i fonitro perfformiad staff yn cael eu defnyddio gan rai busnesau. Mae gan dechnoleg gyfrifiadurol rl bwysig a chynyddol. Mae'r agweddau canlynol wedi gweld twf cyflym dros y blynyddoedd diwethaf.

Marchnata ar y rhyngrwyd - mae gwerthiant ar y rhyngrwyd yn cynyddu bob blwyddyn. Mae llawer o fusnesau'n defnyddio'r rhyngrwyd i farchnata eu cynhyrchion yn hytrach na chyfryngau hysbysebu traddodiadol.

Perthnasau cwsmer yn seiliedig ar y We - mae gan rai busnesau berthynas 'r cwsmer sy'n seiliedig yn llwyr ar y we,er enghraifft, mae llawer o bobl yn bancio ar-lein erbyn hyn.

Systemau pwynt gwerthu electronig (EPOS) - mae hyn wedi datblygu ymhellach na dim ond darllen codau bar wrth y ddesg talu. Mae systemau nawr yn defnyddio EPOS i reoli stoc, archebu awtomatig gan gyflenwyr, penderfynu ar beth i'w hyrwyddo, gwerthu gofod ac anghenion staff.

Mae cynhyrchwyr yn gallu defnyddio EPOS i leihau'r stoc sy'n cael ei gadw er mwyn

sicrhau mai dim ond anfon deunyddiau pan mae eu hangen mae cyflenwyr.

Cael hyd i ffynonellau deunyddiau ar gyfer busnes - pan mae busnes yn archebu stoc neu ddeunyddiau gan fusnes arall. I lawer o fusnesau, gellir gwneud hyn yn gyfan gwbl ar y rhyngrwyd trwy'r defnydd o byrth busnes (business portals); mae hyn arwain at gostau is a pherthynas gwell rhwng y busnesau.

(Eglurwch sut y mae technoleg gyfrifiadurol yn dylanwadu ar weithgarwch busnes.Disgrifiwch sut y mae archfarchnadoeddyn defnyddio technoleg cyfrifiaduron.3.Ymchwiliwch i ganfod pa feddalwedd syddar gael i fusnesau bychain sy'n dymuno prynu:Pecyn cyfrifiadurol cyfrifyddiaeth Meddalwedd cyflwyno Meddalwedd cynllunio gwefannauBeth ydy pris y pecynnau hyn?Trafodwch a ydy hi'n werth gwario'r arian ar y pecynnau hyn.)

Awtomeiddio

Mae awtomeiddio yn golygu'r defnydd o robotiaid i ymgymryd thasgau ailadroddus yn y diwydiant cynhyrchu. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awtomeiddio wedi lledaenu i ddiwydiannau eraill ac erbyn hyn mae'n gyffredin ar hyd y gadwyn cyflenwi. Er enghraifft, ym maes amaethyddiaeth, mae'r broses o wirio ansawdd cynnyrch yn cael ei chynnal gan beiriannau sy'n tynnu ffotograffau digidol o lysiau, peiriannau sydd hefyd yn eu glanhau, eu didoli ac, yn olaf, eu pecynnu a'u labelu i gyd-fynd ag anghenion cwsmeriaid.

Y prif faes busnes ble mae awtomeiddio wedi cael effaith enfawr yw gweithgynhyrchu/ cynhyrchu nwyddau. Mae'r diwydiant ceir yn buddsoddi'n drwm mewn awtomeiddio a roboteg, ac ychydig iawn o geir sy'n cael eu gwneud heddiw nad ydyn nhw wedi bod drwy broses sydd wedi'i hawtomeiddio.

Mae'n debyg y bydd mwy a mwy o awtomeiddio yn y meysydd canlynol:

Adwerthwyr i adwerthwyr, mae awtomeiddio wedi dod yn un o'r prif ffactorau o ran effeithlonrwydd busnes. Boed hynny'n archebu wedi'i awtomeiddio neu'n rhagor o ddesgiau talu hunanwasanaeth.

Banciau mae clercod banc yn diflannu ac yn cael eu disodli gan beiriannau. Yno i'ch helpu i ddefnyddio'r peiriannau ac i werthu

cynhyrchion newydd i chi yn aml y mae'r

staff a welwch yn y banc.

Warysau mae swyddogaethau staff

yn cael eu disodli gan robotau sy'n gallu gwneud mwy a mwy o dasgau. Hyd yn hyn, ni all robotau dynnu pob math o nwyddau oddi ar silffoedd, ond maen nhw'n gallu cludo a phacio nwyddau.

Gwasanaethau ar-lein bydd systemau

cyfan yn cael eu hawtomeiddio. Bydd dadansoddiadau mathemategol yn pennu pa gynhyrchion a fydd yn cael eu marchnata, lle byddan nhw'n cael eu rhoi, a pha brisiau a fydd yn cael eu codi.

Gwasanaethau (nwy a thrydan) bydd mesuryddion clyfar yn disodli'r angen i berson ddarllen mesuryddion; mae'n bosibl y bydd newid i'r darparwr rhatach yn mynd yn broses awtomatig.

Trosglwyddo cynhyrchion - mae busnesau'n ystyried defnyddio dronau i drosglwyddo eitemau sy'n cael eu harchebu ar-lein.

Darllenwch y darn canlynol ac atebwch y cwestiynau syn dilyn:

Sut y gall awtomatiaeth ddod budd i amaethyddiaeth

Mae awtomeiddio deallus yn golygu y gall un neu ddau o bobl yn unig fwydo, godro a gofalu

am fuches (dairy herd).

Mae Robert Veitch yn berchen ar fferm laeth ger Glasgow sy'n defnyddio un o'r systemau godro robotaidd mwyaf datblygedig yn y byd. Mae'n gyfleuster chost o 1.8 miliwn gyda 10 o beiriannau'n gofalu am 250 o wartheg. Mae'r gwartheg yn cael eu cadw mewn sied sydd tho uchel ac sy'n agored ar yr ochrau i adael awyr iach a golau dydd i mewn.

Yn hytrach na defnyddio rhawiau a thractorau, mae crafanc ddur yn gollwng bwyd, yn rhedeg ar drac ac yn ei drosglwyddo i robot sy'n bwydo'r gwartheg. Mae'r peiriant mawr silindrig yn symud yn annibynnol ar olwynion yn powlio o gwmpas y sied ac yn gadael y bwyd mewn rhesi hir. Mae'r gwartheg yn bwyta yn l eu hangen ac mae'r peiriant hyd yn oed yn eu helpu drwy wthio'r bwyd o dan eu trwynau; felly, does dim llawer o wastraff.

Nid oes amser ar gyfer godro. Pan mae'r gwartheg eisiau eu godro, maen nhw'n ciwio o flaen y parlwr godro. Fesul un, maen nhw'n mynd trwy git. Maen nhw'n camu ar blt metel

ac mae hwnnw'n gweithredu'r peiriant mwyaf deallus o'r cyfan. Mae ugain mlynedd o ymchwil y tu l i ddatblygu'r fraich robotaidd sy'n dysgu am bob buwch unigol.

Yn ogystal rhoi cwpanau ar ei thethi a'i godro, mae'n ei mapio drwy laser ac yn diweddaru'r data cymhleth sydd eisoes yn bodoli. Mae'n gwybod beth ydy ei phwysau, ei thymheredd a faint o laeth y mae hi wedi'i gynhyrchu. Ond hefyd, faint y mae hi wedi'i fwyta a hyd yn oed faint y mae hi wedi symud o gwmpas.

Mae'r llaethdy'n defnyddio robotiaid a reolir gan Wi-fi sy'n gweithio ochr yn ochr phobl. Ond, nid ydy'r gwartheg yn y caeau yn bwyta gwair. Maen nhw'n cael eu cadw yn y sied. Ffermio dwys ydy hyn gydag un nod - i gynhyrchu cymaint o laeth ag sy'n bosibl.

Mae Mr Veitch yn dweud fod hyn yn gweithio. Mae o'n credu bod y gwartheg yn cael eu cadw mor gyfforddus fel " Na fyddan nhw eisiau mynd allan hyd yn oed ar ddiwrnod da." Mae o'n dweud fod cynnydd yn y cynnyrch o ganlyniad: "Mae gwartheg yn ymateb i fod yn gyfforddus. Mae wedi cynyddu o 28 litr i 36 litr y dydd heb gynnydd arwyddocaol mewn costau bwydo.

Mae rhyddid i gael eu godro pan maen nhw'n dymuno hynny - gallan nhw gael eu godro tair neu bedair gwaith y dydd. Fel arfer, mae llo yn cymryd llaeth gan y fuwch sawl gwaith mewn diwrnod, felly, mae hyn yn fwy naturiol na system sy'n godro ddwywaith y dydd."

Mae yna hyd yn oed robot sydd yr un faint chi mawr yn symud o gwmpas carnau'r gwartheg i glirio'r llanast. Mae hyn oll yn arbed chwech neu saith awr o gostau llafur yn ddyddiol. Ond, pobl a oedd yn arfer gwneud y gwaith yma. Beth ydy'r effaith? Mae Dr Paul Brassley yn astudio newidiadau technegol mewn amaethyddiaeth. Mae o'n dweud bod y nifer sy'n gweithio ar ffermydd wedi haneru mewn chwedeg mlynedd.

Y newid mawr ydy'r nifer o weithwyr llawn amser: o 700 000 yn 1951 i tua 63 000 yn 2013.

Mae hyn tua un rhan o ddeg yr hyn a oedd.

Yn l Mr Veitch: "Mae wedi galluogi fy nheulu i gynnal y fuches heb orfod godro ddwywaith y dydd. Mae'n llawer mwy hyblyg. Mae'n ein galluogi i ganolbwyntio ar reolaeth y fuches, yn hytrach nag ar ei odro."

Mae llawer o ffermwyr a llunwyr polisi yn awr o'r farn bod peiriannau clyfar yn fwy cywir, effeithiol ac, yn y pen draw, yn rhatach na phobl: mai trwyddyn nhw yw'r unig ffordd i fwydo poblogaeth sydd ar gynnydd.

Ffynhonnell a addaswyd: http://www.bbc.co.uk/news/science-environment-34271384

1. Crynhowch sut y mae Robert Veitch a'i fusnes yn defnyddio awtomeiddio.

2. Beth ydy manteision defnyddio awtomeiddio i Robert Veitch a'i ran-ddeiliaid?

3. Beth ydy effeithiau negyddol defnyddio awtomeiddio mewn ffermio llaeth?

Dylunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD)

Mae dylunio drwy gymorth cyfrifiadur yn broses lle dangosir dyluniadau yn ddigidol, yn aml mewn 3D ac mae modd eu gweld o bob ongl. Mae CAD yn galluogi tm dylunio i olygu a phrofi ei ddyluniad ar gyfrifiadur am gost isel ac

yn gallu cywiro unrhyw broblemau cyn iddyn nhw godi yn ystod y broses gynhyrchu. Maen hawdd gwneud addasiadau neu newidiadau, heb orfod dechrau o'r dechrau. Mae CAD hefyd yn caniatu amrywio themu dylunio di-ben-draw, gan roi cyfle i bob posibilrwydd gael ei brofi. Gellir defnyddio CAD hefyd i amcangyfrifo cost cynhyrchu'r cynnyrch terfynol.

Mae'r system wedi lleihau'r cyfnod cychwynnol ar

gyfer cynhyrchion hynny yw, yr amser rhwng y cysyniad dylunio cychwynnol a'r cynhyrchu ei

hun. Y byrraf yw'r cyfnod cychwynnol, y mwyaf cystadleuol mae'r busnes yn parhau i fod.

Unwaith y bydd y dylunydd yn llwyr fodlon 'r dyluniad y mae wedi'i gynhyrchu, gellir bwydo'r

cynlluniau i gyfrifiadur er mwyn rhoi'r broses gynhyrchu ar waith.

Gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur (CAM)

Proses ydy gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur lle mae dyluniadau'n cael eu bwydo i system gyfrifiadurol ac yna, mae'r cyfrifiadur

yn rheoli cynhyrchu'r eitem trwy awtomeiddio a roboteg. Mae'r defnydd o CAM yn eang a chaiff ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, ond yn bennaf wrth reoli peiriannau er enghraifft, weldwyr robotig mewn cynhyrchu ceir. Mae'r peiriannau hyn yn cynhyrchu gwaith weldio o'r un safon yn barhaus.

Mae defnyddio CAM yn gallu hwyluso hyblygrwydd y cynhyrchu. Er enghraifft, mae ail-raglennun eithaf syml, ond gall ailhyfforddi weldiwr fod yn fwy

cymhleth ac yn llawer drutach. Gall CAM dorri costau hyd yn oed mewn busnesau bach. Mae teilwriaid a gwniedyddion (dressmaker) yn defnyddio peiriannau CAM i dorri defnydd yn y ffordd fwyaf economaidd, gan sicrhau bod gwastraff yn cael ei leihau.

Mae offer CAM yn gallu bod yn ddrud, ac yn y gorffennol, fe'i defnyddiwyd yn bennaf gan fusnesau mawrion. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae cost y peiriannau hyn wedi lleihau ac mae mwy a mwy o fusnesau bychain a chanolig eu maint yn defnyddio CAM yn eu prosesau cynhyrchu. Fodd bynnag, mae'n gallu bod yn ddrud i'w gynnal a'i gadw, nid yw cydrannau amnewid (replacement parts) yn rhad! Anfantais arall ydy bod technoleg yn torri o bryd i'w gilydd ac mae hyn yn gallu atal yr holl broses o gynhyrchu a all arwain at fethu chyflenwi mewn pryd i gwsmeriaid.

Mae manteision defnyddio CAM wrth gymharu pheiriannau llaw yn cynnwys:

Cwblhau'r cynhyrchu'n gyflymach

Mwy o fanwl gywirdeb

Gwell cysondeb o ran y cynnyrch terfynol

Cynnyrch gwell ansawdd

Gwell effeithlonrwydd gan nad yw peiriannau angen egwyl

Mae camgymeriadau dynol yn cael eu lleihau.

(Esboniwch beth yw ystyr awtomeiddio. Rhowch enghreifftiau i egluro eich ateb.Beth ywr gwahaniaeth rhwng CAD a CAM?Mae Oliver Kendall Cyf. yn bwriadu cynhyrchu l-gerbydau o safon uchel gan ddefnyddio system gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur (CAM). Rhowch amlinelliad o un fantais ac un anfantais i Oliver Kendall Cyf. ddefnyddio system gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur (CAM).Eglurwch sut y mae awtomeiddio a'r defnydd o CAD a CAM wedi bod o fudd i gwsmeriaid.)

E-fasnach ac m-fasnach

Mae datblygiad a defnydd eang o'r rhyngrwyd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf wedi cael

effaith sylweddol ar sut y mae busnes yn gwerthu ei gynnyrch a'i wasanaethau.

Mae siopa ar-lein, a gyfeirir ato fel e-fasnach ac e-werthu, yn ffurf o fasnach electronig sy'n galluogi defnyddwyr i brynu nwyddau neu wasanaethau'n uniongyrchol gan y gwerthwr ar y rhyngrwyd. Mae'r rhyngrwyd wedi newid arferion prynu ac mae e-fasnach erbyn hyn yn rhan bwysig o'r diwydiant gwerthu ac yn parhau i dyfu. Yn fwy diweddar, mae yna gynnydd mewn prynu a gwerthu trwy ddefnyddio dyfeisiadau llaw: cyfeirir at hyn fel m-fasnach.

E-fasnachM-fasnach

Mae gwerthu ar-lein yn galluogi cwsmeriaid i brynu cynnych heb orfod ymweld siop. Bydd datblygiad parhaus technoleg newydd yn arwain at ddatblygu mathau newydd o werthu

ar-lein.

Mae enghreifftiau o werthu ar-lein yn cynnwys:

Gwefan y gwerthwr

Marchnad trydydd parti, megis Amazon, eBay, Etsy.

Cyfryngau cymdeithasol, megis Facebook, Twitter a Pinterest.

Mae'r rhyngrwyd a'r defnydd o beiriannau chwilio wedi ei gwneud yn llawer haws i gyrraedd cwsmeriaid nag yn y gorffennol. Y cyfan y mae busnes ei angen i werthu ei gynnyrch ydy gwefan dda, rhyw fath o broses talu a meddalwedd 'siop'. Gellir rhoi hyn oll at ei gilydd am o dan 500. Yn wir, y mae miloedd o entrepreneuriaid yn rhedeg eu busnesau trwy wefannau ocsiwn fel eBay a hynny heb orfod talu costau sefydlog o gwbl. Mae bodolaeth y busnesau

(8)

hyn yn golygu cystadleuaeth ychwanegol i fusnesau traddodiadol - a hefyd, gostyngiad mewn

prisiau i gwsmeriaid.

Mae'r gallu i gymharu prisiau wedi dod yn llawer haws i gwsmeriaid. Wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd, gall unigolion ymgymryd 'u hymchwil eu hunain neu ddefnyddio safleoedd cymharu fel MoneySuperMarket i gael hyd i'r fargen orau o ran ystod enfawr o gynnyrch. Mae'r mynediad hwn i wybodaeth am brisio wedi cael dylanwad o ran y prisiau y mae busnesau yn eu codi. Mae economegwyr wedi bod yn dadlau bod y cynnydd mewn siopa ar- lein wedi cael dylanwad uniongyrchol o ran gostwng cyfraddau chwyddiant.

M- fasnach ydy prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau trwy ddyfeisiadau llaw, di-wifr megis ffonau symudol a thabledi. Mae hyn yn golygu ' bod eich allfa adwerthu (retail outlet) ym mhoced eich prynwr'. Trwy dechnoleg symudol, mae hi nawr yn bosibl i gyrraedd cwsmeriaid 24 awr y dydd. Nid yw m-fasnach yn golygu prynu yn unig: Mae'n ymwneud chynnig gwybodaeth am gynnyrch i gwsmeriaid ynghyd ag ymgyrchoedd i'w hyrwyddo nhw. Mae cwsmeriaid yn defnyddio m-fasnach i gymharu prisiau ar-lein, tynnu lluniau ac ymchwilio i'r hyn y maen nhw'n ystyried ei brynu ar-lein.

Term masnachu ydy clics a brics (clicks and bricks) sy'n golygu bod busnesau angen presenoldeb ar y rhyngrwyd (clics) a hefyd ar y stryd fawr neu mewn canolfannau siopa (brics). Mae PC World, Argos a Tesco yn enghreifftiau o fusnesau sy'n defnyddio hyn i ddosbarthu eu cynnyrch. Mae pob un o'r busnesau hyn wedi bod yn llwyddiannus dros ben wrth ddefnyddio presenoldeb ar y rhyngrwyd i gynyddu gwerthiant a theyrngarwch (loyalty) cwsmeriaid.

Darllenwch y darn canlynol ac atebwch y cwestiynau syn dilyn:

Bron i 6 000 o siopwyr yn cael eu targedu gan hacwyr

Mae ymchwil yn awgrymu bod bron i 6 000 o wefannau, heb yn wybod, yn cadw cod maleisus sy'n dwyn manylion cardiau credyd cwsmeriaid. Yn l Willem De Groot, datblygwr o'r Iseldiroedd, mae'r cod wedi'i osod yn y safleoedd gan seiberladron (cyber thieves).

Dywedodd Mr De Groot bod yr ymosodiadau wedi manteisio ar wendidau mewn llawer o raglenni gwerthu ar-lein a ddefnyddir yn eang. Mae Mr De Groot yn gyd-sylfaenydd a phennaeth diogelwch y safle e-fasnach Iseldiraidd byte.nl

Ar l sicrhau mynediad, gosododd yr ymosodwyr ddarn byr o god a oedd yn gallu copo cardiau credyd a gwybodaeth talu eraill. Dywedodd bod y data gafodd ei ddwyn wedi bod ar werth ar safleoedd marchnadoedd tywyll y we ar raddfa o tua $30 (25) y cerdyn. Cafodd ei ymchwil hyd i naw math gwahanol o godau copo ar safleoedd, a oedd yn awgrymu bod sawl grp troseddu wedi bod wrthi.

Dywedodd Mr De Groot ei fod wedi bod yn archwilio copo data ers i'w gerdyn o ei hun gael ei ddwyn. Roedd y bobl gafodd eu heffeithio yn cynnwys gwneuthurwyr ceir, cwmnau ffasiwn, safleoedd llywodraeth ac amgueddfeydd.

Daeth y cod a ddefnyddiwyd i ddwyn data yn fwy soffistigedig ac erbyn hyn mae'n gwneud

ymdrech i guddio ei hun a mynd i'r afael mwy o systemau talu.

Ysgrifennodd Mr De Groot, "Gellir rhwystro achosion newydd yn syth pe byddai perchenogion lleoliadau gwerthu yn diweddaru eu meddalwedd yn rheolaidd." "Ond mae hyn yn ddrud a dyw'r mwyafrif y masnachwyr yn mynd i drafferthu." Dywedodd Mr

(De Groot bod rhai lleoliadau wedi cymryd camau i gael gwared 'r cod copo a gwella eu diogelwch ar l iddo gyhoeddi rhestr o safleoedd a oedd mewn perygl.Dywedodd wrth y BBC, " Byddwn yn argymell i ddefnyddwyr roi eu manylion ar safleoedd darparwyr talu cydnabyddedig yn unig megis Paypal". "Mae ganddyn nhw gannoedd o bobl yn gweithio ar ddiogelwch, mwy na thebyg, does gan y man gwerthu cyffredin ddim un.Ffynhonnell a addaswyd: http://www.bbc.co.uk/news/technology-37643754Pa beryglon sy'n cael eu cysylltu siopa ar-lein?Sut y gall gwerthwyr ar-lein leihau'r risg o sgimio codau?)

Mewn cyfnod o newid cyflym a thechnoleg fwy datblygedig, mae siopa ar-lein yn sicr o barhau i esblygu. Pwy a all ragweld sut y bydden ni'n siopa ymhen 5 neu 10 mlynedd.

Bydd rhaid i fusnesau barhau i ddatblygu yn unol newidiadau technolegol neu wynebu cael

eu gadael ar l. Bydd cystadleuwyr yn defnyddio technoleg newydd i gynyddu gwerthiant a bydd defnyddwyr wastad yn mynnu profiadau newydd a gwell wrth wario'u harian. Mae'n debyg y bydd m-fasnach yn parhau i gynyddu, a'r her i werthwyr ar-lein a chynhyrchwyr ffonau clyfar fydd gwella'r profiad ar-lein drwy'r defnydd o feddalwedd mwy cydnaws, aml- sgriniau, gweithdrefnau talu haws a gweithdrefnau diogelwch gwell.

Un newid posibl arall yn y blynyddoedd a ddaw ydy twf personoli'r profiad o siopa ar-lein. Gyda chynnydd yn swmp y data sydd ar gael ar-lein a thwf y cyfryngau cymdeithasol, fel all fod yn bosibl i'r defnyddiwr fod mwy o reolaeth wrth brynu nwyddau ar-lein. Agwedd

arall sydd ar gynnydd ydy siopa cymdeithasol lle mae defnyddwyr yn rhyngweithio 'i gilydd ar lwyfannau cymdeithasol. Gall gwerthwyr ymuno yn y sgwrs a chynnig cynnyrch sy'n cydweddu phroffil y defnyddwyr.

(Mae gwerthu ar-lein wedi cynyddu marchnad potensial unrhyw fusnes. Eglurwch ygosodiad hwn.Eglurwch effaith y cynnydd mewn siopa ar-lein ar siopau traddodiadol y stryd fawr.)

Cyfryngau digidol

Mae'r cynnydd yn y cyfryngau digidol wedi bod yn un rheswm am dwf cyflym siopa ar-lein a gwefannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cyfryngau digidol yn cynnwys ystod eang o feddalwedd cyfrifiadurol gan gynnwys delweddaeth (imagery), fideos, clywedol, tudalennau

gwe, gemau ac e-lyfrau sy'n drosglwyddadwy trwy'r rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol.

Mae datblygiad cyfryngau digidol wedi cael effaith ar gyfryngau traddodiadol megis testun a chyfryngau analog, er enghraifft, mae gwerthiant papurau newydd a CDau cerddoriaeth wedi gostwng o ganlyniad i ddefnyddwyr yn prynu'r rhain yn ddigidol.

Defnyddir cyfryngau digidol gan ystod eang o fusnesau o bob maint ac mae dulliau digidol o

gyfathrebu'n gyflymach ac yn fwy hyblyg na dulliau traddodiadol.

Defnyddir marchnata digidol ar wefannau, blogiau, hysbysebion baneri ar y rhyngrwyd, fideos ar-lein ac e-bost a marchnata symudol. Mae marchnata digidol yn costio llai na dulliau traddodiadol oddi all-lein. Mae ymgyrch e-bost neu gyfrwng cymdeithasol, er enghraifft, yn

(10)

gallu cyfleu neges farchnata i ddefnyddwyr yn llawer rhatach na hysbyseb ar y teledu neu ymgyrch mewn print ac mae hefyd yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Gellir ei ddefnyddio gan fusnesau o bob maint ac mae'n galluogi busnesau bychain i gystadlu gyda chwmnau mawr rhyngwladol.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol wedi newid yn llwyr y modd y mae busnes yn gallu cyfathrebu gyda'i gwsmeriaid. Mae'r llwyfannau rhyngweithiol hyn yn cael eu defnyddio gan dros 2 biliwn o bobl y byd; mae mwyafrif o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn defnyddio gwefan gymdeithasol yn rheolaidd.

Mae'r gwefannau cymdeithasol mwyaf poblogaidd wedi datblygu'n ffynhonnell enfawr o wybodaeth i fusnesau ac yn llwyfan i dargedu defnyddwyr.

Mae'r erthygl isod yn amlinellu'r prif fuddiannau mae 'r cyfryngau cymdeithasol yn eu cynnig i

fusnesau.

Cael gwybodaeth werthfawr am gwsmeriaid

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynhyrchu swmp enfawr o ddata cyfredol am eich cwsmeriaid mewn amser real. Bob dydd, caiff 500 miliwn o negeseuon trydar eu rhoi ar Twitter, 4.5 biliwn o 'hoffi' ar Facebook a llwythir 95 miliwn o luniau a fideos ar Instagram. Y tu l i'r ffigyrau anhygoel hyn, mae yna gyfoeth o wybodaeth am eich cwsmeriaid - pwy ydyn nhw, beth maen nhw'n ei hoffi a sut y maen nhw'n teimlo am eich brand.

Trwy ymwneud dyddiol a gwrando cymdeithasol, gallwch gasglu data perthnasol am y cwsmer a defnyddio'r wybodaeth i wneud penderfyniadau busnes mwy deallus. Gyda Hootsuite Insights, er enghraifft, gallwch gasglu gwybodaeth oddi ar eich rhwydweithiau cymdeithasol mewn amser real - sy'n eich galluogi i fesur teimlad y cwsmer, cael hyd i'r sgyrsiau sy'n digwydd am eich brand a rhedeg adroddiadau amser real.

Cynyddu ymwybyddiaeth am y brand a theyrngarwch

Pan mae gennych bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n haws i'ch cwsmeriaid gael hyd i chi a chysylltu chi. Ac wrth gyfathrebu 'ch cwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol, rydych chi'n fwy tebygol i'w cadw a'u gwneud yn ffyddlon i'r brand. Mae astudiaeth yn The Social Habit yn dangos bod 53 y cant o Americanwyr sy'n dilyn brandiau ar y cyfryngau cymdeithasol yn deyrngar iddyn nhw.

Hysbysebion wedi'u targedu gyda chanlyniadau amser real

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu gwerthiant a chadw cwsmeriaid trwy ryngweithio

rheolaidd a gwasanaeth cwsmeriaid amserol. Yn Sales Best Practices Study, 2015 gan y sefydliad ymchwil MHI Global, ystyriodd gwmnau o safon byd-eang y cyfryngau

cymdeithasol fel y cyfrwng gorau i adnabod pobl allweddol sy'n gwneud penderfyniadau ac i weld cyfleoedd newydd i wneud busnes. Yn The State of Social Selling, 2015, adroddodd 75 y cant o gwmnau bod ymgymryd gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at gynnydd yn eu gwerthiant mewn 12 mis.

(11)

Darparu profiadau cyfoethog i'r cwsmer

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu gwerthiant a chadw cwsmeriaid trwy ryngweithio

rheolaidd a gwasanaeth cwsmeriaid amserol. Yn Sales Best Practices Study, 2015 gan y sefydliad ymchwil MHI Global, ystyriodd gwmnau o safon byd-eang y cyfryngau

cymdeithasol fel y cyfrwng gorau i adnabod pobl allweddol sy'n gwneud penderfyniadau ac i weld cyfleoedd newydd i wneud busnes. Yn The State of Social Selling, 2015, adroddodd 75 y cant o gwmnau bod ymgymryd gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at gynnydd yn eu gwerthiant mewn 12 mis.

Darparu profiadau cyfoethog i'r cwsmer

Hyd yn oed os nad ydych ar y cyfryngau cymdeithasol, mae mwyafrif eich cwsmeriaid yn disgwyl i chi fod. Mae dros 67 y cant o ddefnyddwyr yn awr yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwasanaeth cwsmeriaid. Maen nhw'n disgwyl ymateb cyflym a chefnogaeth 24/7 - ac mae'r cwmnau sy'n darparu hyn ar eu hennill. Mae astudiaeth

gan Aberdeen Group yn dangos bod cwmnau sy'n cynnig gwasanaeth cwsmeriaid trwy'r

cyfryngau cymdeithasol yn dangos cynnydd ariannol llawer mwy.

Cynyddu traffig gwefan a safle chwiliad (search ranking)

Un o brif fanteision y cyfryngau cymdeithasol i fusnes ydy eu defnyddio i gynyddu traffig gwefan. Nid yn unig y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu i gyfeirio pobl i'ch gwefan, ond y mwyaf mae pobl yn 'rhannu' eich cyfrwng, bydd eich safle chwiliad yn uwch. Er enghraifft, os ydy pob person sy'n dilyn Hootsuite ar Twitter yn aildrydar y neges, mae'n fwy tebygol i ennill safle uwch ar dudalen canlyniadau peiriant chwilio Google o ran amrywiaethau ar "cyfryngau cymdeithasol i fusnes.

Canfyddwch beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud

Wrth fonitro'r cyfryngau cymdeithasol, gallwch gael hyd i wybodaeth allweddol am eich cystadleuwyr. Bydd y math yma o wybodaeth yn eich caniatu i wneud penderfyniadau strategol i achub y blaen arnyn nhw. Er enghraifft, gallwch greu ffrydiau chwilio yn Hootsuite i fonitro geiriau allweddol y diwydiant a chrybwylliadau o enwau a chynyrchiadau eich cystadleuwyr. Yn seiliedig ar eich canlyniadau chwilio, gallwch wella eich busnes trwy gynnig gwelliannau i'ch cynnyrch, gwasanaeth neu gynnwys sydd yn eisiau o'u rhan nhw.

Rhannu cynnwys yn gyflymach ac yn haws

Yn y gorffennol, roedd marchnadwyr yn wynebu'r her o sicrhau bod eu cynnwys yn cyrraedd cwsmeriaid o fewn yr amser byrraf posibl. Gyda chymorth y cyfryngau

cymdeithasol, yn benodol wrth rannu cynnwys am eich busnes, y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud ydy ei rannu ar gyfrif rhwydweithiau cymdeithasol eich brand.

Geotarget content

Geo-targeting is an effective way to send your message out to a specific audience based on their location. Social networks like Facebook and Twitter have tools that allow you to

communicate the right kind of content to your audience. For example, in Hootsuite you can target Twitter messages to followers in specific countries, or send messages from Facebook and LinkedIn company pages to specific groups based on geographical and demographic parameters. You can also use Hootsuite geotargeting to find conversations relevant to your brand.

(Meithrin PerthnasauNid cyfrwng i chi frolio eich cwmni i'r cymylau ydy'r cyfryngau cymdeithasol; mae'n sianel ddwy ffordd lle rydych yn cael cyfle i gryfhau eich perthynas gyda'ch cwsmeriaid. Er enghraifft, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi brandiau twristiaeth i greu deialog gyda theithwyr, a thrwy hynny, ffurfio perthynas gyda chwsmeriaid cyn, yn ystod ac arl iddyn nhw drefnu taith gyda'r cwmni. Y mae'r math hwn o ddeialog ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng brandiau a chwsmeriaid yn rhywbeth na ellir ei gyflawni trwy hysbysebu traddodiadol.Ffynhonnell: https://blog.hootsuite.com/social-media-for-business/)

Mae cael y math cywir o bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn bwysig dros ben i fusnesau. Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd yn y DU, adroddwyd y byddai bron i 80% o ddefnyddwyr yn prynu'n fwy aml yn y dyfodol oherwydd ei bresenoldeb ar y cyfryngau

cymdeithasol. Bydd llawer o fusnesau, bach a mawr, yn cynnal ymgyrchoedd ar y cyfryngau

cymdeithasol fel rhan o'u proses marchnata:

(1.Pranc Ffl Ebrill - WilliCreative ar gyfer BryntegGan ddefnyddio photoshop i wneud ychydig o olygu roeddem yn gallu chwarae tric ffl Ebrill ar gynulleidfa ein cwsmer Parc Gwyliau Brynteg. Cyrhaeddodd y neges 7,000 o bobl.)

(2.Chwyth sychu (blow dry) rhad ac am ddimCynhaliwyd ymgyrch pen-blwydd gwych gan drinwyr gwallt 'Phase 3' o Fae Colwyn i ddathlu eu pedwaredd flwyddyno fusnes gan gynnig sychu gwallt (blowdry) am ddim unrhyw un oedd yn darganfod eu baln pen-blwydd) (i)

(Ffynhonell:http://www.networkshe.co.uk/11-examples-brilliant-social- media-campaigns-worked/)

Bydd cip sydyn ar y rhan fwyaf o wefannau'n dangos pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mae busnesau yn eu defnyddio i gysylltu 'u cwsmeriaid:

Efeithiau negyddol technoleg newydd

Er bod technoleg yn dod llawer o fanteision i fusnesau a'u rhan-ddeiliaid yn ei sgil, y mae

iddo hefyd nifer o anfanteision; mae'r rhain yn cynnwys:

Cost - mae datblygiadau cyflym mewn technoleg yn golygu bod busnesau yn barhaol yn ceisio mabwysiadu'r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn achub y blaen ar eu cystadleuwyr. Nid yw cyflwyno technoleg newydd yn rhad ac efallai nad ydy busnesau bychain yn gallu fforddio prynu offer newydd neu wasanaethau i gynnal eu gweithrediad. Mae hyn yn gallu arwain at gau busnes os ydy rhai mwy yn gallu defnyddio technoleg a chynyddu eu goruchafiaeth yn y farchnad.

Y cynnydd mewn dibynadwyaeth ar dechnoleg - gall hyn arwain at broblemau pan mae'r dechnoleg yn torri oherwydd diffyg gallu'r busnes i gynnal ei weithrediadau. Gall hyn arwain at golli gwerthiant a chwsmeriaid anfodlon.

Colli swyddi - bydd technoleg yn disodli rhai swyddi: mae'r diwydiant gweithgynhyrchu yn cyflogi llai o weithwyr gan fod llawer o dasgau'n cael eu gwneud gan robotiaid. Mae'r diwydiant bancio hefyd wedi diswyddo gweithwyr oherwydd bod gwasanaethau'n cael eu darparu gan beiriannau a bancio ar-lein. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn y galw am gyfrifiaduron, meddalwedd a chaledwedd wedi creu cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol.

(Eglurwch sut y bydd gwerthu nwyddau trwy'r rhyngrwyd yn lleihau costau i fusnesau.Pam mae busnesau'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel offeryn marchnata?Dim ond busnesau sy'n gweithredu ar raddfa eang sydd wedi elwa o ddefnyddiocyfryngau digidol a chymdeithasol. Ydych chi'n cytuno 'r datganiad hwn?)

Cau siopau'r stryd fawr - mae poblogrwydd cynyddol siopa ar-lein wedi arwain at fwy o nwyddau'n cael eu prynu ar-lein a llai mewn siopau. Mae costau is i'r gwerthwr werthu ar-lein wedi arwain at gau llawer o siopau'r stryd fawr a rhai siopau traddodiadol i gau'n llwyr.

Bylchau mewn systemau diogelwch - mae talu am nwyddau a gwasanaethau ar- lein yn cynyddu'r risg o dwyll ac nid ydy llawer o bobl sydd wedi cael profiad o hyn hyd yn oed yn gwybod bod arian wedi'i gymryd o'u cyfrifon. Gan ei bod yn ofynnol gan

e-fasnach bod angen i bobl gadw eu manylion ar-lein, mae yna hefyd risg o ladrata

manylion personol.

(A fydd Robot yn cymryd eich swydd?Mewngofnodwch i http://www.bbc.co.uk/news/technology-34066941Teipiwch enwau gwahanol swyddi i weld beth ydy'r tebygolrwydd iddyn nhw gael euhawtomeiddio yn yr ugain mlynedd nesaf.)

Fodd bynnag, gellir dadlau mai'r enillwyr mwyaf o'r dechnoleg newydd a gyflwynwyd gan fusnesau ydy'r defnyddwyr sy'n elwa mewn nifer o ffyrdd:

Mae'r rhyngrwyd yn gwneud cymharu prisiau'n hawdd ac yn darparu llawer rhagor o

wybodaeth drwy wefannau adolygiad

Rhagor o ddewis

Prisiau is

Ansawdd gwell

Cyfleuster drwy siopa o'r cartref ac amserau dosbarthu a drefnir ymlaen llaw.

(Mae Ruby a Frank wedi bod eisiau dechrau eu busnes eu hunain erioed. Maen nhw wedi penderfynu sefydlu eu busnes, a elwir yn Retro, ar gyrion Caer. Bydd eu siop yn cwrdd 'r galw cynyddol am nwyddau a oedd yn ffasiynol rhwng 1950 a 1980. Bydd rhai o'r nwyddau o'r cyfnod a bydd eraill yn atgynyrchiadau.Mae Ruby a Frank yn gwerthfawrogi pwysigrwydd technoleg i'w busnes.Awgrymwch ac eglurwch ffyrdd y gallan nhw ddefnyddio technoleg wrth weithredu eubusnes.Rhowch gyngor i Ruby a Frank o ran anfanteision defnyddio technoleg yn eu busnes.)

Dylanwadau Moesegol ar Weithgarwch Busnes

Mae moeseg yn ymwneud beth sy'n iawn a beth sy'n anghywir

Anita Roddick, sylfaenydd The Body Shop "Mae bod yn dda yn fusnes da"

Mewn busnes, moeseg ydy'r gwerthoedd moesol sy'n gyrru ymddygiad busnes. Mae busnes moesegol yn un sy'n ystyried anghenion yr holl randdeiliaid wrth wneud penderfyniadau busnes. Mae busnes moesegol, wrth osod amcanion, yn ystyried cyfrifoldebau cymdeithasol. Mae busnesau moesegol yn ystyried beth sy'n foesol gywir/anghywir am unrhyw benderfyniadau a wneir.

Mae ymddwyn yn foesegol yn golygu bod yn:

Onest

Dibynadwy

Teg

Gofalus o bobl

Parchu eraill

Cyfreithlon

Atebol i eraill.

(Eglurwch beth y mae'r nodweddion moesegol uchod yn eu golygu yng nghyd-destungweithredu busnes. Maer un cyntaf wedii wneud i chi:Gonestrwydd - pan rydych yn gweithredu'n onest, bydd pobl yn ymddiried ynddoch chi. Canlyniad gwneud penderfyniadau gonest fydd cefnogaeth gan weithwyr a chwsmeriaid sy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd. Peidiwch thwyllo eraill drwy ddweud celwydd neu gam- gyfleur gwir. Os ydy camgymeriad wedi digwydd, fel y cynnyrch anghywir wedi'i anfon at gwsmer, peidiwch cheisio rhoi'r bai ar rywun arall, byddwch yn onest ac ymddiheurwch am y camgymeriad - y tebygolrwydd yw y caiff hyn ei werthfawrogi gan y cwsmer sydd yna'n debygol o ymddiried ynddoch chi a dod yn gwsmer ffyddlon.)

Ystyrir ymddwyn yn foesegol yn arfer dda mewn busnes yn yr amgylchedd busnes modern.

Y dyddiau hyn, mae gan fusnesau ystod ehangach o gyfrifoldebau nag yn y gorffennol ac mae ymwybyddiaeth foesegol wedi dylanwadu ar fusnesau mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, mae rhai busnesau ond yn prynu cynnyrch gan gynhyrchwyr masnach deg er mwyn sicrhau

bod cyflenwyr yn derbyn tl teg am eu nwyddau. Mae busnesau eraill wedi cymryd camau i godi cyflogau er mwyn gwella safonau byw eu gweithwyr mewn gwledydd tlawd.

Mae enghreifftiau o faterion moesegol yn cynnwys:

A ddylen ni ddefnyddio cyflenwyr sydd ddim yn talu cyflog byw?

A ydyn ni'n sicrhau bod ein deunyddiau marchnata'n dweud y gwir?

A ydyn ni'n gwerthu cynnyrch a gafodd ei brofi ar anifeiliaid?

A ddylen ni leihau'r pris ar gynnyrch sy'n gwneud drwg i bobl, megis cwrw a seidr ar mwyn cynyddu gwerthiant?

A ydyn ni'n cefnogi ein gweithwyr pan maen nhw angen amser oddi wrth y gwaith wrth iddyn nhw wynebu anawsterau personol neu deuluol?

A ydyn ni'n cael gwared ar wastraff yn y ffordd orau posibl er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchfyd?

Mae ystyriaethau moesegol yn cynnwys:

Gweithwyr cyflogedig

Dylai busnesau drin gweithwyr cyflogedig fel eu hased mwyaf gwerthfawr. Mae hyn yn golygu gofalu am eu hiechyd a'u diogelwch, a'u hamodau gwaith, yn ogystal thalu cyflog byw iddynt. Ni ddylai eu cyfrifoldebau moesegol gael eu cyfyngu iw gweithwyr eu hunain. Mae'r rhai sy'n gweithio i gyflenwyr yr un mor bwysig. Os yw busnes yn honni ei fod yn talu cyflog byw i'w weithwyr ei hun, nid yw'n bosibl ystyried hynny'n foesegol os yw gweithwyr sy'n is

i lawr y gadwyn gyflenwi, sydd o bosibl mewn gwlad lai datblygedig, yn ennill yr hyn sy'n

cyfateb i 40c yr awr.

Cyflenwyr

Dylai cyflenwyr gael eu trin yn deg hefyd. Mae hyn yn golygu glynu wrth gytundebau y cytunwyd arnynt heb orfodi cyflenwyr i ail-negodi. Mae'n golygu talu ar amser ac nid rhoi pwysau ar lif arian cyflenwyr. Nid masnach deg yw codi 30c yn ychwanegol ar gwsmer am siocled neu de neu goffi masnach deg ac yna trosglwyddor ffracsiwn lleiaf yn unig o'r codiad pris o 30c i'r cyflenwr.

Cwsmeriaid

Mae cwsmeriaid eisiau gwasanaeth neu gynnyrch o ansawdd am bris teg. Mae busnesau sy'n gweithredu'n anfoesegol yn methu chyflawni'r ymrwymiad moesol hwn i gwsmeriaid. Er enghraifft, roedd y sgandal Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) yn fethiant dwbl ar ran llawer o'r banciau mawr yn y DU. Nid yn unig roedd yr yswiriant a ddarparwyd drwyr Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) yn aml yn amherthnasol i anghenion cwsmeriaid, roedd hefyd yn llawer rhy ddrud.

Mater moesegol arall ydy sut i ymwneud gweithgareddau marchnata mewn modd moesegol, er enghraifft, honiadau anghywir wrth farchnata, megis gorliwio manteision defnyddio cynnyrch arbennig i wella iechyd neu sut y mae rhywun yn edrych. Wrth hysbysebu, dylai busnes fod yn ofalus i beidio phechu defnyddwyr trwy ddefnyddio trais, rhyw neu iaith anweddus neu greu hysbysebion a all beri gofid i grwpiau penodol.

Lles Anifeiliaid

Mae lles anifeiliaid yn fater o bwys i'r adwerthwyr hynny sy'n hawlio bod yn foesegol. Mae

groseriaid yn edrych i lawr y gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau lles anifeiliaid, ac yn gallu canolbwyntio eu marchnata ar ba mor dda y mae ffermwyr sy'n cyflenwi yn trin eu da byw. Mae'r galw am gynnyrch 'maes' yn enghraifft dda o sut mae adwerthwyr wedi ymateb i bryderon eu cwsmeriaid.

Mae adwerthwyr dillad wedi ymateb i faterion hawliau anifeiliaid hefyd mewn perthynas 'r deunyddiau crai maen nhw'n eu defnyddio. Mae PETA (People for Ethical Treatment of

Animals) wedi sicrhau bod y ddadl wedi datblygu ymhell y tu hwnt i gotiau croen ffwr. Erbyn hyn mae'n cynnwys trin anifeiliaid eraill a ddefnyddir yn y gadwyn cyflenwi dillad.

Masnach Deg (Fairtrade)

Mae'r mudiad hwn yn cefnogi tegwch i ffermwyr o ran cael pris teg am eu cynnyrch. Mae

ffermwyr sy'n ymwneud masnachu'n deg hefyd yn anelu i dalu cyflog teg i'w gweithwyr ac ymwneud ag arferion sy'n parchu'r amgylchfyd. Bwriad Masnach Deg ydy

gwella safonau byw ffermwyr tlawd mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae Masnach Deg yn cynnig ffordd uniongyrchol i ddefnyddwyr leihau tlodi trwy eu siopa bob dydd. Pan mae label Masnach Deg ar gynnyrch, mae'n golygu bod

y cynhyrchwyr a'r masnachwyr wedi cyrraedd Safonau Masnach Deg. Mae nwyddau Masnach Deg yn dod yn fwyfwy cyffredin ac maen nhw'n cynnwys te, coffi, siwgr, siocled a chotwm.

(Ymwelwch gwefan sefydliad Masnach Deg http://www.fairtrade.org.uk/en/what-is-fairtradeDewiswch un o'r penawdau isod a lluniwch boster i dynnu sylw at y prif bwyntiau:Beth mae Masnach Deg yn ei wneudBle mae Masnach Deg yn gweithioBeth ydy Sefydliad Masnach DegEffaith Masnach Deg)

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Mae gan fusnesau gyfrifoldeb sy'n mynd y tu hwnt i wneud elw ar gyfer eu cyfranddalwyr. Mae angen i fusnesau fonitro a chymryd cyfrifoldeb dros yr effaith maen nhw'n ei chael ar les cymdeithasol a'r amgylchedd. Mae gan lawer o fusnesau bolisi cyfrifoldeb corfforaethol cymdeithasol (corporate social responsibility - CSR) sy'n nodi eu hegwyddorion moesegol. Wrth edrych ar eu dyletswydd gymdeithasol, efallai y byddan nhw'n gofyn cwestiynau megis:

Pa mor dda ydyn ni am sicrhau hawliau dynol?

Ydyn ni'n defnyddio cyflenwyr sy'n defnyddio llafur plant?

Ydyn ni'n gwahaniaethu wrth recriwtio?

Ydyn ni'n talu'r lefel gywir o dl am y gwaith?

Faint o fenywod sydd gennym ni mewn swyddi uwch?

Ydyn ni'n cefnogi unrhyw elusennau yn ardal ein ffatroedd?

Ydyn ni wedi torri unrhyw gyfreithiau?

Ydyn ni'n cystadlu'n deg?

Ydyn ni'n cydymffurfio phob deddfwriaeth iechyd a diogelwch?

18

(TGAU Busnes Dylanwadau ar Fusnes)

A yw ein hysbysebion yn dweud y gwir?

Ydyn ni wedi achosi unrhyw lygredd?

Mae busnesau bellach yn cael eu gorfodi i weithredu i dderbyn cyfrifoldebau cymdeithasol o ganlyniad i ddeddfwriaeth. Er enghraifft, mae gennym yr isafswm cyflog erbyn hyn, ynghyd phedair wythnos o wyliau blynyddol thl, gofynion ar gyfer ymdrin chyflenwyr, a threthi gwyrdd.

Fodd bynnag, y mae rhai busnesau, lle mae'r unig ystyriaeth ydy gwneud elw, yn anwybyddu moeseg a dyletswyddau cymdeithasol. Mae hyn i'w ddisgwyl; wedi'r cyfan, bodloni anghenion cyfranddalwyr oedd blaenoriaeth yr holl fusnesau yn draddodiadol sy'n golygu cynyddu elwon.

Ond ar l sicrhau eu helw y bydd llawer o fusnesau yn canolbwyntio ar faterion moesegol. I lawer o gwmnau cyfyngedig, mae pwysau perfformiad yn golygu mai'r elw tymor byr yw'r flaenoriaeth. Mae'r pwysau hyn yn golygu bod rhaid anwybyddu moeseg.

Mae'n bosibl iawn na fydd gan fusnesau bychain i ganolig yr amser na'r adnoddau i ganolbwyntio ar lunio polisi moesegol. Fodd bynnag, mae llawer o fentrau newydd yn defnyddio safiad moesegol fel pwynt gwerthu unigryw (USP) ac maen nhw'n ffynnu o ganlyniad i hynny. Mae defnyddwyr ar gymdeithas yn llawer mwy ymwybodol o faterion moesegol, ac mae'r busnesau hynny sy'n anwybyddu'r duedd gynyddol hon mewn perygl o golli allan i'w cystadleuwyr.

I fod yn wirioneddol foesegol a derbyn cyfrifoldebau cymdeithasol i'r eithaf, mae busnesau'n siwr o wynebu llawer o anawsterau. Fodd bynnag, er bod gweithredu'n foesegol yn costio, a fyddai o bosibl yn golygu llai o elw yn y tymor byr, y gobaith yw y bydd yr elw'n cynyddu yn y tymor hir i fusnes moesegol.

Moeseg a phroffidioldeb

Gall ymddwyn yn foesegol effeithio mewn modd negyddol ar broffidioldeb.

Mae costau'n debygol o godi - Er enghraifft, bydd talu 'cyflog byw' yn hytrach na chydymffurfio 'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog yn cynyddu costau llafur. Byddai adeiladu gwell cyfleusterau ffreutur neu ddarparu cyfleusterau chwaraeon ar gyfer gweithwyr yn gostus iawn.

Mae'r refeniwiau'n debygol o ostwng - Er enghraifft, byddai adwerthwr teganau sy'n gwrthod targedu plant gyda hysbysebu cyffredinol cyn y Nadolig yn colli o ran gwerthiant yn erbyn ei gystadleuwyr. Pe byddai cwmni adeiladu'n gwrthod cynnig llwgrwobr i un o swyddogion llywodraeth y Trydydd Byd wrth dendro am gontract, mae'n bosibl iawn na fyddai'n cael ei ystyried ar gyfer y prosiect hwnnw.

Fodd bynnag, gall ymddwyn yn foesegol hefyd wella proffidioldeb:

Mae rhai cwsmeriaid yn cael eu denu at y busnesau hynny sy'n defnyddio dull moesegol o weithredu. Bydd defnyddwyr yn gweld busnesau mewn goleuni gwell os ydyn nhw'n ymddwyn mewn modd foesegol a gall hyn arwain at deyrngarwch y cwsmer. Gall busnes weld ei werthiant yn cynyddu neu yn gallu codi pris uwch am ei gynnyrch o ganlyniad i'w hygrededd moesegol.

Mae bwytai a siopau coffi sy'n prynu eu cynhwysion gan gyflenwyr moesegol yn apelio

(19)

at nifer cynyddol o gwsmeriaid. Gall defnyddio 'moeseg' wrth wraidd eu hymgyrchoedd marchnata hybu gwerthiant mewn rhai achosion. Mae twf y mudiad Masnach Deg yn dystiolaeth o duedd o'r fath.

Gall gweithredu'n foesegol wella cysylltiadau cyhoeddus a chael effaith gadarnhaol ar y ddelwedd y mae busnes yn ei chyfleu. Nid oes yr un busnes eisiau ei enw dros y papurau newydd am drin ei weithwyr yn wael neu am ddefnyddio cynhwysion o ansawdd gwael a allai fod yn niweidiol i ddefnyddwyr. Mae gwirio cadwyni cyflenwi yn ofalus nid yn unig yn foesegol, ond gall hefyd atal colli derbyniadau sylweddol ac enw da.

Mae gweithwyr a gyflogir gan fusnes moesegol yn debygol o fod 'r un gwerthoedd ac yn ymfalcho eu bod yn gweithio i'r fath gyflogwr. Mae hyn yn debygol o gynyddu lefelau eu cymhelliant i weithio'n galed a pharhau i fod yn deyrngar i'r busnes.

(Sefydlwyd y Virgin Group gan Richard Branson yn 1970 ac mae o'n gyfranddaliwr sylweddol ym mhob un o'r cwmnau Ystyrir y Virgin Group yn fusnes sydd pholisau moesegol cryf. Mae hyn yn golygu ei fod yn trin ei randdeiliaid, megis cyflenwyr, gweithwyr a chwsmeriaid mewn ffordd gonest a theg.Ystyriwch a ydy hin dda ai peidio i'r busnes fod pholisau mor foesegol.)

Darllenwch yr erthygl ganlynol ac atebwch y cwestiynau syn dilyn.

A all cwmnau ein gwneud yn ddinasyddion gwell?

Os ydych chi eisiau gwybod beth sydd gan goffi ac etholiadau yn gyffredin, gofynnwch i Starbucks.

Ym mis Mai, cynhaliodd y cawr hwn o gwmni Americanaidd ymgyrch yn y Phillipines a alwyd yn "care to vote". Gwobrwywyd cwsmeriaid gyda diod yn rhad ac am ddim os y bydden nhw'n pleidleisio yn etholiad gyffredinol y wlad. Yn dilyn ymweld gorsaf bleidleisio, yr unig beth yr oedd rhaid i gwsmeriaid ei wneud oedd dangos y bys pleidleisio a oedd ag inc arno i barista er mwyn cael eu coffi neu ddiod arall yn rhad ac am ddim.

"Roedd ein bwriad yn un syml", meddai Keith Cole, pennaeth marchnata Starbucks yn y Phillipines.

"Drwy helpu etholwyr i gymryd rhan, rydym yn credu y bydd mwy o bobl yn cael y cyfle i'w pleidlais wneud gwahaniaeth."

O ymgyrchu o ran hawliau pleidleisio, i gynaliadwyedd, bwyta'n iach a thegwch rhyw, mae busnesau'n gynyddol yn codi eu llais am faterion cymdeithasegol, yn y gobaith o ddylanwadu - a gwella - ein hymddygiad.

Y nod, maen nhw'n dweud, ydy defnyddio'u grym a'u dylanwad er mwyn gwneud lles ac nid er mwyn gwneud elw'n unig.

Nid yw'r syniad bod brandiau'n gallu ein hannog i fod yn ddinasyddion gwell yn un newydd. Buddsoddodd Cadbury, y gwneuthurwr siocled Prydeinig a Ford, y gwneuthurwr ceir Americanaidd yn sylweddol yn y trefi lle'r oedd eu gweithwyr yn byw yn y 19eg a'r 20fed ganrif, ac yn sgil hyn, roedd disgwyl i'r gweithwyr gynnal safonau arbennig yn y gwaith a thu hwnt.

(20)

Ond heddiw, tueddir i ymdrechion tebyg fod 'u sylw ar y defnyddwyr, gyda'r nod o

hyrwyddo daioni cymdeithasol wrth annog teyrngarwch i'r brand.

Cymerwch yr ymgyrch Dove Campaign for Real Beauty sydd wedi bod yn galw am ddiffiniad mwy eang o brydferthwch benywaidd er 2004. Yn cael ei reoli gan Unilever, cwmni nwyddau defnyddwyr mawr Eingl-Iseldiraidd, a pherchennog y brand Dove, ei nod ydy dathlu merched o bob sip a maint.

Mae Unilever yn dweud bod y cynllun wedi "torri cwys wrth ddefnyddio delweddau o brydferthwch cyraeddadwy" mewn hysbysebion gan ddefnyddio merched "gyda sip go iawn".

Ar yr un pryd, gwelodd Unilever gynnydd yng ngwerthiant nwyddau Dove o $2.5bn (1.9bn) i $4bn yn 2014.

Yfed cyfrifol

Enghraifft arall ydy'r Bragwr Iseldiraidd, Heineken sydd wedi hyrwyddo yfed cymedrol yn ei

hysbysebu er 2011.

Dywedodd Milly Hutchinson, rheolwr cysylltiadau cyhoeddus Heineken, bod y cwmni'n credu bod "ganddo rl i'w chwarae mewn cymdeithas" a'r "llwyfan perffaith i ledaenu'r neges o yfed cymedrol".

Fodd bynnag, ychwanega bod y cwmni hefyd yn adlewyrchu "newid gweladwy yn ymddygiad y defnyddwyr" gan fod ymchwil y cwmni ei hun yn dangos bod mwyafrif oedolion ifanc yn awr yn cyfyngu ar faint o alcohol maen nhw'n ei yfed.

Canfyddodd arolwg a gyhoeddwyd gan Heineken ym mis Ionawr bod 75% o yfwyr rhwng 21 a 35 oed yn cyfyngu ar faint maen nhw'n ei yfed ar nosweithiau allan. Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn pump o wledydd - UDA, y DU, Yr Iseldiroedd, Mxico a Brasil.

Dywedodd Charlotte West, o'r elusen Brydeinig Business in the Community - sy'n annog busnesau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas neu i'w cymuned leol - ei bod yn wir fod niferoedd cynyddol o gwmnau'n codi eu llais mewn ymgyrchoedd.

Dywed bod y patrwm wedi cael ei yrru'n rhannol gan y cynnydd yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, sydd wedi galluogi defnyddwyr i ddwyn brandiau i gyfrif i'r graddau na ragwelwyd. Ac felly, mae'n rhaid i gwmnau ymateb.

Ychwanega, " Mae mwy a mwy o gwsmeriaid am i fusnesau sefyll dros newid cymdeithasol, ac, yn ein byd sy'n newid, mae rhaid iddyn nhw chware mwy o rl i ddatrys problemau cymdeithasegol."

Fodd bynnag, rhybuddia Laura Spence, athro moeseg busnes yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain ei bod "yn anochel, bod ychydig o hunan-fudd goleuedig yn yr ymgyrchoedd hyn".

Mae hi'n ychwanegu: "Mae cwmnau'n gallu gweld bod eu hymwneud ag arfer penodol yn

adlewyrchu'n dda arnyn nhw ac efallai'n fodd i ddenu cwsmeriaid ychwanegol.

"Ond mae risg cael eu gweld yn bregethwrol hefyd ac nid yw hynny'n beth da bob tro."

(21)

Dywed Vicki Loomes, dadansoddydd yn ymgynghoriaeth Trendwatching: "Os ydy cwmnau'n mynd i ymgyrchu ar fater, mae angen iddo fod yn rhywbeth y maen nhw wedi fuddsoddi ynddo yn y tymor hir ac yn gydnaws beth maen nhw'n ei wneud."

Mae hi'n ychwanegu: "Ni all fod yn ymgyrch hysbysebu sy'n para am dri mis, yn siarad am rhywbeth fel mewnfudo, am ei fod, yn syml, yn rhywbeth sy'n flaenllaw yn y newyddion." Mae Ms West o Business in the Community yn cytuno. "Mae pobl yn gallu gweld trwy sbwriel, felly, mae rhaid iddo

fod yn ddilys a gonest a pherthnasol i'ch brand."

Yn amlwg, mae rhaid i fusnesau sicrhau cydbwysedd gofalus wrth fynd i'r afael materion cymdeithasol, ond mae'n edrych ei bod yn well gennym ni eu bod yn rhoi cynnig arni yn hytrach na'u bod yn gwneud dim byd o gwbl.

Dywed Ms West, "Mae busnesau wedi sylweddoli na allent dyfu a chymryd gan bobl yn unig."

"Mae'n rhaid iddyn nhw dyfu wrth roi rhywbeth yn l sy'n agwedd gyfalafol gyfrifol yn fy marn i."

Ffynhonnell a addaswyd: http://www.bbc.co.uk/news/business-37057981

1. Ynghylch pa faterion moesegol y mae'r busnesau yn yr erthygl yn ymwneud nhw?

2. Eglurwch pam y mae busnesau yn ymddwyn yn foesegol.

3. A ydych yn cytuno y dylai busnesau ymddwyn yn y ffordd yma?

Dylanwad amgylcheddol ar weithgaredd busnes

Mae cynhyrchu, dosbarthu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau yn cael effeithiau negyddol ar yr amgylchfyd naturiol. Mae'r costau amgylcheddol hyn yn cynnwys:

Llygredd sn

Llygredd aer

Llygredd dr

Llygredd goleuadau

Sbwriel

Tagfeydd traffig

Gwastraff

Newid Hinsawdd

Y defnydd o adnoddau cyfyngedig - mae'r adnoddau naturiol sydd ar gael i ni'n gyfyngedig; maen nhw ar gael i ni ar ein planed ni ac unwaith y byddan nhw wedi gorffen, ni fydd hi'n bosibl i greu mwy.

Nid ydy bodau dynol byth yn fodlon gyda'r hyn sydd gennym - cyn gynted ag y cawn ni

br newydd o esgidiau, rydym yn meddwl am y pr nesaf rydym am ei brynu. Disgrifir ein anghenion fel rhywbeth sydd heb derfyn iddo: rydym yn mynnu dillad newydd drwy'r amser, ceir high-tech, y teclynnau mwyaf diweddar ac ati. Rydym yn treulio (consume) mwy a mwy o nwyddau tra'n malio dim am effaith ein ffordd o fyw ar yr amgylchfyd.

Mae gwarchod yr amgylchedd yn fater busnes prif ffrwd erbyn hyn. Yn y gorffennol, anwybyddodd busnesau'r effaith yr oedden nhw'n ei gael ar yr amgylchfyd. Y mae ymwybyddiaeth am newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu'n gyflym ac mae'n fater o bryder. Fodd bynnag, un mater amgylcheddol yn unig ymhlith llawer y mae rhaid i fusnesau eu hystyried ydy hwn. Mae pryderon eraill yn cynnwys llygredd dr a sn, tagfeydd, dinistrio'r amgylchedd a gwaredu gwastraff.

Roedd effeithiau negyddol amgylcheddol gweithgarwch busnes fel arfer yn cael eu hanwybyddu i raddau helaeth gan bron yr holl randdeiliaid. Mae pethau'n wahanol iawn heddiw. Mae gan y llywodraeth a charfanau pwyso (boed yn lleol neu'n fyd-eang) ddylanwad cryf ar weithgarwch busnes ac, i ryw raddau, maen nhw'n gallu cyfyngu ar yr effaith

amgylcheddol a geir trwy weithgarwch busnes. Yn ogystal 'r dylanwadau allanol yma, erbyn hyn mae llawer o fusnesau yn cymryd rheolaeth dros eu heffaith amgylcheddol heb yr angen am bwysau allanol. Mae rhai'n cynhyrchu a chyhoeddi eu harchwiliadau amgylcheddol eu hunain, sy'n mesur eu heffaith ar yr amgylchedd ac yn nodi cynlluniau ar gyfer gwella.

(Ystyriwch yr effaith negyddol y mae'r busnesau canlynol yn ei gael ar yr amgylchfyd:Cwmni teithioArchfarchnadCynhyrchydd nwyddau trydan ar gyfer y cartrefBwyty prydau parod.)

Y mae busnesau dan bwysau cynyddol gan gwsmeriaid a llywodraethau i ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ac i sicrhau bod ein hamgylchedd a'n adnoddau ar gael i genedlaethau'r dyfodol. Cyfeirir at hyn yn aml fel cynaliadwyedd.

Bydd busnes sy'n anelu tuag at gynaliadwyedd yn ceisio lleihau ei effaith ar yr amgylchfyd. Mae yna lawer o ffyrdd y gall busnesau ymddwyn mewn modd cynaliadwy:

Lleihau graddau pecynnu nwyddau

Cynyddu'r defnydd o becynnu sy'n haws i'w ailgylchu a chyflwyno pecynnu

bioddiraddadwy

Hyrwyddo cynlluniau ailgylchu

Annog yr ailddefnyddio o fagiau plastig

Cyflwyno cynlluniau sy'n arbed egni

Defnyddio ffynonellau egni amgen

Defnyddio cyfarpar sy'n defnyddio llai o egni

Lleihau'r defnydd o ddr

Lleihau l-troed carbon

Annog defnydd mwy deallus o drafnidiaeth

Cael gwared gweithgareddau busnes diangen

Newid i gyflenwyr mwy cynaliadwy

Cwblhewch y tabl isod gan roi enghreifftiau o sut y gall busnesau ymddwyn mewn modd

cynaliadwy, mae'r cyntaf wedi'i wneud i chi.

Gweithrediad cynaliadwy

Enghreifftiau

Lleihau'r pecynnau ar nwyddau

Mae cynhyrchwyr siocled wedi lleihau'r pecynnu ar nifer o'u nwyddau, yn cynnwys wyau Pasg.

Mae'n bosibl cael pecynnau ail-lenwi ar gyfer nwyddau megis coffi a phowdwr golchi sy'n lleihau faint o adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu'r pecynnu.

Cynyddu'r pecynnu sy'n bosibl ei ailgylchu a chyflwyno pecynnu bioddiraddadwy

Hyrwyddo cynlluniau ailgylchu

Annog ailddefnyddio bagiau plastig

Cyflwyno cynlluniau arbed egni

Defnyddio ffynonellau amgen o egni

Defnyddio cyfarpar sy'n fwy egni-effeithlon

Lleihau'r defnydd o ddr

Lleihau eu l-troed carbon

Defnyddio trafnidiaeth yn fwy deallus

Cael gwared gweithgareddau busnes diangen

Newid i gyflenwyr mwy cynaliadwy

Mae llawer o fusnesau wedi gwella o ran defnyddio cynnyrch lleol ac maen nhw'n aml yn hyrwyddo cynnyrch lleol a rhanbarthol. Mae arian hwn yn cael ei roi yn l i'r economi leol, yn gwella hyfywedd busnesau lleol eraill, ac yn lleihau allyriadau (l troed carbon) a thagfeydd sy'n ganlyniad cludo nwyddau o bellter hir.

Mae gwastraff yn broblem fawr i fusnesau hefyd. Mae gwastraff yn effeithio ar lawer o wahanol agweddau amgylcheddol, o ddefnyddio gormod o ddeunyddiau ac adnoddau (e.e. deunydd pacio diangen), cynhyrchu llygryddion sy'n sgil-gynnyrch i weithgynhyrchu nwyddau, a gwaredu diogel o wastraff a gynhyrchir. Mae'r pwysau o ran cael lle mewn safleoedd tirlenwi ar ei lefel uchaf erioed, ac mae canfod ffordd amgen o waredu yn peri problemau anodd i fusnesau. Mae busnesau'n gynyddol yn adnabod cyfleoedd i ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae hyn yn gallu lleihau costau a hyd yn oed gwella proffidioldeb.

(Dewiswch un busnes mawr sydd gwefan. Chwiliwch am wybodaeth sy'n ymwneud a'i bolisi amgylcheddol a'i weithrediadau cynaliadwy a chrynhowch y rhain ar un daflen wybodaeth.)

Darllenwch y ddwy erthygl isod er mwyn gweld sut mae gweithrediadau busnes yn effeithio

ar yr amgylchfyd a sut y maen nhw'n gallu ymateb.

Rhybuddio Network Rail a GWR am sn yn eu canolfan a llygredd aer

Rhybuddiwyd y gall sn a llygredd aer o ganolfan rheilffyrdd newydd yn Reading arwain at weithredu cyfreithiol. Dywedodd Cyngor Bwrdeisdref Reading ei fod wedi ysgrifennu at Network Rail a Great Western Railway (GWR) yn mynnu eu bod yn gweithredu yn dilyn cwynion gan breswylwyr.

Cwynodd pobl yn Cardiff Road am drenau a oedd wedi'u parcio yn y cilffyrdd gyda'u peiriannau'n rhedeg. Mae GWR wedi dweud yn gynharach y gwnaiff cyflwyno trenau trydan yn 2019 leihau'r broblem.

Cwynodd deiseb ar-lein a sefydlwyd gan y trigolion a oedd yn byw yn ymyl canolfan GWR

am sn amledd isel yn dod o drenau a oedd 'u peiriannau'n rhedeg yn oriau mn y bore.

Dywedodd Tony Page, dirprwy arweinydd y cyngor bod ymatebion a dderbyniwyd gan y cwmnau, hyd yn hyn, wedi bod yn "annigonol". "Mae'r cyngor yn llwyr gefnogol o'r manteision enfawr a ddaeth i Reading a'r ardal yn sgil aildrefnu rheilffyrdd.

"Yn yr un modd, mae pryderon trigolion lleol am lygredd sn ac aer yn real iawn a chaiff y cyngor ei lobo ar y materion hyn yn rheolaidd.

"Rydym yn gobeithio y bydd mynegi pryderon lleol ar lefel uwch-reolaeth yn profi i fod yn fwy effeithiol."

Yn gynharach eleni, dywedodd GWR bod y sn o fewn lefelau diogel a'i fod wedi newid y ffordd yr oedd yn gweithredu trenau ar y cilffyrdd.

Dywedodd Jonathan Dart, cadeirydd y Bell Tower Community Association, ei fod yn croesawu cyhoeddiad y cyngor ynghylch " rhoi diwedd ar y niwsans a achosir i drigolion Cardiff Road".

Fodd bynnag, beirniadodd yr amser a gymerodd yr awdurdod i archwilio'r mater. Dywedodd, "Cymerodd naw mis ac ymgyrch gan y wasg cyn i'r cyngor ryddhau adroddiad gan swyddog a oedd yn datgan bod sefyll mewn rhan o Cardiff Road am 03.29 yn debyg i fod yng nghefn llwyfan y Reading Festival"

Ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-berkshire-36745839

Bydd canolfannau data Google yn cael eu pweru 100% o ffynonellau adnewyddadwy

erbyn 2017

Cadarnhaodd Google y bydd yn cyrraedd ei darged o osod 100% o'r egni a ddefnyddir yn ei ganolfannau data a swyddfeydd yn erbyn per o adnoddau cynaliadwy. Ymrwymodd y cwmni am y tro cyntaf yn 2015 i fod yn 100% adnewyddol erbyn 2017.

Mewn blog, dywedodd y cwmni mai nhw nawr ydy'r prynwr corfforaethol mwyaf o egni adnewyddadwy yn y byd. Defnyddir tanwyddau ffosil o hyd gan Google, ond maen nhw nawr yn prynu digon o drydan o ffynonellau adnewyddadwy i osod y rheiny yn erbyn yr egni a ddefnyddir yn y canolfannau data a'r swyddfeydd.

Defnyddiodd ei ganolfannau data yn unig tua 5.7 o oriau terawatt (TWh) o drydan y flwyddyn.

"Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae cost egni gwynt a solar wedi dod i lawr o tua 60% a 80%, sy'n profi mai egni adnewyddadwy ydy'r opsiwn rhad" meddai Urs Holzle, dirprwy lywydd i isadeiledd technegol.

Ychwanegodd: "Gan nad ydy'r gwynt yn chwythu am 24 awr y dydd, byddan ni hefyd yn ehangu'n pryniant i gynnwys amrywiaeth o ffynonellau egni sy'n galluogi per adnewyddadwy pob awr o bob dydd."

Mae'r datblygiad hwn gan Google wedi derbyn croeso gan Gyfeillion y Ddaear.

"Mae Google wedi cael hyd i'r ateb cywir: Mae buddsoddi mewn per adnewyddadwy yn dda i fusnes ac yn dda i'r blaned," meddai Alasdair Cameron, ymgyrchydd egni Cyfeillion y Ddaear.

Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd cwmnau, dinasoedd a hyd yn oed gwledydd cyfan yn newid i ffynonellau egni adnewyddadwy.

Er enghraifft, yn 2010, nododd asiantaeth yr amgylchfyd Yr Almaen y gall y wlad fod wedi'i phweru 100% gan ffynonellau egni adnewyddadwy erbyn 2050.

Mae Mr Cameron hefyd yn galw ar lywodraeth y DU i ddilyn l-troed Google a pharhau i fuddsoddi mewn ffynonellau egni adnewyddadwy.

Ffynhonnell wedi'i addasu: http://www.bbc.co.uk/news/technology-38227491 Gall gweithredu polisau sy'n gyfeillgar i'r amgylchfyd esgor ar nifer o fanteision:

Costau busnes is

Osgoi cosbau cyfreithiol

Gwell enw o ran busnes a brand gall cyfeillgarwch amgylcheddol fod yn arf marchnata

effeithiol iawn

Recriwtio gweithwyr sy'n ymrwymo eu hunain i amcanion moesegol y cwmni

Mwy o deyrngarwch cwsmeriaid gan nifer cynyddol o ddefnyddwyr moesegol

Llai o wastraff

Mae mwyafrif defnyddwyr yn pryderu am yr amgylchfyd. Mae gwerthiant coffi, te, siocled ac

ati Masnach Deg yn cynyddu ac mae hysbysebion sy'n dangos sut y mae busnesau'n ailgylchu ac adnewyddu'n gyffredin, er enghraifft, busnesau papur t bach yn ailblannu coed.

Mae archfarchnadoedd hefyd yn cynnig ailgylchu cynnyrch gwastraff i gwsmeriaid, fel biniau ar gyfer batris, a phwyntiau teyrngarwch am ailddefnyddio bagiau plastig. Mae rhai busnesau'n gweithio gyda grwpiau amgylcheddol ac yn frwd wrth geisio addysgu defnyddwyr am yr angen i ddiogelu'r amgylchfyd.

Fodd bynnag, i lawer o fusnesau, mae cyflwyno polisau amgylcheddol gyfeillgar yn gallu arwain at gostau uwch wrth iddyn nhw newid offer, cael hyd i gyflenwyr newydd neu addasu i brosesau newydd. Mae hyn wedyn yn gallu arwain at gostau uwch i'w cwsmeriaid a gall y rheiny benderfynu mynd i rywle arall.

(Awgrymwch ddwy ffordd y gall cynhyrchydd dillad wella ei bolisau ecogyfeillgar.Mae rhai archfarchnadoedd mawr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau wrth geisio talu'r pris isaf posibl i'r llawer o fusnesau bychain sy'n gwerthu cynnyrch bwyd iddyn nhw. Er bod yr arfer hwn yn gyfreithiol, mae rhai yn ei ystyried yn anfoesegol.Eglurwch pam mae rhai dulliau a ddefnyddir gan rai archfarchnadoedd yn cael euhystyried yn anfoesegol.Mae Burger Plus wedi derbyn cyhoeddusrwydd anffafriol am ei safonau amgylcheddol. Mae sbwriel yn broblem sylweddol y tu allan i lawer o'u bwytai prydau cyflym.Awgrymwch ac eglurwch ddwy weithred y gall y busnes eu rhoi ar waith er mwyn gwella ei enw da o ran yr amgylchfyd a moeseg.)

(Mae Greggs plc wedi mabwysiadu nifer o bolisau amgylcheddol a moesegol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfrannu bwyd na chafodd ei werthu i elusennau teuluoedd incwm isel, gwerthu cynnyrch masnach deg, lleihau costau pecynnu nwyddau, lleihau gwastraffu bwyd a lleihau'r egni a ddefnyddir yn y broses gynhyrchu.Trafodwch y manteision a'r anfanteision i fusnesau fel Greggs plc o fabwysiadu polisauamgylcheddol a moesegol.)

Dylanwadau economaidd ar weithgarwch busnes

Gall cyflwr yr economi effeithio ar weithgareddau busnes. Bydd cyflwr yr economi yn effeithio ar faint fydd defnyddwyr yn ei wario ar nwyddau a gwasanaethau. Bydd incwm defnyddwyr yn codi a syrthio yn unol nifer o ffactorau economaidd. Pan fydd incwm defnyddwyr yn codi, bydd y galw am nwyddau a gwasanaethau hefyd yn codi. Pan fydd incwm yn syrthio, bydd galw am y cynnyrch yn lleihau.

Po fwyaf y mae pobl yn ei ennill, y mwyaf y maen nhw'n ei wario. Mae busnesau chonsyrn am incwm gwario sef y swm sydd ar gael gan gartrefi i wario ar l i gynilon, trethi a chostau gorfodol eraill gael eu didynnu (deducted). Er enghraifft:

Mae teulu ag incwm o 120 000

Mae'n rhaid i'r teulu dalu cyfradd treth incwm o 40%.

Byddai incwm gwario'r teulu wedyn yn 72 000 (120 000 - 48 000).

Incwm gwario ydy'r hyn y mae busnesau'n ei obeithio y bydd defnyddwyr yn ei wario ar nwyddau a gwasanaethau. Os ydy cyflogau'n codi'n gyflymach na phrisiau, yna, bydd incwm gwario'n cynyddu ac mae hyn yn arwain at lefelau uwch o wario.

(Ystyriwch effaith y sefyllfaoedd canlynol ar fusnesau:Cynnydd cyffredinol yn incwm gwario'r holl ddefnyddwyrCynnydd yn incwm gwario teuluoedd ag incwm iselLleihad yn incwm gwario cartrefi sy'n ennill mwy na'r cyfartaledd cenedlaethol.Lleihad yn incwm gwario pobl sydd wedi ymddeol.)

Mae yna nifer o ffactorau a fydd yn dylanwadu ar lefel incwm defnyddwyr; mae'r rhain yn cynnwys:

Cyfraddau trethi

Diweithdra

Cyfraddau llog

Chwyddiant

Trethiant

Caiff treth ei dalu i'r Llywodraeth gan unigolion a busnesau. Caiff yr incwm a gesglir trwy'r dreth ei wario gan y Llywodraeth ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus megis y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, addysg, cartrefi, amddiffyn ac ati.

Mae talu treth yn orfodol a chyfrifir maint y taliad trwy ganran enillion.

Mae yna sawl math gwahanol o dreth sy'n daladwy yn y DU; fodd bynnag, does ond angen i

chi wybod am y mathau canlynol:

Treth incwm

Yswiriant Gwladol

Treth ar Werth (TAW)

Treth gorfforaeth

Trethi busnes.

Yn fras, gellir rhannu trethi'n ddau fath. Trethiant uniongyrchol (treth ar incwm) a threthiant anuniongyrchol (trethi ar wariant). Mae treth incwm, Yswiriant Cenedlaethol a Threth Gorfforaethol yn enghreifftiau o drethiannau uniongyrchol. Mae TAW a Threthi Busnes yn enghreifftiau o drethiannau anuniongyrchol.

Mae'n rhaid i unigolion dalu trethi uniongyrchol yn uniongyrchol i'r llywodraeth - nid oes modd osgoi talu'r dreth hon drwy ei throsglwyddo i rywun arall. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng faint y mae person yn ei ennill a faint o dreth y mae'n rhaid iddo/iddi ei dalu. Mae trethi uniongyrchol yn gynyddol (y mwyaf yn y byd yr ydych chi'n ei ennill, y mwyaf yn y byd yr ydych yn ei dalu).

Treth ar wariant ydy treth uniongyrchol ac nid ar incwm. Mae'r nwyddau neu'r gwasanaeth

sy'n cael eu prynu yn cael ei drethu waeth faint ydy enillion person; mae pawb yn talu'r

un gyfradd o dreth ar nwyddau neu wasanaeth. Mae busnesau sy'n gorfod talu trethi anuniongyrchol yn aml yn pasio'r gost hon i ddefnyddwyr trwy godi eu prisiau. Gelwir trethi uniongyrchol yn drethi atchwel (regressive taxes) oherwydd nad ydyn nhw'n seiliedig ar y gallu i dalu.

Treth incwm

Treth ar incwm person ydy Treth Incwm; mae'r math yma o dreth yn ddidyniad statudol (rhaid ei dalu) o gyflog gweithiwr. Mae gan bob person lwfans treth incwm personol ac mae incwm hyd at y swm yma, ym mhob blwyddyn dreth, yn rhydd o dreth. 11 000 oedd lwfans hwn yn 2016/17)

Mae pobl sy'n ennill gwahanol lefelau o incwm yn talu symiau gwahanol o dreth incwm; y mwyaf mae person yn ei ennill, y mwyaf ydy canran o'i incwm mae'n ei dalu mewn treth. Ar hyn o bryd, mae 3 band treth gwahanol sy'n dangos faint o dreth y mae'n rhaid ei dalu (am 2016/17)

Cyfradd y dreth

Incwm

Canran o dreth sydd i'w dalu

Lwfans personol

Hyd at 11 000

0%

Sylfaenol

11 001 - 43 000

20%

Uwch

43 001 - 150 000

40%

Ychwanegol

Dros 150 000

45%

Pe byddai unigolyn yn ennill 30 000 yna fe fyddai'n talu'r dreth incwm canlynol i'r Llywodraeth:

0 - 11 000 = 0

11 0001 to 30 000 = 20%

Felly, mae 18 999 yn cael ei drethu ar 20% = 3799.80 ydy swm y dreth incwm y mae'n

rhaid ei dalu.

Felly, bydd gan y person yma incwm o 26 200.20 ar l tynnu'r dreth incwm.

(30)

(Nodwch y gyfradd dreth gywir a chyfrifwch y swm sy'n cael ei dalu a'r incwm ar l treth ar gyfer y bobl ganlynol:Mae Harry Smith yn rheolwr cwmni gwerthu cyfrifiaduron ac mae'n ennill 36 000 y flwyddynMae Julie Vaughan yn uwch-reolwraig ac yn gweithio i'r Gwasanaeth IechydCenedlaethol; mae hi'n ennill 120 000 y flwyddynMae Dale Phillips yn gweithio fel plymar dan hyfforddiant ac mae'n ennill 14 000 y flwyddynMae Hannah Ainsley yn gweithio rhan-amser mewn bwyty lleol ac mae hi'n ennill 10 000 y flwyddyn.)

Yswiriant Gwladol

Mae'n rhaid i unigolion dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn talu am fudd-daliadau'r

wladwriaeth, yn cynnwys y pensiwn gwladol.

Defnyddir Yswiriant Gwladol nawr i dalu am:

Y GIG (NHS)

Budd-daliadau i'r di-waith

Lwfansau salwch ac anabledd

Y pensiwn gwladol

Rhaid i unigolion dalu Yswiriant Gwladol os ydyn nhw'n 16 oed neu'n hn, gweithiwr sy'n ennill dros 155 yr wythnos neu'n hunangyflogedig ac yn gwneud elw o 5 965 neu fwy'r flwyddyn. Os nad yw person yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol (er enghraifft, os ydyn nhw'n ddi-waith) yna, efallai na fydden nhw'n derbyn budd-daliadau neu'r cyfraddau llawn ohonyn nhw, megis y pensiwn gwladol.

Rhoddir rhif Yswiriant Gwladol i unigolion sy'n cael ei ddefnyddio i adnabod y swm a dalwyd trwy gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae'r swm sy'n cael ei dalu wedi'i gysylltu'n uniongyrchol a'r swm sydd wedi'i ennill - er bod iddo raddfa a strwythur bandio llawer mwy cymhleth na'r Dreth Incwm.

Yn ogystal ag unigolion yn talu Yswiriant Gwladol, rhaid i gyflogwyr hefyd wneud cyfraniadau dros y bobl maen nhw'n eu cyflogi; caiff hyn ei seilio ar ganran enillion y gweithiwr.

Caiff Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol eu talu'n uniongyrchol i'r Llywodraeth trwy'r system Talu wrth ennill (PAYE) ac mae'n cael ei dynnu'n uniongyrchol o'r tl y mae unigolyn yn ei ennill. Nodir y swm sy'n cael ei dalu ar slipiau cyflog.

Treth ar Werth (TAW)

Treth ar nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu prynu yw TAW. Codir TAW ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau y mae defnyddwyr yn eu prynu (fel trainers a thocynnau sinema) ac ar nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu prynu gan fusnesau (megis gwasanaethau cyfrifo ac inc argraffwyr). Codwyd cyfradd safonol TAW i 20% ar 4 Ionawr 2011 (o 17.5%).

(31)

Cyfraddau TAW am nwyddau a gwasanaethau

Cyfradd safonol

20%

Most goods and services

Cyfradd ostyngol

(reduced rate)

5%

Rhai nwyddau a gwasanaethau, e.e. Seddi car plant ac egni'r

cartref

Cyfradd sero

0%

Nwyddau a gwasanaethau cyfradd sero, e.e. y rhan fwyaf o

fwydydd, stampiau postio a dillad plant

Fel arfer, mae bwyd a diod ar gyfer pobl chyfradd sero, ond mae rhai eitemau chyfradd safonol, yn cynnwys diodydd meddwol, melysion, creision a byrbrydau sawrus, bwyd poeth, diodydd chwaraeon, bwyd poeth cyflym, hufen i, diodydd meddal a dr mwynol.

Mae addysg gorfforol a gweithgareddau chwaraeon, betio a bingo, tocynnau loteri, tl mynediad i amgueddfeydd, arddangosfeydd celf, sau a pherfformiadau, digwyddiadau codi arian at achosion da, triniaeth feddygol neu gofal sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad cymwys megis ysbyty, hosbis neu gartref nyrsio, addysg, hyfforddiant galwedigaethol a gwasanaethau eraill cysylltiol sy'n cael ei ddarparu gan gorff dilys megis ysgol, coleg neu brifysgol i gyd wedi'u heithrio neu gradd TAW o sero.

(Pa effaith ar ddefnyddwyr fydd codiad yng nghyfradd TAW yn ei gael?Enghraifft o dreth anuniongyrchol ydy TAW; beth mae hyn yn ei feddwl?Pam mae rhai nwyddau a gwasanaethau wedi'u heithrio neu chyfradd is o TAW?)

Treth Gorfforaeth

Mae busnesau anghyfyngedig megis unig fasnachwyr a phartneriaethau a chwmnau cyfyngedig yn cael eu trethu'n wahanol:

Mae cwmni cyfyngedig yn cael ei drethu fel endid cyfreithiol ar wahn i'w berchenogion a'i gyfarwyddwyr tra mae unig fasnachwyr a phartneriaid a'i busnesau'n cael eu trethu fel un endid sengl. Mae'n ofynnol i gwmnau cyfyngedig dalu Treth Gorfforaeth ar eu helw blynyddol.

Mae unig fasnachwyr a phartneriaid yn cael eu trethu drwy system hunanasesu'n flynyddol, ac maen nhw'n talu cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol ar elw eu cwmnau ar l didyniadau am gostau.

20% yw cyfradd Treth Gorfforaeth ar elw cwmni ar hyn o bryd.

Codir 20% o Dreth Gorfforaeth ar gwmnau cyfyngedig o unrhyw faint O ran unig fasnachwr neu bartneriaeth, mae elwau'n cael eu trethu ar raddfa o 40% ar incwm trethadwy sy'n uwch na 32 001 a 45% ar incwm trethadwy sy'n uwch na 150 000 (cyfraddau'n gywir am 2016/17).

(Gan ddefnyddio'r ffigurau uchod, eglurwch fanteision gweithredu fel cwmni cyfyngedig ynhytrach na fel unig fasnachwr neu bartneriaeth.)

Mae Treth Gorfforaeth yn cael ei dalu ar elwon cwmni ac yn cael ei dalu cyn i gyfranddalwyr dderbyn eu buddran. Weithiau, mae'n cael ei alw'n Dreth Gorfforaeth neu Dreth Busnes ac mae'n enghraifft arall o drethu uniongyrchol. Mae'r dreth yn cael ei gyfrifo o elwon net a enillir gan y cwmni.

Mae elwon sy'n cael eu trethu'n cynnwys yr arian y mae cwmni'n ei wneud o fasnachu, unrhyw fuddsoddiadau sydd ganddyn nhw a thrwy werthu unrhyw asedau am elw.

Os ydy cwmni sydd wedi'i leoli'n y DU yn gwerthu dramor, yna, mae'n rhaid iddo dalu Treth Gorfforaeth am yr holl elw sydd wedi'i wneud yn y DU a thramor. Os nad yw'r cwmni wedi'i leoli yn y DU ond yn cynnal swyddfa neu gangen yno, mae'n talu Treth Gorfforaeth ar yr elw sy'n cael ei wneud drwy weithgareddau yn y DU.

(CYFRADD TRETH CORFFORAETHOL DU% CYFRADD TRETH)

(Disgrifiwch beth sydd wedi digwydd i gyfraddau Treth Gorfforaethol yn ystod y 10mlynedd diwethaf.Pam fyddai llywodraethau eisiau lleihau'r gyfradd Dreth Gorfforaethol?)

Yn ddiweddar, bu achosion proffil uchel o fusnesau mawrion yn osgoi talu trethi:

Dicter oherwydd bod Cadbury yn osgoi talu treth

Y mae'r undeb sy'n cynrychioli gweithwyr yn

ffatri siocled Cadbury wedi ymateb gyda dicter i'r newyddion nad oedd ei riant-gwmni wedi talu Treth Gorfforaeth y DU. Adroddodd y Sunday Times bod Mondelez International " yn gyfreithiol wedi osgoi talu degau o filoedd" mewn treth ers iddo gymryd Cadbury drosodd bum mlynedd yn l. Yn 2014, fe wnaeth elw o 149m.

Dywedodd Joe Clarke o'r undeb Unite: "Yn

sgil troedio clyfar gan gyfrifwyr galluog, mae'r Trysorlys wedi colli miliynau o bunnoedd mewn

treth gorfforaeth a all fod wedi cael ei wario ar y GIG a gwasanaethau eraill sydd mawr eu

hangen.

Tra bo'r canghellor wedi colli yr hyn a oedd yn ddyledus iddo gan Mondelez, mae cyfranddalwyr yn gloddesta ar daliadau buddran o 1.3bn."

Mewn ymateb i feirniadaeth am ei weithgareddau treth, dywedodd Mondelez International: "Rydym yn cydymffurfio chyfreithiau treth y DU ac fel pob busnes byd-eang, yn talu trethi yn unol chyfreithiau'r wlad lle rydym yn gweithredu.

"Rydym wedi buddsoddi dros 200m i ddyfodol ein busnes yn y DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac rydym yn cyfrannu 1.06bn i'r economi."

Dywedodd Margaret Hodge o'r Blaid Lafur, sy'n cadeirio grp holl-bleidiol y T Cyffredin ar drethu cyfrifol wrth y Sunday Times y byddai'r Crynwyr a sefydlodd Cadbury yn Birmingham yn 1824 yn "troi yn eu beddau".

Dywedodd: "Mae gan Cadbury hanes balch o fuddsoddi yn ei gymunedau. Ac mae'r cwmni Americanaidd hwn yn osgoi talu trethi tra'n defnyddio ein gweithlu a'n isadeiledd. Mae hyn yn ddifrifol o hunanol ac yn dangos dirmyg at y bobl sy'n prynu eu nwyddau."

Ffynhonnell wedi'i addasu : http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-birmingham-35027160

(Starbucks yn talu 8m mewn treth wrth i'w elw gynydduMae Starbucks UK wedi talu mwy na 38m mewn treth yn ystod y 12 mis diwethaf yn sgilgwneud yr elw mwyaf erioed.Neidiodd elwon cyn-treth i 34.2m yn ystod y flwyddyn i 27 Medi, i'w gymharu llai na 2m yn ystod y flwyddyn flaenorol.Cynyddodd gwerthiant o 3.8% wedi i'r cwmni fuddsoddi'n sylweddol mewn ymdrech i wella. Dywedodd cangen y DU o gadwyn coffi mwya'r byd yn 2012 y byddai'n talu llawer mwy o dreth yn dilyn bonllefau o brotest gan y cyhoedd ynghylch cyn lleied yr oedd wedi'i dalu.Cyn 2012, dim ond 8.6m o Dreth Gorfforaeth a dalodd y cwmni yn ystod ei 14 blynedd o fasnachu yn y DU, a hynny er gwaethaf gwerthiant a oedd yn werth biliynau o bunnoedd. Er enghraifft, yn 2011, cofnododd y cwmni werthiant o bron i 400m.Sut y mae pethau wedi newid. Eleni, bydd Starbucks yn talu'r un faint o dreth ag a wnaeth yn ystod ei 15 mlynedd gyntaf o weithredu yn y DU, lle ddechreuodd fasnachu yn 1998.34)

(TGAU Busnes Dylanwadau ar Fusnes)

(Am lawer o flynyddoedd, ni dalodd unrhyw Dreth Gorfforaeth a denodd hyn feirniadaeth lu. Collodd y ddadl dreth gwsmeriaid i Starbucks ac nid oedd hynny'n gynaliadwy ym marchnad gystadleuol coffi.Ffynhonnell wedi'i addasu: http://www.bbc.co.uk/news/business-35102462)

Trethi busnes

Treth sy'n cael ei dalu gan fusnes sy'n seiliedig ar yr eiddo lle mae'n gweithredu yw trethi

busnes. Codir y trethi hyn ar y rhan fwyaf o eiddo nad ydynt yn gartrefi, megis:

Siopau

Swyddfeydd

Tafarnau

Warysau

Ffatroedd

Tai gwyliau i'w gosod neu westai (guest houses)

Defnyddio adeilad neu ran o adeilad i bwrpasau eraill yn hytrach na byw ynddo. (rhedeg busnes o gartref).

Mae trethi Busnes yn cael eu talu i gynghorau neu awdurdodau lleol ac maen nhw'n seiliedig ar werth ardrethol (rateable value) yr eiddo. Yn 2016, cododd trethi busnes dros 27 biliwn i gynghorau yn y DU. Mae trethi busnes yn enghraifft o dreth anuniongyrchol.

Effeithiau newid yn y dreth

Gall y Llywodraeth newid ei bolisi ar drethiant bob blwyddyn. Gall gynyddu'r hyn y mae'n rhaid ei dalu er mwyn cynyddu'r swm o arian mae'n ei dderbyn (i'w wario ar GIG, ysgolion ac ati), neu gall leihau'r dreth er mwyn annog mwy o wariant yn yr economi.

Bydd cynyddu neu leihau trethi'n dylanwadu ar lefel gwariant defnyddwyr ac yn effeithio ar

y mwyafrif o fusnesau.

Er enghraifft, os yw'r llywodraeth yn dewis lleihau lefel Treth Incwm, bydd hyn yn cynyddu galw ymhlith defnyddwyr oherwydd bydd eu hincwm gwario'n codi. Ar y llaw arall, bydd cynnydd mewn TAW yn cael effaith i'r gwrthwyneb, gyda lleihad yn y galw am nwyddau a gwasanaethau wrth iddyn nhw ddod yn fwy drud.

Bydd busnesau'n ceisio trosglwyddo costau uwch o'r fath i'w cwsmeriaid os y gallan nhw, ond bydd hyn yn dibynnu ar y lefel o gystadleuaeth maen nhw'n ei wynebu yn y farchnad.

Bydd cyfraddau uwch o dreth gorfforaeth neu drethi busnes yn cynyddu costau busnesau. Mae yswiriant gwladol (sy'n cael ei dalu gan y cyflogwr a'r cyflogai) weithiau'n cael ei ddisgrifio fel treth ar swyddi, gan fod cynnydd yn y dreth hon yn arwain at gostau uwch o ran cyflogi gweithwyr.

(35)

1. Mae'r Llywodraeth yn cynyddu TAW o 20% i 25%. Cost y nwyddau canlynol cyn

ychwanegu TAW ydy:

Crys 7.50 Gliniadur 400 Car 15 000

Cyfrifwch y gost i'r defnyddiwr ar sail TAW o 20% a 25% gan gymryd y bydd y busnes yn trosglwyddo'r holl dreth TAW i'r cwsmer.

2. Mae'r Llywodraeth yn cynyddu'r lwfans personol ar y dreth incwm o 11 000 i 12 000. Sut y mae hyn yn effeithio ar incwm gwario defnyddwyr?

3. Mae'r cyngor lleol yn penderfynu cynyddu ardrethi busnes. Sut y bydd hyn yn effeithio ar fusnesau? Sut gallan nhw ymateb?

4. Caiff Treth Gorfforaeth ei leihau i 15%. Sut y bydd hyn yn effeithio ar wahanol ran- ddeiliaid busnes?

5. Cwblhewch y tabl isod trwy ysgrifennur egwyddorion sydd ar goll:

Treth

Gweithred

Y Canlyniad Tebygol

Treth Incwm

Wedi'i leihau

Treth Incwm

Wedi'i gynyddu

TAW

Wedi'i leihau

TAW

Wedi'i gynyddu

Treth Gorfforaeth

Wedi'i leihau

Treth Gorfforaeth

Wedi'i gynyddu

Diweithdra

Mae pobl yn ddi-waith pan nad oes ganddyn nhw swydd. Mae pobl yn chwilio am waith, ond, am ryw reswm, nid ydyn nhw'n gallu cael swydd. Cyfradd diweithdra ar gyfer sir ydy'r nifer o bobl sy'n methu chael hyd i swydd. Pan mae'r economi'n gwneud yn dda, mae diweithdra'n tueddu i fod yn isel, ond mewn cyfnodau o enciliad (recession) neu pan nad ydy'r economi'n gwneud mor dda, mae diweithdra'n tueddu i gynyddu.

Cyfrifir cyfradd diweithdra fel canran drwy rannu'r nifer o unigolion di-waith gyda'r holl

unigolion sydd yn y gweithlu cyfan.

Darllenwch y darn canlynol ac atebwch y cwestiynau syn dilyn: Diweithdra yn y DU ar ei lefel isaf am 11 mlynedd Tachwedd 2016

Gostyngodd diweithdra yn y DU o 37 000 i 1.6 miliwn yn ystod y tri mis i fis Medi, y lefel isaf er 11 o flynyddoedd.

Yn l y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS), yn ystod yr un cyfnod, syrthiodd y gyfradd ddi-waith o 4.8%, tra cododd nifer y bobl a oedd mewn gwaith o 49 000.

Mae Banc Lloegr wedi darogan y bydd diweithdra'n codi oherwydd ansicrwydd ynghylch Brexit. Fodd bynnag, dywedodd yr ONS bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos diweithdra ar ei lefel isaf ers y tri mis i fis Medi 2005.

Dangosodd y ffigyrau bod cyfanswm y bobl mewn swyddi wedi aros ar y canran uchaf a gofnodwyd, sef 31.8 miliwn.

Dywedodd un ystadegydd, David Freeman: " Mae diweithdra ar ei lefel isaf mewn mwy na 10 mlynedd ac mae'r gyfradd o gyflogaeth ar yr uchaf a gofnodwyd. Fodd bynnag, mae arwyddion bod y farchnad lafur yn oeri gyda thwf cyflogaeth yn arafu."

Nododd dadansoddwyr bod y cyflymder mewn twf swyddi'n arafu gan roi hynny i lawr i effeithiau pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ofnau ynghylch recriwtio

Dywedodd Ruth Gregory, economegydd y DU gyda Capital Economics, "Mae'r bleidlais i

adael yn dechrau llethu'r adfywiad mewn swyddi.

"Arafodd y twf mewn cyflogaeth yn ddisymwth - gyda'r cynnydd o 49 000 yn y tri mis i fis Medi i lawr o'r 106 000 ym mis Awst ac yn sylweddol is na'r 91 000 gafodd ei ragweld." Dywedodd y Siambrau Masnach Prydeinig bod Brexit yn taflu dr oer ar fwriad cyflogi cwmnau "ac y byddai hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar lefelau cyflogaeth y DU."

Galwodd y BBC ar Philip Hammond, y Canghellor, i gynnwys mesurau yn Natganiad yr Hydref, a oedd i'w gyhoeddi'r wythnos ganlynol, a fyddai'n " cefnogi cwmnau i recriwtio a buddsoddi yn eu gweithluoedd, yn cynnwys mesurau i gynyddu buddsoddiadau a lleihau costau sy'n cael eu talu ymlaen llaw."

(Ffynhonnell a addaswyd: http://www.bbc.co.uk/news/business-37997713Cynyddodd nifer y di-waith o 213 000 i 4.79 miliwn - 15.1% o'r holl bobl sydd mewn gwaith.Gan gyfeirio at y graff ar ddiweithdra, disgrifiwch y duedd yn ystod yr 16 mlynedddiwethaf.Beth ydych chi'n meddwl yw ystyr "Arafodd y twf mewn cyflogaeth yn ddisymwth"?Sut gall y llywodraeth helpu busnesau i recriwtio rhagor o weithwyr?)

Prif effaith diweithdra yw lleihaur galw am nwyddau a gwasanaethau. Yn ystod argyfwng economaidd 2008, gwelwyd y nifer o bobl ddi-waith yn cyrraedd tair miliwn, a chafodd hyn effaith sylweddol ar werthiannau ac archebion busnesau yn y DU. Roedd llawer o fusnesau yn gweld goroesi fel eu prif nod wrth i'r galw gan ddefnyddwyr leihau cymaint. Gall y lleihad hwn yn y galw arwain at ostyngiad yn yr hyn a gynhyrchir, ac wedyn diswyddiadau posibl gan nad oes angen rhai gweithwyr.

Mae diweithdra'n achosi problemau i ddefnyddwyr, busnesau a'r llywodraeth:

Defnyddwyr - lleihad mewn incwm os ydyn nhw'n colli gwaith, yn arwain at ostyngiad mewn safonau byw, y straen o gael hyd i swydd newydd os nad ydy busnesau'n recriwtio ac effeithiau cymdeithasol ac emosiynol bod yn ddi-waith.

Busnesau - gostyngiad yn incwm defnyddwyr yn arwain at ostyngiad yn y galw am eu nwyddau a'u gwasanaethau, problemau ariannol os ydyn nhw'n fusnes bach neu'n fusnes heb ddim neu ond ychydig o elw wedi'i gadw wrth gefn.

Y Llywodraeth - gostyngiad yn y refeniw o dreth incwm, TAW a Threthi Corfforaeth a chynnydd mewn taliadau budd-dal (llai o incwm a mwy o daliadau).

Lefelau cyflogaeth a gweithgaredd economaidd

Mae lefelau cyflogaeth yn tueddu i godi a syrthio wrth i'r economi dyfu a gostwng; Mae manteision ac anfanteision i fusnes yn hyn o beth:

Twf economaidd

Mae galw uchel gan ddefnyddwyr am nwyddau a gwasanaethau.

Mae busnesau angen gweithwyr er mwyn cyfarfod ag angen y defnyddwyr.

Mae rhan fwyaf o bobl sydd eisiau swydd eisoes mewn gwaith.

Er mwyn denu gweithwyr newydd, mae'n rhaid i fusnesau gynnig cyflogau uwch.

Bydd busnesau'n wynebu mwy o anhawster wrth geisio recriwtio rhywun sydd 'r sgiliau a'r rhinweddau ar gyfer y swydd.

Enciliad/cwymp

Mae galw'n isel gan ddefnyddwyr am nwyddau a gwasanaethau, gan fod pobl llai o

incwm gwario i'w wario.

Mae nifer mawr o bobl yn ddi-waith ac yn edrych am waith.

Os yw busnesau'n penderfynu cyflogi gweithwyr newydd, maen nhw'n gallu dewis o blith

llawer o ymgeiswyr.

Bydd cyflogau'n aros yn isel cyn belled ag y bo diweithdra'n uchel.

Cyfraddau llog

Y gyfradd llog yw pris benthyca neu gynilo arian drwy ddefnyddio banc, cymdeithas adeiladu neu fenthyciwr arall. Bydd cynnyrch megis gorddrafftiau, cardiau credyd, benthyciadau neu morgeisi'n costio arian i'r benthyciwr ar ffurf gyfradd llog. Bydd y benthyciwr yn gwneud arian ar y trosglwyddiad trwy'r gyfradd llog.

Er enghraifft, mae Paula Kelly yn benthyca 10 000 gan y banc i dalu am gar newydd. Mae hi wedi cytuno talu'r swm yn l i'r banc dros gyfnod o 5 mlynedd ar gyfradd llog a 9.9%.

209.91 yw ei thaliadau misol am gyfnod o 60 mis (5 mlynedd). 12 594.46 yw'r cyfanswm a ad-delir ac felly cost y benthyciad iddi hi ydy 2 594.46.

Roedd y gyfradd llog a godwyd gan y banc yn 9.9%, Pe byddai hi wedi siopa o gwmpas, byddai wedi cael gwell cyfradd llog gan fanc arall, er enghraifft, roedd gan fenthyciwr arall gyfradd o 7.5% Pe byddai hi wedi cael y benthyciad gan y banc yma, byddai rhaid iddi dalu