Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95...

22
Systemau Pesgi W ˆ yn Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru Hybu Cig Cymru Meat Promotion Wales www.hccmpw.org.uk

Transcript of Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95...

Page 1: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Systemau Pesgi Wyn Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru

Hybu Cig CymruMeat Promotion Wales

www.hccmpw.org.uk

Page 2: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Rhagair

Mae systemau pesgi w yn sydd yn gost-effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn cael y cynnyrch a phroffidioldeb gorau posibl. Mae’r llyfryn hwn yn arweiniad ymarferol sy’n rhoi sylw i brif elfennau systemau pesgi w yn sydd yn addas ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru.

Yn ogystal â’r agweddau ariannol, mae’r llyfryn hwn yn rhoi gwybodaeth hefyd am ofynion ffisegol ac amgylcheddol pob system pesgi ac yn rhoi sylw i’r manteision ac anfanteision.

Yn olaf, mae’r llyfryn yn ymchwilio i bwysigrwydd cynllunio iechyd a chael rhaglen drylwyr o frechu a rheoli parasitiaid er mwyn gwneud yn siw r fod yna gyn lleied â phosibl o golledion. Hefyd, rhoddir sylw i ychwanegu elfennau hybrin pan fo diffygion yn gyffredin mewn systemau penodol.

Cynnwys

Rhagair 1

Y dewisiadau yngly n â phesgi w yn yng Nghymru 2

Pwysigrwydd dewis yn dda 4

Pryd ddylid gwerthu w yn stôr? 7

Economeg pesgi w yn 9

Deall gofynion porthiant w yn sy’n tyfu 11

Systemau pesgi yn yr awyr agored 12

Pesgi ar laswellt ar ôl diddyfnu 13

Glaswellt a phorthiant atodol 15

Porfwydydd amgen – tir glas meillion a sicori 18

Cnydau porfwyd 21

Systemau Pesgi dan Do 24

Dognau silwair 27

Dwysfwydydd ad-lib 29

Sgil-gynhyrchion 33

Iechyd anifeiliaid 35

Effaith twf ar ansawdd bwyta’r cig 37

Pwyntiau allweddol i’w hystyried 37

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Mae’n hanfodol cael y

gorau posibl

1

cynnyrch a’r proffidioldeb

”Hybu Cig Cymru – Meat Promotion WalesTy Rheidol, Parc Merlin, Aberystwyth, SY23 3FFFfôn: 01970 625050 Ffacs: 01970615148Ebost: [email protected] www.hccmpw.org.ukGorffennaf 2018 Dylunio gan: VWD DesignCynnwys Technegol: ADAS UK LtdLluniau: HCC a ADAS UK Ltd

Page 3: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Y dewisiadau yngly n â phesgi w yn yng Nghymru

Mae topograffeg amrywiol Cymru a’r nifer fawr o fridiau a chroesfridiau defaid yn golygu bod yna amrywiaeth eang o systemau. Y canlynol yw’r dewisiadau mwyaf cyffredin ac ymarferol ar gyfer pesgi w yn:

a. Systemau awyr agored

• Pesgi ar laswellt yn unig • Glaswellt ynghyd ag atchwanegion • Defnyddio meillion a sicori (mewn tir glas cymysg neu unfath) • Cnydau porfwyd (e.e. rêp pori, cêl, maip sofl, erfin a betys porthiant)

b. Systemau dan do

• Silwair (ynghyd â phorthiant cyfansawdd neu fwyd wedi’i gymysgu ar y fferm) • Dwysfwydydd ad-lib • Defnyddio sgil-gynhyrchion llaith (e.e. grawn bragwr)

Mae rhagweld a chyllido gofalus yn hanfodol ar gyfer pob system. Bydd y system a ddewisir yn dibynnu ar y math o w yn, eu pwysau a chost ac argaeledd cyflenwadau porthiant. Gall fod yn anodd iawn gwneud elw naill ai ar gyfer w yn wedi’u magu ar y fferm neu w yn wedi’u prynu.

Mae’n hollbwysig rhoi’r w yn mewn grwpiau yn unol â’r cyfnod pesgi a ragwelir er mwyn lleihau costau porthiant ac osgoi cynhyrchu w yn sy’n rhy dew adeg eu lladd. Os nad yw w yn bodloni’r rhagofynion, gall y bydd yna gosb ariannol sy’n gostwng y pris a’r elw.

Gwella ôl-troed carbon cynhyrchu w yn trwy fod yn fwy effeithlon

Yr her sy’n wynebu cynhyrchwyr defaid yng Nghymru yw cynhyrchu’n fwy effeithlon, a fydd yn ei dro yn lleihau allyriadau methan.

Y ffactorau sy’n dylanwadu ar yr ôl-troed carbon ar ffermydd defaid yw’r ganran fagu, y math o dir, y gyfradd stocio, faint o borthiant sy’n cael ei brynu a geneteg y ddiadell. Darganfu astudiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2010 fod gan systemau magu a phesgi effeithlon ôl-troed carbon is am fod y ganran fagu a chyfraddau twf yr anifeiliaid yn uwch oherwydd gwell dietau pesgi.

Mae rhagor o fanylion ar gael mewn llyfryn gan HCC ‘Lleihau allyriadau methan trwy wella cynhyrchu cig oen’.

32

Yr her sy’n wynebu cynhyrchwyr defaid yng Nghymru yw

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

cynhyrchu’n fwy effeithlon”

Page 4: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Gall deall y perfformiad oes sydd ei angen i gyrraedd pwysau targed erbyn oed penodol fod o gymorth wrth gynllunio system pesgi w yn, ac mae hefyd yn ddefnyddiol o ran monitro perfformiad. Mae’r tabl isod yn dangos y cynnydd dyddiol mewn pwysau byw sydd ei angen er mwyn cyrraedd amrediad o bwysau pesgi rhwng 3 a 12 mis oed. Er enghraifft, er mwyn i w yn gyrraedd 42 kg pwysau byw yn 5 mis oed, bydd rhaid iddyn nhw ennill 250g y dydd drwy gydol eu hoes.

Y cynnydd dyddiol mewn pwysau byw sydd ei angen er mwyn cyrraedd amrediad o bwysau adeg gorffen pesgi.

Gall y cyfraddau twf cyfartalog ar gyfer w yn sy’n gorffen pesgi yn 9-12 mis oed fod yn llai na 100g y dydd, ond dylid anelu at gyfraddau twf uwch o dipyn cyn diddyfnu’r w yn. Bydd cael y cyfraddau twf gorau posibl cyn diddyfnu yn manteisio ar y modd y mae anifeiliaid ifainc yn gallu trosi porthiant yn well nag w yn hy n, a bydd hefyd yn golygu bod angen llai o atchwanegion yn hwyrach yn y flwyddyn Ar ôl cael eu diddyfnu gall w yn dyfu’n arafach ar borthiant cost-isel cyn y cyfnod o besgi terfynol. Trwy bwyso w yn yn rheolaidd drwy gydol y tymor, mae modd cymhwyso maint y bwyd os oes angen.

Pwysigrwydd dewis yn dda

Mae modd marchnata w yn mor ifanc â 10 wythnos oed o ddiadelloedd sy’n wyna’n gynnar, neu gellir cadw w yn hyd nes eu bod yn 12 mis oed mewn systemau pesgi stôr hirdymor. Bydd yr enillion gorau gan gynhyrchwyr ag w yn o fath a phwysau sy’n addas ar gyfer eu system, sy’n gwneud defnydd da o borfwyd cartref ac sy’n marchnata eu hw yn er mwyn cael yr enillion gorau posibl. Yn aml nid oes defnydd llawn yn cael ei wneud o laswellt, yn enwedig, ac felly gall rheoli pori’n effeithiol wella perfformiad cyffredinol y ddiadell a lleihau’r angen am brynu bwydydd drud.

Perfformiad oes w yn

Bydd prisiau w yn yn amrywio yn ôl cyflenwad a galw tymhorol, a byddant fel arfer ar eu huchaf ym misoedd Ebrill/Mai cyn disgyn yn gyflym o fis Mehefin ymlaen. Ceir y prisiau isaf ddiwedd yr haf ac yn yr hydref cyn iddynt godi ar ôl diwedd y flwyddyn. Gall cynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn targedu prisiau uwch olygu gwell enillion, ond rhaid ystyried argaeledd porthiant, cymorth i wneud y gwaith ac adnoddau eraill.

Unwaith y mae cyfnod y gwerthu wedi ei ddewis, mae modd penderfynu’r amser gorau i wyna. Bob diwrnod y bydd oen ar y fferm, bydd yn costio arian; mewn systemau hirdymor, yr unig ffordd o fod yn broffidiol yw cadw costau’r system yn isel. Mae’n annhebygol y bydd systemau sy’n dibynnu ar ddefnyddio llawer o ddwysfwydydd ar gyfer mamogiaid ac w yn yn rhoi elw da.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

54

Mae’r tabl uchod yn rhagdybio pwysau geni cyfartalog o 4kg

3 4 6 7 8 9 10 11 12g/ y dydd

Oed gorffen pesgi (misoedd)

285307329351373395416438

214230247263279296312329

142153164175186197208219

122132141150160169178188

107115123132140148156164

95102110117124132139146

859299

105112118125132

78849096

102108114120

717782889399

104110

Pwys

au b

yw

yn g

orff

en p

esgi

(kg)

5

171184197211224237250263

3032343638404244

Page 5: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

A ddylid gwerthu w yn stôr neu w yn sydd wedi pesgi?

Pan fo w yn sy’n pesgi yn cystadlu am adnoddau’r fferm (tir, adeiladau neu lafur) yn erbyn stoc bridio, gall hynny amharu ar berfformiad y fenter ddefaid gyfan (neu fentrau eraill ar y fferm). Felly, mewn rhai sefyllfaoedd gall fod yn fanteisiol yn ariannol i werthu w yn stôr yn hytrach na’u pesgi.

Dylid ystyried yn ofalus a ddylid pesgi w yn ar y fferm ynteu eu gwerthu’n stôr. Gall cadw w yn ar borfa dros y gaeaf gael effaith andwyol o ran faint o laswellt sydd ar gael yn y gwanwyn a phori diogel. Ymhlith ystyriaethau eraill, mae magu w yn gwryw heb eu hysbaddu ac a oes modd eu cadw ar wahân i’r defaid benyw.

Sut mae penderfynu?

• Ymgyfarwyddwch â’ch marchnad a’r math o w yn sydd eu hangen;

• Trafodwch a phwyswch yr w yn yn rheolaidd er mwyn cymharu perfformiad â thargedau ac i wneud yn siw r nad yw’r w yn yn mynd yn rhy dew;

• Os ydych yn gwerthu yn ôl pwysau marw, edrychwch ar y dalennau graddio i weld a yw’r w yn wedi bodloni’r rhagofynion;

• Trafodwch yr w yn yn ofalus er mwyn osgoi eu cleisio;

• Cyflwynwch w yn sy’n lân a sych.

Mae rhagor o fanylion am farchnata a dewis w yn i’w lladd yn llawlyfr HCC i gynhyrchwyr cig oen – ‘O’r Gât i’r Plât’.

Mae ansawdd y stoc bridio yn dylanwadu’n fawr ar berfformiad w yn. Gall prynu hyrddod terfynol â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) hysbys wella cyfraddau twf a nodweddion carcas w yn, megis cynhyrchu w yn trymach â llai o fraster a mwy o gig coch ac sy’n dal i fodloni rhagofynion y farchnad.

Byddai’n well gwerthu w yn yn stôr:

• Pan fo angen y tir ar gyfer mentrau eraill neu ar gyfer y stoc bridio;

• Pan nad oes llawer o borfa a phorfwyd ar gael ac mae eu hangen ar y mamogiaid a hyrddod;

• Pan nad yw’n gwneud synnwyr ariannol i brynu bwydydd amgen;

• Pan nad oes digon o le dan do i storio porthiant ac i fwydo’r w yn;

• Pan nad oes digon o lafur ar gael.

Systemau pori cylchdro

Gall glaswellt fod yn borthiant rhad ac o ansawdd uchel i w yn, ond yn aml caiff ei ddefnyddio’n llai nag y gellid. Mae’r defnydd ohono’n amrywio yn ôl y system bori, ond gall fod mor isel â 50% mewn systemau stocio sefydlog a mor uchel ag 80% mewn systemau pori dwys mewn padogau pan fo uchder y tyfiant yn cael ei reoli’n dda. Mewn systemau pori stocio sefydlog neu barhaol, mae gan yr anifeiliaid arwynebedd mawr ar gyfer y rhan fwyaf o’r tymor pori. Ar y llaw arall, mewn systemau pori cylchdro caiff yr anifeiliaid eu symud o amgylch nifer o gaeau – naill ai pan fo’r borfa’n prinhau neu ar ôl nifer benodol o ddyddiau.

Dangoswyd diddordeb cynyddol mewn pori cylchdro yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sef modd i gael mwy o borfa o well ansawdd i’r da byw. Trwy fonitro uchder y borfa (â gwialen tir glas/riwler) neu orchudd y glaswellt (â mesurydd plât esgynnol) cewch amcangyfrif o faint o bori sydd ar gael. Mae hyn hefyd yn help i gadw’r borfa ar uchder delfrydol. Dangosir uchder y borfa y dylech anelu ato, o dan bori parhaus a chylchdro, yn y tabl isod. Os yw’n uwch na’r targed, gallwch gau’r tir a’i ddefnyddio i gynhyrchu silwair.

Mae modd cyflwyno pori cylchdro ar gyfer mamogiaid ac w yn unwaith y bo’r w yn yn ddigon hen i gael eu symud yn hawdd (fel arfer o 4-5 wythnos oed). Mae systemau pori di-dor yn fwy addas cyn hyn i w yn ifainc iawn. Cyn diddyfnu, mae modd gwella cyfraddau twf w yn unigol trwy ganiatáu i famogiaid â gefeilliaid i bori o flaen y rhai sydd ag w yn sengl. Bydd cadw golwg ar gyfraddau twf yr w yn ar ôl eu diddyfnu yn help i weld a oes angen cymhwyso uchder y borfa.

Canllawiau ar gyfer uchder arwynebedd tir glas

Mae rhagor o wybodaeth yn llyfryn HCC ‘Rheoli Tir Glas’.

Pa system bynnag a ddewisir, ni ellir diystyru pwysigrwydd dewis anifeiliaid yn gywir ar gyfer eu lladd. Mae nifer yr w yn sy’n bodloni rhagofynion y farchnad yn lladd-dai Cymru wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd 58% yn 2016, ond mae nifer sylweddol o’r w yn sy’n cael eu cyflwyno yn dal i fod yn rhy dew.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Ffynhonnell: HCC - ’Rheoli tir glas’

76

Mamogiaid ac w yn

W yn wedi eu diddyfnu

W yn stôr

Troi allan-Mai

Mai - diddyfnu

O ddiddyfnu i fis Medi

O ddiddyfnu i ddechrau’r cyfnod pesgi

Cyn pori (cm)

8-10

8-10

10-12

5

Ar ôl pori (cm)

4-5

4-6

5-7

4

Pori parhaus

(cm)

4

4-6

6-8

4

Pori Cylchdro

Page 6: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Economeg pesgi w yn

Rhaid cyllidebu ar gyfer pob system yn ôl y rhagolygon ar gyfer prisiau w yn (ar ôl astudio prisiau blaenorol) a’r gwir gostau ar gyfer porthiant, llafur a mewnbynnau eraill. Gall prisiau a chostau amrywio, ond mae’r cyfrifiadau hyn yn bwysig er mwyn asesu hyfywedd system.

Cyfrifo’r gost o besgi w yn

Gall maintioli’r elw wrth besgi w yn fod yn dynn. Bydd y cyfrifiadau yn amrywio o fferm i fferm, ac felly dylech ddilyn y pum cam hyn i gyfrifo’r gost o besgi w yn ar eich fferm.

Gall y bydd cynhyrchwyr yn tybio hefyd a fydd pesgi w yn ar y fferm yn fwy proffidiol na’u gwerthu’n stôr. Bydd yr ateb yn dibynnu ar ddeall faint fydd y gost debygol o besgi’r w yn.

Cael yr enillion gorau posibl wrth werthu w yn stôr

• Gwnewch yn siw r fod yr w yn yn iach ac wedi tyfu’n dda, a rhowch sylw i gadw parasitiaid dan reolaeth, cloffni, rhaglenni brechu a statws elfennau hybrin

• Didolwch yr w yn yn grwpiau yn ôl eu pwysau, brid, rhyw a chyflwr pesgi

• Cadwch lygad gofalus ar brisiau w yn stôr a rhagolygon y farchnad ar gyfer w yn wedi’u pesgi er mwyn gallu penderfynu pryd i werthu

• Ystyriwch feithrin cysylltiadau â chynhyrchwyr sy’n pesgi w yn ac yn gwerthu’n syth o’r fferm.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Cam 1Beth yw gwerth yr oen os yw’n

gael ei werthu’n stôr? Os ydych

chi’n pesgi w yn stôr, faint wnaethoch chi

dalu am yr oen?

Cam 2Beth fydd y gost

o ran costau amrywiol i gadw a phesgi’r oen? Cam 3

Beth fydd y pris ar gyfer yr oen wedi’i besgi?

Cam 4Cyfran costau

sefydlog y fferm mewn

cymhariaeth â’r fenter besgi.

mae angen hyn er mwyn canfod

yr elw.

Cam 5Cyfrifwch

faintioli’r elw.Pris wedi pesgi

—Cost yr oen stôr

—Costau amrywiol

—Costau sefydlog

=Elw

98

Page 7: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Deall gofynion porthiant w yn sy’n tyfu

Bydd deall gofynion egni a phrotein w yn sy’n tyfu a phesgi yn helpu i benderfynu pa system i’w defnyddio i besgi w yn ac a oes angen dwysfwydydd ychwanegol.

Gall y bydd w yn stôr sy’n cael eu cadw am gyfnod byr yn gorffen pesgi ar ôl 4-6 wythnos os yw’r cyfraddau twf yn fwy na 150 g y dydd. Ar y llaw arall, gallwch anelu at werthu w yn sy’n cael eu cadw am gyfnod canolig neu hirdymor o fewn 3-6 mis, a bydd angen cyfraddau twf is. Mae’r tabl a ganlyn yn dangos gofynion egni a phrotein oen nodweddiadol sy’n pwyso 35kg yn ôl cynnydd pwysau byw dyddiol gwahanol.

Gofynion egni a phrotein oen sy’n tyfu

Sut mae eich costau’n cymharu?

(Mae’r enghraifft a ddangosir yn seiliedig ar fferm â 300 o w yn wedi’u magu ar y fferm ac sy’n cael eu cadw dros dymor byr ar ddwysfwydydd ad-lib)

Mae dewis w yn yn hollbwysig hefyd er mwyn cael y cynnyrch gorau o bob oen. Dylech osgoi cael eich cosbi am w yn sy’n rhy dew, cnufau brwnt, niwed neu glefyd. Gall na fydd carcas sy’n rhy dew yn addas ar gyfer y farchnad a fwriadwyd (h.y. gall fod yn rhy dew ar gyfer allforio neu ar gyfer archfarchnad) a bydd arian (c/kg) yn cael ei dynnu oddi ar y pris. Ail fater, sydd yn aml yn anos na’r un arall i’w fesur, yw’r gost o gadw’r anifail hwnnw pan oedd yn mynd yn rhy dew. Mae’n ddrud o ran egni (a chost o’r herwydd) am fod angen rhwng pedair a chwe gwaith yn fwy o egni i gynhyrchu braster nag ar gyfer yr un pwysau o gig coch.

Mae modd cadw data am berfformiad anifeiliaid unigol â chymorth technoleg Tagio Electronig. Gallai dadansoddi data sydd yn berthynol i gyfradd dwf yr w yna pha mor hir y mae’n cymryd i besgi w yn o famogiaid unigol wella’r dewis o’r mamogiaid mwyaf epilgar a chynhyrchiol.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Enghraifft (£/w yn) Eich Fferm chi (£/w yn)

Gwerth oen stôr @ 35kg 60.00

Costau amrywiol

Bwyd 7.00

Porthiant Cynhwyswyd yn y gwasarn

Gwasarn 0.33

Milfeddyg a Moddion 0.20

Marchnata 3.00

Cyfanswm

Incwm o oen wedi pesgi @ 40kg* 74.50

Maintioli'r elw

Costau sefydlog 0.50

Elw 3.50

1110

Cynnydd pwysau byw dyddiol

(g y dydd)

CymeriantCynnwys Sych

(kg y dydd)

Egni metaboladwy (EM)

(MJ y dydd)

Protein metaboladwy (PM)

(g y dydd)

50 0.7 7 60

100 0.8 9 74

150 1.0 11 88

200 1.2 13 102

Yn deillio o AFRC (1995), Energy and protein requirements of livestock

*Yn caniatáu colli 2 w yn yn 300

Page 8: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Pesgi ar borfa ar ôl diddyfnu

Glaswellt sy’n cael ei bori yw un o’r bwydydd pwysicaf a rhataf sydd ar gael ar gyfer w yn sy’n pesgi yn ystod misoedd yr haf a’r hydref. Mae monitro statws maethol y pridd, defnyddio gwrteithiau ac achlesau yn effeithlon a rheoli chwyn yn effeithiol i gyd yn cyfrannu at wneud y defnydd gorau o dir glas. Fodd bynnag, gall gwneud defnyddi gwael o laswellt olygu bod dros ei hanner yn cael ei wastraffu

Gall tir glas sy’n cael ei reoli’n dda ac sy’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol:

• Cynyddu dwysedd stocio’r da byw sy’n pori ar dir penodol

• Galluogi pesgi w yn yn gynt – dylai ffermydd llawr gwlad anelu at besgi o leiaf 80% o’u hw yn ar borfa

• Lleihau’r angen am borthiant atodol yn hwyrach yn y tymor.

Mae cyfraddau twf w yn yn cael eu dylanwadu gan ansawdd maethol y borfa yn gyffredinol. Bydd yr w yn â’r cyfraddau twf gorau (150-200 g y dydd) yn pori’n awchus ar dyfiant byr a deiliog, ond gall y cyfraddau twf ar hen dyfiant coesog fod mor isel â 50-60g/dydd. Mae’r tabl a ganlyn yn crynhoi’r cyfraddau twf nodweddiadol y gellir eu disgwyl gydag amryw o ddietau porfwyd.

Dangoswyd bod mathau â chyfran uchel o siwgr yn gwella’r defnydd o brotein mewn glaswellt yn sylweddol trwy fod yn fwy effeithlon yn y rwmen gan arwain at lai o nitrogen yn cael ei golli. Mewn treialon pori ar ffermydd llawr gwlad a thir uchel, mae glaswelltau â chyfran uchel o siwgr wedi golygu bod modd cadw mwy o dda byw (hyd at 20% yn fwy) a bod gwell cymeriant o borfwyd a gwell cynnydd pwysau byw (hyd at 20%) yn yr w yn mewn cymhariaeth ag w yn ar dir glas rhygwellt safonol. Mae’r gwelliant hwn mewn perfformiad yn llesol hefyd i’r amgylchedd am fod yna lai o allyriadau nwyon ty gwydr a llai o nitrogen yn cael ei ysgarthu.

Mae rheoli uchder y borfa drwy gydol y flwyddyn yn un o’r tasgau anoddaf i ffermwyr defaid. Mae cadw’r tyfiant yn fyr a deiliog yn hollbwysig ar gyfer glaswellt sy’n hawdd ei dreulio ac w yn sy’n tyfu’n gyflym. Gall troi glaswellt yn silwair neu

Systemau Pesgi yn yr Awyr Agored

Bydd cael yr enillion gorau posibl o laswellt wedi’i bori a chnydau porfwyd eraill yn golygu dibynnu llai ar ddwysfwydydd wedi’u prynu. Porfa sy'n cael ei bori yw’r prif fwyd mewn systemau defaid, ac os yw’n cael ei reoli’n gywir dyna’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o besgi w yn 4-6 mis oed. Fodd bynnag, mae modd defnyddio cnydau porfwyd eraill i wella cyfraddau twf yr w yn a chael tymor pori hirach.

Gall rhai systemau pesgi w yn, yn enwedig wrth ddefnyddio cnydau porfwyd pan fo’r amodau pori’n wael, arwain at ddifrod sylweddol i ffurfiant y pridd. Mae lleoli cnydau porfwyd yn ofalus yn hollbwysig er mwyn lleihau’r perygl o sathru ac arlifo i gyrsiau dw r. Pa gnwd bynnag sy’n cael ei dyfu, rhaid anelu at gael y cynnyrch a’r ansawdd gorau posibl a gwneud y defnydd gorau posibl o’r cnwd.

Rheoli w yn adeg eu diddyfnu

Mae w yn ifainc yn ddibynnol ar laeth y famog, ond erbyn tua 12 wythnos oed dylai glaswellt fod yn ddigonol ar gyfer y mwyafrif helaeth o’u hanghenion. Felly, anelwch at ddiddyfnu’r w yn yn 12-16 wythnos oed, oni bai eu bod ar fin gorffen pesgi, a didolwch nhw yn ôl eu pwysau mewn grwpiau bach, canolig a mawr. Wrth reoli’r broses ddiddyfnu yn ofalus, bydd cyn lleied o amharu â phosibl ar dwf yr w yn a bydd yn caniatáu digon o amser i baratoi stoc bridio ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Er mwyn rhoi w yn wedi eu diddyfnu o dan llai o bwysau, cadwch nhw ar dir glas sy’n gyfarwydd iddyn nhw (fel ei bod yn hawdd iddyn nhw gael hyd i ddw r, cysgod, etc.) a symudwch y mamogiaid allan o olwg a chlyw’r w yn. Caniatewch ychydig ddyddiau cyn troi w yn wedi’u diddyfnu ar borfa lle nad oes llawer o lyngyr a lle mae digon o laswellt (6 cm o uchder) er mwyn cael y cynnydd pwysau byw gorau posibl.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

1312

Math o Borfwyd Cynnydd Pwysau Dyddiol Nodweddiadol (g y dydd)

Tir glas o ansawdd gwael <100

Tir pori parhaol o ansawdd gweddol 100

Glaswellt o ansawdd uchel sy’n cael ei bori >200

Adladd silwair 100-150

Glaswellt hydref 70-150

Gwreiddlysiau er cymhariaeth 150-250

Page 9: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

wair fod o gymorth wrth reoli uchder y borfa – gyda chaeau’n cael eu cau pan fo’r glaswellt yn dechrau mynd yn drech na’r mamogiaid ac w yn (dros 8cm ac yn mynd yn uwch) ac mae modd cynyddu’r gyfradd stocio mewn mannau eraill.s.

Dylid anelu at laswellt maethlon 4-6cm o uchder yn gynnar yn y tymor os yw’r tir glas â stocio sefydlog, ond ar ôl eu diddyfnu bydd yr w yn yn gwneud yn well os yw’r tyfiant yn 6-8cm o uchder. Mae tyfiant dros 8cm yn rhy hir a bydd hen dyfiant marw’n crynhoi yn y borfa. Pan ddefnyddir pori cylchdro, dylid anelu at laswellt 8-10cm o uchder yn gynnar yn y tymor, a 4-6cm ar ôl ei bori. Bydd wedyn yn codi i 10-12m cyn pori a bydd yn 5-7cm ar ôl pori yn hwyrach yn y tymor.

Ar ôl diddyfnu, dylid anelu at gael cyfraddau stocio’r w yn i gyd-fynd â’r tyfiant glaswellt. Ar system llawr gwlad, gall glaswellt sy’n cael ei reoli’n dda gynnal 25-30 oen/ha yng Ngorffennaf/Awst gan ddisgyn i 8-12 oen/ha yn Hydref/Tachwedd. Yn ystod tymor â thyfiant da bydd angen cynyddu’r cyfraddau stocio. Ond, yn ystod tymor â thyfiant araf, bydd angen lleihau nifer yr anifeiliaid neu fwydo atchwanegion.

Y bygythiadau i iechyd wrth bori • Ffliwc a llyngyr ar adegau penodol o’r flwyddyn, yn enwedig ar laswellt sy’n cael ei bori drwy’r amser;

• Gall diffygion elfennau hybrin amharu ar berfformiad yr w yn mewn rhai mannau.

Manteision pesgi ar laswellt

• Mae’n rhad cyhyd ag y bo’r glaswellt o ansawdd da a pherfformiad yr w yn yn foddhaol;

• Pesgi w yn fel rhan o system gylchdro / da byw cymysg.

Anfanteision pesgi ar laswellt

• Gall perfformiad ar dir glas o ansawdd gwael fod yn siomedi; • Tyfiant y glaswellt yn dibynnu ar y tywydd.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

1514

Tir glas a phorthiant atodol

Er bod tir glas sy’n cael ei reoli’n dda yn gallu diwallu anghenion w yn sy’n pesgi yn ystod cyfran o’r flwyddyn, gall y bydd angen porthiant atodol dan rai amgylchiadau penodol. Gall didolborthi w yn ar ddechrau’r tymor neu roi porthiant atodol ar ddiwedd y flwyddyn fod o fantais ariannol cyhyd ag y bo’r costau cynyddol yn cael eu hadennill trwy well cynhyrchedd.

Mae rhoi porthiant atodol i w yn yn ddefnyddiol

• Er mwyn pesgi w yn yn gynnar yn y tymor cyn i’r pris ostwng;

• Er mwyn cynnal y cyfraddau twf mewn systemau dwys lle mae glaswellt yn mynd yn brin ganol y tymor;

• Er mwyn peidio a dibynnu’n llwyr ar laswellt pan fo porfwyd yn brin;

• Er mwyn rhoi braster ar w yn mawr sy’n anodd eu pesgi yn ystod yr wythnosau cyn eu marchnata;

• Er mwyn pesgi’n ddwys ar borfa yn hwyrach yn y tymor pan nad oes adladd ar gael i’w bori.

Materion pwysig i’w hystyried yngly n â didolborthiant

• Dewiswch leoliad y didolborthwyr yn ofalus fel bod ganddynt lawr sych a chysgod rhag y tywydd;

• Darparwch ddigon o fwydwyr fel bod w yn yn gallu cyrraedd y bwyd yn ddidrafferth;

• Gwnewch yn siw r fod digon o fwyd glân ar gael drwy’r amser a glanhewch y bwydwyr yn rheolaidd;

• Gwnewch yn siw r fod y bwydwyr yn cael eu symud yn rheolaidd er mwyn atal tail a phridd rhag crynhoi a chynyddu’r risg o cocsidiosis a phroblemau gyda’r traed.

Rhaid i ddw r ffres fod ar gael drwy’r amser.

Y dewis o ddidolborthiant

Gall y didolborthiant fod yn fwyd cyfansawdd wedi’i brynu neu’n fwyd wedi’i gymysgu ar y fferm. Dylai fod yn flasus gydag egni metaboladwy uchel (12.5MJ/kgCS neu fwy). Hefyd, dylai gynnwys cymysgedd o fwynau w yn priodol er mwyn atal cerrig troethol. Oherwydd hyn, nid yw bwydydd cyfansawdd â mwynau sy'n addas ar gyfer mamogiaid magu yn addas ar gyfer w yn.

Page 10: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Bygythiadau iechyd o bori a phorthiant atodol

• Gall cocsidiosis grynhoi os yw sathru o amgylch y bwydwyr yn mynd yn broblem;

• Rhaid bwydo mwynau addas ar gyfer w yn er mwyn atal cerrig troethol;

• Dylid symud y bwydwyr yn rheolaidd neu ddefnyddio calch i leihau achosion o gloffni;

• Dylid osgoi cymeriant gormodol unrhyw bryd, gan wneud yn siw r fod digon o le wrth y cafnau i’r holl w yn fwydo gyda’i gilydd. Gall gormod o fwydydd startsh achosi asidosis.

Manteision pori a phorthiant atodol

• Mae modd gwerthu w yn wedi eu didolborthi yn y farchnad gynnar; • Mae’r system yn hawdd ei defnyddio; • Mae’n helpu i gynnal cyfraddau stocio uchel.

Anfanteision pori a phorthiant atodol

• Gall na fydd costau uchel llafur a phorthiant yn cael eu hadennill os yw w yn yn cael eu marchnata ar adeg anghywir;

• Gall clefydau fel cocsidiosis grynhoi. Mewn achosion difrifol gall y bydd angen trin didolborthiant rhag cocsidiosis neu drin yr w yn â moddion i’w lyncu.

Yn aml, mae’n well defnyddio bwyd cyfansawdd mewn pelenni wrth ddechrau didolborthi w yn ifainc iawn a newid yn raddol i gymysgfwyd cartref o 6 wythnos oed ymlaen. Nid yw w yn ifainc yn gallu treulio grawn cyfan yn effeithiol hyd nes eu bod yn gallu cnoi cil yn iawn. Isod, fe welwch enghreifftiau o gymysgfwydydd ar gyfer didolborthiant:

Perfformiad w yn ar ddidolborthiant

Bydd cynnydd pwysau byw ychwanegol yr w yn sy’n cael eu didolborthi mewn cymhariaeth â’r w yn sydd ar borfa yn amrywio yn ôl faint o borfa sydd ar gael a’i hansawdd. Pan fo glaswellt o ansawdd uchel dros 5cm o uchder ar gael, ni fydd fawr o welliant yn y perfformiad ac ni fydd y costau ychwanegol yn cael eu hadennill.

Gwelir yr ymateb gorau pan fo’r cyfraddau stocio yn uchel a phan fo uchder y glaswellt o dan 4cm. Mae modd cael 1kg o gynnydd ychwanegol yn y pwysau byw ar gyfer pob 5-6kg o ddidolborthiant sy’n cael ei fwyta. Gall cymeriant didolborthiant fod yn fwy na 1kg y pen y dydd pan fo’r bwydo yn ad-lib.

Pesgi w yn yn yr hydref

Tua diwedd y tymor, gellir didol unrhyw w yn sydd heb orffen pesgi i’w cadw am dymor pesgi byr, canolig neu hir.

Mae modd pesgi w yn sydd i’w cadw am dymor byr (w yn sydd yn 5-7kg yn rhy ysgafn) yn llwyddiannus ar laswellt hydref o ansawdd da ynghyd â hyd at 0.5kg y pen y dydd o rawnfwyd cyflawn. Mae modd cael cyfraddau twf o 150-200g y dydd a bydd yr w yn fel arfer yn llwyddo i orffen pesgi dros gyfnod o 4-6 wythnos. Gall cyfraddau stocio amrywio o 20-30 oen yr hectar, gan ddibynnu ar ansawdd y glaswellt a maint yr oen (bridiau mynydd pur v croesiadau hyrddod terfynol).

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

1716

Cynhwysion Kg/tunnell fetrig Kg/tunnell fetrig Kg/tunnell fetrig

Enghraifft 1 Enghraifft 2 Enghraifft 3

Barlys cyflawn neu ysig 675 675 850

Ceirch - 100 -

Siwrwd betys siwgr 100 - -

Blawd ffa soya 200 - 150

Blawd hadau rêp - 200 -

Mwynau/fitaminau w yn atodol 25 25 25

Egni metaboladwy (MJ /kgCS) 12.8 12.8 12.5

Protein (% fel y’i bwydir) 17.4 15.0 15.6

Page 11: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Anfanteision meillion gwyn

• Gall hau llawer o N ganol neu ddiwedd y tymor olygu llai o feillion mewn tir glas cymysg, er mae mathau modern yn gallu goddef nitrogen yn well.

Meillion coch

Mae meillion coch yn godlysiau lluosflwydd, ac fel arfer byddant yn para am hyd at dair blynedd. Gall rhai mathau modern bara’n hirach. Bydd meillion coch yn cael eu tyfu’n bennaf er mwyn cynhyrchu cnydau da o silwair â chyfran uchel o brotein heb wario llawer ar wrtaith, ond gall yr adladd ddarparu pori o ansawdd uchel ar gyfer w yn sy’n pesgi yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae modd tyfu meillion coch mewn tir glas yn gymysg â glaswellt neu ar eu pennau eu hunain

Bygythiadau meillion coch i iechyd

• Perygl chwydd y boten. Mae modd lleihau’r risg trwy beidio â throi stoc allan pan fyddant yn newynog, gan gyflwyno tir glas â chyfran uchel o feillion yn r addol a darparu peth porfwyd sych a choesog.

Manteision meillion coch

• Gallant fachu hyd at 250kg N/ha y flwyddyn; • Mae modd cael cnwd da o 9-15 tCS/ha y flwyddyn o dir glas rhygwellt a meillion coch;

• Cynhyrchir silwair o ansawdd uchel - EM 10-11 MJ/kgCS, protein amrwd 14-19%;

• Mae’r tyfiant yn well mewn cymhariaeth â rhygwellt, ac mae w yn yn pesgi’n gynharach. Mae modd cael cyfraddau twf o dros 200 g y dydd ddiwedd yr haf;

• Ymhlith manteision eraill mae mwy o elfennau hybrin a llai o lyngyr.

Anfanteision meillion coch

• Ni ddylid defnyddio meillion coch ar gyfer mamogiaid magu yn ystod hwrdda oherwydd gall yr oestrogenau yn y meillion amharu ar ffrwythlondeb;

• Nid yw meillion coch yn gallu ymdopi’n dda â gorbori; gall hyn fyrhau eu goroesedd.

Porfwydydd amgen – tir glas meillion a sicori

Gall cynnwys porfwydydd amgen mewn tir glas pori, naill ai’n gymysg â glaswelltau neu ar eu pennau eu hunain, wella ansawdd y porfwydydd a pherfformiad yr anifeiliaid. Gellir defnyddio meillion coch a gwyn a sicori yn llwyddiannus i besgi w yn.

Meillion gwyn

Mae meillion gwyn yn godlysiau lluosflwydd sy’n cael eu tyfu fel arfer yn gymysg â glaswellt. Tybir taw tua 30% yw’r ganran orau o feillion ar sail cynnwys sych, ond rhaid cofio bod cyfraniad meillion yn amrywio drwy gydol y flwyddyn. Dylai tir glas porfa/meillion sy’n cael ei reoli’n dda barhau am o leiaf 8-10 mlynedd. Meillion gwyn â dail bach sydd orau ar gyfer systemau pori defaid parhaus.

Bygythiadau meillion gwyn i iechyd

• Mae yna berygl o chwydd y boten os taw meillion yw prif gynnwys y tir glas. Mae modd lleihau’r risg wrth gyflwyno anifeiliaid yn raddol a chyflenwi peth porfwyd sych a choesog.

Manteision meillion gwyn

• Mae modd bachu hyd at 150 kg N/ha y flwyddyn mewn tir glas rhygwellt/ meillion gwyn ac felly mae llai o angen gwrtaith wedi’i brynu;

• Gall tir glas cymysg gynhyrchu 10-11 tCS/ha y flwyddyn gyda chynnwys protein amrwd o 18-20% er gall y PA fod mor uchel â 23-25% os taw meillion yw’r prif gynnwys;

• Mae patrwm tyfu meillion gwyn yn golygu eu bod yn gymar da i laswellt. Bydd meillion yn dechrau tyfu yn hwyrach yn y gwanwyn ond byddant yn rhoi hwb i’r cynnyrch ganol y tymor pan all cynnyrch y glaswellt ostwng;

• Mae gan dir glas sy’n cynnwys glaswellt/meillion gwyn gyfran uwch o elfennau hybrin na thir glas rhygwellt;

• Gall cymeriant fod yn 20-30% yn uwch ar dir glas porfa/meillion nag yw ar dir glas rhygwellt;

• Gall w yn ar dir glas sy’n cynnwys glaswellt a meillion gwyn ennill dros 50g/ pen/dydd yn fwy o bwysau o’u diddyfnu hyd eu lladd nag w yn ar dir glas sy’n cynnwys porfa yn unig.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

1918

Page 12: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Tir glas sicori

Mae sicori ar gyfer porfwyd yn blanhigyn lluosflwydd â dail llydan y gellir ei dyfu ar ei ben ei hun neu gyda glaswelltau a meillion mewn tir glas cymysg. Mae gan y planhigyn brif wreiddyn dwfn sy’n ei alluogi i wrthsefyll sychdwr. Hefyd, mae ganddo gyfran uwch o fwynau na llawer math o laswellt. Os yw tir glas sy’n cynnwys sicori yn cael ei reoli’n ofalus, gall barhau am hyd at bum mlynedd.

Buddion sicori i iechyd • Gall leihau effaith parasitiaid mewnol; • Mae gan sicori gyfran uwch o fwynau ac elfennau hybrin na glaswellt.

Manteision sicori

• Dywedir bod cyfraddau twf w yn yn debyg i gyfraddau w yn sy’n pori codlysiau a gallant fod mor uchel â 250-300 g y dydd; • Cnydau da a phorthiant o ansawdd. Mae’r cnydau yn y DG yn gyffredinol tua 6-9 tCS/ha ar gyfer tir glas sicori pur ag EM o 10.4-12.0 MJ/kgCS a phrotein amrwd fel arfer o 16-20% ond a all fod hyd at 25%; • Fel arfer bydd tir glas sy’n cynnwys cymysgedd o laswellt, meillion a sicori yn cynhyrchu tua 10 tCS/ha gydag EM o 11-12 KJ/kgCS a phrotein amrwd o 18-20%; • Cnwd ategol a all wrthbwyso prinder rhywogaethau eraill oherwydd ei gyfradd dwf uchel yn yr haf, gall wrthsefyll sychdwr ac mae’n cynnwys canran gymharol uchel o brotein.

Anfanteision sicori • Mae angen pori sicori yn ofalus – mae pori cylchdro neu lainbori gyda ffens y tu cefn yn fodd o wneud y defnydd gorau ohono. Wrth danbori, mae sicori’n fwy tebygol o fynd i had a lleihau ei werth o ran maeth a’r defnydd a wneir ohono; • Rhaid cymryd gofal rhag gwneud difrod i dyfbwynt y planhigyn trwy orbori, yn enwedig ddiwedd yr hydref ac yn y gaeaf, neu pan fo’r tywydd yn wlyb. Ambell waith bydd defaid yn cymryd ychydig o amser i ddod yn gyfarwydd â phori sicori ac yn aml ar y dechrau bydd yn well ganddynt flas y glaswellt yn y cymysgedd na’r sicori; • Gall treuliadwyedd uchel a chynnwys sych isel sicori achosi tail gwlyb a gall y bydd angen glanhau caglau cyn anfon w yn i’w lladd; • Nid yw sicori yn bachu nitrogen ac felly bydd angen hau rhagor o wrtaith er mwyn cael y cynnyrch gorau posibl. Bydd angen llai os yw sicori yn cael ei dyfu yn gymysg â meillion.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

2120

Cnydau porfwyd

Mae cnydau porfwyd yn ffordd gost-effeithiol o besgi w yn ar lawer o ffermydd, ac maent yn gydnaws â chylchdroi tir âr a thir glas. Mae modd eu defnyddio i estyn y tymor pori neu i lenwi bylchau yn y cyflenwad porfwyd yn ystod yr haf.

Wrth ddewis safle ar gyfer gwreiddlysiau i’w pori neu blanhigion brasica porfwyd mae’n bwysig bob tro i gofio:

• Dewis lleoliad addas o ran y math o bridd a draeniad er mwyn lleihau’r perygl o sathru ac arlifo i mewn i ddyfrffosydd; • Gwirio statws maethol y pridd a rhoi gwrtaith a chalch yn unol â chanlyniadau’r profion pridd (gweler Llawlyfr Gwrteithiau Defra RB209);

• Rheoli’r chwyn cyn hau;

• Paratoi man encilio a gorweddfan sych – yn hanfodol i gadw’r anifeiliaid yn lân.

Mae modd pesgi w yn yn llwyddiannus ar amryw o gnydau porfwyd. Mae’r tabl isod yn dangos dyddiadau addas ar gyfer hau a defnyddio’r cnydau ar gyfer y rhan fwyaf o’r dewisiadau mwyaf poblogaidd.

Yn aml caiff cnydau porfwyd eu dewis ar gyfer w yn sy’n cael eu pesgi dros gyfnod canolig (6-12kg o bwysau ychwanegol i orffen pesgi) ac w yn stôr hirdymor (angen ennill 12-18kg). Y cnydau brasica mwyaf addas ar gyfer pori yn y gaeaf yw cêl, erfin a rhai o’r croesrywiau rêp/cêl. Mae maip sofl a rêp pori yn llai caled ac yn well ar gyfer estyn y tymor pori tan ddiwedd y flwyddyn. Serch hynny, os yw’r tywydd yn caniatáu, mae modd pori maip sofl trwy fisoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth.

Dylai cnydau brasica gael eu bwydo bob tro gyda phorfwyd hir a sych yn ad-liber mwyn gwneud gwell defnydd o’r cnwd. Llainbori yw’r ffordd orau o reoli’r cnwd er mwyn lleihau gwastraff. Dylid cyflwyno anifeiliaid i’r cnwd yn raddol er mwyn

Cnwd Dyddiad hau Bwydo yn ystod

Rêp pori Ebrill - Awst Gorffennaf - Ionawr

Maip sofl ar ôl glaswellt Mai - Mehefin Awst - Medi

Maip sofl ar ôl Gorffennaf - Awst Tachwedd - Chwefrorbarlys gaeaf

Cêl Ebrill - Gorffennaf Hydref - Mawrth

Croesrywiau cêl/rêp Mawrth - Awst Mai - Rhagfyr

Erfin Mawrth - Mai Hydref - Mawrth

Betys pori Mawrth - Mai Hydref - Rhagfyr*

*neu gellir eu codi i estyn y cyfnod bwydo

Page 13: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Bydd y cynnyrch yn amrywio yn ôl yr egino, glawiad a ffrwythlondeb y pridd, ond bydd cyfrifo cynnyrch y cnwd yn helpu i ddarganfod faint o borthiant sydd ar gael ac i gynllunio dognau’r gaeaf.

Mae i gnydau porfwyd a brasica nifer o rybuddion iechyd • Gall llawer o gnydau brasica a gwreiddlysiau fod â chyfran isel o fwynau ac elfennau hybrin, a gall y bydd angen ychwanegu ïodin, seleniwm a chopr; • Gall cnydau brasica achosi gwenwyno nitrad, yn enwedig os oes llawer o nitrogen yn cael ei ddefnyddio; • Gall llawer o gnydau brasica a gwreiddlysiau fod â chyfran isel o ffibr, ac felly bydd angen ffibr hir fel gwellt, gwair neu silwair byrnau mawr.

Gall ffotosensitifedd fod yn broblem gyda chnydau brasica. Ymddengys ei bod yn fwy cyffredin gyda chêl a rêp ac mewn cnydau ifainc sy’n tyfu.

Manteision cnydau porfwyd • Cnydau â chynnyrch uchel a all fod yn rhad ar gyfer pesgi wˆ yn. Bydd modd bwydo’r rhan fwyaf yn ddiogel heb unrhyw broblem hyd at ganran o 70-80% o’r diet; • Mae modd cael cyfraddau twf uchel, hyd at 250g y dydd; • Yn ddefnyddiol i’w tyfu fel cnydau toriad cyn ailhau glaswellt.

Anfanteision cnydau porfwyd • Nid yw cnydau porfwyd yn addas bob tro; • Gall yr effaith amgylcheddol/colli pridd fod yn fawr onid yw’r lleoliad yn cael ei ddewis yn ofalus; • Gall amodau pori gwael arwain at ddifrod sylweddol i ffurfiant y pridd; • Gall y defnydd ohonynt fod yn isel iawn mewn tywydd gwael ac mae hynny’n golygu perfformiad siomedig a gorfod rhoi dwysfwydydd drud i’r w yn; • Gall yr w yn fynd yn frwnt ar gnydau porfwyd a gwreiddlysiau ac felly rhaid cael man priodol i’w glanhau cyn eu marchnata.

osgoi problemau treulio, a rhoi mynediad llawn iddynt ar ôl wythnos neu fwy. Dylai dw r fod o fewn cyrraedd drwy’r amser. Dylai anifeiliaid gael mwynau ac elfennau hybrin drwy’r amser pan fyddant yn pori cnydau brasica, oherwydd gall y planhigion fod â diffyg copr, ïodin a seleniwm.

Mae’r rhan fwyaf o gnydau porfwyd yn ddewis cost effeithiol yn lle gwair, silwair a dwysfwydydd, ac mae ganddynt gyfran uchel o egni a/neu brotein. Gall y bydd yna fanteision o atodi cnydau deiliog â ffynhonnell o egni ac atodi gwreiddlysiau â ffynhonnell o brotein. Dangosir gwerth maethol pob cnwd yn y tabl isod:

Asesu cynnyrch cnydau

I asesu cynnyrch cnwd a chynllunio’r dyddiau pori:

1. Cymerwch sawl darn (5 neu 6) metr sgwâr o’r cnwd (wedi’i dorri 10cm oddi ar y llawr ar gyfer cêl a rêp). 2. Pwyswch y planhigion a chyfrifwch bwysau cyfartalog y metrau sgwâr. 3. Lluoswch y pwysau cyfartalog â 10,000 i gael y cynnyrch ffres mewn kg/ hectar. I droi hyn i dunelli metrig/hectar, rhannwch y swm â 1,000. 4. Er mwyn cael y cynnyrch cynnwys sych, lluoswch y cynnyrch ffres â chanran y cynnwys sych yn y tabl uchod wedi’i rannu â chant.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Pwysau planhigion Pwysau planhigion Arwynebedd (kg)

1 4.1

2 4.8

3 4.5

4 3.9

5 4.4

6 3.8

Pwysau cyfartalog 4.25 x 10,000 = 42,500kg/ha Cynnyrchpob darn (kg (42.5 t/ha) ffres / ha x 12/100 = 5.1 t/ha Cynnyrch cynnwys sych

2322

Yn cynnwys aildyfiant os heuir yn gynnar.Daw’r wybodaeth am gynnyrch ac ansawdd o lyfryn HCC ‘‘Systemau Haws ar gyfer Rheoli Defaid’.

Cynnwys Sych EM Protein amrwd Cynnyrch CS Cnwd a (%) (MJ/kgCS) (%) cyfartalog ddefnyddi (t/ha) (t/ha)

Erfin 10-12 12-13 10-11 8 6-7

Cêl 13-17 10-11 14-17 6-10 4.8-8

Betys pori 12-19 12 -12.5 7-10 15 12.0

Maip sofl 10-15 10-11 17-18 5-6 4-5

Croesrywiau rêp/cêl 12-15 10-11 18-19 6* 4.8

Rêp pori 10-13 10-11 19-20 4 3.2

Enghraifft ar gyfer amcangyfrif cynnyrch cnwd – defnyddir maip sofl â 12% o gynnwys sych.

Page 14: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Systemau pesgi dan do

Gellir defnyddio pesgi dan do ar gyfer diadelloedd wyna cynnar arbenigol neu i orffen pesgi’r w yn hynaf yn y gaeaf. Y dietau mwyaf cyffredin ar gyfer pesgi dan do yw dwysfwydydd ad-lib neu silwair ynghyd â dwysfwydydd. Fodd bynnag, mae modd defnyddio pethau eraill fel sgil-gynhyrchion llaith yn llwyddiannus.

Gofynion cadw anifeiliaid dan do

Dylai’r adeiladau fod ag awyriad da. Bydd hyn yn caniatáu i’r aer gylchredeg yn rhwydd uwchben y defaid, gan leihau’r risg o leithder uchel ac anwedd, ynghyd ag atal drafft ar y llawr. Dylai’r lloriau fod ag ychydig o oledd ar gyfer draeniad rhwydd ac i atal y gwasarn rhag mynd yn rhy wlyb. Gwellt grawn sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer, ond mae yna fathau eraill o wasarn gael.

Mae angen dw r glân ar w yn drwy’r amser. Gwnewch yn siw r fod yr w yn lleiaf yn gallu cyrraedd y dw r yn rhwydd a rhowch stepen iddynt os oes raid.

Caniatewch hyd at 1m² ar gyfer pob oen sy’n pesgi, gan ddibynnu ar y pwysau byw. Gweler y tabl isod:

Pesgi’r w yn hynaf o dan do

Mae nifer o ffermydd yn dewis cadw w yn dan do i’w pesgi’n gyflym (4-6 wythnos) ar ddwysfwydydd ad-lib. Wrth i’r w yn fynd yn hw n, mae eu cymhareb trosi porthiant yn lleihau, ac maent yn llai effeithlon wrth droi porthiant yn bwysau corff. Mae’r gymhareb yn yr w yn hw n yn amrywio o 6:1-10:1 mewn cymhariaeth â 3:1 cyn eu diddyfnu.

A thybio cymeriant bwyd o 1.5kg y pen y dydd ar gymhareb o 8:1, byddai angen 40kg o ddwysfwyd i gael cynnydd o 5kg yn y pwysau corff. Ar gyfer bwyd cyfansawdd yn costio £230 y dunnell fetrig mae hyn yn cyfateb i £9.20 yr oen ar gyfer costau porthiant yn unig.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

2524

Gorweddfan (m2/oen) Hyd at 30kg 30 to 30kg Dros 35kg

Llociau â gwasarn gwellt 0.6-0.7 0.7-0.8 0.8-0.9

Lloriau delltog 0.4-0.5 0.5-0.6 0.6-0.7

Lle bwydo (mm/oen)

Porfwyd ad-lib 100-120 100-120 100-120

Dwysfwydydd (wedi’u dogni) 300 350 400

O Defra Code of Recommendations for the Welfare of Sheep.

Page 15: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Porthiant yn seiliedig ar silwair

Mae rhoi porfwyd i gadw yn ystod misoedd yr haf yn bwysig ar gyfer porthiant atodol yn ystod y gaeaf pan mae porfa’n gyfyngedig ac yn llai maethlon. Ar gyfer pesgi w yn, mae’r canlyniadau gorau i’w cael o silwair blasus sydd wedi’i dorri’n fân a’i eplesu’n dda. Trwy ddadansoddi silwair cyn y cyfnod pesgi, mae modd bod yn gost-effeithlon o ran porthiant atodol a chael y cyfraddau twf gorau i’r w yn.

Silwair glaswellt – yr ansawdd y dylid anelu ato wrth besgi w yn

Silwair wedi’i dorri’n fân sydd fwyaf addas oherwydd caiff ei dreulio’n gyflymach yn y rwmen, ac mae hyn yn arwain at fwy o drwybwn a chymeriant. Gall silwair hir arafu'r broses o dreulio gan arwain at lai o gymeriant ac effeithlonrwydd. Nid yw silwair indrawn yn cael ei ddefnyddio fel arfer wrth besgi w yn ond mae gwaith arbrofol wedi dangos y gellir ei ddefnyddio cyhyd ag y bo’r lefelau protein yn cael eu cydbwyso’n briodol.

Mae faint sy’n cael ei ychwanegu yn dibynnu ar ansawdd y silwair. Mae’n amrywio o 0.2 i 1 kg y pen y dydd, gan ddibynnu ar pryd y bwriedir gwerthu’r w yn. ‘Gwerth-T' yw mesur treuliadwyedd y silwair ac mae’n ddangosydd da o faint o silwair y gall yr w yn ei fwyta er mwyn diwallu eu gofynion egni.

Byddai silwair â gwerth-T o 70 neu fwy yn ddelfrydol a byddai’n ymofyn y lleiaf o borthiant atodol. Nid yw gwerth-T o dan 64 i’w argymell ar gyfer w yn sy’n pesgi oherwydd bydd y cyfraddau twf yn araf heb dipyn go lew o ddwysfwydydd.

Y lefelau nodweddiadol o borthiant atodol ar gyfer silwair glaswellt o ansawdd amrywiol

Cneifio w yn wrth iddynt gael eu rhoi dan do

Mae w yn sy’n cael eu cneifio adeg eu rhoi dan do yn trosi porthiant yn well, maent yn llai tueddol o ddioddef oherwydd gwres ac mae arnynt angen llai o le nag w yn heb eu cneifio. Er bod modd darparu 10% yn llai o orweddfan, ni ddylid cyfyngu ar y man bwydo.

Bydd w yn wedi’u cneifio yn bwyta mwy ac yn pesgi’n gynt. Felly, rhaid cymryd gofal i wneud yn siw r nad yw’r w yn hyn yn mynd yn rhy dew, trwy eu pwyso’n rheolaidd ac asesu’r cyflwr corff. Gall y bydd rhai lladd-dai yn talu llai am w yn wedi’u cneifio oherwydd mae eu crwyn yn llai o werth. Felly, mae’n werth cysylltu â’r lladd-dy sy’n cael ei gyflenwi gennych er mwyn darganfod faint o arian, os o gwbl, sy’n cael ei ddidynnu oddi ar w yn wedi’u cneifio.

Bygythiadau iechyd mewn systemau dan do

• Pasteurela; • Straen oherwydd gwres/oerfel; • Asidosis.

Manteision systemau dan do

• Mae modd monitro perfformiad yr anifeiliaid yn agos a chymhwyso’r dietau os oes angen;

• Cynnydd pwysau byw uchel a phesgi cyflym;

• Mae tynnu w yn oddi ar diroedd pori yn golygu bod mwy o le pori i anifeiliaid eraill;

• Cyfle i’r tir pori adfer erbyn y gwanwyn.

Anfanteision systemau dan do

• Costau porthiant uchel;

• Mwy o gostau llafur nag ar gyfer systemau pesgi awyr agored;

• Perygl o asidosis. Startsh a siwgr yn dadelfennu’n gyflym ac yn arwain at ostyngiad yn pH y rwmen fel canlyniad i asid lactig yn cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar ficrobau’r rwmen ac yn arwain at lai o gymeriant bwyd gwirfoddol a threuliad gwael o’r ffibrau. Bydd hyn yn arwain at berfformiad gwael ar y gorau. Er mwyn osgoi hyn, dylid malu’r bwydydd yn fân a dylent gynnwys peth ffibr treuliadwy (e.e. mwydion betys siwgr) a dylai digon o borfwyd ffibrog hir fod o fewn cyrraedd yr anifeiliaid;

• Perygl o broblemau resbiradol a chloffni a chlefydau heintus yn ymledu mwy.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

2726

Cynnwys sych (CS) >25%Egni metaboladwy (EM) >11.0 MJ/kgCSpH >4.0Amonia <10%

Gwerth-T Egni metaboladwy (EM) Porthiant atodol nodweddiadol MJ/kgCS

68 a throsodd 10.8 a throsodd 0.2-0.3 kg/pen/dydd

65-67 10.3-10.7 0.4-0.5kg/pen/dydd

64 a llai 10.2 a llai Anaddas ar gyfer pesgi w yn

Page 16: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Dwysfwydydd ad-lib

Cynhyrchu w yn cynnar dan do

Mae hon yn system arbenigol â chostau uchel sy’n dibynnu ar wyna mamogiaid dan do ym misoedd Rhagfyr ac Ionawr a phesgi’r w yn rhwng Mawrth a Mai er mwyn manteisio ar y prisiau uwch ddechrau’r gwanwyn. Mae’r system yn ymofyn digon o le i gadw’r mamogiaid dan do cyn wyna ac yna i gadw’r w yn hyd nes eu bod wedi gorffen pesgi.

Yn y system hon, caiff didolborthiant ei gynnig o tua 7-10 niwrnod oed. Yn y cyfnod cynnar mae’n bwysig dros ben fod porthiant ffres ar gael drwy’r amser i gymell yr w yn i fwyta’r didolborthiant. Bydd w yn yn dechrau bwyta maint sylweddol o ddidolborthiant ar ôl tua thair wythnos oed. Yn aml ystyrir bod pelenni o borthiant yn fwy bwytadwy i w yn ifainc iawn, ond ar ôl eu diddyfnu mae modd symud yr w yn yn raddol tuag at borthiant sydd wedi’i gymysgu ar y fferm.

Gellir cynnwys grawn cyflawn ym mhorthiant w yn dros 8 wythnos oed. Caiff w yn eu diddyfnu pan fyddant tua 6-7 wythnos oed (yn pwyso 16-18kg fel arfer, unwaith y maent yn bwyta 250g o ddidolborthiant y pen y dydd yn gyson.

Cyfansoddiad targed dwysfwydydd ar gyfer systemau wyna cynnar

Gall cyfraddau twf yr w yn ar y system hon fod mor uchel â 300-400g y pen y dydd gydag effeithlonrwydd trosi porthiant o oddeutu 3.5:1. Nid oes rhaid ysbaddu na thocio cynffonnau w yn wrth ddefnyddio’r system hon. Mae gan w yn gwryw heb eu hysbaddu gyfraddau twf uwch, maent yn trosi bwyd yn fwy effeithlon ac mae ganddynt lai o fraster ar ôl gorffen pesgi – sy’n golygu carcasau trymach adeg eu lladd.

Ymhlith porthiant atodol addas mae bwydydd cyfansawdd neu gymysg wedi’u prynu sy’n cynnwys grawnfwyd cyflawn a bwydydd ffibrog fel ceirch a mwydion betys siwgr (neu sgil-gynhyrchion eraill) ynghyd â blawd hadau rêp neu soya a mwynau.

Dylai silwair glaswellt o ansawdd da allu cynnal cyfraddau twf o 100g y dydd. Gall ychwanegu 100g y pen y dydd o flawd ffa soya gynyddu cyfraddau twf i 140g y dydd, a gallai ychwanegu grawnfwyd hefyd godi perfformiad i 150-200g y dydd.

Bygythiadau iechyd dognau sy’n seiliedig ar silwair

• Mae listeriosis yn risg benodol mewn perthynas â bwydo silwair ac mae’n gysylltiedig â bwyta silwair a gafodd ei halogi â phridd. Mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys arafwch, un ochr o’r wyneb wedi’i pharlysu (yn aml â chlust yn hongian), a symud mewn cylchoedd. Mae’r cyflwr yn anodd ei drin, a gwrthfiotigau yw’r unig ddewis. Peidiwch â bwydo silwair sydd yn amlwg o ansawdd gwael (wedi llwydo ac yn drewi).

Manteision porthiant sy’n seiliedig ar silwair

• Yn haws ei wneud na gwair pan fo’r tywydd yn wael; • Gwerth-T uwch na gwair; • Yn rhatach na system dwysfwydydd ad-lib.

Anfanteision porthiant sy’n seiliedig ar silwair

• Gall ddirywio’n gyflym; • Mae angen mwy o wasarn mewn cymhariaeth â gwair; • Gall cloffni fod yn broblem.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

2928

Egni metaboladwy % Protein amrwd (MJ/kgCS)W yn ifainc hyd at ddiddyfnu 12.5 16-18W yn ar ôl diddyfnu 12.5 15-16

Page 17: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Pesgi w yn stôr ar ddwysfwydydd ad-lis

Mae modd defnyddio’r system hon i besgi unrhyw w yn ar ddiwedd y tymor Dylid cyflwyno’r diet yn raddol dros 10-14 diwrnod tuag at fwydo ad-lib. Unwaith y mae’r w yn yn bwydo drwy’r amser, ni ddylid gadael i’r bwydwyr fod yn wag am gyfnodau hir. Bydd hyn yn lleihau’r risg o anifeiliaid yn bwyta gormod pan fo’r bwydwyr yn cael eu hail-lenwi.

Mae ar w yn angen mynediad i borfwyd hir; felly, gosodwch ddigon o wasarn neu bwydwch ychydig o wellt neu wair. Mae modd defnyddio bwyd cyfansawdd wedi’i brynu neu borthiant wedi ei gymysgu ar y fferm. Mae’r tabl a ganlyn yn cynnig enghreifftiau o borthiant wedi ei gymysgu ar y fferm.

Mae cymeriant dwysfwydydd yn debygol o fod yn 1.0-1.5kg y pen y dydd gyda chynnydd pwysau byw o 150–250g y pen y dydd. Mae’r gyfradd trosi porthiant yn debygol o fod o gwmpas 6:1-10:1. Dylai’r dwysfwyd gynnwys 14-16% o brotein amrwd a dylai’r w yn orffen pesgi mewn 4-6 wythnos, gan ddibynnu ar eu pwysau cychwynnol a’r pwysau gwerthu targed.

Gall w yn heb eu hysbaddu, a all fod yn anodd eu pesgi, wneud yn dda ar y system hon cyhyd ag y cânt eu gwahanu oddi wrth yr w yn benyw.

Gan ddibynnu ar deip y brid a gofynion y farchnad,mae modd dewis w yn wedi’u pesgi o 34kg hyd at 38-40kg. Mae’n hanfodol trafod yr w yn yn fynych er mwyn gwneud yn siw r eu bod yn cael eu gwerthu yn y cyflwr gorau posibl o ran pwysau a braster.

Bygythiadau iechyd o ddwysfwydydd ad-lib wrth gynhyrchu w yn cynnar

• Gall cocsidosis fod yn broblem a gall y bydd angen moddion ar yr w yn;

• Os nad yw porthiant ar gael drwy’r amser, gall yr w yn fwyta gormod yn rhy gyflym, gan achosi asidosis, chwydd y boten a hyd yn oed farwolaeth.

Manteision dwysfwydydd ad-lib wrth gynhyrchu w yn cynnar

• Yn caniatáu cyfradd stocio uchel ar y fferm;

• Gallant estyn y cyfnod marchnata w yn o’u defnyddio ochr yn ochr â diadell sy’n wyna yn y gwanwyn, gan wella llif arian cyffredinol y busnes.

Anfanteision dwysfwydydd ad-lib wrth gynhyrchu w yn cynnar

• System o gostau uchel sydd yn agored i newidiadau ym mhrisiau w yn yn gynnar yn y tymor.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

3130

Cynhwysyn Kg/tunnell fetrig Enghraifft 1 Enghraifft 2 Enghraifft 3 Enghraifft 4

Grawnfwyd cyflawn 775 750 825 775(yn ddelfrydol i gynnwys 10% o geirch cyflawn)

Soya - - 150 100

Hadau rêp 200 - -

33% protein crynodedig - 250 -

Ffa - - - 100

Mwynau 25 - 25 25

EM (MJ/kgCS) 12.5 12.8 12.8 12.8

% Protein Amrwd 15 15 15.6 15.3

Page 18: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Sgil-gynhyrchion

Er na chânt eu defnyddio’n helaeth, mae yna nifer o fwydydd amgen a all fod yn addas i’w cynnwys ym mhorthiant w yn sy’n pesgi. Mae llawer o’r rhain yn sgil-gynhyrchion y diwydiannau bwyd a diod ac mae modd eu cyflwyno’n sych, llaith neu fel hylif. Gall bwydydd llaith gymryd lle porfwyd hir a dwysfwydydd yn rhannol.

Bwydydd llaith

Mae modd storio bwydydd llaith mewn claddau dros dro sy’n cael eu creu ar lawr concrid sych trwy leinio waliau o fyrnau gwellt â llenni plastig. Ar ôl llenwi a chywasgu’r cynnyrch, caiff ei orchuddio â llenni silwair a rhoddir pwysau ar eu pennau.

Hefyd, mae modd storio bwydydd llaith mewn cydau Ag-Bag. Gall peth hylif ddianc o fwydydd llaith ac mae’n bwysig nad yw hwn yn cael cyfle i fynd i mewn i systemau draenio neu ddyfrffosydd.

Mae bwydydd llaith yn cynnwys cynhyrchion megis grawn bragwyr, mwydion betys cywasgedig a sgil-gynhyrchion gwenith llaith. Gellir cymysgu’r rhain â bwydydd sych fel mwydion betys siwgr i gynhyrchu bwydydd â chynnwys sych uwch (e.e. grawnfetys) â chyfraddau uchel o egni a phrotein a’u storio mewn claddau dros dro.

Mae grawnfetys yn fwyd llaith a gynhyrchir ar y fferm trwy gymysgu grawn bragwr (5 rhan) a betys siwgr triaglog (1 rhan). Mae gan y bwyd sy’n deillio o hyn gynnwys sych o 30-35%, cynnwys egni o 12 MJ/kgCS a phrotein amrwd o 19%. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â phorfwyd neu ar ei ben ei hun i fwydo w yn sy’n pesgi. Mewn treialon, mae w yn ar ddiet o rawnfetys wedi gwneud cystal neu’n well nag w yn ar ddietau confensiynol sy’n seiliedig ar rawnfwydydd.

Bwydydd sych

Gall bwydydd sych fel pelenni distyllwr ddarparu bwydydd â chyfran uchel o brotein ac egni (cymerwch ofal oherwydd gall rhai cynhyrchion gynnwys cyfran uchel o gopr). Dangosir y cynnwys nodweddiadol o egni a phrotein mewn bwydydd distyllwr yn y tabl isod.

Cynnwys maethol cynhyrchion distyllwr sych

Bygythiadau iechyd wrth besgi w yn stôr ar ddwysfwydydd ad-lib

• Gall asidosis ddigwydd pan fo lefelau uchel o ddwysfwydydd yn cael eu bwydo. Mae modd osgoi hyn wrth wneud yn siw r fod y gyfran gywir o ffibr yn cael ei chynnwys yn y diet, bod maint y dogn yn cael ei gadw’n isel ar gyfer cymeriant graddol, a bod cynhyrchion rhy fân yn cael eu hosgoi. Ni ddylid malu’r grawn.

Manteision pesgi w yn stôr ar ddwysfwydydd ad-lib

• Mae’n rhwydd monitro’r defnydd o’r porthiant a pherfformiad yr anifeiliaid a chymhwyso’r dietau os oes angen.

Anfanteision pesgi w yn stôr ar ddwysfwydydd ad-lib

• Mae’n ddrud os oes rhaid prynu dwysfwydydd.

3332

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Egni (MJ/kgCS) % Protein amrwd

Distyllwr indrawn 15.0 28.0

Distyllwr barlys 13.0 26.0

Distyllwr gwenith 13.7 34.0

Page 19: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Iechyd anifeiliaid

Mae’n bwysig ar unrhyw system pesgi w yn i ddechrau gydag w yn sydd mewn iechyd da er mwyn lleihau colledion a defnyddio bwydydd yn effeithlon. Mae’n cynnwys rheoli er mwyn cael yr iechyd a bioddiogelwch gorau posibl, a medru gwahanu’r w yn gwryw ar adeg amserol.

Dylai’r cynllun iechyd ar gyfer diadell y fferm gynnwys rheoli parasitiaid mewnol ac allanol, cloffni a rhaglenni brechu.

Dylid brechu w yn sy’n cael eu geni ar y fferm rhag clefydau clostridiol a pasteurela oherwydd bydd imiwnedd goddefol y colostrwm wedi gwanhau erbyn tua 10 wythnos oed. Dylai cwrs cychwynnol o frechlyn clostridiol gyda dau bigiad bedair wythnos ar wahân roi diogelwch llwyr. Gall y bydd pigiad atgyfnerthol ychwanegol yn angenrheidiol ar gyfer w yn allai wynebu risg uchel yn hwyrach yn y tymor.

Dylai rhaglen cyfrif wyau ysgarthol fod ar waith ar gyfer w yn sy’n pori, a dylid drensho rhag llyngyr ar sail y canlyniadau. Dylid defnyddio moddion effeithiol i ladd llyngyr a dylai statws ymwrthedd gwrthlyngyrol y fferm fod yn hysbys fel bod modd trin yr w yn â chynhyrchion priodol.

Mae taflen raddio’r lladd-dy yn rhoi manylion am yr w yn, gan gynnwys y clefydau y gellir eu hadnabod wrth archwilio’r carcasau. Gall gwybodaeth o’r fath helpu i wneud penderfyniadau mwy cytbwys ynghylch rheoli’r da byw sydd ar ôl ar y fferm.

Mae llyngyr yr iau yn broblem gynyddol ac mae’n peri i w yn sy’n pesgi beidio â gwneud cystal ag y dylent. Yn 2015 condemniwyd dros 16% o afuau w yn, sef y nifer fwyaf erioed. Mae angen trafod rhaglen effeithiol i reoli ffliwc gyda milfeddyg y fferm.

Bioddiogelwch

Dylai’r cynllun iechyd ar gyfer diadell y fferm gynnwys cynllun bioddiogelwch. Dylai rhan o’r cynllun hwn gynnwys gweithdrefnau iechyd a chwarantin ar gyfer yr adegau pan fo da byw yn cyrraedd y fferm o’r tu allan. Pan fo w yn stôr yn cael eu prynu i’w pesgi, dylid eu harchwilio am arwyddion o glefyd a dylai anifeiliaid sy’n dioddef gael eu cadw ar wahân i’r gweddill a’u trin yn ôl yr angen. Dylai’r holl anifeiliaid sy’n cael eu prynu gael eu rhoi mewn cwarantin am o leiaf 3 wythnos er mwyn osgoi ymledu clefydau heintus (e.e. y clafr neu glwy’r traed) i ddefaid sydd eisoes ar y fferm. Dylid rhoi triniaeth ar gyfer parasitiaid mewnol ac allanol pan fo anifeiliaid yn cyrraedd y fferm a dylid rhoi w yn mewn baddon traed unwaith y maent yn gadael y lori.

Bygythiadau iechyd o sgil-gynhyrchion

• Gall defaid gael eu gwenwyno gan gopr os cânt lefelau uchel o rai cynhyrchion distyllwr i’w bwyta – dylech ddarganfod y lefelau copr cyn prynu a bwydo’r cynhyrchion hyn;

• Gall y bydd angen ychwanegu mwynau penodol..

Manteision sgil-gynhyrchion

• Gallant fod yn ffordd gost effeithiol o besgi w yn; • Mae’r w yn yn perfformio’n debyg i’r rhai sydd ar ddiet o ddwysfwydydd.

Disadvantages of by-products

• Gall na fydd cynhyrchion llaith ar gael ym mhob ardal;

• Fel arfer bydd cynhyrchion llaith yn cael eu dosbarthu mewn llwythi mawr – ac mae angen cyfleusterau storio addas.

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

3534

Page 20: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Rheoli Wy n Gwryw

Os ydych chi’n pesgi w yn gwryw heb eu hysbaddu, cadwch nhw ar wahân i’r w yn benyw ar ôl iddynt gyrraedd 20 wythnos oed. Bydd hyn yn osgoi unrhyw feichiogrwydd diangen a bydd yn gwneud yn siw r nad yw’r w yn gwryw yn gwastraffu eu hegni wrth ymlid yr w yn benyw.

Y nod yw cadw colledion w yn rhwng diddyfnu a gwerthu yn is na 2%.

Diffyg elfennau hybrin mewn w yn sy’n tyfu

Mae elfennau hybrin yn bwysig dros ben er mwyn cael y perfformiad gorau posibl gan dda byw. Gall diffyg yr elfennau hyn gael effaith sylweddol ar gyfradd dwf yr w yn. Y diffygion mwyaf cyffredin ar ffermydd yng Nghymru yw diffyg seleniwm, cobalt ac ïodin.

Mae’n bwysig pwyso w yn yn rheolaidd er mwyn monitro cyfraddau twf a darganfod w yn nad ydynt yn gwneud cystal ag y dylent. Os nad yw w yn yn cyrraedd y targed ar gyfer cyfraddau twf, mae’n bwysig ystyried y canlynol:

• A oes digon o fwyd, ac a yw hwnnw o’r ansawdd cywir? • A yw'r dogn yn gytbwys o ran egni a phrotein a’r prif fwynau? • A yw’r holl w yn yn gallu cael eu cyfran deg o’r dogn? • A yw’r holl w yn yn rhydd o broblemau clefyd sylfaenol (e.e. llyngyr, ffliwc, clwy'r traed) sy’n amharu ar dwf?

Os yw’r atebion i’r holl gwestiynau hyn yn gadarnhaol, dylech ystyried cymryd samplau gwaed oddi wrth nifer gynrychiadol o w yn i weld a ydynt yn dioddef o ddiffyg elfennau hybrin. Bydd milfeddyg y fferm yn cynghori yngly n â sawl oen y dylid ei brofi a’r triniaethau cywir.

Mae diffyg cobalt yn gyffredin iawn mewn w yn ar ôl eu diddyfnu ond mae modd delio â hyn wrth ddarparu fitamin B12 neu atchwanegion cobalt eraill (bolws, rhoi atchwanegion yn y bwyd, etc). Yn aml, mae diffyg seleniwm, ïodin a chopr mewn gwreiddlysiau.

Mae canllawiau pellach ar gael yn llyfryn HCC, 'Atchwanegion Elfennau Hybrin i Wartheg Cig Eidion a Defaid’.

Meat eating quality

36 373736

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Effaith twf ar ansawdd bwyta’r cig

Mae cig yr w yn sy’n ennill pwysau cyn eu lladd yn well i’w fwyta. Argymhellir bod yr w yn yn ennill o leiaf 100 g y dydd yn ystod y bythefnos cyn eu lladd. Mae hyn yn ychwanegu at faint o fraster mewngyhyrol sydd yn y cyhyr, sy'n golygu bod y cig oen yn fwy suddlon a brau.

Pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth ddewis system pesgi w yn

• A fydd yr w yn sy’n pesgi yn cystadlu â’r stoc bridio am adnoddau’r fferm? • Y math o oen sydd gennych – brid, pwysau, etc. • Dylech dargedu eich marchnad a'r math o oen sydd ei angen – cigydd lleol, archfarchnad neu’r farchnad allforio; • Dylid targedu’r cyfnod pesgi; • Y gyfradd dwf sydd ei hangen; • Y porfwyd y gellir ei dyfu ar y fferm – glaswellt, maip sofl, etc. • Cost ac argaeledd porthiant atodol; • Goblygiadau ariannol; • Bygythiadau iechyd; • A fyddai’n well pe baech yn gwerthu’r w yn yn stôr?

Page 21: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Systemau pesgi dan do

Silwair yn unig

Silwair a grawnfwydydd

Dwysfwydydd ad-lib

Sgil-gynhyrchion

Math o oen(cyfnod pesgi)

Diwedd tymor

Diwedd tymor

Dechrau tymor

Diwedd tymor

Diwedd tymor

Cyfradd twf pwysau byw dyd-diol a ddisgwylir

100g

150-200g

300-400g

150-250

150g+

Manteision

Yn cymryd w yn oddi ar dir pori

Yn caniatáu cyfradd stocio uchel ar y fferm

Gall w yn heb eu hysbaddu wneud yn dda os cânt eu cadw ar wahân i’r w yn benyw

Cost effeithiol

Anfanteision

Costau uchel a phroblemau iechyd

Costau uchel ac yn agored i brisiau newidiol am yr w yn

Costau uchel

Nid yw’r cynhyrchion ar gael ym mhob ardal ac fel arfer cânt eu dosbarthu mewn llwythi mawr

Iechyd Anifeiliaid

Perygl o listeriosis ac asidosis. Problemau resbiradol ac ymlediad clefydau heintus

Gall cocsidiosis, asidosis a chwydd y boten fod yn broblem

Asidosis

Gall y bydd angen ychwanegu mwynau penodol

Ystyriaethau Eraill

Yn dileu’r perygl o sathru yn ystod gaeafau gwlyb

Ôl-troed carbon is oherwydd cy-fraddau twf uchel ac w yn yn cael eu gwerthu’n ifanc

Yn dileu’r perygl o sathru yn ystod gaeafau gwlyb

Perygl o arlifo o sgil-gynhyrchion llaith

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W ynHybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Systemau Pesgi W yn

Systemau pesgi yn yr awyr agored

Pesgi ar laswellt

Tir glas a phorthiant atodol

Glaswellt/meillion gwyn

Glaswellt/meillion coch

Sicori yn gymysg

Cnydau porfwyd

Math o oencyfnod pesgi)

Canol tymor

Dechrau tymor

Diwedd tymor

Canol tymor

Canol-diwedd tymor

Canol tymor

Canol-diwedd tymor

Cyfradd twf pwysau byw dyd-diol a ddisgwylir

150-200g

200-300g

150-200g

200g +

200g +

250-300g

250g

Manteision

Rhad

W yn yn gorffen pesgi cyn i’r pris ostwng

Er mwyn ychwanegu at y glaswellt pan fo porfwyd yn brin. Mae’n helpu i gynnal cyfraddau stocio uchel

Cyfran uwch o fwynau ac elfennau hybrin na thir glas rhygwellt

Mwy o elfennau hybrin a llai o lyngyr

Yn gwrthsefyll sychdwr.Llai o lyngyr

Cyfran uchel o egni a phrotein

Anfanteision

Gall cyfraddau twf fod mor isel â 50-60g/dydd ar dir glas o ansawdd gwael

Gall na fydd costau uchel yn cael eu hadennill os yw w yn yn cael eu marchnata ar adeg anghywir

Nid yw meillion yn goddef gwrtaith â chyfran uchel o N

Peidiwch â’u defnyddio ar gyfer mamogiaid magu adeg hwrdda

Angen rheoli’r pori yn ofalus

Cyfran isel o ffibr. Gall w yn fynd yn frwnt a rhaid eu glanhau wedyn cyn eu gwerthu

Iechyd Anifeiliaid

Ystyriwch ymchwilio i’r statws elfennau hybrin

Gall tail a phridd yn crynhoi arwain at berygl cynyddol o Cocsidiosis

Perygl o chwydd y boten os yw’r tir glas yn cynnwys meillion yn bennaf

Perygl o chwydd y boten

Cyfran uwch o fwynau na llawer o laswelltau eraill.Llai o lyngyr

Diffyg copr, ïodin a seleniwm yn aml. Gall gwenwyno nitrad ddigwydd

Ystyriaethau Eraill

Perygl o sathru ac arlifo os oes gor-stocio mewn tywydd gwlyb

Gwnewch yn siw r fod y bwydwyr ar lawr sych er mwyn atal sathru

Bachu nitrogen yn lleihau’r angen am wrtaith

Bachu nitrogen yn lleihau’r angen am wrtaith

Perygl o sathru ac arlifo os oes gor-stocio mewn tywydd gwlyb

Perygl o sathru ac arlifo

Systemau pesgi yn yr awyr agored Systemau pesgi dan do

3938

Page 22: Dewisiadau ar gyfer ffermydd defaid yng Nghymru€¦ · 178 188 107 115 123 132 140 148 156 164 95 102 110 117 124 132 139 146 85 92 99 105 112 118 125 132 78 84 90 96 102 108 114

Mae rhagor o wybodaeth am weithgareddau HCC a chyhoeddiadau perthnasol eraill ar gael yn www.hccmpw.org.uk

“Pa system bynnag a ddewisir, ni ellir diystyru pwysigrwydd dewis anifeiliaid yn gywir ar gyfer eu lladd”

Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales Lamb Finishing Systems

40