Data ar Lefel Eitem
description
Transcript of Data ar Lefel Eitem
Data ar Lefel Eitem
Data ar Lefel Eitem Beth yw e?
• Dadansoddiad manwl o berfformiad ar bob ‘eitem’ (cwestiwn neu ran o gwestiwn o fewn sgript fel arfer).
• Mae Data ar Lefel Eitem ar gael i’r rhan fwyaf o bynciau (lle rhoddir marciau drwy EMI neu’r system Marcio Sgriptiau Electronig (ESM)).
Data ar Lefel Eitem Ar gyfer beth?
Gall ganolfannau ei ddefnyddio i:
•Werthuso eu perfformiad eu hunain yn erbyn normau’r fanyleb
•Adnabod cryfderau a gwendidau o fewn carfan o ymgeiswyr, a chynnig meysydd i’w gwella.
•Cynorthwyo’r ymgeiswyr i wella eu perfformiadau unigol.
Data ar Lefel Eitem Beth NAD yw e’n ei ddarparu?
• Gwybodaeth ar safoni a ffiniau
• Argraff o safonau canolfan
Mynediad at Ddata ar Lefel Eitem
Rhaid agor gwefan ddiogel CBAC i ddechrau (www.wjecservices.co.uk neu o linc ar y wefan gyhoeddus), a mewngofnodi.
12345
·······
Mynediad at Ddata ar Lefel Eitem
Bydd dewislen newydd yn agor.(ni fydd pob un o’r botymau a welir ar y chwith ar gael i chi).
Dewiswch y botwm ‘Ardd Furiog (Walled Garden)’
Data ar Lefel Eitem
Bydd dewislen newydd yn agor.
Mae dau fotwm yn rhoi mynediad i;r data ar lefel eitem:
Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun
Dewiswch gyfres o’r gwymplen.
Data ar Lefel Eitem
Bydd dewislen newydd yn agor.
Mae dau fotwm yn rhoi mynediad i;r data ar lefel eitem:
Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)
Dewiswch gyfres o’r gwymplen.
Dewiswch ‘Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)’ er mwyn dadansoddi data ar LEFEL YR YMGEISYDD
Dewiswch ‘Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)’ er mwyn dadansoddi data ar LEFEL YR YMGEISYDD
Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)
Rhoddir marc i bob eitem y mae ymgeisydd wedi sefyll.
Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)
Gallwch ddewis pwnc o’r gwymplen.
Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)
Cliciwch enw’r ymgeisydd er mwyn cymharu ei berfformiad gyda myfyrwyr eraill o fewn y ganolfan ,ac hefyd yn gyffredinol ar ffurf adroddiad.
Crynodeb ar Lefel Eitem (Ymgeiswyr)
Mae’r adroddiad yn dangos:
• Marc yr ymgeisydd
• Marc cyfartalog y ganolfan
• Marc cyfartalog yr holl ymgeiswyr a gofrestrwyd gyda CBAC
(Cliciwch y pwyntiau bwled er mwyn dangos y rhannau priodol)
•
•
•
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun
Er mwyn gweld sut y perfformiodd eich canolfan o’i gymharu â chanolfannau eraill CBAC, dylid dewis ‘’Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun:
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun
Mae hyn yn rhoi’r cymedr, y ffactor hygyrchedd a’r % cynnig am bob eitem, a hynny ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn ogystal â’r bechgyn a’r merched ar wahân.
ffactor hygyrcheddcymedr % cynnig
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun – Cymedr
Mae’r marc cymedrig (neu’r marc cyfartalog) yn fesur o berfformiad ymgeiswyr ar gyfer eitem arbennig.
Bydd cymharu’r marciau cymedrig mewn ffordd syml yn dangos yr eitemau hynny sy’n cyfrannu’n sylweddol at berfformiad cyffredinol yr ymgeiswyr.
0
Nife
r yr
ym
geis
wyr
Marciau
20
15
10
5
F D C B A
cymedr
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun – Cymedr
SYLWCH :
Ni fydd y marc uchaf i bob cwestiwn yr un fath, felly ni fydd cymharu cymedr yr eitemau yn rhoi cymhariaeth ystyrlon.
Ar gyfer y cwestiynau hynny gyda marciau uchaf posibl gwahanol, dylid defnyddio’r ffactor hygyrchedd i gymharu perfformiad.
0
Nife
r yr
ym
geis
wyr
Marciau
20
15
10
5
F D C B A
cymedr
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun – Ffactor hygyrchedd
Mae’r ffactor hygyrchedd yn dangos y marc cymedrig fel canran o’r marc uchaf posibl.
Mae’n mesur hygyrchedd yr eitem.
Er enghraifft, os 6 yw marc cymedrig cwestiwn sydd â marc uchaf o 10, yna bydd y ffactor hygyrchedd yn 60%.
(6 rhannu gyda10 wedi’i luosi â100)
marc cymedrig × 100marc uchaf
Ffactor hygyrchedd (FF) =
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun – Ffactor hygyrchedd
Mae’r ffactor hygyrchedd yn dangos y marc cymedrig fel canran o’r marc uchaf posibl.
Mae’n mesur hygyrchedd yr eitem.
marc cymedrig × 100marc uchaf
Ffactor hygyrchedd (FF) =
Efallai bydd gan ateb da ffactor hygyrchedd o 80%. Er enghraifft, fe fydd marc cymedrig o 13 allan o uchafswm o 15 yn rhoi ffactor hygyrchedd o 87%.
Mae’r ffactor hygyrchedd yn eich galluogi i adnabod yr eitemau mae’r ymgeiswyr wedi rhagori neu fethu ynddynt.
Perfformiad y Ganolfan yn ei Gyd-destun – % Cynnig
Dyma ganran o’r ymgeiswyr sydd wedi cynnig ar ateb cwestiwn. Mae’n rhoi dau beth i ni:
•Y gallu i asesu os yw ymgeiswyr yn gadael cwestiynau maent yn gweld yn anodd.
•Lle mae gan yr ymgeiswyr ddewis o gwestiynau, mae’r ystadegau’n dangos tystiolaeth o ddewisiadau’r ymgeisydd / y polisi addysgu mewn canolfannau.
Defnyddio Data ar Lefel Eitem
• Cymerwch berchnogaeth – eich data CHI yw hwn.
• Gallwch ddeall beth mae’r data yma’n ei ddweud wrthych am eich canolfan
• Gwnewch benderfyniadau neu awgrymiadau’n seiliedig ar dystiolaeth y data o fewn eich canolfan.
• Defnyddiwch y data i adnabod pa mor hygyrch neu heriol yw’r cwestiynau i’ch ymgeiswyr.