Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a...

37
Darganfod Discover Ceredigion pecyn cymorth marchnata

Transcript of Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a...

Page 1: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod DiscoverCeredigion

pecyn cymorth marchnata

Page 2: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

01 Naws am le 2

02 Canllawiau Logo 6

03 Defnyddio delweddau 10

04 Y Cyfryngau Cymdeithasol 22

05 Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau 28

06 Y Gymraeg 33

Cynnwys

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru 1

Page 3: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Naws am le 2

pecyn cymorth marchnata

Naws am le “Gall elfennau Naws am Le fod yn fil ac un o bethau. Dyma’r teimlad a gewch wrth ymweld â rhywle am y tro cyntaf – yr argraff gyntaf, y ddelwedd, y teimlad, yr awyrgylch, y bobl. Mae Naws am Le yn cofleidio golygfeydd, synau a phrofiadau nodweddiadol hynny sydd wedi eu gwreiddio mewn gwlad, yr elfennau unigryw a chofiadwy hynny sy’n cyseinio gyda phobl leol ac ymwelwyr.”

Pecyn Cymorth Naws am le Croeso Cymruhttps://businesswales.gov.wales/dmwales/cy/sense-place/taflenni-gwaith

Mewn cyfweliadau ar gyfer Arolwg Ymwelwyr Cymru diweddar, cofnododd y rhai a ymatebodd yng Ngheredigion sgôr uchel iawn i’w taith – y sgôr boddhad cyffredinol oedd 9.5 allan o 10. Sgoriodd ‘ansawdd yr amgylchedd naturiol’ a ‘pobl gyfeillgar’ gyfartaledd o 9.7 allan o 10. Roedd pob sgôr oedd yn ymwneud â theithiau ymwelwyr yn debyg i gyfartaledd Cymru neu’n uwch na hynny.

Mae ymwelwyr yn dibynnu llawn cymaint ar farn pobl eraill ag y maen nhw ar daflenni neu hysbysebion - maen nhw’n tueddu i gredu beth mae pobl yn ei feddwl am y llefydd a’r profiadau y bydden nhw’n hoffi rhoi cynnig arnyn nhw,

01

Page 4: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Naws am le 3

gan edrych ar nifer o wefannau cyn archebu. Bydd negeseuon clir a chyson am Geredigion yn helpu darpar ymwelwyr i ddeall beth sydd gan Geredigion i’w gynnig i fodloni eu hanghenion a’u disgwyliadau, ac yna dewis ymweld â Cheredigion. Y bobl sydd eisoes yn ymweld â ni yn aml iawn yw’r bobl orau i siarad ar ein rhan, ac maen nhw’n aml yn barod i rannu eu teimladau, eu hatgofion a’u lluniau o’u gwyliau. Mae’n bwysig felly i fusnesau ar draws Geredigion gadw cyswllt â’u cwsmeriaid - mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd a chost-effeithiol i wneud hyn.

Disgwyliadau ymwelwyr

Nododd astudiaeth ddiweddar o ymwybyddiaeth brand ardal Ceredigion fod y nodweddion canlynol yn allweddol bwysig i bobl wrth gynllunio gwyliau yn y Deyrnas Unedig:

• Bwyd a diod lleol da• Golygfeydd glân ac amrywiol• Tawelwch• Amrywiaeth da o weithgareddau awyr agored

Mae’r pedwar nodwedd hyn yn cael lle amlwg yng nghanfyddiad pobl o Geredigion. Roedd disgwyliadau pobl o Geredigion yn cynnwys:

• “Awyr iach, tirlun syfrdanol” • “Byddwn i’n disgwyl dod o hyd i draeth a gwyliau i ymlacio”• “... Trefi bach, tawel, tafarnau lleol, tirlun”• “... gweithgareddau awyr agored a diwylliant lleol / awyrgylch da”

A nododd pobl oedd yn gyfarwydd â Cheredigion:• “Mae gyrru drwy’r bryniau’n hyfryd. Mae’r wlad yn hamddenol a gwyrdd”• “Mae awyrgylch hamddenol a diffwdan yma”• “Mae yna liw glas yn y môr sy’n wahanol i unrhyw las arall. Mae’n las

trawiadol, disglair”• “Y traethau – maen nhw mor ddeniadol – traethau a childraethau bach

tywodlyd gyda machlud godidog”

Themâu blaenoriaeth ar gyfer marchnataYr her felly yw dangos beth sy’n wahanol am Geredigion fel cyrchfan fydd ymwelwyr yn ei ddewis wrth ymweld â Chymru, a sicrhau eu bod yn deall ac yn edrych ymlaen at eu profiad, a allai fod eu hymweliad cyntaf â Chymru. Y themâu blaenoriaeth ar gyfer marchnata Ceredigion, Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria yw:

Page 5: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Bywyd gwyllt, a thirweddau arbennig wedi’u diogeluAr yr arfordir a’r tir mawr - gan gyfeirio’n arbennig at boblogaeth Bae Ceredigion o ddolffiniaid trwynbwl; rhywogaethau eiconig o adar gan gynnwys llwyddiant lleol y barcud coch a’r gwalch; y nodweddion arbennig gan gynnwys llonyddwch y safleoedd cysegredig a’r tirweddau arbennig sydd wedi’u diogelu.

Awgrym Rhannwch luniau o fywyd gwyllt sy’n berthnasol i’ch busnes neu ei leoliad; os ydych chi’n agos at yr arfordir, cofiwch sôn am ddolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion, ond cofiwch fod rhywogaethau eraill y bydd yr ymwelwyr wrth eu bodd yn eu gweld hefyd.Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am safleoedd arbennig yn eich ardal i ymweld â nhw, a soniwch am y rhain wrth eich ymwelwyr, fel coedwigoedd clychau’r gog, traethau gyda phyllau creigiog da neu fannau ar hyd yr arfordir sy’n dda ar gyfer gwylio morloi a dolffiniaid.

Etifeddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddolGan gynnwys barddoniaeth a llenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformio, darganfod etifeddiaeth deuluol a chenedlaethol, a chyfleoedd i ddysgu Cymraeg a sgiliau eraill mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol.

Awgrym Cyflwynwch eich ymwelwyr i straeon lleol – bydd rhai o bosib yn gyfarwydd iddyn nhw, ond nid y lleoliadau sy’n gysylltiedig â nhw.Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am ddigwyddiadau lleol, a rhannwch y rhain gyda’ch darpar ymwelwyr - fe allai hynny eu perswadio i ymweld â Cheredigion, yn hytrach nag ardal arall.

Sylwch os yw rhywun yn angerddol neu’n dangos diddordeb mewn rhywbeth penodol, a sgwrsiwch gyda nhw amdano. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am rywun i gysylltu â nhw os oes angen help arbenigol ar rywun e.e. i olrhain eu hachau.

Bwyd a diod lleol o ansawdd uchelMae Ceredigion yn cynhyrchu bwyd a diod o’r ansawdd gorau – cig eidion ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol o lefydd bwyta uchel eu bri ac sy’n ennill gwobrau, yn ogystal â chyfleoedd i ymweld â ffermydd a chynhyrchwyr, a marchnadoedd rheolaidd a thymor o wyliau bwyd.

Awgrym Dilynwch a rhannwch lwyddiant busnesau sy’n ategu’ch un chi, a gwnewch eich argymhellion eich hun – bydd yn dangos eich bod yn deall anghenion eich cwsmeriaid, ac yn eu sicrhau y byddan nhw’n cael eu bodloni yng Ngheredigion.

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Naws am le 4

Page 6: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Os ydych chi’n gweini bwyd, ac yn gwneud ymdrech i ddefnyddio cynhwysion lleol, gwnewch yn siŵr fod eich cwsmeriaid yn gwybod hynny: cyfeiriwch ar eich bwydlen, a sicrhewch bod eich staff yn gallu egluro’r cynhwysion lleol a’u tarddiad yn hyderus.

Rhowch restr o fannau i siopa’n lleol pan fydd eich gwesteion yn archebu, a thynnwch sylw at lefydd lle gallan nhw brynu neu brofi cynnyrch lleol.

Amgylchedd glân, iach a hamddenol, delfrydol ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau awyr agoredMae gan Geredigion draethau deniadol sydd wedi ennill gwobrau, llwybrau cerdded rhagorol ac amrywiol – o Lwybr Arfordir Ceredigion i goetiroedd a llwybrau crwydrol drwy’r bryniau.

Awgrym Peidiwch ag anghofio sôn am y traethau sydd wedi ennill gwobrau a’r gwasanaeth achubwyr bywydau yn ystod yr haf. Tynnwch sylw at eich hoff lwybrau cerdded lleol yn ogystal â Llwybr Arfordir Cymru/Ceredigion ac edrychwch i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i wylio, cymryd rhan a mentro ar chwaraeon newydd, gan gynnwys seiclo, seiclo mynydd, marchogaeth, chwaraeon dŵr, pysgota, golff ac ati a soniwch amdanyn nhw wrth eich cwsmeriaid - ar eich gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ddiweddaru eich pecyn croeso, hysbysfwrdd neu arddangosfa o daflenni’n rheolaidd.

Ansawdd a gwerth am arian mewn atyniadau, digwyddiadau ac uchafbwyntiau tymhorol Hyrwyddwch Ceredigion fel cyrchfan drwy’r flwyddyn gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau, atyniadau a llety ansawdd uchel, gyda digon i’w wneud pan nad yw’r tywydd gystal.

Awgrym Manteisiwch ar y cyfle i ymweld ag atyniadau – mae llawer yn cynnal dyddiau agored i fusnesau twristiaeth lleol. Dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i chi allu siarad yn hyderus, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf, am yr hyn sydd ar gael i’ch ymwelwyr.

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Naws am le 5

Page 7: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

02 Canllawiau Logo Rydyn ni wedi creu logo arbennig sy’n cynrychioli Ceredigion yn weledol gryf i helpu ymwelwyr i leoli’r rhanbarth o fewn Cymru yn gyflym ac yn rhwydd, a geiriau sy’n annog ymwelwyr i ‘ddarganfod’ yr ardal sy’n eistedd rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria.

Logo MeistrMae’r logo’n gwbl ddwyieithog ac yn cynnwys yr URL yn Gymraeg a Saesneg o fewn y siâp hirsgwar. Defnyddir glas golau fel prif liw i adlewyrchu’r awyr, y môr a’r gorwelion eang sy’n elfennau nodedig o Geredigion, gyda lliw pwyslais melyn llachar sy’n gyferbyniad ac yn dangos yn glir ym mha ran o Gymru mae’r ardal.

pecyn cymorth marchnata

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Canllawiau Logo 6

Page 8: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Parth EithriedigMae’r Parth Eithriedig (sy’n hanner uchder yr hirsgwar) wedi’i gynllunio i ddiogelu unplygrwydd y logo. Gan ddefnyddio’r canllaw isod, dylai’r Parth Eithriedig gynyddu a lleihau’n gymesur â maint y logo.

Wrth osod y logo ar eitemau fel posteri, taflenni ac arddangosiadau gallwch ddefnyddio eich doethineb i newid y maint i gyd-fynd â maint y deunydd. Mae’n arbennig o bwysig nad yw logos eraill yn croesi i mewn i’r Parth Eithriedig.

Os ydych yn ei ddefnyddio at ddibenion digidol, bydd y Parth Eithriedig yn helpu i sicrhau bod y logo’n ddarllenadwy.

35mm

Lleiafswm maintMae’r lleiafswm maint yn sicrhau bod y logo’n parhau’n glir, yn weladwy ac yn ddarllenadwy bob amser pan gaiff ei ddefnyddio at ddibenion argraffu a digidol.

Ceisiwch ddefnyddio’r logo ar faint rhesymol, a defnyddiwch y maint hwn dim ond pan fydd raid oherwydd diffyg lle.

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Canllawiau Logo 7

Page 9: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

EnghreifftiauMae’r canlynol yn enghreifftiau posib i ddangos sut gallwch chi ddefnyddio’r logo’n ymarferol gyda thestun a delweddau ar draws amrywiol eitemau hyrwyddo, gan gynnwys digidol.

SurfôrY gwir brofiad

The real experience

www.surfor.wales

DL Leaflet

SurfôrY gwir brofiad //

The real experience

www.surfor.wales

Display Banner

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Canllawiau Logo 8

Page 10: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Surfôr Y gwir brofiad // The real experience

A5 Leaflet

Digidol

SurfôrY gwir brofiad // The real experience

www.surfor.wales

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Canllawiau Logo 9

Page 11: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Defnyddio delweddau Mae delweddau difyr yn ddeunydd gwych ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â bod yn ffordd ardderchog i gyflwyno eich busnes i ddarpar gleientiaid, gan ddangos iddyn nhw yn union beth sydd gennych chi i’w gynnig. Mae ffotograffau a fideos yn dal sylw ar unwaith, ac fel y dywed yr hen air, mae llun werth mil o eiriau.

Dweud stori CeredigionMae Ceredigion yn sir hynod o ffotogenig a llawn cymeriad, gyda thirweddau a morweddau amrywiol sy’n newid gyda’r tymhorau; digwyddiadau cyffrous, lliwgar ac annisgwyl; a bywyd gwyllt rhyfeddol, sy’n cynnig llu o gyfleoedd i brofi eiliadau cofiadwy a delweddau creadigol. Mae’n ysbrydoli ac yn procio’r meddwl, yn tawelu ac yn codi chwilfrydedd. Meddyliwch sut rydych chi am i bobl deimlo am eich busnes a’r ardal. Bydd delweddau’n gweithio orau pan fydd y cwsmer yn gallu eu hadnabod neu ddychmygu bod yna ei hun.

I ddal hanfod Ceredigion fel cyrchfan, a chefnogi a hyrwyddo eich busnes ystyriwch y canlynol:

• Yn ogystal â delweddau o’ch busnes eich hun, ceisiwch ddangos eich cymuned leol ac ardal ehangach Ceredigion hefyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich ymwelwyr bod hon yn ardal sy’n werth ymweld â hi, gyda digon o bethau i’w gwneud a’u mwynhau.

03

pecyn cymorth marchnata

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 10

Page 12: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

• Defnyddio delweddau sy’n hyrwyddo Ceredigion fel cyrchfan ffres ac iachus – o’r mannau agored a’r amgylchedd naturiol eang i’r bwyd da, lleol.

• Bod yn wahanol ac annisgwyl – rydyn ni am ddangos Ceredigion fel cyrchfan llawn hwyl ac antur, felly mae croeso bob amser i ddelweddau a fideos sy’n dangos hyn.

Dod o hyd i ddelweddauEfallai eich bod yn hoffi tynnu lluniau anffurfiol gyda’ch ffôn clyfar, neu’n ffotograffydd amatur medrus neu efallai nad oes gennych chi unrhyw brofiad o gwbl, ond meddyliwch pam rydych chi am ddefnyddio’r ddelwedd cyn penderfynu ble i’w chael.

• Os yw ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig os yw’n ‘dal yr eiliad’, does dim angen defnyddio lluniau gyda ‘chydraniad’ uchel – mae llawer o ffonau clyfar yn gallu tynnu delweddau gyda chydraniad digon uchel.

• Meddyliwch yn ofalus am gyfansoddiad a chynnwys y ddelwedd – er enghraifft: edrychwch beth sydd yn y cefndir, ambell waith gall symud car neu bot blodau gyda phlanhigion wedi gwywo wneud gwahaniaeth!

• Ond ar gyfer deunydd hyrwyddo fel gwefan mae’n werth talu ffotograffydd proffesiynol i wneud yn siŵr fod y delweddau o ansawdd priodol ac er mwyn dangos naws a theimlad eich busnes, gan ddefnyddio golau a thechnegau ffotograffig eraill. Mae llawer o ffotograffwyr proffesiynol rhagorol yn gweithio yng Ngheredigion gyda gwahanol arddulliau arbennig – manteisiwch ar eu harbenigedd.

Awgrym Cofwich caiff eich delweddau i gyd eu defnyddio i bwrpas gan ddangos eich busnes a’r rhanbarth ehangach yn y golau gorau bosib – boed drwy lens ffotograffydd proffesiynol neu drwy lygad eich ffôn clyfar.Mae gwefan Darganfod Ceredigion yn cynnwys oriel o ddelweddau am ddim i chi eu defnyddio ar unrhyw lwyfan. Neu, ystyriwch chwilio am unigolion ar Facebook, Flickr ac Instagram, yn ogystal â ffotograffwyr lleol, i weld a allwch chi ddefnyddio rhai o’u delweddau. Chwiliwch am eiriau allweddol a hashnodau ar draws y safleoedd hyn i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Os ydych chi’n defnyddio unrhyw ddelwedd o’r safleoedd hyn cofiwch sicrhau caniatâd priodol a chydnabod y ffynhonnell.

Awgrym Oes hanes penodol yn perthyn i’ch busnes neu adeilad? Mae delweddau ‘presennol a gorffennol’ yn boblogaidd ac mae cyfoeth o ddelweddau o lefydd, pobl a gwrthrychau ar wefan Casgliad y Werin. https://www.casgliadywerin.cymru/

I’ch helpu chi, dyma ddetholiad o ddelweddau dan y categorïau canlynol i’ch ysbrydoli wrth dynnu lluniau neu greu fideo newydd.

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 11

Page 13: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

01 Arfordir

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 12

Page 14: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

02 Cefn gwlad

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 13

Page 15: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

03Gweithgareddau

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 14

Page 16: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

04 Diwylliant

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 15

Page 17: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

05 Chwaraeon

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 16

Page 18: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

06 Digwyddiadau

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 17

Page 19: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

07 Hanes/ Treftadaeth

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 18

Page 20: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

08 Teulu

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 19

Page 21: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Defnyddio delweddauDyma rai ffyrdd hwylus i ddefnyddio delweddau wrth farchnata:

Rhoi hunaniaeth i’ch busnesDylai pob busnes fod yn ymwybodol o’i arddull a’i bersonoliaeth, ac mae hyn, ynghyd â’r canfyddiad sydd gan gwsmeriaid o’r busnes, ei gynhyrchion a’i wasanaethau, yn creu eich ‘brand’. Bydd dangos eich busnes ar waith yn rhoi gwell syniad o lawer i’ch cwsmeriaid o beth rydych chi’n ei wneud. Holwch eich hun sut gallwch chi ddangos eich busnes yn y golau gorau bosib a beth sy’n eich gwneud chi’n ddeniadol i’r llygad. Gallech ddefnyddio delweddau o fwyd blasus, amgylchedd moethus, golygfeydd ysblennydd neu weithgareddau i gyflymu’r galon – denwch ddarpar gwsmeriaid drwy ddangos yn union beth sydd gennych chi i’w gynnig a beth y gallan nhw ei ddisgwyl os ydyn nhw’n dewis ymweld â chi. Dangoswch iddyn nhw eich bod chi’n eu deall nhw a’ch bod yn meddwl amdanyn nhw ym mhopeth rydych chi’n ei wneud.

Anogwch bobl eraill i rannu eu ffotograffau o’ch gwasanaeth neu gynnyrchDrwy annog cwsmeriaid i rannu delweddau hwyliog a deniadol o’u hymwelad byddwch yn helpu i greu ymdeimlad cadarnhaol am eich busnes. Gwnewch yn siwr eich bod yn arddangos cyfeiriad cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich busnes i’w hatgoffa ymhle y gallan nhw bostio eu delweddau. Cwsmeriaid hapus yw eich llysgenhadon mwyaf pwerus. Mae argymhelliad personol gan gwsmeriaid bodlon yn ei wneud yn fwy tebygol y byddwch yn denu cwsmeriaid tebyg, newydd.

Rhowch eich busnes yn ei gyd-destun Hyrwyddwch eich ardal gyfan, a phopeth sydd ganddi i’w gynnig i’ch darpar ymwelwyr. Meddyliwch am deithiau cerdded lleol, mannau gwylio, digwyddiadau (gan gynnwys digwyddiadau elusennol rydych chi’n eu cefnogi, fel ras dractors leol - sy’n arddangosfa ddifyr a lliwgar i’r ymwelwyr) a’r gwaith gwirfoddol rydych chi’n ei wneud, efallai gyda bywyd gwyllt neu waith cynnal a chadw llwybrau, neu ddarparu blodau tymhorol o’ch gardd i eglwys neu gapel lleol sydd ar agor i ymwelwyr.

Albymau ffotograffauYn ôl y sôn, ar y cyfryngau cymdeithasol mae albymau o ffotograffau yn denu 180% yn fwy o gyswllt na ffotograffau arferol. Mae grwpio delweddau mewn albwm yn ei gwneud yn haws i’ch cwsmer weld y cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Dylech gynnwys delweddau gan ymwelwyr sydd wedi’u rhannu drwy eich tudalen busnes neu broffil cyfryngau cymdeithasol - byddan nhw wrth eu bodd yn gweld eu ffotograffau’n cael eu defnyddio, ac efallai fyddan nhw’n eu rhannu eto gyda’u ffrindiau, sef eich marchnad bosibl. Cofiwch gydnabod y ffotograffydd gwreiddiol bob tro.

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 20

Page 22: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Annog ffotograffiaeth Oes yna rywle sy’n arbennig o ffotogenig, neu rywbeth gwahanol a difyr ar y safle y bydd pobl am gael tynnu eu llun wrth ei ochr? Gallech chi hyd yn oed ddarparu ‘ffrâm hunlun’ i annog ymwelwyr i dynnu llun yn eich ‘safle hunlun’.

Byddwch yn drefnusCofiwch safio delweddau gyda theitl perthnasol – bydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r ddelwedd yn eich ffeiliau, ond bydd hefyd yn helpu pobl eraill i ddod o hyd i’ch delwedd os ydych chi’n defnyddio allweddeiriau perthnasol, fydd yn ei dro’n denu pobl at eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu eich gwefan.

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Defnyddio delweddau 21

Page 23: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Y Cyfryngau CymdeithasolMae’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan hynod o effeithiol, cost isel y gallwch ymddiried ynddo a’i ddefnyddio i ddenu ymwelwyr newydd, eu tywys nhw atoch chi, sefydlu cysylltiadau ar-lein gyda chwsmeriaid o’r gorffennol, y presennol a darpar gwsmeriaid. Gallwch fonitro beth sy’n cael ei ddweud am eich busnes, ymuno â sgyrsiau perthnasol, rhannu eich newyddion, digwyddiadau a hyrwyddiadau diweddaraf.dd hyn i gyd yn helpu i dynnu sylw at y pethau sy’n gwneud eich busnes yn arbennig ac yn sicrhau y bydd pobl yn sylwi arnoch chi.

Nod y cyfryngau cymdeithasol yw annog cyswllt a sgwrs, denu ymateb, emosiwn a gweithred – fel edrych ar eich gwefan a’ch cynigion, cofrestru i dderbyn blog neu gylchlythyr, holi cwestiwn i chi, gadael sylw neu rannu eich postiad gyda ffrindiau.

Dewiswch y sianeli cywir i’ch busnes - bydd hyn yn cynnig y cyfleoedd gorau ar gyfer cyrraedd eich cwsmeriaid targed. Dyma rai o’r cyfryngau allweddol a chrynodeb o’r goreuon o blith y lleill, ynghyd ag awgrymiadau ar sut i’w defnyddio i farchnata eich busnes.

04

pecyn cymorth marchnata

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Cyfryngau Cymdeithasol 22

Page 24: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Sylwch fod gan lawer o lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol offeryn dadansoddi sy’n gadael i chi weld a thracio ymddygiad pobl sy’n ymweld â’r dudalen, gweld pa rai o’ch postiadau sy’n gweithio a pha rai sydd ddim, a gwella eich presenoldeb ar-lein yn y dyfodol.

FacebookFacebook yw’r rhwydwaith cymdeithasol mwyaf yn y byd, a gyda thros 30m o ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhan hanfodol o gynllun marchnata digidol ar-lein llawer o fusnesau. Wrth greu cyfrif mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r opsiwn Tudalen Busnes yn hytrach na chyfrif personol arferol. Mae tudalen busnes yn hawdd ei rheoli a bydd yn gadael i chi ddefnyddio nodweddion ychwanegol, fydd yn gwneud eich busnes yn haws o lawer i bobl ei weld. Y brif egwyddor wrth greu Tudalen Busnes Facebook yw annog cwsmeriaid hen a newydd i ‘hoffi’ eich tudalen, sy’n golygu y bydd unrhyw beth rydych chi’n ei bostio yn y dyfodol yn ymddangos ar eu llinell amser. Hefyd, bydd unrhyw bost gennych chi maen nhw’n ei ‘hoffi’ neu ‘rannu’ yn cael ei weld gan eu grŵp ffrindiau ehangach ar Facebook.

Manteision• Mae Facebook yn syml ac yn rhad i’w ddefnyddio ac yn sicrhau sylw eang

i’ch busnes.

• Mae’n gadael i chi ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gyda delweddau difyr a fideos yn arbennig o effeithiol.

• Mae’n ffordd dda i gadw cysylltiad gyda chwsmeriaid hen a newydd.

• Mae Tudalen Busnes Facebook yn golygu bod unrhyw beth rydych chi’n ei bostio’n gallu cael ei weld drwy beiriannau chwilio a hefyd bydd unrhyw ddolen o’ch tudalen at eich gwefan yn cynyddu’r siawns y bydd eich gwefan yn cyrraedd safle uwch yn y peirannau chwilio.

• Mae nodwedd ‘digwyddiadau’ Facebook’ yn gadael i chi greu digwyddiad i hysbysebu i’r cyhoedd, bydd yn rhoi syniad i chi faint o bobl fydd yn dod ac yn gadael i chi ateb unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

• Mae angen i chi bostio’n rheolaidd i wneud yn siŵr fod eich Tudalen yn ffres ac yn gyfoes, ond does dim rhaid i chi bostio bob dydd o reidrwydd.

• Gallwch bostio gwybodaeth a delweddau ar Dudalennau eraill, a gaiff eu rhannu gyda’u cynulleidfa nhw, a gallwch anfon negeseuon uniongyrchol.

• Defnyddiwch eich proffil personol i ymuno â grwpiau fydd yn eich helpu i gael y newyddion diweddaraf am y diwydiant, neu er mwyn dysgu am y bywyd gwyllt neu’r dreftadaeth yn eich ardal ac yng Nghymru yn gyffredinol.

• Cofiwch ddefnyddio hashnodau ar gyfer geiriau allweddol yn eich post, fel #Ceredigion, #BaeCeredigion #MynyddoeddCambria #dolffiniaid ac ati. Cofiwch eu hychwanegu at y geiriau allweddol wrth bostio hefyd.

Rhagor o wybodaeth: https://www.facebook.com/business/overview

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Cyfryngau Cymdeithasol 23

Page 25: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Cyfryngau Cymdeithasol 24

TwitterTwitter yw’r ail safle rhwydweithio cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac mae’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon a darllen ‘trydar’ byr 140 o nodau. Mae’n adnodd marchnata rhagorol lle gallwch chi ryngweithio’n uniongyrchol gyda’ch cynulleidfa darged a phobl sy’n rhannu’r un diddordebau. Mae trydar fel anfon neges destun at eich holl ddilynwyr ar unwaith: mae’n gyflym, yn gryno ac yn gyfredol, mae’n berffaith ar gyfer rhannu bargeinion a chynigion, pytiau byr o wybodaeth, neu hyd yn oed sylw ar y pryd (sy’n cael ei alw’n drydar byw) mewn digwyddiadau fel gwyliau bwyd neu wibdeithiau.

Manteision • Ffordd dda i siarad yn uniongyrchol gyda chwsmeriaid gan fod trydar yn

gallu teimlo’n fwy personol na phostiad Facebook, a gydag yn agos i un biliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd, gall hyd yn oed y busnes lleiaf un ddod o hyd i gynulleidfa.

• Mae hashnodau’n gadael i fusnesau fod yn rhan o sgyrsiau ehangach. Gall defnyddio #Ceredigion ym mhob trydar perthnasol helpu i greu cymuned ar-lein sy’n hyrwyddo’r gorau o’r hyn sydd gan Geredigion i’w gynnig.

• Er mwyn cynnwys rhywun yn eich sgwrs, defnyddiwch ‘@’, e.e. @VisitCeredigion i gynnwys Darganfod Ceredigion yn eich sgwrs, neu @DerekTheWeather i anfon eich delweddau hyfryd o’r tywydd neu’r machlud.

• Gallwch gynnwys eich postiadau Twitter ar eich hafan – gallwch helpu eich gwefan i edrych yn ffres a chyfoes drwy drydar yn rheolaidd.

Rhagor o wybodaeth: https://business.twitter.com/

InstagramGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol ar-lein sy’n rhannu ffotograffau a fideos yw Instagram. Gall defnyddwyr rannu lluniau a fideos yn gyhoeddus neu’n breifat, yn ogystal â thrwy nifer o lwyfannau rhwydweithio cymdeithasol eraill fel Facebook, Twitter, Tumblr, a Flickr. Mae hwn yn gallu bod yn llwyfan effeithiol iawn.

Manteision • Mae llun werth mil o eiriau ac os yw beth sydd gennych chi i’w gynnig yn

ffotogenig, does dim ffordd well i’w hyrwyddo na gyda delwedd neu fideo deniadol.

• Gallwch gysylltu eich Instagram gyda Facebook a Twitter, gan ganiatáu rhyngweithio di-dor a chysondeb brand a neges.

Rhagor o wybodaeth: http://blog.wishpond.com/post/59612395517/52-tips-how-to-market-on-instagram/

Page 26: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Cyfryngau Cymdeithasol 25

Y gorau o’r gweddillYouTubeGyda biliynau o ddefnyddwyr, drwy YouTube mae pobl yn darganfod, gweld a rhannu fideos gwreiddiol. YouTube yw’r peiriant ail fwyaf ar y rhyngrwyd ac mae ystadegau’n dangos bod cyfran uchel o siopwyr taith yn gwylio fideos taith cyn gwneud penderfyniadau pwrcasu. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith fod cyfradd uwch o lawer o bobl yn clicio at wefannau ar ôl gwylio fideo nag ar ôl darllen testun, yn dangos y gall fod yn offeryn brandio a hyrwyddo pwerus iawn os yw’n cael ei wneud yn dda.

PinterestAr Pinterest rydych chi’n creu bwrdd pin rhithiol, ar-lein yn seiliedig ar eich diddordebau, a gallwch ei ddiweddaru ar unrhyw adeg. Mae Pinterest yn ymwneud mwy â darganfod a churadu cynnwys sydd wedi’i greu gan bobl eraill ac mae’n adlewyrchu beth rydych chi fel busnes yn ei wneud ar yr adeg honno.

VimeoSafle fideo digon tebyg i YouTube yw Vimeo, ond gydag un rhan o ddeg o’r nifer o ddefnyddwyr. Yn wahanol i YouTube, does dim hysbysebu, sy’n golygu bod modd gwylio fideos yn rhwydd heb ymyrraeth. Mae gan Vimeo drefn tanysgrifio hefyd os ydych chi’n bwriadu uwchlwytho fideos yn rheolaidd.

Google+Mae Google+ yn dda iawn ar gyfer brandiau sydd eisoes ar y rhwydweithiau cymdeithasol mawr ac i flogwyr hefyd. Mae’n ychydig yn fwy proffesiynol na Facebook ac elfen ganolog o’i apêl yw optimeiddio peiriannau chwilio. Gall cyfrif Google fod yn ddefnyddiol iawn, gyda’i nodweddion ebost, dogfennau a sleidiau, yn ogystal â Google+. Hefyd mae’n rhaid cael cyfrif Google i gofrestru â YouTube.

TripAdvisorBydd twristiaid a theithwyr yn aml yn edrych ar TripAdvisor i weld barn pobl eraill am fusnes neu gyrchfan ac mae’n cael ei ystyried yn ffynhonnell ddibynadwy gan ddefnyddwyr. Edrychwch i weld a yw eich busnes ar TripAdvisor, ac os oes canmoliaeth, beth am ddiolch i’r cyfrannwr. Ceisiwch ymateb yn bwyllog a ffeithiol i unrhyw sylwadau negyddol - mae’n aml yn fater o farn, ac yn ddelfrydol byddai unrhyw broblem wedi’i ddatrys ar y pryd. Cofiwch y gallwch lwytho eich delweddau eich hun ar TripAdvisor.

Page 27: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Cyfryngau Cymdeithasol 26

Awgrymiadau ar gyfer marchnata eich busnes yn llwyddiannus drwy’r cyfryngau cymdeithasol: Gwnewch eich ymchwil a dewch i adnabod eich cynulleidfaMae llawer o wybodaeth ar gael am y ffyrdd mwyaf effeithiol o farchnata eich busnes, a gall deimlo’n frawychus gorfod gweithio eich ffordd drwy’r llif o wybodaeth (sydd yn aml yn gwrthddweud ei hun). Fodd bynnag, os gwnewch chi ychydig o ymdrech i ddod i adnabod eich cynulleidfa darged a’i ymddygiad bydd eich cynnyrch yn cael effaith uwch o lawer. Pa ddemograffig ydych chi’n eu targedu? Mae defnyddwyr Facebook yn tueddu i fod yn hŷn na defnyddwyr Instagram (gyda Twitter rhywle yn y canol). Sut ddylech chi bostio eich neges? Er mwyn aros yn berthnasol, bydd angen postio ar Twitter yn amlach nag ar Facebook. Gwnewch eich ymchwil a mwynhewch yr enillion.

Cadwch bersona busnes a phersonol ar wahânEich sianeli cyfryngau cymdeithasol yw’r cyfle i chi gynyddu adnabyddiaeth o’ch busnes a’i werthu i’r byd mawr. Felly mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich proffil personol a’ch proffil busnes ar wahân er mwyn osgoi cymysgu’r negeseuon a thrwy hynny wanhau’r hyn rydych chi’n ceisio ei gyfleu i’ch cynulleidfa darged.

Dilynwch reol traeanMae’n bwysig nad yw eich cynnwys yn ymwneud â gwerthu a marchnata yn unig, ond dylai fod yn rhan o gyswllt ehangach rhyngoch chi a’r byd mawr. Canllaw bras yw dilyn ‘rheol traean’ y cyfryngau cymdeithasol, lle mae un traean o’ch cynnwys yn hyrwyddo eich busnes; traean arall yn rhannu cynnwys gan arweinwyr eraill yn y diwydiant twristaidd yng Nghymru fel Darganfod Ceredigion a Croeso Cymru neu fusnesau eraill sy’n ategu’ch un chi; a dylai’r trydydd traean ymwneud â chyswllt personol a chysylltu’n uniongyrchol â’ch cynulleidfa darged. Ceisiwch osgoi ‘gwerthu caled’.

Byddwch yn weledolGall un llun gael ei rannu mil o weithiau, a does dim gwadu bod cynnwys amlgyfryngol yn gyrru trafnidiaeth gynyddol. Does dim rhaid i’ch delweddau a’ch fideos fod yn broffesiynol, ond serch hynny mae’n bwysig cadw rhywfaint o reolaeth dros yr ansawdd a gwnewch yn siŵr fod eich cynnwys yn dangos eich busnes – a Cheredigion – yn y golau gorau bosib.

Defnyddiwch hashnod #CeredigionWrth bostio cynnwys fel delweddau a fideos, defnyddiwch hashnod #Ceredigion i ategu eich postiadau. Drwy wneud hyn gallwch fwydo i gymuned arlein sy’n arddangos y gorau sydd gan Geredigion i’w gynnig i unrhyw ddarpar ymwelwyr.

Page 28: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Cyfryngau Cymdeithasol 27

Cysylltwch â’ch dilynwyrMae’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy na sgwrs un ffordd, a dylech gysylltu â’ch dilynwyr cymaint â phosib. Helpwch gymaint ag y gallwch ac os cewch sylwadau negyddol, ceisiwch liniaru’r rhain cymaint â phosib mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol, yn hytrach na’u gadael heb eu datrys.

Gwnewch y defnydd gorau o’r adran ‘amdanoch chi’... ar eich tudalen er mwyn ateb cymaint o gwestiynau â phosib cyn iddyn nhw gael eu gofyn.

Arbrofwch gyda hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol Rhowch gynnig ar hysbysebu drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Yn wahanol i ffurfiau traddodiadol o hysbysebu, gallwch ddechrau gyda chyllideb mor fach ag yr hoffech chi. Hefyd gallwch dargedu eich cynulleidfa darged bosibl gyda ffactorau fel oed, diddordebau neu leoliad daearyddol, gan sicrhau bod unrhyw ymgyrch yn cael ei deilwra i fod mor effeithiol â phosib.

Mesurwch eich llwyddiant Drwy ddefnyddio cymwysiadau trydydd parti neu offerynau dadansoddi Facebook a Twitter, mae’n bosib gwerthuso eich cynnyrch, a phobl eraill, i weld pa bostiadau sy’n llwyddo – a pham – a cheisio ailadrodd y llwyddiant hwn. po fwyaf y byddwch yn dadansoddi eich cynnyrch a gweithredu ar y canlyniadau, y gorau y bydd eich canlyniadau dros amser.

Dilynwch bobl eraill yn y diwydiantCofiwch ein dilyn ni ar facebook.com/discover Ceredigion a twitter.com/visitceredigion, yn ogystal â’r sianeli Croeso Cymru fel facebook.com/visitwales, twitter.com/visitwales a sianel busnes twitter.com/visitwalesbiz. Drwy gydweithio a defnyddio’r un wybodaeth a deunydd at ddibenion gwahanol gallwn sicrhau effaith a dangos i ddarpar ymwelwyr bod Ceredigion yn gyrchfan rhagorol ar gyfer seibiau byr a gwyliau hirach.

Defnyddiwch offerynnau trydydd parti Mae cael y cyfryngau cymdeithasol yn iawn yn gallu cymryd llawer o amser, felly defnyddiwch gymwysiadau trydydd parti fel Hootsuite, Buffer neu SocialOomph (ymhlith llawer o rai eraill) i’ch to helpu i gael y gorau o’ch negeseuon. Drwy’r rhain gallwch amseru postiadau ymhell o flaen llaw, sy’n golygu nad oes rhaid i chi fod gyda’ch ffôn neu o flaen cyfrifiadur drwy’r amser. Hefyd, edrychwch pryd mae eich cynulleidfa darged yn fwyaf gweithredol ac amserwch eich trydar yn unol â hynny. Cadwch lygad am gyrsiau sy’n gallu eich helpu i ddefnyddio’r nodweddion a’r pecynnau hyn yn effeithiol.

facebook.com/DiscoverCeredigion facebook.com/visitwales twitter.com/visitceredigion twitter.com/visitwales

twitter.com/visitwalesbiz

Page 29: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau 28

Cysylltiadau Cyhoeddus a’r CyfryngauRhowch wybod yn rheolaidd i’r cyfryngau, ynghyd â chydweithwyr yn Darganfod Ceredigion a Croeso Cymru, am eich newyddion a’ch digwyddiadau diweddaraf i gael ffynhonnell werthfawr o gyhoeddusrwydd am ddim. Ond cyn drafftio datganiad, dylech holi’r cwestiwn hwn i chi eich hun:

Ydy eich stori’n werth ei hadrodd?

Mae nifer o efennau i’w hystyried wrth lunio stori, ond yn gyntaf, meddyliwch ‘beth sy’n gwneud fy stori’n werth ei hadrodd’? Dyma rai ffactorau allweddol i’w hystyried wrth benderfynu ar werth eich stori:

Arwyddocâd a pherthnasedd Meddyliwch am eich cynulleidfa bob amser wrth roi stori at ei gilydd. Ydy eich stori’n berthnasol yn genedlaethol, ynteu ydych chi’n targedu cynulleidfa lai o faint neu un sydd â diddordebau arbennig? Meddyliwch sut y bydd eich cynnyrch neu wasanaeth yn fuddiol i’ch cynulleidfa, a chofiwch, po fwyaf o bobl a gaiff eu heffeithio gan y stori, y mwyaf yw ei gwerth newyddion.

05

pecyn cymorth marchnata

Page 30: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau 29

Y pwnc Mae deall y pwnc yn hanfodol i sicrhau bod stori’n werth ei hadrodd. Meddyliwch pam fod y pwnc o ddiddordeb i’r gynulleidfa darged. Ym mha ffordd mae eich cynnyrch neu wasanaeth yn unigryw?

Agenda’r cyfryngauYdy eich stori’n cyd-fynd ag agenda’r cyfryngau rydych chi’n ceisio eu denu? Meddyliwch am y math o gynulleidfa maen nhw’n eu denu ac a ydyn nhw’n debygol o fod eisiau defnyddio’r stori.

Drafftio datganiad i’r wasgUnwaith hi chi benderfynu fod eich stori’n werth ei hadrodd ac yn gwybod pa gyfeiriad rydych chi am fynd iddo, ewch ati i ddrafftio datganiad i’r wasg. Defnyddiwch y canllaw isod i ddrafftio datganiad syml, clir a chryno fydd yn tynnu sylw’r cyfryngau.

Holwch eich hun…• Ar gyfer pwy ydych chi’n ysgrifennu a beth ydych chi’n gobeithio ei

gyflawni?• Beth ydych chi’n ceisio ei ddweud a sut gallwch chi ei ddweud yn glir ac yn

gryno?• Ydy’r stori hon o ddiddordeb cenedlaethol neu leol?• Ydy’r stori ar gyfer y cyfryngau ar-lein, print neu ddarlledu?

Rhestr wirio’r datganiad i’r wasgMae’r awgrym isod yn amlinellu popeth sydd ei angen arnoch chi i ysgrifennu datganiad llwyddiannus i’r wasg:

1. Dilynwch yr un strwythur ag y byddai newyddiadurwr yn ei ddefnyddio i ysgrifennu erthygl: pennawd uniongyrchol, byr; mynegiant cryno ac effeithlon; cymaint o wybodaeth â phosibl; delweddau mawr, clir

2. Rhowch cymaint o wybodaeth â phosib ar y dechrau gan ychwanegu mwy drwy gydol y darn

3. Ceisiwch gael dyfyniad bob tro – mae darparu dyfyniad yn arbed llawer o waith i’r newyddiadurwr

4. Rhowch unrhyw wybodaeth bellach ar y diwedd

5. Edrychwch a yw’n bosib byrhau’r darn neu dynnu unrhyw beth diangen. Ceisiwch osgoi geiriau hir pan fydd gair byr symlach yn gwneud y tro. Cofiwch osgoi jargon

6. Byr a brathog –un dudalen A4 yw’r hyd delfrydol

7. Cyflwynwch y darn mewn ffordd sy’n hawdd ei anfon mewn ebost

8. Oes unrhyw ddolenni neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol y gallwch chi eu hyrwyddo?

9. Nodwch fanylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth

Page 31: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau 30

Gwerthu’r storiUnwaith i chi gael stori gwerth ei dweud ac ysgrifennu eich datganiad, mae’n bryd i chi werthu’r stori i’r cyfryngau. Dyma ambell awgrym ar gyfer gwerthu eich stori a sicrhau sylw i’ch busnes:

1. Peidiwch byth â gwerthu stori nad yw’n werth ei dweud, bydd yn adlewyrchu’n wael arnoch chi a’ch busnes

2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall eich pwnc yn drylwyr a byddwch yn barod i ateb cwestiynau

3. Cadwch gofnod o’r newyddiadurwyr rydych chi wedi cysylltu â nhw a’r rhai sydd wedi defnyddio’r stori

4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r cyhoeddiad neu’r rhaglen dan sylw, gan edrych ar sylwadau neu straeon yn y gorffennol - bydd yn eich helpu i weld sut gallai’r stori fod yn berthnasol

5. Paratowch ebost yn nodi’n glir beth mae eich busnes yn ei wneud a sôn am bwnc y datganiad

6. Ar ôl anfon yr ebost, ffoniwch. Crynhowch y datganiad a sgwrsiwch yn naturiol a chyfeillgar – bydd eu cael nhw i’ch hoffi chi yn cynyddu’r tebygolrwydd y caiff y stori ei defnyddio

7. Soniwch am lefydd, enwau a geiriau allweddol

8. Ystyriwch ddefnyddio gwasanaethau cwmni cysylltiadau cyhoeddus proffesiynol.

Page 32: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau 31

[RHOWCH EICH LOGO CHI YMA]

Templed o Ddatganiad i’r Wasg a Nodiadau i’r Golygydd

I’w ryddhau ar unwaith neu nodwch y dyddiad a’r amser y gellir ei ddefnyddio

(Dylech nodi hyn ar frig y datganiad cyn y teitl)

Teitl

Gallwch ddefnyddio pennawd ffeithiol neu geisio bod yn fwy creadigol drwy chwarae ar eiriau, ond cofiwch ei gadw’n glir a chryno bob amser.

Is-bennawd

Ambell waith mae is-bennawd sy’n hirach na’r teitl yn syniad da i ddenu sylw h.y. enw lle a allai dynnu sylw golygydd / newyddiadurwr os ydyn nhw’n chwilio am straeon o’r ardal honno

Paragraff 1

Dylech geisio cwmpasu’r stori gyfan yn y paragraff cyntaf. Fodd bynnag, cadwch hwn yn fyr ac yn syml, heb fod yn hirach na dwy frawddeg. Mewn sawl ffordd, dyma ran bwysicaf y datganiad a dylech gynnwys yr wybodaeth bwysicaf yn y brawddegau cyntaf hyn, oherwydd does dim gwarant y bydd y

darllenydd yn darllen gweddill y stori.

Paragraff 2 (ac os oes angen, 3)

Yma dylech helaethu ar yr wybodaeth yn y paragraff cyntaf a chynnwys rhagor o fanylion a mwy o’r stori.

Paragraff 3

Os oes angen, gallwch gynnwys dyfyniad gan lefarydd eich busnes yma. Gan ddibynnu ar natur y datganiad, gallai gynnwys galwad i weithredu drwy annog darpar ymwelwyr i ddod i weld beth sydd

gennych chi i’w gynnig iddyn nhw. Unwaith eto, dylech gadw hwn i ddwy neu dair brawddeg.

Paragraff 4

Dylai’r paragraff olaf gynnwys gwybodaeth gefndir fwy cyffredinol a gallai gynnwys rhagor o fanylion am eich busnes sydd ddim wedi’u cynnwys mewn rhan arall o’r datganiad.

--Diwedd—

(Dylech nodi’n glir ymhle mae’r datganiad yn gorffen)

Rhagor o wybodaeth: os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw beth yn y datganiad hwn, cysylltwch â X ar X (cofiwch gynnwys URL eich gwefan)

Nodiadau golygyddol (dyma lle gallwch roi gwybodaeth gefndir fanwl y gallai’r newyddiadurwr ddewis ei chynnwys neu beidio, ond dylai gynnwys rhai o’r manylion a nodir isod):

1. Delweddau: nodwch gaption a chyfeiriad ar gyfer unrhyw ddelweddau sy’n cyd-fynd â’r datganiad

Datganiad i’r Wasg enghraifft

Page 33: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau 32

[RHOWCH EICH LOGO CHI YMA]

2. Manylion am [Enw eich busnes]: (Yma dylech ysgrifennu rhai brawddegau – hyd at baragraff byr – am eich busnes. Dylai’r wybodaeth gynnwys lleoliad a pha wasanaethau rydych chi’n eu cynnig – gwybodaeth debyg i beth fyddech chi’n ei gynnwys fel arfer ar adran “Amdanom ni” ar wefan) 3. Ceredigion: I gael trosolwg cyflawn o’r hyn sydd gan Geredigion i’w gynnig fel cyrchfan i dwristiaid, ewch i wefan Darganfod Ceredigion (www.discoverceredigion.wales) neu ebostiwch ([email protected] ), am ragor o wybodaeth am lety, bwyd a diod, atyniadau, digwyddiadau a threfniadau trafnidiaeth.

Neu gallwch gysylltu â neu alw heibio un o’r Canolfannau Gwybodaeth Twristiaeth:

• Canolfan Gwybodaeth Twristiaeth Aberystwyth 01970 612125 | [email protected]

• Canolfan Gwybodaeth Twristiaeth Aberaeron 01545 570602 | [email protected]

• Canolfan Gwybodaeth Twristiaeth Aberteifi 01239 613230 | [email protected]

Page 34: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Gymraeg 33

Y Gymraeg Pa un a ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl neu beidio, mae defnyddio rhywfaint o Gymraeg yn gallu bod yn arf marchnata cadarnhaol i’ch busnes. Mae ymwelwyr yn aml yn chwilfrydig am y Gymraeg ac mae’n gallu ychwanegu dimensiwn newydd ac unigryw i’w harhosiad gyda chi wrth iddyn nhw ddarganfod ac archwilio etifeddiaeth a diwylliant gwahanol.

Marchnata’n ddwyieithog

Mae natur unigryw’r Gymraeg yn cynnig gwerth brand a manteision posib i fusnesau yn y sector twristiaeth. Bydd cwsmeriaid yn aml yn edrych am ymdeimlad o hunaniaeth fydd yn eich gwneud chi’n wahanol i fusnesau eraill, a dyma lle mae gwerth dwyieithrwydd yn eich busnes yn gallu dod yn amlwg.

Os oes rhai o’ch staff yn gallu siarad Cymraeg, cam cyntaf da yw iddyn nhw wisgo bathodynnau sy’n atgoffa pobl eraill eu bod yn hapus i sgwrsio yn Saesneg neu Gymraeg. Hefyd gwnewch y gorau o unrhyw ddigwyddiadau diwylliannol, fel Dydd Gŵyl Dewi.

Os oes gennych chi wefan ddwyieithog, mae’n bwysig fod yr iaith a’r gramadeg yn gywir yn y ddwy iaith. Os nad ydych chi’n siŵr, mae’n werth ceisio arweiniad proffesiynol - byddai hynny’n well na rhoi argraff anghywir o’ch busnes ac efallai droi darpar gwsmeriaid i ffwrdd. Mae gwasanaethau cyfieithu ac ysgrifennu copi proffesiynol ar gael yn lleol yng Ngheredigion.

06

pecyn cymorth marchnata

Page 35: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Gymraeg 34

Enghreifftiau daMae Tŷ Nant, Chwisgi Penderyn a Llaeth y Llan i gyd yn frandiau adnabyddus a llwyddiannus sydd wedi defnyddio’r Gymraeg i wthio eu busnesau ymhellach. Yn wir, ar ôl cyfnod o dwf gwastad yn 2011, penderfynodd Llaeth y Llan newid yn ôl i fod yn ddwyieithog, ac arweiniodd hyn at gynnydd o 15% yn eu trosiant. Yn gryno, bydd defnyddio’r Gymraeg fel elfen allweddol yn eich brand yn tynnu sylw atoch chi - bydd yn eich gwneud chi’n unigryw! Ceisiwch ddysgu ystyr unrhyw eiriau Cymraeg sy’n gysylltiedig â’r busnes, neu hyd yn oed y lleoliad - mae enwau Cymraeg yn aml yn swyno, gan ddisgrifio’r lleoliad neu nodwedd arbennig ynddo, a gall hyn helpu i ddatblygu delwedd neu frand eich busnes.

Gall marchnata drwy gyfrwng y Gymraeg agor drysau i farchnadoedd newydd a gall hyd yn oed y brandio a marchnata dwyieithog mwyaf sylfaenol fod o fudd i’ch cwmni drwy gynnig elfen wahanol gystadleuol. Mae Foras na Gaeilge - y corff sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r iaith Wyddeleg drwy Iwerddon - wedi nodi bod yr iaith Wyddeleg wedi ychwanegu pwynt gwerthu unigryw i fusnesau yn Iwerddon mewn nifer o ffyrdd, drwy frandio a marchnata, yn enwedig cyfathrebu gweledol, deunyddiau corfforaethol (papur swyddogol, cardiau busnes, anfonebau ac ati), arwyddion (mewnol ac allanol) a deunyddiau marchnata (print ac electronig). O ganlyniad, mae llawer wedi manteisio ar ddefnyddio’r Wyddeleg, beth bynnag yw lefel rhuglder y staff neu’r cleientiaid.

Gwnewch y gorau o ddigwyddiadau perthnasol, fel diwrnod S’mae, Shwmae, neu Ddydd Gŵyl Dewi, nid yn unig i ddangos ochr ysgafn, hwyliog, ond hefyd i gyrraedd cynulleidfa Gymraeg ei hiaith yn haws. Rhwng 8pm a 9pm ar nosweithiau Mercher, gallwch fanteisio ar yr Awr Gymraeg ar Twitter, a bydd defnyddio #yagym mewn trydariad Cymraeg yn gwarantu ail-drydar gan y gwasanaeth wythnosol hwn.

Gwybodaeth a chymorthComisiynydd y GymraegMae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i helpu busnesau i weithredu’n ddwyieithog yng Nghymru. Ewch i’w tudalen i weld sut y gallwch chi ddefnyddio’r iaith a’r diwylliant Cymraeg mewn ffordd fanteisiol i’ch busnes: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/hybu/cy/hafan/Pages/hafan.aspx

Gwasanaethau CyfieithuCymdeithas Cyfreithwyr Cymru yw cymdeithas broffesiynol cyfieithwyr Cymraeg ac mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol, ynghyd â rhestr o gyfieithwyr cymeradwy: https://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cy/

Page 36: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

Darganfod Ceredigion Pecyn Cymorth Marchnata // www.darganfodceredigion.cymru // Y Gymraeg 35

Cerdyn geirfa Gymraeghttp://www.shwmae.cymru/?page_id=462&lang=en

CysgliadPecyn meddalwedd yw Cysgliad sy’n cynnwys dwy brif raglen: Cysill – sy’n gwirio gramadeg a sillafu; Cysgeir – geiriadur digidol. Gallwch brynu Cysgliad o’r wefan, neu, gallwch ddefnyddio Cysill ar-lein.

Geiriaduron Ar-leinCeir amrywiol eiriaduron Cymraeg-Saesneg, Saesneg-Cymraeg ar-lein. Y mwyaf nodedig yw Geiriadur yr Academi, Y Termiadur Addysg a’r Gweiadur. Gall offerynnau fel Google translate fod yn ddefnyddiol ar gyfer geiriau unigol neu gymalau byr, ond gwnewch yn siŵr ei fod yn gwneud synnwyr i siaradwr Cymraeg bob tro. Dyw idiomau ddim yn cyfieithu’n dda fel arfer, ac mae gan rai geiriau fwy nag un ystyr, gan ddibynnu ar y cyd-destun.

Awgrym Ceisiwch gyfieithu’r ystyr, yn hytrach na phob gair yn llythrennol, ac fel prawf cyflym, ceisiwch ei gyfieithu’n ôl i’r iaith wreiddiol. I gael cyfieithiadau o enwau llefydd yng Nghymru, ewch i Enwau Cymru. http://www.e-gymraeg.org/enwaucymru/chwilio_en.aspx

Page 37: Darganfod Discover Ceredigion · ac oen Cymreig, pysgod a bwyd môr, caws, dŵr, cwrw, gwin a gwirod. Mae Ceredigion yn gartref i frandiau o fri rhyngwladol, ac mae yma nifer cynyddol

CYNGOR SIR

CEREDIGIONCOUNTY COUNCIL

www.darganfodceredigion.cymruwww.discoverceredigion.wales