Cylchlythyr Hydref

4
Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth Rhanbarthol AAA Calan Gaeaf Hapus! Hydref 2011 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Croeso a throsolwg o’r Ymgyrch Hardest Hit a’r Ymchwil How Special. Lansio Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol Crynodeb byr o’r digwyddiad lansio. Iechyd Hawdd ei Gyrraedd Cymru Lansio gwefan newydd yn cynnig gwybodaeth iechyd a lles hawdd ei darllen. Newyddion Bothau Newyddion o’r bothau, golwg at Fentoriaid Cymheiriaid a Chynhwysiad Ieuenctid Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau prosiectau sydd ar y gweill. Croeso i Newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol y mis hwn, gyda’r thema Calan Gaeaf. Mae llawer o bethau gwych wedi bod yn digwydd ar draws y prosiect y mis hwn, ac mae hefyd yn fis pwysig iawn i bobl anabl yn gyffredinol, gyda’r Rali Hardest Hit yn cael ei chynnal ar Hydref 22ain yng Nghaerdydd. Yn ystod y rali bydd pobl anabl, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn gorymdeithio dros y DU gyfan i brotestio yn erbyn toriadau’r Llywodraeth i fudd-daliadau a gwasanaethau anabledd. Mae’r ralïau DU gyfan hyn yn ddilyniant i’r protestiadau Hardest Hit ym mis Mai, lle gorymdeithiodd oddeutu 8,000 i’r Senedd. Er mwyn gweithredu, cymryd rhan neu i gael gwybod mwy ewch i www.thehardesthit.wordpress.com neu ymunwch â’r ymgyrch ar Facebook. Mae’r rali yng Nghaerdydd yn dechrau am 12:30 y tu allan i Neuadd y Ddinas. Y mis hwn hefyd lansiwyd yr ymchwil ‘How Special’ a gynhaliwyd gan Aelodau Pobl Ifanc yn Gyntaf Caerdydd. Cynhaliodd dîm o dri ymchwilydd o’r grŵp yr astudiaeth i ddarganfod y gwahaniaethau rhwng ysgolion prif ffrwd ac anghenion arbennig. Amlygodd yr ymchwil rai gwahaniaethau allweddol rhwng y ddwy fath o ysgol. Cafwyd bwlio yn y ddwy ysgol, ond roedd y rhesymau dros fwlio yn cael eu hystyried yn wahanol. Mewn ysgolion arbennig cafwyd nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer clybiau ar ôl ysgol, yn wahanol i’r ysgolion prif ffrwd. Cynigiwyd dewis ehangach o bynciau i’w hastudio mewn ysgolion prif ffrwd, lle ychydig iawn o gyfleoedd oedd i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig i sefyll arholiadau TGAU. Agorodd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau y digwyddiad a gwnaeth sylwadau positif ar y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf i gael gwared ar y gwahaniaethau hyn. Nododd fod angen gwneud mwy i ddisgyblion o safbwynt trawsnewid a gwrth-fwlio ac roedd yn falch i gyhoeddi ymestyn y prosiect ‘Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig’. Cyflwynodd y tîm eu canfyddiadau drwy fideo a chân - mae DVD ar gael o Bobl yn Gyntaf Caerdydd a gallwch glywed y gân ar YouTube. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phobl yn Gyntaf Caerdydd ([email protected]), neu ewch i ymweld â hwy ar Facebook. Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect 1

description

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth Rhanbarthol AAA

Transcript of Cylchlythyr Hydref

Page 1: Cylchlythyr Hydref

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth Rhanbarthol AAA

Calan Gaeaf Hapus!Hydref 2011Yn y rhifyn hwn

CyflwyniadCroeso a throsolwg o’r Ymgyrch Hardest Hit a’r Ymchwil How Special.

Lansio Prosiect Cyfleoedd GwirioneddolCrynodeb byr o’r digwyddiad lansio.

Iechyd Hawdd ei Gyrraedd CymruLansio gwefan newydd yn cynnig gwybodaeth iechyd a lles hawdd ei darllen.

Newyddion BothauNewyddion o’r bothau, golwg at Fentoriaid Cymheiriaid a Chynhwysiad Ieuenctid

Hyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau prosiectau sydd ar y gweill.

Croeso i Newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol y mis hwn, gyda’r thema Calan Gaeaf. Mae llawer o bethau gwych wedi bod yn digwydd ar draws y prosiect y mis hwn, ac mae hefyd yn fis pwysig iawn i bobl anabl yn gyffredinol, gyda’r Rali Hardest Hit yn cael ei chynnal ar Hydref 22ain yng Nghaerdydd. Yn ystod y rali bydd pobl anabl, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn gorymdeithio dros y DU gyfan i brotestio yn erbyn toriadau’r Llywodraeth i fudd-daliadau a gwasanaethau anabledd. Mae’r ralïau DU gyfan hyn yn ddilyniant i’r protestiadau Hardest Hit ym mis Mai, lle gorymdeithiodd oddeutu 8,000 i’r Senedd. Er mwyn gweithredu, cymryd rhan neu i gael gwybod mwy ewch i www.thehardesthit.wordpress.com neu ymunwch â’r ymgyrch ar Facebook. Mae’r rali yng Nghaerdydd yn dechrau am 12:30 y tu allan i Neuadd y Ddinas.

Y mis hwn hefyd lansiwyd yr ymchwil ‘How Special’ a gynhaliwyd gan Aelodau Pobl Ifanc yn Gyntaf Caerdydd. Cynhaliodd dîm o dri ymchwilydd o’r grŵp yr astudiaeth i ddarganfod y gwahaniaethau rhwng ysgolion prif ffrwd ac anghenion arbennig. Amlygodd yr ymchwil rai gwahaniaethau allweddol rhwng y ddwy fath o ysgol. Cafwyd bwlio yn y ddwy ysgol, ond roedd y rhesymau dros fwlio yn cael eu hystyried yn wahanol. Mewn ysgolion arbennig cafwyd nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer clybiau ar ôl ysgol, yn wahanol i’r ysgolion prif ffrwd. Cynigiwyd dewis ehangach o bynciau i’w hastudio mewn ysgolion prif ffrwd, lle ychydig iawn o gyfleoedd oedd i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig i sefyll arholiadau TGAU. Agorodd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau y digwyddiad a gwnaeth sylwadau positif ar y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf i gael gwared ar y gwahaniaethau hyn. Nododd fod angen gwneud mwy i ddisgyblion o safbwynt trawsnewid a gwrth-fwlio ac roedd yn falch i gyhoeddi ymestyn y prosiect ‘Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig’. Cyflwynodd y tîm eu canfyddiadau drwy fideo a chân - mae DVD ar gael o Bobl yn Gyntaf Caerdydd a gallwch glywed y gân ar YouTube. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phobl yn Gyntaf Caerdydd ([email protected]), neu ewch i ymweld â hwy ar Facebook.

Laura DaviesSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

1

Page 2: Cylchlythyr Hydref

2

Lansio’r PROSIECT Lansiodd Alun Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Raglenni Ewropeaidd y Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth Rhanbarthol AAA yn swyddogol o dan yr enw ‘Cyfleoedd Gwirioneddol’ yn y digwyddiad lansio yn Nhŷ Penallta, Caerffili ar ddydd Llun 26ain Medi 2011 gydag oddeutu 100 o bobl ifanc, rhieni a gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a gwesteion yn bresennol.

Agorodd Maeres Caerffili, y Cyng Vera Jenkins y

gweithdrefnau gyda chroeso dinesig wedi’i ddilyn gan y brif araith gan Sandra Aspinall, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Dysgu Gydol Oes a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Siaradodd Alun Davies A.C. (gyferbyn) am yr argraff dda a wnaed arno gan waith y timau both a’r prosiect yn gyffredinol a lansiodd y prosiect yn swyddogol. Gwelodd y Gweinidog werth gwirioneddol Cyfleoedd Gwirioneddol ar ôl i ddau berson ifanc, Jason Morris (Caerffili) a Tomos Roberts (Pen-y-Bont) wneud cyflwyniadau ardderchog am eu profiadau gyda thimau both y prosiect. Ymunodd ei reolwr â Jason, sef Rod Mills o Orangebox Cyf Caerffili, a drafododd fanteision y prosiect o safbwynt cyflogwr. Trafododd Tomos ei gynllun trawsnewid, y gefnogaeth y mae wedi’i dderbyn a’i gyffro ynglŷn â dechrau ar brofiad gwaith mewn cathdy yn ystod yr wythnos ganlynol.

Cynrychiolwyd holl bartneriaid y prosiect yn y digwyddiad, a chafodd y Gweinidog, y Faeres a Rheolwr y Prosiect Angela Kenvyn gyfle i siarad â hwy i gyd i gael gwybod mwy am waith Cyfleoedd Gwirioneddol hyd yn hyn. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr i’r holl bobl ifanc a rannodd eu straeon ar y dydd.

Mae’r wefan yn cynnig adnoddau ardderchog ar ffurf gwybodaeth iechyd a lles hawdd ei darllen i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru a phawb sy’n eu cefnogi. Cyflogwyd gweithiwr llinell gymorth penodedig i ddarparu cefnogaeth wrth ddod o hyd i ddogfennau yn y Gymraeg a’r Saesneg a’u deall. Rhif y llinell gymorth yw 0808 8081111. Mae’r wefan a’r llinell gymorth yn rhan o brosiect ‘Gwybodaeth Hygyrch’ mwy o faint sydd hefyd yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i ddarparwyr gwasanaeth i wella’r gwasanaeth y mae pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn ei dderbyn ym maes tai, hamdden a chyfiawnder troseddol. I gefnogi’r gwaith hwn bydd y prosiect

hefyd yn datblygu llawlyfr i sefydliadau ar sut i greu gwybodaeth hygyrch, dda a bydd yn datblygu offeryn gwerthuso y gall sefydliadau ei ddefnyddio i wirio hygyrchedd ac ansawdd eu gwybodaeth. Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno gan Anabledd Dysgu Cymru mewn partneriaeth â Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Mencap Cymru. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Peter Jones ar 029 2068 1176 neu yn [email protected] new ewch i’r wefan! Gallwch ddod o hyd i Iechyd Hawdd ei Gyrraedd Cymru ar Facebook a Twitter hefyd (@easyhealthwales)

IECHYD HAWDD EI GYRRAEDD CYMRUY mis hwn gwelwyd lansio Gwefan ‘Iechyd Hawdd ei Gyrraedd Cymru’, sef www.easyhealthwales.org.uk, hefyd. Cafodd ei lansio yng nghynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru, ‘Gan y Bobl, Dros y Bobl’.

Page 3: Cylchlythyr Hydref

MENTORA CYMHEIRIAID YN DECHRAU’N DDA

Mae’r Cynllun Mentor Cymheiriaid yn cael ei dderbyn yn dda ar draws y prosiect, gan fod o fantais fawr nid yn unig i’r rheiny y bydd y mentoriaid yn mynd ymlaen i’w mentora ond i’r mentoriaid eu hunain hefyd. Mae Heike Griffiths, gweithiwr Cefnogi Mentoriaid Cymheiriaid a Chynhwysiad Ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn brysur yn hyfforddi pobl ifanc yn ardal Sir Gaerfyrddin y mae’n dweud sydd wedi “ennill hyder, sgiliau pobl a hunanymwybyddiaeth”.Hyd yn hyn, mae Heike wedi hyfforddi 64 o fentoriaid cymheiriaid, sy’n rhoi’n fodlon o’u hamser i dderbyn yr hyfforddiant a rhoi cefnogaeth i’w cymheiriaid. Hyd yn hyn mae 7 o fentoriaid Heike wedi cael eu dewis i ddarparu cefnogaeth fentora i ddisgyblion Blwyddyn 7. Bydd rhai o’r mentoriaid yn mynd ymlaen i fentora disgyblion o’r Chweched Dosbarth â Chefnogaeth yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, bydd rhai yn mentora disgyblion ifanc yn eu hysgolion eu hunain, a bydd rhai yn mentora pobl ifanc gydag anableddau dysgu mewn Clybiau Ieuenctid neu gyfleusterau hamdden eraill, neu hyd yn oed yn eu gweithle.Mae’r cynllun mentor cymheiriaid yn gofyn am lawer o ymdrech i’w ddatblygu a’i gyflwyno; mae staff mewn ysgolion wedi rhoi o’u hamser i ddarparu cefnogaeth barhaus tra bod Heike yn parhau i ddarparu cefnogaeth i staff ysgolion a mentoriaid. Dywedodd Heike, “Rwy’ mor falch fod cynifer o bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin sy’n dymuno rhoi o’u hamser er mwyn cefnogi eu cymheiriaid”. Mae Mentora Cymheiriaid wedi bod yn llwyddiant yn RhCT hefyd gydag 16 o fentoriaid yn cael eu hyfforddi a derbyn profiad gwaith yn Ysgol Hen Felin, ac o ganlyniad cynigiwyd cyflogaeth â thâl i 5 mentor drwy bartneriaeth gydag Elite, i gefnogi pobl ifanc ar y prosiect yn ystod eu lleoliadau profiad gwaith. Mae Mentoriaid Cymheiriaid hefyd yn cynnal gweithgareddau. Mae ysgolion yn y Rhondda nawr yn gofyn am fwy o fentoriaid cymheiriaid o ganlyniad i lwyddiant cychwynnol y cynllun, ac mae 20 mentor cymheiriaid wedi cael eu hyfforddi bellach yn Ysgol Gyfun Treorci, gyda 18 arall yn cael eu hyfforddi ym mis Mawrth.

Newyddion TIMAU BOTH

3

LLWYDDIANT PÊL-DROED I BRADLEY Mae Bradley Kinsey o’r Rhondda wedi cynrychioli Prydain Fawr fel gôl-geidwad ar dîm pêl-droed Mencap Prydain Fawr o ganlyniad i gefnogaeth gan Ian Broad, gweithiwr cynhwysiad ieuenctid yn RhCT. Cyfeiriodd Ian Bradley at glwb lle roedd yn gallu chwarae pêl-droed yn rheolaidd a hefyd fe’i anogodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau 5x60 yn Ysgol Hen Felin. Rhoddwyd cyfle i Bradley, ynghyd â grŵp bach o bobl ifanc eraill o Hen Felin, i fynychu Treialon Pêl-droed Mencap ym Mhrifysgol Warwick ym mis Chwefror. Aeth timau o Brydain Fawr gyfan i’r treialon gyda dros 130 o bobl yn cystadlu am le ar Sgwad Pêl-droed Mencap Prydain Fawr. Ar ôl 4 awr o dreialon ar fore Sul rhewllyd dewiswyd Bradley fel gôl-geidwad dewis cyntaf y tîm!Ar ôl cael ei ddethol mynychodd Bradley wersyll hyfforddi ym Mhen-y-bont a ddilynwyd gan gêm gyfeillgar yn erbyn Bravehearts Dinas Abertawe i baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop yng Ngenefa, Y Swistir. Yn ystod y twrnamaint cafodd Bradley gyfle i chwarae yn erbyn timau o Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, a’r Iseldiroedd, a dywedodd, “Dyna’r profiad gorau i mi ei gael erioed a byddwn wrth fy modd yn ei wneud eto - gwych!”. Daeth y tîm yn 5ed yn y twrnamaint, ac ym mhob gêm perfformiodd Bradley yn ardderchog! Da iawn Bradley!

Y mis hwn cawn olwg ar rai o’r cyflawniadau o gynhwysiad ieuenctid a mentora cymheiriaid yn Rhondda Cynon Taf a Sir Gaerfyrddin

Page 4: Cylchlythyr Hydref

Digwyddiadau A HYFFORDDIANTI archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau a restrwyd cysylltwch â Hannah yn [email protected].

PCP 1 Diwrnod (Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin)Dyddiad: 28ain Hydref 2011Amser: 10am - 4pmLleoliad: Neuadd y Frenhines, Arberth

PCP 1 Diwrnod (Sir Benfro)Dyddiad: 31ain Hydref 2011Amser: 10am – 4pmLleoliad: Ysgol Portfield, Sir Benfro

Dosbarth Meistr Agored Cymru Dyddiad: 17eg Hydref 2011Amser: 10am – 12 pmLleoliad: Canolfan Ddawns New Cottage, Ystrad Mynach

Briffio Prosiect @ Cynhadledd Trawsnewid (Sir Gaerfyrddin)Dyddiad: 11eg Tachwedd 2011Amser: I’w drefnuLleoliad: Canolfan Gynadledda Halliwell, Caerfyrddin

Diwrnod 1 o PCP 5 Diwrnod (Pob Both)Dyddiadau: 15fed-16eg Tachwedd 2011Amser: 10am – 4 pmLleoliad: Manor Park, Clydach

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn [email protected]