Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy...

6
Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? LAWR LWYTHWCH COPÏAU YCHWANEGOL caid.org.uk/lent Credwn mewn byw cyn marw Y Grawys hwn, teithiwch gyda’n cymdogion o amgylch y byd. Mae eich calendr o fyfyrdodau yn cynnig cyfleoedd dyddiol i roi, gweithredu a gweddïo dros eich cymydog, ac i ddiolch am fendithion bywyd. A fyddwch chi ar gael i’ch cymydog, fel Michael, y Grawys hwn? caid.org.uk/lent

Transcript of Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy...

Page 1: Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? U t Cedwn mewn byw cyn marw

Cyfra dy fendithion 2017

Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno?

LAWR LWYTHWCH COPÏAU YCHWANEGOL caid.org.uk/lent

Credwn mewn byw cyn marw

Y Grawys hwn, teithiwch gyda’n cymdogion o amgylch y byd.Mae eich calendr o fyfyrdodau yn cynnig cyfleoedd dyddiol i roi, gweithredu a gweddïo dros eich cymydog, ac i ddiolch am fendithion bywyd.

A fyddwch chi ar gael i’ch cymydog, fel Michael, y Grawys hwn?

caid.org.uk/lent

Page 2: Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? U t Cedwn mewn byw cyn marw

Croeso!

Rydym mor falch eich bod am ymuno efo ni ar ein Taith trwy’r Grawys.

Thema Cyfra dy Fendithion eleni yw ‘bod yn gefn i eraill’.

Dros y saith wythnos nesaf cewch gwrdd â rhai o’ch cymdogion byd eang a gweld sut mae eich cefnogaeth yn helpu pobl i fyw yn ddiogel a gobeithiol, fel y bwriadodd Duw.

Sut i gyfrif eich bendithion

1. Darllenwch y myfyrdod dyddiol

2. Cyfrwch eich bendithion a rhowch y cyfanswm yn y gofod*

3. Gweddïwch a gweithredwch efo ni i rannu eich bendithion.

4. Ar ôl y Pasg, adiwch eich cyfraniadau ac anfonwch y cyfanswm i Cymorth Cristnogol. Mae’n hawdd iawn - defnyddiwch y ffurflen atodedig neu cyfrannwch ar-lein yn caid.org.uk/lent

*os gwelwch yn dda, rhowch yr hyn y gallwch ei fforddio. Awgrymiadau yn unig yw’r cyfraniadau dyddiol a nodir. Cofiwch, bydd eich rhodd hael chi yn trawsffurfio bywyd pobl.

Beth am wahodd y plant i gymryd rhan! Mae gennym fersiwn arbennig o Cyfra dy Fendithion i blant yn Saesneg, fel bod y teulu i gyd yn gallu rhannu’r daith.

Ewch i caid.org.uk/lent

ebostiwch: [email protected]

ffoniwch 0870 078 7788

Wythnos 1

1-5 Mawrth

Pan oeddwn angen cymydog

Eich cyfanswm am Wythnos 1:

Penwythnos 4 & 5 ‘Pan oeddwn i angen cymydog, ble oeddet ti?’

Ymatebodd miloedd o eglwysi a chefnogwyr i’r sialens hon trwy sefydlu Cymorth Cristnogol. Parhawn i weithio trwy’r byd. Mae angen i ni i gyd ymateb i’r sialens, nid mewn gair yn unig, ond mewn gweithredoedd. Roedd Iesu yno, yn bwydo, iachau, croesawu plant, galw am gyfiawnder, a’r cwbl yn deillio o’i gariad angerddol dros y rhai ar y cyrion.

Fyddwch chi yno hefyd? Mae gweddïo yn ein hagosáu at Dduw ac at ein gilydd. Gweddiwch wrth ymyl drws agored a myfyriwch: i be y mae angen ichi fod yn agored iddo?

Dydd Mercher 1 Dydd Mercher Lludw ‘Nid oes nag Iddew na Groegwr’

Fe dorrodd Iesu rwystrau rhwng pobl a’n cysylltu gyda’n gilydd. Y Grawys hwn, cerddwch efo’ch chwiorydd a’ch brodyr o amgylch y byd.

Mae hefyd yn ddydd Gwahaniaethu yn Erbyn Neb. Rhowch £1 am bob person newydd y gwnewch ei gyfarfod heddiw.

Dydd Iau 2 Pa mor aml y gofynnwn, ‘Pwy yw fy nghymydog?’

Ar draws y byd, mae 65 miliwn o bobl wedi eu gorfodi i ffoi oherwydd anghydfod a thrais, heb le diogel i’w alw’n gartref. Yma yng Nghymru mae sawl eglwys a chymuned yn gweithio i groesawu ffoaduriaid.

Ymunwch a’n hymgyrch Newid y Stori yn caid.org.uk/change-the-story.

Dydd Gwener 3 Hyd yn oed mewn sefyllfaoedd megis newyn yn Ne Swdan neu ganlyniad y daeargryn yn Nepal, mae cymunedau yn mynnu dal gafael mewn gobaith ac urddas. Be ydach chi’n ei werthfawrogi am eich cymuned chi?

Beth am wahodd eich cymdogion am baned, fel ffordd o godi arian i Cymorth Cristnogol, neu rhowch £2.50 yn lle hynny?

Ffoaduriaid yn Ewrop

Page 3: Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? U t Cedwn mewn byw cyn marw

Penwythnos 18 & 19 ‘Pan oeddwn yn oer ac yn noeth, ble oeddet ti?’

Pan rwygodd y fyddin trwy ei bentref, ffodd Michael i’r corsydd a bu raid iddo gael ei arwain i ddiogelwch gan ei gymdogion. Pan ddychwelodd adref, roedd Cymorth Cristnogol yno. Rhoesom offer pysgota iddo ac yn awr mae’n dysgu ei deulu sut i ddal pysgod, gan roi diogelwch iddynt.

Myfyriwch ar y gweithredoedd anhunanol hyn. Rhowch 50c am bob gweithred garedig a ddaw i’ch meddwl a gadewch iddynt eich ysbrydoli heddiw.

Wythnos 2

6 – 12 Mawrth

Roeddwn yn llwglyd a sychedig Eich cyfanswm am wythnos 2:

Wythnos 3

13-19 Mawrth

Roeddwn yn oer a noeth

Eich cyfanswm ar gyfer wythnos 3:

Penwythnos 11 & 12 ‘Roeddwn i’n llwglyd a sychedig, ble oeddet ti?'

Yn union fel y mae newyn a syched yn gallu llenwi gorwelion ein cymdogion byd-eang, bydded i’n gorwelion ni gael eu llenwi efo’r dyhead am gyfiawnder. Yng Ngwlad Thai, mae miloedd o ffoaduriaid o Burma yn byw mewn gwersylloedd ar y ffin, wedi eu gorfodi o’u cartref gan drais difrifol. Mae ein partner yn rhoi prydau bwyd iach i blant y ffoaduriaid.

Ymprydiwch dros un pryd bwyd heddiw a chyfrannwch yr arian y byddech wedi ei wario arno. Defnyddiwch yr amser hwn i weddïo.

Dydd Llun 6 Tyfodd Masnach Deg o’r alwad am gyfiawnder yn y byd masnach. O sebon wedi ei gynhyrchu yn nhir y meddiant ym Mhalestina i flodau yn Zimbabwe a choffi yn Nicaragua, mae Masnach Deg yn sicrhau dyfodol cadarnach.

Y Grawys hwn prynwch gynnyrch Masnach Deg bob wythnos o’ch siop leol.

Dydd Mawrth 7Yn dilyn corwynt Mathew yn Haiti, roedd perygl y byddai colera’n datblygu o’r dŵr budr. Trwy ein partner KORAL, fe ddarparwyd tabledi puro dŵr.

Rhowch 5c am bob cwpan neu wydr yn eich cegin.

Dydd Mercher 8 Gweddïwch gyda ni yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Ferch hwn:

Dduw, creaist ti ni i gyd ar dy ddelw. Diolchwn

heddiw am ferched ar draws y byd, sydd a’u

harweiniad a’u dycnwch, wrth fagu teulu,

gwrthod anobaith, a dewis ffyrdd newydd

o ffynnu mewn byd a fygythir gan newid

hinsawdd, yn trawsffurfio cymunedau tlawd.

Amen.

Dydd Iau 9 Yn Bolivia llwyddodd ein partner Fundacion Solon i sicrhau bod miloedd yn lobïo’r Cenhedloedd Unedig, er mwyn sicrhau bod mynediad i ddŵr yn hawl sylfaenol.

Rhowch 10c bob tro y byddwch yn troi’r tap ymlaen heddiw.

Dydd Gwener 10 Roedd miliynau heb ddigon o fwyd yn Malawi yn dilyn sychder difrifol. Mae ein systemau dyfrhau wedi eu rhedeg gan ynni haul yn sicrhau cnydau trwy’r flwyddyn yno.

Cyfrwch y llysiau yn eich rhewgell. Rhowch 15c am bob un.

Dydd Llun 13 Collodd Madame Yveline ei chartref yng Nghorwynt Mathew yn Haiti, a chollodd ei heiddo, ei da byw a’i harian. Bu raid iddi ffoi am ddiogelwch gyda’i phlant, tra roedd y gwynt yn dal i ruo.

Rhowch 10c am bob blwyddyn y bu gennych yswiriant cartref, neu rhowch £3.

Dydd Mawrth 14 Oherwydd newid hinsawdd, mae stormydd a llifogydd yn digwydd yn amlach ac yn waeth. Tlodion y byd sy’n cael eu heffeithio gwaethaf, yn aml yn gorfod ffoi eu cartrefi efo dim ond eu dillad ar eu cefn.

Rhowch 50c am bob dilledyn a wisgwch heddiw, neu rhowch £4.

Dydd Mercher 15 Oherwydd newid hinsawdd hefyd, mae rhewlif Bolivia yn diflannu’n sydyn, sy’n golygu nad oes gan ffermwyr ddŵr i ddyfrhau eu cnydau.

Mae gennym i gyd ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael a newid hinsawdd a chreu byd glanach a thecach. Ewch i christianaid.org.uk/bigshiftaction

Dydd Gwener 17 Pan wrthododd Bokiya, 13 oed, a phriodi aelod hŷn o’i chymuned, dadwisgwyd hi gan ei theulu. Cerddodd yn noeth i chwilio am ddiogelwch. Diolch i’n partner HUNDEE, mae cyfraith Ethiopia yn gwarchod merched ifanc rhag gorfod priodi.

Gweddïwch am ddyfodol diogelach i ferched ar draws y byd.

Dydd Iau 16 Yn 2014, daeth Marie Kargbo yn ofalwr plant amddifad Ebola yn ei phentref yn Sierra Leone. Mae hi’n un o nifer y mae ein partner REWAP yn eu hariannu i ofalu am blant sydd wedi eu gadael yn amddifad yn dilyn yr epidemig hwn.

Rhowch 50c am bob oedolyn a ofalodd amdanoch chi pan yn blentyn.

Michael, De Swdan

Yn dilyn corwynt, Haiti

Page 4: Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? U t Cedwn mewn byw cyn marw

Wythnos 4

20-26 Mawrth

Pan oeddwn angen lloches

Eich cyfanswm am wythnos 4:

Penwythnos a Sul y Mamau 25 & 26‘Pan oeddwn angen lloches, ble oeddet ti?’

Ffodd Theresa a’i theulu eu cartref yn Ne Swdan wedi i’w pentref gael ei ymosod. Lladdwyd ei gŵr. Ffoesant i’r perthi ond yn y diwedd gorfododd newyn hwy i fynd i chwilio am loches gyda’r Cenhedloedd Unedig. Mae 14,000 yn llochesu yn y gwersyll hwn. Oherwydd bod cymaint o ddynion wedi eu dal gan yr anghydfod hwn, mae merched yn gorfod gofalu am eu teuluoedd eu hunain. Gydag eich help chi, rydym yn gefn i famau fel Theresa, gan gynnig iddi obaith newydd.

Dros Sul y Mamau, myfyriwch ar eich perthnasau: ym mhle ydych chi wedi derbyn a rhoi lloches neu ofal?

Dydd Llun 20 Pan ddinistriwyd cartrefi mwy na miliwn o bobl yn Nepal, roedd ein partneriaid yno i gefnogi pobl fel Janak, yn y llun, i ailadeiladu. Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r tai hynny’n profi i fod yn le diogel i’w alw’n gartref.

Rhowch 50c am bob cartref diogel ichi fyw ynddo.

Dydd Mawrth 21Gall byw mewn gwersyll ffoaduriaid fod yn galetach i bobl ag anableddau. Yn Libanus, mae ein partneriaid yn rhoi arian i bobl fregus i brynu dŵr a bwyd.

Gweddïwch dros bawb sy’n anabl a’r rhai sy’n eu cefnogi.

Dydd Mercher 22Mae merched Irac yn gallu wynebu trais gan eu teulu – neu ‘ladd anrhydedd’. Mae ein partner ASUDA yn cyflenwi lloches diogel i ferched ac yn lobïo’r llywodraeth am amddiffyn gwell ar gyfer y dyfodol.

Rhowch 20c am bob ystafell sydd yn eich cartref diogel chi.

Dydd Iau 23 Mae trais domestig o amgylch y byd yn troi'r cartref yn le anniogel. Mae partner Cymorth Cristnogol yn Brasil, SAAD, yn rhoi lloches i ferched a chefnogaeth ar gyfer y dyfodol, y tu hwnt i gyrraedd trais.

Gweddïwch dros bawb sy’n teimlo’n fregus yn yr union le y dylent deimlo’n ddiogel.

Dydd Gwener 24 Dinistriwyd pentref Sagar Tamang yn Nepal gan ddaeargryn 2015. Cynorthwyodd i sefydlu gwersyll ar gyrion Dhading, yn cynnig lloches angenrheidiol i’w gymuned.

Myfyriwch ar yr adegau hynny y derbynioch chi help eraill a phryd y rhoesoch help eich hun.

Wythnos 5

27 Mawrth – 2 Ebrill

Pan oeddwn angen meddyg

Eich cyfanswm am wythnos 5:

Penwythnos 1 & 2 Ebrill ‘Pan oeddwn angen iachâd, ble oeddet ti?’

Yn Balaka, Malawi, roedd Lita Daudi yn gorfod teithio 15 cilomedr – yn aml trwy gerdded – i gyrraedd clinig cyn-geni. Mae ein partner FOCUS wedi bod yn gweithio efo merched a dynion Balaka i benderfynu sut i wella gofal mamol. Yn awr, mae’r dynion yn deall yn well eu rôl i gefnogi, a’r merched yn fwy hyderus wrth fynnu gwell gofal yn lleol.

Rhowch 30c am bob person y gwyddoch y byddai ar gael i’ch helpu petai chi eu hangen.

Dydd Llun 27 Mae glendid syml yn sicrhau gwell iechyd. Mae gweithwyr iechyd cymunedol yn Sierra Leone wedi helpu i atal lledaeniad pellach Ebola trwy ddysgu pobl am y pwysigrwydd o olchi eu dwylo yn gyson.

Rhowch 30c am bob tro y byddwch yn golchi eich dwylo heddiw.

Dydd Mawrth 28 Mae’n hawdd anghofio bod gennym wasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim yng Nghymru. Yn Nigeria, mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn cefnogi pobl sy’n mynnu gwell gofal iechyd gan eu hawdurdodau lleol.

Gweddïwch y bydd cymunedau yn cael eu grymuso i fynnu mynediad gwell i wasanaethau iechyd hanfodol.

Dydd Mercher 29 Diolch i’n partneriaid yn Burundi, mae arweinwyr ffydd sydd ag haint HIV yn herio’r stigma sydd yn atal pobl rhag ceisio gofal iechyd. Sut byddech chi’n ymdopi petai chi ddim gallu cael gofal iechyd?

Rhowch £1.50 am bob canolfan iechyd ac ysbyty yn eich ardal.

Dydd Iau 30 Yn Libanus, mae ein partner yn helpu plant ofnus sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel yn Syria i fynegi eu teimladau ac i fod yn rhan o’r gymdeithas.

Gweddïwch dros y miliynau o bobl y mae eu lles emosiynol wedi ei amharu gan anghydfod ac argyfyngau eraill, ac sydd wedi ei waethygu gan newid hinsawdd.

Dydd Gwener 31 Trwy hyfforddi gwirfoddolwyr yng nghefn gwlad Myanmar i brofi am falaria a dangos i bobl sut i ddefnyddio rhwydi mosgito, rydym yn achub bywydau.

Diolch i Dduw am y gwirfoddolwyr hyn. Allech chi wirfoddoli i Cymorth Cristnogol.

Janak Shrestha, Nepal

Mynd i'r afael ag Ebola yn Sierra Leone

Page 5: Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? U t Cedwn mewn byw cyn marw

Dydd Llun 10 Luc 19: 28-40

Mae’r palmwydd yn dal i fod ar y ffordd ac atsain yr hosanna yn dal i’w glywed - ‘bendigedig fyddo’r un a ddaw yn enw’r Arglwydd.’ Rhan o gorff Crist - dyna’r alwad arnom. Ymhell ar ôl i’r cyfryngau golli diddordeb yn Ne Swdan, rydym ni yno o hyd yn helpu teuluoedd. Mae ein partner yng Ngwlad Thai wedi bod yn cefnogi ffoaduriaid Burma am 25 blwyddyn. Gyda’ch help, mae Cymorth Cristnogol yn aros lle mae’r angen fwyaf o amgylch y byd.

Fyddwch chi yno ar ôl i’r rhialtwch basio?

Dydd Mawrth 11 Ioan 12:1-8

Mae cariad yn aros, gobaith yn dal, heddwch yn parhau ymhell wedi i’r un sy’n caru, yn gobeithio ac yn creu heddwch adael. Ymunwch a’r rhai y mae eu bywyd yn tystio bod hyn yn wir. Pan ddaw eich moment, arllwyswch eich cariad heb ddal yn ôl. Ac fe wnewch ennill popeth.

Myfyriwch: ym mhle gallwch chi arllwys eich cariad yn y gymuned ar ôl y Pasg.

Dydd Mercher 12 Marc 11:15-19

Fyddwn ni yno i helpu Iesu i droi’r byrddau – ar anghyfiawnder, ar drais a thlodi, sydd yn dwyn diogelwch oddi ar ein chwiorydd a’n brodyr? Mae eich cefnogaeth yn sicrhau ymgyrchu cryf. Mae eich gweithredu ar dreth a newid hinsawdd yn mynd i’r afael a dau o achosion tlodi.

Rhowch 30c am bob stori newyddion sy’n eich cynddeiriogi heddiw.

Dydd Iau 13 Dydd Iau Cablyd Ioan 13:31-35

Roedd lletygarwch radical cariad yn cynnig bara, gwin a bywyd newydd i bawb - y gwadwr, amheuwr, bradwr, saint a phechaduriaid. Yn wyneb casineb, carodd Iesu. Peidiwch â golchi’ch dwylo o anghenion y byd, ond ymunwch ddwylo gyda’r rhai sy’n rhoi popeth.

Gweddïwch dros bobl sy wedi eu dadleoli a gofynnwch y bydd nifer yn canfod diogelwch ym Mhrydain.

Wythnos 6 3-9 Ebrill

Ple bynnag y teithiwch

Eich cyfanswm ar gyfer wythnos 6:

Penwythnos 8 & 9 ‘Ple bynnag y teithiwch, byddaf yno.’

Mae eich cefnogaeth yn galluogi Cymorth Cristnogol i weithio mewn 39 gwlad o amgylch y byd. Ple bynnag yr awn, rydym yn dilyn ôl traed eraill ar hyd ffordd hir sy’n arwain at gyfiawnder a rhyddid i bawb. Ein gobaith yw y bydd ein gwaith, a’r trawsnewid a ddaw trwyddo, yn ysbrydoli eraill i barhau i deithio.

Diolch am arwain y ffordd i eraill eich dilyn, a bydded ichi gael eich calonogi gan y rhai a deithiodd ynghynt. Rhowch 30c am bob par o esgidiau sydd gennych.

Dydd Llun 3 ‘Cyfiawnder yw’r goleuni ar ddiwedd y twnel sy’n ein cadw ar y daith.’ Temitope Fashola, Cymorth Cristnogol Nigeria.

Myfyriwch ar eiriau Temitope a gweddïwch dros y rhai sy’n galw am gyfiawnder yn Nigeria. Rhowch 50c am bob tortsh sydd gennych adref.

Dydd Mawrth 4Dydd Ymwybyddiaeth Rhyngwladol Ffrwydron yw heddiw. Mae camau pobl De Swdan dan fygythiad gan ffrwydron sydd yn y tir ar ôl degawdau o anghydfod.

Rhowch ddiolch am y rhwydwaith sy’n gweithio efo Cymorth Cristnogol. Gyda’n gilydd, helpwn y pentrefwyr i ddeall peryglon ffrwydron.

Dydd Mercher 5 Yn Wythnos Cymorth Cristnogol 2015, clywsom am Loko yn Ethiopia. Mae gan Loko fuwch a geifr bellach. Dywed, ‘Rydych wedi dod a hapusrwydd imi.’

Myfyriwch: Ai rhoi ynteu derbyn sy’n rhoi'r llawenydd mwyaf ichi? Sut mae eich ateb yn effeithio’r ffordd yr ydych yn byw bob dydd?

Dydd Iau 6 Wedi teithio cannoedd o filltiroedd er mwyn cyrraedd diogelwch, mae nifer sy’n chwilio am loches yn canfod nad oes hawl ganddynt i deithio ymhellach. Yn Serbia, mae ein partneriaid yn rhoi bwyd poeth, citiau hylendid a dillad cynnes i bobl fel hyn.

Rhowch £1 am bob pryd poeth a gewch heddiw.

Dydd Gwener 7 Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gefn i ffoaduriaid ers 1945. Wnawn ni ddim troi ein cefn bellach. Yn Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, 14-20 Mai, bydd miloedd o eglwysi yn ceisio sicrhau diogelwch i bawb.

lawr lwythwch adnoddau ysbrydoledig yr Wythnos yn caweek.org

Wythnos 7

Yr Wythnos Sanctaidd 10-16 Ebrill

Ble’r oeddet ti pan groeshoeliwyd ef?

Darllenwch yr adranau Beiblaidd a’r myfyrdodau ar gyfer pob dydd o’r Wythnos Sanctaidd

Eich cyfanswm ar gyfer yr Wythnos Sanctaidd:

Gwrthdystiad newid hinsawdd, Paris

Page 6: Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti … · 2017. 1. 24. · Cyfra dy fendithion 2017 Pan oeddwn angen cymydog, oeddet ti yno? U t Cedwn mewn byw cyn marw

Penwythnos 15 & 16 Dydd Sadwrn a Sul y Pasg Mathew 27:57-66 a Mathew 28:1-10

Disgwyliwn, gwyliwn a gweddïwn am y cariad sy mor gryf, ni all marwolaeth hyd yn oed ei ddinistrio. Mae ein ffydd yn yr atgyfodiad yn gyhoeddiad byw o sancteiddrwydd bywyd. Mae gweledigaeth Cymorth Cristnogol - ‘Credwn mewn byw cyn marw’ - yn galw arnom i rannu heddwch iachaol Crist mewn byd toredig. O Myanmar i Colombia, o Nepal i Dde Swdan, rydym yno a byddwn yno, yn helpu cymunedau sy wedi eu rhwygo gan drais, tlodi ac argyfyngau i ffynnu eto. Mae cariad yn fyw eto ac ni all gael ei goncro.

Cododd Crist, cododd yn wir! Haleliwia.

Ar y Pasg, galwodd cariad oedd yn gryfach na marwolaeth y disgyblion cyntaf hynny i’r byd, gan ddatgan bywyd newydd i bawb. Dros y 60 blynedd diwethaf mae miloedd o eglwysi wedi ymuno i dystio i’r newydd da hwnnw yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, yn cyhoeddi ein cred mewn byw cyn marw. Ymunwch a ni yn caweek.org

Y Grawys hwn, roeddech ar gael i bobl fregus fel Michael. Mae eich haelioni’n golygu ein bod yn gallu bod ar gael i’n cymdogion am flynyddoedd i ddod.

£30 gallai ddarparu gêr pysgota i ddau deulu fel Michael.

£50 gallai brynu lloches argyfwng a chyfarpar hylendid i deulu sy’n ffoi am eu bywyd, fel Michael.

Sut i gyfrannu Ewch i caid.org.uk/lent a chyfrannwch arlein.

Ffoniwch 020 7523 2269 yn dyfynnu’r cyfeirnod isod er mwyn cyfrannu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Anfonwch siec gyda’r ffurflen isod. (os gwelwch yn dda ysgrifennwch ‘Count your Blessings’ ar gefn y siec.)

Rhif elusen Cymru a Lloegr 1105851 Rhif cwmni DG 5171525. Nodau masnachu Cymorth Cristnogol yw’r enw Cymorth Cristnogol a’r logo. © Cymorth Cristnogol Rhagfyr 2016. Mae Cymorth Cristnogol yn aelod allweddol o ACT Alliance. Argraffwyd yn llwyr ar ddeunydd wedi tarddu o ffores-tydd a reolir yn gyfrifol. Lluniau DEC, Paul Jeffrey, Claudia Janke, Nicky Milne, Sean Hawkey a Cymorth Cristnogol. J19364

Dychwelwch y ffurflen hon, a’ch cyfraniad hael, i: Count Your Blessings, Christian Aid, 35 Lower Marsh, London SE1 7RL.

Byddem yn falch o gael eich barn ar Cyfra dy Fen-dithion 2017. E-bostiwch [email protected] neu ysgrifennwch atom i’r cyfeiriad uchod.

Ticiwch yma.

Rwyf am hawlio Cymorth Rhodd ar fy nghyfraniad o £ ac unrhyw gyfraniadau a wnaf yn y dyfodol neu a wneuthum yn y 4 blynedd diwethaf i Cymorth Cristnogol. Rwyf yn talu treth yn y DG a deallaf os byddaf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Treth Enillion Cyfalaf na’r swm sydd wedi ei hawlio fel Cymorth Rhodd ar fy holl gyfraniadau yn y flwyddyn dreth gyfredol yna fy nghyfrifoldeb i yw talu’r gwahaniaeth.

Os gwelwch yn dda hysbyswch Cymorth Cristnogol os ydych am ddileu’r datganiad hwn, newid eich enw neu eich cyfeiriad cartref, neu os nad ydych yn talu digon o dreth ar eich incwm a/neu eich enillion cyfalaf. Dyddiad heddiw:

Teitl Enw cyntaf

Cyfenw

Cyfeiriad gartref

Tref

Cod post

Amgaeaf siec am £ (Gwnewch eish sieciau yn daladwy i 'Christian Aid')

Amgeuaf siec o £ (gwnewch sieciau yn daladwy i ‘Christian Aid’) Mae hyn yn cynnwys £ o Cyfra dy Fendithion plant.

Ticiwch yma os ydych am gael derbyneb am eich cyfraniad.

Ni wnaiff Cymorth Cristnogol rannu eich manylion efo unrhyw gorff arall. Os ydych eisoes yn derbyn gwybodaeth gan Cymorth Cristnogol, fe wnawn barhau i’w anfon atoch hyd nes ichi ein hysbysu’n wahanol trwy ysgrifennu atom yn PO BOX 100, London SE1 7RT. D D M M Y Y Y Y

Cyfeirnod:A027997

Os ydych yn newydd i Cymorth Cristnogol, ticiwch yma os nad ydych am dderbyn unrhyw ddeunydd marchnata gennym.

Diolch am gyfrif eich bendithion!

EICH CYFANSWM DROS Y GRAWYS:

Michael, De Swdan

Dydd Gwener 14 Gwener y Groglith Mae cariad Iesu yn parhau i fod yn newyddion da i’n byd. Aeth Iesu o’n blaen a saf mewn undod efo’r rhai sy’n wynebu marwolaeth ac anobaith. Yn 1945, ganwyd Cymorth Cristnogol allan o alwad Iesu ar inni sefyll efo’r mwyaf bregus. Trwy eich haelioni chi, rydym yno o hyd.

Ti yw’r Duw ble cawn loches: atat ti y deuwn a'n heneidiau trist, wedi’n styrbio gan gwestiynau, gwrthodwn fod yn ddistaw. Bydd yn help inni allu galw am letygarwch a chroeso i bawb. Amen.

Rydym wedi cefnogi ffoaduriaid ers 1945

Wnawn ni ddim troi cefn yn awr. Pan fydd amlen Wythnos Cymorth Cristnogol yn glanio ar eich mat, cyfrannwch os gwelwch yn dda er mwyn helpu ffoaduriaid dderbyn y diogelwch a’r gefnogaeth maent mewn cymaint angen amdano. Credwn mewn byw cyn marw caweek.org

Rhi

f el

usen

Cym

ru a

Llo

egr

1105

851

Rhi

f el

usen

yr

Alb

an S

C03

9150

Rhi

f cw

mni

517

1525

. Nod

au m

asna

chu

Cym

orth

Cris

tnog

ol y

w’r

enw

Cym

orth

Cris

tnog

ol a

’r lo

go. M

ae C

ymor

th C

ristn

ogol

yn

aelo

d al

lwed

dol o

AC

T

Alli

ance

. Arg

raff

wyd

yn

llwyr

ar

ddeu

nydd

wed

i tar

ddu

o ff

ores

tydd

a r

eolir

yn

gyfr

ifol.

© C

ymor

th C

ristn

ogol

Rha

gfyr

201

6. L

luni

au: C

ymor

th C

ristn

ogol

/Jos

eph

cabo

n© C

hris

tian

Aid

Oct

201

6. P

hoto

: Chr

istia

n A

id/J

osep

h

Cab

on. J

882

5.