Cyflwyniad i Drethi
-
Upload
graiden-brady -
Category
Documents
-
view
38 -
download
0
description
Transcript of Cyflwyniad i Drethi
Cyflwyniad i Drethi
Mathau o DrethiMae'r rhan fwyaf o drethi yn perthyn i un o
ddau grŵp:Trethi Uniongyrchol – trethi ar incwm neu elwTrethi Anuniongyrchol – trethi ar wariant
Yn y gorffennol byddai'r ddau grŵp hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o drethi, ond dros y blynyddoedd diwethaf cafwyd trethi newydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd – y term am y rhain yw ‘Trethi Gwyrdd’.
Trethi Uniongyrchol – trethi ar incwm neu elwTreth Incwm – treth ar incwm. Mae lwfans di-
dreth, sy'n golygu na chodir treth ar y £7,500 cyntaf o incwm. Yna mae tri band o dreth incwm, sef 20%, 40% a 50%.
Yswiriant Gwladol – treth arall ar incwm, sy’n cael ei thalu ar gyfradd o 12% ar incwm rhwng £7,500 a £45,000, a 2% uwchben hynny.
Treth Gorfforaeth – treth ar elw cwmni, sy’n cael ei thalu ar gyfradd o 26%.
Trethi AnuniongyrcholTAW (Treth ar Werth) – ar y rhan fwyaf o
nwyddau a gwasanaethau, ar gyfradd o 20%. Ni chodir TAW ar ddillad plant, bwyd (ond codir TAW mewn tai bwyta, ac ar fwyd o siopau prydau parod), llyfrau, papurau newydd, teithiau awyr. Mae cyfradd TAW o 5% ar nwy a thrydan.
Tollau Ecseis – codir y tollau hyn ar win, cwrw, gwirodydd, petrol, a sigaréts. Codir toll ecseis o tua £3.10 ar becyn o 20 sigarét, a tholl ecseis o 58c ar litr o betrol ynghyd â TAW o 20c!
Trethi Gwyrdd – a luniwyd er mwyn diogelu'r amgylchedd
Treth Teithwyr Awyr – i’w thalu ar deithiau awyr, mae'r swm yn dibynnu ar ba mor hir yw'r daith.
Treth Tirlenwi – treth ar gladdu sbwriel – mae'r dreth hon yn un o'r rhesymau pam mae cynghorau'n annog ailgylchu.
Treth Newid yn yr Hinsawdd – treth ar fusnesau mawr am ddefnyddio egni.
Derbyniadau Trethi – y cyfanswm sy’n cael ei gasglu drwy drethi
Ar beth mae trethi’n cael eu gwario?