Cropian
description
Transcript of Cropian
Cropian
Milwyr yn Cropian
Mae cropian yn symudiad sylfaenol lle mae’r breichiau a’r coesau’n symud yn groes i’w gilydd ar hyd llwybr cul. Mae’r dwylo a’r pengliniau’n cynnal pwysau’r corff wrth i’r plentyn wneud ystum ‘Cath Flin’. Gall y sgìl gynnwys cropian ar hyd gwrthrychau, trwyddynt ac o danynt.
Gweithgaredd Addysgu’r Corff yw ‘Milwyr yn Cropian’ ac mae’n golygu cropian ar y bol â’r breichiau a’r coesau’n symud yn groes i’w gilydd: dylai’r breichiau fod yn tynnu a’r coesau’n gwthio.
Cerdded
Llwynogod
Cerdded yw’r weithred deithio fwyaf sylfaenol, ac felly, mae’n sail i nifer o symudiadau a gweithrediadau eraill.
Gweithred deithio ar y dwylo a’r traed yw ‘Llwynogod’, lle mae’r dwylo a’r traed yn symud yn groes i’w gilydd. Mae’r pen-ôl yn cael ei gadw’n isel gyda chefn ‘Cath Flin’.
Rhedeg
Neidio a Glanio
(Neidio fel Broga)
Mae rhedeg yn debyg i gerdded yn gyflym iawn ond ar brydiau mae’r ddwy droed oddi ar y llawr. Mae’r breichiau’n symud yn ôl ac ymlaen ac yn symud yn groes i’r coesau. Ynghyd ag athletau, mae rhedeg yn rhan o’r rhan fwyaf o’r prif gêmau a chwaraeon.
Mae neidio a glanio (Neidio fel Broga) yn cynnwys esgyn oddi ar un droed neu ddwy droed a glanio ar y ddwy droed; â’r traed, y pigyrnau, y pengliniau a’r cluniau yn cymryd y pwysau. Er mwyn neidio’n uchel rhaid plygu’r pengliniau a swingio’r ddwy fraich ymlaen ac i fyny dros y pen.
Hercian
Neidio(pellter)
Mae hercian yn symudiad di-dor lle mae’n rhaid esgyn a glanio ar yr un droed. Gellir hercian yn yr unfan neu ei ddefnyddio i deithio. Mae hercian yn rhan bwysig o’r naid driphlyg ac yn bwysig mewn pêl-fasged wrth saethu am y rhwyd o safle agos.
Mae’r naid i gael pellter yn cael ei hadnabod yn aml fel y naid hir stond, sy’n symudiad llorweddol. Rhaid esgyn a glanioar y ddwy droed.
Llamu
Carlamu
Mae llamu’n golygu cymryd cam mawr oddi ar un droed a glanio ar y droed arall. Gall y sgìl fod yn symudiad unigol, megis llamu dros wrthrych, neu gellir ei ddefnyddio fel symudiad di-dor. Mae’n rhan bwysig o athletau, rhai dawnsiau traddodiadol a rhai o’r prif gêmau neu chwaraeon.
Mae carlamu’n symudiad di-dor a gaiff ei berfformio am ymlaen neu i’r ochr. Mae’n symudiad anghymesur lle mae’r un droed yn arwain bob tro. Mae carlamu’n rhan o wahanol gêmau sy’n cael eu chwarae ar yr iard chwarae ac yn rhan o rai dawnsiau traddodiadol.
Sgipio
Camu i’r Ochr
Mae’r sgip yn symudiad rhythmig lle gwneir cam-herc ar un goes, cyn trosglwyddo’r pwysau i’r droed arall er mwyn ailadrodd y patrwm. Mae’n naturiol i blant ddechrau sgipio mewn ymateb i gerddoriaeth, rhythmau/curiadau cryf neu er mwyn mynegi hapusrwydd. Mae sgipio’n rhan o nifer o ddawnsiau traddodiadol.
Mae ‘Camu i’r Ochr’ yn symudiad rhythmig i’r ochr, sy’n golygu trosglwyddo’r pwysau o’r naill droed i’r llall. Mae Camu i’r Ochr yn weithred sydyn sy’n golygu teithio mor gyflym ag sy’n bosibl.
Cam Croesi
Traed Chwim
Defnyddir y ‘Cam Croesi’ i newid cyfeiriad yn gyflym.
Mae angen sgiliau ‘Traed Chwim’ i newid cyfeiriad yn gyflym.