Croeso i Ysgol Y Castell · 2019. 1. 13. · Bydd croeso i chi ddod i’r ysgol yn rheolaidd i...
Transcript of Croeso i Ysgol Y Castell · 2019. 1. 13. · Bydd croeso i chi ddod i’r ysgol yn rheolaidd i...
-
Croeso iYsgol Y Castell
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell
Cyfeiriad yr Ysgol : Ysgol Y Castell
Heol Cilgant,
Caerffili,
CF83 1WH
Rhif ffon : 02920 864790
Rhif ffacs : 02920 867220
E-bost : [email protected]
Gwefan yr ysgol : www.ysgolycastell.com
Cyfrif Trydar : @Ysgol_y_Castell
Prifathrawes : Mrs Helen Nuttall
Dirprwy Brifathro : Mr Gareth Hughes
Cadeirydd y Corff
Llywodraethol : Mr Gareth Williams
Mae Ysgol Y Castell yn ysgol gynradd Gymraeg i blant
o 3 i 11 mlwydd oed.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Strwythur Staffio
Uwch Dȋm Rheoli
Pennaeth : Mrs Helen Nuttall
Dirprwy Bennaeth : Mr Gareth Hughes
Arweinwyr Cyfnod Allweddol 2: : Mrs C. Evans Lugg & Mr G Robinson
Arweinwyr Y Cyfnod Sylfaen : Mrs M. Evans & Mrs D. Jones
CADY : Mrs S. Curran
Staff
Mae aelodau staff eraill yn cynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, gweinyddwyr,
goruwchwylwyr canol dydd a gofalwr.
Mae strwythur staffio llawn ar gael yn atodiad 1.
Amseroedd yr Ysgol
BORE 9 o’r gloch
AMSER CINIO (Y Cyfnod Sylfaen) 12.00 - 1.15 o’r gloch
AMSER CINIO (CA2) 12.15 - 1.15 o’r gloch
AMSER CAU 3.30 o’r gloch
AMSEROEDD MEITHRIN bore - 9.00 – 11:45 yb
prynhawn – 12:45 – 3.30yp
Dyddiadau’r Tymor
Mae dyddiadau tymor ysgol wedi'u rhestru ar wefan Cyngor Caerffili ac ysgol. Mae pob ysgol
yn cael pum diwrnod HMS yn ystod flwyddyn a byddwch yn gallu cael mynediad at y dyddiadau
hyn naill ai trwy gylchlythyrau neu ar wefan Cyngor Caerffili ac ysgol.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Neges gan Y Pennaeth
Annwyl Riant/Warcheidwad,
Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn hollbwysig. Mae’r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg
dda i’w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo’n ddiogel. Yn Ysgol Y Castell,
credwn y gallwn gynnig pob un o’r nodau yma.
Yn yr ysgol hon, rydym yn ymfalchio yn yr ffaith ein bod yn cynnig cwricwlwm cyflawn, symbylus ac
eang i’n plant. Yn ogystal ag ennill dwy iaith, sgiliau mathemategol, creadigol a thechnolegol, bydd
eich plentyn yn magu hyder, hunan-annibyniaeth, y gallu i wneud penderfyniadau a’r modd i fynegi
barn a theimladau mewn ffordd eglur. Rydym yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau
cymdeithasol y plant wrth eu helpu i adeiladu perthynas agos, barchus gyda phlant ac oedolion.
Anogwn y plant i ddangos sensitifrwydd tuag at deimladau ac anghenion eraill.
Gallaf eich sicrhau taw llwyddiant a chynnydd yw’r geiriau mawr yn yr ysgol hon. Mae staff yr ysgol
yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei lawn botensial mewn awyrgylch hapus
ac heriol. Anelwn at ddatblygu hunan werth ym mhob unigolyn, wedi’r cyfan, os ydych yn teimlo’n
llwyddiannus wedyn fe fyddwch yn llwyddiannus!
Mae’ch cyfraniad chi yn holl bwysig yn y broses hon. Anelwn bob amser roi gwybodaeth i chi am y
ffyrdd rydyn ni’n gweithio gyda’ch plentyn. Bydd croeso i chi ddod i’r ysgol yn rheolaidd i drafod
gwaith a datblygiad eich plentyn.
Mae plentyndod, rydw i’n siwr i chi gytuno, yn amser arbennig iawn a dim ond un cyfle mae pob
plentyn yn cael i’w brofi. Byddwn ni yma yn Y Castell yn gwneud popeth y gallwn i wneud
plentyndod yn brofiad hapus, gwerth chweil i’ch plentyn.
Mrs Helen C Nuttall
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Hanes yr Ysgol
Lleolir Ysgol Y Castell mewn safle unigryw gyda golygfeydd godidog yn edrych dros y castell yng
nghanol tref hanesyddol Caerffili.
Adnewyddwyd yr adeilad (a oedd yn wreiddiol yn Ysgol Ramadeg y Merched) i'r safon uchaf posib
gan gynnwys dwy neuadd gymunedol, ystafell gerdd ac un deg saith o ystafelloedd dosbarth
deniadol. Cyniga tir yr ysgol gyfleoedd diri i’n disgyblion ddysgu yn yr awyr agored. Yn ogystal ȃ
hyn, mae’r ysgol yn buddsoddi yn flynyddol ar offer diweddaraf TGCh er mwyn sicrhau ei bod yn
cwrdd ag anghenion dysgwyr yr unfed ganrif ar ugain.
Fe agorodd yr ysgol ym Medi 1995 gyda 118 o blant fel ymateb i'r galw cynyddol gan rieni am
Addysg Gymraeg. Erbyn hyn, mae'r ysgol yn ffynnu gyda 470 o ddisgyblion.
Daw'r mwyafrif llethol o'r disgyblion o aelwydydd Saesneg eu hiaith. Yn y dalgylch cynhwysir
Bedwas, Machen, Trethomas, Graig y Rhacca, Llanbradach a rhannau o Gaerffili. Mae cludiant rhad
ac am ddim ar gyfer disgyblion sy'n byw fwy na milltir ahanner o'r ysgol.
Ymfalchiwn yn ein disgyblion a safonau uchel yr ysgol. Cynigwn ystod eang o weithgareddau
allgyrsiol er mwyn i'r disgyblion "brofi yr iaith ar waith." Ein prif nod yw datblygu'r plentyn cyfan a
chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig.
"Mae gan yr ysgol ethos Cymreig naturiol sy’n ennyn balchder y disgyblion yn yr iaith Gymraeg
a threftadaeth Cymru. Mae’r ysgol yn manteisio ar lawer o adnoddau lleol a chenedlaethol er
mwyn ehangu dealltwriaeth y disgyblion o Gymru a’i diwylliant. Mae’r profiadau hyn yn
greiddiol i fywyd yr ysgol."
Estyn.
Hydref 2016.
Wrth wynebu her yr ugeinfed ganrif ar hugain, ein braint yw trosglwyddo ein
hetifeddiaeth i'n disgyblion fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl y glendid a fu.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Ein Datganiad Cenhadaeth
Nod ein hysgol yw arfogi pob unigolyn i gyrraedd ei lawn botensial mewn
awyrchgylch hapus.
Crewn ymwybyddiaeth gref o gymreictod a magwn falchder tuag at ein hiaith yng
nghalon bob un.
Credwn y dylai’r ysgol, y rhieni a’r gymuned gydweithio er lles a gofal y plant.
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân.
Amcanion yr Ysgol
• Cynnig cwricwlwm sydd yn eang, cytbwys ac yn berthnasol i ddysgwyr yr unfed
• ganrif ar ugain.
• Datblygu dysgwyr sy’n byw eu gwerthoedd o fewn yr ysgol a’r gymuned ehangach.
• Sicrhau hawliau cyfartal i bob unigolyn.
• Darparu’r safon orau o addysg lle mae’r dysgwyr yn profi llwyddiant a hynny i gyd
• drwy’r iaith Gymraeg ac awyrgylch Gymreig.
• Creu partneriaeth gref rhwng rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned er lles y dysgwyr.
• Creu awyrgylch lle mae’r dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain.
• Sicrhau cyfleoedd i’n plant weithio mewn ffordd ymholgar ac i gyfleu eu syniadau
• a’u meddyliau mewn amryw o ffyrdd er mwyn datblygu’n ddysgwyr gydol oes.
• Datblygu disgyblion sy’n arddangos hunan-barch a pharch at bopeth o fewn yr
• ysgol a’r gymuned ehangach.
• Meithrin disgyblion i fod yn aelodau cyfrifol a gwerthfawr o’r gymdeithas y maent
• yn byw ynddi.
Dim ond un cyfle sydd gan ein plant i brofi’r blynyddoedd pwysig yma.
Mae’n ddyletswydd ac yn fraint i ni y profiadau gorau a medrwn iddynt
yn Ysgol Y Castell
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Gwisg Ysgol
Dyma a gynigir fel gwisg ysgol :
Gaeaf
Merched - sgert neu drowsus llwyd; crys polo gwyn a siwmper las gyda bathodyn yr ysgol;
sanau/teits glas tywyll; esgidiau du
Bechgyn - trowsus llwyd; crys polo gwyn a siwmper las gyda bathodyn yr ysgol; sanau
llywd; esgidiau du
Haf
Merched - ffrog las a gwyn (siec); sanau gwynion; esgidiau du
Bechgyn - crys polo yr ysgol; trowsus / siorts llwyd; sanau llwyd; esgidiau du
Mae crysau T, crysau polo a siwmperi ar gael i’w prynu drwy’r ysgol, TTS Sports, Caerffili neu
CC Sports, Bargoed.
Nid yw gwisg ysgol yn orfodol, ond anogir y rhieni yn gryf i feithrin disgyblaeth dda a’r arfer o’i
gwisgo bob dydd. Mae’r plant yn teimlo balchder wrth perthyn i deulu Ysgol Y Castell. Mae
gwisg ysgol yn cryfhau’r teyrngarwch hyn.
Rheolau’r Ysgol
Rydym yn annog pob plentyn ac aelod o staff i arddangos ymddygiad rhagorol trwy ddilyn y
rheolau isod :
• Siarad Cymraeg
• Gwrando a dilyn cyfarwyddiadau
• Cadw dwylo, traed a geiriau drwg i’n hunain
• Arddangos parch
Ni chaniateir bwlian o unrhyw fath yn yr ysgol. Gweler ein Polisiau Ymddygiad Rhagorol a
Gwrth-Fwlian ar wefan yr ysgol.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Cwricwlwm yr Ysgol
Er mwyn sicrhau dwyieithrwydd ymdrochir y plant yn y Gymraeg yn nosbarthiadau’r Cyfnod Sylfaen.
Wrth reswm, pan fo cysur a diogelwch y plentyn yn gofyn am hynny, fe ddefnyddir y Saesneg yn
ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl mynediad i’r ysgol. Ni ddysgir Saesneg tan Cyfnod Allweddol 2.
Profant “yr iaith ar waith” drwy gydol eu gyrfa ysgol ac felly, deuant i fedru mynegi ystod eang o
brofiadau a chynsyniadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Y mae holl awyrgylch yr ysgol yn Gymreig ac
y mae’n rhan o’n swydogaeth i ddiogelu ffyniant y Cymreictod hwn a galluogi’r disgyblion i etifeddu
treftadaeth werthfawr ein gwlad.
Rydym yn Ysgol Arloesol sy'n diwygio'r Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn credu'n gryf wrth roi
cyfleoedd i'r disgyblion uwchlaw a thu hwnt i'r cwricwlwm. Rydym yn darparu profiadau dysgu
cyfoethog ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Y Castell.
Y Cyfnod Sylfaen
Yn Ysgol Y Castell, rydym yn darparu amgylchedd dysgu gofalgar lle byddwn yn darparu cwricwlwm
a gynlluniwyd yn ofalus. Dylai'r cwricwlwm hwn ymwneud ag anghenion a natur y plant ifanc a'u
datblygiad cyfan.
Bydd disgyblion o’r Feithrin i Flwyddyn 2 yn dilyn Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.
Ar hyn o bryd mae saith maes dysgu a phrofiadau sydd yn wraidd i’n cynlluniau :
Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Datblygiad Mathemategol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
Datblygiad Corfforol
Datblygiad Creadigol
Datblygiad Cymreig
Cyfnod Allweddol 2
Canolbwynt ein curriculum bydd sgiliau hanfodol cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TGCh. Ond,
gan fod dealltwriaeth y dysgwyr o'r gwahanol ddisgyblaethau yn cynyddu, rhoddir mwy o amser i
feysydd eraill y cwricwlwm. Cyflwynir y cwricwlwm trwy themau integredig fel eu bod yn ystyrlon a
pherthnasol.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Cwricwlwm yr YsgolWrth gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae chwe maes dysgu a phrofiadau :
Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Dyniaethau
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mathemateg a rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
gan gynnwys llinynnau allweddol trawsgwricwlaidd :
Cymhwysedd Digidol • Llythrennedd • Rhifedd
Felly, mae'n bwysig ein bod yn paratoi cwricwlwm Ysgol Y Castell i fod yn eang a chytbwys i ddiwallu
anghenion ein plant. Rydym bob amser yn rhoi blaenoriaeth i ethos Gymreig yn ein haddysg, gan
gofio geiriau doeth :
“At the heart of the education process lies the child “
Anogir rhieni, disgyblion a’r ysgol i gydweithio er lles ein dysgwyr a gofynwn
i’r holl randdeiliad lofnodi ein Cytundeb Ysgol Cartref.
Mae hawl gan rieni i gael mynediad i’n dogfennaeth gwricwlaidd ar gais trwy’r
ysgol.
ADDYSG GREFYDDOL
Cyflwynir rhaglen o Addysg Grefyddol sy’n seiliedig ar y Ffydd Gristnogol. Yn Y Cyfnod Sylfaen,
cyflwynir y plant i un grefydd arall a dwy arall yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae’n ofynnol i ni neilltuo
o leiaf un awr yr wythnos i addysgu Addysg Grefyddol. Gall rhieni eithrio’u plant o’r gwersi hyn yn
rhannol neu’n gyfan gwbl trwygysylltu â’r brifathrawes.
CYD-ADDOLIAD
Mae pob diwrnod yn cynnwys gweithred o addoliad, naill ai fesul dosbarth, ysgol gyfan neu adrannau
unigol. Mae gwasanaethau yn seiliedig yn bennaf ar Gristnogaeth a gwerthoedd yr ysgol. Mae gan
rieni hawl i eithrio eu plant o’r gwasanaethau os dymunir trwy gysylltu â’r brifathrawes.
ADDYSG RHYW
Mae addysg rhyw yn cael ei chyflwyno mewn ffordd integredig yn ein gwaith themâu, boed yn
Ngwyddoniaeth neu Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Gwahoddir arbenigwyr o gefndir meddygol
i gyflwyno agweddau o’r pwnc i Flwyddyn 5 - 6. Mae hawl gan rieni i eithrio’u plant o wersi sy’n
ymwneud ag Addysg Rhyw trwy gysylltu â’r brifathrawes.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Gwaith Cartref
Y Cyfnod Sylfaen
Gosodir cywaith cartref yn rheolaidd, fel arfer yn ymwneud â thema’r dosbarth, fel bod y rhieni a’r
disgyblion yn medru cydweithio a mwynhau cyflawni tasg ar y cyd. Weithiau, bydd ein plant yn dod
â darn o waith adref, efallai er mwyn ei orffen, neu i wneud gwaith ymchwil ei hunain. O’r Dosabrth
Derbyn ymlaen, anfonir llyfrau darllen adref yn wythnosol a disgwylir i’r rhieni wrando ar eu plentyn
yn darllen am 5 munud bob nos.
Cyfnod Allweddol 2
Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae’n bolisi i osod gwaith cartref unwaith yr wythnos. Fe osodir gwaith
cartref er mwyn magu hunan-disgyblaeth ac i baratoi’r plant ar gyfer eu haddysg yn yr Ysgol
Uwchradd. Gofynnir i rieni sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn gyson mewn ystafell dawel er
mwyn i’r plentyn ganolbwyntio.
Trosglwyddo i’r Ysgol Uwchradd
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yw’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lleol. Mae'r broses o drosglwyddo
i'r ysgol uwchradd yn bwysig i ni yn Ysgol Y Castell a byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau
bod y cyfnod pontio mor llyfn â phosibl.
Cynhelir nifer o gyfarfodydd ar gyfer rhieni disgyblion yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac mae'r
disgyblion hefyd yn Meithrin llawer o gyfleoedd i ymweld â'r ysgol ymmlwyddyn 5 a 6. Mae nifer o
ymweliadau gan athrawon a disgyblion yn ystod y cyfnod pontio i drafod unrhyw faterion ac ateb
unrhyw gwestiynau efallai fod gan ddisgyblion. Mae athrawes drosglwyddo yn trafod cyraeddiadau
disgyblion gyda'u hathro dosbarth.
Data Cyrhaeddiad
Gweler data perfformiad a phresenoldeb ynghlwm wrth y prosbectws fel atodiad 2.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Dosbathiadau’r Ysgol
Mae pob dosbarth yn cynnwys disgyblion o bob gallu, ond cyfyngir ar ystod yr oed i un flwyddyn
academaidd os gellir gwneud hyn heb wneud y dosbarthiadau yn rhy fawr. Cedwir at ganllawiau’r
Cynulliad o gadw maint y dosbarthiadau o dan 30 o ddisgyblion yn y ddau gyfnod allwedol. Byddwn
yn ystyried bob tro anghenion y plant wrth eu dosbarthu nhw.
Gelwir pob dosbarth yn ol nentydd lleol yng Nghaerffili :
Addysgir y disgyblion wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys tasgau ysgrifenedig, y
defnydd o TGCh arloesol ac yn ymarferol.
Mae’r plant yn cael eu grwpio yn ôl eu gallu y rhan fwyaf o’r amser, ond fe ddibynnir hyn ar y tasgau
a wneir. Weithiau mae’n bosib eu grwpio yn ôl ffrindiau, gallu cymysg neu ddiddordebau. Mae’r
tasgau yn cael eu gwahaniaethu yn ôl y gofyniad. Gosodir dysgwyr Blwyddyn 5 a 6 i mewn i setiau
o allu mathemategol ac ieithyddol ar gyfer eu gwersi Mathemateg ac Iaith.
Meithrin – Nant Y Ceisiad
Derbyn – Nant Yr Aber, Nant Y Pandy
Blwyddyn 1 – Nant Y Draenog a Nant Cwm Sarn
Blwyddyn 2 – Nant Gwyddon and Nant Cwm Ceffyl
Blwyddyn 3 – Nant Owen a Nant Y Garth
Blwyddyn 4 – Nant Gwaun Y Bara a Nant Cwm Ifor
Blwyddyn 5 – Nant Felen a Nant Y Calch
Blwyddyn 6 – Nant Cwm Bedw a Nant Cwm Parc
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ystyrir plentyn ADY fel un sydd âg mwy o anhawster i ddysgu na’r mwyafrif o’r plant eraill o’r un
oedran, neu blentyn ag anabledd corfforol, emosiynol neu academaidd. Yn ogystal, cydnabyddwn
fod anghenion ychwanegol gan blant sydd yn gweithio’n uwch na’r lefel disgwyliedig ac yn rhagori.
Mae’r ysgol yn cynnig cyfle cyfartal i bob disgybl ADY, anabl a MATh gan sicrhau bod pob
agwedd o’r cwricwlwm yn agored iddynt. Byddwn yn delio gyda’r plant yma gyda sensitifrwydd
a thegwch.
Ceir manylion llawn yn ein polisiau ‘Cyfleoedd Cyfartal’, ‘Mwy Abl a Thalentog’ ac ‘Anghenion Dysgu
Ychwnaegol’ sydd ar gael yn yr ysgol gan y Pennaeth.
Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Er mwyn cwrdd ag anhenion y plant, rydym yn dilyn camau’r Cȏd Ymarfer Cymru gyfan fel y nodir
isod :
1. Adnabod pryderon a chofrestru’r anghenion arbennig.
2. Gweithredu gan yr ysgol - ymyrraeth sy’n ychwanegol at yr hyn a ddarperir fel
2. rhan o gwricwlwm gwahaniaethol a strategaethau arferol y dosbarth.
3. Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy - y gwneir cais am help gan wasanaethau allanol.
4. Yr ysgol yn gofyn am asesaid statudol.
Disgyblion ag anabledd
Byddwn yn trafod gyda rhieni ynglyn ag unrhyw drefniadau arbennig a allai fod yn angenrheidiol ac
yn cysylltu â’r Awdurdod Addysg Lleol er mwyn diwallu’r angen honno. Mae pob dosbarth o fewn
prif adeilad a neuadd yr ysgol ar y llawr isaf ac mae’r drysau a rampau i gyd yn addas ar gyfer
mynediad i gadeiriau olwyn.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Disgyblion Mwy Abl a Thalentog
Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi anghenion y plant MAT trwy amrywiaeth o strategaethau dysgu
a phrofiadau allgyrsiol cyfoethog. Rydym yn gweithio tuag at wobr genedlaethol NACE (National
Association for Able Children in Education).
Esiampl o strategaethau’r ysgol sy’n herio plant MAT yw :
• Gweithgareddau ymestyn a chyfoethogi (e.e. prosiectau creadigol)
• Dilyn llais a diddordebau’r plentyn wrth gynllunio cwricwlwm
• Defnydd wedi’u targedu o gynorthwywyr dosbarth
• Mabwysiadu ymagweddau datrys problemau ac entrepreneuriaeth
• Defnydd o blant MAT fel tiwtoriaid
• Canmol a dathlu cyflawniadau disgyblion MAT
• Cyfleoedd i berfformio a chystadlu’n rheolaidd (e.e. chwaraeon, cerddoriaeth,
• cystadleuaeth ysgrifennu, darllen neu fathemateg, dawns a chelf).
• Defnyddio'r gymuned ehangach i gyfoethogi profiadau gan gynnwys ymweliadau
• addysgol, cyrsiau preswyl a defnydd o'r llyfrgell gyhoeddus.
• Gwahodd arbenigwyr i'r ysgol i ysgogi ac ehangu gorwelion plant MAT at yrfaoedd
• uchelgeisiol.
• Gweithgareddau ychwanegol i blant MAT blwyddyn 6 wrth iddynt bontio i Ysgol Gyfun
• Cwm Rhymni (STEM, ieithoedd tramor modern a rhifedd)
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Y Gymraeg
Rydych chi wedi pendefynu cynnig addysg ddwyieithog i’ch plentyn. Hoffwn eich sicrhau byddwch
yn derbyn pob cefnogaeth oddi wrth yr ysgol drwy gydol addysg eich plentyn. Dyma wybodaeth i
chi ynglyn â lle’r Gymraeg mewn ysgol Gymraeg ei chyfrwng.
Bywyd yr Ysgol
Anogir pob plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg yn barhaus yn ystod ei ddiwrnod ysgol. Y Gymraeg fydd
cyfrwng cyfathrebu cymdeithasol a dysgu. Canmolir y plant sy’n siarad Cymraeg yn gyson, yn
enwedig pan na fo athro / athrawes yn eu cwmni.
Y Cartref
Anogwn rhieni i roi pob cyfle posibl i’r plentyn defnyddio ei ddwyieithrwydd yn y cartref. Mae siarad
Cymraeg ȃ theulu, ffrindiau ysgol a gwrando ar raglenni Cymraeg ar y radio a theledu yn sicr o fudd
i’r plentyn. Bydd gohebiaeth rhwng yr ysgol a’r rhieni yn ddwyieithog.
Y Gymuned
Gofynnwn i rieni annog eu plant i fanteisio ar bob cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau drwy
gyfrwng y Gymraeg. Mae sawl mudiad cenedlaethol a lleol yn cynnig y cyfleoedd yma, megis Urdd
Gobaith Cymru, Menter Iaith Caerffil, CIP ac WCW (cylchgronnau plant), grwpiau theatr, Adran Bro
Tâf ac Ysgolion Sul Cymraeg.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Pwyllgorau Ysgol
Mae Pwyllgorau’r Plant (gan gynnwys Cyngor Ysgol, Arweinwyr Digidol, Ecosgolion ac Ysgol Iach)
yn gyfrwng i ystyried llais y disgybl am faterion sy’n effeithio ar ein hysgol. Mae’r pwyllgorau yn
fforwm lle y gall y disgyblion gymryd rhan mewn penderfyniadau ar gynigion ar gyfer newid a wnaed
gan yr AALl neu y Corff Llywodraethol. Gwerthfawroga’r ysgol llais ei disgyblion.
Cynhelir etholiadau yn flynyddol i benodi aelodau’r cynghorau o bob dosbarth. Eu rȏl nhw yw
mynychu cyfarfodydd i fod yn llais y disgyblion yng ngweithdrefnau ysgol gyfan ac i hybu ysgol
ddemocrataidd sy’n gwrando.
Esiamplau o’u gweithgarwch yw :
gwella ansawdd amgylchfyd yr ysgol
ennill y Faner Werdd mewn prosiect Ecosgolion
ennill pump gwobr Ysgol Iach
trefnu wythnosau Gwrth-Fwlian blynyddol
codi arian at elusenau anghenus
ennill gwobrau’r Siarter Iaith
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Chwaraeron
Mae ein cyflesterau penigamp yn hyrwyddo profiadau diri a mwynhad pur i’n dysgwyr wrth ddatblygu
eu sgiliau corfforol. Disgwylir i bob plentyn gymryd rhan mewn gwersi wythnosol addysg gorfforol
sy’n cynnig rhaglen lawn o gampau.
Caiff disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wersi nofio dan ofal hyfforddwyr trwyddedig o’r Ganolfan Hamd-
den leol a staff yr ysgol.
Rydym hefyd yn cystadlu mewn cynghrair chwaraeon rhwng yr ysgolion.
Cynhelir mabolgampau ysgol yn flynyddol pan fydd cyfle gan bob plentyn i brofi llwyddiant wrth
redeg, sgipio, hercian a thaflu. Uchafbwynt y diwrnod yw ras y rhieni wrth gwrs!
Gwisg Ymarfer Corff/Gymnasteg : siorts du plaen a chrys T gwyn
Gemau allan : crys T gwyn a’r siorts du plaen
Digwyddiadau Allgyrsiol yn yr YsgolUn o amcanion Ysgol Y Castell yw datblygu pob plentyn i’w lawn botensial.
Credwn yn gryf fod cyfleoedd allgyrsiol yn holl bwysig i feithrin y plentyn
cyflawn.
Cynhelir amrywiaeth eang o glybiau yn yr ysgol bob diwrnod o’r wythnos i blant Cyfnod Allweddol
2. Mae’r rhain yn cynnwys chwaraeon, canu a cherddoriaeth greadigol, dawnsio, celf a chrefft,
garddio, gwnio, TGCh, gwyddbwyll ac Adran yr Urdd. Mae’r rhain yn digwydd naill ai amser cinio
neu yn syth ar ôl ysgol.
Bob blwyddyn rydym yn cynnal Eisteddfod Ysgol lle byddwn yn cystadlu’n frwd. Gwobrwyir y
llenorion buddugol unigol wrth eu cadeirio a choroni, ac hefyd y gwaith celf. Yn ogystal â hyn, rydym
yn cynnig cyfleoedd i’n disgyblion cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, boed mewn gweithgareddau
chwaraeon, celf a chrefft neu’n llafaru, dawnsio a chanu. Rydym yn ymfalchio yn ein llwyddiannau
yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chredwn fod y plant yn elwa’n fawr o’r cyfle i ddatblygu eu
doniau ar lwyfannau amrywiol.
Bob bore, cynhelir Clwb Brecwast yn yr ysgol mewn cydweithrediad a Menter Iaith Caerffili. Darperir
gofal tyner a brecwast iach rhwng 8.00 - 9.00 o’r gloch ar gyfer ein disgyblion gan aelodau staff
profiadol. Hefyd, mae gennym Glwb Carco poblogaidd, lle cynigir gofal ar ôl ysgol rhwng 3.30-
5:30yh am bris rhesymol. Ceir mwy o fanyliongan Fenter Iaith Caerffili.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Presenoldeb a Phrydlondeb
Mae Ysgol Y Castell yn ystyried presenoldeb da, prydlon yn hanfodol i gynnydd addysgol yr unigolyn
a'r dosbarth. Cymerir y gofrestr presenoldeb yn electronig ar ddechrau pob sesiwn bore a
phrynhawn ac mae'n dilyn codau presenoldeb Cyngor Caerffili.
Mae'r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i bresenoldeb gan drosglwyddo negeseuon cadarnhaol i rieni
a disgyblion bod presenoldeb rheolaidd yn hanfodol a bod absenoldeb anawdurdodedig yn
annerbyniol.
Ar ôl cynnal ymchwil sylweddol, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar wella lefelau
presenoldeb ym mhob ysgol. Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn dangos yn glir mai'r plentyn sy'n
mynychu'r ysgol yn fwy rheolaidd, po fwyaf y byddant yn ei ddysgu a'i gyflawni.
Absenoldebau
Os na all eich plentyn fynychu'r ysgol am reswm derbyniol e.e. salwch; cysylltwch â'r
ysgol cyn 9:15yb neu gadewch neges ar linell absenoldeb ysgolion.
Pan fydd eich plentyn yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl cyfnod o absenoldeb, gofynnwn i chi anfon nodyn
eglurhad am yr absenoldeb. Mae hyn yn ychwanegol at y galwad ffôn a wnaed ar ddiwrnod cyntaf
yr absenoldeb. Gellir anfon y nodyn gyda'r disgybl pan fydd ef / hi yn dychwelyd i'r ysgol.
Rhaid pwysleisio mai dim ond am resymau dilys (e.e. salwch) y gall yr ysgol gofnodi absenoldeb
awdurdodedig. Bydd rhesymau eraill dros absenoldeb yn cael eu cofnodi fel absenoldeb heb
ganiatâd.
Cyfleoedd Cyfartal
Gweithredir polisi o gyfleoedd cyfartal er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn cael yr un mynediad
cyfartal i’r cwricwlwm a gweithgareddau’r ysgol. Teimlwn y dylwn ymdrin â phawb a rhoi cyfle cyfartal
i bawb beth bynnag bo lliw eu croen, eu cred, eu rhyw, eu hanabledd a’u safle cymdeithasol.
Gobeithiwn fod ein rhieni’n rhannu’r un athroniaeth â ni a’u bod yn annog eu plant i feithrin yr un
gwerthoedd.
Ceir manylion llawn yn ein polisi Cyfleoedd Cyfartal sydd ar gael yn yr ysgol gan y Pennaeth.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Cwynion
Mae trefniadau lleol ar gyfer ystyried cwynion am y cwricwlwm, Addoliad Crefyddol neu unrhyw fater
arall o dan y Ddeddf Diwygio Addysg 1998. Mae’n bosib mynd â’r cwynion at y Corff Llywodraethol
drwy gamau gweithredu a nodir ym Mholisi Cwynion yr Ysgol.
Ceir manylion llawn yn ein Polisi Cwynion sydd ar gael gan y Pennaeth neu ar wefan yr ysgol.
Meddyginiath
Mae gan yr ysgol nifer o staff cymwysedig mewn Cymorth Cyntaf fel y gellir trin mân anafiadau yn
yr ysgol. Os caiff disgybl ei gymryd yn sâl, bydd yr ysgol yn cysylltu â rhieni cyn gynted â phosib. Os
oes angen anfon plentyn i'r ysbyty, hysbysir rhieni ar unwaith. Mae'n hanfodol i rieni nodi lle y gellir
cysylltu â hwy mewn argyfwng. Gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth hon pan dderbynnir eich plentyn
i'r ysgol a bydd hyn yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.
Gofynnir i rieni hysbysu'r ysgol am unrhyw broblemau iechyd penodol sydd gan eu plant. Weithiau,
caiff arolygiadau meddygol a deintyddol eu trefnu gan Wasanaeth Iechyd yr Ysgol. Rhoddir gwybod
i rieni am hyn a ni fyddai'r driniaeth yn cael ei weinyddu heb wybodaeth neu ganiatâd rhiant.
Ni allwn ganiatau i blentyn ddod â moddion i’r ysgol nac ychwaith i athro / athrawes gadw neu roi
moddion i blentyn (ac eithro plant sy’n dioddef o’r fogfa neu alergedd). Mewn achosion arbennig,
gellir ystyried gwneud hyn dim ond i’r rhieni ddod i’r ysgol i drafod y fater â’r Pennaeth ymlaen llaw.
Cludiant
Os mae’r plant yn byw fwy na milltir a hanner o’r ysgol, trefnir trafnidiaeth yn rhad ac am ddim trwy
Swyddog Cludiant Caerffili
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Cinio Ysgol
Mae prydau llawn, cytbwys ar gael bob dydd. Mae cyfleusterau hefyd ar gael i ddisgyblion sy'n
dymuno dod â phecyn cinio. Mae'r holl ddisgyblion yn aros ar y safle yn ystod amser cinio. Mae
prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys ac mae ffurflenni cais ar gael trwy swyddfa'r
ysgol.
Anogir ein plant i fwyta’n iach ac yfed dŵr ffres. Mae ffrwythau ar werth bob dydd gan y Cyngor
Ysgol.
Diogelwch yn yr Ysgol
Mae'r disgyblion a'r staff yn ddiogel ar ein safle ysgol. Sicrheir hyn gan ffensys diogelwch a'r angen
i bob ymwelydd logio i mewn ac allan ym mhrif swyddfa'r ysgol. Mae'r tiroedd a'r adeiladau'n cael
eu monitro gyda CCTV.
Tai Bach
Mae gan ddisgyblion fynediad i gyfleusterau toiled modern o gwmpas yr ysgol, gan gynnwys toiledau
anabl. Mae'r rhain yn cael eu glanhau a'u hailgyflenwi bob dydd.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Polisi ar Gyfer Codi Tâl
Mae’n ofynnol i ni eich hysbysu nad oes gennym yr hawl i wahardd unrhyw blentyn rhag gymryd
rhan mewn gweithgareddau addysgol am nad yw’r rhieni yn gallu fforddio talu’r gost.
Mae’n arfer gennym yn Ysgol Y Castell i gyfoethogi addysg y dysgwyr wrth fynd tu allan i furiau’r
ysgol ar wibdeithiau ac ar gyrsiau preswyl. Yn anffodus, does dim arian yng nghyllid yr ysgol i dalu
am y gweithgareddau yma a rydym yn gofyn yn garedig i’r rhieni am gyfraniad tuag at y costau.
Gofynnwn i rieni sy’n ei chael hi’n anodd oherwydd anhawster ariannol i gysylltu â’r Brifathrawes i
drafod mater tâl. Mae’n bosib yn aml iawn i ymestyn y cyfnod amser talu dros sawl wythnos, ac i
ddod i gytundeb ynglyn â hyn. Byddwn yn ystyried pob cais yn unigol.
Polisi Mynediad i Ysgol Y Castell
Mae croeso i ddarpar-rieni drefnu apwyntiad i ymweld â’r ysgol, nid yn unig i siarad â’r Pennaeth a’r
athrawon, ond hefyd i brofi awyrgylch weithiol yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw’r ymweliad yn gwarantu
lle yn yr ysgol.
Bydd disgyblion yn cael eu derbyn i'n Meithrin rhan-amser ym mis Medi yn dilyn eu trydydd
pen-blwydd. Gellir derbyn disgyblion sy'n codi yn dair oed yn ein dosbarth cyn-feithrin rhan amser
yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.
Mae’r plant Meithrin yn cychwyn ar eu taith addysgol mewn grwpiau bach, dros ychydig o ddyddiau
er mwyn sicrhau eu hapusrwydd yn y broses o symud oddi wrth eu rhieni i mewn i freichau’r ysgol.
Bydd disgyblion yn cael eu derbyn i ysgol llawn amser (Dosbarth Derbyn) ym mis Medi y flwyddyn
y maent yn cyrraedd pump oed. Hoffai'r AALl hysbysu rhieni nad yw lleoliad Meithrin mewn ysgol
yn gwarantu lleoliad Derbyn llawn amser yn yr un ysgol
Mae croeso i rieni ymweld â’r ysgol mewn cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol i drafod addysg eu plant.
Gellir trefnu derbyn plant i ddosbarthiadau hŷn ar unrhyw adeg a gofynnir i’r rhieni ymgynghori â
Chyngor Bwrdeistref Caerffili.
-
Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân
Cerdd
Yn Ysgol Y Castell, credwn yng ngeiriau doeth y gerdd isod.
Os yw plentyn yn byw gyda beiniadaeth
Mae’n dysgu condemnio.
Os yw plentyn yn byw gyda gelyniaeth
Mae’n dysgu ymladd.
Os yw plentyn yn byw gyda gwawd
Mae’n dysgy swildod
Os yw yn byw gyda chywilydd
Mae’n dysgu teimlo’n euog.
Os yw plentyn yn byw gyda goddefgarwch
Mae’n dysgu amynedd.
Os yw plentyn yn byw gydag anogaeth
Mae’n dysgu hyder.
Os yw plentyn yn byw gyda chwarae teg
Mae’n dygu cyfiawnder
Os yw plentyn yn byw gyda chlod
Mae’n dysgu i’w hoffi ei hun.
Os yw plentyn yn byw gyda thynerwch
Mae’n dysgu addfwynder
Os yw plentyn yn byw gyda chymeradwyaeth a
chyfeillgarwch
Mae’n canfod cariad yn y byd.
Gyda’n gilydd, cewch ein helpu i ddangos cariad y byd i’n disgyblion.
Mae gan bawb yr hawl i fod yn hapus.
-
Ysgol Gynradd Gymraeg Y CastellHeol Cilgant, Caerfilli CF83 1WH
Rhif ffon : 02920 864790
E-bost : [email protected] Gwefan yr ysgol: : www.ysgolycastell.com
Prifathrawes : Mrs Helen Nuttall