Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match...

8
Croeso! Croeso i gylchlythyr newydd sbon ar gyfer prosiect newydd sbon! Dros y misoedd nesaf, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Gymunedol Penparcau yn cyd-weithio yn agos iawn ar brosiect sy’n dwyn y teitl ‘APT: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Penparcau gyda’i gilydd’. Bydd y prosiect blwyddyn yn gweld trigolion Penparcau yn cymryd y Ganolfan drosodd am wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau ym mis Mehefin 2018. Mae APT yn anelu at ddatblygu ‘Partneriaeth Penparcau’ lle y bydd aelodau grwpiau Fforwm Penparcau a thrigolion eraill yr ardal yn dod at ei gilydd i helpu rhaglennu, trefnu, rheoli a rhedeg Canolfan y Celfyddydau am wythnos, gyda chefnogaeth staff y Ganolfan. Trwy gydol y prosiect bydd staff profiadol Canolfan y Celfyddydau yn helpu i hyfforddi trigolion Penparcau mewn amrediad eang o sgiliau yn cynnwys sgiliau technegol, rheoli digwyddiadau, blaen tŷ a marchnata’r celfyddydau creadigol. Ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi ym mis Mehefin 2018 bydd Canolfan y Celfyddydau yn cael ei ‘rhannu’ gydag aelodau Fforwm Penparcau, a fydd yn helpu i redeg y Ganolfan mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a gynlluniwyd ganddynt gan ddefnyddio eu sgiliau newydd mewn amgylchedd celf proffesiynol, byw. Yn y Cylchlythyr yma cewch hynt a helynt y prosiect wrth iddo ddatblygu. Cofiwch fod y prosiect ar gael i holl grwpiau a thrigolion Penparcau, o bob oedran a phrofiad felly os hoffech fod yn rhan o’r prosiect cysylltwch ag unai Fforwm Penparcau ar 01970 611 099 / [email protected] neu Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth [email protected] / 01970 621609.

Transcript of Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match...

Page 1: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Croeso! Croeso i gylchlythyr newydd sbon ar gyfer prosiect newydd sbon! Dros y misoedd nesaf, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Gymunedol Penparcau yn cyd-weithio yn agos iawn ar brosiect sy’n dwyn y teitl ‘APT: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Penparcau gyda’i gilydd’. Bydd y prosiect blwyddyn yn gweld trigolion Penparcau yn cymryd y Ganolfan drosodd am wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau ym mis Mehefin 2018. Mae APT yn anelu at ddatblygu ‘Partneriaeth Penparcau’ lle y bydd aelodau grwpiau Fforwm Penparcau a thrigolion eraill yr ardal yn dod at ei gilydd i helpu rhaglennu, trefnu, rheoli a rhedeg Canolfan y Celfyddydau am wythnos, gyda chefnogaeth staff y Ganolfan. Trwy gydol y prosiect bydd staff profiadol Canolfan y Celfyddydau yn helpu i hyfforddi trigolion Penparcau mewn amrediad eang o sgiliau yn cynnwys sgiliau technegol, rheoli digwyddiadau, blaen tŷ a marchnata’r celfyddydau creadigol. Ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi ym mis Mehefin 2018 bydd Canolfan y Celfyddydau yn cael ei ‘rhannu’ gydag aelodau Fforwm Penparcau, a fydd yn helpu i redeg y Ganolfan mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a gynlluniwyd ganddynt gan ddefnyddio eu sgiliau newydd mewn amgylchedd celf proffesiynol, byw. Yn y Cylchlythyr yma cewch hynt a helynt y prosiect wrth iddo ddatblygu. Cofiwch fod y prosiect ar gael i holl grwpiau a thrigolion Penparcau, o bob oedran a phrofiad felly os hoffech fod yn rhan o’r prosiect cysylltwch ag unai Fforwm Penparcau ar 01970 611 099 / [email protected] neu Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth [email protected] / 01970 621609.

Page 2: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Eich Cydlynydd Prosiect newydd! Mae’r prosiect bellach wedi dechrau! Alaw Griffiths o Aberystwyth yw’r swyddog sydd wedi ei phenodi ar gyfer y swydd ac ers dechrau mis Hydref mae Alaw wedi bod yn cwrdd llawer o bobol sy’n awyddus iawn i gyd-weithio ar y prosiect. Dywedodd Alaw: “Mae sawl syniad wedi dod i law yn barod ynglyn â beth all ddigwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau fis Mehefin. Mae’n brosiect mor gyffrous a phwysig – dwi’n sicr y bydd yn rhoi cymorth i sawl unigolyn, yn ogystal a lot fawr o hwyl! Dwi methu aros i weld popeth yn dod ynghyd!” Rhai o’r syniadau sydd wedi codi hyd yma yw: Dechrau blog, cynhyrchu panto, dechrau gorsaf radio, cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth, gweithdy crochenwaith, noson Abba, digwyddiad ffilm, arddangosfa gelf, a llawer mwy! Ydych chi’n cytuno efo’r rhain? Oes gennych chi fwy o syniadau? Cofiwch mai eich wythnos chi yw hi! Bydd Alaw yn mynd ati i drefnu sesiynau trafod ar gyfer unrhyw un sydd efo diddordeb ymuno er mwyn clywed beth yw’ch syniadau chi. Sgwrs & Sglods Dewch draw i’r sesiwn Sgwrs & Sglods nesaf yng Nghanolfan Cymunedol newydd Penparcau ar nos Fawrth Tachwedd 21ain am 6pm! Bydd cyfle i weld beth yn union yw prosiect APT ac i gynnig syniadau – beth hoffech chi ei weld yn digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau fis Mehefin? Bydd Alaw ac aelodau eraill o staff Canolfan y Celfyddydau yn ogystal â Bryn a Julie o’r Fforwm yno ac mae pawb yn edrych ymlaen i glywed eich syniadau!

Page 3: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Ewch i weld y sioe yng Nghanolfan y Celfyddydau – am ddim!

Hoffech chi fynd i weld sioe byw? Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr i ni er mwyn cael gweld y sioeau hyfryd yma. Comedi fywiog a chyflym yw Around the World in 80 Days gyda cast hynod dalentog! Wedi ei selio yn Llundain yn ystod Nadolig 1880, mae Little Match Girl yn adrodd stori hudolus merch dlawd sy’n ceisio ennill bywoliaeth drwy werthu matsys. Byddai’n wych eich gweld chi yma! Dyddiadau 80 Days: Tachwedd 22ain, 2pm & 7pm. Tachwedd 23ain, 7pm. Bydd angen cyrraedd 1 awr o flaen llaw. Dyddiadau Little Match Girl i’w trefnu. Rhaid cofrestru o flaen llaw – cysylltwch gydag Alaw [email protected] i drefnu. Fforwm Ieuenctid Penparcau Dydd Gwener, Hydref 20fed aeth y Fforwm Ieuenctid draw i Ganolfan y Celfyddydau. Dyma oedd ymweliad cyntaf y rhan fwyaf o’r bobl ifanc gyda’r Ganolfan. Yn gyntaf, cafwyd gweithdy dawns a chân hollol unigryw gyda chwmni theatr o India, Kathakali, i ddysgu ychydig am eu dull nhw o ddrymio a chanu. Campwaith o theatr gysegredig yw Kathakali gyda pherfformwyr rhyngwladol blaenllaw, cantorion gwych, drymwyr rhythmig ac artistiaid colur hynod fedrus - felly ‘roedd lot o hwyl i’w gael! Ar ôl swper, cafodd y grŵp daith gyffrous, gefn llwyfan o amgylch y Ganolfan a sgwrs gydag Amanda Trubshaw ac Alaw Griffiths er mwyn dechrau deall sut mae pethau’n gweithio yno a chael eu hysbrydoli am syniadau ar gyfer y prosiect. Bydd Alaw yn ymweld â’r Fforwm ym Mhenparcau nos Fawrth, Rhagfyr 5ed i gasglu eu syniadau ar gyfer yr wythnos ym mis Mehefin.

Page 4: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Ymweliadau â chanolfannau eraill Bydd tri taith yn cael eu trefnu yn arbennig ar gyfer Fforwm Penparcau i ymweld â lleoliadau celfyddydol eraill er mwyn ehangu gwybodaeth, ac i ysgogi syniadau ar gyfer wythnos Môr Ladron Penparcau. Mae Alaw eisoes mewn cyswllt gyda Chanolfan Mileniwm Caerdydd, MAC Birmingham, a chanolfan newydd Pontio ym Mangor - mae’r tri lleoliad yn hapus iawn efo’r syniad o gael y Fforwm i ymweld â nhw ac wrthi yn hel syniadau at ei gilydd ar ein cyfer. Y gobaith yw trefnu’r 3 ymweliad rhwng Ionawr ac Ebrill 2018. Os oes diddordeb gennych mewn dod gyda ni, rhowch wybod! Cyfryngau cymdeithasol

Mae tudalen newydd sbon wedi cael ei chreu ar Facebook – ewch ati yn llu i’w hoffi a’i rhannu er mwyn lledaenu’r neges yn eang! https://www.facebook.com/APTaber

Cystadleuaeth – cynllunio logo newydd ar gyfer APT! Ennillwch tocyn anrheg £30 ar gyfer Canolfan Celfyddydau Aberystwyth drwy gynllunio logo ar gyfer y prosiect newydd sbon yma! Rydym angen logo ac rydym am i chi gynllunio un! Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gallu derbyn yr her ac am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch efo Alaw [email protected] Rhaid i bob cynnig ddod i law erbyn Rhagfyr 21ain.

Page 5: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Welcome! Welcome to a brand new newsletter for a brand new project! For the next few months, Aberystwyth Arts Centre is joining forces with Penparcau Community Forum for a project called ‘APT: Aberystwyth Arts Centre and Penparcau Forum Together’. The year-long venture will see a ‘hand over’ of the Arts Centre to Penparcau residents for a week’s worth of events and activities in June 2018. APT aims to develop a ‘Penparcau Partnership’ whereby members of Penparcau Forum groups and other Penparcau residents will come together to help to programme, organise, manage and run the venue for a week, with the support of the Arts Centre team. Over the life of the project experienced Arts Centre staff will help train residents from Penparcau in a wide range of skills including technical, event management, front-of-house, and marketing for the creative arts. At the end of the training project period in June 2018 the Arts Centre will then be ‘shared’ with Penparcau Forum, who will help to run it for the events they’ve been planning and put their newly gained skills into action in a live, professional arts environment. In this Newsletter you can read about the project as it develops. Remember that the project is available to all Penparcau groups and residents of all ages and experience, so if you would like to be a part of the project contact either Penparcau Forum on 01970 611 099 / [email protected] or the Aberystwyth Arts Centre [email protected] / 01970 621609.

Page 6: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Meet your new Project Co-ordinator! The project is now underway! Alaw Griffiths from Aberystwyth has been appointed as Project Co-ordinator and since the beginning of October Alaw has been meeting lots of people who are very keen to work together on the project. Alaw says: “A number of ideas have already been put forward about what could take place in the Arts Centre next June. It’s such an exciting and important project – I am sure that it will help many people, as well as offer lots of fun! I can’t wait to see it all come together!” Here are some of the ideas that have been shared to date: Start a blog, produce a panto, start a new radio station, photography competition, pottery workshop, Abba tribute night, film event, art exhibition, and many more! Do you agree with these? Have you more ideas? Remember, it’s your week! Alaw will be organising chat sessions for anyone who is interested in joining to hear about your ideas. Chips & Chat Come along to the next Chips & Chat session in the new Penparcau Community Centre on Tuesday November 21st at 6pm! There’ll be an opportunity to find out exactly what the APT is and to share ideas - what would you like to see happening in the Arts Centre next June? Alaw and other members of the Arts Centre staff will be there as well as Bryn and Julie from the Forum and everyone is looking forward to hearing your ideas!

Page 7: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Watch a show at the Arts Centre – for free! Would you like to see a live show? We would love to invite you to see either Around the World in 80 Days or Little Match Girl – free of charge! Here is a special offer to Penparcau residents to be ushers and watch these wonderful shows. Around the World in 80 Days is a high-speed, globe-trotting comedy with a hugely talented cast! Set in London at Christmas 1880, Little Match Girl tells the magical story of a poor girl, who tries to make a living in London selling matches. 80 Days dates: Novembver 22nd, 2pm & 7pm. November 23rd, 7pm. You will need to arrive 1 hour prior to show start time. Little Match Girls dates TBC. Must register beforehand – please contact Alaw [email protected] to arrange. Penparcau Youth Forum On Friday, October 20th members of the Youth Forum visited the Arts Centre. This was the first time most of the young people had been there. Firstly, they experienced a totally unique dance and song workshop with a theatre company from India, Kathakali, to learn a bit about their style of drumming and singing. Kathakali is a masterpiece of sacred theatre with leading international performers, wonderful singers, rhythmic drummers and very skilful makeup artists - so they had a lot of fun! After supper, the group had an exciting trip backstage and around the Arts Centre and a chat with Amanda Trubshaw and Alaw Griffiths in order to gain some understanding of how things work there and to be inspired to think about ideas for the project. Alaw will visit the Forum in Penparcau on Tuesday evening, December 5th to gather their ideas for the week in June.

Page 8: Croeso! · Hoffwn eich gwahodd i ddod i wylio unai Around the World in 80 Days neu Little Match Girl – yn rhad ac am ddim! Dyma gynnig arbennig i drigolion Penparcau fod yn dywyswyr

Visits to other venues Three trips will be specially arranged for Penparcau Forum to visit other arts venues in order to gain information, and to inspire ideas for Penparcau’s Pirates’ week. Alaw is already in contact with the Millennium Centre in Cardiff, MAC Birmingham, and the new Pontio centre in Bangor - the three venues are very happy with the idea of the Forum visiting them and they are gathering ideas together for us. It is hoped to arrange the three visits between January and April 2018. If you are interested in coming with us, let us know! Social media

A brand new Facebook page has been created - please visit it to like and share to get the message out far and wide! https://www.facebook.com/APTaber

Competition – design a new logo for APT! Win £30 of Aberystwyth Arts Centre vouchers by designing a logo for this brand new project! We need a logo and we’d like you to design one for us! If you think you’re up to the challenge and would like more information, contact Alaw [email protected] All entries must be submitted by December 21st 2017.