Creu’r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru · 2015. 10. 2. · Rhoi’r dinesydd yn y canol...
Transcript of Creu’r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru · 2015. 10. 2. · Rhoi’r dinesydd yn y canol...
-
Creu’r Cysylltiadau:Gwell Gwasanaethaui Gymru
Gwasanaethau cyhoeddus - gweledigaethLlywodraeth Cynulliad Cymru
Hydref 2004
-
ISBN 0 7504 3587 9 Hydref © Hawlfraint y Goron 2004
Dyluniwyd gan yr Uned Graffeg G/187/04-05 CMK-22-19-001 Cysodwyd gan y Gwasanaethau Prosesu Testun
-
Pam y mae ein ffordd ni o weithreduyn addas i Gymru
Ers datganoli, mae'r gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu'n
gyflym yng Nghymru, a bydd y cynnydd hwn yn parhau dros y blynyddoedd
nesaf - er y bydd yn arafu ychydig.
Un her allweddol ar gyfer ail dymor y Cynulliad yw sicrhau bod y buddsoddiad
ychwanegol hwn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl - gan wella
ansawdd a chynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer pobl Cymru.
Ceir dau fodel sylfaenol, a nod y ddau yw ceisio sicrhau mwy o werth am
arian o'r hyn sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r cyntaf yn
seiliedig ar hollti sefydliadau mawr yn gyrff llai sydd â chyllidebau wedi'u
dirprwyo ac sydd â mwy o ryddid fel darparwyr. Bydd rheolwyr yn gweithio
mewn amgylchedd mwy cystadleuol ac entrepreneuraidd a bydd hynny'n
arwain at wasanaethau mwy effeithlon sy'n ymateb yn well i anghenion pobl.
Ar yr olwg gyntaf, ymddengys bod y modelau cystadleuol yn cynnig mwy o
ddewis i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus, ond y gwir yw mai'r tîm
rheoli sy'n elwa ohono. Maent un ai'n ffynnu neu'n crebachu, yn dibynnu ar
faint o gwsmeriaid sy'n cael eu denu gan y gwasanaeth. Nid yw modelau o'r
fath yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus gymryd rhan yn y
broses o gynllunio'r gwasanaethau a ddarperir. Mae dadl eithaf derbyniol dros
ddefnyddio'r model hwn, ond nid yng Nghymru.
Mae'r ail fodel, sef yr un yr ydym ni wedi'i ddewis, yn canolbwyntio ar wneud
gwasanaethau'n fwy effeithlon drwy sicrhau arbedion maint wrth i
asiantaethau ar draws y sector cyhoeddus, yn ogystal â'r sectorau annibynnol,
gwirfoddol a phreifat, gydweithio a chydgysylltu'n fwy effeithiol. Drwy
ddefnyddio cymwysiadau TGCh newydd, er enghraifft, gallwn ddarparu
gwasanaethau corfforaethol, e-gaffael, ac e-lywodraeth ar y cyd am lai o gost,
gan ein galluogi i ryddhau mwy o adnoddau i wasanaethau’r rheng flaen.
-
Drwy gydgysylltu yn hytrach na chystadlu, gall defnyddwyr a chynhyrchwyr
gwasanaethau cyhoeddus fod ar yr un ochr. O ganlyniad i hynny, gellir
sicrhau'r canlyniadau gorau wrth i ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaethau
weithio gyda'i gilydd.
Mae ein dull o weithio’n gwbl seiliedig ar yr ail fodel. Rydym yn sicr y bydd y
llwybr hwn yn arwain at ganlyniadau gwell a hynny nid yn unig o ran
cynyddu effeithlonrwydd gwasanaethau. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i
reolwyr a staff ddefnyddio'u mentergarwch a'u doniau i wella perfformiad,
ond drwy ffyrdd gwahanol. Yn fwy arwyddocaol fyth, mae model cydweithio
yn gweddu'n well i faint Cymru fel gwlad fach â phoblogaeth o dair miliwn,
i'n patrwm daearyddol gan nad oes gennym lawer o ardaloedd dinesig mawr,
a hefyd i werthoedd ac agweddau Cymru a'n hymdeimlad o berchenogaeth ar
ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae holl gynnwys y ddogfen hon wedi’i seilio, yn y bôn, ar ein dymuniad ni i
gydgysylltu a chydweithio.
Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan ACPrif Weinidog Cymru
-
Cynnwys
Tudalen
1 Cyflwyniad 1
2 Gwireddu’r weledigaeth 3
3 Rhoi’r dinesydd yn y canol 9
4 Gweithio gyda’n gilydd fel gwasanaeth cyhoeddus Cymru 19
5 Gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau 27
6 Ymgysylltu â’r gweithlu 33
7 Rhoi’r cynigion ar waith 39
8 Sut i ymateb i’n cynigion 41
-
1
1. Cyflwyniad
1. Yn ystod pedair blynedd gyntaf y Cynulliad y flaenoriaeth oedd sefydlu
ffurf newydd ar lywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru. Blaenoriaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru am yr ail dymor yw ein gweledigaeth ar gyfer y
gwasanaethau cyhoeddus a’r modd y cânt eu cynllunio a’u darparu yng
Nghymru.
2. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus o bwys mawr i ni yma yng
Nghymru. Fe’u hystyriwn yn rhan o’n cymuned, nid fel darparwyr sy’n cynnig
gwasanaeth i gwsmeriaid yn unig: bydd pobl yn cyfeirio wrth sgwrsio at ‘ein
hysgol ni’ a hefyd ‘ein canolfan iechyd ni’.
3. Nid yw pob gwasanaeth cyhoeddus yn wasanaeth lleol ei gwmpas.
Mae natur ac ystod y gwasanaethau yn adlewyrchu diddordebau cyffredin
hefyd, o fyd diwylliant ac iaith i fyd busnes, a all fod yn ehangach o lawer eu
cwmpas na’r gymuned leol.
4. Ni all y modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu byth ag aros yn
ei unfan. Mae gwasanaethau’n gorfod gwneud mwy o ymdrech i fynd at y
bobl, i fod yn fwy hyblyg ac i ymateb i amgylchiadau newydd.
5. Mae hyn oll yn cael mwy o effaith ar bawb sydd ynghlwm wrth
ddarparu gwasanaethau. Mae ein hawdurdodau lleol, y GIG, sefydliadau
addysg ac asiantaethau cenedlaethol wrthi’n dod o hyd i ffyrdd newydd o
ymateb i’r her. Mae’r sector gwirfoddol hefyd yn chwarae rhan fwy amlwg,
yn arbennig wrth ddarparu gwasanaethau newydd a mynd at gymunedau.
Mae’r sector preifat hefyd yn darparu ystod eang o wasanaethau a
gwybodaeth i’r llywodraeth ac ar ran y llywodraeth lle bo yn y sefyllfa orau i
gyfrannu.
6. Mae Llywodraeth y Cynulliad bellach ran o’r ffordd drwy gyfnod
digyffelyb o fuddsoddi parhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus gyda
chyfanswm y cyllid yn dyblu o ychydig dros £7 biliwn i bron £14 biliwn y
flwyddyn rhwng 1999-2000 a 2007-08.
-
2
7. O ganlyniad i hyn, mae ein pobl ifanc yn cael gwell canlyniadau yn yr
ysgol, mae ein colegau a’n prifysgolion yn addysgu mwy o fyfyrwyr, mae mwy
o swyddi a gwell swyddi ar gael yn ein heconomi, mae ein cyfraddau
marwolaethau ymhlith babanod wedi gwella ac mae ein GIG yn cyflogi’r
niferoedd uchaf erioed o feddygon, nyrsys ac aelodau eraill o’r staff
parameddygol i wella ein hiechyd.
8. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn awr yw gwella’r ffordd y mae’r
gwasanaethau yn cael eu darparu. Mae angen i ni gynnwys defnyddwyr y
gwasanaethau yn rhan o’r broses o ddyfeisio’r gwasanaethau hynny ochr yn
ochr â’r darparwyr a’r gweithwyr proffesiynol. Gall pobl a busnesau fynd ar
goll yn y system neu deimlo eu bod ar goll neu hyd yn oed gael eu gadael
allan yn gyfan gwbl. Gallant deimlo rhwystredigaeth am nad yw gwahanol
ddarparwyr yn gweithio gyda’i gilydd yn ddigonol neu am nad yw’r trywydd
i’w ddilyn drwy’r gwahanol bosibiliadau ac opsiynau sydd ar gael yn glir.
9. Etifeddodd y Cynulliad nifer fawr ond gwasgaredig o wasanaethau
cyhoeddus nad oeddent o reidrwydd yn adlewyrchu anghenion Cymru. Gan
fod llywodraeth ddatganoledig bellach yn ein galluogi ni i wneud hynny yn
union, rydym bellach wedi amlinellu ein hamcanion bras yn Cymru: Gwlad
Well a dogfennau polisi eraill. Y mae a wnelo’r papur hwn â sut: sef ein
gweledigaeth ni ynglŷn â sut y byddwn yn mynd ati, ynghyd â’n partneriaid, i
ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn adlewyrchu natur unigryw
Cymru a’i hanghenion a’i gwerthoedd.
-
3
2. Gwireddu’r Weledigaeth
Ein gweledigaeth
Mae gwasanaethau cyhoeddus gwych yn hanfodol i Gymru ffyniannus,
gynaliadwy, ddwyieithog, iachach a mwy addysgedig.
Mae gweithio ar y cyd yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf:
rhaid iddynt ymateb i anghenion unigolion a chymunedau fel ei gilydd, rhaid
iddynt gael eu darparu’n effeithlon a rhaid iddynt gael eu seilio ar ymrwymiad
i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Ein pedair egwyddor i sicrhau gwell gwasanaethau
Canolbwyntio ar y dinesydd
1. Ein gweledigaeth yw bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u
darparu mewn modd sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion ac ar gymunedau.
Dylai gwasanaethau ymateb mwy i anghenion defnyddwyr a dylent fod o
fewn cyrraedd hawdd i bawb yng Nghymru o bob cenhedlaeth a beth bynnag
y bo eu hamgylchiadau.
2. Wrth ddatblygu ein hiechyd a’n lles, wrth ddysgu drwy gydol ein hoes,
wrth wella ansawdd ein cymunedau, mae gennym oll gyfraniad i’w wneud.
Bydd gwasanaethau effeithiol yn cael eu cynllunio a’u darparu gyda
dinasyddion, cymunedau a busnesau oll yn cymryd rhan weithredol yn y
broses.
Cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
3. Mae’n rhaid i bob dinesydd gael y cyfle i gyfrannu at fywyd
cymdeithasol ac economaidd Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn
ymrwymedig i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, beth bynnag fo’u hil, iaith,
crefydd, anabledd, oed, rhyw a thueddfryd rhywiol.
-
4
4. Golyga cyfiawnder cymdeithasol fod yn rhaid i ni fynd at y rhai hynny
sydd fwyaf anodd eu cyrraedd a thargedu adnoddau lle bo’r angen ar ei
fwyaf. Rhaid i’n gwasanaethau cyhoeddus gynnwys yr hyblygrwydd i
ymateb i’r rheini sydd wedi’u hallgáu fwyaf a’r rhai sydd fwyaf agored i
niwed.
Gweithio gyda’n gilydd fel Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
5. Dengys ein profiad y gwelir gwelliannau yn y modd y caiff
gwasanaethau eu darparu drwy annog mwy o gydweithredu rhwng darparwyr
er mwyn darparu gwasanaethau cynaliadwy o’r ansawdd gorau a fydd yn
ymateb i anghenion, yn hytrach na thrwy annog mwy o gystadleuaeth rhwng
y darparwyr.
6. Dylai’r gwasanaethau gael eu darparu gan ba gyrff bynnag sydd yn y
sefyllfa orau i gyflenwi’r hyn sydd ei angen arnom. Mewn nifer o achosion,
golyga hyn weithio mewn partneriaeth â’r sectorau gwirfoddol a phreifat.
Mae yna rai gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu orau gan ganolfannau
arbenigedd rhanbarthol neu genedlaethol, ond a fydd yn parhau o fewn
cyrraedd i bawb, er y bydd hynny weithiau gryn bellter o gartref y defnyddiwr.
Gwerth am arian
7. Rydym yn benderfynol o sicrhau y caiff pobl Cymru y gwerth mwyaf
posibl o’r buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen i ni
wneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau a fydd yn mynd at ddarparu
gwasanaethau’r rheng flaen. Bydd gwasanaethau cymorth yn cael eu rhannu
fwyfwy rhwng cyrff er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n fwy effeithlon
drwy ddefnyddio’r prosesau a’r technolegau diweddaraf.
Y ffordd ymlaen
8. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn
arwain ac yn cydgysylltu rhaglen weithredu bum mlynedd hyd at 2010.
Rhoi’r dinesydd yn y canol
9. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn arwain, ar y cyd â’i phartneriaid, y
gwaith o ddatblygu gwasanaethau sy’n canolbwyntio mwy ar y dinesydd, gan
adeiladu ar brofiadau arloesol a gafwyd yng Nghymru a’r tu hwnt. Golyga
hyn:
-
5
• Sicrhau bod defnyddwyr a chynhyrchwyr yn gweithio gyda’i gilydd er
mwyn cynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau, gan weithio ar draws
ffiniau sefydliadol;
• Sicrhau gwell mynediad at wasanaethau a chymorth rheng flaen i bobl
sy’n defnyddio’r gwasanaethau;
• Sicrhau bod dinasyddion, cymunedau a busnesau yn cymryd mwy o ran
yn y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu.
10. Nid yw gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion yr dinesydd ar
gael yng Nghymru yn gyffredinol er bod yna nifer o enghreifftiau da. Golyga
newidiadau sylweddol yn y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u
darparu. Dyma rai o’r camau gweithredu:
• Amlinellu hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion a chymunedau fel
defnyddwyr gwasanaethau;
• Hyrwyddo newidiadau radical yn y modd y caiff gwasanaethau ar gyfer
grwpiau penodol (ee siaradwyr Cymraeg, pobl anabl neu fusnesau sydd
newydd gychwyn) eu cynllunio, eu darparu a’u gwerthuso drwy weithio
ar draws ffiniau sefydliadol;
• Hyrwyddo arferion gorau o safbwynt gwasanaethau i gwsmeriaid gan
bwysleisio’r angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd rhan weithredol o
fynd at y rheini sydd wedi’u hallgáu fwyaf;
• Edrych ar ddulliau newydd o roi cymorth i bobl sy’n agored i niwed o ran
eu perthynas â gwasanaethau cyhoeddus;
• Cyflwyno rhan nesaf e-lywodraeth er mwyn gwella mynediad at
wasanaethau a symleiddio’r camau y mae’n rhaid i bobl eu dilyn er mwyn
cysylltu â’r darparwyr;
• Comisiynu gwell gwybodaeth a thystiolaeth ynglŷn â barn dinasyddion a
chymunedau am wasanaethau, sut y mae anghenion yn newid a sut y
mae’r gwasanaethau yn perfformio ac, yn arbennig, yn tanberfformio;
• Mwy o gyfle i ddinasyddion fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio
arnynt hwy ac i staff y rheng flaen ymateb i’w hanghenion.
-
6
Delfryd Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Mae gan y Llywodraeth weledigaeth radical o wasanaeth cyhoeddus Cymru a
fydd yn rhannu'r un nodau ac yn gweithio ar draws ffiniau swyddogaethol a
sefydliadol. Byddwn yn manteisio ar y cyfle a roddwyd i ni yn sgil datganoli i
ddod â gwahanol elfennau o'r gwasanaeth cyhoeddus at ei gilydd mewn
ffordd fwy integredig - i greu dull mwy deinamig sy'n darparu
gwasanaethau'n fwy effeithlon ac effeithiol.
Mae'r broses o uno'r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad â Llywodraeth
Cynulliad Cymru yn gam pwysig tuag at greu gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
Mae llywodraeth leol, y GIG, cyrff cenedlaethol a noddir gan y Llywodraeth,
parciau cenedlaethol, prifysgolion, colegau, ysgolion ac eraill yn rhan o
wasanaeth cyhoeddus Cymru. Gellir dod â'r cyrff hyn at ei gilydd er bod
ganddynt wahanol ddibenion, cyfansoddiadau ac atebolrwydd, a thrwy
gynnwys hefyd y sectorau busnes a gwirfoddol yn y gwaith o ddarparu
gwasanaethau, ar sail gwerthoedd cyffredin - cyfiawnder cymdeithasol,
cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ymdeimlad o gymuned.
11. Bydd y Llywodraeth yn rhoi ystyr a diben newydd i drefniadaeth
gwasanaeth cyhoeddus Cymru. Ymysg y camau gweithredu bydd:
• Sicrhau bod y cymhellion, y cymorth a'r trefniadau rheoleiddio ar gael i
annog gwasanaethau i gydweithio;
• Gwella'r rhwydwaith TGCh i alluogi cyrff i weithio gyda'i gilydd;
• Diwygio'r wladwriaeth gwango ymhellach i gryfhau atebolrwydd
democrataidd ac i wella gwasanaethau;
• Creu perthynas symlach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a'i phartneriaid,
gyda llai o bwysau biwrocrataidd a mwy o bwyslais ar fod yn atebol ac ar
ganlyniadau;
• Datblygu dull newydd o reoleiddio ac arolygu, sy'n fwy perthnasol i'n
hagenda ni o wella gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau
hynny wedi’u cydgysylltu'n well ac yn canolbwyntio fwy ar yr y dinesydd.
-
7
Gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau
12. Bydd gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy'n cael eu
darparu gan wasanaeth cyhoeddus Cymru sy'n fwy integredig, yn golygu
gwell gwerth am arian. Mae'r cyhoedd yn buddsoddi mwy a mwy yn y
gwasanaethau cyhoeddus ac er mwyn iddynt allu elwa i'r eithaf, bydd
Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda phartneriaid i drosglwyddo’r enillion
a wneir wrth ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithlon i’r rheng flaen.
13. Ymysg y camau gweithredu bydd:
• Gosod targed o £600 miliwn i wella gwerth am arian ar draws y prif gyrff
cyhoeddus erbyn 2010 drwy greu dulliau mwy effeithlon o weithio, gan
sicrhau gostyngiad mewn costau neu welliannau yn y gwasanaethau;
• Sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn mabwysiadu targed gwerth am arian;
• Helpu'r gwasanaeth cyhoeddus i sicrhau gwell gwerth am arian ym maes
caffael, gwasanaethau cymorth a rheoli prosiectau drwy swyddfa caffael a
gwasanaethau cymorth Cymru, Gwerth Cymru;
• Manteisio ar y cyfle a geir yn sgil rhaglen uno'r cyrff cyhoeddus a noddir
gan y Cynulliad i sicrhau nad oes gwaith yn cael ei ddyblygu o ran
swyddogaethau cymorth corfforaethol;
• Symleiddio swyddogaethau cymorth corfforaethol yn fwy cyffredinol ar
draws y gwasanaeth cyhoeddus;
• Ymgynghori â phartneriaid a chyrff archwilio ynghylch y trefniadau i
ddiffinio, diogelu, monitro a sicrhau dilysrwydd yr enillion o sicrhau
gwerth am arian;
• Gwneud y defnydd gorau o staff ar draws y gwasanaeth cyhoeddus drwy
leihau gwaith papur staff y rheng flaen a neilltuo mwy o amser i
ddarparu'r gwasanaeth ei hun.
-
8
Ymgysylltu â'r gweithlu
14. Bydd gan y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus rôl
allweddol yn y gwaith o wireddu'r weledigaeth. Byddwn yn gweithio'n agos
â'r Undebau Llafur a chyflogwyr i helpu staff i wynebu'r her. Ymysg y camau
gweithredu bydd:
• Datblygu gallu rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cynllun Rheoli
yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (PSMW) a chydgysylltu'r gwaith o
ddatblygu agwedd strategol at adnoddau dynol y gwasanaeth cyhoeddus;
• Annog cyrff i gyfnewid staff ar draws y gwasanaeth cyhoeddus, ac â’r
sector preifat a’r sector gwirfoddol, i wella arbenigedd ym maes cynllunio
a gweithredu polisïau;
• Ceisio dod o hyd i atebion ar y cyd i broblemau cyffredin fel cynllunio'r
gweithlu, recriwtio, gwella sgiliau a datblygu gyrfaoedd ar gyfer rheolwyr
y dyfodol.
Rhoi'r cynllun gweithredu ar waith
15. Dros y chwe mis nesaf, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio â
phartneriaid i osod y sylfeini hanfodol ac i ymgynghori'n ehangach ynghylch y
materion pwysig sydd yn y papur hwn, cyn lansio'r cynllun gweithredu yng
ngwanwyn 2005.
-
9
3. Rhoi'r dinesydd yn y canol
1. Yn y bennod hon, rydym yn egluro'r hyn a olygir wrth wasanaethau
sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ac yn nodi ein cynlluniau i roi hyn ar waith1.
Rydym yn canolbwyntio ar bedair agwedd: atebolrwydd democrataidd, gwella
mynediad at wasanaethau a chymorth rheng flaen, sicrhau bod
gwasanaethau'n ymateb mwy i anghenion ac annog pobl i gymryd mwy o
ran. Mae'n rhaid i'r agweddau hyn gael eu hymgorffori ar draws y
gwasanaeth cyhoeddus.
2. Y gwasanaethau sy'n cael eu cynnwys yn y dull hwn o weithio yw
gwasanaethau sy'n darparu gwasanaeth yn uniongyrchol i unigolion a
grwpiau, er enghraifft plant ysgol, cleifion, lleiafrifoedd ethnig, busnesau a
grwpiau gwirfoddol a hefyd wasanaethau strwythurol sydd o fudd i
gymunedau cyfan, er enghraifft trafnidiaeth, rheoli gwastraff neu gynllunio.
3. Mae pobl Cymru yn llawer mwy na chwsmeriaid gwasanaethau
cyhoeddus yn unig: gallant hefyd fod yn drethdalwyr, pleidleiswyr,
perchenogion busnesau ac aelodau o'r gymuned leol - gyda hawl a chyfle i
ddwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif. Rhaid i gyrff sy'n darparu
gwasanaethau cyhoeddus felly ymateb i anghenion pobl gan ystyried yr holl
rolau hyn, a chadw cydbwysedd rhwng diwallu anghenion y dinesydd, gan
gynnwys yr hawl i unioni cam, a diwallu anghenion cyffredin cymunedau.
4. Er mwyn darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd, mae
angen i ni ymgorffori ar draws y gwasanaeth cyhoeddus y systemau a'r
arferion a fydd yn sicrhau bod llais y dinesydd i'w glywed. Mae ein dull o
weithio yn cynrychioli cyfeiriad strategol clir a dull ymarferol o ddarparu
gwasanaethau sy'n ymateb mwy i anghenion pobl yng Nghymru. Mae sawl
corff eisoes wrthi’n ymgorffori'r egwyddorion hyn. Yn yr adrannau canlynol,
rydym yn sôn am bob un agwedd yn fanylach ac yn nodi'r camau y byddwn
yn eu cymryd.
1 Byddwn yn cyhoeddi papur gwaith ar wahân sy'n disgrifio ein model yn fanylach.
-
10
Blwch 3.1: Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd yngNghymru
O ran defnyddwyr unigol, rhaid i'r gwaith o wella gwasanaethau cyhoeddus
fod yn seiliedig ar:
• Ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt;
• Yr egwyddor o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, a
chyflawni’r holl ddyletswyddau eraill o ran cydraddoldeb;
• Gwella'r modd yr eir ati i gynllunio gwasanaethau fel y bônt yn
adlewyrchu anghenion dinasyddion ac anghenion eu cymunedau yn
well, gan gynnwys:
- Help i gael gafael ar y gwasanaethau cywir os oes angen help
arnynt, pan fydd angen help arnynt;
- Rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau
am y gwasanaethau cywir i ddiwallu eu hanghenion;
- Sicrhau bod gwasanaethau ar gael ar y lefel briodol yn y
cymunedau;
• Tegwch, urddas a pharch wrth iddynt ddod i gysylltiad â gwasanaethau
cyhoeddus;
• Gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf;
• Y gallu i fanteisio ar drefniadau teg ac agored i unioni cam;
• Adborth sy'n amlwg yn cael ei ystyried.
Gall dinasyddion, fel aelodau o gymuned, trethdalwyr a phleidleiswyr,
ddisgwyl:
• Gwasanaethau sydd ar gael i bawb sydd eu hangen, gan gynnwys
gwasanaethau sy'n mynd at bobl fregus a rhai sydd wedi’u hallgáu;
• Gwasanaethau sy'n annog ac yn galluogi pobl i gymryd rhan yn y
gwaith o gynllunio gwasanaethau lleol, ac sy'n darparu gwybodaeth
iddynt am safonau, perfformiadau a sialensiau;
• Cyfle i leisio eu barn a’u pryderon i Lywodraeth y Cynulliad ac i
ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill;
• Bod llywodraeth etholedig yn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael
eu bodloni.
Yn gyfnewid am hyn, mae cyfrifoldeb ar bawb i weithio gyda'i gilydd i
sicrhau canlyniadau gwell - er eu mwyn hwy eu hunain a'u cymunedau.
-
11
Atebolrwydd democrataidd: llywodraeth yn arwain y ffordd
5. Mae arweinwyr etholedig ar lefel genedlaethol ac yn lleol yn atebol i
ddinasyddion o ran sicrhau bod gan y cyhoedd yr ystod o wasanaethau o
safon sydd eu hangen arnynt. Mae hyn yn cynnwys diffinio'r canlyniadau sydd
eu hangen, gosod a monitro safonau, defnyddio canfyddiadau archwilwyr ac
arolygwyr, defnyddio pwerau ymyrraeth os oes angen a gwneud
penderfyniadau am adnoddau, sy'n benderfyniadau anodd iawn yn aml.
Byddwn yn cymryd y cyfrifoldeb o annog gwasanaethau i ganolbwyntio ar y
dinesydd mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
6. Byddwn yn:
• Gwerthuso'r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir ar gyfer grwpiau
penodol, drwy gynnal adolygiadau o safbwynt y defnyddiwr, i weld sut y
gellid eu gwella. Lle bo angen, byddwn yn ailfeddwl sut i gynllunio a
darparu'r gwasanaethau gyda defnyddwyr a darparwyr;
Blwch 3.2: Cynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion pobl:gofal i gleifion yng Ngwynedd
Mae darparu gwasanaethau adsefydlu a gofal canolradd yn bwysig er mwyn
sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal priodol, yn y lle priodol ac ar yr adeg
briodol. Mae’r gwasanaethau hyn yn helpu i osgoi derbyn neu aildderbyn
cleifion yn ddiangen i’r ysbyty neu ofal hirdymor.
Mae awdurdod lleol Gwynedd yn defnyddio grant gan Lywodraeth y
Cynulliad i weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gogledd
Orllewin Cymru er mwyn darparu’r gwasanaeth cymunedol Tuag Adref. Y
nod yw sicrhau bod cleifion yn gwella’n gynt o’u salwch a’u cynorthwyo i
fyw yn annibynnol, drwy ddarparu sesiynau adsefydlu a chymorth dwys i
gleifion yn eu cartrefi eu hunain am hyd at chwe wythnos.
Rhwng 1 Ebrill 2003 a 31 Mawrth 2004, roedd 192 o gleifion wedi elwa ar y
gwasanaeth ac roedd 84% wedi llwyddo i gyrraedd eu nodau adsefydlu ar
adeg eu rhyddhau.
-
12
• Annog yr arolygiaethau a'r rheoleiddwyr i gynnal adolygiadau ar y cyd
gan roi pwyslais ar brofiad y dinesydd;
• Datblygu dulliau o fesur pa mor fodlon yw'r dinesydd ar y gwasanaethau
cyhoeddus yn Nghymru, fel y bo modd mesur perfformiad yn fwy cywir a
gwella’r modd yr eir ati i gynllunio gwasanaethau. Gellir dysgu llawer
hefyd oddi wrth wledydd eraill, a byddwn yn ceisio nodi'r gwersi hynny
a'u defnyddio yng nghyd-destun Cymru.
Mynediad at wasanaethau a chymorth rheng flaen i sicrhaucydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
7. Yn Cymru: Gwlad Well yr ydym yn nodi sut yr ydym yn targedu
adnoddau i hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'n
hanfodol hefyd ein bod yn sicrhau bod modd i bawb fanteisio ar wasanaethau
cyhoeddus, yn arbennig y rheini sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.
8. Dylid helpu pobl drwy'r system er mwyn iddynt allu cael y
gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Efallai y bydd hyn yn golygu rhywbeth
mor syml â sefydlu uned gwasanaeth i gwsmeriaid, neu systemau mwy
cymhleth fel cynghorwyr personol.
9. Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu a lledaenu
egwyddorion arfer gorau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid. Dylai pob corff
ddatblygu'r gallu i:
• Hysbysu pobl ynghylch sut i gael gafael ar ei wasanaethau, a dangos ei
fod wedi'i gwneud hi'n bosibl i ddefnyddwyr gael gafael ar y
gwasanaethau hynny drwy’r dull sy’n well ganddynt;
Blwch 3.3: Mynediad at wasanaethau a chymorth rheng flaen:rheoli cysylltiadau yng Nghyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi tri o gynghorwyr cwsmeriaid teithiol sy'n
cyfarfod â chwsmeriaid mewn lleoliadau mwy cyfleus a llai brawychus, fel
archfarchnadoedd. Mewn ymdrech i wella'r amgylchedd mewn un ardal,
aeth cynghorwyr o ddrws i ddrws yn cynnig cael gwared ag eitemau a oedd
wedi'u gadael ar eiddo pobl. Gall y cynghorwyr hefyd gynnig mathau eraill o
wasanaethau gan y Cyngor pe bai angen.
-
13
• Darparu cyngor defnyddiol i ddefnyddwyr newydd ynghylch pa
wasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt a sut y dylent wneud cais
amdanynt;
• Cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, yn y Saesneg ac yn ieithoedd eraill
y gymuned y maent yn ei gwasanaethu;
• Dilyn hynt y gwasanaeth y mae defnyddwyr yn ei dderbyn i sicrhau
ansawdd y gwasanaeth;
• Rhoi gwybod a yw'n llwyddo i gyrraedd y safon yr addawodd ei
chyrraedd.
Blwch 3.4: Mynediad at wasanaethau a chyngor rheng flaen:menter Cyngor Da: Iechyd Da yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth
Cymru yn rhoi cyngor i gleifion ynghylch budd-daliadau ym maes iechyd a
hynny mewn meddygfeydd meddygon teulu ac mewn ysbytai cymuned.
Mae'r rhaglen hon yn cyrraedd nifer o sectorau o'r boblogaeth nad ydynt fel
arfer yn gofyn am gyngor gan Gyngor ar Bopeth Cymru. Mae’r cleifion yn
cytuno bod y rhaglen yn darparu lefel uchel o wasanaeth, ac mae'n well gan
nifer ohonynt gael cyngor mewn meddygfa yn hytrach nag mewn unrhyw
leoliad arall. Mae'r Meddygon Teulu sydd wedi cymryd rhan yn y fenter yn
teimlo bod hyn wedi helpu mwy o bobl i fanteisio ar ofal iechyd a lleihau
anghydraddoldebau ym maes iechyd. Dros gyfnod o 12 mis, gwelodd
cynghorwyr oddeutu 6,500 o gleientiaid, gan ddelio â thros 10,000 o
ymholiadau newydd, a darparwyd gwerth £3.4 miliwn o fudd-daliadau
newydd i bobl a oedd yn gymwys i’w derbyn ledled Cymru.
-
14
10. Byddwn yn helpu i wella mynediad at wasanaethau a chymorth rheng
flaen drwy:
• Gyhoeddi canllawiau ar arferion gorau ym maes gwasanaeth i
gwsmeriaid;
• Hyrwyddo e-lywodraeth ymhellach yng Nghymru, gan gynnwys y
defnydd a wneir o'r Rhyngrwyd, systemau rheoli cwsmeriaid a
gwasanaethau fel telefeddygaeth fel ffordd o ddarparu gwasanaethau a
chyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth;
• Arwain y ffordd o ran galluogi cyrff y gwasanaeth cyhoeddus i weithio
gyda'i gilydd yn fwy effeithiol i ddarparu gwasanaethau a gwybodaeth i
bobl drwy:
- Rannu gwybodaeth yn well rhwng cyrff cyhoeddus;
- Creu gwell rhwydweithiau TGCh ar draws y gwasanaethau
cyhoeddus (gan gynnwys Strategaeth Band Eang Cymru a fydd yn
cael ei lansio cyn hir);
• Archwilio ffyrdd arloesol i alluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau fel
pyrth cyswllt cyntaf i'r cyhoedd ar gyfer yr holl wasanaethau mewn ardal
benodol, neu gynghorwyr sy'n helpu pobl fregus i gysylltu â
gwasanaethau cyhoeddus.
Blwch 3.5 Mynediad at wasanaethau a chymorth rheng flaen:Gyrfa Cymru Ar-lein
Cafodd Gyrfa Cymru ei sefydlu ym mis Ebrill 2001 fel y gwasanaeth cyntaf
sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd i bobl o bob oed yn
y DU. Gall pawb yng Nghymru ddefnyddio'r gwasanaeth drwy rwydwaith o
siopau gyrfaoedd ar y stryd fawr, drwy waith allgymorth yn y gymuned, dros
y ffôn a thrwy ysgolion a cholegau addysg bellach.
O fis Tachwedd 2004 ymlaen, bydd pawb sy'n byw yng Nghymru yn gallu
agor eu cyfrif eu hunain ar wefan ddwyieithog Gyrfa Cymru Ar-lein. Gall
defnyddwyr chwilio drwy gronfa ddata sy'n rhestru cyfleoedd dysgu ledled
Cymru i gael gwybodaeth gynhwysfawr am swyddi sydd ar gael.
Bydd Gyrfa Cymru Ar-lein yn adnodd buddiol hefyd i ysgolion a cholegau i
baratoi myfyrwyr i ymuno â'r byd gwaith. Bydd hefyd yn helpu pobl i gael
cymorth ynghylch eu gyrfa oddi wrth arbenigwyr.
-
15
Sicrhau bod gwasanaethau'n ymateb i anghenion pobl
11. Mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau, pan fo hynny'n
bosibl, eu bod yn cynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar flaenoriaethau
cymunedau a bod yr hyn sy'n cael ei gynnig wedi'i gynllunio o gwmpas
anghenion unigolion. Mae'n rhaid i wasanaethau fod yn fwy hyblyg a chael
eu cynllunio ar sail gwybodaeth fanwl am anghenion a dewisiadau pobl. Mae
angen i bobl broffesiynol yn y rheng flaen gael cyfle i lunio pecynnau
gwasanaeth sy'n ymateb i anghenion ac amgylchiadau penodol pobl.
12. Mae pawb yn bartner yn y broses o gyflawni canlyniadau gwell: yn
glaf, yn fyfyriwr neu'n ddefnyddiwr unrhyw wasanaeth arall, dylem oll gymryd
camau gweithredol i lywio gwasanaethau a fydd yn diwallu ein hanghenion yn
y ffordd orau bosibl.
13. Mae'n rhaid sefydlu trefniadau cydweithio llawer cryfach i ymateb i
sefyllfaoedd pan na fydd darparwr gwasanaeth yn gallu darparu’r gwasanaeth
hwnnw. Dylai defnyddwyr dderbyn eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa a chael cynnig
y gwasanaeth gan ddarparwr cyfagos pan fo hynny'n bosibl.
Blwch 3.6: Gwasanaethau a chymorth rheng flaen - canolfannaucyswllt a mynediad at wasanaethau'r Cyngor ar y rhyngrwyd yngNghasnewydd a Wrecsam
Mae Cynghorau Casnewydd a Wrecsam wedi datblygu ffyrdd newydd o
sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor o fewn cyrraedd y bobl y maent yn eu
gwasanaethu.
Yng Nghasnewydd, mae'r Cyngor wedi datblygu Canolfan Gyswllt. Y nod
yw y bydd y ganolfan yn delio â hyd at 80% o ymholiadau pobl yn y pwynt
cyswllt, tra bo Wrecsam wedi sefydlu gwefan hollol weithrediadol sydd yn
un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae'n galluogi pobl i wneud taliadau,
gofyn am wasanaethau, hysbysu ynglyn̂ â phroblemau fel cerbydau a
adawyd neu graffiti a chwblhau ffurflenni cais ar-lein.
Er mwyn rhannu'u harbenigedd er lles y ddau Gyngor, maent wedi cytuno i
weithio mewn partneriaeth. Mae Cyngor Casnewydd yn helpu Wrecsam i
sefydlu canolfan gyswllt, ac yn dâl am hynny mae Wrecsam yn rhoi cymorth
a chyngor i Gasnewydd ynghylch sut i ddatblygu gwefan.
-
16
14. Byddwn yn helpu i ddatblygu gwasanaethau sy'n ymateb mwy i
anghenion pobl drwy:
• Annog darparwyr i gynllunio gwasanaethau sy'n fwy hyblyg gan seilio
hyn ar adolygiadau defnyddwyr a mathau eraill o dystiolaeth;
• Annog dull mwy gweithredol o ymchwilio i anghenion defnyddwyr;
Blwch 3.7: Gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion pobl:Llwybrau Dysgu 14-19
Mae Llwybrau Dysgu 14-19 yn gynllun radical i sicrhau bod pobl ifanc yng
Nghymru yn rhan ganolog o ddysgu ac yn cael mwy o gyfle i fynegi'u barn
am yr hyn y dylid ei ddarparu.
Gyda chymorth anogwr dysgu, bydd pob person ifanc yn gallu dewis y
Llwybr Dysgu sy'n gweddu orau iddynt hwy - gan gymysgu a chyfateb
gwahanol gymwysterau a phrofiadau academaidd a galwedigaethol. Bydd
pobl ifanc yn cael eu cynrychioli hefyd ar Rwydweithiau 14-19 a sefydlwyd
yn lleol i helpu gyda'r gwaith o drosglwyddo o'r model cyfredol o
ddarpariaeth i'r dull hyblyg ac atebol o weithio yn y dyfodol sy’n ymateb i
anghenion.
Blwch 3.8: Gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion pobl: cynllunyr ail gynnig yn y GIG yng Nghymru
Mae cynllun yr ail gynnig yn enghraifft o sut y mae'r gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn ymateb i anghenion cleifion. Os nad yw ysbyty
lleol claf yn gallu darparu triniaeth o fewn yr amseroedd aros gofynnol a
bennwyd gan Lywodraeth y Cynulliad am driniaethau'r GIG yng Nghymru,
bydd y claf yn cael ail gynnig i gael triniaeth ar unwaith yn rhywle arall. Nid
yw'r cynllun yn dibynnu ar allu’r claf i ddefnyddio'r system; yn hytrach, mae
tîm canolog yn cysylltu â nhw os na fydd modd cynnig triniaeth o fewn
amser penodol.
Mae'r Ymddiriedolaethau yn gweithio ar y cyd, gan sicrhau bod y claf yn
derbyn gwasanaeth cydgysylltiedig a bod lleoedd gwag o fewn y GIG yng
Nghymru, sef y man cyntaf i atgyfeirio cleifion, yn cael eu defnyddio.
-
17
• Hyrwyddo arferion da o ran darparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynghylch yr
opsiynau sydd ar gael a chyfranogiad defnyddwyr, pan fo hynny'n
berthnasol, yn y broses o wneud penderfyniadau am y gwasanaeth y
maent yn ei dderbyn.
Sicrhau bod cyfraniad y gymuned yn rhan annatod o wasanaethau
15. Mae deall blaenoriaethau cymuned ac annog y gymuned i gymryd rhan
yn y gwaith o reoli gwasanaethau yr un mor bwysig ag ymateb i anghenion
unigolion. P'un ai a ydynt yn gwasanaethu cymunedau lleol neu'n
gwasanaethu cymunedau sy'n rhannu'r un buddiannau, mae angen i
ddarparwyr gwasanaethau gynnwys y cymunedau hynny yn y broses o
benderfynu ar flaenoriaethau'r gwasanaeth, wrth wella gwasanaethau ac wrth
ystyried sut y dylid darparu'r gwasanaeth.
16. Mae'r Strategaethau Cymunedol newydd, sy'n cael eu cydgysylltu gan
awdurdodau lleol, yn ffordd o gynnwys cymunedau lleol yn y broses o gytuno
ar flaenoriaethau lleol a dylanwadu ar wasanaethau lleol. Mae Cymunedau yn
Gyntaf yn mynd â'r dull hwn o weithio i'n cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae partneriaethau lleol, sy'n cynnwys pobl a busnesau lleol, cyrff statudol a
mudiadau gwirfoddol a chymunedol, yn penderfynu ar y camau sydd angen
eu cymryd i newid eu cymunedau. Hwy hefyd sy'n gyfrifol am weithredu'r
camau hynny.
Blwch 3.9: Sicrhau cyfraniad y gymuned: diogelwch cymunedol
Enghraifft sy'n dangos hyd a lled cyfraniad posibl cymunedau - o greu
partneriaeth â llywodraeth, i waith gwirfoddol ar y cyd, i ymddygiad
unigolion - yw diogelwch cymunedol. Gall dinasyddion helpu i wneud eu
hardaloedd lleol yn fwy diogel mewn sawl ffordd:
• Cyfrannu at ymgynghoriadau ar flaenoriaethau'r gymuned;
• Bod ar fwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol fel rhanddeiliad lleol;
• Cymryd rhan mewn mentrau penodol fel cymorth i ddioddefwyr, neu'n
syml helpu i leihau'r perygl o ladradau yn y gymdogaeth drwy gytuno i
godi clwydi a ffensys cryfach ar eu heiddo;
• Lansio cynllun gwarchod cymdogaeth neu gymryd rhan mewn un;
• Bod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw drosedd.
-
18
17. Er mwyn sicrhau bod cymunedau'n cael mwy o gyfle i gyfrannu,
byddwn yn:
• Ceisio gwella'r ffordd y mae'r cyhoedd yn cael gwybod am berfformiad
gwasanaethau lleol fel y bo gan ddinasyddion a chymunedau wybodaeth
gadarn am wasanaethau. Ond, nid yw hyn yn golygu defnyddio 'tablau
cynghrair': nid ydynt yn helpu i wella gwasanaethau - gallant hyd yn oed
ei gwneud hi'n anoddach i wella gwasanaethau sy'n tanberfformio.
• Diweddaru canllawiau ar gyfranogiad cymunedau;
• Gwella ymgynghoriadau cenedlaethol ymhellach drwy:
- Gydgysylltu pob ymgynghoriad ffurfiol yn well er mwyn osgoi
gorlwytho pobl a sefydliadau lleol;
- Adeiladu ar ddatblygiadau diweddar o ran cynnal ymgynghoriadau,
fel ymgynghori’n electronig drwy Cymru Ar-lein a’r Ddraig Ffynci,
gan osod pwyslais ar fod yn fwy cynhwysol;
• Annog cyrff sy'n darparu gwasanaethau, fel arfer gorau, i sicrhau bod llais
y defnyddiwr yn cael ei glywed ar y lefelau uchaf pan fydd
penderfyniadau'n cael eu gwneud.
Blwch 3.10: Sicrhau cyfraniad plant a phobl ifanc
Mae plant a phobl ifanc yn aelodau pwysig o'r gymuned, ac mae'n hanfodol
eu bod yn cael cymaint o gyfleoedd â phosibl i gyfrannu'n effeithiol a bod
eu barn am benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau yn cael ei chlywed.
Ym mhob rhan o Gymru, gall Partneriaethau Pobl Ifanc, Partneriaethau Plant
a Phartneriaethau Cynllunio Fframweithiau helpu cynllunwyr a darparwyr
gwasanaethau i weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu gwasanaethau
effeithiol sy'n ymateb i anghenion lleol.
-
19
4. Gweithio gyda'n gilydd felgwasanaeth cyhoeddus Cymru
1. Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar y dinesydd, mae
angen i'r rheini sy'n darparu gwasanaethau weithio gyda'i gilydd mewn modd
nas gwelwyd o'r blaen. Yn y bennod hon, rydym yn nodi ffyrdd o gyflawni
hyn drwy gydweithio mwy, diwygio'r wladwriaeth gwango ymhellach, creu
perthynas symlach â phartneriaid a sefydlu trefniadau rheoleiddio ac arolygu
effeithiol.
Cydweithio'n well
2. Drwy gydweithio gall sefydliadau wneud y defnydd gorau o adnoddau
arbenigol, datrys problemau sy'n deillio o brinder staff ac adnoddau a darparu
gwasanaeth integredig sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae angen
cydweithio ar y lefel briodol ac yn y ffordd briodol. Bydd angen cydweithio'n
genedlaethol gyda rhai gwasanaethau (ee tocynnau bysiau), yn rhanbarthol
gyda gwasanaethau eraill (ee cynllunio trafnidiaeth), ac weithiau'n lleol (ee
Cymunedau yn Gyntaf).
Blwch 4.1: Gweithio gyda'n gilydd: teithio am ddim ar fysiau i'rhenoed a phobl anabl
Mae Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau wedi
gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cynllun sy'n caniatáu i'r henoed a
phobl anabl yng Nghymru deithio am ddim ar fysiau. Ni sy'n gwneud y
rheoliadau ac yn talu am y fenter, tra bo awdurdodau lleol yn rheoli'r
cynllun. Gan ei fod yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan, mae gweithredwyr
gwasanaethau bysiau yn derbyn y tocynnau unrhyw le yng Nghymru: er
enghraifft, gall rhywun o Gasnewydd ddefnyddio'r tocyn bws i deithio am
ddim o Ynys Môn i Sir y Fflint gan ddefnyddio’r rhwydweithiau lleol.
-
20
3. Bydd Cynllun Gofodol Cymru yn darparu fframwaith i helpu i gynllunio
a chydgysylltu gwasanaethau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Bydd y
Strategaethau Cymunedol yn ategu'r Cynllun Gofodol drwy fwydo
blaenoriaethau lleol i mewn i'r cynllun yn ogystal ag ystyried ffactorau sy'n
mynd y tu hwnt i ffiniau'r awdurdod lleol. Drwy integreiddio cyrff cyhoeddus
a noddir gan y Cynulliad i Lywodraeth y Cynulliad a'n bwriad i sefydlu
swyddfeydd rhanbarthol bydd cyfle i sicrhau bod gwasanaethau'r Llywodraeth
yn agosach at y bobl, yn fwy cydgysylltiedig ac yn ymateb mwy i'r gwahanol
anghenion mewn gwahanol ranbarthau.
4. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i’r holl gyrff cyhoeddus
ystyried a fyddai'n fanteisiol iddynt gydweithio pe bai hynny'n gwella
gwasanaethau cyhoeddus, ac yn amodol ar werth am arian a'r angen i sicrhau
bod pawb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am beth.
Blwch 4.2: Gweithio gyda'n gilydd: strategaethau adfywio ar sailardal
Ar ôl i nifer o bobl golli'u swyddi yn y diwydiant dillad yn ne Ceredigion a
gogledd Sir Benfro, arweiniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y gwaith o
sefydlu partneriaeth ddeinamig rhwng holl aelodau allweddol Tîm Cymru.
Roedd y bartneriaeth yn cynnwys llywodraeth leol, y sectorau gwirfoddol a
phreifat a datblygodd gynlluniau gweithredu uchelgeisiol a oedd yn cynnwys
buddsoddiad gwerth tua £60 miliwn oddi wrth y sector cyhoeddus a'r sector
preifat i helpu i adfywio'r ardal.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gymeradwyo'n eang fel cynllun effeithiol ac fel
model ar gyfer gweithio ar y cyd.
Blwch 4.3: Gweithio gyda'n gilydd: nofio am ddim i blant a phoblifanc
Mae partneriaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru, awdurdodau lleol ledled Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru,
Cymdeithas Nofio Amatur Cymru a phartneriaid eraill wedi cyflwyno cynllun
nofio am ddim yn llwyddiannus i blant a phobl ifanc 16 oed ac iau yng
Nghymru yn ystod gwyliau ysgol.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, mae'r cynllun peilot wedi helpu i ddenu llawer
mwy o bobl ifanc i nofio'n amlach, a disgwylir y bydd manteision yn deillio o
hynny o safbwynt iechyd plant.
-
21
5. Mae gennym eisoes nifer o enghreifftiau da o weithio mewn
partneriaeth a chydweithio yng Nghymru. Rydym yn bwriadu annog mwy o
gydweithio drwy:
• Weithio ar y cyd ym maes caffael a gwasanaethau cymorth (gweler
pennod 5);
• Datblygu canllawiau ymarferol i weithio mewn partneriaeth a thynnu sylw
at enghreifftiau o gydweithio llwyddiannus;
• Gweithio gyda phartneriaid i dreialu modelau arloesol o gydweithio a
rhannu'r hyn a ddysgir o'r cynlluniau peilot yn ehangach;
• Gwella'r seilwaith TGCh;
• Manteisio ar y cyfle mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol i gael
mwy o bwerau i hyrwyddo cydweithio ar lefel leol a rhanbarthol.
Blwch 4.4: Gweithio gyda'n gilydd: anghenion addysgol arbennig
Fel arfer mae cynghorau lleol yn darparu gwasanaethau arbenigol orau os
ydynt yn gweithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o
wasanaethau anghenion addysgol arbennig Gwynedd ac Ynys Môn yn cael
eu darparu drwy Gyd-bwyllgor sy'n cynnwys aelodau etholedig o bob
awdurdod. Maent yn goruchwylio gwaith uned sy'n cynnwys seicolegwyr
addysg, athrawon arbenigol a staff gweinyddol. Mae gan y gwasanaeth
gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ddau gyngor. Mae'r uned sy'n darparu'r
gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chynnal, y gwasanaeth
gwella ysgolion ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd.
Yn ne-ddwyrain Cymru, mae Caerffili'n arwain gwasanaeth ar y cyd yn ardal
Tor-faen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Mynwy yn ogystal ag yng
Nghaerffili ei hun.
-
22
6. Wrth geisio sicrhau bod asiantaethau'n cydweithio mwy wrth ddarparu
gwasanaethau cyhoeddus, mae angen uno'r prosesau cwyno. Pan fo amserlen
y Senedd yn caniatáu hynny, byddwn yn sefydlu gwasanaeth Ombwdsmon
unedig i Gymru, a fydd yn galluogi dinasyddion i anfon cwynion am
gamweinyddu i un man penodol. Bydd adroddiadau'r Ombwdsmon hefyd yn
rhoi cyfle i'r rheini sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus ddysgu o brofiadau
gwasanaethau eraill.
7. Rydym yn annog y sectorau gwirfoddol a phreifat i ddatblygu eu rôl o
fewn gwasanaeth cyhoeddus cydgysylltiedig yng Nghymru, gan helpu i
ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Blwch 4.5: Gweithio gyda'n gilydd: cydweithio i ddarparu cyngor iddefnyddwyr
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn gynllun ar draws Cymru gyfan rhwng pob un
o'r 22 o awdurdodau lleol. Cyngor Caerdydd sy'n rhedeg y cynllun ac mae'n
wasanaeth arloesol sy'n darparu cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr.
Mae'n cynnig cyngor clir, ymarferol a diduedd i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Ariennir y peilot yng Nghymru gan yr Adran Masnach a Diwydiant ac mae'n
cael ei gefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad.
Blwch 4.6: Gweithio gyda'n gilydd: cydweithio ym maes ailgylchugwastraff ym Mhowys a Cheredigion
Drwy'r ‘cynllun enghreifftiol’, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r
gwaith a wneir ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a'r sectorau gwirfoddol a
phreifat i gael mwy o bobl i ailgylchu.
Ym Mhowys mae grwpiau gwirfoddol lleol yn 'mabwysiadu safle' lle gall
dinasyddion adael pethau i'w hailgylchu. Mae'r cyrff lleol yn cael peth
nawdd am edrych ar ôl y safle, cadw'r safle'n lân a thaclus ac am roi gwybod
am unrhyw beth sy'n gollwng neu'n gorlifo ar y safle.
-
23
Diwygio'r wladwriaeth gwango
8. Mae diwygio'r wladwriaeth gwango'n rhan hanfodol o wneud
gwasanaeth cyhoeddus Cymru'n addas i'r gwaith. Mae ein nod yn un syml ac
eto’n un grymus: cryfhau atebolrwydd democrataidd. Yng ngeiriau'r Prif
Weinidog, "Rhaid i’r Cynulliad hwn, gydag awdurdod ei fandad
democrataidd, ddod yn gyfrifol ac yn atebol am bolisi cyhoeddus yng
Nghymru. Gweinidogion a ddylai benderfynu ar bolisïau, a’r Cynulliad hwn a
ddylai ein dwyn i gyfrif."2
9. Ein polisi, yn amodol ar bwerau'r Cynulliad, yw y dylai cyrff cyhoeddus
a noddir gan y Cynulliad, lle bônt yn ymgymryd â swyddogaethau sydd yn eu
hanfod yn waith llywodraethol ei natur, yn gymaint â’u bod yn gosod ac yn
arwain ar agweddau ar bolisi cyhoeddus neu ddarparu polisi cyhoeddus, gael
eu hintegreiddio i Lywodraeth y Cynulliad. Rydym eisoes wedi cyhoeddi y
bydd Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru a'r Cyngor
Cenedlaethol - ELWa yn dod o dan reolaeth uniongyrchol y Cynulliad erbyn
Ebrill 2006. Rydym yn ystyried sefyllfa'r cyrff cyhoeddus eraill a noddir gan y
Cynulliad a bydd cyhoeddiad arall yn cael ei wneud yn eu cylch yn hwyrach yr
hydref hwn.
Perthynas symlach â phartneriaid ac â chyrff sy'n darparugwasanaethau
10. Rydym am feithrin perthynas symlach, sy'n canolbwyntio mwy ar
ganlyniadau, rhwng Llywodraeth y Cynulliad, ei phartneriaid a sefydliadau sy'n
darparu'r gwasanaethau, fel y bo modd cyfeirio mwy o adnoddau i wella
gwasanaethau’r rheng flaen. Efallai na fydd perthynas symlach yn golygu
meithrin mwy o berthynas, ond dylai'n bendant olygu perthynas well yn y
cyd-destun hwn.
2 Cofnod y Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 14 Gorffennaf 2004
Yng Ngheredigion, datblygwyd system i gasglu deunyddiau sydd o bosibl yn
mynd i annog mwy o bobl mewn cymunedau bach, diarffordd i ailgylchu. Y
bwriad yw y bydd y rheini sy'n rhedeg cerbydau casglu bach yn meithrin
perthynas â'r gymuned leol er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn y cynllun
ac i gynyddu ailgylchu. Mae'r sector preifat hefyd yn rhan o'r fenter hon.
Mae'n darparu cymorth logistaidd, cyfleusterau casglu a marchnadoedd lleol
ar gyfer y deunyddiau.
-
24
11. Rydym eisoes yn symleiddio ein fframweithiau ar gyfer gweithio gyda'n
partneriaid a'n hasiantwyr cyflenwi. Rydym yn sefydlu systemau newydd i
fonitro perfformiad a gwella gwasanaeth mewn modd sy'n adlewyrchu
gwerthoedd a maint Cymru gan gynnwys y fframwaith mesur perfformiad ar
gyfer llywodraeth leol a'r cerdyn sgorio cytbwys ar gyfer y GIG. Rydym hefyd
yn llunio cytundebau lefel gwasanaeth symlach gyda'r mudiadau ambarél yn y
sector gwirfoddol i nodi sut y byddwn yn cefnogi'r gwaith o ddarparu'r hyn a
fydd yn sail i waith y sector gwirfoddol yng Nghymru.
12. Yn y tymor hwy, bydd y Llywodraeth yn gweithio i sicrhau bod
cysondeb rhwng fframweithiau perfformiad y gwahanol sectorau. Bydd
sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru o fis Ebrill 2005 ymlaen hefyd yn gwneud
gwasanaethau cyhoeddus yn fwy atebol.
13. Lle bynnag y bo modd, rydym am ysgafnhau'r baich gweinyddol fel y
bo modd canolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus y rheng flaen.
Byddwn yn:
• Lleihau nifer y cynlluniau sy'n ofynnol oddi wrth lywodraeth leol;
• Ad-drefnu a symleiddio cynlluniau grant, ar gyfer cyrff cyhoeddus neu
fusnesau, i gael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen ac er mwyn iddynt allu
rhoi mwy o gefnogaeth i flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad;
• Symleiddio a safoni ein gweithdrefnau a'n prosesau drwy brosiect gwella
busnes Llywodraeth y Cynulliad ei hun;
• Annog sefydliadau o fewn y sectorau i ddefnyddio'r un mesurau
perfformiad i'w helpu i nodi'r cynnydd y maent yn ei wneud o'i gymharu
â sefydliadau eraill ac i nodi sut y gallant wella eu gwasanaethau eu
hunain;
• Gweithio gyda'r arolygiaethau a'u partneriaid i ysgafnhau'r baich o
reoleiddio ac arolygu.
14. Byddwn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais ar graffu ar effaith
reoleiddiol holl ddeddfwriaeth a pholisïau newydd y Cynulliad, er mwyn
sicrhau bod cyn lleied o bwysau â phosibl yn cael ei roi ar fusnesau.
-
25
15. Bydd y trefniadau newydd yn gosod mwy o bwyslais ar atebolrwydd a
chanlyniadau, a llai ar waith papur a thicio blychau. Y nod yw dod o hyd i
gydbwysedd rhwng rhyddid i wneud penderfyniadau a bod yn arloesol,
rheolaeth er mwyn sicrhau canlyniadau a bod sefydliadau'n atebol am eu
gweithredoedd, a chymhelliad i annog gwelliant parhaus.
16. Os oes angen, byddwn yn cymryd camau'n fuan i ddelio â
pherfformiad gwael, gan weithredu fel catalydd i newid a rhoi sefydliadau yn
ôl ar y trywydd cywir. Ymyrryd yn gynnar yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wella
perfformiad, a byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant lle y bydd
cyrff yn barod i ofyn am gymorth ac y bydd y cymorth hwnnw ar gael.
Rheoleiddio ac arolygu
17. Diben sylfaenol rheoleiddio ac arolygu3 yw darparu sicrwydd
annibynnol proffesiynol fod gwasanaethau cyhoeddus yn bodloni safonau
perthnasol, yn cyflawni'r hyn yr oeddent yn bwriadu'i gyflawni ac yn darparu
gwerth da am arian.
18. Mae rheoleiddio ac arolygu felly yn chwarae rhan allweddol yn y
gwaith o sicrhau bod gwasanaethau'n atebol, yn effeithiol ac yn effeithlon.
Ond maent hefyd yn costio: mae'r Cynulliad yn gwario dros £40 miliwn y
flwyddyn ar ariannu gwaith cyrff sy'n archwilio, yn rheoleiddio ac yn arolygu.
Gall archwilio pob maes gwasanaeth gyda'r un faint o fanylder olygu y
byddai'n rhaid gwario'n ddrud ar adnoddau rheoleiddio ac arolygu i edrych ar
wasanaethau sydd ar y cyfan yn ddiogel ac yn effeithiol. Y corff sy'n
darparu'r gwasanaeth yw'r un sy'n atebol am ansawdd a diogelwch y
gwasanaeth hwnnw. Dylai arolygiadau allanol ategu a chryfhau’r cyfrifoldeb
sydd ar ysgwyddau darparwyr gwasanaeth i werthuso'u perfformiad eu
hunain ac i wella safonau o'r tu mewn, yn hytrach na’i ddisodli.
19. Yn ogystal, mae angen i ni gydnabod barn a phrofiad y rheini sy'n
defnyddio'r gwasanaethau wrth i ni fynd ati i reoleiddio ac arolygu.
20. Rydym felly'n mynd i symleiddio'r haenau rheoleiddio ac arolygu ym
maes gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dylai hyn wneud y
strwythurau adrodd yn gliriach ac yn fwy effeithiol a rhoi mwy o gyfle i'r
3 Yn gyffredinol, mae rheoleiddio’n canolbwyntio ar i ba raddau y mae gwasanaethau'nbodloni safonau gofynnol y cytunwyd arnynt mewn lleoliadau penodol, er enghraifft mewnysgolion neu gartrefi gofal. Mae arolygiadau'n ystyried ansawdd ac effeithiolrwydd cyffredinoly gwasanaeth ac fel arfer yn nodi meysydd sydd angen eu gwella.
-
26
rheini sy'n darparu gwasanaethau ganolbwyntio mwy ar ddarparu'r
gwasanaeth. Bydd modd i ddefnyddwyr hefyd gael gwybodaeth gliriach am y
canlyniadau. Ni ddylai cyrff llwyddiannus fod yn gymaint o destun craffu
allanol ag y mae cyrff nad ydynt yn gwneud cystal.
21. Er mwyn sicrhau bod rheoleiddio ac arolygu yn cyfrannu cymaint â
phosibl at agenda Llywodraeth y Cynulliad i greu gwasanaeth cyhoeddus
Cymru, byddwn yn:
• Canolbwyntio mwy ar fuddiannau defnyddwyr y gwasanaeth, ar y
dinesydd ac ar y gymuned wrth gynllunio gwaith rheoleiddio ac arolygu,
wrth ymgymryd â’r gwaith ac wrth adrodd amdano;
• Ehangu rôl rheoleiddio ac arolygu yn y gwaith o ysgogi gwasanaethau i
wella'u perfformiad a hyrwyddo'r gwaith o ledaenu arferion da;
• Sicrhau bod y dystiolaeth a'r arbenigedd broffesiynol sy'n deillio o
drefniadau rheoleiddio ac arolygu yn cyfrannu'n fwy effeithiol at y gwaith
o ddatblygu polisïau;
• Annog cyrff rheoleiddio ac arolygu i gydweithio mwy wrth gynllunio eu
harolygiadau, casglu data a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. Bydd
hynny'n gwella effeithiolrwydd gan ysgafnhau'r pwysau ar gyrff sy'n cael
eu harolygu.
Blwch 4.7: Rheoleiddio ac arolygu: datblygu concordat rhwngcyrff arolygu, rheoleiddio ac archwilio iechyd a gofal cymdeithasolyng Nghymru
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn arwain y ffordd gyda'r broses o ddatblygu
concordat rhwng cyrff arolygu, rheoleiddio ac archwilio iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru. Nod hyn yw helpu i wella'r gwasanaethau i'r
cyhoedd a lleihau pwysau diangen ar staff y rheng flaen. Bwriad y concordat
yw cael y cyrff i gytuno ar gyfres o egwyddorion sy’n helpu i wella
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan beidio â tharfu na dyblygu
mwy nag sy'n rhaid, sicrhau eu bod yn rhannu gwybodaeth yn briodol a'u
hannog i gynnal arolygiadau ar y cyd.
-
27
5. Gwneud y defnydd gorau o’nhadnoddau
1. Bydd ein gwariant cyffredinol ar wasanaethau cyhoeddus yn parhau i
dyfu ond mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau. Rydym yn
ymrwymedig i sicrhau gwerth am arian er mwyn darparu gwell gwasanaethau.
Yn y bennod hon amlinellir ein targedau ar gyfer y pum mlynedd nesaf a sut y
cânt eu cyflawni.
Ein targedau gwerth am arian
2. Yn rhan o’n rhaglen bum mlynedd o newidiadau, byddwn yn gwneud
gwelliannau o £600 miliwn drwy sicrhau ein bod yn cael mwy o werth am ein
harian yn y gwasanaeth cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn cyfateb i
oddeutu 5% o gyfanswm ein buddsoddiad presennol mewn gwasanaethau
cyhoeddus. Yn fras, golyga y bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus fod oddeutu
1% yn fwy effeithlon bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf.
3. Byddwn yn disgwyl i gyrff gyflawni o leiaf hanner y gwelliannau
gwerth am arian erbyn 2008. Byddwn yn ymgorffori cymhellion yn ymwneud
ag effeithlonrwydd yn rhan o’r trefniadau ariannu yn y dyfodol er mwyn
annog cyrff i ymrwymo wrth fesurau o’r fath.
Cyflawni’r targedau
4. Mae hon yn her fawr ond, o lwyddo, bydd adnoddau ychwanegol
sylweddol yn cael eu creu ar gyfer y rheng flaen. Rhaid i gyrff unigol
benderfynu pa fesurau effeithlonrwydd y maent am eu mabwysiadu a bydd
llawer o’r syniadau gorau yn dod o blith y staff sy’n gweithio yn y maes.
5. Dylai cyrff elwa o’r enillion a wnânt drwy sicrhau gwerth am arian. Yn
yr un modd, mae angen i’r cyhoedd wybod bod yr enillion yn cael eu gwneud.
Yn ystod y chwe mis nesaf, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ym maes
-
28
llywodraeth leol, y GIG, cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, addysg
bellach ac addysg uwch er mwyn cynhyrchu rhaglen weithredu i bob sector.
Er mwyn ategu’r rhaglenni, byddwn yn disgwyl i bob corff cyhoeddus
gynnwys targedau gwerth am arian yn eu cynlluniau busnes unigol sy’n gyson
â’n targedau ni. Byddwn yn gweithio gyda’r gwahanol sectorau a’r cyrff
archwilio ar y trefniadau i ddiffinio, diogelu, monitro a sicrhau dilysrwydd yr
enillion a wnaed.
6. Dyma’r elfennau allweddol a fydd yn gyfrwng i ni gyflawni ein
targedau:
• Gwell systemau caffael;
• Symleiddio swyddogaethau cymorth;
• Llunio ein gwasanaethau yn fwy effeithiol er diwallu anghenion y
cyhoedd;
• Gwneud gwell defnydd o amser, sgiliau ac arbenigedd staff.
Byddwn hefyd yn mynd ar drywydd unrhyw gyfleoedd i sicrhau gwerth am
arian a allai godi drwy bartneriaethau cyhoeddus-preifat.
Gwell systemau caffael
7. Mae’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £4 biliwn y
flwyddyn ar gaffael nwyddau a gwasanaethau. Gallwn sicrhau ein bod yn cael
gwell gwerth am arian o’r gwariant hwn. Nid yw hyn yn golygu derbyn y pris
isaf bob amser: byddwn yn edrych am werth a ychwanegwyd mewn
perthynas â datblygu cynaliadwy ac yn ceisio sicrhau’r budd mwyaf posibl i
Gymru.
8. Bu nifer o fentrau llwyddiannus yng Nghymru hyd yma. Mae Menter
Gaffael Cymru, uned gyfatebol ym maes llywodraeth leol a’r gwaith sydd ar y
gweill yn y GIG ac ym meysydd addysg bellach ac addysg uwch oll yn arwain
y ffordd. Ond mae mwy all gael ei wneud eto.
9. Dylai’r gwasanaeth cyhoeddus fedru gwneud gwelliannau gwerth hyd
at £120 miliwn o ran gwerth am arian drwy sefydlu gwell systemau caffael
erbyn 2008 gyda’r posibilrwydd o ragor eto erbyn 2010. Er mwyn cyflawni’r
-
29
targed hwn, ein bwriad yw adeiladu ar lwyddiant Menter Gaffael Cymru gan
roi iddi rôl ehangach a mwy strategol fel swyddfa caffael a gwasanaethau
cymorth Cymru, sef Gwerth Cymru. Gyda’r adnoddau ychwanegol a neilltuir
bydd modd:
• Gwella’r gronfa o wybodaeth sydd ar gael;
• Cefnogi prosiectau caffael ar y cyd;
• Cytryngu’r broses o rannu gwasanaethau;
• Cynnig arbenigedd ym meysydd cymhleth TGCh ac adeiladu;
• Hyrwyddo systemau rheoli prosiectau cryfach;
• Datblygu’r defnydd o e-gaffael;
• Gwella cysylltiadau gydag asiantaethau pwrcasu’r DU;
• Gwella sgiliau caffael cyrff cyhoeddus;
• Hyrwyddo’r agenda datblygu cynaliadwy.
10. Byddwn yn cynnwys partneriaid wrth fynd ati i ffurfio Gwerth Cymru er
mwyn sicrhau y bydd yn darparu cymorth effeithiol ar gyfer ein rhaglenni
gwerth am arian ac yn cydweithredu’n effeithiol gyda mentrau caffael
llwyddiannus eraill sydd eisoes yn eu lle ar draws y gwasanaeth cyhoeddus.
Blwch 5.1: Gwell systemau caffael: Menter Gaffael Cymru
Sefydlwyd Tîm Menter Gaffael Cymru yn 2002 sef y corff arbenigol cyntaf
o’i fath yn y sector cyhoeddus yn Ewrop a grewyd i fynd i’r afael â materion
yn ymwneud â chaffael ar lefel genedlaethol. Yn ystod y ddwy flynedd
gyntaf, clustnododd dros £12 miliwn o arbedion. Bu’n gyfrifol am hyrwyddo
cydweithredu rhwng gwahanol sectorau, darparu 650 o leoedd hyfforddi i
80% o gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a threialu defnyddio
cymalau cymdeithasol wrth gaffael.
Yn 2003 cydnabuwyd llwyddiant Tîm Menter Gaffael Cymru wrth iddo ennill
gwobr sector cyhoeddus y Sefydliad Siartredig Pwrcasu a Chyflenwi (CIPS).
Yn 2004 cafodd ei wefan arloesol ar gaffael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer
gwobr CIPS am y prosiect gorau.
-
30
Symleiddio swyddogaethau cymorth
11. Mae swyddogaethau megis cyllid, casglu refeniw, cyflogau, adnoddau
dynol ac ystadau yn hanfodol i reoli ein gwasanaethau yn briodol, ond mae’n
rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o’u darparu’n fwy effeithlon. Gall llawer gael ei
gyflawni drwy wneud y defnydd mwyaf o TGCh er mwyn symleiddio a safoni
prosesau busnes. Fodd bynnag, mae’n debyg y daw’r enillion mwyaf gan
gyrff a fydd yn cyflwyno systemau i rannu swyddogaethau cymorth.
12. Nid ydym ar ein pen ein hunain yn mynd ar drywydd y cyfleoedd hyn:
mae llywodraethau mewn nifer o wledydd yn datblygu dulliau arloesol o
leihau costau cefn y swyddfa, drwy annog cyrff cyhoeddus i rannu
swyddogaethau cymorth. Rydym eisoes wedi cyflwyno strwythurau cymorth
ar y cyd ar gyfer ein Byrddau Iechyd Lleol ac rydym am ddatblygu hyn
ymhellach.
13. Dylai fod yn bosibl gwneud enillion o hyd at £120 miliwn y flwyddyn o
ran gwerth am arian drwy wella a rhannu swyddogaethau cymorth ar draws
yr holl wasanaeth cyhoeddus erbyn 2010 drwy:
• Weithredu rhaglen newid busnes arloesol o fewn Llywodraeth Cynulliad
Cymru;
• Manteisio ar y cyfle i osgoi dyblygu swyddogaethau cymorth corfforaethol
wrth i gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad gael eu hymgorffori gan
eu hadrannau cyfatebol o fewn Llywodraeth y Cynulliad;
• Gofyn i gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad edrych i weld pa gyfle
sydd i gydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cymorth;
• Datblygu gwasanaethau cymorth ar y cyd ar draws y GIG yng Nghymru;
• Gweithio gyda phartneriaid ym meysydd llywodraeth leol, addysg uwch
ac addysg bellach er mwyn datblygu a gweithredu cyfleoedd i rannu
swyddogaethau cymorth.
Gydag amser, mae hyn yn debygol o olygu gostyngiad yn nifer y swyddi sydd
ynghlwm wrth swyddogaethau cymorth, gan ryddhau adnoddau pellach ar
gyfer y rheng flaen.
-
31
Ail-lunio gwasanaethau
14. Dros gyfnod, gwelir newidiadau yn y patrymau yn y galw. Rhaid
sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu cynllunio i ddiwallu ein hanghenion
heddiw er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi gwerth am arian. Er enghraifft, mae
lleihau costau cynnal a chadw lleoedd gwag mewn rhai o’n hysgolion a
gwneud y defnydd gorau o’r ystad gyhoeddus yn wasgfa ar awdurdodau lleol
ac eraill a bydd yn parhau i fod felly. O ran y GIG, caiff ei ail-lunio yn sgil
rhaglen Wanless a’i wneud yn fwy cynaliadwy. Yn fwy cyffredinol, gall ail-
lunio gwasanaethau olygu darparwyr y gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio ar
draws ffiniau ac yn ymrwymo i drefniadau ar y cyd wrth gomisiynu
gwasanaethau a’u darparu.
Gwneud gwell defnydd o amser, sgiliau ac arbenigedd staff
15. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio ein gweithlu yn
effeithlon. Mae llawer eisoes wedi’i gyflawni yn hyn o beth: er enghraifft,
rydym yn gweithredu cyfres o gontractau newydd i bobl sy’n gweithio yn y
GIG ac mewn sectorau eraill a fydd yn diweddaru’r telerau cyflogi ac yn
galluogi staff i fod yn fwy cynhyrchiol.
Blwch 5.2: Gwneud gwell defnydd o amser staff: ysgafnhau’rpwysau ar wasanaethau’r rheng flaen drwy fynd i’r afael âphwysau gwaith mewn ysgolion
Ym mis Medi 2004 sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad Banel Cynghori ar
Lwyth Gwaith Ysgolion i gynnig cyngor ar sut i ysgafnhau’r pwysau
biwrocrataidd ar ysgolion yng Nghymru ac i adrodd yn flynyddol am y
cynnydd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud yn y maes hwnnw.
Ymhlith y chwech sydd ar y Panel y mae penaethiaid, athrawon dosbarth ac
ysgrifennydd ysgol. Mae ganddynt i gyd brofiad uniongyrchol o’r pwysau
biwrocrataidd sydd ar ysgolion. Eu nod yw gweithio gydag ysgolion ac eraill
i gael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen a sicrhau bod y goblygiadau o ran
llwyth gwaith yn cael eu hystyried mewn mentrau a pholisïau cyfredol a
newydd.
-
32
16. Ymhlith y sialensau eraill ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus y mae
lleihau absenoldeb oherwydd salwch a phwysau yn y gweithle. Mae’r
manteision potensial yn sylweddol: gallai gwerth gostyngiad o 1 diwrnod y
flwyddyn yn lefelau absenoldeb pob aelod o’r staff oherwydd salwch fod
oddeutu £25 miliwn i’r gwasanaeth cyhoeddus cyfan.
Blwch 5.3: Gwneud gwell defnydd o amser staff: mynd i’r afaelag absenoldeb oherwydd salwch yn Llywodraeth Cynulliad Cymru
Yn rhan o’r broses o ddatblygu ei strategaeth fewnol ar gyfer adnoddau
dynol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd i’r afael â’r angen i ddelio
ag absenoldeb oherwydd salwch a gweithio oriau hir. Mae’n meincnodi ei
hun yn erbyn arferion gorau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae
rheolwyr llinell yn cael eu cynnal gan gynghorwyr Adnoddau Dynol cymwys
a gwasanaethau iechyd galwedigaethol a lles mewnol fel yr ymdrinnir â
materion mewn modd sy’n deg, yn gyson ac yn osgoi gwahaniaethu.
-
33
6. Ymgysylltu â’r gweithlu
“Staff yw’r ased pwysicaf o ran cyflawni gwasanaethau cyhoeddus beth
bynnag yw eu statws fel gweision cyhoeddus. Bydd eu sgiliau a’u galluoedd
hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.”
Prif Weinidog Cymru, 14 Gorffennaf 2004
1. Bydd cydweithrediad a chefnogaeth y staff yn hollbwysig wrth wireddu
ein gweledigaeth. Bydd angen newid y ffordd y mae gwasanaethau
cyhoeddus yn cael eu trefnu a’u rheoli gan barhau yn aml ar hyd y trywydd y
cychwynnwyd arno eisoes. Mae angen i aelodau’r staff deimlo eu bod yn
rhan o’r newidiadau hyn. Yn y bennod hon, ymdrinnir â’r modd y bydd
Llywodraeth y Cynulliad yn ymgysylltu â’r gweithlu i wynebu’r her.
2. Ar gyfer llawer o staff, bydd ein cynigion yn golygu mabwysiadu ffyrdd
newydd o weithio a swyddi a fydd yn rhoi mwy o foddhad iddynt. Bydd y
gweithlu yn cael ei weddnewid fodd bynnag wrth i fwy o adnoddau gael eu
symud i’r rheng flaen. Bydd y Llywodraeth yn gweithio’n agos gyda chyrff,
rheolwyr ac Undebau Llafur i sicrhau yr ymdrinnir â’r broses o drawsnewid
mor sensitif â phosibl.
3. Mae hefyd yn golygu y bydd mwy o staff yn cynnal perthynas waith â
strwythurau partneriaeth, yn ogystal ag â’r corff sy’n eu cyflogi. Bydd hyn yn
ei dro yn newid yn sylfaenol natur rheoli yn y gwasanaeth cyhoeddus.
Dull gweithredu sy’n unigryw i Gymru
4. Mae gennym bellach wasanaethau cyhoeddus sydd â gwell adnoddau
a lefelau staffio na phum mlynedd yn ôl. Nid ydym, fodd bynnag, yn gwneud
y defnydd mwyaf effeithiol o’r adnoddau hynny ar hyn o bryd.
5. Mae cyfran fawr o’r staff yn cael eu cyflogi o dan amodau gwaith lle
bo’r amodau craidd yn cael eu trafod ar lefel Cymru a Lloegr neu ar lefel y
Deyrnas Unedig. Mae dimensiynau Cymreig sylweddol i rai ohonynt. Yn rhan
-
34
o’r broses o annog mwy o symud staff rhwng ein cyrff cyhoeddus, byddwn yn
edrych ar sut i oresgyn rhwystrau sy’n deillio o’r trefniadau presennol, gan
gynnwys amodau gwaith. Rydym hefyd yn symud rhai o’r gwasanaethau a
ddarperir yn uniongyrchol gan adrannau Llywodraeth y Cynulliad yn nes at y
cymunedau gan gynnig, drwy hynny, gyfleoedd da o ran gyrfa i’r gweithlu yn
eu hardaloedd lleol ac adlewyrchu’n well yr amrywiaeth ymhlith pobl Cymru.
6. Mae aelodau’r staff hefyd yn ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd llawer ynghlwm wrth y sector gwirfoddol y bydd angen i’r
gwasanaethau cyhoeddus gydweithredu fwyfwy â hwy yn y dyfodol. Bydd yn
rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio eu profiad fel defnyddwyr a
dinasyddion yn ogystal ag fel darparwyr gwasanaethau. Yn yr un modd, bydd
angen i gyrff yn y sector cyhoeddus ystyried sut y gallant gyflawni eu
dyletswyddau fel cyflogwyr mewn ffyrdd a fydd yn cyflawni amcanion
ehangach y papur hwn, er enghraifft drwy hyrwyddo cydraddoldeb a
chyfiawnder cymdeithasol.
7. At ei gilydd, ychydig o ystyriaeth a roddwyd i weithlu gwasanaeth
cyhoeddus Cymru yn gyfan. Mae gan sefydliadau unigol bolisïau adnoddau
dynol ac mae yna gynlluniau i ddatblygu adrannau penodol o’r gweithlu, gan
ganolbwyntio yn aml ar broffesiynau unigol. Eto i gyd, mae nifer o faterion
sy’n gyffredin rhyngddynt, er enghraifft:
• Mae gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus yn hŷn at ei gilydd na’r gweithlu
cyfan. Bydd llawer yn cyrraedd oed ymddeol yn ystod yr ychydig
flynyddoedd nesaf ac mae angen i ni sicrhau na fydd eu gwybodaeth na’u
harbenigedd yn cael eu colli;
• Mae iechyd a diogelwch yn dal i fod o bwys ar draws y sector cyhoeddus,
gan gynnwys pwysau gwaith yn y gweithle a lefelau absenoldeb o
ganlyniad i hynny;
• Bydd y galw am wasanaethau, ac felly sgiliau ac arbenigedd, yn parhau i
newid wrth i gymdeithas newid, yn fwy arbennig wrth i’r boblogaeth fynd
yn hŷn;
• Parhau â’r gwaith o hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb mewn cyrff
cyhoeddus;
-
35
• Mae yna brinder sgiliau a sgiliau craidd y bydd yn rhaid eu cryfhau er
mwyn cyflawni ein hagenda ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
8. Mae’n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau ein bod yn annog pobl ddawnus
o bob cefndir i ymuno â’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae angen
gwell prosesau arnom er mwyn dod o hyd i’r doniau hyn, gan gynnwys
grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol, a chreu’r amodau priodol i’w
meithrin.
Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru
9. Mae angen strwythur arnom a fydd yn hwyluso’r broses o ddod o hyd i
atebion ar y cyd â’n gilydd ac mewn cytundeb â’n gilydd. Flwyddyn yn ôl,
lansiodd Llywodraeth y Cynulliad Fenter Reoli’r Gwasanaeth Cyhoeddus i fynd
i’r afael â rheoli ar draws y gwasanaeth cyhoeddus. Yn ystod y dyddiau
cynnar hynny gwelwyd bod angen am weithredu o’r fath a bod yna
frwdfrydedd yn ei gylch ond y mae bellach wedi datblygu y tu hwnt i’w
statws fel menter.
10. Rydym am ei gosod yn awr ar seiliau mwy hirdymor gan greu Rheoli
yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (PSMW). Mae dros 70 o gyrff yn
aelodau ac rydym wrthi yn creu dull cwbl Gymreig o ddatblygu gweision
cyhoeddus Cymreig. Y nod yw meithrin gallu rheolwyr y sector cyhoeddus er
mwyn sicrhau mwy o gydlynu a chydgysylltu wrth reoli, defnyddio a datblygu
staff.
11. Mae strategaeth PSMW yn cael ei chyhoeddi ar yr un pryd â’r papur
hwn yn amlinellu’r weledigaeth ac yn egluro’r cynlluniau i’w gwireddu.
Agwedd strategol at adnoddau dynol
12. Ar y cyd â’n partneriaid, byddwn yn datblygu dull strategol o ymwneud
ag Adnoddau Dynol er mwyn cefnogi’r gwelliannau a ddisgrifir yn y papur
hwn. Bydd PSMW yn cydlynu ei ddatblygiad, gyda chynllun manwl i’w
baratoi erbyn dechrau 2005.
13. Bydd y dull strategol yn mynd i’r afael â’r canlynol:
• Y dulliau i’w defnyddio er mwyn ymgorffori’r egwyddorion a’r cynigion
yn y papur hwn yn rhan o’r broses o gynllunio a darparu’r gwasanaeth;
-
36
• Gwell arweinyddiaeth a rheolaeth, gan gynnwys datblygu arweinwyr at y
dyfodol sydd â’r gallu a’r ymrwymiad i wireddu’r weledigaeth ar gyfer
gwasanaethau cyhoeddus;
• Proses fwy effeithiol a chydgysylltiedig o gynllunio a datblygu staff er
mwyn creu gwasanaeth cyhoeddus Cymru mwy integredig;
• Strwythurau gyrfa mwy integredig, gan gynnwys mwy o hyblygrwydd a’r
gallu i symud oddi mewn i sectorau a rhwng sectorau;
• Materion sy’n peri pryder i bawb.
Yn sail i hyn oll bydd angen:
• Gwybodaeth drylwyr am weithlu’r sector cyhoeddus;
• Nodi ble mae’r bylchau yn y sgiliau a’u llenwi;
• Meithrin gallu, gan gynnwys datblygu proffesiynol.
Mae potensial hefyd i wneud gwell defnydd o adnoddau dynol yn y
gwasanaeth cyhoeddus a byddwn yn edrych ar y posibiliadau o fabwysiadu
dulliau arloesol.
14. Bydd PSMW yn dwyn ynghyd uwch weithredwyr, Cyfarwyddwyr
Adnoddau Dynol, asiantau gwella a gweithwyr proffesiynol datblygu rheoli
ynghyd a bydd y dull hwn o weithio’n strategol yn cael ei ddatblygu ar y cyd
â hwy a’u cyrff. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â staff ac Undebau Llafur gan
eu cynnwys ym mhob rhan o’r camau cychwynnol o feddwl i’r gweithredu.
Dyma fydd y cyd-destun i gyrff ddatblygu eu strategaethau eu hunain, gan
gynnwys y cyfle i weithio mewn partneriaeth a chydweithio, a fydd yn sail
hefyd i raglenni PSMW.
-
37
Blwch 6.1: Ymgysylltu â’r gweithlu: enghraifft o gydgynllunioadnoddau dynol
Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fframwaith Gwella Gweithluoedd Gofal
Cymdeithasol wedi nodi materion allweddol sy’n berthnasol, yn fras, i bawb:
• Un sector gydag un gweithlu yw’r sector gofal cymdeithasol yng
Nghymru;
• Drwy gydweithio y mae darparu gwasanaethau o safon, nid drwy
gystadlu;
• Rhaid i’r gweithlu fod yn rhan annatod o fusnes craidd pawb sy’n
gysylltiedig;
• Dim ond drwy gyfuniad o weithredu strategol yn y tymor hir a mentrau
unigol y gellir goresgyn anawsterau recriwtio a chadw.
-
38Blwch 6.2: Ymgysylltu â’r gweithlu: themâu sy’n dod i’r amlwg
O ganlyniad i astudiaeth a wnaed gan Gomisiwn Archwilio Cymru o
awdurdodau lleol nodwyd y themâu canlynol:
• Mae nifer o awdurdodau yn cyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu
cynhwysfawr ar gyfer rheolwyr. Mae’r awdurdodau hyn wedi tueddu i
beidio â gweithio gydag awdurdodau eraill wrth ddatblygu rhaglenni ac
maent yn defnyddio nifer o wahanol gyflenwyr. Mae’n bosibl y bydd
PSMW yn medru adeiladu ar ganlyniadau hyn a rhannu hyfforddiant
gyda’r awdurdodau hynny nad ydynt wedi datblygu eu rhaglenni eu
hunain eto;
• Mae rhai awdurdodau wedi ymgymryd â gwaith i fynd i’r afael â
materion penodol yn ymwneud â’r gallu i reoli, gan gynnwys dulliau
arloesol o recriwtio, mentrau penodol i gadw staff ac adolygiadau cyflog.
Gallai’r rhain gael eu rhannu i wella arferion yn fwy eang;
• Ychydig o awdurdodau hyd yma sydd wedi datblygu dull cydlynol o
gynllunio’r gweithlu;
• Byddai datblygu cynllun neu strategaeth ar gyfer y gweithlu yn galluogi
awdurdodau i sicrhau bod ganddynt y gallu sy’n briodol yn y meysydd
priodol i wireddu gweledigaeth, nodau ac amcanion yr awdurdod.
Byddai hefyd o gymorth i awdurdodau ganolbwyntio ar ddulliau o
gynllunio ar gyfer olyniaeth;
• Hefyd, byddai’n rhaid i’r gwaith o ddatblygu strategaeth neu gynllun ar
gyfer y gweithlu gael ei seilio ar strategaeth gadarn ar gyfer adnoddau
dynol a fyddai’n cynnig cymorth ar gyfer cynllun y gweithlu ym
meysydd recriwtio, hyfforddi a datblygu, rheoli absenoldeb oherwydd
salwch a mecanweithiau eraill.
-
39
7. Rhoi’r cynigion ar waith
1. Er mwyn rhoi ein cynigion ar waith bydd yn rhaid wrth ymrwymiad
parhaus ar draws y gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn yn gweithio gyda’n
partneriaid yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf i ddatblygu cynllun gweithredu
pum mlynedd i’w gyhoeddi yng ngwanwyn 2005 a chroesawn unrhyw
sylwadau ynglŷn â’n cynigion.
2. Byddwn yn darparu’r strwythurau, yr adnoddau a’r cymhellion i sicrhau
bod yr amcanion a osodwyd yn y ddogfen hon yn cael eu cyflawni. Yn
gyfnewid am hynny, gofynnwn i’n partneriaid yn y gwasanaeth cyhoeddus
gymryd rhan weithredol yn y broses o gyflwyno’r newidiadau sy’n ofynnol i
ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac
sydd eu hangen ar Gymru.
3. Yn ystod y chwe mis nesaf, byddwn yn:
• Sefydlu Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus, o dan gadeiryddiaeth
Prif Weinidog Cymru, gyda’i aelodaeth i’w gadarnhau yn dilyn
trafodaethau â phartneriaid, er mwyn goruchwylio’r cynllun gweithredu a
chyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol;
• Cwblhau asesiad cychwynnol o’r camau sydd eu hangen i hyrwyddo’r dull
gweithredu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd;
• Cymryd camau pellach o ran diwygio’r cwangos;
• Neilltuo £32 miliwn yn ein cyllideb ar gyfer y cynllun gweithredu dros y
tair blynedd nesaf ar sail buddsoddi-i-gynilo. Bydd hyn yn ychwanegol at
y gwelliannau sy’n cael eu hariannu drwy ein prif raglenni;
• Bwrw ymlaen â swyddfa gwasanaethau caffael a chymorth Cymru,
Gwerth Cymru;
• Ymgynghori â chyrff archwilio a phartneriaid ynglŷn â sut yn union y bydd
targedau gwerth am arian yn cael eu sefydlu, eu monitro a’u dilysu;
• Datblygu Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru ar y sail bod yr holl
-
40
bartneriaid yn gyd-berchenogion;
• Cefnogi datblygu asiantaeth newydd sef Asiantaeth Genedlaethol Arwain
ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, Cangen Gwella a Datblygu Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (Syniad) a Rhagoriaeth Cymru sef cynllun
newydd o dan adain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddathlu
enghreifftiau da o berfformiad a chynlluniau arloesol ac annog
awdurdodau i ddysgu oddi wrth ei gilydd;
• Sicrhau bod y cynllun gweithredu yn gydnaws â’n hymrwymiad i
ddatblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a Chymru ddwyieithog.
4. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn gofyn i’r holl gyrff cyhoeddus
rydym yn eu hariannu wneud fel a ganlyn:
• Cyfrannu at ddatbygu ein cynllun gweithredu pum mlynedd;
• Dechrau mynd i’r afael â’r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn
gwireddu’r weledigaeth sydd wedi’i hamlinellu yn y papur hwn;
• Cyfrannu at ddatblygu rhaglenni gweithredu gwerth am arian ar gyfer eu
sector;
• Sicrhau, o fewn eu trefniadau presennol ar gyfer cynlluniau busnes:
- Bod ganddynt gynlluniau clir i wella effeithlonrwydd;
- Eu bod yn mabwysiadu targedau gwerth am arian sy’n gyson â’r
targedau cenedlaethol;
- Eu bod yn sefydlu trefniadau i adrodd am gynnydd;
• Gweithio gyda ni er mwyn annog cymryd camau yn gynnar i roi mentrau
cydweithio unigol ar waith.
-
41
8. Sut i ymateb i'n cynigion
1. Fe'ch gwahoddir i anfon eich sylwadau ar y cynigion sydd yn y papur
hwn erbyn 31 Ionawr 2005.
2. Cymru Ar-lein yw arf Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ei
strategaeth TGCh a'i hymgynghoriadau electronig. Gallwch gyflwyno
sylwadau:
• drwy'r fforymau electronig rhyngweithiol: www.cymruarlein.cymru.gov.uk
• drwy anfon ebost i [email protected]
• drwy lythyr atom ni yn: Creu'r Cysylltiadau, Llywodraeth Cynulliad
Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
3. Cofiwch y gallwch ffonio LearnDirect ar 0800 200 900 i gael gwybod
sut a ble y gallwch gysylltu â ni'n electronig neu ewch i'ch llyfrgell leol i gael
cymorth i gael gweld y papurau ymgynghori ac i gymryd rhan yn y fforymau
trafod rhyngweithiol Cymru Ar-lein.
4. Yn unol â'i pholisïau ar fod yn agored, mae Llywodraeth Cynulliad
Cymru yn bwriadu cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn. Fel arfer,
cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur gyda'r ymateb, gan
fod gwneud hyn yn rhoi hygrededd i'r broses ymgynghori. Os nad ydych am
gael eich enwi fel awdur eich ymateb, a fyddech cystal â nodi hynny'n glir.
-
42
Copïau ychwanegol
Mae copïau ychwanegol o’r papur hwn ar gael gan
Dan Portillo
Creu’r Cysylltiadau
Llawr 4
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: (029) 20801435
e-bost: [email protected]
Mae i’w weld hefyd ar wefan y Cynulliad:
http://www.cymru.gov.uk/keypubconsultation/index.htm
Mae’r ddogfen hon ar gael mewn fformatau eraill ac mewn ieithoedd eraill, o
wneud cais amdanynt.