Cofiwch fod rheolau am isafswm cyflog yn dod i rym rŵan ym ... · Ers y 1af o Fedi 2015, mae’n...
Transcript of Cofiwch fod rheolau am isafswm cyflog yn dod i rym rŵan ym ... · Ers y 1af o Fedi 2015, mae’n...
Cofiwch fod rheolau am isafswm cyflog yn
dod i rym rŵan ym mis Hydref 2015 ar y
1af o’r mis. Bydd unrhyw weithiwr sydd yn
21 mlwydd oed a throsodd ar isafswm
cyfog o £6.70 yr awr. O fis Ebrill 2016
ymlaen, bydd y cyflog yn codi i £7.20 yr
awr i weithwyr sydd yn 25 mlwydd oed a
throsodd.
Yn dilyn cystadleuaeth diweddar i gynyddu
nifer y cylchoedd sy’n darparu cyfeiriadau
e-bost i ni’n ganolog, cyhoeddir mai cylch
meithrin Mynydd Llandegai sy’n ennill
cyfrifiadur tabled er budd y cylch a’r plant.
Llongyfarchiadau! Mae’n werth iddyn nhw, fel
chi, lawr lwytho ap ‘babi bach Cymraeg’ sy’n
darparu cardiau fflach geirfa syml!
Ar ddechrau mis Awst 2015, cyhoeddwyd y ddogfen Fframwaith Y Cyfnod Sylfaen
(Diwygiedig 2015) gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ddogfen hon yn cymryd lle’r ddogfen
‘Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru’.
Ers y 1af o Fedi 2015, mae’n rhaid i bob darpariaeth addysg gynnar, gan gynnwys cylchoedd
meithrin a meithrinfeydd dydd sy’n ddarparwyr addysg 3 oed, ddefnyddio a chyfeirio at
Fframwaith Y Cyfnod Sylfaen (Diwygiedig 2015) wrth gynllunio profiadau i’r plant yn y
lleoliad. Mae testun y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (LNF) diwygiedig wedi ei ymgorffori
yn y tablau sgiliau newydd ar gyfer y meysydd dysgu. Mae Fframwaith y Cyfnod Sylfaen
(Diwygiedig 2015) yn cyd-fynd gyda disgwyliadau asesu Proffil y Cyfnod Sylfaen.
Bydd enillydd tocyn anrheg
£50 i un o’r 450 a
gwblhaodd yr holiadur
#cychwyngorau gan
Mudiad Meithrin ar
ddewisiadau addysg, yn
cael ei gyhoeddi ar ein
gwefan yn fuan. Diolch i
JoJo Maman Bébé am eu
caredigrwydd!
Wyddoch chi beth yw ‘Safonau Serennog’? Dyma Gynllun Ansawdd newydd Mudiad Meithrin sy’n cymryd lle'r
cynllun ansawdd blaenorol sef y Cylch Rhagorol. Lluniwyd cynllun y Cylch Rhagorol rhai blynyddoedd yn ôl
bellach ac mae’r sector a safonau o fewn y cylchoedd meithrin wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny.
Pwrpas y cynllun ‘Safonau Serennog’ yw gosod nodau a chamau cyraeddadwy y gall pob cylch meithrin
weithio tuag atynt. Mae’n cynnig strwythur fel y gall pwyllgorau a staff werthuso’u hunain yn wrthrychol er
mwyn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel.
Mae Sêl Cylch Rhagorol unrhyw gylch sydd wedi derbyn y dyfarniad o fewn y 3 mlynedd diwethaf yn parhau ac
yn parhau yn ddyfarniad safon dderbyniol. Ers mis Medi 2015 ymlaen nid yw Mudiad Meithrin yn arolygu
unrhyw gylch o dan y cynllun Cylch Rhagorol. Dylid cysylltu gyda’ch Swyddog Cefnogi lleol os yw hyn yn golygu
anawsterau o ran marc safon hanfodol sy’n rhan o gytundeb gyda chyllidwyr.
Gellir cael mwy o fanylion am ‘Safonau Serennog’ drwy e-bostio: [email protected]
Croeso mawr i Heledd Fflur Jones (Rheolwr Cyllid),
Eleri Griffiths (Rheolwr Polisi rhan-amser) a Sioned
Pughe (Swyddog Siop Dewin a Doti) sydd i gyd
newydd gychwyn swyddi gyda’r Mudiad. Pob lwc!
Mae Academi, cartref datblygu, hyfforddi ac
uwch-sgilio’r Mudiad bellach ar waith. Bydd
prosbectws a chyrsiau ar-lein (sydd yn rhad ac am
ddim i staff y cylch ac i aelodau’r pwyllgor rheoli
gwirfoddol) i’w gweld ar ein gwefan yn fuan.
Dewch i Ganolfan y Morlan,
Aberystwyth erbyn 4.00 ar
Ddydd Gwener, Hydref 16 ar
gyfer y CBC ac i glywed mwy
gan ein siaradwr gwadd, Nia
Ceidiog.
Mae Mudiad Meithrin wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ennill grant gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf i ariannu cynllun hyfforddi Cam wrth Gam. Targed blynyddol Cam wrth Gam oedd hyfforddi 200 o ddarparwyr i ennill cymhwyster Lefel 3 cwrs CACHE Gofal, Datblygu a Dysgu Plant. Mae wedi gwneud hynny yn llwyddiannus ers 2004 gan gefnogi llawer o gylchoedd meithrin a chymhwyso yn agos i 2000 o ymarferwyr newydd i weithio yn y sector cyfrwng Cymraeg. Siom felly oedd derbyn gwybodaeth yn ddiweddar na fydd Cam wrth Gam yn parhau i dderbyn y grant ar ôl Mawrth 2016. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio cynllun newydd o’r enw ‘Progress for Success’. Mae Mudiad Meithrin yn cynnal trafodaethau dwys ar hyn o bryd gyda Swyddogion y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod cefnogaeth i’r sector cyfrwng Cymraeg yn parhau yn sgil y cynllun newydd hwn. Rydym yn mawr obeithio y bydd Cam wrth Gam yn ffurfio rhan o’r cynlluniau hyn a bod modd i’r cylchoedd barhau i elwa o’r gefnogaeth a dderbyniwyd dros y degawd diwethaf.
Following a thorough development process, the final version of the Early Years Outcomes Framework has been published by Welsh Government and is available on-line.
The framework will be used to help Welsh Government to assess the extent to which Wales’s early years policies and programmes are making an impact on all children in Wales. It is also the intention that the framework will be used by a wide range of organisations across the early years sector in Wales (such as Mudiad Meithrin) to support them in improving the quality and outcomes of their services.
Having completed a questionnaire by Mudiad Meithrin on educational choices, the winner of the £50 voucher will be announced on our website soon. Thank you to JoJo Maman Bébé for their kindness!
Remember that the rules for minimum
wage increases come into force on
October 1 2015. Any worker aged 21
years of age or over will be on a basic
wage of £6.70 an hour. From April 2016,
the wage will rise to £7.20 an hour to
workers aged 25 years or over.
Following our recent competition to secure an
increase in cylchoedd that provide us with an
e-mail address, it is announced that cylch
meithrin Mynydd Llandegai has won a
computer tablet for the benefit of the cylch
and children. Congratulations! Don’t forget
that there are a number of apps suitable for
the early years (such as ‘Babi Bach Cymraeg’).
Mudiad Meithrin has been very successful in securing
a grant from Welsh Government over the last decade
to fund the ‘Cam wrth Gam’ training scheme. Its
annual target was to train 200 childcare providers to
gain a level 3 CACHE qualification. It has done so
successfully since 2004 by supporting many
cylchoedd meithrin and training almost 2,000 new
practitioners to work in the Welsh-medium sector. We
were disappointed therefore to learn that the grant
will come to an end after March 2016. The Welsh
Government is planning to launch a new scheme
called ' Progress for Success. Mudiad Meithrin is in
discussions at the moment with government officials
to ensure that support for the Welsh medium sector
will continue in light of this new plan. We sincerely
hope that ‘Cam wrth Gam’ will form part of these
plans and that the cylchoedd will continue to benefit
from the support received over the last decade.
A big welcome to Heledd Fflur Jones (Finance
Manager), Eleri Griffiths (part time Policy
Manager) and Sioned Pugh (Siop Dewin a Doti
Officer) who have just started work with the
Mudiad. Pob lwc!
Academi, Mudiad’s new home for development,
training and up-skilling, is now at work. The
prospectus and on-line courses (available for free
to staff and volunteer committee members) will
soon be available on-line.
Come to Canolfan y Morlan, Aberystwyth by 4.00
on Friday, October 16th for the AGM and to hear
more from our guest speaker, Nia Ceidiog. Why
not double up with a day out on the prom?!
Do you know what ‘Safonau Serennog’ is? Here is a
new quality scheme by Mudiad Meithrin that will
replace the previous quality scheme. Cylch Rhagorol.
The Cylch Rhagorol scheme was created some years
ago and standards within the sector and within the
cylchoedd have moved on substantially since then.
The purpose of ‘Safonau Serennog’ is to apply
reachable aims and step-by-step objectives that
every cylch Meithrin can work towards. It offers a
clear structure so that the committee and staff
self-appraise in an objective way so as to offer a
service of high quality.
The Cylch Rhagorol seal (for any cylch that has
obtained the award within the last 3 years) will
continue and continue to be of an acceptable
standard. As of September 2015 onwards, Mudiad
Meithrin will not inspect any cylch under the Cylch
Rhagorol scheme. You should contact your local
Support Officer if this may result in difficulties for you
as a cylch.
You can access more information on ‘Safonau
Serennog’ by e-mailing: