Career Choices Dewis Gyrfa - Cloud Object...
Transcript of Career Choices Dewis Gyrfa - Cloud Object...
2
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
CYNNWYS
2
3
4
4 Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Datganiad y Cadeirydd 3
5 Cyfraniad at Flaenoriaethau aPholisïau Llywodraeth Cymru
6.1 Cyflawniadau o Bwys
6.2 Gwasanaethau Digidol
6.3 Y Wefan
6.4 Sgwrsio ar-lein
6.5 Llinell Gymorth
6.6 Y Cyfryngau Cymdeithasol
6.7 Negeseuon E-bost a Negeseuon Testun
7 Addysg
Geirfa 85
7.1 Cyflawniadau o Bwys
7.2 Cefnogi pobl ifanc mewnysgolion a cholegau
7.3 Pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
7.4 Pobl ifanc sy’n cael addysg y tuallan i’r ysgol
7.5 Pobl Ifanc yn y SystemCyfiawnder Ieuenctid
6 Gwasanaethau Digidol
1
1 Amdanom ni
1.1 Gweledigaeth, Cenhadaeth,Gwerthoedd
1.2 Ein Gwasanaethau
1.3 Ein Model Busnes
2 Cipolwg ar y Flwyddyn
3 Amcanion Strategol
Adolygiad y Prif Weithredwr 4
ADRODDIAD AM EIN PERFFORMIAD
22
30
34
28
31
35
38
39
42
44
45
32
36
37
7
6
9
10
12
5
DATGANIADAU ARIANNOL
80
EDRYCH YMLAEN 82
7.10 Ymwybyddiaeth o’r Prosbectws Ardal Gyffredin 51
7.11 Prosiectau Eraill a Gyflawnwyd
8.4 Oedolion sydd â risg o gollieu swydd 63
9 Gweithio mewn Partneriaeth 65
10 Staff 66
11 Ystadau 70
12 Effaith ar yr Amgylchedd 71
13 Y Gymraeg 72
14 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 73
7.8 Adnoddau a Hyfforddiant 49
7.9 Marc Gyrfa Cymru 50
- Ysbrydoli i Gyflawni,TRAC, Cynnydd
52
- Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd 53
8 Y Farchnad Lafur
8.1 Cyflawniadau o Bwys 57
8.2 Cymorth i gleientiaid 16 ac 17 oed yn y farchnad lafur 58
8.3 Oedolion di-waith sy’n dilynrhaglen Porth SgiliauUnigol Llywodraeth Cymru
60
LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL
78
7.7 Helpu i ddatblygu Gyrfaoedd a’rByd Gwaith 48
7.6 Gweithio gyda chyflogwyr ac ysgolion i hyrwyddo prentisiaethau 46
Datganiad y CadeiryddMae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwaith yr ydym yn dal i’w wneud ar ran ein cleientiaid, ac mae’n dangos yr elfennau arloesol a newydd hynny yr ydym yn dal i’w cyflwyno, fel y rhaglen gweminarau a’n defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Gartner, prif gwmni ymchwil ac ymgynghori’r byd, er mwyn creu Map Digidol at y dyfodol. Mae hyn yn helpu’r sefydliad i ganolbwyntio ar wella profiad y cleientiaid a’r modd y maent yn ymwneud â’r gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu drwy dechnolegau digidol, gan roi sylw ar yr un pryd i bryderon ynghylch platfform sy’n heneiddio, rheoli cynnwys, a pha mor rhwydd yw ein gwefan i’w defnyddio. Byddwn yn gweld datblygiadau sylweddol yn ein gallu a’n systemau digidol yn 2017-18 wrth greu Tîm Atebion Digidol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru gael gwasanaeth gyrfaoedd sydd ar flaen y gad wrth i’r sector newid ac arloesi.
Bu’n rhaid i Gyrfa Cymru wynebu heriau eraill yn 2016-17 – ymadawiad y Prif Weithredwr, cynllun gadael swydd yn gynnar o wirfodd a’r angen i ailstrwythuro er mwyn canolbwyntio ar roi Newid Bywydau ar waith. Mae’r digwyddiadau arwyddocaol hyn, sydd wedi’u disgrifio fel “storm berffaith o faterion risg uchel”, wedi dangos
pa mor gydnerth a gweithgar yw’r tîm yn Gyrfa Cymru wrth fynd i’r afael â’r rhain ac wrth sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni ein gweledigaeth.
Wrth inni baratoi at y newidiadau strwythurol a fydd yn ein galluogi i roi Newid Bywydau ar waith, mae’r Cwmni wedi cymryd camau i sicrhau sefydlogrwydd a chynnydd, gan gynnwys penodi Prif Weithredwr dros dro a cheisio cymorth cwmni ymgynghorol ar gyfer rheoli newid.
Mae ein staff wedi parhau i ddangos pa mor gydnerth ydynt, a pha mor barod i newid ydynt hefyd wrth ganolbwyntio o hyd ar y gwasanaethau yr ydym yn eu rhoi i’n cleientiaid.
Ein dyhead ni yw gwasanaeth sydd ar flaen y gad yn y byd, gwasanaeth cost-effeithiol, gwasanaeth sy’n cael gwir effaith, a gwasanaeth y gallwn oll fod yn falch ohono. Mae’r sefydliad yn canolbwyntio ar y cyfleoedd yn Newid Bywydau, a bydd yn defnyddio’r adnoddau sydd ganddo i roi’r weledigaeth hon ar waith.
Debbie Williams Cadeirydd
Gyrfa Cymru
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
3
Neges gan y Prif Weithredwr
Gyrfa Cymru
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Yn yr adroddiad hwn, rydym hefyd yn dangos sut yr ydym yn cyfrannu at flaenoriaethau a meysydd polisi Llywodraeth Cymru, ac yn dangos sut yr ydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn rhoi Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd gorau i bobl Cymru.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i longyfarch y staff am eu gwaith caled parhaus a’u llwyddiannau. Eu hymroddiad a’u hymrwymiad hwy yw prif rinwedd y sefydliad hwn.
Edrychaf ymlaen at y flwyddyn sydd o’n blaenau ac at y cyfleoedd a ddaw yn sgil Newid Bywydau. Edrychaf ymlaen hefyd at weld y gwaith y byddwn yn ei wneud i gefnogi sgiliau ac economi Cymru.
Graham Bowd Prif Weithredwr
Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r adroddiad hwn ar ran Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG). Gan fasnachu fel Gyrfa Cymru, rydym yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru a ni sy’n rhoi’r holl wasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd yng Nghymru. Mae’r rheini’n wasanaethau annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed.
Rydym yn frwd dros helpu cleientiaid i gyflawni eu potensial – dyna yw ein gwaith ac rydym yn gwneud y gwaith hwnnw yn dda iawn. Rydym yn ysbrydoli, yn galluogi ac yn cymell cleientiaid, ac yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau rheoli gyrfa.
Blwyddyn o gyfleoedd fu eleni yn sgil newid strategol; rydym wedi datblygu Newid Bywydau, ein gweledigaeth strategol newydd, sef cynllun tair blynedd sy’n dangos yr hyn yr ydym yn dymuno’i gyflawni. Rydym hefyd wedi rheoli’r heriau sy’n dod yn sgil gweithio gyda llai o gyllid cyhoeddus, gan ddygymod â rhagor o ddileu swyddi gwirfoddol a chyflwyno newidiadau strwythurol.
4
6
AMDANOM NI
Gweledigaeth, Cenhadaeth, Gwerthoedd
1.1A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
EINCENHADAETH
EINGWELEDIGAETH
yw Cymru sy'n genedl lle y caiff unigolion eu hysbrydoli i
gymryd rheolaeth dros eu gyrfaoedd
yw sicrhau bod cleientiaid yncyflawni eupotensial
EINGWERTHOEDD
Rydym yn:• Canolbwyntio ar y cleient• Diduedd a phroffesiynol• Cydweithio• Creadigol ac arloesol• Canolbwyntio ar wella'n barhaus• Ymrwymedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth• Canolbwyntio ar ganlyniadau
7
AMDANOM NI
Ein Gwasanaethau1.2
Ein diben yw helpu cleientiaid i reoli a chynllunio eu gyrfaoedd yn well, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu gwneud un dewis galwedigaethol a dyna ni. Yn hytrach, mae’n ymwneud â chyfres o newidiadau yng ngyrfa rhywun gydol oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, mae modd i gleientiaid wneud y newidiadau hyn yn haws, gan gael mwy o fwynhad o’u gyrfaoedd a chyfrannu’n fwy gweithgar at yr economi.
Mae ein gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cleient yn helpu defnyddwyr i chwilio am gyfleoedd addysg a chyflogaeth, i ddeall y rheini, ac i wneud penderfyniadau doeth yng nghyd-destun y farchnad lafur bresennol a’r farchnad yn y dyfodol.
Mae ein gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfa yn cael eu darparu gan weithwyr proffesiynol mewn lleoliadau amrywiol – mewn addysg, yn ein canolfannau gyrfa, yn y gymuned, ar safleoedd partneriaid ac mewn digwyddiadau. Mae gwasanaethau digidol Gyrfa Cymru ar gael i bawb, ac mae’n sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael yn ehangach. Gellir defnyddio ein gwasanaeth sgwrsio ar-lein o’n gwefan neu ein tudalen Facebook, ac fel ein llinell ffôn, mae’n fodd o roi gwybodaeth a chefnogaeth bersonol. Mae ein holl Gynghorwyr Gyrfa wedi eu hyfforddi i lefel gradd neu uwch
mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd, ac maent yn aelodau o gofrestr broffesiynol y Sefydliad Datblygu Gyrfa.
Mae ein gwefan yn rhoi gwybodaeth o ansawdd da, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur ar ffurf hygyrch, a rhoddir sylw i ystod o feysydd gyrfa a sectorau blaenoriaeth lle bydd cyfleoedd tebygol yn y dyfodol. Ceir hefyd wybodaeth fanwl am swyddi, Cwis Paru Swyddi, fideos ac astudiaethau achos o lwybrau gyrfa a swyddi.
Bydd ymwelwyr â gyrfacymru.com hefyd yn gallu defnyddio adnoddau rhyngweithiol a fydd yn eu galluogi i wneud y canlynol:
» creu syniadau gyrfa personol sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u diddordebau;
» paratoi i ddewis opsiynau, paratoi at brofiad gwaith, neu baratoi at gyfweliadau am swyddi;
» chwilio a gwneud cais am swyddi gwag;
» chwilio am gyrsiau o dros 30,000 o gyfleoedd dysgu.
Mae partneriaid a rhanddeiliaid hefyd yn cael cefnogaeth drwy adrannau penodol ar y wefan sy’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
8
AMDANOM NI
Ein Gwasanaethau1.2A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
GW
ASAN
AETHAU GYRFA CYMRU YN Y FARCHNAD LAFURDIG
IDOL G
YRFA
CYM
RU
GWASA
NAE
THAU
Helpu i bontio’n llwyddiannus o
addysg i hyfforddiant,
addysg bellach neu waith
GWASANAETHAU ADDYSG GYRFA CYMRU
YmwybyddiaethDyhead
GalluGweithredu Cymorth
i Bawb
Blwyddyn 9
Edrych ar opsiynau i wneud
penderfyniadau doeth
Rhoi gwybodaeth a chyngor i helpu’r
mab/merch i wneud penderfyniadau
pwysig
Help i gael cyllid ReAct ar gyfer
diweddaru sgiliau neu ailhyfforddi
Helpu pobl i aros yn y system er mwyn
lleihau’r gyfran sy’n gadael yn gynnar
Y Porth Sgiliau Unigol - Gwella
cyflogadwyedd a goresgyn rhwystrau
Datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chymhelliant ar
gyfer addysg bellach,
hyfforddiant neu waith
Cefnogi rhaglenni
ailsefydlu a gostwng
cyfraddau aildroseddu
Ar gael i bawb: www.gyrfacymru.com
Llinell gymorth dros y ffônSgwrs ar-leinY cyfryngau
cymdeithasol
Helpu ysgolion i ddatblygu eu darpariaeth
Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith
Hyrwyddo cysylltiadau rhwng cyflogwyr ac
ysgolion a cholegau er mwyn gwella
dealltwriaeth o’r ‘byd gwaith’
Gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar gynlluniau dysgu
a sgiliau ar gyfer pontio’n gadarnhaol
Helpu i gadw pobl mewn
addysg, gwaith a hyfforddiant
Blwyddyn 10-13 gan gynnwys Addysg Bellach
Addysg y tu allan i’r
YsgolAnghenion
Addysgol Arbennig
Cysylltiadau Addysg a Busnes
Cymorth gyda’r
Cwricwlwm
Rhieni a Gwarcheidwaid
Wedi Colli Swydd
Mewn Gwaith neu Hyfforddiant
Di-waith 25+ oed Di-waith
16-24 oed
SystemCyfiawnder
Ieuenctid ac Oedolion
CLEIENT
9
Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd ar 1 Ebrill 2013. Mae’r cwmni’n rhoi’r holl wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i bobl o bob oed yng Nghymru, a’r rheini’n wasanaethau diduedd. Mae’r cwmni’n gweithio yn unol â chylch gwaith a bennir gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a hwnnw’n cyd-fynd ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru, sydd i’w gweld yn y Rhaglen Lywodraethu, a pholisïau perthnasol eraill y Llywodraeth. Mae’r cwmni’n rhoi gwasanaethau sy’n gymorth i ddatblygu sylfaen sgiliau’r genedl, gan ateb y galw yn y farchnad lafur bresennol a marchnad y dyfodol. Drwy wneud hynny, mae’r cwmni’n cyfrannu at lesiant economaidd a llesiant cymdeithasol Cymru.
Mae gan y Bwrdd Gadeirydd a hyd at 13 o Gyfarwyddwyr eraill sy’n cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Bwrdd wedi sefydlu tri Phwyllgor – y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg; y Pwyllgor Materion Pobl a Chyflogau; a’r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Mae’r rhain yn cyflawni cyfrifoldebau’r Bwrdd ar ei ran.
Cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru yw prif ffynhonnell incwm y cwmni. Mae’r cwmni hefyd yn cael cyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau penodol fel ReAct a’r Porth Sgiliau Unigol, cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a swm bach o incwm contract nad yw’n rhan o’r cyllid craidd.
Ein Model BusnesAMDANOM NI
1.3A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Llywodraeth Cymru
Cyllid Ewropeaidd – ESF
Contractau eraill di-graidd
FFYNONELLAUCYLLID
Cipolwg ar y Flwyddyn
10
2.0Yn ystod 2016-2017:
Addysg
Porth Sgiliau Unigol Ysbrydoli i Gyflawni, TRAC, Cynnydd
ReAct
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
o gleientiaid wedidatblygu eu sgiliaurheoli gyrfa a’u sgiliaucyflogadwyedd mewnsesiynau grŵp
71,988
o sesiynau rhyngweithiogyda chleientiaid
drwy
114,424o ddefnyddwyr wedicael gwybodaeth acadnoddau ar ein gwefan
858,356
o bobl wedi elwa ogymorth personolgan Gyrfa Cymru
73,104
2016 2017
Cyfweliadau blynyddol wyneb yn wyneb
2016-2017
Cyfweliadaublynyddol
wyneb yn wynebCymerodd poblifanc ran mewn
o sesiynau rhyngweithiomewn grŵp
Yn gwneud cynnyddgan gael canlyniadau
cadarnhaol
Sesiynau grŵp
Cyfweliadau
8,706
Cleientiaid
Cleientiaid
2016-2017
70,818 48,366 4,4194,594
27,163 983
5,909
2,256
Sesiynaurhyngweithio
Cipolwg ar y Flwyddyn
11
2.0
Y cyfryngau cymdeithasol
Dyma sut y bu inni ddarparu ein gwasanaethau ar ddiwrnod arferol yn 2016-17
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Hoffi
11,424
13,461
Ymgysylltiadau
Cyrhaeddiad
7,070,152
2,178,378
Argraffiadau
Ymgysylltiadau
98,030
27,694
Ymgysylltiadau
o bobl wedielwa ogymorthpersonol
294
o sgyrsiauar-lein
37o sesiynaugrŵp
15
o bobl yn mynychusesiwn grŵp
290o alwadau bobdydd i’r llinell gymorth
176o sesiynaurhyngweithioun-i-un gydachleientiaid
461
o bobl yn defnyddiogwybodaeth acadnoddau ar eingwefan
3461
12
3.1 AMCAN 1AMCANION STRATEGOL
Gweithio mewn partneriaeth i hybu a darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd sydd gyda’r gorau yn y byd ac sy’n arwain at ganlyniadau cadarnhaol i gleientiaid.
Yn 2016-17 dynodwyd meysydd busnes penodol a oedd yn ein tyb ni yn flaenoriaeth ar gyfer newid. Mae’r cynnydd a wnaethom gyda’n blaenoriaethau a’n camau gweithredu ar gyfer newid wedi’u nodi isod, ochr yn ochr â’n pum amcan strategol.
Rydym yn cyflwyno gwasanaethau unigryw sy’n cyd-fynd ag anghenion penodol unigolion. Mae’n hanfodol bod gennym systemau effeithlon a chadarn i ganfod anghenion, dyheadau a lefelau sgiliau rheoli gyrfa cleientiaid. Yn ystod y flwyddyn, ein bwriad oedd canolbwyntio ar gleientiaid ifanc yn y byd addysg
Mae Gyrfa Cymru wedi bod drwy gyfnod o newid sylweddol a pharhaus, a hynny wedi arwain at ddatblygu gwasanaethau a phrosiectau newydd. Wrth inni barhau i gynllunio ar gyfer newid yn y dyfodol, ein bwriad oedd treulio amser yn sicrhau bod cydweithwyr yn deall y rhesymau dros y newidiadau diweddar ac yn deall diben ein gwahanol wasanaethau.
Gwella ein dealltwriaeth o anghenion cleientiaid
Helpu staff i ddygymod â newid
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Ar y cyd â’r staff, creu canllaw integredig wedi’i symleiddio ar eu cyfer, yn trafod sut yr ydym yn darparu gwasanaethau, gan roi cyfleoedd hyfforddiant a datblygu perthnasol.
Mae’r canllaw ar gael i’r holl staff ar fewnrwyd y cwmni.
Hyrwyddo ein llawlyfr newydd i staff sy’n dwyn ynghyd ein polisïau mewnol amrywiol.
Ymgynghori â’r staff ynghylch datblygu canllawiau clir ynghylch pa ddulliau mesur y byddwn yn eu defnyddio i ddeall a gwella ein gwasanaethau.
Rydym wedi cytuno ar ddulliau o fesur perfformiad a bydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith ym mlwyddyn fusnes 2017-18.
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Adolygu’r offeryn ‘gwirio gyrfa’ yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ganfod anghenion pobl ifanc yn yr ysgol.
Treialu’r defnydd o systemau seicometrig i helpu pobl ifanc i ddatblygu eu dyheadau ac archwilio gwahanol lwybrau gyrfa.
Datblygu’r Cwis Paru Swyddi a’i ddefnyddio ym mhob ysgol ym mlwyddyn academaidd 2017-18.
Yn sgil y gwaith uchod, cytuno ar sut y byddem yn canfod anghenion pobl ifanc a rhoi hynny ar waith o flwyddyn academaidd 2017/18 ymlaen.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
3.1 AMCAN 1AMCANION STRATEGOL
13
Gyda chymorth yr ymgynghorwyr PWC, bwriad Gyrfa Cymru oedd datblygu gweledigaeth strategol newydd ar gyfer dyfodol y sefydliad.
Cynllun ar gyfer y dyfodol
Yn ddibynnol ar adborth gan Lywodraeth Cymru, roeddem wedi dweud y byddem yn:
Statws Sylwadau
Dechrau aildrefnu adnoddau er mwyn helpu i newid gwasanaethau yn unol â’r weledigaeth strategol (o fis Medi 2016) a diweddaru ein strategaethau ystadau a TG.
Rydym wedi cytuno ar y cynlluniau a byddant yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2017 ymlaen. Gweler yr adran ‘Edrych Ymlaen’ am ragor o fanylion.
Cynyddu ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth o’r datblygiadau diweddaraf mewn ysgolion (ac ystyried y pwyslais cryfach fyth yn y weledigaeth ar Gyfnod Allweddol 4).
Yn ystod 2016-17, rhoddodd y Cydlynwyr Gyrfaoedd a Byd Gwaith sesiynau i bob tîm yn y cwmni gan edrych ar y datblygiadau diweddaraf mewn ysgolion. Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar y newidiadau i’r cwricwlwm yn sgil Dyfodol Llwyddiannus, sef yr adolygiad o addysg yng Nghymru gan yr Athro Donaldson, a’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i gymwysterau yng Nghymru. Bu cydweithwyr o Cymwysterau Cymru yn helpu i gyda rhai o’r sesiynau hyn.
Hyrwyddo’r weledigaeth strategol newydd ymhlith staff, cleientiaid a rhanddeiliaid.
Mae copi o Newid Bywydau wedi’i gylchredeg yn eang ymhlith ein holl bartneriaid a rhanddeiliaid. Mae sesiynau cyfathrebu wedi cael eu cynnal mewn ysgolion a cholegau. Rydym wedi cytuno ar strategaeth gyfathrebu. Byddwn yn parhau i wneud gwaith cyfathrebu a diweddaru.
Wedi’igwblhau
Ar y gweill
Ar y gweill
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
3.2 AMCAN 2AMCANION STRATEGOL
14
Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ar gyfer gwaith, hyfforddiant ac addysg Yn 2015 cafodd cyfleuster Chwiliad Gyrfa newydd ei lansio ar ein gwefan, law yn llaw â ffeithiau allweddol a’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur sy’n gysylltiedig â dros 1,000 o feysydd gwaith. Eleni, roedd yn fwriad gennym ddatblygu ar y cynnydd hwnnw drwy wneud y canlynol:
Mae deall y farchnad lafur a sut i ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur yn helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau doeth. Er mwyn helpu cleientiaid i ddatblygu eu gwybodaeth am y farchnad lafur:
Gwella ein Gwybodaeth am y Farchnad Lafur
Gwneud defnydd gwell fyth o’n Gwybodaeth am y Farchnad Lafur
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Datblygu a hyrwyddo fersiynau rhanbarthol o’n cyfres tueddiadau swyddi, sef ‘Golwg ar’, gan roi gwybodaeth hygyrch i gleientiaid am Sectorau Blaenoriaeth Economaidd Llywodraeth Cymru, Prosiectau Seilwaith o bwys, a’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol.
Cynnal adolygiad mewnol o arferion gorau wrth ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur a rhannu hyn drwy’r sefydliad.
Rhoi rhaglen hyfforddiant a datblygu ar waith ar gyfer staff, gyda’r nod o wella manylder gwybodaeth am y farchnad lafur a’r modd y caiff y wybodaeth honno ei defnyddio wrth roi gwasanaethau i gleientiaid.
Ar ôl cynnal adolygiad mewnol o arferion gorau gan ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur, aeth Cydlynwyr Dysgu ac Asesu a Chydlynwyr Gwybodaeth i gyfarfodydd tîm drwy’r cwmni er mwyn rhoi diweddariad am gyrfacymru.com a sut y gall cydweithwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur. Yn y dyfodol, bydd y rhaglen DPP sy’n ymwneud â gwybodaeth am y farchnad lafur yn sicrhau ein bod yn ymwybodol o’r ffordd orau o helpu cleientiaid i ddeall y farchnad lafur a dod yn rhan o’r farchnad honno’n llwyddiannus.
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Caffael data ychwanegol a fyddai’n rhoi mwy o fanylion a gwybodaeth mwy lleol am gyfleoedd a thueddiadau yn y farchnad lafur.
Cryfhau’r cysylltiadau â’r Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol ac ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio eu hasesiadau o’r cyflenwad a’r galw er mwyn i hynny fod yn sail i’n gwasanaethau ni.
Rydym bellach wedi gweithio gyda’r tair Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol wrth ddatblygu ein cyfres ‘Golwg ar’ ranbarthau daearyddol penodol, sy’n adlewyrchu’r Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol. Mae’r cyfan wedi’i gyhoeddi ar y wefan.
Ymchwilio i sut y gallai ein hofferyn Chwiliad Gyrfa roi canlyniadau mwy manwl gywir a lleol.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Ar y gweill
Ar y gweill
3.2 AMCAN 2AMCANION STRATEGOL
15
Mae’n rhaid i bobl ifanc ac oedolion ystyried ystod eang o ddewisiadau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16, ac mae llai o ymwybyddiaeth o opsiynau dysgu seiliedig ar waith nag o lwybrau mwy traddodiadol.
Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd hyfforddiant
Yn ddibynnol ar adborth gan Lywodraeth Cymru, roeddem wedi dweud y byddem yn gwneud hyn:
Statws Sylwadau
Darparu’r prosiect ‘ymwybyddiaeth o gyfleoedd’ er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r gwahanol lwybrau sy’n agored iddynt ac i wella’u dealltwriaeth o lwybrau galwedigaethol.
Roedd y prosiect hwn yn llwyddiannus tu hwnt, a chofnodwyd canlyniadau cadarnhaol ymhlith yr ysgolion a’r disgyblion a gymerodd ran ynddo. Bydd yr arferion da a ddysgwyd o’r prosiect hwn yn cael eu defnyddio wrth ddarparu ein gwasanaethau craidd y flwyddyn nesaf.
Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch manteision ehangu gwasanaethau cymorth ar y we (fel y Broses Ymgeisio Gyffredin) pan fydd yn rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch opsiynau yn 14 oed.
Yn sgil datblygu gwefan y cwmni, mae hyn wedi’i ohirio, ac edrychir ar y mater eto yn 2017-18.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, cynllunio a chyflwyno gwasanaeth Porth Sgiliau Unigol estynedig drwy ddarparu’r rhaglen Porth i Waith i oedolion.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’iohirio
3.3 AMCAN 3AMCANION STRATEGOL
16
Rhoi strategaeth ddigidol ar waith sy’n ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwasanaethau
Mae ein gwefan wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd er mwyn helpu cleientiaid ond gan ateb gofynion gwahanol randdeiliaid ar yr un pryd. O ganlyniad, mae sawl basdata a sawl math gwahanol o dechnoleg yn sail i’r wefan, a’r rheini’n rhwystro datblygiadau pellach. Er mwyn mynd i’r afael â hyn:
Cynyddu ein dealltwriaeth o botensial gwasanaethau digidol
Diweddaru a gwella ein gwefan
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Cadarnhau a chydlynu’r hyn y mae gwahanol randdeiliaid yn Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl o’n gwefan.
Mae trafodaethau’n cael eu cynnal gydag arweinwyr polisi er mwyn darganfod sut y gall gyrfacymru.com helpu gydag anghenion polisi wrth i’r rheini ddatblygu.
Adolygu a chadarnhau diben ein gwefan.
Cwmpasu’r gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn datblygu rhaglen newydd i chwilio am gyrsiau, a honno’n diweddaru ac yn gwella’r strwythur data sy’n sail i’n gwefan.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac rydym bellach yn barod i geisio barn rhanddeiliaid er mwyn canfod eu gofynion o ran gwasanaeth cyrsiau.
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Gwerthuso’r modd y caiff ein gwasanaethau digidol presennol (gan gynnwys sgyrsiau ar-lein) eu defnyddio a gwerthuso eu heffaith.
Ymchwilio i dechnolegau sy’n datblygu, disgwyliadau/dymuniadau cleientiaid a’r arferion gorau rhyngwladol wrth ddefnyddio systemau digidol.
Datblygu’r cysyniad o staff cyflwyno rheng-flaen sy’n meddu ar allu digidol ac yn cael cymorth i weithio’n ddigidol.
Mae datblygiadau technolegol yn digwydd yn gyflym ac yn barhaus, gan roi cyfleoedd newydd a dylanwadu ar ddisgwyliadau cleientiaid. Er mwyn edrych ar botensial technoleg i fod yn sail i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein holl wasanaethau, ac er mwyn cyrraedd mwy o bobl drwy ein gwaith:
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Ar y gweill
Ar y gweill
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
3.3 AMCAN 3AMCANION STRATEGOL
17
Mae gwaith gwerthuso annibynnol yn dangos bod gan gleientiaid ymwybyddiaeth dda o’n gwasanaethau digidol presennol, fel y rhai a ddarperir ar ein gwefan, a’u bod yn fodlon iawn â’r rheini. Serch hynny, byddai’n bosibl i gleientiaid gael mwy o fudd o’n gwasanaethau digidol presennol.
Helpu cleientiaid i ddefnyddio ein gwasanaethau digidol
Yn ddibynnol ar adborth gan Lywodraeth Cymru, roeddem wedi dweud y byddem yn:
Statws Sylwadau
Helpu staff drwy hyfforddiant a datblygu i godi ymwybyddiaeth a gwella’u gwybodaeth am y gwasanaethau digidol sy’n bodoli’n barod a’r arferion gorau wrth ddefnyddio’r rheini.
Rydym wedi datblygu archwiliad sgiliau ar gyfer ein gweithwyr presennol er mwyn canfod pa gymorth y gall fod ei angen arnynt wrth inni drawsnewid pethau’n ddigidol.
Hyrwyddo’r ystod o wasanaethau digidol presennol ymhlith cleientiaid, rhieni a rhanddeiliaid eraill.
Ar ôl cynnal ymchwil ymhlith rhieni, y casgliad oedd eu bod yn credu bod y wefan yn ffynhonnell wybodaeth ragorol ond nid oeddent yn ymwybodol ohoni. Yn 2017/18 byddwn yn targedu rhieni drwy gyflwyniadau mewn ysgolion, gan roi gwybodaeth i ysgolion ar adegau sy’n berthnasol i rieni e.e. marchnata’n uniongyrchol ymhlith rhieni er mwyn gwella’u hymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael gan Gyrfa Cymru.
Ymwneud â chleientiaid wrth ddatblygu gwasanaethau digidol newydd.
Cynhaliwyd ymchwil hefyd ymhlith pobl ifanc ynghylch ein gwefan bresennol a pha mor hawdd yw honno i’w defnyddio. Cyflwynwyd dulliau newydd hefyd o ddarparu gwybodaeth e.e. cynnwys fideo a fideos rhith-wirionedd er mwyn profi sut yr oeddem yn ennyn diddordeb defnyddwyr.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Ar y gweill
Ar y gweill
Ar y gweill
3.4 AMCAN 4AMCANION STRATEGOL
18
Cynorthwyo cyrff eraill, gan gynnwys cyflogwyr, i wella dyheadau ac ymwybyddiaeth pobl ifanc o ran eu gyrfa
Cefnogi’r cwricwlwm ysgol newydd yng Nghymru
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Datblygu methodoleg glir i werthuso ein dull presennol o ddatblygu capasiti mewn ysgolion (a cholegau), gan gynnwys gwerthuso pa mor fodlon yw cleientiaid a’r effaith a gawn.
Cefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru o’r cyfarwyddyd a roddir i ysgolion ynghylch y Cwricwlwm Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ysgolion a’r consortia gwella ysgolion i benderfynu ar y ffordd orau o’u cefnogi wrth i’r cwricwlwm newid.
Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru (Cymwys am Oes) ar gael o 2018. Bydd pwyslais cryfach ynddo ar yrfaoedd a’r byd gwaith; un o bedwar diben y cwricwlwm newydd fydd creu plant a phobl ifanc sy’n ‘gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith’. Er mwyn helpu ysgolion i reoli’r broses bontio hon:
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Adolygu ein dull presennol o gysylltu â busnesau mewn sawl maes.
Cryfhau’r berthynas rhwng ein gwaith cyswllt busnes a’r broses o roi cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd mewn ysgolion.
Eleni rydym wedi rhoi dewislen gyfunol i ysgolion wrth eu cynorthwyo â gwaith cyswllt busnes. Mae hyn yn amrywio o 81 o bartneriaethau ffurfiol rhwng ysgolion a busnesau o dan y rhaglen Dosbarth Busnes, i weithgareddau cyswllt busnes unigryw fel gwyliau gyrfaoedd, digwyddiadau STEM, ffug-gyfweliadau ac ati.
Edrych ar sut y gellid defnyddio sgiliau, arbenigedd a data’r sefydliad i helpu pobl ifanc i gael lleoliadau profiad gwaith (gan gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad yw darparu gwasanaethau profiad gwaith bellach yn rhan o’n cyfrifoldebau).
O ganlyniad i adolygiad a gynhaliwyd ymhlith cyflogwyr a’r sector addysg, bydd y cwmni’n cyflwyno Cyfnewidfa Addysg Busnes yn ystod 2017/18. Bydd gweithwyr Gyrfa Cymru yn recriwtio cyflogwyr, gan roi hyfforddiant i Hyrwyddwyr Busnes a helpu ysgolion i feithrin gwell cysylltiadau â’r byd busnes. Bydd gweithwyr Gyrfa Cymru hefyd yn hyfforddi athrawon i ddefnyddio’r Gyfnewidfa ac yn dangos sut y gall hyn wella’r cwricwlwm yn ogystal â chefnogi cyflogadwyedd, gan roi gwell gwybodaeth i bobl am y gweithle.
AMCANION STRATEGOL
19
Defnyddio data’n well
Yn ddibynnol ar adborth gan Lywodraeth Cymru, roeddem wedi dweud y byddem yn:
Statws Sylwadau
Ymgynghori â phartneriaid ynghylch sut y gall y data sydd gennym ddiwallu eu hanghenion gwybodaeth yn well.
Rydym wrthi’n ehangu’r rhaglen dreialu wreiddiol. Bydd pob awdurdod lleol yn gallu gweld eu set ddata ar ffurf darllen-yn-unig erbyn diwedd mis Mawrth 2018.
Canfod ffyrdd newydd o ddefnyddio ein data er mwyn cyflwyno gwelliannau a hyrwyddo arferion da.
Rydym wrthi’n datblygu warws data a fydd yn golygu bod modd defnyddio data mewn sawl ffordd. Bydd modd i awdurdodau lleol ddadansoddi eu data’n gyflym ac yn rhwydd heb fod angen i Gyrfa Cymru wneud dim ar eu rhan.
Treialu sefydlu ‘canolfannau data’ er mwyn ei gwneud yn haws i bartneriaidddadansoddi a defnyddio’r data sydd gennym.
Mae Gyrfa Cymru yn arwain y gwaith o rannu data am bobl rhwng 16 a 18 oed gyda phartneriaid o dan system fonitro 5 haen y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Mae’r data hyn yn helpu partneriaid i ganolbwyntio ar anghenion pobl ifanc wrth drefnu eu gwasanaethau. Roeddem yn bwriadu gwella effeithlonrwydd y modd yr ydym yn casglu data, gan wneud gwell defnydd o’r data sydd gennym.
Mae dod i gysylltiad â chyflogwyr yn gymorth i ddisgyblion ddeall yn well beth yw’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyflogwyr. Mae gan Gyrfa Cymru enw da am y modd y mae’n creu cysylltiadau â busnesau. Mae ein gwaith wrth gysylltu â busnesau yn berthnasol i nifer o feysydd, gan gynnwys rhaglenni newydd fel Ysbrydoli i Gyflawni, TRAC, Cynnydd a Dosbarth Busnes.
Datblygu ein gwaith cyswllt busnes
Completed
3.4 AMCAN 4A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Ar y gweill
Ar y gweill
Ar y gweill
Ar y gweill
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
3.5 AMCAN 5AMCANION STRATEGOL
Bod yn sefydliad effeithlon sy’n perfformio’n dda ac a gaiff effaith ar gleientiaid ac ar y gymdeithas yn ehangach
Mae’r sefydliad wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yng nghasgliadau gwerthusiadau annibynnol. Er mwyn glynu wrth y llwybr hwn:
Sicrhau bod Gyrfa Cymru yn lle gwell fyth i weithio ynddo
Sicrhau gwelliant parhaus
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Creu adroddiadau gwella chwarterol sy’n dwyn ynghyd ystod o dystiolaeth, gwaith gwerthuso a gwaith dadansoddi er mwyn ein helpu i ddathlu llwyddiant a phennu blaenoriaethau ar gyfer newid.
Wrth fwrw yn ein blaenau, bydd rhagor o bwyslais fyth yn ein hadroddiadau chwarterol ar ddefnyddio ystod o dystiolaeth werthuso a mathau eraill o dystiolaeth, megis adborth gan gleientiaid, er mwyn dathlu llwyddiant a phennu blaenoriaethau ar gyfer newid. Byddwn hefyd yn gwneud defnydd mwy helaeth o ddull “dangosfwrdd” wrth fesur ein cynnydd yn unol â’r meysydd strategol allweddol yn y cynllun busnes.
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Ceisio barn y staff wrth ddatblygu a diffinio diwylliant sefydliadol newydd, a dull diwygiedig o gyfathrebu – ac atgyfnerthu’r newidiadau drwy weithredu.
Yn ystod 2016-17 gwahoddwyd ein holl gydweithwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd ledled y wlad er mwyn diffinio’r diwylliant y byddent yn hoffi’i weld yn y sefydliad. Daeth dros 150 o aelodau o staff i’r cyfarfodydd hyn a bydd y gwaith o wreiddio’r diwylliant newydd hwn yn y sefydliad yn parhau yn ystod 2017-18.
Datblygu Strategaeth Iechyd a Llesiant a cheisio ennill Gwobr Efydd Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru.
Mae papur strategaeth wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Materion Pobl. Mae gwelliannau’n cael eu tracio wrth baratoi at wneud cais am y Wobr Efydd.
Monitro’r cynnydd drwy gynnal arolygon o’r staff.
Sefydlwyd CCDG ar ôl uno saith cwmni, ac ers hynny mae wedi wynebu newidiadau sylweddol ynghyd ag ansicrwydd. Ar sail ein hadolygiad strategol, a chan adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n bryd sefydlu diwylliant sefydliadol newydd er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo yn y dyfodol.
20
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Ar y gweill
Ar y gweill
Ar y gweill
Wedi’igwblhau
3.5 AMCAN 5AMCANION STRATEGOL
Cynyddu cyfran yr amser y mae ein cydweithwyr ar y rheng flaen yn ei dreulio gyda chleientiaid
Yn ddibynnol ar adborth gan Lywodraeth Cymru, roeddem wedi dweud y byddem yn:
Statws Sylwadau
Adolygu anghenion y sefydliad o ran adrodd, gan gynnwys ein dull o gasglu ac adrodd am ‘ddata ynghylch hynt disgyblion’.
Rydym wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru er mwyn pennu’r gofynion adrodd ynghylch hynt disgyblion wrth fwrw yn ein blaenau.
Cynnal adolygiad ‘o’r bôn i’r brig’ o’n system basdata cleientiaid IO, a’r gofynion sydd ynghlwm wrth y system honno.
Canfod a rhannu arferion da wrth reoli ymholiadau a gwneud apwyntiadau i gleientiaid.
Mae ein staff sy’n darparu ein gwasanaethau yn arbenigwyr ar roi cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i gleientiaid, ond mae cryn alw am eu hamser, a rhaid iddynt helpu gyda gofynion eraill yn y sefydliad, fel gwaith gweinyddol a gofynion adrodd. Ein nod oedd gwella capasiti ein staff i helpu cleientiaid.
Roeddem wedi dweud y byddem yn: Statws Sylwadau
Cyflwyno cynllun newydd er mwyn i staff gyflwyno awgrymiadau/gwelliannau.
Cyflwyno system ariannol newydd a fyddai’n gwella pa mor effeithlon ac effeithiol yw ein dulliau o reoli arian.
21
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Ar y gweill
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
Wedi’igwblhau
22
4.0 Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod pedwar Dangosydd Perfformiad Allweddol ar gyfer Gyrfa Cymru ym mlwyddyn ariannol 2016-17:
Mae Dangosyddion Perfformiad 1 a 2 yn ddangosyddion sy’n ymwneud â’r boblogaeth, ac mae’r canlynol yn effeithio arnynt:
» Lefelau gweithgarwch economaidd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol;
» Y cyfleoedd dysgu sydd ar gael;
» Anghenion ac amgylchiadau personol pobl ifanc;
» Gwaith sefydliadau statudol, sefydliadau anstatudol, a sefydliadau cymunedol yng Nghymru.
Mae ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar y deilliannau ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol 1 a 2, ac ni ellir eu priodoli ar eu pen eu hunain i un sefydliad yn unig. Fodd bynnag, gwaith Gyrfa Cymru yw:
a. canfod dysgwyr sy’n wynebu risg o adael addysg a hyfforddiant yn rhy gynnar, a chytuno ar y gwaith y gall pob sefydliad ei wneud i gefnogi myfyrwyr i barhau i ddysgu.
b. helpu sefydliadau partner i ganfod lefelau’r bobl ifanc nad ydynt yn ymwneud ag addysg, gwaith na hyfforddiant.
“Pa mor fodlon yw cleientiaid ag ansawdd gwasanaeth Gyrfa Cymru, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud â phresenoldeb digidol integredig”.
“Lleihau nifer y bobl ifanc sydd y tu allan i’r system Addysg, Gwaith a Hyfforddiant.”
4
2DANGOSYDD DANGOSYDD
“Cynnal dilyniant pobl ifanc drwy addysg ac i waith neu ragor o hyfforddiant/addysg.”1
“Cyfraniad Gyrfa Cymru tuag at sefydlu cyswllt effeithiol rhwng ysgolion a chyflogwyr.”3
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
DANGOSYDD DANGOSYDD
23
Mae’r dangosydd hwn wedi’i seilio ar ddata o’r ffynonellau canlynol:
» Cyfrifiadau o hynt disgyblion ysgol (Blynyddoedd 11 – 13) a gafodd eu creu ar 31 Hydref 2015, 31 Mawrth 2016, 31 Hydref 2016 a 31 Mawrth 2017.
» Adroddiadau’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, sy’n edrych ar amrywiadau yn nifer y bobl ifanc yn Haen 3 (o’r Model 5 Haen) rhwng 1 Tachwedd 2015 a 31 Mawrth 2016 a rhwng 1 Tachwedd 2016 a 31 Mawrth 2017.
Roedd mwy o ddisgyblion sy’n gadael ym Mlwyddyn 11 mewn addysg, gwaith a hyfforddiant yn y Cyfrifiad o Hynt Disgyblion a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016 o’i gymharu â 2015 (96.38% o’i gymharu â 96.01%).
Roedd mwy o ddisgyblion sy’n gadael ym Mlwyddyn 11 mewn addysg, gwaith a hyfforddiant yn y Cyfrifiad o Hynt Disgyblion a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2017 o’i gymharu â 2016 (95.29% o’i gymharu â 94.74%).*
Ar draws yr holl ystod oedran 16-18, roedd mwy o bobl ifanc mewn addysg, gwaith a hyfforddiant ym mis Mawrth 2017 (90.21%) o’i gymharu â mis Mawrth 2016 (89.52%).
4.1 Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
DANGOSYDD
1“Cynnal dilyniant pobl ifanc drwy addysg ac i waith neu ragor o hyfforddiant/addysg.”
* Fel arfer, mae disgwyl i gyfraddau cyfranogiad mewn addysg, gwaith a hyfforddiant fod yn is ym mis Mawrth mewn unrhyw flwyddyn nag ar ddechrau mis Tachwedd, gan fod mis Tachwedd yn nes at ddechrau’r flwyddyn academaidd. Bryd hynny, bydd y cyfranogiad yn uwch gan fod pobl ifanc newydd ddechrau dilyn cyrsiau addysg. Mae’r nifer sy’n gadael y byd addysg fel arfer yn cynyddu wrth i’r flwyddyn academaidd fynd rhagddi. Gellir disgwyl i’r cynnydd yn y nifer sy’n cyfranogi mewn gwaith a dysgu seiliedig ar waith rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth fod yn uwch na’r nifer sy’n gadael y byd addysg.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Yn 2016 gostyngodd cyfran y bobl ifanc nad oeddent mewn addysg, gwaith na hyfforddiant ym mhob grŵp blwyddyn o’i gymharu â 2015. Bu gostyngiad o 0.81 pwynt canran (291 o unigolion) ym Mlwyddyn 11, gostyngiad o 0.39 pwynt can-ran (78 unigolyn) ym Mlwyddyn 12, a gostyngiad o 0.63 pwynt canran (93 unigolyn) ym Mlwyddyn 13. Gyda’i gilydd, roedd cyfanswm y rheini a adawodd yr ysgol nad oeddent mewn addysg, gwaith na hyfforddiant yn 2016 (1208 o unigolion neu 2.08% o’r cohort) 462 o unigolion yn llai, neu 0.66% yn is, nag yn 2015 (1670 o unigolion neu 2.70% o’r boblogaeth).
Mae dadansoddiad o adroddiadau’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn dangos bod llai o bobl ifanc yn Haen 3* ar 1 Tachwedd 2016 o’i gymharu â’r un dyddiad y flwyddyn flae-norol. Yn 2016, roedd 1.65% o’r cohort (1136 o unigolion) yn Haen 3, sef 0.93 pwynt canran yn is a 719 yn llai o unigolion nag yn 2015 (2.58% a 1855 o unigolion).
4.2
* Yn adroddiadau’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, derbynnir yn gyffredinol mai’r diffiniad o gleientiaid nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant yw’r rheini sydd yn Haen 3 o’r model 5 Haen (pobl ifanc ddi-waith sy’n barod ac yn gallu dod yn rhan o’r byd addysg, gwaith a hyfforddiant). Gan hynny, caiff y grŵp hwn o bobl ifanc ei ddefnyddio i ganfod pa mor llwyddiannus yw Gyrfa Cymru o dan ofynion Dangosydd Perfformiad Allweddol 2.
24
Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
DANGOSYDD
2“Lleihau nifer y bobl ifanc sydd y tu allan i’r system Addysg, Gwaith a Hyfforddiant”
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Fel tystiolaeth ar gyfer Dangosydd Perfformiad Allweddol 3, gwerthusodd Gyrfa Cymru sampl o weithgareddau Dosbarth Busnes a ddarparwyd gan wirfoddolwyr busnes (cyflogwyr) i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Dangosodd yr arolwg bod y rhaglen Dosbarth Busnes wedi bod o fudd i bob grŵp a gymerodd ran: yn fyfyrwyr, athrawon a gwirfoddolwyr busnes.
4.3
25
Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
» Roedd bron i holl sylwadau’r athrawon yn canolbwyntio ar ddiolch i Gyrfa Cymru a’r gwirfoddolwyr busnes am hwyluso’r gweithgareddau. Roedd y gweithgareddau wedi bod yn fuddiol ac wedi rhoi cryn fwynhad, a’r farn oedd y dylid trefnu mwy o ddigwyddiadau o’r fath
» Teimlai’r holl wirfoddolwyr busnes y byddai o leiaf un o’r grwpiau (y bobl ifanc, yr ysgol, eu sefydliad hwy) wedi cael rhyw fudd o gymryd rhan yn y Dosbarth Busnes
» Roedd y mwyafrif llethol o’r myfyrwyr (98.5%) yn teimlo bod cymryd rhan yn y rhaglen Dosbarth Busnes wedi gwella eu dealltwriaeth o’r byd gwaith
» Drwyddi draw, roedd y myfyrwyr yn teimlo bod gweithgareddau Dosbarth Busnes wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu sgiliau cyflogadwyedd, a gwaith tîm oedd y sgil oedd wedi gwella fwyaf
» Roedd gweithgareddau Dosbarth Busnes ar y cyfan yn cyd-fynd â’u hamcanion ar gyfer datblygu sgiliau
» I’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr, y peth mwyaf buddiol oedd deall y sgiliau y mae eu hangen ar gyflogwyr
» Teimlai athrawon fod Dosbarth Busnes wedi cael effaith gadarnhaol ar sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr, a bod y gweithgareddau wedi bod yn fwyaf defnyddiol wrth wella’r sgil “Agwedd Gadarnhaol”
Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
DANGOSYDD
3 “Cyfraniad Gyrfa Cymru tuag at sefydlu cyswllt effeithiol rhwng ysgolion a chyflogwyr”
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Mae’r dystiolaeth ar gyfer y Dangosydd Perfformiad Allweddol hwn yn deillio o ddau adroddiad: Adroddiad ar y Gwerthusiad o Foddhad Cleientiaid â Chyswllt Gyrfa Cymru. Cafodd ein gwasanaeth i roi cymorth dros y ffôn ei sefydlu yn 2013. Mae’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i bobl rhwng 14 a 65 oed sy’n byw yng Nghymru.Anfonwyd yr arolwg dros e-bost a chafwyd 118 o ymatebion, sy’n cyfateb i 5% o’r 2244 o negeseuon e-bost a anfonwyd. Diben yr arolwg oedd canfod pa mor dda y mae Gyrfa Cymru yn rhoi gwasanaethau i gleientiaid dros y ffôn, gan ganolbwyntio’n benodol ar argraffiadau pobl o’r gwasanaeth a roddir i gwsmeriaid.
Gwerthusiad o’r Prosiect Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd.Cawsom gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn treialu’r prosiect a oedd yn ceisio cyflawni’r canlynol:
» Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth disgyblion/myfyrwyr o’r cyfleoedd ôl-16;
» Cynyddu ymwybyddiaeth o lwybrau galwedigaethol gan gynnwys prentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant;
» Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth disgyblion/myfyrwyr o’r byd gwaith;
4.4
26
» Helpu athrawon/darlithwyr i wreiddio ymwybyddiaeth o gyfleoedd o fewn Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith; a
» Helpu cyflogwyr i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd drwy ymwneud ag ysgolion a cholegau.
Y canfyddiadau o’r Adroddiad ar y Gwerthusiad o Foddhad Cleientiaid â Llinell Gymorth Gyrfa Cymru.
» roedd 94% o’r ymatebwyr yn fodlon â’r gofal cwsmeriaid a gawsant gan wasanaeth Cyswllt Gyrfa Cymru;
» roedd 94% o’r ymatebwyr yn fodlon â pha mor hir y bu’r cymhorthydd yn sgwrsio â hwy;
» roedd 88% o’r ymatebwyr yn fodlon â lefel gwybodaeth y cymhorthydd;
» roedd 85% o’r ymatebwyr yn fodlon bod y wybodaeth a’r cyngor a roddwyd yn glir ac yn hawdd ei ddeall;
» roedd 87% o’r ymatebwyr yn fodlon bod y cymhorthydd wedi deall eu hanghenion;
» roedd 84% o’r ymatebwyr yn fodlon eu bod wedi cael eu cyfeirio mewn ffordd berthnasol a defnyddiol;
» roedd 78% o’r ymatebwyr yn fodlon eu bod wedi cael y wybodaeth, y cyngor a’r cyfarwyddyd i wneud dewis doeth ynghylch yr hyn y dylent ei wneud nesaf.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
DANGOSYDD
4 “Pa mor fodlon yw cleientiaid ag ansawdd gwasanaeth Gyrfa Cymru, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud â phresenoldeb digidol integredig”
Y canfyddiadau o’r Gwerthusiad o’r Prosiect Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd Yn sgil cael cyflwyniad am ‘opsiynau’ – sef sesiwn 60 munud a roddir i ddisgyblion ym mlwyddyn 11 gan gynghorwyr gyrfa, a’r sesiwn honno’n edrych ar yr holl opsiynau ôl-16 sydd ar gael i ddisgyblion, a llwybrau dysgu seiliedig ar waith yn enwedig -
» Cytunai 82% o ddisgyblion eu bod wedi dysgu am opsiynau newydd na wyddent amdanynt o’r blaen;
» Cytunai 75% o ddisgyblion eu bod yn gwybod mwy am yr opsiynau a oedd o ddiddordeb iddynt;
» Dywedodd dros hanner y disgyblion eu bod yn cytuno bod mynd i’r sesiwn wedi eu harwain i ystyried opsiynau eraill. Yr opsiwn a grybwyllwyd amlaf gan y disgyblion fel un y byddent yn ei ystyried oedd prentisiaethau;
» Cytunai mwyafrif y disgyblion (75%) eu bod yn teimlo’n fwy parod i wneud penderfyniad am eu hopsiynau ar ddiwedd blwyddyn 11;
» Cytunai 83% o’r disgyblion eu bod yn gwybod mwy am brentisiaethau; ac
» Yr opsiwn a grybwyllwyd amlaf gan y disgyblion fel un y byddent yn ei ystyried ar ôl y sesiwn oedd prentisiaeth. Wrth ateb cwestiynau cyn y sesiwn, dim ond 6% o ddisgyblion a oedd yn ystyried prentisiaeth fel eu dewis cyntaf, ac 11% fel ail ddewis. Ar ôl y sesiwn, dywedodd 30% o’r disgyblion y byddent yn ystyried dilyn prentisiaeth.
O ganlyniad i fynd i ddigwyddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am opsiynau:
» Roedd yr holl rieni a gymerodd ran yn yr arolwg ar y cyfan yn cytuno bod y
4.4
27
digwyddiad wedi eu helpu i ddeall yn well yr ystod o opsiynau a oedd gan eu plentyn ac i fod yn fwy ymwybodol o opsiynau dysgu seiliedig ar waith, fel prentisiaethau.
» Cytunai’r holl athrawon eu bod wedi dysgu mwy am opsiynau ôl-16 a’u bod wedi dysgu am opsiynau newydd yn sgil mynd i weithdy opsiynau. Roeddent i gyd yn teimlo’u bod yn fwy parod i gefnogi disgyblion sy’n dewis opsiynau ôl-16;
» Dywedodd 98% o’r athrawon eu bod yn gwybod mwy am brentisiaethau; a
» Dywedodd yr holl athrawon y byddent yn defnyddio adnoddau ar gyrfacymru.com, gan gynnwys Chwiliad Gyrfa y Gwasanaeth Chwilio Cyfleoedd a’r Cwis Paru Swyddi.
O ganlyniad i fynd i ddigwyddiad Cysylltu â Chyflogwyr:
» Cytunai mwyafrif y disgyblion (87%) eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd yn sgil mynd i ddigwyddiad cysylltu â chyflogwyr. Dywedodd dros hanner y rhain eu bod yn cytuno’n gryf â hyn.
» Yn gyffredinol, roedd llawer o gleientiaid (73%) yn cytuno y byddai’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn eu helpu â’u cynlluniau gyrfa.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Perfformiad o dan y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Cwricwlwm i Gymru: Cwricwlwm am Oes
Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r ‘ysgolion arloesi’ i helpu â’r gwaith o ddatblygu un o bedwar diben y cwricwlwm newydd – sef cefnogi pobl ifanc i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid)
Bu inni barhau i roi cymorth i awdurdodau lleol i roi’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ar waith, a hynny drwy ddarparu data a rhoi cymorth i bobl ifanc. Aethom ati i wella’r data sydd ar gael drwy edrych ar sut y gall Awdurdodau Lleol ddefnyddio data’n uniongyrchol o’n basdata cleientiaid IO, a thrwy helpu Awdurdodau Lleol i ddatblygu Protocolau Rhannu Gwybodaeth pan oedd galw.
Datganiad Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru
Buom yn cyfrannu at Fesurau Perfformiad Sgiliau Llywodraeth Cymru, fel y nodir isod; Swyddi a Thwf (a Threchu Tlodi):
» Parhau i roi gwybodaeth am y farchnad lafur sy’n ymwneud â thueddiadau a’r galw mewn swyddi er mwyn helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau realistig a doeth am eu llwybrau gyrfa, a lleihau’r bylchau mewn sgiliau yn y farchnad lafur
» helpu pobl i gyflawni eu potensial drwy hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o Wybodaeth am y Farchnad Lafur a’r meysydd economaidd sy’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; a
5.0
» helpu cleientiaid i barhau i ymwneud â’r meysydd dan sylw wrth bontio rhwng addysg a gwaith, hyfforddiant neu addysg bellach/uwch
Cydraddoldeb a Thegwch:
» rhoi cymorth arbenigol i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY);
» rhoi gwasanaethau i bobl o bob oed gan dargedu’r rheini sydd â’r angen mwyaf – a chefnogi’r bobl ifanc hynny sy’n wynebu risg o beidio â bod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, a helpu oedolion i ddod o hyd i waith;
» canolbwyntio ar anghenion grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y byd gwaith, dysgu neu hyfforddiant, a herio stereoteipio a gwahanu galwedigaethol.
Gwella Sgiliau:
» Rydym wedi parhau i helpu i ddatblygu sgiliau rheoli gyrfa effeithiol, gan gynnwys gwella ymwybyddiaeth o gyfleoedd a datblygu cryfder gyrfaoedd, cymhelliant, y gallu i wneud penderfyniadau, hunan-ymwybyddiaeth, y gallu i weithredu a sgiliau digidol. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol wrth reoli llwybrau gyrfa sy’n arwain at barhau i ymwneud â’r byd addysg, gwaith neu hyfforddiant.
Cynaliadwyedd:
» Annog cyflogwyr i fuddsoddi mewn sgiliau.
Cyfraniad at Flaenoriaethau a Pholisïau Llywodraeth Cymru
28
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 Bu inni barhau i ddatblygu ein gwasanaeth er mwyn cyflawni’r “pum ffordd o weithio” a nodwyd gan Lywodraeth Cymru:
» Atal – bu inni barhau i roi gwasanaethau gyrfaoedd i grwpiau sy’n flaenoriaeth gan ganolbwyntio ar gleientiaid ar gam cynnar yn eu haddysg er mwyn helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau doeth am eu gyrfaoedd a’u llwybrau dysgu. Bu inni hefyd roi gwasanaethau i helpu cleientiaid i aros yn y byd addysg, gwaith neu hyfforddiant ôl-16, gan gynnwys helpu pobl 16 ac 17 oed yn y farchnad lafur i ymwneud o’r newydd â’r byd addysg, gwaith a hyfforddiant;
» Integreiddio – drwy ein hadolygiad strategol presennol, bu inni geisio sicrhau bod ein gweledigaeth a’n hegwyddorion yn cyd-fynd â rhai Llywodraeth Cymru, gan gyfrannu at gyflawni amcanion sefydliadau perthnasol eraill yn y byd gyrfaoedd
5.0
ehangach;
» Cydweithio – bu inni barhau i weithio’n agos gyda chyrff a phartneriaid eraill er mwyn diwallu anghenion ein cleientiaid a’n cwsmeriaid gan gynnwys ysgolion, colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyflogwyr, awdurdodau lleol, y Ganolfan Byd Gwaith;
» Cynnwys pobl – bu inni barhau i gynnwys ystod eang o bartneriaid, cleientiaid a rhanddeiliaid wrth sicrhau deilliannau ar y cyd, gan gynnwys cyflogwyr, rhieni, athrawon a phobl ifanc, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau wrth wneud hynny; ac
» Hirdymor – bu inni roi cymorth i unigolion ddatblygu’r sgiliau a’r profiad y mae eu hangen arnynt er mwyn ateb y galw yn economi’r dyfodol. Roedd hyn yn golygu defnyddio gwybodaeth fanylach am y farchnad lafur.
Cyfraniad at Flaenoriaethau a Pholisïau Llywodraeth Cymru
29
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
30
Gwasanaethau Digidol6.1
Cyflawniadau o Bwys
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Ymholiadau a gafwyd drwy sgwrs ar-lein
Defnyddwyr Cyrsiauyng Nghymru
Galwadau ffôn i’n llinellgymorth am ddim
Defnyddwyr y wefan a ddefnyddiodd y GwasanaethParu Swyddi (AMS) neu Twf Swyddi Cymru (JGW)
Defnyddwyr y wefan addefnyddiodd y ‘Cwis ParuSwyddi’ i greu syniadau gyrfapersonol
9,099
2016/17
7,634
2015/16
43,665
2016/17
39,000
2015/16
273,3942015/16
339,7662016/17
61,898
2016/17
35,653
2016/17
24,423
2015/16
80,904
2015/16
Sesiynau ar gyrfacymru.com
1,452,235
2015/16
1,487,203
2016/17
Cyfrifon newydd argyrfacymru.com
2015/1645,965
2016/1750,118
JGWAMS
JGWAMS
858,3562016/17
792,0212015/16
Defnyddwyr argyrfacymru.com
31
Gwasanaethau Digidol6.2
Ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau
Roedd gweithio tuag at ddarparu cyfuniad dynamig o wasanaethau digidol a rhai wyneb yn wyneb yn flaenoriaeth inni yn 2016/17. Rydym wedi gweithio tuag at ddatblygu gwasanaethau sy’n ennyn diddordeb ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg. Blwyddyn o arbrofi oedd y llynedd, wrth inni edrych ar ein hopsiynau posibl er mwyn creu gweledigaeth ddigidol ar gyfer y dyfodol.
Defnyddio dulliau mwy amrywiol drwy sianeli digidol
Er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl, rydym yn rhoi gwybodaeth drwy bob un o’r prif sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Twitter, LinkedIn, Google+, YouTube ac Instagram.
Wrth i’n gwasanaethau symud i blatfformau digidol gwahanol, byddwn yn parhau i edrych ar y defnydd o’r dechnoleg ddiweddarafer mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc, yn enwedig o ran dysgu mwy am y byd gwaith.
Bu inni greu ystod o fideos ar gyfer ein cynulleidfaoedd targed amrywiol. Mae’r rhain ar gael i’w gweld ar ein gwefan yn ogystal ag ar ein cyfrifon YouTube a Facebook. Mae modd eu gweld fan hyn:
https://www.youtube.com/Gyrfacymrutv
Technoleg fideo 360 a phensetiau rhith-wirionedd Prynwyd 12 o bensetiau rhith-wirionedd gennym a chreu pedwar fideo 360° sy’n cyflwyno pobl i bedwar amgylchedd gwaith gwahanol.Mae modd i gleientiaid wylio’r fideos hyn mewndigwyddiadau. Rydym yn ymwybodol bod angen
creu mwy o gynnwys, i’w ddefnyddio gyda’r pensetiau ac i’w roi ar ein sianeli YouTube ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym felly wedi prynu nifer bychan o gamerâu 360° arloesol i’r staffer mwyn creu fideos a lluniau 360º. Mae modd defnyddio’r camerâu hefyd i roi ffrydiau byw ar Facebook a Periscope a gobeithiwn dreialu hyn yn nigwyddiadau nesaf Skills Cymru.
Dulliau creadigol o ennyn diddordeb cleientiaid Dywedodd cynghorydd gyrfa sy’n gweithio gyda chleientiaid a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol bod rhai o’r rheini a oedd ar fin dechrau cyrsiau mewn coleg Addysg Bellach mawr ym mis Medi yn bryderus iawn ynghylch sut fath o le fyddai campws y coleg. Defnyddiodd y cynghorydd un o’n camerâu 360º i ffilmio’r daith o arhosfan fysus y coleg i’r ystafell lle byddai’r myfyrwyr yn gweithio. Dangoswyd y fideo hwn i’r cleientiaid er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â’r daith i’r coleg ac er mwyn lleddfu eu pryderon ynghylch mynd i gampws mor fawr.
System ymateb i’r gynulleidfa
Rydym wedi buddsoddi mewn system ymateb i’r gynulleidfa. Bydd hyn yn golygu bod ein gwaith grŵp a’r hyfforddiant a roddwn i gleientiaid a rhanddeiliaid yn fwy difyr, drwy alluogi’r gynulleidfa i gyfrannu mwy a chyflwyno mwy o ryngweithio. Bydd y system hefyd yn rhoi adborth yn y fan a’r lle inni ynghylch lefelau dealltwriaeth y grŵp a’r hyn y mae pobl yn ei ddysgu. Byddwn yn integreiddio’r cynnyrch newydd hwn i’n dulliau o gyflwyno ein gwasanaethau yn 2017/18.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
32
Y WefanGWASANAETHAU DIGIDOL
6.3Gyrfacymru.com Bu inni wneud cynnydd sylweddol wrth gwmpasu’r gofynion ar gyfer gwefan ac iddi blatfformau newydd. Aethom ati i nodi meysydd busnes lle’r oeddem am ddefnyddio technoleg i’n helpu i ddarparu gwasanaethau, a mynd ati hefyd i greu cynllun er mwyn datblygu platfform newydd ar y we dros y ddwy flynedd a hwnnw’n rhwydd i’w ddefnyddio ac yn hygyrch ar nifer o ddyfeisiau gwahanol, gan gynnwys ffonau clyfar a dyfeisiau llechen.
Mae’r wefan wedi parhau’n adnodd hanfodol i’n cleientiaid.
Eleni edrychodd pobl ar ein tudalennau 10 miliwn o weithiau a hynny mewn mymryn o dan 1½ miliwn o sesiynau.
Ymhlith ein tudalennau mwyaf poblogaidd y mae’r chwiliad gyrfa a’r adran sy’n rhoi gwybodaeth am swyddi, lle gall defnyddwyr chwilio am fanylion am dros 700 o swyddi penodol, gwahanol.
Y swyddi mwyaf poblogaidd yw:
» Yr Heddlu;
» Meddyg;
» Cyfrifydd;
» Gosodwr Brics;
» Cyfreithiwr
Rydym am barhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cwsmeriaid am swyddi newydd a meysydd gyrfa a fydd yn bwysig yn y dyfodol. Y llynedd, cafodd ein gwybodaeth swyddi ei diweddaru drwy ychwanegu:
» Peilot Dronau;
» Ymgynghorydd Dylunio Gemau;
» Gwyddonydd Fforensig Digidol;
» Arbenigwr Data Mawr;
» Barista
Tueddiadau Swyddi Mae helpu cleientiaid i ddeall natur y cyfleoedd presennol a’r cyfleoedd yn y dyfodol yn yfarchnad lafur yng Nghymru, ynghyd â’r tu
hwnt i Gymru, yn rhan bwysig o’r wefan. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael am y farchnad lafur, yn rhanbarthol a chenedlaethol, a gwybodaeth hefyd am swyddi a sectorau gwaith penodol.Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, mae modd i’n cleientiaid wneud dewisiadau doeth wrth ystyried eu haddysg a’u gwaith, gan wella’r cydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw yn y farchnad lafur yng Nghymru.Mae’r adran hon ar y wefan yn tynnu sylw at y sectorau sy’n bwysig yn economaidd i Gymru, gan gynnwys y naw sector blaenoriaeth. Y tu hwnt i’r sectorau blaenoriaeth, mae nifer o sectorau eraill wedi’u cynnwys ar y wefan ar sail nifer uchel y swyddi sydd ar gael ynddynt yng Nghymru.
Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd ein cyfres ‘Golwg ar’ yn rhoi sylw i 13 o sectorau a rhanbarthau gwahanol yng Nghymru. Ychwanegwyd y canlynol yn ystod 2016-17:
» Golwg ar Ogledd Cymru
» Golwg ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru
» Golwg ar Ynni a’r Amgylchedd
» Golwg ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
» Golwg ar Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
» Golwg ar Wasanaethau Ariannol
» Golwg ar Addysg
Fel rhan o’n gwaith o ddatblygu Golwg ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru, cafodd fideo ei greu sydd ar gael ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r farchnad swyddi sy’n datblygu ac yn ymwybodol o newidiadau posibl yn y byd gwaith, a hynny yn eu hardal leol a’r tu hwnt iddi. Gan weithio gyda’r Bartneriaeth Ranbarthol yn y De-orllewin, datblygwyd deunydd ychwanegol gennym i gyd-fynd â’r wybodaeth am yr ardal honno, a hwnnw’n cynnwys fideo a phoster i’w arddangos mewn ysgolion ac yn ein canolfannau.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
33
6.3
Y gyfres Gyrfaoedd mewn...Mae’r gyfres ‘Gyrfaoedd mewn...’ yn rhoi sylw i alwedigaethau sy’n bwysig yn economaidd i Gymru, a’r meysydd gyrfa hynny lle mae galw mawr. Mae’r data’n dangos y cyflogau posibl, y cymwysterau angenrheidiol, a’r llwybrau i swyddi yn y sectorau hyn. Y llynedd, aethom ati i ychwanegu at y galwedigaethau hyn, sydd bellach yn cynnwys:
» Chwaraeon a Hamdden
» Gweinyddiaeth a Busness
» Y Celfyddydau Perfformio
» Iaith a Diwylliant
Cwis Paru SwyddiBu dros 33,000 o ddefnyddwyr wrthi’n creu syniadau gyrfa personol sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u diddordebau, a hynny drwy ddefnyddio’r Cwis Paru Swyddi. Mae’r Cwis yn elfen hanfodol o’r ‘Model Darganfod Gyrfa’ fel rhan o ‘Newid Bywydau’ (gweler tudalen 84).
Yr Adran Gweithwyr ProffesiynolYn ystod y flwyddyn cafodd yr adran i weithwyr proffesiynol ei hailddylunio. Gyda’r nod o helpu gweithwyr addysg proffesiynol, defnyddir yr adran hon i roi cymorth i ysgolion ddatblygu’r cwricwlwm newydd ac i helpu athrawon unigol ac arweinwyr gyrfa i roi addysg berthnasol sydd wedi’i seilio ar wybodaeth dda. Drwy wneud hyn, y nod yw gwella ansawdd addysg gyrfaoedd mewn ysgolion.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Y WefanGWASANAETHAU DIGIDOL
34
GWASANAETHAU DIGIDOL
6.4 Sgwrsio ar-lein
Mae modd defnyddio ein gwasanaethau sgwrsio ar-lein drwy ein tudalen Facebook genedlaethol yn ogystal ag ar ein gwefan. Y llynedd, cafwyd dros 7,000 o sesiynau sgwrsio.
Roedd y sesiynau sgwrsio’n cael eu rhoi gan dimau cyfarwyddyd gyrfa a roddodd gymorth i ystod eang o unigolion. Er bod llawer o ddefnyddwyr y gwasanaeth sgwrsio yn bobl ifanc
(o dan 25 oed), mae nifer cynyddol o oedolion yn defnyddio’r sgyrsiau i ofyn am gyngor a chymorth. Pan fydd y gwasanaeth sgwrsio yn brysur, neu y tu allan i’r oriau gwaith, gall cleientiaid adael neges.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
gyda thechnegau cyfweld.
Ar ôl cael cymorth, aeth Lauren i’r cyfweliad am y swydd, gwnaeth gais am swydd arall a chafodd waith yn y sector yr oedd yn dymuno bod yn rhan ohono.
Cyfeirio at gyrfacymru.com am gymorthRoedd Chelsea* yn fam a oedd yn aros gartref. Cysylltodd â’r llinell gymorth i gael gwybodaeth ynghylch bod yn Gwnselydd. Cyflwynodd cynghorydd Cyswllt Gyrfa Cymru hi i’r adran chwilio am swydd a phroffil swyddi ar gyrfacymru.com. Yna anfonodd y cynghorydd e-bost ati gyda phroffil y swydd a rhestr o gyrsiau a oedd yn rhoi cyflwyniad i gwnsela yn ei hardal hi.
O ganlyniad mae hi bellach wedi cofrestru ar gwrs i ddechreuwyr yng Ngholeg Gwent ym mis Medi, er mwyn ennill tystysgrif mewn Cwnsela.
Cymorth dros y ffôn Ffoniodd Lauren* y llinell gymorth yn wreiddiol i gael help i lenwi CV wrth wneud cais am ei swydd gyntaf. Roedd hi wedi astudio gwaith cymdeithasol ac am wneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol. Cynigiodd cynghorydd y llinell gymorth ddarllen drwy ei CV a’i galw’n ôl. Dywedodd Lauren bod ei chyfeillion yn y brifysgol eisoes wedi dechrau gwneud cais am swyddi ac yn ôl diagnosis y cynghorydd, roedd hi’n brin o hyder wrth wneud cais am swyddi. Roedd angen cymorth ar Lauren i gwtogi’r cynnwys, ac i ailfformadu ac aralleirio darnau o’r CV er mwyn bodloni’r prif gymwyseddau ym manyleb y swydd. Trafododd y cynghorydd hyn ac anfon adnoddau dros e-bost i Lauren eu darllen. Helpodd y cymhorthydd hi hefyd i edrych eto ar y datganiad personol ar y ffurflen gais am yr un swydd. Roedd angen i’r cymhorthydd roi cryn dipyn o help i Lauren, a bu’r ddau yn e-bostio ac yn sgwrsio dros y ffôn sawl gwaith. Rhoddwyd gwybodaeth i’r cleient a fyddai’n ei helpu i ysgrifennu llythyrau a negeseuon e-bost eglurhaol, yn ogystal â’i helpu
ASTUDIAETHAU ACHOS
GWASANAETHAU DIGIDOL
6.5 Llinell Gymorth
Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 9am a 6pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener, ac mae’n cyflogi 16 o bobl.
Rheoli Llwyth GwaithDrwy reoli llwyth gwaith yn effeithiol rydym wedi parhau i ddatblygu arferion gweithio tîm y llinell gymorth er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth ffôn sy’n ymateb yn dda ac o ansawdd da i gleientiaid. Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig yn cynnwys:
» gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd
» cwblhau CV
» sgiliau chwilio am swyddi
» gwybodaeth am y farchnad lafur – y galw a’r tueddiadau
» cymorth i lenwi ffurflenni cais neu gynnal ffug-gyfweliad
Mae pob aelod o’r tîm bellach wedi cwblhaueu huned NVQ lefel 3 mewn ymdrin â llwythi gwaith.
Cefnogi Ymgyrchoedd Eleni bu’r tîm yn cefnogi ein hymgyrch i hyrwyddo gwasanaethau digidol Gyrfa Cymru i bobl ifanc a oedd yn ystyried gadael y coleg yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl dechrau eu cwrs. Mae data hanesyddol yn awgrymu bod y mis Hydref ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd newydd yn gyfnod pan fydd pobl ifanc yn wynebu’r risg uchaf o adael eu cwrs. Roedd ein hymgyrch wedi’i thargedu yn cyfeirio cleientiaid at y cymorth yr oedd ei angen arnynt er mwyn parhau i ddysgu neu i newid cyfeiriad ond gan aros mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant. Gan ddefnyddio cyfuniad o farchnata a hyrwyddo digidol ar y wefan, targedwyd pobl ifanc gan roi gwybod iddynt sut i ddefnyddio gwasanaethau Gyrfa Cymru drwy Facebook, sgwrsio ar-lein a’r llinell ffôn. Gwnaed 38 o alwadau i’r llinell ffôn mewn cyfnod o ddwy wythnos yn uniongyrchol o ganlyniad i’r ymgyrch hon.
35* mae’r enwau wedi’u newid er mwyn gwarchod pwy yw’r cleient
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
GWASANAETHAU DIGIDOL
6.6 Y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol er mwyn ymgysylltu’n effeithiol â’n cynulleidfaoedd targed, yn enwedig pobl ifanc. Rydym yn defnyddio ystod o sianeli ac yn cyfathrebu’n ddwyieithog; mae’r rhain yn cynnwys Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn a Google+. Yn ogystal â phrif gyfrifon Gyrfa Cymru, mae gennym nifer o gyfrifon ar gyfer canolfannau gyrfaoedd lleol a chyfrifon ysgolion. Rydym yn parhau i ddefnyddio ystod o dactegau i annog pobl i ymgysylltu. Rydym wedi cynnal ymgyrchoedd hysbysebu unigol, yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar amryw o ymgyrchoedd drwy gyfrifon Gyrfa Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ymgyrchoedd wedi cynnwys Ble Nesaf?, Wythnos Dysgu Oedolion, y Porth Sgiliau, Wythnos Prentisiaethau, ac eraill.
36
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Cynnwys sy’n Ennyn DiddordebRydym yn defnyddio amrywiaeth o gynnwys er mwyn ennyn diddordeb ein cynulleidfaoedd targed. Mae’r cynnwys hwn yn amrywiol iawn, ac yn cynnwys dyfyniadau ysbrydoledig, hysbysebion am ddigwyddiadau, hysbysebion am swyddi gwag, eitemau newyddion, fideos a chyngor ymarferol, a’r cyfan yn ceisio denu sylw ac annog pobl i fynd i gyrfacymru.com.
Cyrhaeddiad ac Argraffiadau Drwy gyfuniad o gynnwys organig a chynnwys y talwn amdano, rydym yn cyrraedd llawer iawn o bobl. Y llynedd roedd gan ein negeseuon ar Facebook gyrhaeddiad o dros 7 miliwn o bobl – i bob pwrpas, gwelwyd ein negeseuon 7 miliwn o weithiau. Cawsom tua 2.2 miliwn o argraffiadau (sydd yr un fath â chyrhaeddiad) ar Twitter. Gweler yr ystadegau ar dudalen 10.
Enghreifftiau o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol
37
0.0GWASANAETHAU DIGIDOL
6.7 Negeseuon E-bost a Negeseuon Testun
97,858
2015/16
2016/17
116,320
105,368
2015/16
167,298
2016/17
Y negeseuon e-bost a anfonwyd
Y negeseuon testun a anfonwyd
Rydym yn defnyddio ein basdata i gysylltu â chleientiaid gan ddefnyddio negeseuon testun ac e-bost.
Caiff negeseuon e-bost eu hanfon i roi bwletinau am swyddi gwag i gleientiaid a’u hatgoffa am
apwyntiadau, neu i roi gwybodaeth berthnasol sydd wedi’i thargedu – er enghraifft y cymorth sydd ar gael ar ôl cael canlyniadau arholiadau neu i godi ymwybyddiaeth am brentisiaethau.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
A n n u a l R e p o r t2 0 1 6 / 1 7
Careers Wales
38
HeadingHeading
SECTION NAME
0.0
Sub head
Test test test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
38
7.1
38
Addysg
Cyflawniadau o Bwys
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Golegau Addysg Bellach, Ysgolion Arbennig a’r Ysgolion Uwchradd a gynhelir yng Nghymru
Cefnogodd Gyrfa Cymru yr 38,480
o ddysgwyr ifanc wedi elwa o gefnogaeth un-i-un
o bobl ifanc wedi mynychu sesiwn grŵp er mwyn datblygu dealltwriaeth a dysgu sut i ddefnyddio sgiliau rheoli gyrfa
70,818
o athrawon/darlithwyr iwella’r addysg gyrfaoedd y maent yn ei rhoi drwy
o sesiynau hyfforddidatblygiad proffesiynol
1,811Galluogwyd
386
Mae bron i 40% o ysgolion uwchradd prif ffrwd yn ymwneud ag un o’r 81 partneriaeth Dosbarth Busnes
98% o rai 16 oed
98.8% o rai 17 oed
96.9% o rai 18 oed
Pontio cadarnhaol: symudodd
o addysg i addysg bellach, hyfforddiant neu waith
1,131o Gynlluniau Dysgu a Sgiliau wedi’u creu ar gyfer cleientiaid sydd â datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig neu ddatganiadau cyfatebol
10,900 wedi cael eu helpu i gefnogi eu meibion a’u merched wrth iddynt wneudpenderfyniadau pwysig
Mwy na o rieni
o bobl ifanc ran mewn gweithgareddauYmwybyddiaeth o Gyfleoedd, gyda’r nod o wella’udealltwriaeth ambrentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith
37,000
Cymerodddros
2,256 o bobl ifanc wedi dilyn y rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni, TRAC, Cynnydd
HOLL
0.0
39
Cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau
ADDYSG
7.2
gweminarau gyrfaoedd, a bu disgyblion o bob rhan o Gymru yn mynychu sesiynau gwybodaeth i ddysgu mwy am dueddiadau cyflogaeth. Buom yn gweithio gydag Airbus, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y GIG a Phŵer Niwclear Horizon i gyflwyno gweminarau mewn 19 o ysgolion.
Byddwn yn cynnal rhagor ohonynt dros y flwyddyn academaidd nesaf mewn partneriaeth ag ystod y gyflogwyr drwy Gymru.
Cyfathrebu gyda Myfyrwyr Mae cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc wrth iddynt bontio rhwng yr ysgol, y coleg a’u camau nesaf yn rhan hollbwysig o waith Cynghorwyr Gyrfa. Y llynedd, cadwyd mewn cysylltiad â phobl ifanc a rhannu gwybodaeth â hwy drwy anfon dros 27,400 o negeseuon testun a 25,300 o negeseuon e-bost.
Rydym yn gwerthfawrogi’r dylanwad sydd gan rieni wrth gefnogi eu plant i gynllunio at eu dyfodol, a rhoddwyd cymorth i dros 10,900 o rieni y llynedd drwy eu gwahodd i gyfweliadau gyda’u plant, neu drwy sgwrsio â hwy mewn nosweithiau rhieni neu ddigwyddiadau gwybodaeth.
Mae gennym bartneriaeth weithio gref gyda’r ysgolion sy’n ein galluogi i drafod a darparu gwasanaethau unigryw. Roedd gennym 238 o gytundebau partneriaeth gydag ysgolion a cholegau drwy Gymru.
Gwirio Gyrfa Rydym yn darparu gwasanaethau i ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau drwy seilio hynny ar asesiad o’r angen, a hynny ar lefel y sefydliad a lefel unigolion ill dau.
Yng Nghyfnod allweddol 4, asesir anghenion disgyblion drwy ddefnyddio ein hadnodd asesu, ‘Gwirio Gyrfa’. Rhoddwyd cyfle i bob disgybl ym mlwyddyn 10 lenwi’r arolwg hwn ynghylch eu dyheadau gyrfa. Roedd hyn yn helpu Gyrfa Cymru a’r ysgol i ddatblygu’r ddarpariaeth gyrfaoedd a’r byd gwaith a’n gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion, er enghraifft drwy drefnu gweithgareddau cysylltu â chyflogwyr sy’n cyd-fynd â diddordeb y disgyblion.
Rhoddodd Gyrfa Cymru gymorth i dros 27,000 o bobl ifanc ym mlynyddoedd 9, 10 ac 11 ac i dros 11,000 o bobl ifanc yn y chweched dosbarth ac mewn colegau addysg bellach, drwy gynnig sesiynau rhyngweithio wyneb yn wyneb iddynt. Daeth dros 70,800 o ddisgyblion i un o’n sesiynau rhyngweithiol, sesiynau dosbarth neu sesiynau grŵp yn yr ysgolion a’r colegau – lle cyflwynwyd pynciau gennym fel: codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau; y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt; dewis pynciau i’w hastudio yng nghyfnod allweddol 4; opsiynau ar ôl blwyddyn 11, blwyddyn 12 ac mewn addysg bellach.
Gweminarau Yn ystod 2016/17, aethom ati i gyflwyno
Y prif ffigurau o’r arolwg Gwirio Gyrfa
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
18,740
yn gwybod sut i gael cymorth,ond go brin y byddantyn gofyn amdano
5,878Iechyd ameddygol,Gofal plant,Celf a dylunio
Y galwedigaethau mwyafpoblogaidd - merched
Y galwedigaethau mwyafpoblogaidd - bechgyn
Hamdden, chwaraeona thwristiaeth, Peirianneg,Cyfrifiadureg, meddalwedda TG
MaeNid yw
Nid oes gan
Nid yw Dangosodd
yn targedu’r ysgol/coleg ar ôl Blwyddyn 11
o ddisgyblion ymMlwyddyn 10
14,442
yn hyderus wrthwneud penderfyniadau
1,151
o ddisgybliongynllun ar gyfery dyfodol
3,717
ddiddordeb mewnprentisiaeth
1,22161%yn sicr eu bod yngwneud penderfyniadau da
0.0
40
7.2
Gweminar yn llwyddiant mawr:
modd i’r cyflogwr a’r disgyblion sgwrsio a gofyn ac ateb cwestiynau.
Roedd y sesiwn yn un llwyddiannus iawn a golygai fod modd i’r cyflogwr ymwneud â disgyblion mewn dwy ysgol ar yr un pryd, gan arbed amser iddo. Golygai hefyd fod modd i’r disgyblion gael sesiwn ryngweithiol gyda chyflogwr heb orfod gadael yr ysgol. Roedd yr adborth gan yr athrawon yn gadarnhaol iawn a gallent weld y budd o drefnu mwy o sesiynau gweminar tebyg.
Dywedodd Tim Penn hefyd: “Rwy’n teimlo i’r sesiwn fod yn llwyddiannus iawn, o’r cymorth technegol gan Gyrfa Cymru i gyfraniad y disgyblion. Dyma fy mhrofiad cyntaf o roi sgwrs i grŵp dros y we, ac aeth y cyfan yn hwylus iawn. Byddwn yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth tebyg eto, yn ogystal ag annog cyflogwyr eraill i wneud yr un peth.”
Trefnodd ein Cynghorydd Cyswllt Busnes sesiwn gweminar ar gyfer disgyblion mewn dwy ysgol yng Nghonwy, a’r rheini’n cael eu cyflwyno gan gyflogwr lleol, sef Tim Penn o Signature Leather. Diben y sesiwn oedd codi ymwybyddiaeth o sut y gall astudio ieithoedd tramor modern yn yr ysgol roi hwb i ddysgwyr yn y farchnad lafur. Roedd modd i Tim ddangos i’r rheini a gymerodd ran sut y mae marchnadoedd ar draws y byd yn gweithio gan ddefnyddio ieithoedd eraill heblaw am y Saesneg. Dangosodd hefyd fod dysgu iaith dramor fodern yn ein galluogi i ddysgu am wahanol ddiwylliannau ledled y byd.
Yn ystod y sesiwn, roedd y cyflogwr wedi’i leoli yn un o’n pedair canolfan gyrfaoedd yn defnyddio cyfrifiadur, ac roedd y disgyblion mewn dwy ysgol wahanol mewn ystafelloedd gyda chyfleusterau byrddau gwyn rhyngweithiol. Gallai’r disgyblion weld y cyflogwr ar sgrin fawr, ei glywed yn eglur, a gweld y sleidiau yr oedd yn eu defnyddio fel rhan o’i gyflwyniad. Roedd
Cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
41
7.2 Cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau
ADDYSG
Adborth
Adborth am ein gwasanaethau mewn ysgolion a cholegau
Gan riant disgybl ym Mlwyddyn 11 a oedd am gael cymorth gan ei Gynghorydd Gyrfa yn yr ysgol er mwyn dysgu mwy am sut i fod yn beilot. Rhoddodd y Cynghorydd Gyrfa gyngor am yr opsiynau o ran y cymwysterau ôl-16 a oedd yn angenrheidiol, a chreu cynllun gweithredu.
Cyn-fyfyriwr addysg bellach yn ardal y de canol, a gafodd gymorth gan Gynghorydd Gyrfa i drafod â’r Brifysgol er mwyn penderfynu ar lefel ei chymwysterau o Romania.
Hoffwn i ddiolch o galon ichi am yr holl help a chymorth a roesoch i fy mab heddiw, sydd wedi bod yn llawn penbleth ynghylch beth i’w wneud ar ôl blwyddyn 11. Mae’r help a’r cyngor a roesoch chi heddiw wedi’i helpu i weld pa opsiynau sydd ar gael, ac mae’n llawer tawelach ei feddwl bellach ac yn meddwl yn fwy clir am y dyfodol.
Hoffwn ddiolch ichi am eich holl help gyda fy nogfennau; ni allwn fod wedi gwneud dim byd heb eich help chi. Diolch o galon.
Roeddwn am ddiolch ichi am yr holl help a roesoch i fy mab ar ddiwrnod y canlyniadau. Roedd yn torri ei galon am na chafodd y graddau yr oedd eu hangen arno i wneud yr hyn yr oedd yn dymuno’i wneud yn y brifysgol, ond ar ôl siarad â chi yn yr ysgol, fe ddaeth oddi yno yn fwy ymwybodol o’r cyfleoedd a oedd ar gael iddo ac yn deall nad oedd hi’n ddiwedd y byd! Diolch i’ch cyngor a’ch cyfarwyddyd chi roedd modd iddo wneud dewis doeth ynghylch ei ddyfodol. Fe wnaeth gais drwy’r system glirio i Brifysgolion Southampton a Reading, ac mae bellach ar ail flwyddyn ei gwrs yn y gyfraith. Mae’n mwynhau’r cwrs, mae wedi gwneud ffrindiau newydd, ac wedi meithrin hyder drachefn ar ôl y siom wreiddiol.
Rwy’n gwybod y byddech chi’n dweud mai dim ond gwneud eich gwaith oeddech chi, ond mae’n anodd diolch digon ichi am bopeth rydych chi wedi’i wneud ac am y gwahaniaeth a wnaeth hynny.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Gan riant disgybl nad oedd wedi cael y cymwysterau safon uwch angenrheidiol.
42
7.3
gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac yn dilyn y broses ffurfiol i adolygu’r cyfnod pontio. Canolbwyntiwyd yn benodol ar helpu blynyddoedd 9, 11, 12 ac 13, ac ar greu Cynlluniau Dysgu a Sgiliau a cheisiadau am addysg bellach arbenigol.
Buom yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn i wella’r broses o wneud cais ar gyfer addysg bellach arbenigol. Roedd hyn yn cynnwys cyfrannu at adolygiad o’r broses a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru a rhoi adborth cynhwysfawr ar y canllawiau newydd. Gwahoddwyd Gyrfa Cymru hefyd i roi cymorth golygyddol ar gyfer creu canllawiau technegol i Gynghorwyr Gyrfa er mwyn helpu â’r broses. Dyma’r tro cyntaf i ganllawiau penodol o’r math yma fod ar gael, a helpodd i wella ansawdd ceisiadau yn sylweddol, ynghyd ag arwain at benderfyniadau prydlon ynghylch ceisiadau am gyllid.
Bu inni hefyd gyfrannu’n llawn at yr ymgynghoriad ynghylch sut i weithredu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), gan gynnwys anfon cynrychiolydd o Gyrfa Cymru i fod yn rhan o ddau grŵp arbenigol o ymarferwyr.
Parhaodd ein gwasanaethau i ganolbwyntio ar ddiwallu’r anghenion yn y cod ymarfer anghenion addysgol arbennig:
» Cyfweliadau wyneb yn wyneb;
» Presenoldeb mewn adolygiadau pontio;
» Rhoi cynllun a gwybodaeth berthnasol ar gyfer symud ymlaen;
» Cynllun Dysgu a Sgiliau ar gyfer y rheini sy’n dechrau mewn addysg bellach, addysg uwch, darpariaeth arbenigol mewn coleg, neu ddysgu seiliedig ar waith;
» Cyflwyno ceisiadau am gyllid arbenigol; a
» Cymorth i rieni, gan gynnwys cyhoeddi llyfrynnau sy’n rhoi gwybodaeth arbenigol.
Cytunwyd ar 1,131 o Gynlluniau Dysgu a Sgiliau, cyflwynwyd 106 o geisiadau am gyllid preswyl arbenigol i Lywodraeth Cymru, ac fe wnaethom gyfraniad at 3,431 o adolygiadau pontio.
Bu inni barhau i weithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol allweddol eraill er mwyn asesu anghenion pobl ifanc ar y cyd, gan gynnwys Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig, rhieni, seicolegwyr addysg, cwnselwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol. Rhoddwyd cefnogaeth i bob dysgwr a oedd â datganiad anghenion addysgol arbennig a’r rheini a oedd yn destun gweithredu
Pobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Gwella trafnidiaeth i gleientiaid sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
penderfyniadau a threfniadau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yn brydlon. Flwyddyn ers y cyfarfod cyntaf, mae’r adborth gan bawb a fu’n rhan o’r gwaith wedi bod yn gadarnhaol iawn. Aethom ati’n ddiweddar i adolygu’r trefniadau gyda phob parti, gan ofyn am adborth am werth y grŵp.
Dywedodd y prif swyddog trafnidiaeth:
“Ers creu’r gweithgor y llynedd mae’r ITU wedi canfod bod y trefniadau trafnidiaeth wedi’u cydlynu’n llawer gwell ar gyfer myfyrwyr AAA sy’n pontio i’r coleg.
Gan fod yr un wybodaeth yn cael ei rhoi mewn ffordd gyson ac yn cael ei rhannu ymhlith yr holl asiantaethau perthnasol, mae pawb sy’n rhan o’r broses yn ymwybodol yn llawer cynt o’r myfyrwyr dan sylw ac ymhle y maent yn cael eu lleoli. Mae hyn yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar brofiad pontio’r myfyriwr, ac mae’n golygu bod modd gwneud trefniadau addas yn barod at ddechrau’r tymor.”
Gwelodd cynghorwyr fod problem mewn un awdurdod lleol gyda’r trefniadau trafnidiaeth i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol ac yn mynd i’r coleg.
Mewn rhai achosion roedd hyn yn golygu nad oedd pobl ifanc yn gallu dilyn cwrs coleg, gan olygu nad oeddent wedyn mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cysylltodd y cynghorwyr ag adran drafnidiaeth yr awdurdod lleol a threfnu cyfarfod er mwyn datblygu gweithgor a allai roi sylw i’r materion hyn yn rheolaidd.
Roedd hwn yn gyfarfod cynhyrchiol iawn a chytunwyd bod angen cynnal cyfarfodydd chwarterol rhwng y tîm trafnidiaeth, y Cynghorydd Gyrfa, cynrychiolydd o’r Coleg, cynrychiolydd o’r tîm datganiadau, a rheolwyr prosiect gweithwyr arweiniol. Roedd y cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar gytuno ar broses gydag amserlenni addas.
Mae’r cyfarfodydd hyn bellach yn golygu bod modd rhannu gwybodaeth yn fuan am ddysgwyr a fydd o bosibl yn gwneud cais i fynd i’r coleg. Mae hefyd yn golygu bod modd gwneud
43
7.3 Pobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
4444
rhoi cyfarwyddyd a gwybodaeth, eirioli, hyfforddi a mentora.
Yn ystod 2016/17, roedd modd inni weithio’n fwy dwys gyda phobl ifanc sy’n cael eu haddysg y tu allan i’r ysgol a hynny drwy brosiectau rhanbarthol Cronfa Gymdeithasol Ewrop (Ysbrydoli i Gyflawni, TRAC a Cynnydd). Roedd hyn yn cynnwys trefnu profiad gwaith a chyfleoedd eraill unigryw i ddod i gysylltiad â chyflogwyr.
Mae Gyrfa Cymru yn rhoi cefnogaeth unigryw i bobl ifanc sy’n cael addysg y tu allan i’r ysgol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill er mwyn helpu’r grwpiau hyn o gleientiaid a sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n gydnaws â’u hanghenion penodol. Mae’r cymorth unigryw hwn yn cael ei roi mewn unedau cyfeirio disgyblion a mathau eraill o leoliadau yn y gymuned, ac mae’n cynnwys asesu anghenion,
Cyfle am brentisiaeth ar ôl mynd ar leoliad gyda chyflogwr
hwn pe bai’n mwynhau’r diwrnod. Trefnwyd cyfarfod gyda Mohammed a’i fam i weld a fyddai modd iddo deithio i safle’r cyflogwr. Trefnwyd y diwrnod prawf ac roedd y cyflogwr a Mohammed ill dau yn awyddus iawn i drefnu ei leoliad. Dechreuodd Mohammed ar ei leoliad a threulio deuddydd yr wythnos yn y cwmni. Roedd yn cyfrannu’n llawn yn ystod ei gyfnod yno ac roedd y staff yn hapus â’r modd yr oedd yn dod yn rhan o’r tîm. Gwnaeth gais am gyfle prentisiaeth tra’r oedd yno, ac ar ddiwedd ei gyfnod ar leoliad cafodd Mohammed ddyrchafiad i fod ar brofiad gwaith gyda chyflog wrth iddynt aros am ganlyniadau ei arholiadau.
Cyn belled ag y bydd yn pasio ei arholiadau Mathemateg a Saesneg, bydd yn cael ei gyflogi fel prentis ym mis Medi.
Nid oedd Mohammed*, sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig, wedi bod yn ymwneud â’r byd addysg am gyfnod, a hynny ar ôl cael ei ddiarddel o’r ysgol. Trefnodd gweithiwr o brosiect Ysbrydoli i Gyflawni i ymweld â’i gartref gydag un o gynghorwyr Gyrfa Cymru, a welodd fod Mohammed yn wybodus iawn am beirianneg ar lefel uwch, ac y byddai diddordeb ganddo mewn cael profiad gwaith perthnasol. Cyfeiriodd y cynghorydd gyrfa achos Mohammed at un o’n Cynghorwyr Cyswllt Busnes a ddaeth o hyd i leoliad posibl a chyfweliad i Mohammed.
Roedd Mohammed yn llwyddiannus a mwynhaodd ei gyfnod cychwynnol ar leoliad. Rhagorodd yn y gweithdy ac roedd y cwmni’n fodlon iawn â’r modd y cyfrannodd yn ystod ei gyfnod yno. Fodd bynnag, nid oedd gan y cwmni unrhyw gyfleoedd ar ddiwedd y cyfnod ar leoliad.
Ar yr un pryd roedd cwmni arall yn chwilio am brentisiaid a gofynnodd Gyrfa Cymru i Mohammed a fyddai’n hoffi mynd ar ddiwrnod prawf gyda golwg ar newid ei leoliad i’r cwmni
7.4 Pobl ifanc sy’n cael addysg y tu allan i’r ysgol
ADDYSG
* mae’r enw wedi’i newid er mwyn gwarchod pwy yw’r cleient
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
45
0.0 Pobl ifanc yn y System Cyfiawnder Ieuenctid
ADDYSG
wedi helpu â cheisiadau i ddilyn cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a chyrsiau coleg.
Fis cyn eu rhyddhau, caiff cofnodion pob cleient eu gwirio er mwyn sicrhau bod cynllun wedi’i greu ar gyfer y person hwnnw. Caiff hyn ei gadarnhau drwy gyfarfod misol â thîm rheoli’r unedau.
Cyn y bydd y person ifanc yn cael ei ryddhau, bydd yn cytuno ar gynllun gyrfa gyda’i weithiwr allweddol a’i Dîm Troseddau Ieuenctid neu swyddog prawf gartref.
Yn ystod 2016/17 cynhaliwyd 46 o gyfweliadau cyfarwyddyd gyrfa gyda throseddwyr ifanc cyn eu rhyddhau.
Rydym wedi parhau i roi gwasanaethau i bobl ifanc yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc a Chartref Diogel i Blant Hillside. Mae pobl ifanc yn cael cefnogaeth pan fyddant yn cyrraedd a gadael y canolfannau. Mae ein partneriaeth gyda’r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yn gofalu bod cefnogaeth yn dal i gael ei rhoi drwy’r cyfnod ailsefydlu yn ôl gartref pan fyddant yn cael eu rhyddhau. Mae’r holl bobl ifanc sy’n rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid yn cael cynnig cefnogaeth drwy drefniadau lleol gyda’r timau troseddau ieuenctid, a hynny ym mhob rhan o Gymru.
Er mwyn helpu ag anghenion gyrfa’r person ifanc, rydym wedi bod yn rhoi gwybodaeth am yrfaoedd ar ffurf taflenni am swyddi a thaflenni sy’n rhoi gwybodaeth am y farchnad lafur. Pan fydd hynny’n briodol, mae cynghorwyr gyrfa
Cydweithio â phartneriaid er mwyn cefnogi’r bobl ifanc sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur
mwyn i Darren allu symud yn ei flaen ac ystyried syniadau eraill. Gyda chymorth y Tîm Troseddau Ieuenctid, dechreuodd y cleient dderbyn y byddai’r prosiect Symud Ymlaen - Moving Forward (SYMF) yn gallu ei helpu gyda’i sgiliau sylfaenol. Cyfeiriwyd y cleient at SYMF gan y Tîm Troseddau Ieuenctid, a oedd yn allweddol ac yn y sefyllfa orau i roi sylwadau am asesu risg. Rhoesom ninnau gymorth drwy roi manylion am yr anghenion dysgu ychwanegol a’r gofynion dysgu.
Mynychodd Darren asesiadau’n llwyddiannus a dechrau ar y rhaglen SYMF. Byddwn yn edrych ar y cynnydd y mae’n ei wneud yn ddiweddarach eleni.
Cyfarfu un o’n cynghorwyr â Darren* a’i dad ar dri achlysur ar safle’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Gwelwyd nad oedd gan Darren lawer o gymhelliant, hunanymwybyddiaeth na’r gallu i ymroi i waith. Ei brif rwystr oedd ei amharodrwydd i ystyried opsiynau eraill y tu hwnt i’r coleg, ynghyd â phroblemau gyda sgiliau sylfaenol nad oedd wedi rhoi sylw iddynt neu nad oedd yn eu cydnabod. Cafodd ein cynghorydd drafodaeth agored â’r cleient a’i dad am yr opsiynau a lefel y cwrs y gallai ymdopi ag ef. Cafodd cynllun gweithredu ei greu, gyda’r nod o ymweld â nosweithiau agored colegau er
7.5
* mae’r enw wedi’i newid er mwyn gwarchod pwy yw’r cleient
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
46
Llwyddodd Cynghorwyr Cyswllt Busnes Gyrfa Cymru i gynnal neu i greu 81 o bartneriaethau i gyd. Mae hyn yn golygu bod bron i 40% o’r ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru yn rhan o bartneriaeth Dosbarth Busnes gyda busnes lleol.
Mae model y Dosbarth Busnes yn golygu creu clystyrau bychan (un ysgol i bob cyflogwr) o fewn clwstwr ‘mwy’ sy’n cynnwys yr holl bartneriaethau yn yr ardal honno. Cafodd Gyrfa Cymru gryn lwyddiant eleni wrth drefnu digwyddiadau i’r clystyrau a oedd yn dwyn yr holl ysgolion Dosbarth Busnes a’r cyflogwr yn y rhanbarth ynghyd mewn un digwyddiad.
Cynhaliwyd un digwyddiad clwstwr o’r fath (CRE8) yn y Senedd ym Mae Caerdydd ym mis Ionawr 2017. Roedd y digwyddiad – i ddisgyblion Blwyddyn 9, ar y thema effeithlonrwydd ynni – yn cynnwys 8 o ysgolion o ardal Blaenau’r Cymoedd ynghyd â’r 8 o fusnesau cysylltiedig. Roedd cystadlaethau wedi’u cynnal yn yr 8 ysgol, a’r tîm buddugol o bob ysgol yn cyrraedd y rownd derfynol. Y dasg a roddwyd (sef tasg a gynlluniwyd gan Gynghorwyr Cyswllt Busnes Gyrfa Cymru) oedd marchnata cynnyrch yr oeddent wedi’i ddylunio’u hunain i arbed ynni.
Y tîm o ysgol uwchradd Cyfarthfa a gipiodd y wobr gyntaf, drwy gyflwyno syniad am gynnyrch tyrbin biomas sy’n defnyddio gwastraff bwyd o safleoedd masnachol/ysgolion i greu nwy methan, a hwnnw yn ei dro’n cael ei ddefnyddio i greu stêm sy’n troi tyrbin sy’n creu trydan.
Parhawyd i ddatblygu ein gwaith ar y cyd â Busnes yn y Gymuned er mwyn hyrwyddo, rheoli a hwyluso partneriaethau cynaliadwy a buddiol rhwng y byd addysg a’r byd busnes.
Mae Gyrfa Cymru (o dan drwydded gan Busnes yn y Gymuned) yn darparu’r rhaglen ‘Dosbarth Busnes’ sy’n ceisio creu partneriaethau a fydd yn para rhwng busnesau ac ysgolion. Drwy ddatblygu perthnasau mewn ffordd strwythuredig, mae’r rhaglen Dosbarth Busnes yn helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o fyd gwaith a’u hymwybyddiaeth o ddewisiadau gyrfa. Mae hynny’n helpu i’w datblygu yn “gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith” (Dyfodol Llwyddiannus, yr Athro Donaldson, Chwefror 2015).
Mae’r partneriaethau wedi’u seilio’n llwyr ar anghenion yr ysgolion a blaenoriaethau’r busnesau. Maent yn gymorth i drawsnewid bywydau pobl ifanc, gan ddatblygu gweithwyr talentog at y dyfodol.
Gan ddatblygu ar ein profiad yn ystod 2015-16, pan sefydlwyd 20 o bartneriaethau Dosbarth Busnes llwyddiannus gennym, eleni ein nod oedd creu 60 yn rhagor o bartneriaethau, gan greu cyfanswm o 80 ohonynt ledled Cymru.
Roeddem wedi ein syfrdanu gan barodrwydd a brwdfrydedd ysgolion a chyflogwyr i groesawu’r cyfle i gydweithio.
7.6 Gweithio gyda chyflogwyr ac ysgolion i hyrwyddo prentisiaethau
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
47
Digwyddiad Clwstwr Dosbarth Busnes – Her Dechnoleg
» Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga » Ysgol Gyfun St Cennydd
Gerbron Nick Smith, AS Blaenau Gwent, ac Alun Davies, AC, roedd yn rhaid iddynt roi cyflwyniad byr hefyd yn dangos eu strategaeth fusnes, y sgiliau a ddefnyddiwyd ganddynt i gwblhau bob tasg, a’r hyn a ddysgwyd o’r her. Cafodd y grwpiau eu barnu ar sail eu dyluniad, eu gwaith tîm a’r cyflwyniad, a’r tîm o Ysgol Gyfun St Cenydd a ddaeth i’r brig.
Rhoddwyd cyfle i bob myfyriwr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ddatblygu nifer o sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, cyllidebu a meddwl yn greadigol.
Drwy ddwyn clystyrau o ysgolion ynghyd, ein nod oedd rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau a fyddai’n eu galluogi i ddatblygu sgiliau personol a phroffesiynol.
Fel rhan o’n gwaith gydag ysgolion a busnesau o dan y rhaglen Dosbarth Busnes, trefnwyd cyfres o heriau LEGO a ddaeth i ben gyda digwyddiad yng Nghanolfan Addysg Eden yn Abertyleri. Yn ystod y digwyddiad, roedd disgyblion o bum ysgol yn ymgiprys i gyflawni cyfres o heriau gan ddefnyddio robotiaid addysg LEGO yr oeddent wedi’u dylunio a’u creu eisoes.
Dyma’r clwstwr o 5 ysgol:
» Ysgol Uwchradd Bedwas » Ysgol Gyfun y Coed Duon » Ysgol Lewis i Ferched
7.6 Gweithio gyda chyflogwyr ac ysgolion i hyrwyddo prentisiaethau
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
48
Mae adnoddau 2016-17 i athrawon wedi cael eu diweddaru. Mae’r rhain yn cyd-fynd bob amser â’r Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith.Mae’r adnoddau yn rhoi syniadau ymarferol a gweithgareddau y gall athrawon eu defnyddio wrth roi gwersi gyrfaoedd mewn cyd-destun addysg. Maent yn arbennig o ddefnyddiol i athrawon sy’n anghyfarwydd â’r cwricwlwm Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith, gan eu cyfeirio at rannau defnyddiol o’n gwefan lle mae gweithgareddau a gwybodaeth ar gael.
Datblygu’r adnoddau
Mae’r gwaith yn cynnwys:-
• Datblygu deunyddiau ar gyfer sesiynau sy’n gysylltiedig â’r dull mesur / cynnig;
• Mapio’r adnoddau ar gyfer y cyfeirlyfr adnoddau gyrfaoedd;
• Datblygu adnoddau ar gyfer y cynnig craidd;
• Diweddaru adnoddau sy’n cyd-fynd â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru;
• Datblygu a lansio’r adran i weithwyr proffesiynol ar gyrfacymru.com;
• Creu adnoddau i gyd-fynd â dewislen o wasanaethau i’w trafod gydag ysgolion, gan gynnwys llyfryn hyrwyddo newydd;
• Adnoddau Twf Swyddi Cymru / y System Paru Prentisiaethau; a
• Neilltuo amser sylweddol i ddatblygu adnoddau sy’n hyrwyddo’r cyhoeddiad ‘Golwg ar’, sy’n rhoi gwybodaeth am y farchnad lafur. Cyhoeddiad yw hwn sydd wedi’i greu ar y cyd â’r partneriaethau dysgu rhanbarthol yn y Gorllewin a’r Canolbarth ac yn y De-ddwyrain.
Hyfforddiant i Ddatblygu Capasiti
Rydym wedi darparu 386 o sesiynau hyfforddiant gyda sefydliadau partner. Mae’r pynciau wedi cynnwys:-
• Bagloriaeth Cymru;
• Y ‘cynnig’ 14-19;
• Uwchlwytho cyrsiau Cyfnod Allweddol 4 ar gyrfacymru.com;
• Cynlluniau Llwybrau Dysgu;
• Trosolwg o gyrfacymru.com – yr offer a’r adnoddau sydd ar gael;
• Gwybodaeth am y farchnad lafur;
• Sesiynau ar y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith; a’r
• Prosbectws Ardal Gyffredin.
At hynny, eleni aethom ati i hwyluso dros 100 o sesiynau hyfforddiant i athrawon yn gysylltiedig â’r prosiect Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd. Cyfarfodydd Ymgynghorol i Ddatblygu Capasiti
Aethom ati i hwyluso 945 o gyfarfodydd ymgynghorol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys:-
• Fforymau i gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, cydlynwyr ysgolion prif ffrwd a chydlynwyr gyrfaoedd Addysg Bellach;
• Cyfarfodydd penodol gydag ysgolion a cholegau i ddatblygu darpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith;
• Marc Gyrfa Cymru;
• Cyfarfodydd gyda’r consortia gwella ysgolion rhanbarthol;
• Cyfarfodydd i ddadansoddi anghenion y rhaglen Dosbarth Busnes; a
• Helpu ysgolion a cholegau i baratoi at arolygiadau Estyn.
7.7 Helpu i ddatblygu Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
49
Gwreiddio gwaith gyrfaoedd yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru
Helpu i ddarparu addysg gyrfaoedd drwy’r cwricwlwm ehangach
Mae’r adnoddau hyn yn ceisio gwreiddio gwaith gyrfaoedd yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan wella ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r farchnad lafur yn ogystal â gwella ac ychwanegu at eu sgiliau rheoli gyrfa. Mae cysylltiad agos rhwng yr heriau a’r adnoddau sydd ar gael ar gyrfacymru.com.
cwrs TGAU. Aethom ati hefyd i ddatblygu sesiwn hyfforddi a oedd yn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd addas ac yn tynnu sylw at fanteision ieithoedd tramor modern.
Cytunodd Amy Walters-Bresner, arweinydd ieithoedd tramor modern yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, y gallem gynnal y sesiwn yn un o gyfarfodydd rhanbarthol yr athrawon ieithoedd tramor modern. Mae’r adnoddau hefyd wedi’u rhoi i Llwybrau at Ieithoedd Cymru i’w defnyddio gyda’u rhanddeiliaid a’u partneriaid.
Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol ac ers hynny gofynnwyd inni a allem ddod o hyd i gyflogwyr addas i siarad â grŵp rhanbarthol yr athrawon ieithoedd tramor modern am gyfleoedd gyrfa yn y maes ieithoedd.
Rydym yn cydnabod bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyffrous sy’n rhoi dimensiwn newydd gwerthfawr i’r pynciau a’r cyrsiau sydd eisoes ar gael i fyfyrwyr rhwng 14 ac 19 oed.Rydym wedi creu prosiect ar gyfer Bagloriaeth Cymru ac mae CBAC wedi cymeradwyo’i ddefnydd. Rydym yn aros am gymeradwyaeth ar gyfer ‘Her Gymunedol’ a ‘Her Menter a Chyflogadwyedd’ a fydd ar gael ar wefan CBAC i bob ysgol eu defnyddio fel rhan o’r cymhwyster.
Fel rhan o’n gwaith i wreiddio dysgu am yrfaoedd drwy’r cwricwlwm, gwelsom fod ieithoedd tramor modern yn faes posibl i’w ddatblygu. Roedd y gostyngiad yn y nifer sy’n dewis astudio ieithoedd a chyflwyno’r TGAU newydd mewn ieithoedd tramor modern yn golygu ei bod yn amser da i ddatblygu capasiti athrawon ieithoedd tramor modern i gyfeirio dysgwyr at ffynonellau gwybodaeth am yrfaoedd.
Mapiwyd y fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn unol â’r meysydd ym manyleb y TGAU mewn ieithoedd tramor modern gan ganfod adnoddau gyrfaoedd y gellid eu defnyddio wrth addysgu’r
7.8 Adnoddau a HyfforddiantADDYSG A d r o d d i a d
B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
ASTUDIAETH ACHOS
50
Mae Marc Gyrfa Cymru yn achredu sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wella ansawdd eu darpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn barhaus. Mae’n rhaid i sefydliadau ymrwymo i gyflwyno gweithdrefnau penodol er mwyn sicrhau canlyniadau o ansawdd i’w dysgwyr, a dangos eu bod yn gwneud hyn.
Datblygwyd y Marc ar ôl cyflwyno’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith fel rhan o’r cwricwlwm
diwygiedig (2008). Yn ystod y flwyddyn bu i’n Cydlynwyr Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith hwyluso 167 o gyfarfodydd ymgynghorol ynghylch y Marc mewn ysgolion a cholegau, gan arwain at 12 o achrediadau newydd ac ailachredu 22 o sefydliadau. Hyd yma, mae dros 170 o sefydliadau yng Nghymru wedi ennill y Marc.
dull ysgol gyfan o weithredu.
Fe’n gwahoddwyd i roi hyfforddiant i 80 aelod o staff ar y Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith a phwysleisiwyd pa mor bwysig yw’r Marc fel modd o sicrhau darpariaeth o ansawdd da.
Roedd yr hyfforddiant yn cyd-fynd â’r gwaith o wreiddio darpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn y cwricwlwm, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau a digwyddiadau unigol. Dangosodd hyn sut y mae proses y Marc yn cael ei defnyddio fel modd o gyflwyno gwelliannau i’r cwricwlwm.
Cyfarfu cydweithwyr â staff yn Ysgol Bryn Eilian cyn y broses o ailachredu ar gyfer Marc Gyrfa Cymru. Roedd yr ysgol yn awyddus i gael unrhyw ganllawiau a fyddai’n helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno’n effeithiol.
Trafodwyd yr adnoddau a oedd ar gael er mwyn helpu i sefydlu Adran Gyrfaoedd, a’u cyfeirio at amrywiol adrannau ar ein gwefan. Rhoddwyd trosolwg i’w diweddaru am y Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith, ynghyd â thrafod Marc Gyrfa Cymru a’r math o weithgareddau a oedd eisoes yn cael eu cynnal. Roedd yr ysgol yn awyddus iawn i ddatblygu’r rhain a mabwysiadu
7.9 Marc Gyrfa CymruADDYSG A d r o d d i a d
B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
51
Parhaodd Gyrfa Cymru i helpu ysgolion i ddefnyddio’r Prosbectws Ardal Gyffredin er mwyn galluogi pobl ifanc ym Mlwyddyn 11 i weld yr holl gyrsiau ôl-16 sydd ar gael yn eu hardal. Yn ystod y flwyddyn, rhoesom 56 o sesiynau hyfforddiant a sesiynau ymgynghorol mewn ysgolion a cholegau yn gysylltiedig â’r Prosbectws Ardal Gyffredin. Fel yn y
blynyddoedd blaenorol, rydym yn arbennig o falch â’r gefnogaeth a roesom i ysgolion a cholegau yn nhymor yr hydref, ar ôl i bob sefydliad gael cais gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data am gyrsiau sy’n berthnasol i’r Prosbectws Ardal Gyffredin erbyn 31 Hydref.
7.10 Ymwybyddiaeth o’r Prosbectws Ardal Gyffredin
ADDYSG A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
52
Darparwyd prosiectau Ysbrydoli i Gyflawni, TRAC 11-24 a Cynnydd gyda chyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Roedd Gyrfa Cymru yn cael y cyllid hwn ar y cyd ag awdurdodau lleol a cholegau. Nod y prosiectau oedd lleihau’r risg na fyddai pobl ifanc rhwng 11 a 24 oed yn gwneud cynnydd i addysg, gwaith neu hyfforddiant.
Buom yn gweithio gyda 2,336 o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed drwy Gymru gan roi ystod o sesiynau un-i-un, sesiynau grŵp a sesiynau cysylltu â chyflogwyr, a hynny mewn ysgolion, colegau ac ar safleoedd cyflogwyr. Y nod oedd helpu i ysbrydoli a chymell y rheini a gymerodd ran i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial a lleihau’r
risg o adael yr ysgol yn gynnar heb wneud cynnydd cadarnhaol. Gall dod i gysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr a dysgu am yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan weithwyr yn y byd gwaith helpu pobl ifanc i weld bod yr hyn y maent yn ei wneud a’u hymddygiad yn yr ysgol yn gallu effeithio’n uniongyrchol ar eu cyfleoedd i gael gwaith yn y dyfodol.
Roedd y bobl ifanc yn croesawu’n arbennig y gwaith sy’n cael ei wneud yn uniongyrchol gyda chyflogwyr, ac mae nifer o’r cyfranwyr a aeth ar leoliad gwaith wedi mynd yn eu blaenau i ddilyn prentisiaethau, rhai ohonynt gyda’r un cyflogwr.
fel James yn gaffaeliad i’r cwmni, felly rwy’n falch bod Gyrfa Cymru wedi cysylltu â ni i drefnu’r lleoliad, sydd nawr wedi arwain at brentisiaeth iddo.”
Ysbrydoli i Gyflawni, TRAC, Cynnydd
Cytunodd David Harris, perchennog Cardiff Bay Truck Services, i dderbyn James, sy’n 16 oed, o dan y rhaglen Sbardun ar ôl inni gysylltu â’r cwmni i drefnu lleoliad gwaith. Ym mis Mawrth, cynigiwyd profiad gwaith deuddydd yr wythnos i James yn y garej, cyn i David weld ei botensial a chynnig prentisiaeth iddo yn y cwmni.
Gyda chymorth David a’n cynghorydd cyswllt busnes, cofrestrodd James ar gyfer prentisiaeth Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae bellach ar y trywydd iawn i gyflawni ei nod o fod yn fecanig. Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd David:
“Pan fydd pobl ifanc yn dod atom ni ar brofiad gwaith, rydyn ni’n gadael iddyn nhw gysgodi’r mecanyddion eraill er mwyn dysgu wrth weithio, gan edrych ar y gwahanol ddarnau o offer a dysgu sut i’w defnyddio’n iawn. Mae gweithwyr
Disgybl Sbardun Eastern High yn Llwyddo ar Leoliadau Profiad Gwaith Estynedig
Prosiectau Eraill a GyflawnwydADDYSG
7.11A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
Cafodd y prosiect Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd ei gyflwyno gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith fel opsiynau sydd gyfwerth ag astudiaethau academaidd. Roedd dau brif nod i’r prosiect -
» Codi ymwybyddiaeth o’r llwybrau gwahanol sydd ar gael i bobl ifanc sy’n pontio yn 16, 17 a 18 oed
» Helpu i roi’r un parch i’r gwahanol lwybrau yn llygaid y bobl ifanc, eu rhieni/gwarcheidwaid a phobl ddylanwadol eraill fel athrawon.
Yn unol â’n cenhadaeth a’n gweledigaeth, aethom ati’n llwyddiannus i ddarparu ystod o weithgareddau Cyfarwyddyd Gyrfa a Chyswllt â Chyflogwyr gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau rheoli eu gyrfaoedd a chyflawni eu llawn botensial.
Ar ran disgyblion, aethom ati i drefnu cyfleoedd newydd ac arloesol iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r byd gwaith gan ddatblygu eu diddordeb a’u gwybodaeth am brentisiaethau fel opsiwn arall realistig a dichonadwy, yn hytrach na dim ond astudiaethau academaidd yn yr ysgol.
Cefnogwyd dros 11,000 o bobl ifanc drwy ymyriadau un-i-un. Cymerodd dros 37,000 o bobl ifanc ran mewn gweithgareddau grŵp a chymerodd bron i 25,000 o bobl ifanc ran mewn 155 o ddigwyddiadau a arweiniwyd gan gyflogwyr ac a ddarparwyd drwy ystod o gyfryngau gwahanol.
Cafodd tua 9,500 o rieni wybodaeth, cyngor neu gyfarwyddyd gan Gynghorydd Gyrfa ar ran eu meibion neu eu merched yn ystod nosweithiau rhieni neu drwy gyflwyniadau a gweithdai, a mynychodd dros 500 o athrawon sesiynau hyfforddiant a ddarparwyd gan Gyrfa Cymru, gan ddatblygu eu gallu i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu hopsiynau ar gyfnodau pontio allweddol.
Fel y disgwyliwyd, eleni bu cynnydd o 30% yn y defnydd o’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau
ar y we. Rydym wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau i gyflogwyr a’n sesiynau gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd gyda phobl ifanc i’w cyfeirio at y defnydd o’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau, a threfnu iddynt ddefnyddio’r safle, pryd bynnag y bydd hynny’n addas.
Mae Gyrfa Cymru wedi gweithio gydag ystod o gyflogwyr a grwpiau a rhwydweithiau cyflogwyr er mwyn cyflawni amcanion y prosiect. Yn benodol, rydym wedi defnyddio ystod o gyfryngau’n llwyddiannus i roi cyfleoedd i bobl ifanc ddod i gysylltiad â chyflogwyr. Yn fwyaf nodedig, rydym wedi trefnu gweminarau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr a’r rheini’n galluogi pobl ifanc drwy Gymru i ryngweithio â chyflogwyr o sectorau amrywiol yn Saesneg ac yn Gymraeg ar yr un pryd.
Rydym wedi gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda busnesau, ysgolion, awdurdodau lleol a phrifysgolion er mwyn darparu ystod o Wyliau Gyrfaoedd amlwg mewn lleoliadau drwy Gymru, lle rhoddwyd cyfle i bron i 25,000 o bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol a gefnogwyd gan gyflogwyr.
Yn ogystal â gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc, rydym hefyd wedi gweithio i gefnogi’r bobl hynny sy’n dylanwadu arnynt. Rydym wedi creu adnoddau y gall athrawon eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth ynghylch opsiynau pobl ifanc ar gyfnodau pontio allweddol, ac wedi trefnu gweithdai a chyflwyniadau i rieni, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o brentisiaethau a chyfleoedd galwedigaethol eraill.
Mae’r prosiect Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd wedi galluogi Gyrfa Cymru i ddarparu gwasanaethau mewn partneriaeth ag ystod o gyflogwyr, grwpiau o gyflogwyr a rhwydweithiau cyflogwyr gan gynnwys GIG Cymru, ESTnet, CITB, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Llwybrau at Ieithoedd, yr Adran Gwaith a Phensiynau a sawl corff arall.
Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd
53
7.11 Prosiectau Eraill a GyflawnwydADDYSG A d r o d d i a d
B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
7.11 Prosiectau Eraill a GyflawnwydADDYSG
Ymwybyddiaeth o GyfleoeddBu ein rhaglen ymwybyddiaeth o brentisiaeth yn ymwneud â disgyblion drwy Gymru
54
Lluniau o ddigwyddiadau Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Rhyngweithio â Disgyblion Rhyngweithio â Rhieni
gyda
508 yn cymryd rhan
51 o ddigwyddiadau hyfforddiant i athrawon
Sesiynau Grŵp
11,400o gyfweliadau
wyneb yn wyneb
335o ysgolion
155o ddigwyddiadau
gyda
24,088yn cymryd rhan
37,103yn cymryd rhan
7,380o unigolion
o gynghorwyr gyrfayn gweithio amser llawn
20
o nosweithiau rhieni
549
o sesiynaurhyngweithio gyda rhieni
9,682
Mynychu
Gweminar y GIG Dywedodd athrawon fod ymwneud â chyflogwyr yn y fath fodd yn amharu llai ar ddiwrnod yr ysgol ac yn dod â chyflogwyr a disgyblion ynghyd mewn ffordd na fyddai efallai wedi bod yn bosibl pe bai’n rhaid teithio i leoliadau eraill.
Roedd GIG Cymru yn falch â’r cymorth a gawsant gan Gyrfa Cymru wrth drefnu a darparu’r sesiwn gweminar. Roeddent yn teimlo bod hyn wedi’u galluogi i gyfathrebu eu neges i gynulleidfa ehangach mewn ffordd arloesol - yn enwedig gan y bydd y weminar bellach ar gael ar gyrfacymru.com i eraill ei gweld. Maent wedi dechrau gwneud ymholiadau ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno gweminar arall, yn cynnwys mwy o ysgolion.
Yn ystod blwyddyn y prosiect Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd, rhoddodd Gyrfa Cymru sesiynau gweminar ar y cyd ag Airbus, Pŵer Niwclear Horizon a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
Gan ddatblygu ar lwyddiant y sesiwn gweminar ar ymarfer meddygol, aethom ati i gynllunio a darparu gweminar ar gyfleoedd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a hynny ym mis Mawrth 2016.
Y nod oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc mewn ysgolion am yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn GIG Cymru a’r cyfleoedd i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd. Buom yn gweithio gyda’r GIG hefyd i greu cyflwyniad Powerpoint rhyngweithiol a oedd yn ennyn diddordeb.
Roedd y sesiwn gweminar yn cynnwys cyflwyniad byw; clipiau fideo ‘diwrnod ym mywyd’; sawl cwis rhyngweithiol a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phanel o arbenigwyr o sawl rhan o’r GIG.
Cymerodd bron i 100 o ddisgyblion o 19 ysgol drwy Gymru ran yn y digwyddiad.
Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol.
7.11 Prosiectau Eraill a GyflawnwydADDYSG
55
Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
Dewiswch eich dyfodol – ‘Mae Prentisiaethau’n Gweithio’, Caerdydd
disgyblion ddefnyddio’r rhain. Fe’u defnyddiwyd i gasglu gwybodaeth gan y cyflogwyr y gallai’r disgyblion ei defnyddio fel tystiolaeth o’u cymwysterau.
Mae’r adborth cychwynnol wedi bod yn wych. Holwyd bron i 100 o ddisgyblion, a dywedodd 92% eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd am Brentisiaethau tra dywedodd 93% eu bod wedi dysgu pethau a fydd yn eu helpu gyda’u cynlluniau gyrfa. Mae’r adborth gan yr athrawon wedi bod yn gadarnhaol iawn hefyd – dywedodd Dawn Jayne-Manning o Ysgol Uwchradd Willows bod y “digwyddiad yn un proffesiynol iawn. Roedd yn brofiad gwych i’r disgyblion.” Dywedodd Sharon o Ysgol Uwchradd Gatholig St Illtyd ei bod yn “wych cael yr holl ddarparwyr a chyflogwyr i gyd o dan yr un to” a’i bod wedi “mwynhau gwylio’r disgyblion yn sgwrsio â’r cyflogwyr ac yn gofyn cwestiynau addas er mwyn cael gwybodaeth”.
Cynhaliwyd y digwyddiad gyrfaoedd hwn yn stadiwm bêl-droed Dinas Caerdydd a daeth dros 1,200 o ddisgyblion o 29 ysgol drwy’r rhanbarth iddo.
Gwahoddwyd holl ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 4 a 5 o ysgolion Caerdydd a Bro Morgannwg, ynghyd â myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Dewi Sant.
Roedd 70 o arddangoswyr yn bresennol, a chynhaliwyd gweithdai rhyngweithiol drwy gydol y digwyddiad. Rhoddodd Coleg Caerdydd a’r Fro gyflwyniad ynghylch deall prentisiaethau, gan roi sylw i brentis o Deloitte. Cynhaliodd darparwyr eraill ddosbarthiadau meistr/arddangosfeydd e.e. gweithdy barbwr byw, gweithdy STEM ac ati. Aethom ninnau ati i greu ‘Newyddion am Brentisiaethau’ gyda gwybodaeth am brentisiaethau a’r cyflogwyr a oedd yn bresennol yn cael eu chwarae ar ffurf bwletinau ar sgriniau teledu drwy’r lleoliad.
Cafodd llawlyfrau ar Fagloriaeth Cymru eu creu hefyd ac roedd yr athrawon yn awyddus iawn i’w
7.11 Prosiectau Eraill a GyflawnwydADDYSG
56
Dewiswch eich dyfodol
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
A n n u a l R e p o r t2 0 1 6 / 1 7
Careers Wales
Sub head
57
8.1 Y Farchnad Lafur
Cyflawniadau o Bwys
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
4,594
2,280
Cafodd data am statws cyflogaeth eu holrhain a'u rheoli gennym ar gyfer pob person
yng Nghymru, gan barhau i roigwybodaeth i
yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y rheini â’r angen mwyaf yn caelcefnogaeth effeithiol
Buom yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu
o gleientiaid di-waith 18+ oed wedi elwa o'r Porth Sgiliau Unigol i asesu eu sgiliau a chwilio am opsiynau gyrfa, drwy
o bobl ddi-waith 16-17 oed gennym a
o oedolion di-waith i gael swydd neu hyfforddiant
sgiliau
“canolfan ddata”,gan eingalluogi irannu mwy o ddata manwlam anghenion pobl ifanc
16-18 oed
bob Awdurdod Lleol
2,126 o gleientiaid wedi elwa o'n cefnogaeth i barhau’n rhan o ddysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth
Cefnogwyd
o unigolion gennyma oedd yn wynebu colli euswyddi, gyda
o geisiadauam gyllid yncael eucymeradwyo
(cyfradd lwyddo o 98%)
7,2613,400
4,575
25,144 o gleientiaid di-waith 16+ oed wedi elwa o gefnogaeth bersonol
o gyfweliadau unigol a chlybiau
swyddi
15,757
o boblddi-waith 16-17 oed wedi elwa o gefnogaeth bersonol, a honno wedi’i theilwra ar gyfer eu hangheniondrwy 15,201o sesiynau rhyngweithio
953
o sesiynau grŵp
Cefnogwyd
SkillsGatew
ayo bobl i ddefnyddio
er mwyn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd. O fewn
blwyddyn, roedd
wedi cael canlyniad cadarnhaol
‘Sgiliau i Lwyddo’
466
27,163
16-18 oed
1393Cofrestrodd
58
Gweithio gyda phartneriaid
Rydym yn parhau i roi data i bartneriaid ynghylch statws ymgysylltu pobl ifanc ac yn benodol data am y bobl ifanc hynny nad ydynt yn barod ar gyfer addysg, gwaith na hyfforddiant. Mae llawer o bethau’n rhwystro’r bobl ifanc hyn rhag ymgysylltu, ac mae angen cymorth proffesiynol arnynt er mwyn goresgyn y rhwystrau hynny. Rydym yn parhau i roi’r wybodaeth hon i awdurdodau lleol gan roi gwybod am fylchau yn y ddarpariaeth.
Bu inni barhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc ddi-waith sy’n cyfrannu at Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Buom yn gweithio gydag ystod o Awdurdodau Lleol ar brosiectau a digwyddiadau cyffrous:
» Cefnogi’r digwyddiad “Ymgysylltu ag Ieuenctid Gwynedd”;
» Y cwrs blas ar swyddi a ddarparwyd mewn partneriaeth ag Awdurdod Lleol Gwynedd, Coleg Meirion Dwyfor a Wynne Construction;
» Cefnogi cynllun peilot newydd i adolygu’r modd y caiff pobl ifanc eu cyfeirio at ddysgu seiliedig ar waith yn Nhorfaen a Sir Ddinbych;
» Digwyddiad yn edrych ar gyfleoedd mewn bywyd i’r rheini sy’n gadael yr ysgol yng Nghaerffili;
» Bod yn rhan o “Banel Prif Ymarferwyr” ym Merthyr, sef panel amlasiantaeth sy’n helpu pobl ifanc yn haenau 1 a 2, ac yn cynnwys yr awdurdod lleol, Cymunedau am Waith ac Ysbrydoli i Gyflawni; a
» Gyrfa Cymru yn cynnal cyfarfod o grŵp amlasiantaeth yn Sir Gâr, gyda’r nod o edrych ar y systemau gwybodaeth reoli sydd ar gael i wella’r modd y caiff pobl eu cyfeirio rhwng asiantaethau partner.
8.2 Cymorth i gleientiaid 16 ac 17 oed yn y Farchnad Lafur
Y FARCHNAD LAFUR
Pobl Ifanc sy’n dilyn cyrsiau Dysgu Seiliedig a Waith/mewn Gwaith a’r rheini sy’n cyrraedd 18 oed
Ch4
Cleientiaid 16/17 oed Haen 3 yn gwneud cynnydd drwy ddechrau hyfforddiant
Cleientiaid yn dechrau gwaith Ymgysylltu i Hyfforddeion 2379
Cleientiaid yn dechrau Hyfforddiant – Lefel 1 246
Nifer y cleientiaid a gyfeiriwyd at Hyfforddiant 2404
Cleientiaid 16/17 oed Haen 3 yn gwneud cynnydd drwy ddechrau mewn gwaith
Yn Cael eu Cyflogi drwy Brentisaieth 60
Mewn gwaith – gyda hyfforddiant (ac eithrio Prentisaiethau) 123
Mewn gwaith – dim hyfforddiant 592
Mewn gwaith – Twf Swyddi Cymru 3
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
59
Gwasanaethau i gleientiaid
Mae ein gwasanaethau yn ceisio sicrhau bod y rheini sy’n 16 ac 17 oed ac yn ddi-waith yn ailgydio mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant drwy ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a rheoli gyrfa. Yn ogystal â pharhau i gynnal amrywiaeth o weithgareddau wyneb yn wyneb a gweithgareddau grŵp ar gyfer pobl ifanc ddi-waith, roeddem yn llwyddiannus wrth weithio mewn ffyrdd mwy arloesol er mwyn ymgysylltu â’r grŵp hwn o gleientiaid. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys cyfres o stondinau gwib “Wyt ti’n barod am waith?” ar y stryd fawr. Nod y digwyddiad oedd hyrwyddo cyfleoedd lleol mewn addysg, gwaith a hyfforddiant ymhlith pobl ifanc, gan roi cyngor ymarferol ynghylch sut i fod yn llwyddiannus wrth wneud cais am gyfleoedd.
Darparu cyfleoedd Gyrfaoedd a Gwaith
Mae Gyrfa Cymru yn cynnal digwyddiadau cynnydd unigryw sy’n diwallu anghenion pobl ifanc ddi-waith yng Nghaerdydd.
Un enghraifft oedd y Ffair Cyfleoedd Ôl-16. Roedd yn gyfle i gleientiaid di-waith sgwrsio yn uniongyrchol â darparwyr hyfforddiant lleol a Choleg Caerdydd a’r Fro er mwyn darganfod mwy am gyfleoedd dysgu ôl-16. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Gyrfaoedd Caerdydd ac roedd Cynghorwyr Gyrfa ar gael i roi cyfarwyddyd a chymorth. Anogwyd y cleientiaid i gyflwyno ceisiadau’n uniongyrchol i’r coleg. Roedd yr holl ddarparwyr hyfforddiant lleol yn bresennol gan gynnwys Academi Sgiliau ACT, MPCT, ITEC Training, ISA Hair and Beauty, Ymddiriedolaeth Dinas Caerdydd ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. Roedd cyfle hefyd i gael hwyl, gan gynnwys ciciau o’r smotyn, ymarferion milwrol, cyngor am drin gwallt a harddwch, a’r cyfle i gyfarfod â rhai o’r anifeiliaid o’r cwrs gofalu am anifeiliaid. Roedd raffl hefyd gyda chyfle i ennill teithiau o amgylch Stadiwm Dinas Caerdydd, tocynnau gêm a nwyddau eraill. Bu ein Hanogwyr Cyflogadwyedd yn cynnal gweithdai ar gyfleoedd gydol y diwrnod.
8.2 Cymorth i gleientiaid 16 ac 17 oed yn y Farchnad Lafur
Y FARCHNAD LAFUR A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
60
8.3 Oedolion di-waith sy’n dilyn rhaglen Porth Sgiliau Unigol Llywodraeth Cymru
Y FARCHNAD LAFUR
Mae’r Porth Sgiliau i Oedolion wedi datblygu a thyfu dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn parhau i roi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd o ansawdd da i oedolion di-waith, ac yn eu helpu’n llwyddiannus i ddechrau mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant. Newidiodd y gwasanaeth 25+ i gynnwys cleientiaid rhwng 18 a 24 oed o ddiwedd mis Mai tan ddiwedd mis Awst 2016. Buom yn gweithio hefyd gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi mwy o gymorth i oedolion yn ystod y bwlch byr rhwng rhaglenni cyflogadwyedd i oedolion, gan ymwneud â 1,500 o gleientiaid ychwanegol.
Rydym wedi cefnogi 15,757 o gleientiaid wrth i’r rhaglen eu helpu i asesu eu hanghenion sgiliau, edrych ar gyfleoedd gyrfa a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cymorth a’r ddarpariaeth sydd ar gael. Rydym wedi cynnal 27,163 o sesiynau rhyngweithio wyneb yn wyneb drwy gyfweliadau sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd a thrwy 953 o sesiynau grŵp ar gyflogadwyedd. Yn ogystal â rhoi cymorth wyneb yn wyneb, mae llawer o waith dilynol hefyd wedi’i wneud gyda chleientiaid dros y ffôn a thrwy ryngweithio digidol.
Cyfeiriwyd 5,508 o’r cleientiaid a gafodd gymorth naill ai at gyrsiau addysg/hyfforddiant neu at sefydliadau partner er mwyn rhoi rhagor o help iddynt fynd i’r afael â rhwystrau nad ydynt yn gysylltiedig â sgiliau. Aeth 3,483 o’r cleientiaid y bu inni weithio gyda hwy yn eu blaenau i gael gwaith. Cafodd 4,317 o gleientiaid gymorth i greu CV hefyd.
Fe gefais y swydd a dechrau’n ffurfiol ar 14 Tachwedd. Diolch am eich holl gymorth, help ac anogaeth. Fe wnaeth wahaniaeth gwirioneddol.
Fe gefais i’r swydd! Fe fyddaf yn cychwyn ar y 29ain. Byddaf yn dod yn ôl i Gaerdydd dros y misoedd nesaf ac rwy’n gobeithio cael cyfle i ddiolch ichi’n bersonol. Mae eich cymorth chi wedi bod yn werthfawr tu hwnt ac ni fyddaf yn anghofio hyn. Diolch o galon.
Rhywfaint o adborth – roedd trafod y cyfweliad â chi yn ddefnyddiol dros ben, diolch ac rwy’n gwerthfawrogi eich help. Fe ges gynnig y swydd felly mae’n rhaid fod hyn wedi gwneud gwahaniaeth. Rwyf wedi cynghori fy mab yng nghyfraith i gysylltu i gael cymorth gyda thechnegau cyfweld.
Diolch eto am eich amser heddiw. Rydych chi’n gwneud eich gwaith yn dda iawn – fe ddes allan yn teimlo wedi fy ysbrydoli!
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ADBORTH GAN GLEIENTIAID
61
0.0
Mae gweithio mewn partneriaeth yn sicrhau canlyniadau
y prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Gwnaed apwyntiad iddi yn y swyddfa gyrfaoedd er mwyn cyfarfod â’r cynghorydd Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth lleol. Cofrestrwyd Paulina ar y prosiect a chanfuwyd mai’r ffaith nad oedd ganddi dystysgrif hylendid bwyd oedd un o’r rhwystrau pennaf a oedd yn ei hatal rhag cael gwaith. Roedd modd i’r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth ei helpu a threfnwyd iddi ddilyn cwrs Diogelwch Bwyd Lefel 2 gyda darparwr hyfforddiant lleol, yn ogystal â’i helpu gyda chostau trafnidiaeth a gofal plant tra’r oedd hi’n cael hyfforddiant. Trefnwyd hefyd i Paulina gael profiad gwaith er mwyn gwella’i CV. O ganlyniad i waith a chefnogaeth y cynghorydd gyrfa a’r cynghorydd Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, llwyddodd Paulina i gael swydd amser llawn fel Cynorthwyydd Cegin.
Drwy gydol y flwyddyn rydym wedi parhau i wneud llawer o waith mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Byd Gwaith yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol a lleol eraill. Rydym yn creu cysylltiadau â sefydliadau partner er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i’r cleient, er enghraifft:
Cyfarfu’r Cynghorydd Gyrfa â Paulina* am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2016 pan gyfeiriwyd hi atom gan y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn asesu ei gofynion o ran sgiliau ac edrych ar ei hopsiynau gyrfa. Roedd Paulina yn rhiant sengl heb unrhyw rwydwaith i’w chefnogi, ac roedd gofal plant yn rhwystr gan mai dim ond yn ystod oriau ysgol y gallai weithio gan fod angen iddi ddanfon a chasglu ei phlentyn o’r ysgol. Roedd Paulina wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith blaenorol ond nid oedd ganddi unrhyw gymwysterau ffurfiol. Roedd hi wedi gwneud cais am sawl swydd ond heb lwyddiant. Gweithiodd y Cynghorydd Gyrfa gyda hi i ganfod ei sgiliau, ei phrofiad a’i diddordebau gyrfa, ac i ddod o hyd i unrhyw fylchau. Fe’i cefnogwyd i greu CV penodol ar gyfer y diwydiant arlwyo. Oherwydd ei phroblemau gyda gofal plant, rhoddwyd gwybod i Paulina y gallai gael cymorth gan
8.3 Oedolion di-waith sy’n dilyn rhaglen Porth Sgiliau Unigol Llywodraeth Cymru
Y FARCHNAD LAFUR
* mae’r enw wedi’i newid er mwyn gwarchod pwy yw’r cleient
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
62
mewn cysylltiad â hi er mwyn ei hannog a’i chymell i fod yn bresennol, a’r nod oedd y byddai’n gwneud cynnydd gyda’i chymwysterau yn y coleg. Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae Shannon bron â chwblhau ei TGAU Saesneg ac ar fin dechrau astudio Mathemateg. Mae hi wedi mwynhau’r cwrs yn arw ac yn teimlo’n gadarnhaol iawn am ei dyfodol. Diolchodd i’n cynghorydd dros y ffôn am yr holl anogaeth a’r gefnogaeth a gafodd i gychwn arni, a theimlai na fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai iddi ymweld â Gyrfa Cymru.
Roedd Shannon* yn dioddef o bryder ac iselder, a bu hynny’n ei hatal rhag ymwneud â’r byd addysg/gwaith am nifer o flynyddoedd. Cyfarfu cynghorydd gyrfa â hi sawl gwaith dros gyfnod o fisoedd i ganolbwyntio ar feithrin hyder a’i helpu i wneud cynnydd gyda’i chynlluniau gyrfa. Roedd Shannon yn hunanymwybodol iawn gan nad oedd hi wedi ennill cymwysterau TGAU, ac roedd hi’n brin o hunanhyder. Fe’i hanogwyd i ddefnyddio un o’n hadnoddau er mwyn asesu lefelau ei llythrennedd a’i rhifedd. Dyma oedd y cyfle cyntaf iddi’i gael i ystyried ei gallu ei hun. Drwy ganlyniadau ei phrofion, gwelsom y byddai’n elwa o gwblhau cyrsiau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, er mwyn ei pharatoi at addysg bellach, sef rhywbeth yr oedd hi am ei gyflawni mewn coleg. Daethom o hyd i gyrsiau addas i oedolion, ond roedd hi’n betrusgar iawn ynghylch y rhain. Cadwodd ein cynghorydd
0.08.3 Oedolion di-waith sy’n dilyn rhaglen Porth Sgiliau Unigol Llywodraeth Cymru
Y FARCHNAD LAFUR
* mae’r enw wedi’i newid er mwyn gwarchod pwy yw’r cleient
Meithrin hyder a gwneud cynnydd
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
63
Buom yn gweithio gyda 4,594 o bobl a oedd yn wynebu colli eu swydd, gan roi 147 o gyflwyniadau grŵp ar safleoedd a chreu 2,860 o Gynlluniau Gweithredu.
Bu tîm o gynghorwyr yn gweithio gyda chyflogwyr ac unigolion a oedd yn wynebu colli eu swydd yng Nghymru er mwyn eu helpu i ganfod llwybrau gyrfa gwahanol, eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial yn y farchnad lafur, a gweinyddu’r rhaglen ReAct ar ran Llywodraeth Cymru. Yn sgil y dull penodol hwn o weithio mewn tîm, bu inni allu ymateb yn gyflym i golli swyddi’n annisgwyl neu ar raddfa fawr, ble bynnag y digwyddodd hynny yng Nghymru.
Mae cynghorwyr ReAct yn aml yn cael eu hanfon i ardaloedd lle mae angen yng Nghymru er mwyn rhoi sylw i golli swyddi ar raddfa fawr a helpu i reoli llif gwaith dyddiol ReAct yn ein canolfannau yn yr ardaloedd dan sylw. Bu’n cynghorwyr hefyd yn gweithio drwy’r nos er mwyn sicrhau bod gweithwyr shifft a oedd yn wynebu colli’u swyddi yn gallu cael cymorth ar y safle ar adeg ac mewn lle a oedd yn gyfleus iddynt hwy. Gall wynebu cael eich diswyddo fod yn brofiad brawychus a heriol i’r rhan fwyaf o bobl, felly mae staff Gyrfa Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r anawsterau a’r problemau cymaint ag y bo modd i bobl ar yr adeg anodd hon.
Mae’r tîm ReAct yn hynod wybodus a phrofiadol wrth helpu cleientiaid i ddygymod â cholli eich swydd, yn enwedig drwy brosesau ceisiadau ReAct – roedd 98% o’r holl geisiadau i ReAct yn llwyddiannus, sy’n gynnydd o 86% yn 2015-16.
Aethom ati i werthuso ein gwasanaethau ar ddiwedd y flwyddyn, ac roedd y canlyniadau yn gadarnhaol iawn:
» Drwyddi draw, cytunai 96% fod cyswllt â Gyrfa Cymru wedi helpu i wella ystod o gymwyseddau rheoli gyrfa, sy’n gynnydd ar y ffigur o 79% yn 2015/16;
» cytunai 98% fod cyswllt â Gyrfa Cymru wedi eu helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael drwy gyllid ReAct, sy’n gynnydd ar y ffigur o 81% yn 2015/16;
» cytunai 96% fod cyswllt â Gyrfa Cymru wedi eu helpu i ddeall sut i ddefnyddio eu sgiliau a’u rhinweddau personol yn y farchnad swyddi neu yn eu gyrfaoedd – cynnydd arall ar y ffigur o 81% yn 2015/16;
» cytunai 96% fod cyswllt â Gyrfa Cymru wedi eu cymell yn well i gyflawni eu hamcanion gyrfa a dysgu, sy’n gynnydd ar y ffigur o 73% yn 2015/16; a
» cytunai 97% fod cyswllt â Gyrfa Cymru wedi eu helpu i wneud penderfyniadau doethach am eu cynlluniau gyrfa a dysgu, sy’n gynnydd ar y ffigur o 60% yn 2015/16.
Gwelsom fod meysydd eraill y gallem eu gwella ymhellach, a chymerwyd camau i fynd i’r afael â’r rhain. Roedd yr amseroedd aros am apwyntiadau ReAct yn amrywio drwy Gymru, o 0 i 14 diwrnod, felly cyflwynwyd system wirio gennym er mwyn ‘rhagweld’ amseroedd aros. Mae’r system yn rhoi adroddiadau am amseroedd aros i reolwyr, a hynny bob pythefnos. Gellir symud cynghorwyr wedyn i’r ardaloedd lle mae’r amseroedd aros yn hir, er mwyn gweld cleientiaid ReAct a chwtogi’r amseroedd aros.
Gweithio gyda phartneriaid
Mae’r dull o weithio mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau/y Ganolfan Byd Gwaith yn dal i fod yn llwyddiant, gyda chyflwyniadau ar y cyd yn cael eu rhoi i weithwyr y mae diswyddiadau’n effeithio arnynt. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Undebau Llafur a chyflogwyr sy’n dileu swyddi.
0.08.4 Oedolion sydd â risg o golli eu swydd, neu sy’n wynebu’r sefyllfa honno
Y FARCHNAD LAFUR
64
Ymyrryd drwy ReAct
rhoddwyd rhagor o gefnogaeth ac anogaeth drwy gyswllt dros e-bost. Gwnaeth gais i ReAct am gyllid i ddilyn cwrs ‘Certified Java Associate’ a chafodd sesiynau ffug-gyfweliad.
Adborth gan Jack: Newyddion da sydd gen i. Ces gynnig swyddi gan ddau gyflogwr ar ôl fy nghyfweliadau bythefnos yn ôl. Yn y diwedd, mater o beidio â chynhyrfu a bod yn hyderus oedd hi, gan siarad gyda’r rheini oedd yn fy nghyfweld fel cydweithwyr, yn hytrach na thrin y peth fel arholiad. Rwy’n hapus iawn ac roeddwn i am ddiolch ichi am yr holl help a gefais gennych chi dros y misoedd diwethaf.
Collodd Jack ei swydd ym mis Hydref. Roedd wedi gweithio i’r cwmni am tua blwyddyn fel datblygwr meddalwedd. Cyn hyn bu’n gweithio i gwmni gwahanol am 15 mlynedd ac roedd wedi ymgeisio am y swydd newydd er mwyn gwneud cynnydd yn ei yrfa. Roedd colli ei swydd wedi effeithio’n arw ar ei hyder ac wedi’i arwain i ddechrau amau ei sgiliau a’u allu yn y maes, ac i ystyried newid gyrfa. Roedd Jack yn llwyddiannus iawn wrth gael cynnig cyfweliadau, ond roedd wedi bod i sawl cyfweliad heb lwyddo i gael swydd, ac roedd hyn yn gnoc i’w hyder. Crybwyllodd ei fod wedi perfformio’n wael mewn prawf seicometrig ar gyfer un cwmni, yn sgil ei ‘feddylfryd negyddol’.
Edrychodd Jack a’r cynghorydd ar yr opsiwn o ddilyn cyrsiau hyfforddi gyda chyllid gan ReAct er mwyn gwella’i wybodaeth ac ennill cymhwyster ffurfiol a fyddai’n ei helpu i feithrin mwy o hyder yn ei sgiliau. Trafodwyd technegau cyfweld hefyd, a threfnu sesiynau ffug-gyfweliad er mwyn ei helpu i feithrin hyder mewn cyfweliadau. Fe’i gwelwyd dros sawl sesiwn a
Oedolion sydd â risg o golli eu swydd, neu sy’n wynebu’r sefyllfa honno
Y FARCHNAD LAFUR
0.08.4
* mae’r enw wedi’i newid er mwyn gwarchod pwy yw’r cleient
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
ADDY
SGY FARCH
NAD LAFUR
9.0
65
Gweithio mewn Partneriaeth
215 o ysgolion uwchradd prif ffrwd25 o ysgolion arbennig
Y 4 Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella YsgolionBusnes yn y Gymuned
Colegau Cymru Seicolegwyr Addysg
Y Byrddau Iechyd LleolUnedau Atgyfeirio
DisgyblionY Bwrdd Cyfiawnder Troseddol – Y Tîm
Troseddau Ieuenctid
Y Sefydliad Siartredig Datblygu PersonélYr Adran Gwaith a PhensiynauY Ffederasiwn Busnesau Bach
Gwasanaethau Carchardai a Phrawf Ei MawrhydiY Ganolfan Byd Gwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli TroseddwyrGwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol CymruGrŵp Cynghori Dysgu Troseddwyr
Carchardai yng NghymruCynghorau Sgiliau Sector
Siambr Fasnach De CymruSefydliadau elusennol a’r trydydd sector
Cwmni Adsefydlu CymunedolSiambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru
Darparwyr dysgu seiliedig ar waithGwasanaeth Ieuenctid
22 Awdurdod Lleol14 Coleg a Sefydliad Addysg Bellach
Yr Adran Addysg a Sgiliau Cyflogwyr
Y Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol y De-orllewin a’r CanolbarthGwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol CymruCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Bu inni barhau i weithio gyda rhwydwaith eang o bartneriaid. Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau arbenigol ar gael i gleientiaid pan fydd angen y rheini arnynt.
Mae gweithio’n agos gyda phartneriaid a datblygu prosesau sy’n fuddiol i’r naill ochr a’r llall wedi ein galluogi i wneud y defnydd gorau un o’n hamser a’n hadnoddau.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
66
10.0 StaffOchr yn ochr â’r weledigaeth strategol newydd a geir yn Newid Bywydau, drwy gydol 2016- 17 rydym wedi bod yn bwrw golwg ar ein diwylliant fel sefydliad er mwyn sicrhau bod hwnnw’n briodol wrth gyflwyno datblygiadau i’r modd yr ydym yn cyflawni yn y dyfodol. Er mwyn ail-lunio ein gwerthoedd fel sefydliad a sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag anghenion ein holl weithwyr, ac er mwyn diwallu anghenion cleientiaid yn y ffordd orau bosibl, aethom ati i gynnal ymgynghoriad eang ymhlith staff drwy’r holl gwmni.
Ar sail y gwaith a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, daeth grwpiau o staff ynghyd i roi gwybod inni beth oedd cryfderau ein sefydliad yn eu tyb hwy, a’r hyn y byddent yn dymuno’i newid. Cymerodd dros 25% o’r staff ran yn yr ymgynghoriad ac yn ei sgil lluniwyd Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiad gennym sy’n adlewyrchu’r diwylliant yr hoffai staff ei weld yn y sefydliad. Mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu crynhoi o dan dri pennawd bras, sef Pobl, Gwella, a Gyda’n Gilydd. Mae’r rhain yn ymwneud â themâu gweithio gyda phobl, ceisio gwella’n barhaus, a gweithredu fel tîm. Bydd y fframwaith yn cael
ei gyflwyno i gyd-fynd â’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2017 a lansiad Newid Bywydau mewn ysgolion, a’r nod fydd sicrhau bod y gwerthoedd yr ydym am eu gweld yn y sefydliad yn cael eu hadlewyrchu o ddifrif yn niwylliant y sefydliad. Fel cyflogwr bydd Gyrfa Cymru yn gwneud y canlynol:
1. Ceisio creu man cynhwysol i weithio ynddo, lle nad yw nodweddion personol unigolyn yn creu rhwystrau iddo mewn unrhyw elfen o’i waith.
2. Sicrhau bod pob polisi, gweithdrefn a strategaeth yn adlewyrchu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth Gyrfa Cymru.
3. Disgwyl i’r holl staff drin ei gilydd gydag urddas a pharch.
4. Disgwyl i’r holl staff sicrhau eu bod yn ymwybodol o faterion cydraddoldeb a’u bod yn ysgwyddo cyfrifoldeb am eu gweithredoedd fel unigolion ac ar y cyd.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
A n n u a l R e p o r t2 0 1 6 / 1 7
Careers Wales
67
HeadingHeading
SECTION NAME
0.0
Sub head
Test test test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
Staff
Nifer y staff yn ôl band cyflog
0
50
100
150
200
250
300
350
Gradd 1
Gradd 2
Gradd 3
Gradd 4
Gradd 5
Gradd 6
Gradd 7
Gradd 8
Gradd 9
Gradd 10
Prif W
eithre
dwr
Rhyw
75.3%o Fenywod
24.7%o Wrywod608
Cyfanswm nifer y staff
60%Bron
o staff yn ymwneud â darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd ar y rheng flaen
Gweithwyr rhan-amser
Mae oriau wedi’u haddasu yn llai poblogaidd ymhlith gweithwyr gwrywaidd na benywaidd – mae 33% o weithwyr benywaidd yn gweithio oriau wedi’u haddasu o’i gymharu ag 11% o weithwyr gwrywaidd. Gan edrych ar broffil oedran y rheini sydd wedi dewis gweithio oriau wedi’u haddasu, mae menywod o dan 45 oed yn fwy tebygol o ddewis oriau wedi’u haddasu, tra bo dynion dros 50 yn fwy tebygol o gwtogi eu horiau, er mai dim ond cyfran fechan o’r holl weithwyr gwrywaidd sy’n gwneud hyn.
34.9%36.0%Y cwmni
Yr Holl Gwmni
% yr holl staff rhan-amser
2015-2016 2016-2017
Proffil oedran % o gyfanswm y staff
16-24 0.5%
25-34 9.6%
35-44 37.6%
45-54 32.8%
55-64 18.1%
65+ 1.5%
289Cynghorwyr
Gyrfa
(48% o staff)67
AnogwyrCyflogadwyedd
(11% o staff)
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dewis iaith
Ar 31 Mawrth 2017, y pwynt isaf ar y graddfeydd cyflog oedd £9.09 yr awr. Ar 1 Ebrill 2017, cynyddodd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i £7.50 yr awr, er mai argymhelliad Sefydliad Cyflog Byw y DU ar gyfer ardaloedd y tu allan i Lundain yw £8.45 yr awr ar hyn o bryd. Mae hyn wedi’i seilio ar y cyfraddau Cyflog Byw go iawn sy’n cael eu cyfrifo'n annibynnol, ar sail yr hyn y mae gweithwyr a'u teuluoedd ei angen i fyw. Gweler y tabl isod.
Cyn trafod setliad cyflogau CCDG ar gyfer 2017/18, mae’r gweithiwr ar y cyflog isaf yn ennill £1.59 yr awr yn fwy na’r isafswm statudol a £0.64 yr awr yn fwy nag argymhelliad y Sefydliad Cyflog Byw. Fodd bynnag, nid oes unrhyw weithwyr ar hyn o bryd ar y pwynt isaf ym Mand 1.
Rydym wedi gofyn i bob gweithiwr enwebu ei ddewis iaith ar gyfer cyfathrebu’n ysgrifenedig gyda’r tîm Adnoddau Dynol. Mae 33 (5.4%) o weithwyr wedi dewis cael llythyrau, contractau, negeseuon e-bost ac ati yn Gymraeg.
67
10.0A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
A n n u a l R e p o r t2 0 1 6 / 1 7
Careers Wales
68
HeadingHeading
SECTION NAME
0.0
Sub head
Test test test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
68
Staff10.0A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Hunaniaeth Genedlaethol:
Disgrifiad*
Gwyn
Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gogledd Iwerddon/Prydeinig 530Gwyddelig 3Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig 0Unrhyw gefndir Gwyn arall 5
Nifer ynHunanddatgan
Canran yrYmatebwyr %
Cymysg / grwpiau ethnig lluosog
Gwyn a Du Caribïaidd 0Gwyn a Du Affricanaidd 0Gwyn ac Asiaidd 0Unrhyw gefndir Cymysg / Cefndir ethnig lluosog arall 1Asiaidd / Asiaidd Prydeinig
Indiaidd 0Pacistanaidd 0Bangladeshaidd 0Tsieineaidd 0Unrhyw gefndir Asiaidd arall 0 0Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig
Affricanaidd 0Caribïaidd 4Unrhyw gefndir Du / Affricanaidd / Caribïaidd arall 2Grŵp ethnig arall
Arabaidd 0Unrhyw grŵp ethnig arall 0
16Yn dymuno peidio â dweud neu heb ymateb
94.50.500.9
0000.2
0000
00.70.4
002.9
* Y disgrifiadau hyn yw codau presennol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr ar sail Cyfrifiad y DU yn 2011. Gofynnwyd i ymatebwyr ddewis y disgrifiad a oedd agosaf at eu hunaniaeth genedlaethol.
A n n u a l R e p o r t2 0 1 6 / 1 7
Careers Wales
69
HeadingHeading
SECTION NAME
0.0
Sub head
Test test test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text test text text text
Staff
69
10.0
Yng Nghymru, mae gofyniad penodol i gyrff cyhoeddus gasglu ystadegau am gyfran y gweithlu sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Mae gofyn i gyrff cyhoeddus gyhoeddi’r data hwn yn flynyddol, cyn belled nad yw’n datgelu pwy yw unigolion. Y diffiniadau canlynol yw’r rhai a gymeradwyir gan Stonewall. Gofynnwyd i ymatebwyr ddewis y diffiniad a oedd yn gweddu orau iddynt, ond cydnabyddir y gall fod sawl disgrifiad arall sy’n gyffredin.
Mae’r Cwmni wedi colli 5.2% o ddiwrnodau gwaith cynhyrchiol yn sgil absenoldeb salwch. O’r ffigur hwn, absenoldebau o lai na 20 niwrnod a oedd yn gyfrifol am 2% o’r cyfnod.
Anabledd
Cyfeiriadedd Rhywiol
Ailbennu Rhywedd Absenoldeb Salwch
Mae’r Cwmni wedi cyflwyno rhaglen o gynlluniau iechyd a llesiant sy’n ceisio helpu gweithwyr drwy brosesau newid. Mae’r rhaglen wedi cael ei chroesawu hyd yma, ac wedi rhoi sylw i nifer o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd drwy ddulliau cyfathrebu mewnol. Dangosodd arolwg iechyd a llesiant gan People Insights fod y sgôr llesiant ymhlith ein gweithwyr, yn gyffredinol, yn uchel. Er bod hyn yn beth da, sgôr isel a gafodd llesiant o ran iechyd meddwl, pryder ariannol a diffyg cwsg, ac roedd angen mynd i’r afael â hyn. Mae gan y Cwmni gynllun gofal iechyd sy’n cynnig cwnsela bob awr o’r dydd dros y ffôn i weithwyr, a chwnsela wyneb yn wyneb os bydd galw. Mae modd i weithwyr gael cymorth gan y tîm Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell er mwyn ymdopi â newid, ond ar hyn o bryd ni fu unrhyw gynnydd yn nifer y cwynion cyflogaeth.
Cynllun Iechyd a Llesiant
Staff benywaidd sydd aganabledd (wedi’ihunanddatgan)
1.21.1
0.2
0.53.9
93.0
Canran ynhunanddatgan
Deurywiol
Dyn hoyw
Dynes hoyw/lesbiaidd
Heterorywiol/strêt
Arall
Yn dymuno peidio â dweud
Diffiniad
20
% o’r holl nifer (benywod) 4.4
Staff gwrywaidd sydd aganabledd (wedi’ihunanddatgan)
12
% o’r holl nifer (gwrywod) 8
Nid oes yr un gweithiwr wedidatgan ei fod wedi ailbennu rhywedd.
5893 5835
2015-16 2016-17
Diwrnodau a gollwydoherwydd absenoldebsalwch:
491 486
2015-16 2016-17
Cyfartaledd nifer ydiwrnodau gwaitha gollwyd bob mis:
9.6 9.7
2015-16 2016-17
Cyfartaledd nifer ydiwrnodau a gollwydgan bob gweithiwr:
192o weithwyr heb fod yn
absennol oherwydd salwch
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
70
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
11.0
Parhaodd Gyrfa Cymru i roi ein Strategaeth Ystadau bum mlynedd ar waith yn llwyddiannus. Rydym bellach wedi cau ein swyddfa weinyddol yn Nhŷ Glyn, swyddfa a oedd yn ddrud i’w chynnal, ac wedi symud y Brif swyddfa i swyddfa Caerdydd yn 53 Heol Siarl. Rhoesom hysbysiadau hefyd er mwyn gadael ein swyddfeydd yn Charnwood, Tonypandy, Shotton a’r Wyddgrug yn ystod y flwyddyn. Mae’r holl staff wedi’u hadleoli i safleoedd eraill Gyrfa Cymru. Bydd cau’r swyddfeydd hyn yn arwain
at arbedion mewn costau rhent yn unig o tua £270,000.
Gwerthwyd hefyd un o’n heiddo a oedd ar rydd-ddaliad, sef 33 Heol Siarl yng Nghaerdydd, a hynny ym mis Mawrth 2017. Bydd yr arian a gafwyd yn sgil hyn yn cael ei ddefnyddio i barhau i roi’r strategaeth ystadau ar waith yn 2017/18. Mae gan Gyrfa Cymru bellach 38 o safleoedd ar ei ystâd, ac mae wyth o’r rhain ar rydd-ddaliad.
Ystadau
71
12.0 Effaith ar yr Amgylchedd
Mae Gyrfa Cymru wedi parhau i fonitro ein heffaith ar yr amgylchedd gan ddefnyddio system rheoli amgylcheddol sydd wedi galluogi’r cwmni i roi strategaeth ar waith ar gyfer gwella drwy’r holl ystâd. Llwyddodd y cwmni i gadw gwobr Lefel 2 y Ddraig Werdd yn ystod y flwyddyn, ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu ei brosesau ymhellach yn hyn o beth.
Gwnaethom gynnydd sylweddol wrth leihau defnydd yn yr holl feysydd sy’n berthnasol wrth fesur ein heffaith amgylcheddol, gan gynnwys milltiroedd busnes, trydan, nwyon tŷ gwydr, dŵr a nwy. Caiff data monitro ar gyfer y meysydd hyn eu casglu’n fisol. Rydym yn cynnal archwiliad ac asesiad o’r effaith amgylcheddol ddwywaith y flwyddyn ym mhob swyddfa, gan gyfarfod â’r rheolwyr lleol er mwyn adolygu perfformiad eu swyddfeydd. Mae gan y cwmni hefyd “dîm gwyrdd” a chyfarfu’r tîm hwn ddwywaith yn
ystod y flwyddyn i adolygu’r cynnydd a wnaed tuag at y targedau. Cyhoeddwyd data hefyd ar ffurf tablau cynghrair er mwyn annog gwelliant drwy’r holl gwmni.
Mae gan bob un o’n swyddfeydd gyfrifoldeb i greu cod eco unigryw ac i bennu eu targedau eu hunain ar gyfer lleihau allyriadau CO2. Mae’r codau eco hyn wedyn yn cyfrannu at strategaeth gyffredinol y cwmni.
Yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18, mae’r cwmni wedi ymrwymo i fabwysiadu’r prosesau sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud cais am wobr Lefel 3 y Ddraig Werdd. At hynny, mae’r cwmni wrthi’n adolygu pob swyddfa o safbwynt bioamrywiaeth er mwyn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
2,990,000
Dŵr a ddefnyddiwyd (litrau)
Busnes (milltiroedd)
Trydan a ddefnyddiwyd (khw)
Nwy a ddefnyddiwyd (khw) Nwyon tŷ gwydr (tunelli o CO2)
3,399,000 2,897,000
2014-2015 2015-2016 2016/2017
2014-2015 2015-2016
2014-2015 2015-2016 2016/2017
2014-2015 2015-2016 2016/2017
2014-2015 2015-2016 2016/2017
1,014,9281,179,211
922,977
1,0591,2681,231
1,184,887 895,771 846,956
2,064,1551,945,909
2016/2017
922,977
72
13.0
Rydym yn parhau i weithio’n unol â’n hymrwymiad bod gwasanaethau’n cael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal, a hynny drwy alluogi’r cyhoedd i ddewis pa iaith y maent yn ei ffafrio wrth ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn, ein gwefan, ein gwasanaethau ar-lein a dulliau digidol eraill, yn ogystal ag wrth ymwneud yn bersonol â ni.
Mae Gyrfa Cymru yn cydnabod gwerth y Gymraeg mewn cyd-destun addysg ac wrth ddangos pwysigrwydd sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae gan ein gwefan ystod eang o adnoddau sydd ar gael yn y naill iaith a’r llall, a’r rheini’n rhoi gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd ynghyd â gwybodaeth am y farchnad lafur. Lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, mae’r adnoddau hyn yn dangos pryd y bydd sgiliau yn y Gymraeg yn ofynnol mewn sectorau cyflogaeth. Yn ogystal â’n hadnoddau ar-lein a’r broses o ddatblygu ein cynnig digidol, yn ystod y flwyddyn aethom ati i gomisiynu pedwar fideo rhith-realiti sydd ar gael yn y ddwy iaith, a’r rheini’n tynnu sylw at sectorau penodol. Buom hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid i greu fideos dwyieithog ar gyfer y we. Fel rhan o’n gweledigaeth strategol, byddwn yn ehangu’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig i gynnwys cyfweliadau fideo, a’r rheini hefyd ar gael yn newis iaith y cyhoedd.
Y Cynllun Iaith Gymraeg a Safonau’r Gymraeg
2017 yw’r flwyddyn olaf inni weithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg. Bu hon yn flwyddyn o wreiddio, atgyfnerthu a monitro prosesau a gweithdrefnau a gyflwynwyd ers 2014. Rydym wedi gwneud nifer sylweddol o welliannau yn ystod y tair blynedd er budd y cyhoedd yng Nghymru, yn ogystal â’n gweithwyr ein hunain. Byddwn yn cael yr hysbysiad cydymffurfio terfynol ym mis Medi 2017 a byddwn wedyn yn gweithio tuag at weithredu Safonau’r Gymraeg sy’n benodol berthnasol i ni.
Y GymraegA d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
73
14.0 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cymru sy’n ariannu’r rhan fwyaf o’n gwaith wyneb yn wyneb gyda chleientiaid yn yr ystod oedran hwn a hynny drwy’r rhaglen Porth Sgiliau Unigol ar gyfer unigolion di-waith a ReAct ar gyfer y rheini sydd mewn gwaith ond â risg o gael eu golli eu swydd, neu pan fydd hynny wedi digwydd.
Addysg statudol (blwyddyn 11) Ymhlith y grŵp hwn y bu’r cynnydd mwyaf; y ganran bellach yw 56.25% ar gyfer 2016-17 o’i gymharu â 32.09% yn 2015-2016. Mae hyn yn adlewyrchu’r newid graddol mewn pwyslais wrth inni weithio mwy gyda chleientiaid mewn ysgolion, a bydd hyn yn parhau wrth gyflwyno’r datblygiadau a geir yn ein strategaeth ar gyfer 2017-20.
Mae cryn ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod gwasanaethau Gyrfa Cymru yn cael eu rhoi i unigolion mewn ffordd sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae’r gwasanaeth a gynigiwn yn cael ei gategoreiddio yn unol â diben y broses ryngweithio. Gall hyn gynnwys gwybodaeth, cyngor neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. Gan fod Gyrfa Cymru yn darparu’r gwasanaethau hyn mewn ffyrdd gwahanol, yn unol â’r angen, y galw neu’r gwasanaethau sydd ar gael, nid yw’r dull na’r math o wasanaeth a gynigir yn cael ei nodi yn yr ystadegau.
Pobl 25 i 60+ oed
Bu mymryn o ostyngiad yng nghanran y cleientiaid yn yr oedran hwn sy’n defnyddio ein gwasanaethau (o 25.5% i 23.87%). Llywodraeth
Ni fydd proffil oedran yr unigolion y mae Gyrfa Cymru yn gweithio gyda hwy yn cyd-fynd ag ystadegau’r boblogaeth gyfan, a hynny oherwydd natur y cylch gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi inni.
5.9456.26
13.93
10023.87
Rhyw
Mae ystadegau Cyfrifiad 2011 yn dangos mai cyfanswm poblogaeth Cymru oedd 3.06 miliwn, gyda 49% yn wrywod a 51% yn fenywod.
Mae ffigurau ‘Cymru Gyfan’ Gyrfa Cymru ar draws pob categori yn dangos mewn gwirionedd bod mwy o wrywod na benywod wedi parhau i ddefnyddio ein gwasanaethau unwaith eto yn 2016-2017.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Canran
Addysg Statudol Blwyddyn 11
Addysg Ôl-statudol 15-17
Cyfanswm
18-24
25-60+
74
Yn ystod 2016-17, diwygiodd Gyrfa Cymru ei ddull o gofnodi rhyw er mwyn galluogi unigolion i roi ‘arall’ neu ‘ddim yn dymuno datgan’, ac mae 0.1% o’r holl boblogaeth sy’n cael gwasanaeth gan Gyrfa Cymru yn perthyn i’r categorïau hyn. (Gweler yr astudiaeth achos).
50.9952.76
56.2154.29
48.9647.23
43.7245.59
0.050.1
0.070.12
18-24
25-60+
Gwryw %
Benyw %
Arall %Cymru
14.0 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cymhariaeth â 2015-2016
18-24
25-60+
51.18%50.79%53.76%54.56%
48.82%49.21%46.24%45.44%
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Addysg Statudol Blwyddyn 11
Addysg Ôl-statudol 15-17
Addysg ôl-statudol 15-17
Addysg statudol Blwyddyn 11
Gwryw Benyw
75
Male %
Female %
Other %
14.0 Cydraddoldeb ac AmrywiaethA d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Ethnigrwydd Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 95.6% o boblogaeth Cymru yn bobl Wyn (cyfanswm) gyda’r gweddill yn dweud eu bod yn perthyn i grwpiau ethnig eraill.
O blith y cleientiaid y mae gennym wybodaeth am eu hethnigrwydd, mae canran uchaf y cleientiaid sy’n defnyddio gwasanaethau Gyrfa Cymru yn dal i ddisgrifio’u hunain yn bobl Wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig) neu’n Wyn Gwyddelig neu’n Wyn o fath arall, ac adlewyrchir hyn yn gyson ym
mhob un o’r rhanbarthau ac ar draws yr holl gategorïau oedran.
Yn achos cleientiaid nad oes gwybodaeth am ethnigrwydd ar gael ar eu cyfer, mae’n uwch ymhlith y grŵp oedran 25-60+ (38.48%).
Dywedodd 5.6% o’r holl gleientiaid a ddefnyddiodd ein gwasanaethau drwy Gymru eu bod yn perthyn i grwpiau ethnig eraill. Mae’r canrannau mwyaf yn rhanbarth de canol, sy’n cynnwys Caerdydd, ac mae hyn yn gyson ar draws yr holl grwpiau oedran (bob un tua 11%).
Gwyn: Cymreig, Saesnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon, Prydeinig
Gwyn: Gwyddelig neu Arall 8.15Grwpiau Ethnig Eraill 6.16
74.34
Dim gwybodaeth am ethnigrwydd 11.37
Cymru %
Gwyn: Cymreig, Saesnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon, Prydeinig
Gwyn: Gwyddelig neu Arall 3.03Grwpiau Ethnig Eraill 6.30
72.33
Dim gwybodaeth am ethnigrwydd 18.34
Cymru %
Gwyn: Cymreig, Saesnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon, Prydeinig
Gwyn: Gwyddelig neu Arall 3.23Grwpiau Ethnig Eraill 6.52
79.26
Dim gwybodaeth am ethnigrwydd 11.00
Cymru %
Gwyn: Cymreig, Saesnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon, Prydeinig
Gwyn: Gwyddelig neu Arall 4.82Grwpiau Ethnig Eraill 3.45
53.25
Dim gwybodaeth am ethnigrwydd 38.48
Cymru %
76
14.0 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Anabledd
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 20% o oedolion oedran gweithio yn byw gydag anabledd. O blith y rhain, mae 14.8% ohonynt yn byw gydag anabledd sy’n cyfyngu ar eu gwaith, a 5.4% yn byw gydag anabledd nad yw’n cyfyngu ar eu gwaith. O blith y cleientiaid sy’n defnyddio gwasanaethau Gyrfa Cymru, yn y de-ddwyrain y mae’r gyfran uchaf sy’n cael addysg statudol ym mlwyddyn 11 (5.85%), ac mae’r un peth yn wir am y grŵp 15-17 oed sy’n cael addysg statudol (8.06%). Yn achos y grŵp dros 25 oed (11.05%), yn ardal y de canol y mae’r gyfran uchaf o ddefnyddwyr.
Dyma ranbarthau Gyrfa Cymru
Y Gogledd: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy,Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam.
De-orllewin Cymru: Ceredigion, Powys,Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe.
De Canol: Rhondda Cynon Taf, Merthyr,Pen-y-bont, Caerdydd, Bro Morgannwg.
Y de-ddwyrain: Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy.
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Addysg Statudol Blwyddyn 11 5.04%
Cymru
7.94%
9.45%
8.90%
Addysg Ôl-statudol 15-17
18-24
25-60+
Y Gogledd
Y De-ddwyrain
Y De Canol
Y De-orllewin
77
14.0 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
sy’n eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus a rhoddwyd sylw i hyn wrth godi ymwybyddiaeth o fewn y sefydliad. O ganlyniad, rhoddwyd hyfforddiant i 378 o weithwyr Gyrfa Cymru drwy Gymru, a hynny gan arweinydd prosiect Traws*Newid Cymru. Gyrfa Cymru a hwylusodd yr hyfforddiant.
Fel rhan o gynllun Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y cwmni ar gyfer 2016-2017, llofnododd Gyrfa Cymru y siarter Traws*Newid Cymru, gan ymrwymo i newid y modd y mae gweithwyr Gyrfa Cymru yn cefnogi cleientiaid nad ydynt yn fodlon â’r disgrifiad o’r rhyw a roddwyd ar eu cyfer, neu gleientiaid nad ydynt yn dymuno datgan eu rhyw. Newidiwyd ein dulliau o storio a chofnodi data, gan gynnwys newid ein ffurflenni, ac mae cleientiaid sy’n defnyddio gwasanaethau Gyrfa Cymru yn gallu dewis peidio â’u disgrifio’u hunain yn wrywaidd nac yn fenywaidd.
At hynny, gyda help arweinydd Traws*Newid Cymru Youth Cymru, ymgynghorodd Gyrfa Cymru gyda phobl ifanc ynghylch y prif heriau
Siarter Traws*Newid Cymru
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
ASTUDIAETH ACHOS
79
Llywodraethu Corfforaethol
Bwrdd CCDG sy’n gyfrifol am lywodraethu CCDG ac am gydymffurfio â’r cod llywodraethu corfforaethol. Gwaith y Bwrdd yw bodloni’i hun bod strwythur llywodraethu priodol wedi’i sefydlu a sicrhau bod y cwmni’n gweithredu’n unol â’r fframwaith polisi a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gan y bwrdd 13 o aelodau sy’n dod o gefndiroedd amrywiol.
Adroddiadau Pwyllgor
Mae pob un o dri phwyllgor y cwmni yn cael adroddiadau gan Uwch Dîm Rheoli’r cwmni a thrafodir y rhain yng nghyfarfodydd y pwyllgorau, gan adrodd yn ôl yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
Rheoli Risg
Bwrdd y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am reoli risg. Mae’r cwmni wedi cynnal asesiad cynhwysfawr o’r risgiau y mae’n eu hwynebu. Mae’r prif risgiau wedyn yn cael eu cofnodi yng Nghofrestr Risg y cwmni. Bydd y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg a’r Uwch Dîm Rheoli yn adolygu’r gofrestr hon yn rheolaidd. Mae’r risgiau’n cael eu blaenoriaethu drwy Fatrics Risgiau, gan roi proffil risg i bob un wedyn yn unol â’r effaith a pha mor debygol yw’r risg o ddigwydd. Mae’r Gofrestr Risg hefyd yn cynnwys rhestr o’r camau ataliol y dylid eu cymryd yn achos pob risg a nodwyd, ynghyd â’r cynlluniau wrth gefn a’r camau gweithredu y dylid eu cymryd i leihau effaith digwyddiad fel bod y risg ar lefel is, ac i adfer y sefyllfa pe bai
Penododd y Bwrdd dri Phwyllgor o fewn ei Gylch Gorchwyl er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau a chael y sicrwydd angenrheidiol i ddangos bod arferion llywodraethu da wedi’u sefydlu. Dyma’r Pwyllgorau:
unrhyw argyfwng yn digwydd.
Y prif risgiau y mae’r cwmni wedi’u hwynebu yw rheoli gostyngiadau yn y gyllideb yn y dyfodol, rhoi’r weledigaeth Newid Bywydau ar waith, a chyflwyno newidiadau i seilwaith gwefan gyrfacymru.com.
Y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg a luniodd y Strategaeth Archwilio Mewnol, a chafodd y strategaeth hon ei hadolygu gan y Bwrdd. Dyma’r meysydd a gafodd eu harchwilio yn ystod y flwyddyn: cydymffurfiaeth â rheoliadau’r gyflogres; y strategaeth ystadau; llywodraethu a rheoli risg; technoleg gwybodaeth; cydymffurfiaeth â Deddf yr Iaith Gymraeg; adolygiad o asedau sefydlog; caffael; a rheoli’r gyllideb. Dangosodd yr adroddiadau yn sgil y gwaith Archwilio Mewnol bod gwelliannau wedi bod yn y cwmni. Cafodd rhai meysydd, fel y gyflogres, sgôr sylweddol. Cyflwynwyd yr adroddiadau ar y gwaith archwilio mewnol gan yr archwilwyr i’r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg, ac yna adroddodd y Pwyllgor yn ôl i’r Bwrdd.
Mae gan y Bwrdd Gadeirydd, sef Dr D Williams, a hyd at 13 o Gyfarwyddwyr eraill sy’n cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru. Caiff cydnabyddiaeth ariannol ei rhoi ar gyfer swydd y Cadeirydd, ac mae’r Prif Weithredwr hefyd yn un o’r Cyfarwyddwyr. Mae’r Bwrdd wedi cyfarfod bedair gwaith eleni.
Y Pwyllgor Cyllid,
Archwilio a Risg
Y Pwyllgor Materion
Pobl a Chyflogau
Y Pwyllgor Perfformiad
ac Effaith
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
81
Datganiadau Ariannol
Cyfrifon Statudol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 >>
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Our Business ModelVision, Mission, ValuesOur Services4
EDRYCH YMLAEN
Adroddiad Blynyddol 2016/17
17/18
83
Edrych Ymlaen
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at nifer o enghreifftiau sy’n dangos sut y mae Gyrfa Cymru yn datblygu ei wasanaethau yng nghyd-destun “Newid Bywydau – Gweledigaeth ar gyfer Gyrfa Cymru”. Mae’r weledigaeth yn datblygu ar yr adolygiad strategol annibynnol a gynhaliwyd gan PwC ac a ystyriodd y dystiolaeth ryngwladol ynghylch darparu gwasanaethau gyrfaoedd ochr yn ochr â’r cyd-destun economaidd a pholisi yng Nghymru ac adborth gan randdeiliaid.
Gweledigaeth ar gyfer cyfnod o dair blynedd yw “Newid Bywydau” a bydd gwaith i wreiddio ei phrif elfennau yn ganolog i bob datblygiad yn 2017-18.
Gwella gallu a darpariaeth ddigidol - Mae defnyddio technoleg i ehangu mynediad ac ennyn diddordeb defnyddwyr yn flaenoriaeth, ond law yn llaw â hyn bydd gennym Strategaeth Trawsnewid Digidol sy’n edrych ar y modd yr ydym yn gweithio, y sgiliau y mae eu hangen ar staff, y seilwaith a’r dechnoleg a ddefnyddiwn drwy’r sefydliad, a sut y gallwn ddefnyddio data i helpu cleientiaid a sefydliadau partner. Bydd Trawsnewid Digidol yn sail i bopeth a wnawn, gan gadw arbenigedd proffesiynol a sgiliau staff i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cleientiaid, a’r rheini’n cael eu darparu gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys cymorth wyneb-yn-wyneb.
Dyma’r prif flaenoriaethau ar gyfer ein gwasanaethau:
Cynnig newydd i bobl ifanc - Roedd rhanddeiliaid o blaid dull ataliol lle bydd Gyrfa Cymru yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau i ystyried eu gyrfa yn y dyfodol ac i wneud penderfyniadau effeithiol. Dros y flwyddyn nesaf, bydd model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau yn cael ei gyflwyno. Bydd y “Model Darganfod Gyrfa” yn golygu parhau i ddatblygu gwasanaethau digidol, gan gynnwys gyrfacymru.com, y defnydd o negeseuon testun a negeseuon e-bost, gweminarau a fideos, ynghyd â chyfraniad cyflogwyr, gan gyfuno hynny â chymorth wyneb-yn-wyneb gan ein cynghorwyr gyrfa sydd wedi cymhwyso’n broffesiynol.
Ysbrydoli pobl ifanc 16-18 oed - Mae gan y grŵp hwn o bobl ifanc benderfyniadau pwysig i’w gwneud, ac mae angen iddynt ymgysylltu â’r byd dysgu a’r byd gwaith. Ymhlith y datblygiadau
ar eu cyfer y mae datblygu gwasanaeth digidol. Bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu dros y ffôn, drwy sgyrsiau ar-lein a Skype, a bydd ymgyrchoedd yn cael eu cynnal mewn meysydd o bwys. Bydd tîm arbennig o staff, sef y Tîm Darganfod Digidol, yn cael ei greu i ddatblygu a chyflwyno ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.
Cefnogi oedolion i fynd yn ôl i weithio - Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r fframwaith cyngor a chyfarwyddyd i bobl yn y farchnad lafur sy’n 16+ oed.
Atebion i Sefydliadau Partner - mae gan Gyrfa Cymru rôl wrth helpu i ddatblygu arbenigedd a dealltwriaeth o’r broses o ddatblygu gyrfaoedd ymhlith y sefydliadau niferus sy’n helpu pobl ifanc i ystyried eu dyfodol. Yn y flwyddyn nesaf, bydd gwaith o bwys yn cynnwys treialu cymhwyster newydd i arweinwyr gyrfaoedd, a datblygu modiwlau a deunydd yn yr adran i weithwyr proffesiynol ar Gyrfacymru.com
Cysylltu â Busnesau - Mae cryfhau’r modd y mae ysgolion yn dod i gysylltiad â chyflogwyr drwy Gymru yn flaenoriaeth. Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i weithio ar ddatblygu a chyflwyno’r Gyfnewidfa Addysg Busnes, sy’n galluogi busnesau yng Nghymru i ddangos sut y maent yn barod i helpu ysgolion, ac yn galluogi ysgolion i gysylltu â’r busnesau hynny.
Rydym yn credu y bydd “Newid Bywydau” yn cael effaith gadarnhaol ac yn help i gyflawni’r amcanion yn Newid Bywydau.
» Mwy o effeithlonrwydd mewn marchnadoedd llafur drwy leihau achosion o baru sgiliau yn anghywir
» Lleihau nifer y rheini sy’n gadael ac yn symud o’r naill beth i’r llall mewn addysg a hyfforddiant ôl-16
» Cynnydd yn nifer y rheini sy’n dilyn prentisiaethau
» Helpu asiantaethau eraill i dargedu eu hadnoddau
» Sicrhau bod Cwricwlwm newydd Cymru yn paratoi pobl ifanc at y byd gwaith
» Cynyddu lefelau cyfranogiad a chyrhaeddiad mewn addysg a hyfforddiant
Newid Bywydau - Gweledigaeth ar gyfer Gyrfa Cymru 2017-2020
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
84
Edrych YmlaenY Model Darganfod Gyrfa
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Nodi diddordebau gyrfa, lefelau cymhelliant a sgiliau rheoli gyrfa drwy offer ar-lein a phrofion seicometrig.
DIAGNOSIS
Prawf seicometrig ar-lein
DIGIDOL
Diagnosis rheoli gyrfa
Sesiynau grŵp rheoli gyrfa
WYNEB YNWYNEB
Defnyddio sianelau digidol, yn cynnwys gyrfacymru.com a chyfryngau cymdeithasol i ddod â gyrfaoedd yn fyw drwy storïau gyrfaoedd, proffiliau cyflogwyr, offer, adnoddau a chynnwys cyfoethog arall i ysbrydoli a hysbysu.
DARGANFOD
Cynnwys ac offer rhyngweithiol ar gyrfacymru.com
Gwybodaeth Gyrfaoedd aGML yn cael ei lledaenu drwy gyfryngau cymdeithasol
Ymgyrchoedd a sesiynau cyngor aml-sianel ar faterion gyrfa allweddol
Hwyluso sesiynau holi ac ateb ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
DIGIDOL
Sesiynau grŵp dan arweiniad cyflogwyr
Profiad gwaith
Bagloriaeth Cymru a gwersi ABCh
WYNEB YNWYNEB
Rhaglen ddigidol genedlaethol wedi’i chyfuno â gwasanaethau lleol wyneb-yn-wyneb sy’n cael eu cyflwyno gan ein tîm Cynghorwyr Gyrfa sydd wedi’i alluogi’n ddigidol.
CYFLWYNO
Anogaeth a chefnogaeth parhaus gan Gynghorydd Gyrfa sydd wedi’i alluogi’n ddigidol
Rhaglen genedlaethol o weminarau gyda mewnbwn gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol a sefydliadau allweddol o sectorau penodol
“Gwthio” GML a chynnwys sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd i unigolion drwy e-bost a thestun
Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gan ddefnyddio testun ac e-bost
Canllawiau “Sut i” a GML ar-lein ac offer hunangymorth rhyngweithiol
DIGIDOL
Hyfforddiant gyrfa Un-i-Un
Gweithdai galwedigaethol pwrpasol
Clinigau a gwib gymorthfeydd
WYNEB YNWYNEB
85
Geirfa
Anghenion Dysgu YchwanegolADY
Prosiect a gyflwynwyd drwy arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop wedi’i anelu at leihau’r risg na fydd pobl ifanc rhwng 11-24 oed yn symud ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant.
Cynnydd
Rhaglen lwyddiannus sy’n adeiladu partneriaethau parhaol rhwng busnesau ac ysgolion yw Dosbarth Busnes. Mae’r partneriaethau hynny wedi’u seilio’n gadarn ar anghenion yr ysgol a blaenoriaethau’r busnes.
Dosbarth Busnes
Yr arolwg blynyddol o ymadawyr ysgol a gynhelir gan Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi ciplun defnyddiol o gyrchfannau disgyblion ar ôl gadael yr ysgol sy’n llywio staff gyrfaoedd yn eu gwaith gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.
Cyfrifiad o Hynt Disgyblion
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Cyfnod Allweddol 4 yw’r term cyfreithiol ar gyfer y ddwy flynedd o addysg ysgol sy’n cynnwys TGAU, ac arholiadau eraill, mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru—fel arfer, cânt eu hadnabod fel Blwyddyn 10 ac 11 yng Nghymru, pan fydd disgyblion rhwng 14 ac 16 oed.
Cyfnod Allweddol 4
Cymhwyster wedi’i achredu a’i sefydlu’n swyddogol a ddarperir gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yw Bagloriaeth Cymru.
Bagloriaeth Cymru
Rhaglenni ar gyfer myfyrwyr uwchradd ac ôl-uwchradd sy’n darparu cyfleoedd i gyflawni cymwyseddau’n gysylltiedig â chyflogaeth yn y gweithle. Ymgymerir â dysgu seiliedig ar waith yn aml i gyd-fynd â dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu ddysgu cysylltiedig, a gall fod ar ffurf lleoliadau gwaith, profiad gwaith, mentora yn y gweithle, cyfarwyddyd mewn cymwyseddau cyffredinol yn y gweithle a chyfarwyddyd eang ym mhob agwedd ar ddiwydiant.
Dysgu seiliedig ar waith
Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yw prif offeryn ariannol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cefnogi cyflogaeth yn aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â hyrwyddo cydlyniant economaidd a chymdeithasol.
ESF
Caiff y fframwaith arolygu cyffredin ei ddefnyddio ar gyfer yr holl arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn
86
Geirfa
Cronfa ddata gwybodaeth cleientiaid Gyrfa CymruIO
Gwybodaeth Marchnad Lafur.GML
Heb fod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant.NEET
Fframwaith rheoli ac olrhain data i helpu i leihau ystadegau NEET yng Nghymru.
Model Ymgysylltu Pum Haen
Rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n cynnig mynediad hawdd i unigolion sydd am gael mynediad i gymorth sgiliau.
Porth Sgiliau Unigol
ReAct yw’r trydydd cylch o’r Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau (ReAct), sef rhaglen gyllid ar gyfer hyfforddiant sy’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru i bobl sy’n byw yng Nghymru sy’n wynebu cael eu diswyddo.
Prosiect ReAct
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
System recriwtio rhad ac am ddim ar-lein sy’n helpu cyflogwyr ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer prentisiaethau a chyfleoedd i brentisiaid uchelgeisiol mewn busnes sy’n iawn iddyn nhw.
Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Cynllun a gweledigaeth strategol tair blynedd ar gyfer Gyrfa Cymru sy’n amlinellu’r hyn rydym eisiau ei gyflawni.
Newid Bywydau
Rhestr lawn o’r holl gyfleoedd addysg ar gyfer blynyddoedd 12 a 13 sydd ar gael ar gyrfacymru.com wedi’i hanelu at fyfyrwyr.
Prosbectws Ardal Gyffredin
Ymchwil a wneir gan Gyrfa Cymru ymhlith disgyblion i bennu ble maent arni o ran cynllunio eu dyfodol.
Gwirio Gyrfa
Mae’r ‘Marc’ yn ddyfarniad a gynlluniwyd gan Gyrfa Cymru i gydnabod ymrwymiad i wella ansawdd yn barhaus mewn sefydliad addysgol i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru a bennir yn Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11-19 oed yng Nghymru.
Marc Gyrfa Cymru
87
Geirfa
Prosiect a gyflwynwyd drwy arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop wedi’i anelu at leihau’r risg na fydd pobl ifanc rhwng 11-24 oed yn symud ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant.
TRAC
A d r o d d i a d B l y n y d d o l2 0 1 6 / 1 7
Gyrfa Cymru
Cyfle chwe mis mewn swydd sy’n talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ariennir Twf Swyddi Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Twf Swyddi Cymru (JGW/TSC)
Prosiect i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith fel dewisiadau amgen sy’n gywerth ag astudiaethau academaidd.
Ymwybyddiaeth o Gyfleoedd
Project delivered with European Social Funding which aimed to reduce the risk of young people aged between 11-24 years not progressing into employment, education or training.
Ysbrydoli i Gyflawni
Mae’r Tîm Troseddau Ieuenctid yn dîm amlasiantaeth a gaiff ei gydlynu gan awdurdod lleol, a oruchwylir gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae’n delio gyda throseddwyr ifanc.
Tîm Troseddau Ieuenctid
Prosiect a gyflwynwyd drwy arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop wedi’i anelu at leihau’r risg na fydd pobl ifanc rhwng 11-24 oed yn symud ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant.
TRAC
Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.STEM
Mae’r Academi Sgiliau i Lwyddo, a ddatblygwyd gan Accenture Ltd, yn hyfforddiant rhyngweithiol ar-lein sy’n helpu pobl i fagu hyder wrth ddewis gyrfaoedd ac i gael y sgiliau allweddol sydd eu hangen i gael swydd a chadw swydd.
Sgiliau i Lwyddo
System sy’n galluogi defnyddwyr i gyfathrebu mewn amser real ar y rhyngrwyd drwy gyrfacymru.com. Nid oes angen gosod meddalwedd arbenigol ac mae’n syml ac yn hygyrch.
Sgwrsio ar-lein
Mae Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn ffurfio rhan o’r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig 11 i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir.
Rhaglen Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith