Canllawiau rheoli perfformiad
description
Transcript of Canllawiau rheoli perfformiad
Canllawiau rheoli perfformiad
Rheoli perfformiadRhan Ch: gwerthuseion
Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthusai
(i’w rhoi ar waith erbyn Ionawr 2013)
Amcanion y sesiwn• Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w
rhoi ar waith yn effeithiol.
• Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol.
• Adolygu sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol.
• Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan ohoni.
• Deall rôl y gwerthusai.
Atgrynhoi a throsolwg o’r gofynion rheoli perfformiad
diwygiedig
Gofynion diwygiedigAmserlen • Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012.• Defnyddio’r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012.Diwygiadau• Mae gan reoli perfformiad gysylltiad glir â:
– safonau ac ymarfer proffesiynol– blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol– data perfformiad dysgwyr
– cynnydd tâl.• Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a
datblygu. • Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli
perfformiad yr ysgol.• Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid.• Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.
Diben rheoli perfformiad
‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’
Rheoli perfformiad i benaethiaid
(Llywodraeth Cymru, 2012)
Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol
Mae rheoli perfformiad yn cefnogi:• ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau• athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau.
Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i: • ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd• lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol.
Y cylch gwerthuso
Y cylch gwerthuso
• Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro/athrawes.
• Rhaid i’r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth.
• Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso.
Y cylch gwerthuso
Adolygu CynllunioHunanfyfyrio Gwerthuswr HunanddadansoddiCyfarfod adolygu a gwerthusai DadansoddiadDatganiad gwerthuso strategol
Gosod amcanionCytuno ar
ddatblygiad Monitro proffesiynol parhaus
Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl
yr athro/athrawes
Rolau a chyfrifoldebau’r gwerthusai
Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad
Partneriaid allweddol• Corff llywodraethu/corff perthnasol.• Pennaeth.• Gwerthuswr(gwerthuswyr).• Gwerthusai(gwerthuseion).• Awdurdod lleol.• Llywodraeth Cymru.
Rôl y gwerthusai• Trafod, cynllunio a gosod amcanion gyda’i
gwerthuswr(gwerthuswyr).• Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac
adolygu.• Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.
Cyfrifoldebau’r gwerthusaiRhaid i’r gwerthuseion:• drafod pennu amcanion gyda’r gwerthuswr, gan
ystyried cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol
• hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad
• cymryd rhan mewn trefniadau monitro • cadw a chynnal cofnod ymarfer, adolygu a
datblygu cyfredol• cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn
amcanion a pherfformiad cyffredinol • trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i
gefnogi ymarfer proffesiynol.
Gwybodaeth a dealltwriaethRhaid bod gan werthuseion dealltwriaeth gadarn o:• gyd-destun yr ysgol• data perfformiad ysgol gyfan gan gynnwys Set Data Craidd Cymru Gyfan • blaenoriaethau gwella’r ysgol• blaenoriaethau gwella’r awdurdod lleol a chenedlaethol• data lefel dysgwyr a gwybodaeth ar y grwpiau addysgu y mae ganddynt gyfrifoldeb drostynt • y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru• gweithdrefnau rheoli perfformiad.
Adolygu perfformiad
Y cyfarfod gwerthuso blynyddol
Mae’n gyfle ffurfiol i:• gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant• trafod meysydd i’w gwella a datblygiad
proffesiynol pellach
ac os dymunir:• cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan
gynnwys amcanion ar gyfer y cylch rheoli perfformiad dilynol.
Yr adolygiad perfformiad• Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai
gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda’r amcan o:
– asesu’r graddau y mae’r gwerthusai wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y cylch
– pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y gwerthusai wedi bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon
– nodi’r angen ar gyfer cefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol.
• Dylid ystyried cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai wrth adolygu perfformiad.
Cynllunio ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol
• Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad.• Rhaid i’r gwerthusai(gwerthuseion) gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. • Dylid anfon y cofnod ymarfer, adolygu a datblygu at werthuswr(gwerthuswyr) o leiaf pum niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.
Paratoi ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol
• Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu’r datganiadau gwerthuso.
• Nodi data a thystiolaeth briodol i’w defnyddio yn unol â’r rheoliadau.
• Penderfynu sut caiff amcanion o’r cylch diwethaf eu hystyried.
• Dylai’r gwerthusai hunanfyrfyrio cyn y cyfarfod.• Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu gan
gynnwys arsylwadau addysgu.
Hunanfyfyrio’r gwerthusaiDylai’r gwerthusai ystyried perfformiad yn erbyn:• ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr
amcanion• tystiolaeth o berfformiad yn y cylch• manteision unrhyw datblygiad proffesiynol a
gafwyd• unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y
flwyddyn• unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad• amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf.
Dogfennaeth i’w hystyried• Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol
perthnasol.• Cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal.• Cofnod hunanwerthuso’r ysgol/ardal.• Cynllun ôl-arolygiad Estyn.• Y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer
ymarferwyr addysg yng Nghymru.• Unrhyw deunyddiau perthnasol eraill, gan
gynnwys y rheini o arolygiadau’r awdurdod lleol a’r matrics categoreiddio rhanbarthol.
Y datganiad gwerthuso• Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) cyflwyno
datganiad ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod ysgol.• Rhaid darparu anghenion hyfforddiant a datblygu
mewn atodiad.• Gall y gwerthusai ychwanegu sylwadau at y
datganiad o fewn 10 niwrnod – bydd y rheini yn ffurfio rhan o’r datganiad.
• Mae’r datganiad gwerthuso’n bersonol ac yn gyfrinachol.
• Dylid rhoi copi o’r datganiad gwerthuso i’r personél priodol.
Gosod amcanion
Gosod yr amcanion• Byddai tri amcan fel arfer yn ddigonol.• Dylai amcanion y gwerthusai:
– gyfrannu at wella cynnydd dysgwyr yn ysgol
– ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol
– canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth
– cael eu cofnodi yn y datganiad o amcanion.
Mae angen i’r amcanion fod yn:
• glir – heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â’r deilliant a fwriedir
• cryno – gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau a phosib i gyfleu’r bwriad
• mesuradwy – wedi’u mynegi fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw’r amcan wedi’i gyflawni ai peidio
• heriol – yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau’r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol
• datblygol – yn cefnogi gwelliant yr ysgol a’r gwerthusai.
Nodi anghenion datblygiad proffesiynol
Dylai datblygiad proffesiynol:• gefnogi’r gwerthusai wrth wella sgiliau a
gwybodaeth • cefnogi amcanion cytunedig• datblygu cryfderau• mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygiad
personol neu dwf proffesiynol• nodi cyfleoedd i rannu arfer da.
Monitro perfformiad
Monitro perfformiad• Dylai gweithdrefnau monitro:
– gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio– cynnwys amrywiaeth o ddulliau.
• Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn.• Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol er
mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn.• Rhaid i’r gwerthusai gynnal a chadw cofnod
ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol.
Monitro cynnyddGall ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau monitro i gasglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys:
• cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai
• cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai
• cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal
• data a gwybodaeth perfformiad ysgol
• y broses hunanwerthuso barhaus yr ysgol
• arsylwadau addysgu (lle y bo’n addas).
Arsylwadau addysgu• Natur, diben a chanolbwynt wedi’u cytuno rhwng y
gwerthuswr a’r gwerthusai cyn yr arsylwad.• Rhaid i arsylwadau at ddiben rheoli perfformiad gael eu
cyflawni gan arsylwr â statws athro/athrawes cymwysedig (SAC) yn unig.
• Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw.
• Rhaid rhoi o leiaf pum niwrnod ysgol o rybudd.• O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad.• Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn pum niwrnod
ysgol fel arfer).• Dylid cofnodi canlyniadau’r arsylwad, gan gynnwys
adborth – dylid rhoi cyfle i’r gwerthusai ychwanegu sylwadau.
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
A. Ym mha ffordd y mae’r gwerthuseion yn:
• trafod gosod amcanion gyda’u gwerthuswr(gwerthuswyr) o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol?
• hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol?
• cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol?
• cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol?
• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol?
B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol?
C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?(Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)
Rôl y gwerthuswr• Cytuno a chofnodi amcanion gyda’r gwerthusai.• Monitro ac adolygu perfformiad trwy gydol y
cylch.• Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.• Trefnu adolygiad y gwerthusai.• Paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol.• Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae’r
gwerthusai yn gymwys am gynnydd cyflog yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, lle bo’n addas.
Y broses rheoli perfformiad
Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy:
• ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr
• gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan athrawon
• ymrwymiad i berfformiad a lles staff
• meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’r gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl
• annog rhannu arfer da
• integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.
Ac yn olaf . . .
‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’
Rheoli perfformiad i athrawon
(Llywodraeth Cymru, 2012)