BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL · 2014. 12. 4. · dosbarthau’n cael eu trin yn deg....

7
1 YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL

Transcript of BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL · 2014. 12. 4. · dosbarthau’n cael eu trin yn deg....

  • 1

    YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

    BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL

  • 2

    Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnig cyfle gwych. Gallai wella ansawdd bywyd i deuluoedd ledled Cymru a phobl dros y byd i gyd.

    Os cawn ein cyfraith newydd yn iawn, gallwn sicrhau bod penderfyniadau a wneir yng Nghymru’n ystyried beth fydd yr effaith ar bobl a natur dros y byd i gyd; ac y byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am ein dewisiadau.

    Gallai Bil cryf sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu prynu gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru (fel ein hysgolion a’n hysbytai) yn dod o ffynonellau moesegol a chynaliadwy – eu bod yn gwneud cyn lleied o niwed i natur ag sy’n bosibl ac yn rhoi sicrwydd bod y bobl sy’n eu cynhyrchu a’u dosbarthau’n cael eu trin yn deg.

    Gallai’r Bil helpu i warchod ein cymunedau, ein tirwedd hardd a bywyd gwyllt i’n plant a’n hwyrion eu mwynhau. Gallai’r gyfraith newydd wella iechyd ein hamgylchedd naturiol, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw’n dda, teimlo’n dda a chael diwallu eu hanghenion.

    Bydd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cryf yn dangos bod Cymru’n genedl gyfrifol, sy’n gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer dyfodol tecach lle gall ein pobl a natur ffynnu. Dyma ein cyfle i wneud i hynny ddigwydd. Gwneud yn siŵr bod y Bil yn gwneud gwahaniaethMae’r Gynghrair Datblygu Cynaliadwy’n cynnwys mwy na 30 o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol yng Nghymru y mae eu gwaith yn cynorthwyo pobl a natur i ffynnu. Rydyn ni i gyd yn gweithio ar faterion gwahanol, ond rydyn ni’n llefaru ag un llais ynghylch pam yr ydyn ni’n meddwl bod Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mor bwysig a sut y gall helpu cenedlaethau o’n teuluoedd yn y dyfodol i fyw bywydau iach, hapus a diogel.

    Yn yr adroddiad hwn rydyn ni’n edrych ar rai o’r ffyrdd yr ydyn ni’n credu y gall Cymru ddod yn well trwy Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cryf. Gallai Bil effeithiol helpu i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, helpu pobl allan o dlodi, creu a chynnal cyflogaeth ystyrlon a defnyddio ein gallu prynu er daioni – byddai hyn i gyd o fudd enfawr i bobl a’r blaned yng Nghymru ac ar draws y byd. Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain o’r math o bethau yr ydyn ni’n meddwl y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud gyda’i gilydd er mwyn sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw’n dda yng Nghymru.

    BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

  • 3

    BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

    Defnyddio ein gallu prynu er daioniMae’r sector cyhoeddus yng Nghymru’n gwario mwy na phedwar biliwn o bunnoedd y flwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau1. Rydyn ni eisiau i fwy o’r arian hwnnw gael ei wario mewn ffordd sy’n helpu pobl a natur. Dylai Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol effeithiol sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n gwneud cymaint o ddaioni ag y gallant gyda’n harian ni.

    Un enghraifft dda yw cynllun Arbed Llywodraeth Cymru, sy’n gwella perfformiad ynni cartrefi pobl. Yn ogystal â gwella 6000 o gartrefi yn ystod ei gyfnod cyntaf, roedd y prosiect wedi’i fwriadu’n benodol i gefnogi busnesau lleol, datblygu sgiliau pobl a chreu swyddi. O ganlyniad, cafodd wyth busnes achrediad i osod systemau ynni adnewyddadwy. Cafodd economïau lleol fudd o hyn gan fod 41 o’r 51 o gwmnïau gosod yn gweithredu yng Nghymru yn bennaf neu yn unig a chynorthwywyd mwy na 50 o bobl ddi-waith i ddod o hyd i hyfforddiant a/neu gyflogaeth2. Nid dim ond dod o hyd i’r ffordd rataf o sicrhau’r arbedion ynni wnaeth y Llywodraeth; fe edrychodd hefyd ar sut y gallai’r prosiect gael buddion eraill.

    Ni ddylai buddion ein gallu prynu ddod i ben yng Nghymru. Mae’r pethau rydyn ni’n eu prynu hefyd yn effeithio ar bobl mewn gwledydd eraill. Fel unigolion gallwn siopa mewn ffordd foesegol: dewis peidio â phrynu pethau sydd wedi cael eu gwneud mewn slafdai peryglus neu benderfynu prynu coffi Masnach Deg neu gynhyrchion pren sydd wedi’u cymeradwyo fel rhai cynaliadwy gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth. Gall cyrff cyhoeddus wneud yr un peth.

    Paratôdd Llywodraeth Cymru y ffordd yn 2009 gyda’i chontract arlwyo a roddodd fwy o werth i ystyriaethau moesegol3. Oherwydd bod y contract mor fawr roedd yn golygu bod cyflenwyr yn fodlon gwneud mwy o ymdrech i gael gafael ar gynhyrchion o ffynonellau mwy moesegol, gan gynnwys cig a chynhyrchion llaeth lleol i gefnogi ffermwyr lleol a the, coffi, bananas, siwgr a bisgedi Masnach Deg.

    Gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru hefyd gefnogi prynu moesegol trwy’r pethau maent yn eu gwerthu ymlaen i’r cyhoedd mewn ysgolion, swyddfeydd a gweithleoedd. Mae ymchwil gan Fasnach Deg Cymru wedi dangos, pe bai pob ysgol yng Nghymru’n gwneud yr un cynnydd mewn gwerthiannau Masnach Deg yn eu siopau bwyd â’r ddwy ysgol fwyaf blaenllaw, byddai gwerthiannau Masnach Deg yng Nghymru’n cynyddu mwy na £600,000. Dim ond mewn siopau bwyd mewn ysgolion! Ymrwymiad gwirioneddol a allai drawsnewid bywydau miliynau o bobl ledled y byd.

    Er bod yna rai enghreifftiau o arferion da, nid ydynt yn hanner digon cyffredin ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dylai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cryf sicrhau y gwneir pob penderfyniad ynghylch prynu gan ystyried y buddion ehangach i bobl a natur, yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Dyna pam ein bod ni eisiau i’r Bil gael ei ddiwygio i wneud yn glir bod penderfyniadau ariannol a chaffael yn dod o fewn cwmpas dyletswydd glir ar gyrff cyhoeddus.

    1. http://prp.wales.gov.uk/role/ 2. http://wales.gov.uk/docs/desh/ 3. http://www.government-online.net/welsh-government-catering-contract/ publications/111003energyarbedphase1reviewen.doc

  • 4

    Chwyldro Swyddi Gwyrdd Mae chwyldro tawel yn digwydd yng Nghymru. Ar un adeg glo oedd yn frenin yma, ond yn awr mae Cymru’n dechrau gweld buddion swyddi gwyrdd. Mae mwy na phedwar deg mil ohonon ni’n gweithio mewn swyddi amgylcheddol neu garbon isel4 erbyn hyn. Mae hynny’n fwy na nifer y bobl sy’n gweithio mewn meysydd fel telathrebu, y fasnach foduron neu wasanaethau ariannol.

    Ac mae’r sector yn tyfu. Mae astudiaeth ddiweddar gan Innovas Consulting yn dangos, ers 2006, fod sectorau technolegau ynni adnewyddadwy a nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yng Nghymru wedi tyfu o £1.2 biliwn i £2.36 biliwn o ran trosiant - 90% o gynnydd; mae cyflogaeth wedi cynyddu o 22,160 i 30,100 - 35% o gynnydd; ac mae nifer y cwmnïau wedi codi o 1320 i 18195. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod cymorth oddi wrth y llywodraeth yn rhan bwysig o’r llwyddiant hwnnw.

    Un stori lwyddiant ym maes busnesau carbon isel yw Grŵp Cenin ym Mharc Stormy, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n creu clwstwr o brosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gynnwys treulio anaerobig, gwynt a ffotofoltäig. Er gwaethaf oedi sylweddol oherwydd y broses gynllunio mae’n gwneud cynnydd sylweddol. Mae’r ynni a gynhyrchir yn cyflenwi yn gyntaf ei waith cynhyrchu sment carbon isel, sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio technoleg a ddyfeisiwyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Dim ond 5% o garbon sment cyffredin sydd gan y cynnyrch hwn. Wrth gynhyrchu mwy, mae’r cwmni’n gobeithio y bydd ei gynhyrchion yn helpu i ostwng cost a chyfrif carbon prosiectau seilwaith mawr ledled Cymru.

    Roedd Hydro Industries, sydd â’i bencadlys yn Llangennech, ar frig rhestr Fast Growth 50 papur y Western Mail ym mis Hydref 2014 gyda chyfradd twf anhygoel o 762.2% dros y ddwy flynedd ddiwethaf6. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cynllunio, cynhyrchu a gweithredu cynhyrchion trin dŵr. Nid yn unig mae Hydro Industries yn creu swyddi yng Nghymru ond mae’n gweithio ar brosiect i ddarparu ynni adnewyddadwy a dŵr glân i gymunedau yn India lle mae angen y ddau, a hynny ar fyrder7.

    Gall busnesau gwyrdd ffynnu yng Nghymru ond yn aml maent angen fframwaith cefnogol gan y llywodraeth i lwyddo – gan gynnwys fframwaith polisi trosfwaol cadarn gyda thargedau hirdymor heriol ar gyfer lleihau allyriadau8, system gynllunio sy’n cefnogi datblygiadau gwyrdd, cymorth i leihau allyriadau a defnyddio adnoddau’n effeithlon, cymorth i gyrraedd marchnadoedd rhyngwladol a chamau gweithredu i feithrin cysylltiadau rhwng byd diwydiant a phrifysgolion.

    Gallai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cryf ddarparu’r fframwaith cyfreithiol cadarn hwnnw. Byddai hynny’n cyfleu neges gref, gan roi i gwmnïau’r hyder i fuddsoddi mewn diwydiannau gwyrdd yng Nghymru. Byddai cyfraith newydd gref hefyd yn hyrwyddo cefnogaeth gydgysylltiedig oddi wrth gyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau y bydd y sector swyddi gwyrdd yn parhau i dyfu.

    4. http://www.green-alliance.org.uk/resources/Green%20economy%20a%20UK%20success%20story.pdf 5. http://wales.gov.uk/newsroom/businessandeconomy/2014/9088095/?lang=en 6. http://www.walesonline.co.uk/business/business-news/fast-growth-50-50-fastest-growing-7966385 7. http://www.walesonline.co.uk/business/business-news/hydro-industries-provide-water-purification-6862431 8. http://www.ippr.org/assets/media/images/media/files/publication/2011/05/futuregreen_1737.pdf

    BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

  • 5

    Cartrefi cynnes i bawb Yng Nghymru mae gormod ohonon ni’n cael trafferth i fforddio gwresogi ein cartrefi. Mae pobl fregus, gan gynnwys yr henoed a phobl anabl, yn marw yn ystod gaeafau caled. Mae’n rhaid i bobl ar incwm isel ddewis rhwng gwres a bwyd. Er nad yw codi’r gwres yn helpu digon o bobl i aros yn gynnes, mae’n cynhesu’r blaned. Mae tai’n gyfrifol am ryw bumed o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru9.

    Mae aelwyd mewn tlodi tanwydd yn swyddogol os yw’r bobl arni’n gorfod gwario mwy na degfed o’u hincwm er mwyn aros yn ddigon cynnes. Roedd rhyw 30% o’r aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd yn 201210. Mae tlodi tanwydd yn dibynnu ar faint o arian mae pobl yn ei wneud a pha mor ddrud yw ynni i’w brynu. Mae tai o ansawdd gwael, sy’n gollwng gwres, hefyd yn ffactor o bwys.

    Gall buddsoddiad gan y llywodraeth mewn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl gael llawer o fuddion: lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr; trechu tlodi tanwydd; creu swyddi yn y sectorau adeiladu ac effeithlonrwydd ynni; a hybu economïau lleol oherwydd bod pobl yn gwario llai o arian ar danwydd a mwy ar fwyd a chynhyrchion eraill. Mae cynlluniau gan Lywodraeth Cymru fel Arbed wedi dangos hyn trwy wella tai pobl, gostwng biliau a chreu swyddi. Ond nid yw hyn yn ddigon i gael effaith sylweddol ar dlodi tanwydd nac i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr11.

    Mae angen gweithredu o ddifrif er mwyn gwneud gwahaniaeth.

    Cynigiodd adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i WWF Cymru12 y dylid codi’r tai â’r perfformiad gwaethaf yng Nghymru (728,000 o gartrefi) i sgôr ynni D. Mae’n amcangyfrif y byddai hyn yn golygu y byddai 40% yn llai o aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Byddai’r gwaith yn costio oddeutu £2.1 biliwn a byddai’n peri £423 miliwn o ostyngiad yng nghyfanswm biliau ynni blynyddol pobl.

    Hefyd, byddai’r prosiect yn creu 6,300 o flynyddoedd gwaith o gyflogaeth ac 14,600 o swyddi gros yn uniongyrchol, o gymryd i ystyriaeth effeithiau lluosydd prynu deunyddiau, gwario cyflogau a gwario arbedion ar filiau ynni yn yr economi leol.

    Er bod cynlluniau o’r fath yn ddrud i’w gweithredu, gall eu buddion hirdymor fod yn enfawr. Nid yn unig yr arbedion ynni a’r buddion economaidd uniongyrchol ond enillion o ran iechyd corfforol a meddyliol pobl a chanlyniadau addysgol gwell.

    Byddai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gref, gyda mecanweithiau clir ar gyfer lleihau allyriadau carbon a threchu tlodi yng Nghymru, yn rhoi anogaeth gref i asiantaethau llywodraethol gydweithio i gyflenwi prosiectau fel hyn a fyddai’n gwneud Cymru’n fwy cydnerth yn wyneb costau ynni cynyddol a heriau eraill yn y dyfodol.

    Y

    9. http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2012/greenhousegasemissions/?lang=en 10. http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf 11. Arbed will improve around 13,000 homes by 2016. See: http://wales.gov.uk/newsroom/environmentandcountryside/2012/121022fp/?lang=en12. http://assets.wwf.org.uk/downloads/cutting_carbon_emissions_in_welsh_homes.pdf

    BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

  • 6

    BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

    www.lluniodyfodolcymru.org

    Cynghrair ydyn ni o sefydliadau sy’n teimlo’n angerddol am y Gymru yr ydyn ni’n byw ynddi nawr ac y byddwn yn ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

    Mae ein cynghrair yn dwyn ynghyd fwy na 28 o sefydliadau, o elusennau amgylcheddol a datblygiad i grwpiau ffydd a chredo, iaith, cymuned a menywod.

    Rydyn ni’n rhannu ymrwymiad i lunio dyfodol cynaliadwy i Gymru – gan frwydro dros gyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru ac o gwmpas y byd a gwneud hynny o fewn terfynau amgylcheddol ein hun blaned, gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau.

    Rydyn ni eisiau adeiladu dyfodol gwell, dyfodol mwy diogel, i’r cenedlaethau nesaf.

    Y GYNGHRAIR DATBLYGU CYNALIADWY

    Yr angen am gyfraith newyddNi ddylai fod angen inni gael cyfraith newydd er mwyn i’r pethau hyn ddigwydd. Ond mae profiad wedi dangos inni nad yw cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n integreiddio’r materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd rhyng-gysylltiedig hyn gymaint ag y mae angen ac nad ydynt yn cydweithio’n ddigon effeithiol i gyflawni’r newidiadau y mae eu hangen. Mae angen deddfwriaeth i sbarduno’r newid ar y raddfa a’r cyflymder mae eu hangen. Gyda diwygiadau i’w wneud yn gryfach yn y meysydd blaenoriaethol yr ydyn ni’n eu hawgrymu, gallai Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol weddnewid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau yng Nghymru.

  • BIL LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL YR ANGEN AM GYFRAITH NEWYDD GREF AC EFFEITHIOL

    AELODAU Y GYNGHRAIR DATBLYGU CYNALIADWY

    FFO

    TOG

    RA

    FFA

    U: I

    © S

    TOC

    K A

    GLE

    NN

    ED

    WA

    RD

    S /

    CY

    MR

    U M

    AS

    NA

    CH

    DE

    G