Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn...

6
Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? Cyfnod Sylfaen Gweithgaredd 2

Transcript of Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn...

Page 1: Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu

Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd?

Cyfnod

Sylfaen

Gweithgaredd 2

Page 2: Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu

2

Mae'r dysgwyr yn ystyried eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth flaenorol ynghylch defaid. Maen nhw'n defnyddio ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd i gasglu gwybodaeth bellach ac ymestyn eu meddyliau. Mae'r dysgwyr yn ystyried peryglon posibl i anifeiliaid sy'n pori ac yn cymhwyso'r hyn maen nhw wedi ei ddysgu drwy ysgrifennu stori neu lunio cartŵn.

FfLlRhLlythrennedd Rhifedd

Datblygu ymresymu rhifyddol; Defnyddio sgiliau data.

Llafaredd ar draws y cwricwlwmDatblygu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau.

Darllen ar draws y cwricwlwm Canfod, dethol a defnyddio gwybodaeth; Ymateb i'r hyn a ddarllenwyd.Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm Trefnu syniadau a gwybodaeth; Ysgrifennu'n gywir.

Cyfleoedd i ddatblygu

Cyfnod

Sylfaen

Page 3: Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu

3

Cwricwlwm Cyfnod Sylfaen

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Sgiliau - 1,4-9.Ystod - PD:2,3,5,6; SD:1,2,4,6; MSD:1; W-b:1-5,9.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r BydSgiliau - 1-5,7,9,10,12-20. Ystod - LLAPH:1-3,9; AAPH:1,3,4; FFHAPHBE:1-6.

AdnoddauAdnoddau sydd wedi eu cynnwys gyda'r gweithgaredd hwn 1. Llun cartŵn yn dangos peryglon i anifeiliaid sy'n pori

2. Cwestiynau ffocws mewn setiau, yn ymwneud â phob tasg, y gellir eu rhoi i bob pâr wrth iddynnhw ddechrau pob tasg. Fel arall, gall yr athro ddefnyddio'r cwestiynau hyn.

Adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd Papur A3 , ysgrifbinnau, mynediad at gyfrifiadur.

FfCDDinasyddiaeth

Hunaniaeth, delwedd ac enw da; Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth

Cynllunio, cyrchu a chwilio; Creu; Gwerthuso a gwella

Cynhyrchu Rhyngweithio a chydweithio

Cydweithio; Storio a rhannu

Cyfnod

Sylfaen

Page 4: Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu

4

Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu eu syniadau gyda'r dosbarth ac wedyn, mewn grwpiau bychain, i greu map meddwl ar bapur A3 i ddangos eu meddyliau drwy wneud llun ac ysgrifennu.

Cwestiynau a awgrymir• Pa fath o beth mae dafad yn ei wneud yn ystod y dydd? Pam rydych chi'n meddwl

hynny?• Beth fyddan nhw'n ei wneud yn y nos? Sut rydych chi'n gwybod?• Pryd maen nhw'n bwyta? Sut rydych chi'n gwybod?• Ydych chi'n meddwl bod defaid yn yfed dŵr ac yn cysgu? Pam rydych chi'n meddwl

hynny?• Pwy sy'n edrych ar ôl defaid? Pam rydych chi'n meddwl hynny?• Pa anghenion sydd gan yr anifeiliaid yma? Sut rydych chi'n gwybod?

Tasg 1: Beth mae dafad yn ei wneud drwy'r dydd?

Sut i redeg y gweithgareddParatoadCyn y gweithgaredd hwn, bydd angen i chi drefnu i rywun lleol ddod â dafad neu oen i'r ysgol. Er enghraifft, efallai bod un o'r dysgwyr yn byw ar fferm neu fod athro neu lywodraethwr ysgol yn adnabod rhywun. Os bydd angen, gellwch gysylltu â PONT drwy eu gwefan i fod o gymorth i drefnu hyn https://www.pontcymru.org/ .Fel arall, gellid mynd â'r dysgwyr i ymweld â fferm neu sŵ anifeiliaid anwes os oes yna un yn yr ardal gyfagos.

Gwnewch yn siŵr bod y sawl sy'n gofalu am y ddafad yn derbyn gwybodaeth glir ynghylch amser cyrraedd yr ysgol, ble i barcio, sut i gael mynediad i'r adeilad ac yn y blaen. Rhowch rif eich ffôn symudol a manylion cyswllt yr ysgol iddo a chysylltwch ag ef y diwrnod cynt i sicrhau ei fod yn gallu dod â'r ddafad gydag ef. Cynhaliwch asesiad risg llawn.

Gwneud y gweithgareddAnogwch y dysgwyr i ddefnyddio 'meddwl-paru-rhannu' pan fyddan nhw'n ystyried y cwestiynau y byddwch yn eu gofyn. Maen nhw'n meddwl yn unigol am gwestiwn, yn trafod eu syniadau â phartner ac wedyn yn rhannu eu syniadau cyfunol gyda gweddill y dosbarth. Ceisiwch osgoi cael dysgwyr yn codi eu dwylo i ateb drwy ddewis parau gwahanol ar hap i roi adborth. Bydd hyn yn dal sylw'r dysgwyr yn well gan y byddan nhw'n gwybod bod modd iddyn nhw gael eu dewis i rannu eu syniadau unrhyw funud a bydd yn atal yr un plant rhag ateb drwy'r amser.

Cyfnod

Sylfaen

Page 5: Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu

5

Esboniwch i'r dosbarth eu bod yn mynd i gyfarfod dafad a'ch bod chi'n disgwyl iddyn nhw ymddwyn yn dawel fel na fydd y ddafad yn dychryn neu'n mynd yn ofnus.

Trefnwch y dysgwyr mewn grwpiau bychain o 3 neu 4. Esboniwch y bydd pob grŵp yn cael un munud i gyffwrdd â'r ddafad. Y gweddill o'r amser bydd arnoch eisiau i'r dysgwyr sylwi ar y ddafad ac ychwanegu unrhyw syniadau newydd neu feddyliau ar eu map meddyliau.

Gofynnwch i ofalwr y ddafad ddod â'r ddafad i mewn i'r dosbarth a gwahoddwch bob grŵp o ddysgwyr i dreulio munud gyda'r ddafad ac ychwanegu at eu map meddyliau.

Cwestiynau a awgrymir• Pam rydym ni'n ffermio defaid? Beth sy'n gwneud i chi feddwl hynny?• I beth rydych chi'n meddwl yr ydym ni'n defnyddio defaid? Pam rydych chi'n meddwl hyn?• Sut mae'r ddafad yn teimlo? • Sut rydych chi'n meddwl maen nhw'n tynnu cot y ddafad i ffwrdd? Pam rydych chi'n

meddwl hynny?• Beth sy'n digwydd i'r got wedyn? Sut rydych chi'n gwybod?

Pan fydd y grwpiau i gyd wedi cael amser i gyffwrdd â'r ddafad am funud, anogwch y dysgwyr i ofyn cwestiynau i'r gofalwr i gael mwy o wybodaeth. Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n ceisio cael gwybod beth mae hi'n ei fwyta, pryd bydd hi'n cysgu ac yn y blaen.

Gofynnwch i'r dysgwyr beth maen nhw wedi ei ddysgu am ddefaid a pha gwestiynau eraill sydd ganddyn nhw o hyd sydd angen eu hateb. Anogwch nhw hefyd i edrych am ddata ynglŷn â defaid, er enghraifft, efallai y gallen nhw ddarganfod faint o ffermydd defaid a faint o ddefaid sydd yna yng Nghymru neu yn y Deyrnas Unedig neu beth ydy record y byd am y ddafad drymaf. Rhowch gymorth os oes angen, i helpu dysgwyr i ddefnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth bellach, y mae arnyn nhw ei hangen i ateb eu holl gwestiynau ac i ychwanegu syniadau a gwybodaeth newydd i'w map meddwl.

Cwestiynau a awgrymir• Beth arall sydd arnoch chi eisiau cael ei wybod am ddefaid?• Pa ddata allech chi chwilio amdano ynghylch defaid?• Sut byddwch chi'n chwilio am y wybodaeth yma?• Pa fath o wefannau fyddai orau i ddarganfod y wybodaeth hon? Pam rydych chi'n

meddwl hynny?• Sut byddwch chi'n gwybod bod y wybodaeth yr ydych wedi ei darganfod yn gywir/

dibynadwy? Pam mae hynny'n ei gwneud yn gywir/dibynadwy?

Tasg 3: Beth sydd arnom ni ei angen i gwblhau jig-so'r ddafad?

Tasg 2: Beth allwn ni ei ddysgu wrth wylio defaid?

Cyfnod

Sylfaen

Page 6: Beth mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd? · Gofynnwch i barau o ddysgwyr feddwl a thrafod yr hyn maen nhw'n meddwl mae defaid yn ei wneud drwy'r dydd. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu

6

Rhowch Adnodd 1 i grwpiau bychain o ddysgwyr a gofynnwch iddyn nhw ddychmygu mai anifail yn pori ydyn nhw yn y llun cartŵn. Gwahoddwch y dysgwyr i drafod ac ystyried beth allai fod yn beryglus iddyn nhw yn y llun cartŵn? Efallai y gall y dysgwyr rannu eu syniadau gyda'r dosbarth a dweud beth maen nhw'n ei feddwl ydy'r perygl mwyaf a chyfiawnhau eu rhesymeg.

Cwestiynau a awgrymir• Beth allai fod yn beryglus i chi yn y llun cartŵn? Pam rydych chi'n meddwl hynny?• Sut gallai hyn fod yn beryglus i chi? Sut rydych chi'n gwybod?• Pa niwed allech chi ei gael? Beth sy'n gwneud i chi feddwl hynny?• Sut gellid atal y perygl yma? Pam byddai hynny'n gweithio?• Beth fyddai'r perygl mwyaf i chi? Pam rydych chi'n meddwl hynny?• Beth ddylai pobl ei wneud os byddan nhw ar dir lle rydych chi'n pori? Pam?

Tasg 4: Pa beryglon mae anifeiliaid sy'n pori yn eu hwynebu?

Esboniwch i'r dysgwyr y byddan nhw'n cael dewis un o ddau weithgaredd fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddangos beth maen nhw wedi ei ddysgu am yr hyn y mae defaid yn ei wneud. Gellid drafftio'r rhain ar gopi caled neu’n ddigidol os oes modd.

Gwahoddwch y dysgwyr i naill ai:

A. Cymryd arnoch bod yn ddafad - mae gennych chi lais nawr. Ysgrifennwch stori fer i ddweud wrth bobl am ddiwrnod arferol yn eich bywyd.

NEU

B. Cymerwch arnoch bod yn ddafad - mae gennych chi lais nawr. Gwnewch stori gartŵn i ddangos diwrnod ym mywyd dafad. Ychwanegwch swigod siarad i ddangos eich meddyliau drwy gydol y dydd.

Cwestiynau a awgrymir Gwahoddwch y dysgwyr i ystyried:

• Sut byddwch chi'n dechrau eich stori/cartŵn? Pam rydych chi am ei dechrau fel hyn?• Pa wybodaeth ydych chi eisiau i'r stori/cartŵn ei chynnwys? Pam?• Pa fath o stori/cartŵn wnewch chi ei greu? Pam?• Sut gallai eich stori/cartŵn fod yn antur/comedi neu arswyd?• Sut bydd eich stori/cartŵn yn diweddu? Pam?

Tasg 5: Sut ydw i'n dweud stori fel dafad?

Efallai y gellid annog y dysgwyr i fynd â'u stori/cartŵn adref i'w gwblhau/ailysgrifennu. Efallai y gallent ddod â'r rhain yn ôl i'r ysgol a'u rhannu gyda dosbarthiadau eraill neu eu gosod ar wefan yr ysgol.

Syniadau estynedig

Cyfnod

Sylfaen