Atyniadau · 2019. 5. 15. · Mae gan Gwynedd gymaint i’w gynnig – o anturiaethau ar ddyfroedd...

1
Mae gan Gwynedd gymaint i’w gynnig – o anturiaethau ar ddyfroedd i gestyll mawreddog, ac o ardaloedd beicio i hanesion mytholegol. Mae Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian mewn cydweithrediad gyda Cyngor Gwynedd wedi dod i drefniant gyda rhai atyniadau lleol i gynnig gostyngiad o 20%* i’r rhai hynny sy’n teithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o gwmpas yr ardal. I dderbyn y gostyngiad mi fydd angen i chi ddangos eich tocyn trên neu fws leol! Felly, os ydych am ddod i ymweld â’r ardal cymrwch fantais o’r arbediad yma drwy ddefnyddio’r trên neu fws. Cestyll, Mytholeg a Swyn Mae gan yr ardal gestyll adnabyddus - Criccieth, Harlech, a Caernarfon. Pob un ohonynt wedi chwarae rôl bwysig yn hanes Cymru. Dywedir fod gan y Brenin Arthur gysylltiadau yma hefyd, efallai y gall ei ‘labrinth’ yng Nghorris roi mwy o’r hanes i chi… Hanes a Diwydiant Mae pawb yn ymwybodol o gymoedd y de, ond mi oedd y gogledd hefyd yn gartre i ddiwydiant trwm. Yma, y llechen oedd y peth. Ym Mlaenau Ffestiniog mae’r Ogofeydd Llechi yn le hynod i’w weld i ddysgu mwy. Mae Gweithdai Llechi Inigo Jones hefyd yn le i weld pa mor amryddawn yw’r deunydd yma – lle delfrydol i godi swfenîr o’ch ymweliad. Antur a Gweithgaredd Mae gan yr ardal deithiau beicio i bawb, ac mi allwch logi beiciau yn Beics Menai a Dolgellau. I’r rhai hynny sy’ am droi at y dˆ wr mae Bala Watersports yn cynnig bob math o bethau, canˆ wio, dringo a llu o bethau eraill. Parciau Antur a Theuluoedd Mae Parc Coedwig Greenwood yn lle arbennig am ddiwrnod i’r teulu. Beth am reid ar ‘rollercoaster’ wedi ei bweru gan bobl, neu daith ar rodfa sled hyraf Cymru? Teimlo’n greadigol? Ewch i Piggery Pottery i greu eich swfenîr unigryw – hwyl i chi ac i’r plant! Rheilffyrdd Ager Ni fyddai taith i’r ardal yn un llawn heb fynd am daith ar reilffordd ager. Mae Rheilffordd Talyllyn (yr un cyntaf yn y byd i’w gadw ac adnewyddu) a Rheilffordd Llyn Llanberis yn eich cludo ar deithiau o gwmpas golygfeydd ysblennydd yr ardal – dewch a’ch camerâu. Portmeirion Oes angen i ni sôn am Bortmeirion? Lle unigryw sydd wedi ymddangos nifer o weithiau ar ffilm a theledu. Dewch i weld y pentre’ anhygoel yma i ymlacio yn y cyrtiau, caffis a siopau bach. Byw yn Wyrdd Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn arloesi ym myd ynni adnewyddol. 7 acer o arddangosfeydd rhyngweithiol, canolfan addysg, a maes chwarae antur mewn hen chwarel rhwng Machynlleth a Corris. Caffi da arall! Gostyngiad 20% I hawlio’r gostyngiad, dangoswch eich tocyn trên neu fws ynghyd a’r daflen yma. Rhaid eich bod chi wedi ymdrechu i gyrraedd ardal yr atyniadau ar drên neu fws, felly sicrhewch ei fod yn docyn lleol. Cofiwch gysylltu gyda’r atyniad o flaen llaw i sicrhau eich bod yn gymwys. *Telerau: Cynigir y gostyngiadau yn unig yn yr atyniadau sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch os dangosir tocyn dilys reilffordd neu fws. Mae’r cynnig yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn yr atyniad sy’n cymryd rhan - mae eu penderfyniad yn derfynol. Nid yw Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian na Cyngor Gwynedd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb. I gael manylion am amserau agor, prisiau, digwyddiadau arbennig a chynigion eraill, cysylltwch â’r atyniadau unigol drwy’r manylion cyswllt a ddarperir. Nid yw’r cynnig yma o reidrwydd yn weithredol gyda chynigion eraill a all gael eu cynnig - gwiriwch gyda’r atyniad cyn ymweld i sicrhau eich bod yn gymwys. Symudedd: Cyfeiriwch at y trên a / neu weithredwyr bysiau am wybodaeth a chyngor. Ymholwch â’r atyniadau priodol am wybodaeth hygyrchedd. Piggery Pottery Ddol Helyg, Cwm y Glo, Caernarfon LL55 4DA 01286 871931 www.piggerypottery.co.uk Canolfan weithgareddau lle gallwch baentio’ch crochenwaith eich hun. Prisiau rhwng £5 a £10, a tal o £1 ar gyfer costau paent, glud, glityr ac ati! 4 Ogofau Llechi Llechwedd Blaenau Ffestiniog LL41 3NB 01766 833809 www.llechwedd-slate-caverns.co.uk Antur i hanes – mae ymwelwyr yn teithio’n ddwfn o dan y ddaear i grwydro’r ogofau ymhell o dan yr wyneb, neu deithio fewn i’r mynydd ar y tram, gan wrando ar dywyswyr lleol yn disgrifio bywyd o dan y ddaear yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prynwch anrhegion wedi eu gwneud o’r llechi, neu dewch i’w weld yn cael ei droi’n llechi ar gyfer y to. 5 Rheilffordd Talyllyn Gorsaf Wharf Station, Tywyn LL36 9EY 01654 710472 www.talyllyn.co.uk Y rheilffordd ager cynta’ yn y byd i’w gadw. Caffi a siop ar agor rhan fwyaf o’r flwyddyn. Anrhegion, profiadau gyrru, trenau arbennig drwy’r flwyddyn. Trenau Nadolig arbennig. Golygfeydd anhygoel. 6 Beics Menai 1 Slate Quay, Caernarfon LL55 2PB 01286 676804 www.beicsmenai.co.uk Llogi beiciau ar hyd llwybr beicio heb draffig. 12 milltir o lwybr tarmac ar hyd gwely trac hen reilffordd gyda chyfleusterau toiled a bwyta ar hyd y ffordd. Hefyd, ffordd traethlin gyda golygfeydd trawiadol dros i Ynys Môn. 7 Bala Adventure and Watersports 6 Pensarn Road, Bala LL23 7SR 01678 521059 www.balawatersports.com Ystod eang o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys canwio, dringo, abseilio, hwylfyrddio, hwylio, saethyddiaeth, cerdded mynyddoedd, crefft gwersylla, adeiladu rafft, beicio mynydd, a cerdded ceunentydd. 8 Labrinth y Brenin Arthur Corris Craft Centre, Upper Corris, Machynlleth SY20 9RF 01654 761584 www.kingarthurslabyrinth.co.uk Hwyliwch drwy rhaeadr, ar hyd mil o flynyddoedd i ogofau tanddaearol y labrinth. Mwynhewch storiau’r Brenin Arthur, dreigiaid, brwydrau, cewri a mwy. Golygfeydd dramatig, goleuadau ac effeithiau swn arbennig. Hyn oll o’r ganolfan grefftau yng Nghorris – cartref i 9 o ddylunwyr a’u crefftau, a’r caffi arbennig. 10 Portmeirion Minffordd, Penrhyndeudraeth LL48 6ER 01766 772321 www.portmeirion-village.com Mae gan Portmeirion amryw o gaffis a bwytai yn ogystal a Gwesty Portmeirion ar lan y mor. Mae Brasserie Castell Deudraeth yn cynnig mynediad am ddim i Bortmeirion gyda pob pryd a weinir. Pentre’n agored trwy’r flwyddyn o 09:30am i 5:30pm (7:30pm yn yr Haf). 11 Castell Harlech Castle Castle Square, Harlech LL46 2YH 01766 780552 www.cadw.cymru.gov.uk Rhyfelwyr Gwyr Harlech. Yn ol y son, mae’n anthem answyddogol y genedl, un o hoff ganeuon cefnogwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd, yn disgrifio;r gwarchae hyraf yn hanes Prydain (1461-1468) a welwyd yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhos. 12 Castell Criccieth Castle Castle Street, Criccieth LL52 0DP 01766 522227 www.cadw.cymru.gov.uk Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’r mor yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy a’i ddau dwr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr. Roedd gan dywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr gymaint o feddwl o’r castell fel y bu iddo newid dwylo’n rheolaidd. 13 Castell Caernarfon Castle Castle Ditch, Caernarfon LL55 2AY 01286 677617 www.cadw.cymru.gov.uk Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresennoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythr enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Creodd Edward 1 un o’r cestyll mwya’ trawiadol yng Nghymru. Haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd. 14 Dolgellau Cycles The Old Furnace, Smithfield Street, Dolgellau LL40 1DF 01341 423332 www.dolgellaucycles.co.uk Llogi beiciau ar gyfer llwybr Mawddach a’r rhwydwaith o lonydd tawel yn yr ardal gyfagos. Beiciau i Oedolion gyda paciau cefn, gardiau olwynion a seddau cyffyrddus. Ystod dda o feiciau ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys ‘tag-a-longs’ a seddi plant. Mae pob beic wedi ei wirio ar gyfer diogelwch a darperir helmedau. 15 Parc Coedwig Greenwood Y Felinheli, Caernarfon LL55 3AD 01248 671493 www.greenwoodforestpark.co.uk Am ddiwrnod o hwyl ac antur i’r teulu dewch i Barc Greenwood, rhwng Caernarfon a Bangor. Teithiwch ar ‘rollercoaster’ sy’n cael ei ynni gan bobl, neu gwibiwch lawr llethr sled hyraf Cymru. Dewch i weld pam for Parc Greenwood yw un o brif attyniadau Gogledd Cymru. 3 Arbedwch 20% oddi ar gost yr attyniadau yma! 1 4 3 14 7 9 5 12 13 11 15 6 10 2 8 Rheilffordd Llyn Llanberis Gilfach Ddu, LL55 4TY 01286 870549 www.lake-railway.co.uk Cymrwch daith hamddenol ar dren ager hanesyddol ar hyd lannau llyn Padarn yn Llanberis. Mwynhewch y golygfeydd arbennig o’r Wyddfa a’r parciau cyfagos. Cymrwch gyfle i gael picnic wrth y llyn, neu i ymweld a’r Amgueddfa Llechi Cenedlaethol a’r Parc Gwledig. 1 Canolfan y Dechnoleg Amgen Llwyngwern Quarry, Pantperthog, Machynlleth SY20 9AZ 01654 705950 www.visit.cat.org.uk Dewch i weld y ganolfan eco yma am hwyl ac ysbrydoliaeth. 7 erw o arddangosfeydd rhyngweithiol, gerddi organig, systemau ynni adnewyddol, bwyty bwyd cyflawn a siop lyfrau gwyrdd. Mae CAT yn lle da i’r teulu cyfan. Agored trwy’r flwyddyn o 10am. 2 Gweithdai Llechi Inigo Jones Tudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon LL54 7UE 01286 830242 www.inigojones.co.uk Sefydlwyd yn 1861 i gynhyrchu llechi ysgrifennu i ysgolion, ac wedi bod mewn bodolaeth nawr am dros 150 o flynyddoedd ac yn parhau i ddefnyddio’r un deunydd crai – llechi sy’n 500 miliwn o flynyddoedd o oed, i wneud cynhyrch pensaerniol, coffaol, a chynyrch i’r ardd. Agored trwy’r flwyddyn ar gyfer teithiau hunan dywys. Ystafell arddangos a chaffi ar gael. 9 PARTNERIAETH RHEILFFYRDD Y CAMBRIAN CAMBRIAN RAILWAYS PARTNERSHIP Defnyddiwch y tren neu'r bws i dderbyn gostyngiad o 20% oddi ar yr atyniadau yma!* Gweler y manylion y tu fewn... Gostyngiad 20% Atyniadau yng Ngwynedd Atyniadau yng Ngwynedd Gostyngiad 20% Defnyddiwch y tren neu'r bws i dderbyn gostyngiad o 20% oddi ar yr atyniadau yma!* Gweler y manylion y tu fewn... www.leinycambrian.co.uk TRENAU ARRIVA CYMRU Am amseroedd a phrisiau Tocynnau Tren: 08457 48 49 50 (24 awr llinell National Rail Enquiries) 0845 60 40 500 (Gwasanaeth Cymraeg) 0845 60 50 600 (Ffôn Testun) Cliliwch ar y codau QR yma am fwy o fanylion am attyniadau yn yr ardal www.traintaxi.co.uk am fanylion tacsis lleol Tripiau Tip Top

Transcript of Atyniadau · 2019. 5. 15. · Mae gan Gwynedd gymaint i’w gynnig – o anturiaethau ar ddyfroedd...

Page 1: Atyniadau · 2019. 5. 15. · Mae gan Gwynedd gymaint i’w gynnig – o anturiaethau ar ddyfroedd i gestyll mawreddog, ac o ardaloedd beicio i hanesion mytholegol. Mae Partneriaeth

Mae gan Gwynedd gymaint i’w gynnig – oanturiaethau ar ddyfroedd i gestyll mawreddog,ac o ardaloedd beicio i hanesion mytholegol.Mae Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian

mewn cydweithrediad gyda Cyngor Gwynedd wedidod i drefniant gyda rhai atyniadau lleol i gynniggostyngiad o 20%* i’r rhai hynny sy’n teithio arwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o gwmpasyr ardal. I dderbyn y gostyngiad mi fydd angen ichi ddangos eich tocyn trên neu fws leol!Felly, os ydych am ddod i ymweld â’r ardal

cymrwch fantais o’r arbediad yma drwyddefnyddio’r trên neu fws.

Cestyll, Mytholeg a SwynMae gan yr ardal gestyll adnabyddus - Criccieth,Harlech, a Caernarfon. Pob un ohonynt wedichwarae rôl bwysig yn hanes Cymru. Dywedir fodgan y Brenin Arthur gysylltiadau yma hefyd,efallai y gall ei ‘labrinth’ yng Nghorris roi mwy o’rhanes i chi…

Hanes a DiwydiantMae pawb yn ymwybodol o gymoedd y de, ond mioedd y gogledd hefyd yn gartre i ddiwydiant trwm.Yma, y llechen oedd y peth. Ym MlaenauFfestiniog mae’r Ogofeydd Llechi yn le hynod i’wweld i ddysgu mwy. Mae Gweithdai Llechi InigoJones hefyd yn le i weld pa mor amryddawn yw’rdeunydd yma – lle delfrydol i godi swfenîr o’chymweliad.

Antur a GweithgareddMae gan yr ardal deithiau beicio i bawb, ac miallwch logi beiciau yn Beics Menai a Dolgellau.I’r rhai hynny sy’ am droi at y dwr mae BalaWatersports yn cynnig bob math o bethau, canwio, dringo a llu o bethau eraill.

Parciau Antur a TheuluoeddMae Parc Coedwig Greenwood yn lle arbennig amddiwrnod i’r teulu. Beth am reid ar ‘rollercoaster’wedi ei bweru gan bobl, neu daith ar rodfa sledhyraf Cymru?Teimlo’n greadigol? Ewch i Piggery Pottery i greueich swfenîr unigryw – hwyl i chi ac i’r plant!

RheilffyrddAgerNi fyddai taith i’r ardal ynun llawn heb fynd amdaith ar reilffordd ager.Mae Rheilffordd Talyllyn(yr un cyntaf yn y byd i’wgadw ac adnewyddu) a Rheilffordd Llyn Llanberisyn eich cludo ar deithiau o gwmpas golygfeyddysblennydd yr ardal – dewch a’ch camerâu.

PortmeirionOes angen i ni sôn am Bortmeirion? Lle unigrywsydd wedi ymddangos nifer o weithiau ar ffilm atheledu. Dewch i weld y pentre’ anhygoel yma iymlacio yn y cyrtiau, caffis a siopau bach.

Byw yn WyrddMae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn arloesi ymmyd ynni adnewyddol. 7 acer o arddangosfeyddrhyngweithiol, canolfan addysg, a maes chwaraeantur mewn hen chwarel rhwng Machynlleth aCorris. Caffi da arall!

Gostyngiad 20%I hawlio’r gostyngiad, dangoswch eich tocyn trênneu fws ynghyd a’r daflen yma. Rhaid eich bod chiwedi ymdrechu i gyrraedd ardal yr atyniadau ardrên neu fws, felly sicrhewch ei fod yn docyn lleol.Cofiwch gysylltu gyda’r atyniad o flaen llaw isicrhau eich bod yn gymwys.

*Telerau:Cynigir y gostyngiadau yn unig yn yr atyniadau sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrchos dangosir tocyn dilys reilffordd neu fws. Mae’r cynnig yn cael ei wneud yn ôldisgresiwn yr atyniad sy’n cymryd rhan - mae eu penderfyniad yn derfynol. Nidyw Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian na Cyngor Gwynedd yn derbyn unrhywgyfrifoldeb. I gael manylion am amserau agor, prisiau, digwyddiadau arbenniga chynigion eraill, cysylltwch â’r atyniadau unigol drwy’r manylion cyswllt addarperir. Nid yw’r cynnig yma o reidrwydd yn weithredol gyda chynigion erailla all gael eu cynnig - gwiriwch gyda’r atyniad cyn ymweld i sicrhau eich bod yngymwys.

Symudedd:Cyfeiriwch at y trên a / neu weithredwyr bysiau am wybodaeth a chyngor.Ymholwch â’r atyniadau priodol am wybodaeth hygyrchedd.

Piggery PotteryDdol Helyg, Cwm y Glo, Caernarfon LL55 4DA 01286 871931 www.piggerypottery.co.uk

Canolfan weithgareddau lle gallwch baentio’chcrochenwaith eich hun. Prisiau rhwng £5 a £10, a talo £1 ar gyfer costau paent, glud, glityr ac ati!

4

Ogofau Llechi LlechweddBlaenau Ffestiniog LL41 3NB 01766 833809 www.llechwedd-slate-caverns.co.uk

Antur i hanes – mae ymwelwyr yn teithio’n ddwfn odan y ddaear i grwydro’r ogofau ymhell o dan yrwyneb, neu deithio fewn i’r mynydd ar y tram, ganwrando ar dywyswyr lleol yn disgrifio bywyd o dan yddaear yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prynwchanrhegion wedi eu gwneud o’r llechi, neu dewch i’wweld yn cael ei droi’n llechi ar gyfer y to.

5

Rheilffordd TalyllynGorsaf Wharf Station, Tywyn LL36 9EY01654 710472 www.talyllyn.co.uk

Y rheilffordd ager cynta’ yn y byd i’w gadw. Caffi asiop ar agor rhan fwyaf o’r flwyddyn. Anrhegion,profiadau gyrru, trenau arbennig drwy’r flwyddyn.Trenau Nadolig arbennig. Golygfeydd anhygoel.

6

Beics Menai1 Slate Quay, Caernarfon LL55 2PB01286 676804 www.beicsmenai.co.uk

Llogi beiciau ar hyd llwybr beicio heb draffig. 12 milltir olwybr tarmac ar hyd gwely trac hen reilffordd gydachyfleusterau toiled a bwyta ar hyd y ffordd. Hefyd, fforddtraethlin gyda golygfeydd trawiadol dros i Ynys Môn.

7

Bala Adventure and Watersports6 Pensarn Road, Bala LL23 7SR01678 521059 www.balawatersports.com

Ystod eang o weithgareddau awyr agored, gangynnwys canwio, dringo, abseilio, hwylfyrddio, hwylio,saethyddiaeth, cerdded mynyddoedd, crefft gwersylla,adeiladu rafft, beicio mynydd, a cerdded ceunentydd.

8

Labrinth y Brenin ArthurCorris Craft Centre, Upper Corris, Machynlleth SY20 9RF01654 761584 www.kingarthurslabyrinth.co.uk

Hwyliwch drwy rhaeadr, ar hyd mil o flynyddoedd iogofau tanddaearol y labrinth. Mwynhewch storiau’rBrenin Arthur, dreigiaid, brwydrau, cewri a mwy.Golygfeydd dramatig, goleuadau ac effeithiau swnarbennig. Hyn oll o’r ganolfan grefftau yng Nghorris– cartref i 9 o ddylunwyr a’u crefftau, a’r caffiarbennig.

10

PortmeirionMinffordd, Penrhyndeudraeth LL48 6ER01766 772321 www.portmeirion-village.com

Mae gan Portmeirion amryw o gaffis a bwytai ynogystal a Gwesty Portmeirion ar lan y mor. MaeBrasserie Castell Deudraeth yn cynnig mynediad amddim i Bortmeirion gyda pob pryd a weinir. Pentre’nagored trwy’r flwyddyn o 09:30am i 5:30pm (7:30pmyn yr Haf).

11

Castell Harlech CastleCastle Square, Harlech LL46 2YH01766 780552 www.cadw.cymru.gov.uk

Rhyfelwyr Gwyr Harlech. Yn ol y son, mae’n anthemanswyddogol y genedl, un o hoff ganeuon cefnogwyrrygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd, yn disgrifio;rgwarchae hyraf yn hanes Prydain (1461-1468) awelwyd yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhos.

12

Castell Criccieth CastleCastle Street, Criccieth LL52 0DP01766 522227 www.cadw.cymru.gov.uk

Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’rmor yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy a’i ddaudwr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr. Roeddgan dywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegrgymaint o feddwl o’r castell fel y bu iddo newiddwylo’n rheolaidd.

13

Castell Caernarfon CastleCastle Ditch, Caernarfon LL55 2AY01286 677617 www.cadw.cymru.gov.uk

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel CastellCaernarfon yn bresennoldeb bygythiol. Byddaiymosod ar y strwythr enfawr hwn wedi bod yn syniadbrawychus. Creodd Edward 1 un o’r cestyll mwya’trawiadol yng Nghymru. Haeddiannol o statwsTreftadaeth y Byd.

14

Dolgellau CyclesThe Old Furnace, Smithfield Street, Dolgellau LL40 1DF01341 423332 www.dolgellaucycles.co.uk

Llogi beiciau ar gyfer llwybr Mawddach a’rrhwydwaith o lonydd tawel yn yr ardal gyfagos.Beiciau i Oedolion gyda paciau cefn, gardiau olwyniona seddau cyffyrddus. Ystod dda o feiciau ar gyfer poblifanc, gan gynnwys ‘tag-a-longs’ a seddi plant. Maepob beic wedi ei wirio ar gyfer diogelwch a darperirhelmedau.

15

Parc Coedwig GreenwoodY Felinheli, Caernarfon LL55 3AD01248 671493 www.greenwoodforestpark.co.uk

Am ddiwrnod o hwyl ac antur i’r teulu dewch i BarcGreenwood, rhwng Caernarfon a Bangor. Teithiwchar ‘rollercoaster’ sy’n cael ei ynni gan bobl, neugwibiwch lawr llethr sled hyraf Cymru. Dewch i weldpam for Parc Greenwood yw un o brif attyniadauGogledd Cymru.

3

Arbedwch 20% oddi ar gost yr attyniadau yma!

14

314

7

9

5

12

1311

15

6

10

2

8

Rheilffordd Llyn LlanberisGilfach Ddu, LL55 4TY01286 870549 www.lake-railway.co.uk

Cymrwch daith hamddenol ar dren ager hanesyddolar hyd lannau llyn Padarn yn Llanberis. Mwynhewchy golygfeydd arbennig o’r Wyddfa a’r parciaucyfagos. Cymrwch gyfle i gael picnic wrth y llyn, neui ymweld a’r Amgueddfa Llechi Cenedlaethol a’rParc Gwledig.

1

Canolfan y Dechnoleg AmgenLlwyngwern Quarry, Pantperthog, Machynlleth SY20 9AZ01654 705950 www.visit.cat.org.uk

Dewch i weld y ganolfan eco yma am hwyl acysbrydoliaeth. 7 erw o arddangosfeyddrhyngweithiol, gerddi organig, systemau ynniadnewyddol, bwyty bwyd cyflawn a siop lyfraugwyrdd. Mae CAT yn lle da i’r teulu cyfan. Agoredtrwy’r flwyddyn o 10am.

2

Gweithdai Llechi Inigo JonesTudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon LL54 7UE01286 830242 www.inigojones.co.uk

Sefydlwyd yn 1861 i gynhyrchu llechi ysgrifennu iysgolion, ac wedi bod mewn bodolaeth nawr am dros150 o flynyddoedd ac yn parhau i ddefnyddio’r undeunydd crai – llechi sy’n 500 miliwn o flynyddoedd ooed, i wneud cynhyrch pensaerniol, coffaol, a chynyrchi’r ardd. Agored trwy’r flwyddyn ar gyfer teithiauhunan dywys. Ystafell arddangos a chaffi ar gael.

9

PARTNERIAETH RHEILFFYRDD Y CAMBRIANCAMBRIAN RAILWAYS PARTNERSHIP

SY20 8BL

Defnyddiwch y tren neu'r

bws i dderbyn gostyngiad o 20% oddi ar yr atyniadau yma!*

Gweler y manylion y tu fewn...

Gostyngiad20%Atyniadauyng NgwyneddAtyniadauyng Ngwynedd

Gostyngiad20%

Defnyddiwch y tren neu'r

bws i dderbyn gostyngiad o 20% oddi ar yr atyniadau yma!*

Gweler y manylion y tu fewn...

www.leinycambrian.co.uk

TRENAU ARRIVA CYMRUAm amseroedd a phrisiau Tocynnau Tren:

08457 48 49 50 (24 awr llinell National Rail Enquiries)0845 60 40 500 (Gwasanaeth Cymraeg)

0845 60 50 600 (Ffôn Testun)

Cliliwch ar y codau QR yma am fwy o fanylion am attyniadau

yn yr ardal

www.traintaxi.co.ukam fanylion tacsis lleol

Tripiau Tip Top