Amcanion Dysgu: Deall cysyniad môl
description
Transcript of Amcanion Dysgu: Deall cysyniad môl
Amcanion Dysgu:• Deall cysyniad môl
Mae atomau yn anhygoel o fach.
Nid ydym yn gallu mesur mas atom unigol, mae’n llawer rhy fach. Rydym yn gwybod bod gan wahanol atomau masau gwahanol.
Rydym angen ffordd o ddweud pa mor drwm yw gwahanol atomau o’u cymharu â’i gilydd.
Rydym yn mesur masau o atomau mewn perthynas â’i gilydd.
Mae angen i ni gyfrifo beth yw un uned mas fel y gallwn ddweud wedyn beth yw masau eraill.
Rydym yn defnyddio 12C fel ein mesur safonol ac yn mesur masau eraill mewn perthynas â hyn.
A mole is just a number.
Un môl yw’r nifer o ronynnau sydd yr un fath â’r nifer o atomau yn 12g o 12C.
Mae’r nifer yn enfawr:602200000000000000000000 (oddeutu)
Rydym yn ei ysgrifennu fel 6.022 x 1023.
Enghreifftiau
Mae 1 môl o sodiwm yn cynnwys 6.022 x 1023 o atomau sodiwm.
Mae 1 môl o argon yn cynnwys 6.022 x 1023 o atomau argon.
Mae 1 môl o foleciwlau ocsigen yn cynnwys 6.022 x 1023 o foleciwlau ocsigen.
Mae 1 môl o foleciwlau carbon deuocsid yn cynnwys 6.022 x 1023 o foleciwlau carbon deuocsid.