Adult Learning Wales · Web viewBydd gennych addysg o safon dda a bydd cymhwyster TG perthnasol...
Transcript of Adult Learning Wales · Web viewBydd gennych addysg o safon dda a bydd cymhwyster TG perthnasol...
GWEINYDDWR CYMORTH RHANBARTHOL
17.5 awr yr wythnosCyflog cychwynnol £19,149 pro rata y flwyddyn
Cyfnod Penodol hyd at 31ain Gorffennaf 2020 (gyda estyniad at Gorffennaf 2021 yn bosib)
Lleoliad: Wrecsam
Am y swyddBydd y deiliad swydd y yn rhoi cefnogaeth ac yn sail i waith y tîm cyflawni rhanbarthol drwy ddarparu amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cofrestru cyrsiau ar y systemau gwybodaeth rheoli (SRhG), argraffu pecynnau tiwtor, prosesu hawliadau tâl tiwtoriaid, a logio pob manylion y dysgwr a’u gofynion cymorth. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau gweinyddiaeth fanwl gywir mewn perthynas â'i holl darpariaeth gytunedig, cyllid ac ansawdd.
Amdanoch chiBydd gennych addysg o safon dda a bydd cymhwyster TG perthnasol ar lefel 2 neu uwch yn fantais. Bydd gennych sgiliau TG da a’r gallu i arddangos gwybodaeth weithredol dda o Excel, Word a systemau cronfa ddata. Byddwch yn drefnus, yn rhesymegol ac yn gyfathrebwr rhagorol. Byddai sgiliau Cymraeg lefel 3 yn ddymunol.
Ynglŷn ag Addysg Oedolion CymruErs ei sefydlu yn 2015, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gosod ei hun yn gadarn fel y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn gwasanaethu oedolion Cymru gyda chyfleoedd aadysgol sydd yn ysbrydoli, ac ar yr un pryd yn newid bywydau. Rydym yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol, ac yn gweithio ledled Cymru. Yn adeiladu ar ein partneriaethau cryfion, mae ein gweledigaeth yn ein lleoli ar y rheng flaen ar gyfer y twf yn addysg gydol oes, yn blaenoriaethu cyfleoedd i rheini sydd anoddaf eu cyrraedd, yn galluogi pobol trwy drosglwyddo sgiliau iddynt ac yn darparu mynediad cyfartal i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein gweledigaeth yw cynyddu effaith gymdeithasol, economaidd a phersonol addysg cymunedol oedolion yng Nghymru a'n cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru. Ein nod yw grymuso pobl i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i wireddu eu llawn botensial.
Ynglŷn â’n buddion Lwfans gwyliau hael o 30 diwrnod y flwyddyn (pro rata i staff rhan amser) Gwyliau banc a gwyliau dewisol ychwanegol hael. Oriau gwaith 35 awr yr wythnos Cynllun pensiwn cyfartalog gyrfa – CPLlL & TPS
Dyddiad cau 5yh Dydd Gwener 28ain Chwefror 2020Sut i ymgeisio
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw CV yn dderbyniol, ymgeisiwch drwy gwblhau ffurflen gais a’i dychwelyd at
PROFFIL RÔL
Teitl y Swydd: Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol
Lleoliad y Gwaith: Wrecsam
Yn atebol i: Rheolwr Rhanbarthol
Diben y Swydd: Cefnogi ac ategu gwaith y tîm cyflenwi trwy ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cofrestru cyrsiau ar y Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS), casglu a chyflwyno ffioedd dosbarthiadau, monitro arian traul, prosesu hawliadau tiwtoriaid am dâl, a chofnodi holl fanylion a gofynion cymorth dysgwyr.
Hyd y cytundeb: Cyfnod penodol hyd at 31ain Gorffennaf 2020 gydag estyniad hyd at 31ain ‘Orffennaf 2021 yn bosib
Oriau gwaith: 17.5 awr yr wythnos
Cyflog: Cyflog cychwynnol £19,149 pro rata y flwyddyn
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:-
1. Cefnogi ac ategu gwaith y tîm cyflenwi trwy ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys: dyletswyddau prosesu data; casglu a chyflwyno ffïoedd dosbarthiadau; monitro arian traul; prosesu hawliadau tiwtoriaid am dâl; a chofnodi manylion cymorth dysgwyr.
2. Darparu cymorth swyddfa cyffredinol, fel: croesawu ymwelwyr, paratoi ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a dosbarthiadau, ateb y ffôn, llungopïo, ymdrin â phost ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
3. Cynnal trefniadau derbynebau cyllid a bancio cywir.
4. Paratoi a dosbarthu pecynnau tiwtoriaid, gan gynnwys llyfrau gwaith asesu a gwybodaeth, fel y bo’n briodol i’r ddarpariaeth a gyflenwir.
5. Cwblhau tasgau prosesu data, gan gynnwys defnyddio cronfeydd data MIS y sefydliad i gofnodi manylion cyrsiau, prosesu cofrestriadau a gwerthusiadau dysgwyr, prosesu gofynion cymorth a/neu geisiadau dysgwyr, a gwybodaeth arall fel y bo’r angen.
6. Prosesu a monitro’r holl hawliadau am dâl gan diwtoriaid gan ddefnyddio’r gronfa ddata MIS ar gyfer tiwtoriaid.
7. Cysylltu â thiwtoriaid a/neu bartneriaid i sicrhau bod materion ac ymholiadau’n cael eu datrys.
8. Rhyddhau a monitro’r dyraniad arian traul.
9. Coladu, cofnodi a bancio ffïoedd dosbarthiadau, gan gydymffurfio â’r systemau adrodd dynodedig a rheoliadau ariannol.
10. Ymateb i ymholiadau cyffredin gan ddysgwyr, aelodau, rhanddeiliaid, y cyhoedd, a staff mewnol.
11. Darparu cymorth busnes a gweinyddol er mwyn sicrhau arferion gweinyddol a chadw cofnodion cywir mewn perthynas â’r holl ddarpariaeth gytunedig, cyllid ac ansawdd.
12. Gweithio fel rhan o dîm i gynorthwyo tiwtoriaid a sicrhau eu bod yn cael gwybod am holl ddatblygiadau, polisïau a gweithdrefnau perthnasol y sefydliad.
13. Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i ddysgwyr ac aelodau er mwyn cryfhau’r sefydliad fel mudiad gwirfoddol.
14. Gweithio fel rhan o’r tîm cyflenwi i hyrwyddo’r rhaglen gyflenwi, gan gynnwys unrhyw brosiectau, a allai gynnwys cynhyrchu posteri, anfon deunydd hyrwyddo a chyflwyno data ar amrywiaeth eang o gyfryngau cymdeithasol.
15. Gweithio fel rhan o’r tîm cyflenwi i drefnu a chofnodi’r holl weithgareddau datblygu staff ac ansawdd mewnol ar gyfer y rhanbarth.
16. Gweithio’n agos gyda’r Swyddog Cymorth MIS a Thechnoleg i weithio o fewn canllawiau’r sefydliad er mwyn sicrhau ansawdd a chywirdeb data, a chymryd camau i ganfod a chywiro gwallau.
17. Sicrhau y cydymffurfir â gofynion archwilio a bod ffeiliau a chofnodion yn cael eu cynnal yn unol â hynny.
18. Bod yn gyfrifol am greu a rheoli’r ffeiliau data ar gyfer Archwilio Mewnol.
19. Cyflenwi yn lle unrhyw gydweithwyr ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n ofynnol yn rhesymol yn rhan o’r swydd.
20. Bod yn weithredol wrth adrodd i dasgluoedd a chyfarfodydd tîm fel y bo’n briodol i’r rôl.
21. Cymryd rhan ymarferol wrth weithredu gwelliant parhaus ledled y sefydliad.
22. Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol fel sy’n ofynnol gan y swydd.
23. Gweithio’n unol â’r Ddeddf Diogelu Data a gwneud yn siŵr bod pob pryder am ddiogelu data yn cael ei adrodd i Reolwr Diogelu Data’r sefydliad.
24. Cyfrannu at gyfarfodydd staff, a mentrau a datblygiadau’r sefydliad.
25. Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, dilyn hynt newidiadau a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i systemau gweinyddol.
26. Sicrhau bod pob agwedd ar gyfarwyddiadau ac archebion sefydlog ariannol y sefydliad yn cael ei dilyn.
27. Sicrhau y defnyddir arferion gwaith diogel ac y caiff y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch briodol ei mabwysiadu.
28. Cyfrannu at sicrhau bod diogelu a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu rheoli a hyrwyddo’n effeithiol.
29. Gweithio mewn ffordd sy’n sensitif tuag at yr iaith Gymraeg ac yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 a’n dyletswyddau wrth weithredu Safonau’r Gymraeg.
30. Bod yn barod i deithio ar draws Cymru a gweithio’n hyblyg yn ôl gofynion y swydd os yw’n briodol.
a) Fel un o delerau eich swydd, efallai y bydd angen i chi ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill y bydd yn ofynnol, yn rhesymol, i chi eu gwneud, yn gymesur â gradd eich swydd.
b) Dyma ddisgrifiad o’r swydd fel y mae ar hyn o bryd. Mae’n arfer gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i archwilio proffiliau rôl gweithwyr o bryd i’w gilydd, a’u diweddaru i sicrhau eu bod yn berthnasol i’r swydd fel y mae’n cael ei chyflawni, neu i ymgorffori unrhyw newidiadau sy’n cael eu cynnig.
c) Nid bwriad y disgrifiad swydd hwn yw pennu diffiniad cyflawn o’r swydd, ond, yn hytrach, mae’n rhoi amlinelliad o’r dyletswyddau.
MANYLEB YR UNIGOLYN
MEINI PRAWF HANFODOL MANTEISIOL
ADDYSG, HYFFORDDIANT A CHYMWYSTERAU
Addysg gyffredinol o safon dda, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg ar lefel TGAU/Lefel O neu gyfwerth
Cymhwyster TG perthnasol ar Lefel 2 neu uwch
PROFIAD Dealltwriaeth o ansawdd
Profiad o’r amrediad arferol o ddyletswyddau gweinyddu swyddfa, gan gynnwys y canlynol, ond nid yn gyfyngedig iddynt: ateb y ffôn; trosglwyddo negeseuon; ymdrin â phost; prosesu geiriau, cynnal systemau ffeilio/cadw cofnodion; coladu gwybodaeth; llungopïo a sganio; cofnodi data; trefnu cyfarfodydd, cynorthwyo staff eraill ac aelodau’r cyhoedd
Profiad o baratoi archebion prynu a cheisiadau am anfonebau, bancio, derbynebu arian a dderbyniwyd
Cynorthwyo â gwaith hysbysebu cyrsiau, anfon deunydd hyrwyddo, digwyddiadau, ac ati.
Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa addysg ôl-16
Gweithio gyda systemau cronfa ddata a phrosesu data
SGILIAU, GWYBODAETH, AGWEDD
Sgiliau TG da yn gyffredinol, gan gynnwys defnyddio’r holl gymwysiadau meddalwedd swyddfa sylfaenol h.y. prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, ac ati
Medrusrwydd wrth ddefnyddio e-bost, chwilotwyr y we, ac ati
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Bod yn dda am gynnal systemau / gweithdrefnau newydd / sefydledig a / neu addasu i systemau / gweithdrefnau newydd
Hyblyg, onest a dibynadwy
Trefnus a manwl, gyda sgiliau trefnu a gweinyddu cywir
Arddull ffôn gwrtais
Y gallu i weithio o dan bwysau er mwyn bodloni terfynau amser, ac ar eich menter eich hun, gan
Mail merge, Cyhoeddi Bwrdd Gwaith
Datblygu systemau a gweithdrefnau swyddfa newydd er mwyn helpu i ddatblygu a gwella’n barhaus
Dealltwriaeth o ofynion cyfrinachedd data
Canolradd lefel 3 Sgiliau Iaith Gymraeg:
Deall gwybodaeth sy’n cael ei rhoi am bynciau pob dydd, neu pan fydd pethau’n ymwneud â’r gwaith yn cael eu trafod, e.e. mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach.
Deall y brif neges a’r manylion, os yw’r bobl yn siarad yn glir, e.e. wrth glywed hysbysiadau neu wrth wrando ar fwletin
gynnwys y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith pan fo’r angen. Gweithio’n dda ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
Bod yn barod i ddilyn hyfforddiant i wella sgiliau
newyddion.
Cymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau gyda chydweithwyr i drafod gwaith a chynlluniau, os nad yw’r eirfa yn rhy dechnegol; cynnal sgwrs ag unigolyn wrth gynnig gofal neu gyfnewid gwybodaeth gweddol hawdd; cyfrannu at gyfarfod, er yn gorfod troi i’r Saesneg ar gyfer termau arbenigol.
Deall y rhan fwyaf o negeseuon e-bost neu lythyron sy’n ymwneud â gwaith bob dydd; dyfalu beth mae gair yn ei olygu o’r cyddestun, os yw’r pwnc yn gyfarwydd; darllen erthygi syml, uniongyrchol mewn papur newydd neu gylchgrawn.
Ysgrifennu llythyr am y rhan fwyaf o bynciau, gofyn am bethau, rhoi esboniadau, disgrifio profiadau, gwahodd pobl, neu drefnu digwyddiadau; ysgrifennu’n eithaf cywir am y rhan fwyaf o bynciau.
PATRWM GWAITH Bod yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys rhywfaint o waith ar benwythnosau a chyda’r nos os bydd angen
GOFYNION ERAILL Bod yn barod i deithio fel y bo’r angen gan y swydd
FFURFLEN GAIS
Y Swydd yr Ymgeisir amdani: Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol (Wrecsam)
Cyfeirnod y cais (at ddefnydd y swyddfa’n unig)
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogaeth ar gael ar dudalen ‘Swyddi’ y wefan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn: https://www.adultlearning.wales/cym/amdanom/swyddi . Bydd ceisiadau aflwyddiannus yn cael eu cadw am chew mis.
Sicrhewch eich bod yn llenwi holl rannau’r ffurflen hon.
Datganiad Personol
Nodwch yr hyn sy'n eich gwneud chi'n addas ar gyfer y swydd, gan gyfeirio at fanyleb y person wrth ysgrifennu eich datganiad personol.
Ewch ymlaen ar dudalen ar wahân os oes angen.
Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol
Enw’r Corff Graddfa’r Aelodaeth Dyddiad Derbyn:
Hyfforddiant a Datblygiad Personol
Nodwch unrhyw weithgareddau datblygiad personol a hyfforddiant rydych wedi ymgymryd â nhw sydd, yn eich barn chi, yn berthnasol i'ch cais.
Hyfforddiant / Datblygiad Personol Dyddiad
HANES CYFLOGAETHRhowch fanylion eich cyflogaeth hyd yma, gan gynnwys gwaith
gwirfoddol, yn nhrefn amser gan ddechrau â’ch swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf.
Ewch ymlaen ar dudalen ar wahân os oes angen
Dyddiadau Cyflogwr
Amlinelliad bras o'ch
Dyletswyddau a'ch Cyfrifoldebau
Rheswm dros adaelO: I:
CYMWYSTERAU Nodwch unrhyw gymwysterau addysgu ac academaidd perthnasol. Cymwysterau Academaidd Dyddiad
au eu Hennill
Cymwysterau AddysguDyddiadau eu Hennill
Sgiliau Sylfaenol/cymhwyster ESOL (rhowch fanylion)
Yn Siarad Cymraeg Ydw/NaYn Ysgrifennu Cymraeg Ydw/NaRhywfaint o Gymraeg Oes/NaIeithoedd EraillNodwch eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu pellach
Cymraeg Saesneg
Nodwch eich dull gorau o gyfathrebu os bydd eich cais yn llwyddiannus
E-bost Llythyr
Ydych chi’n gallu darparu tystiolaeth sy’n dangos eich bod yn gymwys i weithio yn y DU?
Ydw/Na
(i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol)
Oes ganddoch drwydded Yrru llawn?
Oes / Na
Oes ganddoch fynediad i Oes / Na
gerbyd?
Nodwch ymhle y clywsoch chi am y swydd hon gan nodi’r cyhoeddiad/gwefan
PERTHNASOEDD PERSONOL AGOSDiffinnir perthnasoedd personol agos fel a ganlyn: perthnasoedd rhamantus/rhywiol; perthnasoedd teuluol; perthnasoedd busnes/ariannol/masnachol; a cyfeillgarwch agos. Mae rhain yn cynnwys:
Priod/partner Cyplau sy’n canlyn Rhieni/rhieni yng nghyfraith/llysrieni Plant/llysblant Brodyr/chwiorydd Neiniau/teidiau ac wyrion/wyresau Modrybedd, ewythrod a chefndryd Cyfeillgarwch agos
Oes gennych chi berthynas bersonol agos gydag aelod presennol o staff Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales?
Oes/Na
Os oes, disgrifiwch natur y berthynas hon:
CANOLWYRRhowch enwau, cyfeiriadau (gan gynnwys cod post) a rhifau ffôn dau ganolwr yn llawn. Dylai un o'r rhain fod eich cyflogwr diweddaraf lle bo modd. Gofynnir am eirdaon ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.Arwyddwch isod i roi eich caniatad i gysylltu a’ch canolwyr os bydd eich cais yn llwyddiannus.CANOLWR 1Enw'r sefydliad:
Cyfeiriad y sefydliad: Enw’r Canolwr:Teitl y Swydd neu eich Perthynas ag ef/hi: Cyfeiriad E-bost/rhif ffôn:
CANOLWR 2Enw'r sefydliad:Cyfeiriad y sefydliad: Enw’r Canolwr:
Teitl y Swydd neu eich Perthynas ag ef/hi: Cyfeiriad E-bost/rhif ffôn:
Rwy’n rhoi fy nghaniatad i gysylltu a’r canolwyr uchod er mwyn cael geirdaon, pe bai fy nghais yn llwyddiannus.
Llofnod: ________________________________________________
SYLWCH – Os cewch eich apwyntio gan Addysg Oedolion Cymru bydd angen i chi ddarparu copïau gwreiddiol o dystysgrifau cymwysterau a phrawf eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.
Dychwelwch os gwelwch yn dda i: [email protected]
neu at J. Jones yn y cyfeiriad isod:-Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales, Swyddfa Bangor, Bryn Menai, Ffordd Caergybi,
Bangor, Gwynedd, LL57 2JAFfôn: 01248 363940
Mae Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning
Wales yn gyflogwr cyfle cyfartal
FFURFLEN MONITRO CYFLE CYFARTAL
Nodwch y bydd y ffurflen hon yn cael ei datgysylltu o'ch cais ac ni fydd yn cael ei hystyried yn ystod y broses recriwtio.
Y Swydd yr Ymgeisir amdani: Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol (Wrecsam)
Cyfeirnod y Cais (at ddefnydd y swyddfa’n unig)
ADRAN 1MANYLION PERSONOL
Teitl: Enw cyntaf: Cyfenw:
Cyfeiriad, gan gynnwys y cod post:
Rhif ffôn yn ystod y dydd
Rhif Ffôn Symudol:
*Cyfeiriad E-bost:
*Nodwch y byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost fel y prif ddull o gysylltu â chi lle bynnag y bo modd. Felly gwnewch yn siŵr bod hwn yn gywir os gwelwch yn dda.
MONITRO CYFLE CYFARTAL
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn neilltuo ychydig o amser i roi'r wybodaeth isod i ni sy’n ymwneud â chyfle cyfartal. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon er mwyn monitro a gwerthuso dosbarthiad amrywiaeth ar draws Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
Nodwch y categorïau sydd, yn eich barn chi, yn eich disgrifio chi orau.
Rhyw: Gwryw Benyw Di-Deuaidd Gwell gennyf beidio dweud
Os byddai well gennych term arall, nodwch hynny yma:
Beth yw eich dyddiad geni?
Beth yw eich crefydd neu gred?
Dim crefydd neu gred
Anffyddiwr Bwdhaidd
Cristnogol Hindŵaidd Sikh
Mwslimaidd Iddewig Gwell gennyf beidio dweud
Os oes gennych grefydd neu gred nad ydy ar y rhestr yma, nodwch yma:
Ydydch chi’n briod neu mewn partneriaeth sifl?
Priod Partneriaeth Sifl Gwell gennyf beidio dweud
Hil a Chenedligrwydd
Gwyn Cymraeg Gwyn Saesneg Gwyn albanaidd
Gwyn Gogledd Wyddelig
Gwyn Gwyddelig Gwyn Prydeinig Gwyn Sipsiwn neu Deithiwr Gwyddelig
Unrhyw gefndir Gwyn aral, nodwch hynny yma:
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig
Indiaidd Pacistanaidd
Bangladeshaidd
Tseiniaidd
Cefndir Asiaidd arall, nodwch hynny yma:
Du/Affricanaidd/ Caribïaidd /Du Prydeinig
Affricanaidd Caribî
Unrhyw gefndir arall Du/Affricanaidd/ Caribïaidd, nodwch hynny yma:
Cymysg/Grwp Aml-ethnig
Gwyn a Du Caribïaidd
Gwyn a Du Affricanaidd Gwyn ac Asiaidd Asiaidd a Du Caribïaidd
Asianaidd a Du Affricanaidd Unrhyw gefndir cymysg arall, nodwch hynny yma:Grwp ethnig arall Arabaidd Unrhyw grwp ethnig arall, nodwch hynny yma:
Gwell gennyf beidio dweud Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?Heterorywiol Menyw hoyw/lesbaid Dyn hoyw Deurywiol Gwell gennyf beidio dweud
Os byddai well gennych ddefnyddio term eich hyn, nodwch hynny yma:
Ydych yn ystyried fod gennych anabledd o dan Deddf Cydraddoldeb 2010?Oes Na Gwell gennyf beidio dweud Os oes gennych anabledd, beth yw natur eich anabledd? Nodwch hynny yma:
** Nodwch os gwelwch yn dda y ceisir y wybodaeth hwn at ddibenion monitro. Os ydych angen addasiadau i’ch swydd oherwydd eich anabledd, siaradwch gyda’ch rheolwr llinell **
Bydd ymgeiswyr ag anabledd sy’n cael cyfweliad yn cael cyfle i drafod sut y gallwn ddarparu ar gyfer eu hanghenion yn ystod y broses recriwtio ac os ydynt yn cael eu cyflogi gan Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
A oes gennych gyfrifoldebau gofalu? Os oes, ticiwch bob un sy’n berthnasol
Dim
Prif ofalwr plenty/plant (o dan 18)
Prif ofalwr plenty anabl/plant anabl
Prif ofalwr oedolyn anabl (18 a throsodd)
Prif ofalwr person hyn Ail ofalwr (mae person arall yn cyflawni’r brif rôl gofalu) Gwell gennyf beidio dweud