Adroddiad Report · 2020. 9. 17. · Ionawr 2013 (cyfeirnod cais: P2012/1061). Cafodd y caniatâd...

36
Cyf ffeil/File ref: DNS/3213487 http://planninginspectorate.gov.wales/ Adroddiad Report gan Joanne Burston BSc (Hons), MA, MRTPI by Joanne Burston BSc (Hons), MA, MRTPI Arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru an Inspector appointed by the Welsh Ministers Dyddiad: 14.11.2019 Date: 14.11.2019 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 ADRAN 62D Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 Cais gan Peak Gen Power 5 Limited Tir y tu ôl i uned 6a Parc Busnes Coed Darcy, Llandarcy, Castell-nedd

Transcript of Adroddiad Report · 2020. 9. 17. · Ionawr 2013 (cyfeirnod cais: P2012/1061). Cafodd y caniatâd...

  • Cyf ffeil/File ref: DNS/3213487

    http://planninginspectorate.gov.wales/

    Adroddiad Report

    gan Joanne Burston BSc (Hons), MA, MRTPI

    by Joanne Burston BSc (Hons), MA, MRTPI

    Arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru an Inspector appointed by the Welsh Ministers

    Dyddiad: 14.11.2019 Date: 14.11.2019

    DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

    ADRAN 62D

    Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

    Cais gan Peak Gen Power 5 Limited

    Tir y tu ôl i uned 6a Parc Busnes Coed Darcy, Llandarcy, Castell-nedd

  • Adroddiad DNS/3213487

    ii

    Byrfoddau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn:

    ACA Ardal Cadwraeth Arbennig

    ACLl Awdurdod Cynllunio Lleol

    AEA Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

    AGA Ardal Gwarchodaeth Arbennig

    AP Asesiad Priodol

    ARhC Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

    ATA Ardal Tirwedd Arbennig

    AQS Strategaeth Ansawdd Aer

    BAT Technegau Gorau sydd ar Gael

    BPM Dulliau Ymarferol Gorau

    CBSCNPT Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

    CDLl Cynllun Datblygu Lleol

    CNC Cyfoeth Naturiol Cymru

    DAM Map Cyngor Datblygu

    ‘Deddf 1990’ Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd)

    ‘Deddf 2015’ Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

    DNS Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol

    DLlCD Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

    EPUK Environmental Protection UK

    ES Datganiad Amgylcheddol

    GC Gweinidogion Cymru

    GGAT Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent Cyfyngedig

    GNG Gwarchodfa Natur Genedlaethol

    IAQM Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer

    LlC Llywodraeth Cymru

    LVAS Datganiad o Amwynder Tirweddol a Gweledol

    NOx Nitrogen Ocsid

    PC Cyfraniad Prosesau

  • Adroddiad DNS/3213487

    iii

    PCC Polisi Cynllunio Cymru (argraffiad 10)

    PEC Crynodiad Amgylcheddol Rhagfynegol

    RAMSAR Confensiwn ar Wlyptiroedd, a elwir yn Gonfensiwn RAMSAR

    SAB Corff Cymeradwyo SDC

    SAM Heneb Gofrestredig

    SCR Lleihau Catalytig Detholus

    SDCau System Draenio trefol Cynaliadwy

    SMD St Modwen Development Ltd.

    SoDdGA Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

    SPG Canllawiau Cynllunio Atodol

    STOR Cronfa Weithredu Wrth Gefn Tymor Byr

    S106 Cytundeb Adran 106

    TAN Nodyn Cyngor Technegol

    ‘Y Gorchymyn Gweithdrefn’

    Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

    ‘Y Rheoliadau AEA’

    Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

    ‘Y Rheoliadau Cydsyniadau Eilaidd’

    Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd) (Cymru) 2016

    ‘Y Rheoliadau Cynefinoedd’

    Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010

    ‘Y Rheoliadau DNS’

    Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

  • Adroddiad DNS/3213487

    iv

    Cynnwys Rhif y Dudalen Materion Gweithdrefnol 1 Y Safle a’i Amgylchoedd 2 Y Datblygiad Arfaethedig 2 Asesiad (achos Yr Ymgeisydd) 3

    Cyflwyniad 3 Sŵn 4 Ansawdd Aer 5 Ecoleg 7 Effeithiau Tirweddol a Gweledol 7 Cyflwr y Ddaear 8 Treftadaeth Ddiwylliannol 8 Diogelwch ar y Priffyrdd 9 Draeniad 9 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 10

    Polisi Cynllunio 10 Ymatebion i’r Ymgynghoriad 12

    Wales and West Utilities 12 Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent Cyfyngedig 12 Cyngor Tref Coedffranc 12 Cyfoeth Naturiol Cymru 12 Yr Awdurdod Glo 13 Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 13 Cadw 13 Adroddiad ar yr Effaith Leol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 13

    Materion nad oes anghydfod yn eu cylch Cyfoeth Naturiol Cymru 16 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 16

    Arfarniad/Prif Faterion 18 Cymeriad a Golwg 18 Sŵn 19 Ansawdd Aer 21 Coetir Hynafol 22 Treftadaeth 22 Materion Eraill 23

    Crynodeb o’r Casgliadau 23 Asesiad Priodol 23

  • Adroddiad DNS/3213487

    v

    Safleoedd Ewropeaidd 23 Asesiad Priodol 25 Casgliad yr Asesiad Priodol 25

    Amodau a Rhwymedigaethau 25

    Argymhelliad 26

    Dogfennau a Gyflwynwyd gyda’r Cais 27

    Cynlluniau 27

    Dogfennau a Gyflwynwyd Ers i’r Cais gael ei Ddilysu 28

    Atodiad A – Rhestr o Amodau a Argymhellir 29

  • Adroddiad DNS/3213487

    1

    Cyfeirnod y Cais DNS: DNS/3213487 Cyfeiriad y safle: Tir y tu ôl i uned 6a Parc Busnes Coed Darcy, Llandarcy, Castell-nedd • Gwnaed y cais, dyddiedig 11 Mehefin 2019, o dan adran 62D Deddf Cynllunio Gwlad a Thref

    1990 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015). • Yr ymgeisydd yw Peak Gen Power 5 Limited. • Cadarnhawyd bod y cais yn ddilys ar 15 Gorffennaf 2019. • Cynhaliwyd ymweliad â’r safle ar 05 Medi 2019. • Disgrifir y datblygiad arfaethedig fel “Cais rhannol ôl-weithredol am amgaefa wrth gefn

    weithredol sy’n bodoli eisoes ar gyfer cynhyrchu trydan i gefnogi’r Grid Cenedlaethol sy’n cynnwys 10 cynhwysydd cynhyrchu, ynghyd ag offer switsio cysylltiedig, mynediad i’r safle, triniaethau terfynau a pheiriannau a chyfarpar ategol gyda gosodiad arfaethedig peiriannau a chyfarpar ategol ychwanegol gan gynnwys gosod unedau Lleihau Catalytig Detholus.”

    Ceisiadau am Gydsyniad Eilaidd: • Nid oes unrhyw geisiadau am gydsyniad eilaidd yn cael eu gwneud. Crynodeb o’r Argymhellion: Bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn amodol ar amodau.

    Materion Gweithdrefnol

    1. Cafodd caniatâd cynllunio1 ei roi ar gyfer y datblygiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn wreiddiol ar 21 Ionawr 2013. Cafodd y caniatâd cynllunio ei weithredu, a daeth y cyfleuster yn weithredol. Fodd bynnag, cafodd y datblygiad ei gwblhau heb fod rhai amodau cyn cychwyn wedi’u bodloni. Byddai datblygiad sy’n ei gyflawni heb fod wedi cydymffurfio ag amod cyn cychwyn yn anghyfreithlon a gallai fod yn destun camau gorfodi. I unioni’r sefyllfa hon, mae’r ymgeisydd yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol o dan adran 73A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

    2. At hynny, mae’r cais hwn yn gofyn am ganiatâd ar gyfer gosod cyfarpar ategol ychwanegol ar y safle yn unol â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018.

    3. Yn unol ag Erthygl 5 Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (y Gorchymyn Gweithdrefn), fe wnaeth yr Ymgeisydd hysbysu Arolygiaeth Gynllunio Cymru (‘yr Arolygiaeth’) ar ran Gweinidogion Cymru o’r datblygiad arfaethedig ar 8 Mehefin 2018. Roedd cais am Gyfarwyddyd Sgrinio yn cyd-fynd â’r hysbysiad o ran p’un a yw’r prosiect yn ddatblygiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) o fewn ystyr Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 1999 (fel y’u diwygiwyd) - (y Rheoliadau). Cafodd cyfarwyddyd sgrinio ei roi gan yr Arolygiaeth o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Y cyfarwyddyd a roddwyd oedd nad yw’r cynnig yn ddatblygiad AEA gan fod y datblygiad yn annhebygol o arwain at

    1 cyfeirnod y cais: P2012/1061

  • Adroddiad DNS/3213487

    2

    unrhyw effeithiau amgylcheddol digon sylweddol i warantu AEA. O ran y dystiolaeth sydd gennyf ger fy mron, nid oes gennyf unrhyw reswm i ffurfio barn wahanol.

    4. Ar 26 Mawrth 2019, ysgrifennodd yr Arolygiaeth at yr Ymgeisydd gyda Hysbysiad Derbyn cais arfaethedig ar gyfer Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) o dan Erthygl 6 ‘Y Gorchymyn Gweithdrefn’. Roedd y cais a gyflwynwyd yn destun ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd priodol cyn ymgeisio, yn dod i ben ar 6 Mai 2019, ac roedd Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn cyd-fynd ag ef, dyddiedig Mehefin 2019.

    5. Ar ôl cadarnhau dilysrwydd y cais ar 15 Gorffennaf 2019, ymgymerodd yr Arolygiaeth â’r mesurau ymgynghori a chyhoeddusrwydd penodedig fel y mynnir gan Y Gorchymyn Gweithdrefn. Derbyniwyd saith o sylwadau erbyn y dyddiad cau ar 19 Awst 2019. Cyflwynodd CBSCNPT ei Adroddiad ar yr Effaith Leol ar 8 Awst 2019.

    Y Safle a’i Amgylchoedd

    6. Mae’r safle yn cynnwys oddeutu 0.1 ha o dir, a oedd yn ffurfio rhan o hen safle purfa olew. Mae’r ardal ehangach yn cael ei hailddatblygu nawr fel rhan o Brosiect Adfywio Coed Darcy, yn cynnwys: cartrefi newydd; ysgolion; cyfleusterau cymunedol; a man cyflogaeth.

    7. Mae’r safle ei hun, heb gynnwys y pwyntiau mynediad, fwy neu lai ar ffurf petryal ac mae wedi’i amgáu gan ffens acwstig pren 3 metr o uchder, a cheir mynediad iddo trwy drac oddi ar ffordd gyswllt Parc Busnes Darcy. I’r dwyrain ceir traffordd yr M4, ceir rheilffordd trac dwbl i’r gogledd, ac mae’r parc busnes presennol i’r gorllewin ac i’r de. Mae’r ardal gyffredinol yng nghyffiniau’r safle wedi’i datblygu at ddefnyddiau masnachol, a dylanwadir arni’n drwm gan bresenoldeb unedau busnes mawr a seilwaith cysylltiedig.

    8. Nid oes unrhyw asedau ecolegol dynodedig o fewn y safle. Fodd bynnag, mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Safle Ramsar Cors Crymlyn yn gorwedd i’r gorllewin a’r de, er ei fod dros 1.1 cilometr i ffwrdd o’r safle. Hefyd, mae nifer o ardaloedd o Goetir Hynafol yn yr ardal o amgylch, yn cynnwys Coetir Hynafol Lled-Naturiol sy’n amrywio o ran pellter o ryw 235 - 845m o’r safle.

    9. Mae’r Heneb Gofrestredig agosaf, sef Carnedd Gron Llandarcy, yn fwy na 750m i ffwrdd o’r safle ac mae ffyrdd, datblygiad preswyl ac adeiladau masnachol rhyngddynt. Mae’r adeiladau rhestredig agosaf wedi’u gwahanu oddi wrth y safle gan draffordd yr M4 ac maent yn cynnwys pont gofrestredig Gradd II sef y ‘Bont Dros Gamlas Tenant i’r Dwyrain o Fferm Cwrt y Bettws’ a ‘Stac boeler hen Waith Tunplat Cardonnel’. Mae’r ddau adeiledd rhestredig fwy na 950m i ffwrdd o’r safle.

    Y Cynnig

    10. Mae’r ymgeisydd yn ceisio caniatâd cynllunio rhannol ôl-weithredol ar gyfer cyfleuster wrth gefn gweithredol sy’n cynhyrchu tua 20MW o drydan i gefnogi’r Grid Cenedlaethol ynghyd â gosodiad arfaethedig peiriannau a chyfarpar ategol

  • Adroddiad DNS/3213487

    3

    ychwanegol. Dewiswyd lleoliad y gwaith am ei fod yn agos at is-orsaf a rhwydwaith dosbarthu trydanol presennol Western Power Distribution.

    11. Mae’r amgaefa yn mesur tua 69 x 18 metr wedi’i hamgáu gan ffens palisâd 2 fetr o uchder a ffens acwstig pren 3.5 metr o uchder. Mae’r cyfarpar presennol yn cynnwys deg generadur 2MW mewn unedau cynwysyddion wedi’u hinswleiddio, ynghyd â phum cynhwysydd storio tanwydd, dau gynhwysydd offer switsio, pum newidydd a chyfarpar ategol arall.

    12. Mae’r cyfarpar presennol yn cynnwys y dimensiynau canlynol:

    i. Cynhwysyddion generaduron: 12.2m x 2.4m x 2.9m o uchder;

    ii. Cynhwysydd Offer Switsio HV: 12.2m x 3.2m x 3.4m o uchder;

    iii. Cynhwysydd Offer Switsio LV: 6.1m x 3.2m x 3.4m o uchder;

    iv. Storfa Danwydd: 6.1m x 2.5m x 2.6m o uchder;

    v. Newidydd 11/33kV: 4.9m x 4.2m x 4.6m o uchder; ac

    vi. Uned offer switsio 33kV: 4.0m x 4.0m x 3.4m o uchder.

    13. Ceisir caniatâd cynllunio hefyd ar gyfer peiriannau ychwanegol a chyfarpar ategol y mae angen eu gosod ar y safle o dan Reoliadau newydd Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 ac a fydd yn bodloni safonau gwell o ran allyriadau.

    14. Mae’r cyfarpar ychwanegol yn cynnwys:

    i. 10 x unedau Lleihau Catalytig Detholus (SCR), a fyddai’n codi man uchaf cynhwysyddion y generaduron i 4.94 metr ac yn cynnwys canllaw diogelwch; a

    ii. Thanc Adblue 3.1m x 1.8m x 3.0m o uchder.

    Asesiad (Achos yr Ymgeisydd)

    Cyflwyniad

    15. Mae’r cais yn gofyn am ganiatâd ar gyfer gosod cyfarpar ategol ychwanegol yn unol â Rheoliadau newydd Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer y datblygiad yn wreiddiol gan CBSCNPT ar 21 Ionawr 2013 (cyfeirnod cais: P2012/1061). Cafodd y caniatâd cynllunio ei weithredu, a chomisiynwyd y cyfleuster yn 2015.

    16. Mae’r datblygiad yn darparu cyfleuster i ddarparu ‘gwasanaethau cydbwyso’ grid mewn lleoliad addas sy’n agos at y grid lleol, ac wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r grid lleol. Mae Gweithfeydd Gwasanaethau Cydbwyso yn gyfleusterau sy’n gallu dod yn gwbl weithredol mewn cyfnod amser byr iawn i ddarparu pŵer ychwanegol i’r Grid Cenedlaethol er mwyn helpu rheoli cyfnodau pan fo’r galw yn uwch na hynny a ragamcanwyd gan y Grid Cenedlaethol neu oherwydd diffyg cynhyrchu nas rhagwelwyd, h.y. yn ystod cyfnodau ymchwydd brig, gostyngiadau cynhyrchu dros dro mewn gorsafoedd pŵer eraill neu ostyngiadau mewn cynhyrchiant gwynt/solar ac ati. Bwriedir i Weithfeydd Gwasanaethau Cydbwyso fynd o fod yn anweithredol i fod yn gwbl weithredol yn gyflym er mwyn atal diffoddiadau ac i weithredu hyd nes y gall y brif orsaf bŵer gynyddu ei chynhyrchiant pŵer neu hyd nes y gellir cael gorsafoedd

  • Adroddiad DNS/3213487

    4

    pŵer mwy eraill ar-lein. Mae safle’r gwaith wedi’i ddewis am ei fod yn agos at is-orsaf drydanol a rhwydwaith dosbarthu presennol Western Power Distribution

    17. Nifer y generaduron sy’n pennu gofynion y safle o ran gofod; yn yr achos hwn, mae angen deg generadur i fwydo pŵer trydanol yn ôl i system y Grid Cenedlaethol, a’r arwynebedd safle sydd ei angen yw oddeutu 0.1 hectar neu 0.3 erw.

    18. Cafodd proffil rhedeg ar gyfer y cyfleuster ei gofnodi o 22 Hydref 2016 - 4 Medi 2018. Mae’r proffil rhedeg yn dangos bod y cyfleuster wedi gweithredu am 145 o oriau’r flwyddyn ar gyfartaledd. Caiff y cyfleuster ei ddefnyddio amlaf rhwng yr oriau 16:00 a 20:00. O ystyried natur y defnydd, ceir amgylchiadau eithriadol lle mae angen i’r cyfleuster gael ei weithredu y tu allan i’r oriau gweithredu nodweddiadol. Mae’r proffil rhedeg yn dangos bod hyn wedi digwydd ar ganran o ryw 4% dros y cyfnod y casglwyd data ar ei gyfer.

    Sŵn

    19. Mae Asesiad Sŵn (a gynhaliwyd gan AECOM, Dogfen A21), dyddiedig Mawrth 2019, yn cadarnhau y bydd lliniariadau’r Dulliau Ymarferol Gorau (BPM) a’r Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) arfaethedig yn darparu rheolaeth ar sŵn er mwyn sicrhau bod y Prosiect yn bodloni’r safonau sŵn diwygiedig a’r lleoliadau derbynyddion a gytunwyd gyda CBSCNPT.

    20. Mae datblygiad uwchgynllun mawr yn amgylchynu safle’r cais a fydd yn y pen draw yn arwain at adeiladu derbynyddion sensitif i sŵn yn agosach at y datblygiad na’r rheiny sydd yno ar hyn o bryd. Ystyriwyd bod lleoliadau’r derbynyddion nawr ac yn y dyfodol lawn mor bwysig â’i gilydd. Bydd datblygiad yr uwchgynllun yn arwain hefyd at gynnydd mewn lefelau sŵn cefndir wrth y derbynyddion yn sgil y cynnydd mewn traffig ar y ffordd a gweithgareddau eraill.

    21. Mae’r Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ei hun yn cynnwys deg o unedau cynhyrchu 2MW, bob un ohonynt â’u ffliw wacáu eu hunain, ystafell reoli, ystafell switsio, locer storio a gêr switsio cysylltiedig i is-orsaf 33 cilofolt (KV) Western Power Distribution. Y generaduron eu hunain yw’r ffynonellau sŵn pennaf ar safle’r cais.

    22. Gwnaed rhagfynegiadau o lefelau sŵn y gwaith brigo (peaking plant) yn lleoliadau’r derbynyddion gan ddefnyddio canlyniadau’r mesuriad tarddiad sŵn2. Fe wnaeth y rhagfynegiadau hyn nodi effeithiau uchel posibl ac y byddai angen gostyngiadau pellach. Cafwyd gwybodaeth am fesurau lleihau sŵn ychwanegol ar ôl hynny gan gyflenwyr cyfarpar rheoli sŵn ac roedd y mesurau lleihau gorau fel a ganlyn:

    • Lleihad pellach ym mhŵer sŵn gwacáu trwy osod gwanhadur perfformiad uwch na hynny a ddefnyddiwyd ar gyfer yr unedau Bracknell. Cafwyd data o gyflenwyr ar gyfer y tawelydd gwacáu perfformiad uchaf y gellid ei osod heb fod effaith annerbyniol ar berfformiad peiriannau. Fe wnaeth leihau pŵer sŵn 83 dB LWA.

    • Lleihad yn sŵn gwyntyllau’r rheiddiadur a chanopi drwy eu hamnewid â gosodiadau gwyntyll mwy aerodynamig. Bydd y rhain yn unedau ansafonol mewn

    2 Gwnaethpwyd mesuriadau manwl o ffynonellau sŵn yn un o’r unedau presennol yn Llandarcy ac

    ar safle PeakGen Power 5 Limited yn Bracknell. Roedd uned Bracknell yr un model â’r rhai yn Llandarcy ond roedd yr offer SCR y bwriedir ei osod ar safle’r cais eisoes wedi’i osod yno.

  • Adroddiad DNS/3213487

    5

    gosodiad pwrpasol. Yn ogystal, addasiadau i’r amgaefa i leihau adlewyrchiadau sŵn i gyfeiriad y derbynyddion agosaf. Mae pecyn o fesurau rheoli sy’n cwmpasu’r ardaloedd hyn wedi’i baratoi gan gwmni rheoli sŵn arbenigol sydd wedi rhagfynegi cyfanswm gostyngiad yn lefel pŵer sŵn o rhwng 12 a 20 dB LWA, gan roi llai o bŵer sŵn ar gyfer casinau a gwyntyllau gyda’i gilydd, ar 88 dB LWA.

    23. Ystyrir felly fod cymhwyso’r mesurau lliniaru ychwanegol a restrwyd uchod yn cynrychioli BPM a BAT ar gyfer rheoli sŵn y gwaith brigo.

    24. Mae casgliad yr asesiadau3 yn datgan nad oes unrhyw effaith ar Ffordd Coed Darcy a The Holiday Inn, bod cynnydd bach mewn lefelau yn y cartrefi i’r gorllewin a chynnydd fymryn yn fwy yn y cartrefi i’r gogledd. Mae’r asesiadau hyn ond yn berthnasol i ystafelloedd gwely â ffenestri agored mewn ffasadau sy’n wynebu’r gwaith brigo. Bydd y lefelau mewn ystafelloedd sy’n wynebu i gyfeiriadau eraill a phan fydd ffenestri ar gau yn is. Amcangyfrifir pe bai’r cartrefi i’r gogledd a’r gorllewin yn cael eu hadeiladu i ddarparu insiwleiddiad sŵn digonol i’w gwarchod rhag y lefelau sŵn gweddilliol presennol, yna byddant wedi’u gwarchod yn ddigonol hefyd rhag sŵn y gwaith brigo.

    25. Mae’n bwysig ystyried natur gweithrediad nodweddiadol disgwyliedig y gwaith brigo. Nid yw’r dulliau asesu BS 4142 a BS 8233 yn gwahaniaethu o gwbl rhwng ffynonellau sy’n gweithredu bob dydd a’r rhai sydd ond yn gweithredu’n achlysurol pan fydd y galw’n mynnu eu bod yn gweithredu. Caiff hyn effaith ar y modd y mae’r sŵn yn effeithio ar bobl yn enwedig yn y cyd-destun y mae’r gweithredu’n fwyaf tebygol o ddigwydd yn ystod cyfnodau pan fydd gweithgareddau eraill ar eu huchaf. Deellir ei bod yn fwy tebygol mai yn y gaeaf y bydd y gwaith brigo yn gweithredu pan fo’n llai tebygol y bydd eu ffenestri yn agored gan drigolion.

    26. Er nad oes modd dweud na fydd y gwaith fyth yn gweithredu yn ystod cyfnod tawel iawn yn ystod y nos ar ryw adeg, mae’n amlwg ei bod yn annhebygol iawn y byddai digwyddiad o’r fath yn un rheolaidd. Felly, mae effeithiau canolig mynych, a allai arwain at ddicter yn y gymuned, yn annhebygol.

    27. Yng ngolau’r sylwadau hyn, ystyrir bod yr effaith isel/ganolig a ragfynegir gan y dulliau BS 4142 a BS 8233 yn goramcangyfrif yr effaith wirioneddol y bydd gweithredu’r gwaith brigo wedi’i liniaru yn ei chael, ac y bydd yr effeithiau gwirioneddol yn isel. Ni ragfynegir y bydd y datblygiad yn newid Categorïau Datguddiad Sŵn TAN 11 yr ardaloedd preswyl arfaethedig i’r gogledd a’r gorllewin, er bod hwn yn fater i’w ystyried gan y rheiny sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio manwl ar gyfer y safleoedd hynny. Ymhellach, mae’r cyfleuster wedi bod yn weithredol ers 2015 ac ni chofrestrwyd unrhyw gŵynion ynghylch sŵn hyd yma.

    Ansawdd Aer

    28. Mae’r Asesiad o Effaith ar Ansawdd Aer, dyddiedig Rhagfyr 2018, a baratowyd gan AECOM (Dogfen A18) yn cynnwys asesiad o’r datblygiad yn erbyn amcanion ansawdd aer y DU gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o fodel gwasgaru tarddle penodol ADMS Cambridge Environmental Research Consultants Limited (CERC), fersiwn ADMS5.

    3 Cynhaliwyd gan gyfeirio at Safonau Prydeinig (BS) BS 8233 a BS 4142

  • Adroddiad DNS/3213487

    6

    29. Defnyddiwyd y model hwn i asesu’r effeithiau wrth 26 o dderbynyddion ar wahân sy’n cynrychioli amlygiad pobl sydd agosaf at Safle’r Prosiect, ar safleoedd ecolegol dynodedig Ewropeaidd o fewn 10 cilometr i Safle’r Prosiect ac ar safleoedd ecolegol dynodedig Cenedlaethol/Lleol o fewn 2 gilometr i Safle’r Prosiect.

    30. Gan y gallai’r cyfleuster weithredu ar unrhyw adeg yn ystod y dydd neu nos, mae effeithiau tymor byr wedi’u hasesu trwy fodelu’r cyfleuster yn rhedeg 24 awr y dydd drwy’r flwyddyn er mwyn cynhyrchu’r effeithiau tymor byr achos gwaethaf. Fodd bynnag, dylid nodi, yn ymarferol, na fyddai’r gweithrediadau blynyddol yn fwy na chyfanswm o 390 o oriau.

    31. Wrth fodelu’r effeithiau mewn lleoliadau sy’n gynrychioliadol o dderbynyddion dynol, rhagfynegir y bydd Cyfraniadau Prosesau (PC) cymedrig blynyddol yn uwch na’r meini prawf sgrinio, sef 1% o amcan perthnasol y Strategaeth Ansawdd Aer (AQS). Fodd bynnag, rhagfynegir y bydd y Crynodiad Amgylcheddol Rhagfynegol (PEC) canlyniadol yn is nag amcan y Strategaeth Ansawdd Aer ac ystyrir y bydd effaith y cynllun yn ddibwys i ychydig yn niweidiol yn unol â’r meini prawf arwyddocâd a roddwyd gerbron gan y Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer (IAQM) ac Environmental Protection UK (EPUK). Nid ystyrir bod y lefel hon o newid yn arwyddocaol yn unol â chanllawiau IAQM/EPUK.

    32. Rhagfynegir y bydd Cyfraniadau Prosesau tymor byr uwchlaw 10% o amcan y Strategaeth Ansawdd Aer (AQS) mewn mwyafrif o dderbynyddion, tra bod Crynodiadau Amgylcheddol Rhagfynegol yn uwch nag amcan yr AQS yn y derbynyddion hynny sy’n cynrychioli’r derbynyddion agosaf at Safle’r Prosiect, sef gweithrediadau masnachol eraill ym Mharc Busnes Llandarcy a dau eiddo preswyl heb eu meddiannu/adfeiliedig ar ffin Parc Busnes Llandarcy. Mae amcanion yr AQS ond yn gymwys mewn lleoliadau lle rhagwelir y bydd aelodau’r cyhoedd yn bresennol am gyfnod amser sy’n gyson â’r cyfnod amser sy’n berthnasol i amcan yr AQS.

    33. Er bod y modelu yn dangos gormodiannau ar amcanion tymor byr yr AQS yn y derbynyddion hyn, mae hyn wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth fod y datblygiad yn gweithredu am 24 awr y dydd drwy’r flwyddyn, gydag allyriadau’n cyd-daro â’r amodau meteorolegol gwaethaf ar gyfer gwasgaru llygryddion, a bod derbynyddion yn bresennol yn y lleoliadau derbynyddion hyn wedi’u modelu. O ystyried y bydd safle’r cais yn gweithredu am lai na 500 o oriau’r flwyddyn, mae’n annhebygol y bydd yn gweithredu yn ystod yr amodau meteorolegol gwaethaf, a bod derbynyddion ond yn debyg o fod yn bresennol mewn lleoliadau cyfagos yn ystod oriau agor, ystyrir ei bod yn annhebygol iawn y bydd y datblygiad yn arwain at ormodiant ar amcan yr AQS nac yn arwain at effaith sylweddol ar iechyd pobl ar unrhyw un o’r derbynyddion a fodelwyd.

    34. Nid ystyrir bod y newid rhagfynegol yn y crynodiadau llygryddion cymedrig blynyddol yn arwyddocaol o ran safleoedd ecolegol dynodedig Ewropeaidd a chenedlaethol, gyda’r cynnydd mewn crynodiadau llygryddion yn llai nag 1% o’r Lefel Gritigol a’r Llwythi Critigol perthnasol ar gyfer gwarchod safleoedd dynodedig.

    35. Rhagwelir y bydd Cyfraniadau Prosesau yn uwch na 100% o’r Lefel Gritigol NOx ddyddiol berthnasol yn y coetiroedd hynafol agosaf at Safle’r Prosiect, fodd bynnag, mae gormodiannau’r lefel gritigol tymor byr (dyddiol/24 awr) yn llawer llai pwysig ar gyfer llystyfiant na gormodiannau’r lefel gritigol hirdymor. Mae hyn oherwydd mai prif rôl NOx yw fel ffynhonnell nitrogen, a chaiff llystyfiant ond ei effeithio gan

  • Adroddiad DNS/3213487

    7

    newidiadau hirdymor mewn dyddodiad nitrogen yn hytrach nag amrywiadau byr (24 awr).

    36. O ganlyniad, ni fydd crynodiadau NOx uwch tymor byr yn effeithio’n sylweddol ar ddyddodiad nitrogen, y dangosodd yr asesiad y bydd ymhell o fewn y Llwyth Critigol perthnasol ym mhob safle, yn seiliedig ar uchafswm o 500 o oriau yn gweithredu bob blwyddyn, ac felly ni fydd yn effeithio ar lystyfiant. Felly, ystyrir na fydd gormodiant y lefel gritigol tymor byr yn arwain at effeithiau niweidiol ar strwythur neu gyfansoddiad botanegol y coetiroedd hynafol.

    37. Yn gyffredinol, ystyrir nad yw effeithiau’r datblygiad yn arwyddocaol ar dderbynyddion dynol ac ecolegol yn ardal yr astudiaeth ar sail gweithrediadau blynyddol llai na 500 o oriau’r flwyddyn. At hynny, mae PeakGen wedi cynnig bod terfyn pellach yn cael ei bennu ar y safle yn ei Drwydded Amgylcheddol, yn cyfyngu’r safle i uchafswm o 390 o oriau’r flwyddyn, gan wneud unrhyw effaith ar ansawdd aer yn annhebygol yn ystadegol felly. Cadarnheir hyn hefyd yn adolygiad RPS o Adroddiad yr Asesiad o Effaith ar Ansawdd Aer (Dogfen A20) sy’n datgan “gyda’r cyfyngiad hwn ar oriau gweithredu, mae RPS yn cytuno yr ystyrir nad yw’r effeithiau rhagfynegol yn arwyddocaol”.

    Ecoleg

    38. Mae Nodyn Technegol yn ymwneud ag Ecoleg a Bioamrywiaeth, dyddiedig 8 Hydref 2018, (Dogfen A15) wedi’i baratoi gan AECOM i ategu’r cais hwn. Mae’r canlyniadau o’r arolygon a gwblhawyd yn dangos bod safle’r cais ar hyn o bryd yn cynnwys cyfarpar gwaith ar lawr caled/graean a bod ffens pren estyll clòs yn ei amgylchynu’n llwyr. Mae’r datganiad a baratowyd gan AECOM yn dweud nad yw safle’r cais o unrhyw werth ecolegol ac na fydd parhau i’w weithredu yn cael unrhyw effeithiau arwyddocaol ar ddynodiadau ecolegol, cynefinoedd na rhywogaethau.

    39. Felly, deuir i’r casgliad nad ystyrir bod Arolwg Cynefinoedd Cam 1 yn angenrheidiol. Asesir bod y datblygiad arfaethedig yn gyson â maen prawf 4 o Bolisi RE1 y Cynllun Datblygu Lleol.

    Amwynder tirweddol / gweledol

    40. Mae Nodyn Technegol yn ymwneud ag Amwynder Tirweddol a Gweledol, dyddiedig 8 Hydref 2018, (Dogfen A17) wedi’i baratoi gan AECOM i ategu’r cais hwn. Mae’n dweud “Mae Safle’r Cais wedi’i leoli ar safle hen burfa olew sydd wedi’i adfer a’i ailddatblygu ar gyfer datblygiadau diwydiannol, gweithgynhyrchu, swyddfeydd a datblygiad preswyl. Mae’r llain eang hwn o dir llwyd yn amlwg ar y dirwedd ehangach gydag ardaloedd mawr o dir gwag, wedi’i adfer, gyda choetir adfywio a phrysgwydd yn ei fritho ochr yn ochr â’r datblygiad parhaus sy’n gysylltiedig ag uwchgynllun Coed Darcy. Mae tir amaeth gwledig yn amgylchynu’r hen burfa, gyda thir pori bryniog a phocedi o goetir dwys wedi’u britho gan lonydd ag ymylon gwrychoedd cul. Gellir gweld godreon Bannau Brycheiniog yn y pellter i’r gogledd, gyda Chors Crymlyn i’r gorllewin. Mae Safle’r Cais wedi’i leoli i’r de o linell rheilffordd, i’r dwyrain o Gyffordd 43 ar yr M4”.

    41. Cwblhawyd caniatâd cynllunio cyfeirnod P2012/1061 heb gydymffurfio ag amod yn ymwneud â chyflwyno cynllun tirlunio. Ystyriwyd bod cynllun o’r fath yn ddiangen o ystyried y cyd-destun amgylchynol i’r safle, ac yn sgil y ffaith nad oes lle o fewn ôl-troed safle’r cais i ddarparu ar gyfer cynllun tirlunio.

  • Adroddiad DNS/3213487

    8

    42. Tra bod trefniant mewnol y cyfleuster yn atal unrhyw fath o gynllun tirlunio, mae safle’r cais wedi’i leoli y tu ôl i’r unedau presennol yn y parc busnes sy’n sgrinio golygon o’r safle’n rhannol o’r ardal adfywio ehangach i’r de. Mae hefyd wedi’i ogwyddo’n gyfochrog ac yn union yn ymyl y band o goetir ar hyd coridor y rheilffordd sy’n sgrinio’r datblygiad o olygon i’r gogledd uniongyrchol. O safleoedd uwch mewn ardaloedd amgylchynol i’r gogledd ac i’r de, gan gynnwys o’r eiddo preswyl newydd o amgylch Heathland Way, mae’r datblygiad yn ymddangos fel estyniad i’r parc busnes, wedi’i integreiddio’n llwyddiannus yng nghyd-destun y dirwedd uniongyrchol ac o fewn golygon ehangach oherwydd ei fod o raddfa a màs tebyg a bod deunyddiau tebyg wedi’u defnyddio.

    43. Mae’r tirlunio presennol yn parhau heb ei newid ac nid oes unrhyw dirlunio meddal ychwanegol yn cael ei gynnig. Mae’r safle wedi’i amgáu gan ffens palisâd 2 fetr o uchder a ffens acwstig pren 3 metr o uchder. Ystyrir felly nad oes angen tirlunio ychwanegol at ddibenion amwynder gweledol ar safle’r cais. Nid yw’r cyfleuster yn cael effaith niweidiol ar y safle na’i amgylchoedd.

    Cyflwr y Ddaear

    44. Mae Nodyn Technegol yn ymwneud â Chyflwr y Ddaear, dyddiedig 8 Hydref 2018, (Dogfen A16) wedi’i baratoi gan AECOM i ategu’r cais hwn. Cwblhawyd caniatâd cynllunio cyfeirnod P2012/1061 heb gydymffurfio â rhai o’r amodau cynllunio a gynhwyswyd yn y caniatâd. O ganlyniad, mae’r cais cynllunio ôl-weithredol hwn yn ceisio rheoleiddio’r sefyllfa honno. Roedd y caniatâd yn cynnwys 4 o amodau cyn cychwyn (Rhifau 17 i 20) a oedd yn ymwneud â chyflwr y ddaear a halogiad. Er na chawsant eu cyflawni’n ffurfiol, cydymffurfiwyd â gofynion yr amodau hyn yn llawn gan Peak Gen cyn datblygu cais y safle.

    45. Caffaelwyd safle Coed Darcy gan St. Modwen Development Ltd (SMD) oddi wrth BP Oil Llandarcy Refinery Ltd. Ar ôl caffael y safle, ymrwymodd SMD i Rwymedigaethau Gweithred Gynllunio o dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990) ar gyfer y safle cyfan. Roedd y cytundeb Adran 106 yn mynnu bod SMD yn cynnal asesiad halogiad a gwaith adfer i safonau penodol gyda monitor penodedig yn llunio adroddiad ac yn ei gymeradwyo. Comisiynodd SMD ymgynghoriaeth ‘Atkins’ i ddarparu cyngor yn ymwneud ag ailddatblygu Safle’r Prosiect.

    46. Casgliad Adroddiad ‘Atkins’ oedd yr ystyriwyd bod Cyfnod Monitro 26 (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ardal Peak Gen) wedi cyflawni gofynion yr Adran 106 a oedd ar waith ar gyfer Coed Darcy. Ar ôl hynny, rhoddwyd Tystysgrif Adfer gan URS Corporation Ltd. (sydd bellach yn rhan o AECOM).

    47. Nodwyd ar y dystysgrif URS, pe bai newid sylweddol yn y cynnig datblygu, y byddai angen ailystyried yr asesiad. Nid yw’n ymddangos bod hyn yn wir yma, gan nad oes unrhyw waith paratoi tir pellach wedi’i gynnig.

    48. Mae AECOM o’r farn fod amodau cynllunio 17 -20 o ganiatâd cynllunio P2012/1061 yn dod o dan waith blaenorol ac felly, ar sail gwybodaeth flaenorol ac asesiadau a gynhaliwyd, mae’r datblygiad yn cydymffurfio â’r gofynion hyn mewn perthynas â chyflwr y ddaear ac adfer. Nid yw amodau pellach yn ofynnol fel rhan o’r cais hwn.

    Treftadaeth Ddiwylliannol

  • Adroddiad DNS/3213487

    9

    49. Mae’r Heneb Gofrestredig agosaf, sef Carnedd Gron Llandarcy (Cofnod Rhif 392), yn fwy na 750m i ffwrdd o’r safle ac mae ffyrdd, datblygiad preswyl ac adeiladau masnachol rhyngddynt. Yn ystod yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, cadarnhaodd Cadw4 i’r Arolygiaeth fod y cynllun yn annhebygol o gael unrhyw effaith arwyddocaol ar yr Heneb Gofrestredig na’i lleoliad.

    50. Mae’r adeiladau rhestredig agosaf wedi’u gwahanu oddi wrth y safle gan draffordd yr M4 ac maent yn cynnwys pont gofrestredig Gradd II sef y ‘Bont Dros Gamlas Tenant i’r Dwyrain o Fferm Cwrt y Bettws’ (Cofnod Rhif 23073) a ‘Stac boeler hen Waith Tunplat Cardonnel’ (Cofnod Rhif 23072); mae’r ddau adeilad/adeiledd rhestredig fwy na 950m i ffwrdd o’r safle.

    Diogelwch ar y Priffyrdd

    51. Mae’r cais cynllunio yn ceisio caniatâd cynllunio rhannol ôl-weithredol gan fod y datblygiad eisoes wedi’i adeiladu a bod rhan ohono’n weithredol. Yn hyn o beth, symudiadau cerbydau cyfyngedig fyddai yno ac eithrio ar gyfer gwaith cynnal a chadw. O ran gosod offer a chyfarpar ategol (gan gynnwys SCRau), mae’r Datganiad ar Ddulliau Adeiladu (dogfen A14) yn dangos y gellir rheoli effeithiau traffig adeiladu yn dderbyniol.

    52. Yn unol â hynny, gellir dod i’r casgliad fod y datblygiad yn dderbyniol o ran diogelwch ar y priffyrdd a diogelwch cerddwyr, i’r graddau ei fod yn gyson â Pholisi SP20 y CDLl, fel y cadarnhawyd yn y Datganiad Tir Cyffredin (Dogfen A25) gyda CBSCNPT.

    Draeniad a Dŵr Wyneb

    53. Mae Nodyn Technegol yn ymwneud â Draeniad, dyddiedig 19 Mawrth 2019, (Dogfen A22) wedi’i baratoi gan AECOM i ategu’r cais hwn. Mae’r Strategaeth Dŵr Wyneb yn dangos:

    • Bod dŵr wyneb yn cael ei reoli’n bennaf trwy ddraeniad goddefol drwy ymdreiddiad;

    • Nid oes unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r risg llifogydd dŵr wyneb cyn datblygu nac ar ôl datblygu;

    • Mae adfer y safle’n ehangach yn darparu buddion cadarnhaol trwy waredu tir halogedig ac felly’r potensial i lygryddion presennol ymdreiddio i ffynonellau dŵr daear;

    • Mae’r draeniad sydd ar waith yn gymesur â natur a graddfa’r datblygiad; ac

    • Mae’r rheolaeth a’r gwaith cynnal a chadw ar y system ddraenio sy’n gwasanaethu’r mynediad i’r briffordd yn waith y gellir ei gyflawni ac mae’r system yn cael ei chynnal a’i chadw’n rheolaidd.

    54. Nid oes system biben draenio dŵr wyneb ar safle’r cais. Cafodd y llenwad cerrig ei ychwanegu ar ben y safle tir llwyd cywasgedig a oedd yno’n barod, gan gynyddu’r capasiti ymdreiddio a storio dŵr wyneb felly. Mae mwyafrif wyneb yr amgaefa heb balmant i alluogi dŵr wyneb i dreiddio drwy’r ddaear yn yr un ffordd ag ydoedd cyn

    4 Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru

  • Adroddiad DNS/3213487

    10

    adeiladu. Y bwriad oedd osgoi unrhyw gynnydd mewn dŵr ffo wyneb. Ystyrir felly fod potensial dibwys ar gyfer ymdreiddio ac i nodweddion hydrolig y safle a adferwyd gael ei newid yn sylweddol gan y datblygiad arfaethedig.

    55. Nid oes perygl i safle’r cais ddioddef llifogydd o ffynonellau dŵr wyneb ar hyn o bryd. Rhagdybir y byddai mapiau llifogydd dŵr wyneb adeg y cais gwreiddiol wedi bod yr un fath. Nid yw’r datblygiad yn cynyddu perygl llifogydd, felly nid yw’r asesiad o lwybrau llif dros y tir a llwybrau mynediad / ffyrdd allan at ddibenion argyfwng wedi’u hystyried. Nid yw draeniad y datblygiad yn effeithio ar ddraeniad trydydd parti. At hynny, yn ystod gweithrediadau adeiladu, ni wnaed unrhyw newid i ffosydd, nentydd na chwlferi, naill ai ar safle’r cais neu’n ffinio ag ef.

    56. Mae elfennau arfaethedig y datblygiad yn cynnwys gosod offer a chyfarpar ategol yn unig, yn hytrach na gwaith adeiladu’n ymwneud ag adeiladau neu strwythurau. Mae CBSCNPT, yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio trefol Cynaliadwy (SDCau) (SAB), wedi cadarnhau i’r ymgeisydd erbyn hyn nad oes angen cymeradwyaeth SAB (derbyniwyd ar 18 Mawrth 2019). Felly, nid oes angen ystyried cydymffurfiaeth yn gysylltiedig ag SDCau ymhellach.

    Cydymffurfiaeth â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (DLlCD)

    57. Mae’r ymgeisydd (a chytunwyd gyda CBSCNPT yn y Datganiad Tir Cyffredin (dogfen A25)) yn datgan y byddai’r datblygiad yn gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, o dan Adran 3 DLlCD, ac mae’n gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy trwy ei gyfraniad tuag at un neu fwy o amcanion llesiant Gweinidogion Cymru a amlinellir fel sy’n ofynnol gan Adran 8 Deddf DLlCD.

    58. Mae’r Datblygiad yn cydsynio ag un neu fwy o’r nodau llesiant a bennwyd yn DLlCD.

    Casgliadau

    59. Gan ystyried y datblygiad, aseswyd a daethpwyd i’r casgliad fod y cynnig yn dderbyniol (yn ddarostyngedig i amodau) mewn perthynas â’r egwyddor datblygu. Yn ogystal, mae’r datganiadau a gyflwynwyd i ategu’r cais cynllunio yn dod i’r casgliad fod y cynnig yn dderbyniol o ran ansawdd aer, sŵn, ecoleg, tirwedd, trafnidiaeth, cyflwr y ddaear a’r egwyddor datblygu.

    60. O ganlyniad, ystyrir bod y datblygiad yn cydymffurfio â pholisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol a’i fod yn gyson â’r CDLl a’r holl ystyriaethau perthnasol eraill. Gellir dod i’r casgliad yn unol â hynny y dylid rhoi caniatâd cynllunio i’r cais yn amodol ar bennu amodau rhesymol.

    Polisi Cynllunio

    61. Ar lefel genedlaethol, Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) a Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) yn pennu polisïau a gweithdrefnau LlC ar agweddau gwahanol ar gynllunio. Mae’r rhai sy’n berthnasol yma yn cynnwys:

    • Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10 (Rhagfyr 2018)

    • TAN 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009)

  • Adroddiad DNS/3213487

    11

    • TAN 11: Sŵn (1997)

    • TAN 12: Dylunio (2016)

    62. Ar lefel leol, mae’r polisi cynllunio wedi’i amlinellu yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a fabwysiadwyd yn Ionawr 2016. Mae’r safle wedi’i ddyrannu yn y CDLl fel Ardal Adfywio Strategol (AAS) trwy bolisi SRA1. Mae nifer o bolisïau’r CDLl yn arbennig o berthnasol:

    Polisïau Strategol

    • Polisi SP1 Newid yn yr Hinsawdd: mae’n ceisio mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd.

    • Polisi SP2 Iechyd: mae’n nodi mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â lefelau uchel o iechyd gwael a salwch hirdymor yn yr ardal.

    • Polisi SP15 Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth: mae’n ceisio amddiffyn, gwarchod a gwella cynefinoedd pwysig, rhywogaethau a safleoedd o ddiddordeb daearegol.

    • Polisi SP16 Diogelu’r Amgylchedd: mae’n ceisio diogelu, a lle bo’n ymarferol, gwella ansawdd aer, dŵr a’r ddaear a’r amgylchedd yn gyffredinol.

    • Polisi SP18 Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel: mae’n pennu y bydd cyfraniad cymesur at gwrdd â thargedau cenedlaethol o ran ynni adnewyddadwy a thargedau effeithlonrwydd ynni’n cael ei wneud wrth gydbwyso effaith datblygu ar yr amgylchedd a chymunedau.

    • Polisi SP21 Yr Amgylchedd Adeiledig a’r Dreftadaeth Hanesyddol: mae’n datgan y bydd rhaid i’r amgylchedd adeiledig a’r dreftadaeth hanesyddol, lle bo’n briodol, gael eu gwarchod a’u gwella.

    Polisïau’n Seiliedig ar Destunau

    • Polisi SC1 Terfynau Anheddiad: mae’n diffinio datblygiad cymesur o fewn mathau o anheddiad.

    • Polisi EC1 Dyraniadau Cyflogaeth (EC1/3 Tir o fewn AAS Coed Darcy (4Ha B1)): mae’n dyrannu safleoedd at ddefnyddiau cyflogaeth.

    • Polisi EC3 Defnyddiau Ardal Gyflogaeth: mae’n ceisio ysgogi twf drwy hwyluso cymysgedd ehangach o ddefnyddiau mewn ardaloedd cyflogaeth.

    • Polisi EN6 Safleoedd Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth Pwysig: mae’n datgan y bydd cynigion datblygu ond yn cael eu caniatáu lle maent yn gwarchod, a lle bo modd yn gwella, pwysigrwydd treftadaeth naturiol y safle, neu ni allai’r datblygiad gael ei leoli’n rhesymol yn rhywle arall, a bod buddion y datblygiad yn gorbwyso pwysigrwydd treftadaeth naturiol y safle.

    • Polisi EN8 Llygredd a Sefydlogrwydd Tir: mae’n pennu na fydd cynigion a fyddai’n creu problemau newydd neu’n gwaethygu problemau presennol yn dderbyniol oni bai bod mesurau lliniaru yn cael eu cynnwys i leihau risg niwed i iechyd y cyhoedd, bioamrywiaeth a/neu amwynder lleol i lefel dderbyniol.

  • Adroddiad DNS/3213487

    12

    • Polisi RE2 Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel mewn Datblygiad Newydd: mae’n datgan y bydd cynlluniau sy’n cysylltu â ffynonellau ynni adnewyddadwy presennol, rhwydweithiau gwresogi ardal ac yn ymgorffori technoleg di-garbon / carbon isel ar y safle yn cael eu hannog.

    • Polisi TR2 Dylunio Datblygiad Newydd a Mynediad Iddo: mae’n datgan y bydd yn ofynnol i ddatblygiad newydd ddangos na fydd yn cael unrhyw effaith niweidiol ar y rhwydwaith priffyrdd presennol a thraffig, neu na fydd tagfeydd yn cynyddu i lefelau annerbyniol.

    • Polisi BE1 Dylunio: mae’n pennu y bydd disgwyl i bob cynnig datblygu ddangos dyluniad o ansawdd uchel sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’r cyd-destun naturiol, hanesyddol a’r amgylchedd adeiledig, ac yn cyfrannu at greu lleoedd deniadol, cynaliadwy.

    • Polisi RE1 Meini Prawf ar gyfer Asesu Datblygiad Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel: mae’r polisi hwn yn amlinellu’r meini prawf y bydd yr holl gynigion ar gyfer datblygiad ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel yn cael eu hasesu yn eu herbyn.

    • Polisi SRA1 Ardal Adfywio Strategol Coed Darcy: Mae’n datgan fod AAS wedi’i dynodi yng Nghoed Darcy ar gyfer datblygu pentref trefol yn cynnwys 4,000 o unedau preswyl (2,400 o fewn cyfnod y Cynllun) a 41,200 metr sgwâr B1 defnydd busnes.

    Canllawiau Cynllunio Atodol Perthnasol

    • Llygredd (Hydref 2016);

    • Dylunio (Gorffennaf 2017);

    • Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth (Mai 2018); ac

    • Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel (Gorffennaf 2017).

    Ymatebion i’r Ymgynghoriad

    Wales and West Utilities (WWU) (Cyfeirnod Dogfen REP01)

    63. Nid oes gan WWU unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, fodd bynnag, gallai fod risg i bresenoldeb prif gyflenwad nwy pwysedd canolradd / uchel gerllaw cyfarpar safle’r cais yn ystod y gwaith adeiladu, ac felly os caiff caniatâd cynllunio ei roi mae’n rhaid i’r ymgeisydd gysylltu ag WWU i drafod y mater yn fanylach.

    Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent Cyfyngedig (GGAT) (Cyfeirnod Dogfen REP02)

    64. O ystyried y defnydd o’r safle yn y gorffennol, mae’n annhebygol y deuir ar draws dyddodion archaeolegol. Felly, ni wneir unrhyw argymhelliad ar gyfer gwaith lliniaru archaeolegol.

    Cyngor Tref Coedffranc (Cyfeirnod Dogfen REP03)

  • Adroddiad DNS/3213487

    13

    65. Mae pryderon gan y Cyngor ynglŷn â’r sŵn y bydd y generaduron yn ei gynhyrchu a maint yr unedau.

    Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (Cyfeirnod Dogfen REP04)

    66. Mae CNC wedi gwneud 4 sylw ynglŷn â’r cais hwn:

    i. Bydd y gweithrediad yn cael ei reoleiddio gan CNC o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Yn unol â hynny, bydd effaith sŵn ac allyriadau i’r aer yn cael ei hadolygu fel rhan o’r broses drwyddedu.

    ii. Mae nifer o safleoedd Ewropeaidd a’r DU gwarchodedig wedi’u nodi o fewn 2 gilometr i safle’r cais. Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y’u diwygiwyd) yn mynnu bod yr Awdurdod Cymwys, cyn awdurdodi prosiect sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd, yn cynnal asesiad priodol o’r goblygiadau ar gyfer y safle hwnnw o ystyried amcanion cadwraeth y safle hwnnw. O’r wybodaeth a gyflwynwyd, mae CNC o’r farn fod y datblygiad arfaethedig yn annhebygol o gael effaith amgylcheddol arwyddocaol ar y derbynyddion sensitif dynodedig. Serch hynny, bydd angen rhagor o wybodaeth yn ystod yr asesiad o’r cais trwyddedu ynglŷn â derbynyddion sensitif eraill h.y. coetiroedd hynafol.

    iii. Yn ogystal, er bod gan CNC bryderon yn ymwneud â Chyfraniadau Prosesau at ansawdd aer, o ystyried yr oriau gweithredu blynyddol arfaethedig, byddai hyn yn fater gweithredol yn ymwneud â thrwydded a bydd yn cael ei ystyried gan CNC o dan ei asesiad o’r cais am drwydded.

    iv. Mae CNC yn fodlon yr aethpwyd i’r afael â’r risg i ddyfroedd a reolir.

    v. Mae’r ymagwedd gyffredinol a’r egwyddorion yn y Datganiad o’r Dulliau Adeiladu, dyddiedig Medi 2018, yn ymddangos yn rhesymol.

    Yr Awdurdod Glo (Cyfeirnod Dogfen REP05)

    67. Mae’r datblygiad arfaethedig y tu allan i’r Ardal Datblygiad Risg Uchel ddiffiniedig, ac yn unol â hynny nid oes gofyniad i’r ymgeisydd gyflwyno Asesiad Risg Mwyngloddio Glo, neu gyfwerth, i gefnogi’r cais hwn. Serch hynny, os deuir ar draws unrhyw nodwedd yn ymwneud â mwyngloddio glo yn ystod y datblygiad, dylid hysbysu’r Awdurdod Glo ynghylch hyn.

    Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Cyfeirnod Dogfen REP06)

    68. Nid yw’r safle o fewn unrhyw barthau ymgynghori diogelwch y cyhoedd HSE sy’n gysylltiedig â naill ai ‘Gosodiadau Perygl Mawr’ neu ‘Biblinellau Perygl Damweiniau Mawr’ ac felly nid yw’r HSE yn cynghori yn erbyn y cynnig.

    Cadw (Cyfeirnod Dogfen REP07)

    69. Mae Carnedd Gron Llandarcy (GM291) wedi’i lleoli o fewn byffer 1 cilometr i ardal y cais ond, oherwydd yr adeiladau sydd rhyngddynt, llystyfiant a’r dopograffeg naturiol, nid yw ardal y cais yn rhyngweledol â’r heneb gofrestredig. Felly, nid oes unrhyw wrthwynebiad gan Cadw i effaith y datblygiad arfaethedig ar yr heneb gofrestredig.

    Adroddiad ar yr Effaith Leol gan CBSCNPT (Cyfeirnod Dogfen REP08)

  • Adroddiad DNS/3213487

    14

    70. Mae Adroddiad CBSCNPT ar yr Effaith Leol yn cyflwyno’i asesiad ar nifer o faterion, yn cynnwys effeithiau tirweddol a gweledol, priffyrdd, bioamrywiaeth, sŵn, treftadaeth, halogi tir, a buddion y cynllun. Mae hefyd yn cynnwys amodau cynllunio awgrymedig pe bai caniatâd yn cael ei roi. Mae’r prif bwyntiau wedi’u crynhoi isod.

    Gweledol a Thirweddol

    71. Dylid rhoi ystyriaeth i effeithiau’r cynnig ar gymeriad lleol ac amwynder gweledol, gan roi ystyriaeth i’w leoliad o fewn Ardal Adfywio Coed Darcy. Nodir bod y cyfleuster yn weithredol, er y byddai’r seilwaith/ cyfarpar ychwanegol a gynigir o dan y cais hwn yn cynyddu pwynt uchaf yr unedau 1.1m. Ni fyddai hyn yn cynyddu effaith y datblygiad ar yr ardal nawr nac fel rhan o gynigion datblygu yn y dyfodol.

    72. Cytunwyd yn y Datganiad Tir Cyffredin, pe bai caniatâd cynllunio ôl-weithredol yn cael ei roi ar gyfer y datblygiad, na fyddai angen cynllun tirlunio. Felly, mae’r Cyngor o’r farn y byddai Effaith Dirweddol a Gweledol y cynnig yn niwtral.

    Priffyrdd

    73. Gan fod y datblygiad wedi’i adeiladu i raddau helaeth, mae’r effeithiau ar briffyrdd ond yn ymwneud â gosod yr offer a’r cyfarpar ychwanegol a’r gweithrediad parhaus. Mae Datganiad o’r Dulliau Adeiladu wedi’i gyflwyno mewn perthynas â’r blaenorol ac mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cynghori nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad o ran priffyrdd. Nid oes unrhyw amodau priffyrdd yn cael eu hargymell gan yr Awdurdod, ac ystyrir y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith niwtral ar y rhwydwaith priffyrdd presennol neu ar ddiogelwch y priffyrdd neu gerddwyr yn gyffredinol.

    Ansawdd Aer

    74. Fel rhan o’r trafodaethau cyn ymgeisio, cyflwynwyd Asesiad o’r Ansawdd Aer (Dogfen A18). Comisiynodd y Cyngor RPS i gynnal adolygiad annibynnol o’r model gwasgaru a gynhwyswyd yn yr asesiad hwnnw. Mae adroddiad RPS (Dogfen A20), ar ran y Cyngor, yn cytuno bod yr Effeithiau ar Ansawdd Aer wedi’u hasesu’n gywir, gan gynnwys defnyddio model priodol.

    75. Mae’r effeithiau’n annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar iechyd pobl a defnyddwyr tir ecolegol o amgylch, ar yr amod bod unrhyw ganiatâd sy’n cael ei roi yn cynnwys amodau sy’n cyfyngu:

    • Ar yr ymgeisydd i ddefnyddio diesel sylffwr isel iawn, gyda chynnwys sylffwr nad yw’n fwy na 0.001% o danwydd; ac

    • Ar nifer yr oriau gweithredu, i 390 y flwyddyn.

    76. Yn amodol ar bennu rheolaeth briodol, bydd yr effeithiau ar ansawdd aer yn niwtral. Fodd bynnag, yn absenoldeb y cyfryw amodau cyfyngol (h.y. y cyfleuster yn gweithredu mewn modd cwbl ddi-reolaeth), byddai effaith y datblygiad yn negyddol.

    Bioamrywiaeth

    77. Nid oes unrhyw werth ecolegol i safle’r cais ei hun, ond mae angen sicrhau na fyddai gweithrediad y cyfleuster ei hun yn cael effaith annerbyniol ar safleoedd dynodedig gerllaw. Mae’r rhain yn cynnwys Safle Ramsar / ACA / SoDdGA Cors Crymlyn sydd

  • Adroddiad DNS/3213487

    15

    wedi’i leoli 1.1 cilometr i’r de o’r safle. Mae dynodiadau eraill yn cynnwys nifer o ardaloedd o Goetir Hynafol yn yr ardal amgylchynol, yn cynnwys Coetir Lled-Naturiol Hynafol.

    78. Ar sail natur a graddfa’r datblygiad a’r Asesiad o Ansawdd Aer a gynhaliwyd, yn amodol ar gymhwyso’r amodau a argymhellwyd, ystyrir y bydd effaith y datblygiad ar safleoedd dynodedig gerllaw yn niwtral. Fodd bynnag, yn absenoldeb y cyfryw amodau cyfyngol (h.y. y cyfleuster yn gweithredu mewn modd cwbl ddi-reolaeth), byddai effaith y datblygiad ar safleoedd dynodedig (Coetir Hynafol) gerllaw yn debygol o fod yn negyddol.

    Sŵn

    79. Mae’r cais wedi’i gefnogi gan Asesiad o Effaith Sŵn (Dogfen A21) sy’n mynd i’r afael ag effeithiau sŵn y datblygiad, gan gynnwys offer a chyfarpar ychwanegol. Mae hyn wedi’i adolygu gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor fel rhan o drafodaethau cyn ymgeisio.

    80. Yn amodol ar bennu rheolaethau priodol, sef:

    • cyfyngu ar yr oriau gweithredu y tu allan i’r oriau 07.00 i 23.00 i uchafswm o 50 awr mewn unrhyw flwyddyn galendr;

    • ffens acwstig; a

    • lefelau graddio sŵn wrth dderbynyddion y cytunwyd arnynt

    ystyrir na fyddai gweithrediad y safle’n cael effaith annerbyniol ar amwynder preswyl, a byddai’r effeithiau sŵn tebygol yn niwtral. Yn absenoldeb y cyfryw amodau cyfyngol (h.y. y cyfleuster yn gweithredu mewn modd cwbl ddi-reolaeth), byddai effaith y datblygiad yn negyddol.

    Treftadaeth

    81. Ystyrir bod y datblygiad yn cael effaith niwtral ar dreftadaeth heb fod unrhyw asedau dynodedig cyfagos yn cael eu heffeithio gan y datblygiad.

    Halogiad Tir

    82. Mae safle’r cais yn ffurfio rhan o safle Ardal Adfywio Strategol ehangach Coed Darcy sy’n elwa o fod â chaniatâd cynllunio amlinellol, y ceir nifer o amodau ynghlwm ag ef yn ymwneud ag adfer, a dilysu unrhyw halogiad tir posibl. Mae rhwymedigaethau ar berchnogion y safle hefyd o dan gytundeb cyfreithiol i adfer y safle, ac mae monitro annibynnol ar ei gyfer.

    83. Mae Swyddog Halogiad Tir y Cyngor o’r farn fod safle’r cais wedi’i adfer i lefel foddhaol gan St Modwen cyn i’r cyfleuster adfywio gael ei ddatblygu. Ni wnaeth datblygu’r cyfleuster darfu ar arwyneb na daeareg y ddaear ac eithrio gwaith cyfyngedig i dorri ffosydd bas ar gyfer ceblau cysylltu trydan. Mae arwyneb y ddaear wedi’i gapio â graean ac mae’r cynwysyddion yn eistedd ar ben sliperi wedi’u codi. Fel y cyfryw, nid yw’r cyfleuster wedi cael unrhyw effaith ar gyflwr y ddaear ar y safle.

    84. Ystyrir felly bod effaith y datblygiad yn nhermau halogi tir yn niwtral.

  • Adroddiad DNS/3213487

    16

    Buddion y Cynllun

    85. Byddai’r cynllun yn cynhyrchu tua 20MW o bŵer trydanol sy’n ddigonol i bweru cartrefi a busnesau ar adegau pan fo angen byr dymor. Mae’r datblygiad, felly, yn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer pŵer yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach a byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol.

    Materion nad oes anghydfod yn eu cylch rhwng y prif bartïon

    Datganiad Tir Cyffredin gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), dyddiedig 13 Chwefror 2019 (Dogfen A24)

    86. At ddiben y Datganiad Tir Cyffredin Canlynol, cyfeirir at Cyfoeth Naturiol Cymru a’r ymgeisydd ar y cyd fel "y Partïon". Mae’r Partïon yn cytuno ar y canlynol:

    i. Nid yw’r safle wedi’i leoli o fewn unrhyw ardaloedd dynodedig o ran tirwedd, treftadaeth neu ecoleg. Fodd bynnag, mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) (Cod y safle: UK0012885), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) (Cod: 33WWP) a Safle Ramsar (cod RAM: UK14006) Cors Crymlyn yn gorwedd i’r gorllewin a’r de ond mae dros 1.1 cilometr o’r safle.

    ii. Nid yw’r model ar gyfer Ansawdd Aer wedi’i adolygu gan CNC, fodd bynnag, mae CNC yn fodlon y delir â hyn yn y cam Trwyddedu Amgylcheddol.

    iii. Mae’r safle o fewn Parth Llifogydd A, yn ôl y Map Cyngor Datblygu sy’n ategu Nodyn Cyngor Technegol 15, ac a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Parth Llifogydd A yn golygu yr ystyrir mai ychydig o risg sydd i’r safle, neu ddim risg o gwbl, o ddioddef llifogydd afonol neu forol/arfordirol. Mae draeniad dŵr wyneb yn fater i’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (CBSCNPT) ac nid oes angen draeniad dŵr budr ar y datblygiad.

    iv. Ni fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar unrhyw asedau tirwedd dynodedig.

    v. Deliwyd â halogiad a ganfuwyd ar y safle i lefel foddhaol.

    vi. Ar wahân i’r broses gynllunio, bydd angen i’r datblygiad, yn ogystal, gydymffurfio â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018.

    Datganiad Tir Cyffredin gyda CBSCNPT, dyddiedig 10 Mehefin 2019 (Dogfen A25)

    87. At ddiben y Datganiad Tir Cyffredin canlynol, cyfeirir at CBSCNPT a’r ymgeisydd ar y cyd fel "y Partïon". Mae’r Partïon yn cytuno ar y canlynol:

    i. Mae gwybodaeth y Fframwaith Polisi y dylid asesu’r Datblygiad yn ei herbyn yn cynnwys: Polisi Cynllunio Cymru - Argraffiad 10; TAN 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio; TAN 11: Sŵn; TAN 12: Dylunio; TAN 18: Trafnidiaeth; Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot 2011 - 2026 Polisïau SP1 - Newid yn yr Hinsawdd, SP2 - Iechyd, SP15 - Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth, SP16 - Diogelu’r Amgylchedd, SP18 - Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel, SP20 - Y Rhwydwaith Trafnidiaeth, SP21 - Yr Amgylchedd Adeiledig a’r Dreftadaeth Hanesyddol, SC1 - Terfynau Anheddiad, EC1 - Dyraniadau Cyflogaeth (EC1/3 Tir o fewn AAS Coed Darcy (4Ha B1)), EC3 - Defnyddiau Ardal Gyflogaeth, EN6 - Safleoedd Bioamrwyiaeth a Geoamrywiaeth Pwysig, EN7 - Nodweddion Naturiol

  • Adroddiad DNS/3213487

    17

    Pwysig, EN8 - Llygredd a Sefydlogrwydd Tir, RE1 - Meini Prawf ar gyfer Asesu Datblygiad Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel, RE2 - Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel mewn Datblygiadau Newydd, TR2 - Dylunio Datblygiad Newydd a Mynediad Iddo, BE1 - Dylunio ac SRA1 - Ardal Adfywio Strategol Coed Darcy; Canllawiau Cynllunio Atodol, SPG Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth (Mai 2018), SPG Llygredd (Hydref 2016), ac SPG Dylunio (Gorffennaf 2017). Mae’r egwyddor ddatblygu, gan ystyried cyd-destun y polisi hwn, yn dderbyniol.

    ii. Ni fyddai angen yr un o’r cydsyniadau eilaidd a bennwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

    iii. Mae’r effaith isel/ganolig a ragfynegir gan y dulliau BS 4142 a BS 8233 yn goramcangyfrif yr effaith wirioneddol y bydd gweithredu’r gwaith brigo wedi’i liniaru yn ei chael, a bydd yr effeithiau gwirioneddol yn isel. Gyda mesurau lliniaru Dulliau Ymarferol Gorau (BPM) ar waith, gan ystyried cyd-destun penodol gweithrediad Safle’r Prosiect a natur yr ardal amgylchynol, bydd effaith sŵn o’r datblygiad yn isel neu’n isel iawn. Felly, yn ddarostyngedig i amodau, gan gynnwys yr angen i bennu lefelau sŵn wrth dderbynyddion penodedig, a gweithdrefn ymchwilio i gŵynion, mae gweithredu’r Safle yn annhebygol o gael effaith annerbyniol ar amwynder preswyl.

    iv. Fel rhan o drafodaethau cyn ymgeisio, fe wnaeth CBSCNPT gomisiynu RPS i adolygu’r Asesiad o’r Effaith ar Ansawdd Aer a baratowyd gan AECOM (Rhagfyr 2018). Mae adroddiad RPS yn CYTUNO bod yr Effeithiau ar Ansawdd Aer wedi’u hasesu’n gywir, gan gynnwys defnyddio model priodol. Er bod rhywfaint o anghytundeb ynglŷn â’r allyriadau màs o lwch, (para 3.11 o Adroddiad RPS) mae RPS yn cytuno gyda chasgliadau’r adroddiad ar Ansawdd Aer fod y datblygiad yn annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar iechyd pobl ac ecoleg, yn ddarostyngedig i amodau. Mae adolygiad RPS yn rhagdybio y deuir i gytundeb gyda CNC nad yw effeithiau’r NOx dyddiol yn y ddau goetir hynafol yn arwyddocaol.

    v. Mae canfyddiadau’r Datganiad Amwynder Tirweddol a Gweledol a gyflwynwyd yn gywir. Nid oes cynllun tirlunio wedi’i roi ar waith gan yr ystyriwyd nad oedd ei angen o ystyried y cyd-destun o amgylch y safle a’r sgrinio gweledol a ddarparwyd gan y ffens bren estyll clòs sy’n amgylchynu’r safle, a hefyd yn sgil y ffaith nad oes lle o fewn ôl-troed safle’r cais ar gyfer cynllun tirlunio. Yn unol â hynny, pe bai caniatâd cynllunio ôl-weithredol yn cael ei roi ar gyfer y datblygiad yn y dyfodol, ni ddylai fod angen cynllun tirlunio. Ymhellach, nid yw tirlunio at ddibenion amwynder gweledol yn angenrheidiol ar y safle ac nid yw’r cyfleuster yn cael effaith andwyol ar y safle na’i amgylchoedd.

    vi. Cafodd safle’r cais ei adfer i lefel foddhaol gan St Modwen cyn i’r cyfleuster adfywio gael ei ddatblygu. Ni wnaeth datblygu’r cyfleuster darfu ar arwyneb na daeareg y ddaear ac eithrio gwaith cyfyngedig i dorri ffosydd bas ar gyfer ceblau cysylltu trydan. Mae arwyneb y ddaear wedi’i gapio â graean ac mae’r cynwysyddion yn eistedd ar ben sliperi wedi’u codi. Fel y cyfryw, nid yw’r cyfleuster wedi cael unrhyw effaith ar gyflwr y ddaear ar y safle.

    vii. Ar wahân i’r broses gynllunio, bydd angen i’r datblygiad, yn ogystal, gydymffurfio â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018.

  • Adroddiad DNS/3213487

    18

    viii. Mae’r datblygiad yn dderbyniol ym mhob agwedd arall yn amodol ar bennu amodau sy’n gyson â’r Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) a’r canllawiau yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu.

    ix. Byddai’r datblygiad yn gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, o dan Adran 3 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’n gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy trwy ei gyfraniad tuag at un neu fwy o amcanion llesiant Gweinidogion Cymru a amlinellir fel sy’n ofynnol gan Adran 8 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

    x. Ar ôl ystyried y datblygiad arfaethedig a’r effeithiau posibl yn deillio o’r datblygiad, nid ystyrir bod unrhyw faterion a fyddai’n mynnu rhwymedigaethau o dan Adran 106 (Deddf 1990). Hefyd, o ystyried nad yw’r datblygiad yn cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall, nid oes angen cymeradwyaeth SAB ar y cynllun.

    xi. Mae saith o amodau drafft wedi’u cytuno (fel yr amlinellir yn adran 3 y Datganiad Tir Cyffredin rhwng yr ymgeisydd a CBSCNPT).

    Prif Faterion

    88. Yng ngolau’r uchod, rwyf o’r farn mai’r prif faterion yw effaith y datblygiad a gosod y cyfarpar ategol ychwanegol arfaethedig ar:

    i. gymeriad a golwg yr ardal amgylchynol o ran effeithiau tirweddol a gweledol;

    ii. derbynyddion dynol cyfagos, gydag ystyriaeth benodol i sŵn ac ansawdd aer;

    iii. coetiroedd hynafol, gan gyfeirio’n benodol at ansawdd aer; a

    iv. ph’un a fyddai’r datblygiad yn diogelu neu’n gwella asedau treftadaeth.

    89. Pe bawn i o blaid argymell bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar sail yr ystyriaethau uchod, byddai’n rhaid i mi wedyn fynd ymlaen i ystyried, yn dilyn Asesiad Priodol (AP) o dan y Rheoliadau Cynefinoedd5:

    i. p’un a fyddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio’n niweidiol ar integredd safle Ewropeaidd Cors Crymlyn, gan roi ystyriaeth i amcanion cadwraeth y safle hwnnw; ac, a fyddai’n cael effaith niweidiol; ac

    ii. os nad oes unrhyw atebion amgen, p’un a fyddai’n rhaid cyflawni’r datblygiad am resymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig6.

    Cymeriad a golwg

    5 Fel yr awdurdod cymwys, cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw cynnal AP, ond i gynorthwyo â’r

    broses honno, rwyf wedi nodi f’asesiad o’r ffactorau y mae angen eu hystyried. 6 Rheoliad 64 o’r Rheoliadau Cynefinoedd.

  • Adroddiad DNS/3213487

    19

    90. Mae’r amgaefa wedi’i lleoli ar hen safle purfa olew sydd wrthi’n cael ei adfywio fel y pennir ym Mholisi SRA1 y CDLl. Mae Canolfan Fusnes bresennol Darcy yn uniongyrchol i’r de, ac i’r gogledd ceir coed a gwrychoedd aeddfed. Mae’r rhain yn darparu cryn dipyn o sgrinio yn lleol.

    91. O ystyried cyd-destun ardal y cais a’r ardal adfywio ehangach, mae’r effaith ar gymeriad a golwg yr ardal, yn fy marn i, yn ddibwys. Fel y soniwyd yn barod, mae ardal fawr wedi’i dyrannu ar gyfer datblygu yn y pen draw, ac yng nghyd-destun y ffaith hon a lleoliad presennol y safle, nid yw’r datblygiad yn arwain at effaith arwyddocaol ar gymeriad tirwedd yr ardal amgylchynol. Mae’r amgaefa bresennol a’r strwythurau ychwanegol arfaethedig yn nodweddiadol o adeiladau diwydiannol modern ac ni fyddent yn cyflwyno nodweddion nad ydynt i’w cael eisoes yn yr ardal o amgylch.

    92. Serch hynny, bydd y gwaith ychwanegol ar yr unedau Lleihau Catalytig Detholus (SCR) yn cynyddu pwynt uchaf strwythurau’r generaduron o ryw 1.1 metr, o 3.8 i 4.94 metr. Bydd yr unedau SCR i’w gweld uwchlaw’r ffens ar hyd y terfyn, yn enwedig mewn golygon o’r eiddo preswyl i’r de orllewin. Fodd bynnag, nid wyf o’r farn y byddai’r effaith weledol yn annerbyniol. Ni fyddai’r gwaith ychwanegol arfaethedig o raddfa neu gymeriad a fyddai’n arwain at effaith weledol lethol. Yn benodol, mae’r unedau SCR yn edrych fel ffliwiau a welir yn gyffredin ar adeiladau diwydiannol modern mewn ardaloedd trefol a lled drefol, lle mae llawer o drigolion yn eu gweld. I bob pwrpas, nid yw’r sefyllfa’n ddim gwahanol yma.

    93. Byddai’r newid o olwg presennol y safle i’r datblygiad arfaethedig yn un bach o safbwynt y trigolion lleol yr effeithir arnynt, o ystyried y pellteroedd gwahanu dan sylw, ac ni fyddai o natur a fyddai’n cael ei ystyried yn anghyffredin mewn amgylchiadau cyffredinol. O ran effaith ar ddefnyddwyr y parc busnes, mae golygon o ardal y cais wedi’u cyfyngu gan yr adeiladau presennol sydd, i bob pwrpas, yn troi eu cefn ar y datblygiad, a chan lystyfiant aeddfed. Wrth gerdded o amgylch y parc busnes, dim ond cipolygon sydyn o safle’r cais sydd i’w gweld, ac yn y cyfryw olygon roedd y datblygiad yn ymddangos yn gydnaws â’r rheiny o’r parc busnes presennol.

    94. O ran ei effaith weledol ehangach, rwyf o’r farn na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith uniongyrchol arwyddocaol ar eiddo preswyl presennol ymhellach i’r gogledd a’r gogledd ddwyrain. Byddai ei effaith o’r M4 i’r dwyrain yn ddibwys. Ar hyn o bryd, mae’r golwg o’r datblygiad presennol a’r datblygiad arfaethedig wedi’i sgrinio i raddau helaeth gan y llystyfiant aeddfed sy’n cyffinio ag ochr ogleddol a dwyreiniol safle’r apêl.

    95. Mae’r ymgeisydd yn derbyn na chafodd cynllun tirlunio ei gyflwyno i leddfu pryderon y Cyngor ynghylch effaith weledol y cynllun gwreiddiol. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn derbyn erbyn hyn fod cynllun o’r fath yn ddiangen. O’m canfyddiadau i uchod, rwyf yn cytuno bod sgrinio derbyniol yn cael ei ddarparu gan y ffens bresennol ar hyd y terfyn a chan y llystyfiant aeddfed, i’r graddau na fyddai cynllun tirlunio yn angenrheidiol yn yr achos hwn.

    96. Canfyddaf felly na fyddai’r gwaith presennol a’r gwaith arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad a golwg yr ardal. Deuaf i’r casgliad, felly, nad yw’r datblygiad arfaethedig yn gwrthdaro â darpariaethau perthnasol y cynllun datblygu o ran ei effaith dirweddol a gweledol.

    Sŵn

  • Adroddiad DNS/3213487

    20

    97. Mae’r brif ffynhonnell sŵn o safle’r cais yn cael ei hachosi gan y deg o eneraduron sy’n cael eu gyrru gan injans. Fodd bynnag, mae lefelau sŵn amgylchynol yn yr ardal yn cael eu llethu gan draffig ar draffordd yr M4 a thraffig ffordd / rheilffordd arall.

    98. Mae’r Asesiad Sŵn a gyflwynwyd, dyddiedig 18 Mawrth 2019, yn dangos effeithiau sŵn yn ystod gweithredu mewn pedwar lleoliad monitro sŵn7 ac aseswyd hyn gan ddefnyddio BS4142:2014 ‘Dulliau ar gyfer Graddio ac Asesu Sŵn Diwydiannol a Masnachol’ a BS 8233:2014 ‘Canllawiau ar inswleiddio sŵn a lleihau sŵn ar gyfer adeiladau’. Roedd yr Asesiad Sŵn yn cynnwys asesiad o’r sŵn yn deillio o’r gweithrediadau presennol a’r rheiny ar gyfer safle PeakGen arall y mae offer SCR wedi’i gosod yno.

    99. Mae’n bwysig cydnabod nad yw dulliau asesu BS 4142 a BS 8233 yn gwahaniaethu o gwbl rhwng ffynonellau sy’n gweithredu bob dydd a’r rhai sydd ond yn gweithredu’n achlysurol pan fydd y galw’n mynnu eu bod yn gweithredu. Mae’r datblygiad hwn ond yn gweithredu pan fo straen eithafol yn cael ei roi ar y grid pŵer, ac nid yw’n cael ei ddefnyddio’n gyson.

    100. Mae gweithrediadau’r gwaith wedi’u hasesu gan ddefnyddio ‘senario achos gwaethaf’. Arweiniodd hyn at effaith sŵn uchel annerbyniol yn digwydd ym mhob un o’r pedwar lleoliad monitro. Yn unol â hynny, mae mesurau lliniaru wedi’u harchwilio, yn cynnwys:

    • Lleihad pellach ym mhŵer sŵn gwacáu trwy osod gwanhaduron perfformiad uwch.

    • Lleihad yn sŵn gwyntyllau’r rheiddiadur a chanopi drwy eu hamnewid â gosodiadau gwyntyll mwy aerodynamig.

    101. Fe wnaeth asesiad pellach o’r effaith sŵn gan ddefnyddio’r mesurau lliniaru hyn, y gellid eu rheoli gan amod cynllunio, arwain at fynd yn uwch na chanllawiau BS 8233:2014 o hyd. Fodd bynnag, y prif reswm am y gormodiannau hyn oedd y sŵn gweddilliol presennol yn yr ardal, o goridor yr M4 yn bennaf, yn hytrach na gweithrediad y gwaith8. Fel y pennwyd yn TAN 119, o ystyried y sŵn presennol o goridor yr M4, byddai angen i ddyluniad yr eiddo preswyl arfaethedig i’r gogledd ymgorffori modd o reoli sŵn yn dod i mewn. Pan fyddant ar waith, byddai’r mesurau hyn yn lleihau yn lleihau sŵn yn dod i mewn o’r gwaith cydbwyso hefyd.

    102. Ymhellach, mae’n fwy tebygol o lawer y bydd angen i’r gwaith weithredu ar amserau pan fydd y galw ar y system yn uwch, sy’n digwydd yn gyffredinol yn ystod yr adeg brysuraf yn y bore ac yn gynnar gyda’r nos. Ceir y lefelau sŵn cefndir uchaf yn ystod y cyfnodau hyn hefyd, ac mae sensitifrwydd y boblogaeth gyffredinol i sŵn yn debygol o fod ar ei isaf. At hynny, byddai amodau sy’n cyfyngu ar oriau gweithredu,

    7 Cytunwyd ar y lleoliadau gan CBSCNPT 8 Er yr eir yn uwch na’r canllawiau, nid oes unrhyw gyfraniad o’r gwaith ‘brigo’. 9 Atodiad A “Wrth asesu cynnig ar gyfer datblygiad preswyl gerllaw ffynhonnell sŵn, dylai

    awdurdodau cynllunio lleol bennu i ba un o’r pedwar categori datguddiad sŵn (NEC) y mae’r safle arfaethedig yn perthyn, gan ystyried lefelau sŵn yn ystod y dydd ac yn ystod y nos. Dylai awdurdodau cynllunio lleol roi ystyriaeth wedyn i’r cyngor yn yr NEC priodol”

  • Adroddiad DNS/3213487

    21

    uchafswm oriau gweithredu blynyddol a lefelau graddio sŵn wrth dderbynyddion cytûn yn lleihau effeithiau sŵn o’r cyfleuster hefyd.

    103. Mae CBSCNPT yn fodlon na fyddai’r cynnig yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ar amwynder preswyl lleol; rwy’n cytuno, gyda’r mesurau lliniaru sydd ar waith, y byddai’r effaith yn isel, ac ni fyddai gweithrediadau’n newid Categorïau Datguddiad Sŵn TAN 11 yr ardal ehangach. Rwy’n cydnabod pryderon Cyngor Tref Coedffranc y benodol mewn perthynas ag effeithiau posibl sŵn pan fydd y datblygiad yn gweithredu’n llawn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth bendant ger fy mron y byddai effeithiau gweithredol, gyda mesurau lliniaru ar waith, mor fawr eu bod yn creu effaith niweidiol arwyddocaol. Yn ogystal, mae hwn yn fater a allai fod yn destun rheoleiddio pellach o dan reolaethau amgylcheddol ar wahân.

    104. O ganlyniad, ni fyddai’r cynnig yn arwain at niwed annerbyniol i amwynder lleol o ran llygredd sŵn, a byddai felly’n gyson â gofynion polisïau BE1 ac EN8 y CDLl.

    Ansawdd aer

    105. Mae’r potensial ar gyfer effeithiau ansawdd aer ar iechyd pobl a derbynyddion ecolegol wedi’i ystyried yn llawn, fodd bynnag, byddaf yn canolbwyntio ar dderbynyddion dynol yma.

    106. Mae’r Asesiad Ansawdd Aer a gyflwynwyd (dyddiedig Rhagfyr 2018) wedi’i seilio ar y gwaith yn gweithredu ar ei uchafswm o 500 o oriau’r flwyddyn. Senario blynyddol ‘achos gwaethaf’ yw hwn felly. Wrth weithredu ar y lefel hon, mae’r model gwasgaru wedi nodi’r potensial i fynd yn uwch nag amcan nitrogen deuocsid (NO2) 1-awr y Strategaeth Ansawdd Aer (AQS), sef 200 µg/m3, mewn adeiladau masnachol cyfagos ym Mharc Busnes Llandarcy.

    107. Gan droi at effeithiau tymor byr, gallai’r cyfleuster weithredu ar unrhyw adeg yn ystod y dydd neu’r nos. Felly, fe wnaeth yr asesiad fodelu’r datblygiad yn rhedeg 24 awr y dydd drwy’r flwyddyn er mwyn cynhyrchu’r effeithiau tymor byr achos gwaethaf. Rhagfynegir y bydd Cyfraniad Prosesau tymor byr yn uwch na 10% o amcan yr AQS mewn mwyafrif o dderbynyddion, tra bod Crynodiadau Amgylcheddol Rhagfynegol (PECs) yn uwch nag amcan yr AQS wrth y derbynyddion hynny sy’n cynrychioli’r derbynyddion agosaf at y cyfleuster, sef gweithrediadau masnachol eraill ym Mharc Busnes Llandarcy a dau eiddo preswyl heb eu meddiannu/adfeiliedig ar ffin Parc Busnes Llandarcy.

    108. Fodd bynnag, mae amcanion yr AQS ond yn gymwys mewn lleoliadau lle rhagwelir y bydd aelodau’r cyhoedd yn bresennol am gyfnod amser sy’n gyson â’r cyfnod amser sy’n berthnasol i amcan yr AQS. Er bod y modelu yn dangos gormodiannau ar amcanion tymor byr yr AQS yn y derbynyddion hyn, mae hyn wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth fod y Prosiect yn gweithredu am 24 awr y dydd drwy’r flwyddyn, gydag allyriadau’n cyd-daro â’r amodau meteorolegol gwaethaf ar gyfer gwasgaru llygryddion, a bod derbynyddion yn bresennol yn y lleoliadau derbynyddion hyn wedi’u modelu.

    109. O ganlyniad i’r gormodiannau hyn, mae’r ymgeisydd wedi cynnig bod yr oriau gweithredu blynyddol yn cael eu cyfyngu i 390 a bod tanwydd diesel sylffwr isel iawn

  • Adroddiad DNS/3213487

    22

    yn cael ei ddefnyddio10. Yn y cyd-destun hwn, nid oes gennym unrhyw reswm i ffurfio barn wahanol i CBSCNPT na gododd unrhyw bryderon o ran ansawdd aer neu allyriadau o’r datblygiad arfaethedig, o ran iechyd pobl, yn ddarostyngedig i amodau cynllunio er mwyn sicrhau bod y mesurau lliniaru datganedig yn cael eu rhoi ar waith. Fel mesur diogelu pellach, mae’r ymgeisydd yn cynnig bod y Drwydded Amgylcheddol ar gyfer y safle yn y nifer hon o oriau gweithredol nid yw’r safle yn debygol, yn ystadegol, o fynd uwchlaw amcan yr AQS.

    110. Yn gyffredinol, nid ystyrir bod effeithiau’r datblygiad yn arwyddocaol ar sail gweithrediadau blynyddol o 390 o oriau’r flwyddyn. Yn unol â hynny, ni fyddai’r cynnig yn arwain at unrhyw niwed annerbyniol i amwynder lleol o ran ansawdd aer, a byddai felly yn gyson â gofynion polisïau SP2, SP16 ac EN8 y CDLl.

    Coetiroedd Hynafol

    111. Mae sawl ardal o Goetir Lled-Naturiol Hynafol wedi’u lleoli rhwng 200 - 900 metr o safle’r cais. Mae’r Asesiad Ansawdd Aer (Dogfen A18) a’r Memo dilynol “Cyngor ynghylch gormodiannau NOx tymor byr yng nghoetir hynafol, PeakGen Llandarcy”, dyddiedig 18 Rhagfyr 2018, (Dogfen A19) yn datgan nad yw effeithiau cyffredinol y datblygiad ar goetiroedd hynafol yn cael eu hystyried yn rhai arwyddocaol yn seiliedig ar weithrediadau blynyddol o lai na 500 o oriau’r flwyddyn. Fodd bynnag, mae dau safle coetir hynafol lle bydd Cyfraniad Prosesau NOx dyddiol yn uwch na’r maen prawf ‘100% o’r lefel gritigol’, ar sail y rhagdybiaeth bod y cyfleusterau yn gweithredu 24 awr y dydd drwy’r flwyddyn.

    112. Nodaf fod sylw’r ymgeisydd fod gormodiannau’r lefel gritigol tymor byr (dyddiol/24 awr) yn llawer llai pwysig ar gyfer llystyfiant na gormodiannau’r lefel gritigol hirdymor. Serch hynny, ni ellir diystyru effaith negyddol arwyddocaol ar goetir hynafol heb gyfyngiadau ar weithredu.

    113. Yn unol â hynny, rwy’n cytuno gyda CBSCNPT y byddai angen amodau cynllunio i reoli’r defnydd o ddiesel sylffwr isel iawn a’r oriau gweithredu. Yn ogystal, gellir mynd i’r afael â materion o’r fath drwy’r Drwydded Amgylcheddol hefyd. Gyda’r cyfryw reolaethau ar waith, mae’r datblygiad yn annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar goetiroedd hynafol cyfagos ac mae, felly, yn cydymffurfio â Pholisïau SP15, EN6 ac EN7 y CDLl.

    Treftadaeth

    114. Mewn perthynas â’r adeiladau rhestredig, mae darpariaeth statudol Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 Adran 66(1) yn dweud ‘Wrth ystyried p’un ai rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar adeilad rhestredig neu ei leoliad, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, neu’r Ysgrifennydd Gwladol, roi ystyriaeth arbennig i ddymunoldeb diogelu’r adeilad neu ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol sydd ganddo’.

    10 Gallai’r allyriadau a ragfynegir gan ddefnyddio’r tanwydd hwn fod yn is na hynny a fynnir o dan

    derfynau allyriadau’r Gyfarwyddeb Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCPD).

  • Adroddiad DNS/3213487

    23

    115. Mewn perthynas â’r Henebion Rhestredig (SAM) nid yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 yn darparu unrhyw warchodaeth statudol i leoliad Heneb Gofrestredig.

    116. Mae Cadw yn datgan yn ei ymateb i’r ymgynghoriad na fydd y datblygiad yn cael unrhyw effaith ar yr heneb gofrestredig ddynodedig na’i lleoliad. Ailadroddir y sylw hwn gan CBSCNPT ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent hefyd.

    117. Heb unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb, ac yn enwedig o ystyried y pellteroedd gwahanu rhwng yr asedau treftadaeth a’r datblygiad, deuaf i’r casgliad na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn gwrthdaro â Pholisi SP21 y CDLl.

    Materion Eraill

    118. Wrth wneud fy mhenderfyniad, rwyf wedi ystyried gofynion adrannau 3 a 5 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rwyf o’r farn fod y penderfyniad hwn yn gyson ag egwyddor datblygu cynaliadwy’r Ddeddf trwy ei gyfraniad tuag amcanion llesiant Gweinidogion Cymru o hyrwyddo twf cynaliadwy ac adeiladu cymunedau cydnerth.

    Crynodeb o’r casgliadau

    119. I grynhoi, byddai’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli’n addas a byddai’n ddatblygiad priodol a fyddai’n dod â buddion economaidd a chymdeithasol; yn ogystal, ni fyddai’n cael unrhyw effaith niweidiol ar gymeriad a golwg yr ardal, asedau treftadaeth, nac ar dderbynyddion dynol sensitif cyfagos. Byddai’n bodloni gofynion polisïau’r cynllun datblygu a’r polisi cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â’r materion blaenorol hyn, a byddai’n adlewyrchu egwyddorion datblygu cynaliadwy fel yr eiriolir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

    120. O ystyried y casgliad hwn, af ymlaen yn awr i ystyried, yn dilyn Asesiad Priodol (AP) o dan y Rheoliadau Cynefinoedd:

    i. p’un a fyddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio’n niweidiol ar integredd safle Ewropeaidd Cors Crymlyn, gan roi ystyriaeth i amcanion cadwraeth y safle hwnnw; ac, a fyddai’n cael effaith niweidiol; ac

    ii. os nad oes unrhyw atebion amgen, p’un a fyddai’n rhaid cyflawni’r datblygiad am resymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig11.

    Safleoedd Ewropeaidd

    121. Mae safle’r apêl yn gorwedd o fewn radiws 2 gilometr o Safleoedd Cadwraeth Natur Ewropeaidd RAMSAR a ACA Cors Crymlyn (safleoedd Ewropeaidd). Mewn perthynas â’r safleoedd Ewropeaidd hyn, gallai newid yn ansawdd yr aer sy’n gysylltiedig â’r datblygiad arwain at gynnydd mewn cyfraniadau llygryddion, gan felly newid y Lefel Gritigol a’r Llwythi Critigol o fewn y safleoedd. Yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Rheoliadau Cynefinoedd), fel yr awdurdod

    11 Rheoliad 64 y Rheoliadau Cynefinoedd

  • Adroddiad DNS/3213487

    24

    cymwys cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw cynnal AP, ond i gynorthwyo â’r broses honno, rwyf wedi nodi f’asesiad o’r ffactorau y mae angen eu hystyried.

    122. Os nad yw’r datblygiad arfaethedig yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli’r safle neu’n angenrheidiol i reoli’r safle, fel sy’n wir yma, mae’n rhaid i’r sawl sy’n penderfynu bennu p’un a yw’r cynnig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad12. Mae asesiad priodol yn ofynnol lle mae tebygolrwydd neu risg y bydd y cynllun neu brosiect yn cael effeithiau arwyddocaol o ran yr amcanion cadwraeth y dosbarthwyd y safle ar eu cyfer.

    123. Cors Crymlyn yw’r ffen iseldir mwyaf yng Nghymru ac mae’n un o’r safleoedd gwlyptir pwysicaf yn Ewrop. Ychydig iawn o safleoedd eraill y gwyddys eu bod yn cefnogi cymhlethdod ac amrywiaeth llystyfiant tebyg. Mae’r cynefinoedd sydd yn brif reswm dros ddewis hwn fel safle Ewropeaidd yn cynnwys; Ffeniau calchaidd; Mignenni pontio a chorsydd crynedig; a Fforestydd llifwaddodol. Mae’r amcanion cadwraeth yn datgan mai llygredd atmosfferig yw un o’r ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd y cynefin a dylai fod o dan reolaeth briodol.

    124. Ar sail yr Asesiadau Ansawdd Aer a gyflwynwyd dywedodd CNC13 “mae’r datblygiad arfaethedig yn annhebygol o gael effaith amgylcheddol arwyddocaol ar y derbynyddion sensitif”. Fodd bynnag, mae hyn yn seiliedig ar nifer o fesurau lliniaru. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n rhaid i’r sawl sy’n penderfynu ystyried y ffordd y bwriedir cyflawni’r prosiect a ph’un a fyddai amodau neu gyfyngiadau eraill yn helpu sicrhau nad oedd integredd y safle’n cael ei effeithio’n niweidiol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu nodi’r risgiau posibl a rhoi fframwaith gorfodadwy cyfreithiol ar waith gyda’r nod o atal y risgiau rhag dod i’r amlwg.

    125. Mae’r risgiau posibl dynodedig yn cynnwys newid yn y crynodiadau llygryddion cymedrig blynyddol e.e. dros 1% o’r Lefel Gritigol a’r Llwythi Critigol perthnasol. Yn benodol, mae CNC yn datgan y gallai’r canlynol gael effaith arwyddocaol:

    i. Crynodiad NOx 24 awr Rhagweledig, gyda Chymhariaeth yn erbyn Meini Prawf y Lefel Gritigol;

    ii. Crynodiad SO2 cymedrig blynyddol rhagweledig, gyda Chymhariaeth yn erbyn Meini Prawf y Lefel Gritigol – Allyriadau SO2 yn Seiliedig ar Derfynau Allyriadau’r Gyfarwyddeb Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCPD);

    iii. Cyfraddau Dyddodi Nitrogen Maethol Rhagfynegol, gyda Chymhariaeth yn erbyn Meini Prawf y Llwyth Critigol;

    iv. Cyfraddau Dyddodi Asid Rhagweledig, gyda Chymhariaeth yn erbyn Meini Prawf y Llwyth Critigol – Dyddodiad Asid wedi’i Gyfrifo ar Sail Terfynau Allyriadau SO2 MCPD; a

    v. Chyfraddau Dyddodi Asid Rhagweledig, gyda Chymhariaeth yn erbyn Meini Prawf y Llwyth Critigol – Dyddodiad Asid wedi’i Gyfrifo ar Sail Allyriadau SO2 wrth ddefnyddio Diesel Sylffwr Isel Iawn

    12 Fel yr Ardal Adfywio Strategol ehangach fel y pennir yn y CDLl. 13 REP04

  • Adroddiad DNS/3213487

    25

    126. Rwyf o’r farn fod yna botensial am effeithiau ar y Safleoedd Ewropeaidd gerllaw. Fel y cyfryw, dof i’r casgliad y byddai effeithiau arwyddocaol tebygol yn deillio o’r datblygiad hwn yn absenoldeb mesurau lliniaru a mesurau osgoi, ac mae angen cynnal asesiad priodol.

    Asesiad Priodol (AP)

    127. Fel y nodwyd yn yr adran Ansawdd Aer uchod, mae’r asesiad yn cynrychioli’r senario achos gwaethaf. Yn ymarferol, mae’r cyfleuster yn gweithredu am lai na 500 o oriau’r flwyddyn ac mae’r ymgeisydd wedi ymrwymo i ddefnyddio tanwydd Sylffwr Isel Iawn. Byddai defnyddio amodau cynllunio i reoli’r ffactorau hyn yn sicrhau y gall yr effaith niweidiol ar ansawdd yr aer gael ei lleihau’n ddigonol fel na fyddai integredd y safle Ewropeaidd yn cael ei effeithio’n niweidiol o’r cyfleuster hwn neu mewn cyfuniad â’r Ardal Adfywio Strategol ehangach. Yn y cyfryw amgylchiadau, gellir rhoi caniatâd cynllunio yn amodol ar atodi’r amodau angenrheidiol. Wrth wneud hynny, nid oes angen i mi ystyried cam ‘ii’ o’r atebion amgen neu fuddiant y cyhoedd.

    128. Dylid nodi hefyd fod angen trwydded amgylcheddol ar y datblygiad hwn yn ogystal â chaniatâd cynllunio. Mae penderfyniad ar y cydsyniad hwn yn ddarostyngedig hefyd i ddarpariaethau asesu’r Rheoliadau Cynefinoedd, ac mae Rheoliad 67(2) yn amodi nad oes angen i awdurdod cymwys asesu unrhyw oblygiadau cynllun neu brosiect a fyddai’n cael eu hasesu’n fwy priodol gan awdurdod cymwys arall.

    129. Felly, mae’r ffaith y bydd effaith benodol, sef ansawdd yr aer yn yr achos hwn, ar safle gwarchodedig yn cael ei rheoli gan gydsyniad ar wahân yn dileu’r gofyniad i Weinidogion Cymru asesu p’un a yw cynnig yn debygol o gael effaith arwyddocaol a ph’un a yw’n angenrheidiol cynnal Asesiad Priodol. Fodd bynnag, os ydynt, gyda’r fantais o fod â gwybodaeth ger eu bron, yn fodlon fod effaith benodol yn cael ei hasesu’n fwy priodol gan awdurdod cymwys arall, fel CNC, nid yw’n ofynnol iddynt ystyried p’un a yw’n angenrheidiol cynnal Asesiad Priodol mewn perthynas â’r effaith benodol honno.

    Casgliad yr Asesiad Priodol

    130. Rwyf wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael ac wedi mabwysiadu’r egwyddor ragofalus wrth gynnal yr asesiad hwn. Deuaf i’r casgliad ei bod y tu hwnt i amheuaeth wyddonol resymol na fyddai’r datblygiad hwn a’r cyfarpar ategol ychwanegol arfaethedig, naill ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â phrosiectau eraill, yn cael effaith niweidiol ar integredd Safle Ewropeaidd, sef safle RAMSAR ac ACA Cors Crymlyn. Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar amgylchiadau’r achos ar sail cyd-destun a sefyllfa unigryw’r safle ac ar sail sicrhau’r elfennau hynny o’r mesurau lliniaru ac osgoi dynodedig y canfûm eu bod yn rhesymol ac yn angenrheidiol.

    Amodau a Rhwymedigaethau

    131. Nid yw’r datblygiad yn peri unrhyw effeithiau niweidiol arwyddocaol a fyddai’n gwarantu sicrhau mesurau lliniaru oddi ar y safle trwy rwymedigaeth gynllunio. O ganlyniad, nid yw CBSCNPT wedi awgrymu y byddai unrhyw rwymedigaeth yn angenrheidiol, ac nid wyf innau wedi llunio unrhyw gasgliadau eraill yn hyn o beth.

    132. Cyflwynwyd set o amodau awgrymedig gan CBSCNPT yn ei Adroddiad ar yr Effaith Leol. Rwyf wedi ystyried yr amodau awgrymedig a ph’un a ydynt yn bodloni’r profion

  • Adroddiad DNS/3213487

    26

    a amlinellwyd yng Nghylchlythyr 016/2014 LlC ‘Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu’. Lle bo’n briodol, rwyf wedi diwygio’r amodau awgrymedig er mwyn gwella eglurder, ac wedi cynnwys rhai eraill yr ystyriaf eu bod yn angenrheidiol. Mae’r set o amodau argymelledig wedi’i chynnwys fel Atodiad A i’r adroddiad hwn.

    133. Rwyf yn derbyn y gallai nifer o amodau fod wedi’u dyblygu yn y Drwydded Amgylcheddol. Serch hynny, nid yw’r ymgeisydd wedi gwneud cais am y Drwydded eto ac felly ni allaf fod yn siŵr y bydd amodau’n cael eu cymhwyso i wneud y datblygiad yn dderbyniol yn nhermau cynllunio. Yn unol â hynny, mae’n angenrheidiol ac yn rhesymol eu cynnwys yma. Hefyd, mae’r ymgeisydd yn ymwybodol o’r sefyllfa hon ac yn cytuno i’r amodau sy’n cael eu pennu14.

    Argymhelliad 134. Bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi, yn ddarostyngedig i’r amodau a atodir yn

    Atodiad A.

    Joanne Burston AROLYGYDD

    14 Fel y pennir yn REP09.

  • Adroddiad DNS/3213487

    27

    Dogfennau/Cynlluniau a Gyflwynwyd gyda’r Cais

    Dogfennau

    DOC 1 Atodlen y Ddogfen Graidd

    DOC 2 Llythyr eglurhaol

    A1 Ffurflen Gais

    A13 Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad

    A14 Datganiad o’r Dulliau Adeiladu

    A15 Nodyn Technegol: Datganiad Ecoleg

    A16 Nodyn Technegol: Datganiad o Gyflwr y Ddaear

    A17 Nodyn Technegol: Datganiad o Amwynder Tirweddol a Gweledol

    A18 Asesiad o’r Effaith ar Ansawdd Aer

    A19 MEMO: Cyngor ynghylch gormodiannau NOx tymor byr yn y coetir hynafol

    A20 Adolygiad o’r Adroddiad ar yr Effaith ar Ansawdd Aer (RPS)

    A21 Asesiad Sŵn

    A22 Nodyn Technegol: Datganiad Draenio

    A23 Adroddiad Ymgynghori cyn Ymgeisio

    A24 Datganiad Tir Cyffredin gyda Cyfoeth Naturiol Cymru

    A25 Datganiad Tir Cyffredin gyda CBSCNPT

    Cynlluniau

    A2 – Rhif lluniad 9000, Diwygiad A

    Cynllun Lleoliad y Safle

    A3 – Rhif lluniad LL-SP-09, Diwygiad A

    Cynllun gyda Drychiadau gyda SCR

    A4 – Rhif lluniad PG-GA-01, Diwygiad A

    Gosodiad Unedau SCR

    A5 – Rhif lluniad 033351, Diwygiad 003

    Tanc bwndiedig storio olew glân (llawn i’r ymylon) 31,000 litr

    A6 - Rhif lluniad 033351, Diwygiad 003

    Tanc bwndiedig storio olew glân (llawn i’r ymylon) 31,000 litr

    A7 – Rhif lluniad ELL_STO808N01A

    Drychiadau

  • Adroddiad DNS/3213487

    28

    A8 – Rhif lluniad WPS3143-GA-001007, Diwygiad 00

    Newidydd dosbarthu CU/CU Colled Safonol PDT 4000kVAWilson

    A9 – Rhif lluniad A2 24891 GA , Diwygiad A

    Manylion yr Ystafell Switsio

    A10 - Rhif lluniad LL-SP-09, Diwygiad B

    Cynllun a drychiadau arfaethedig gydag SCR

    A11 – Rhif lluniad PG-GA-02, Diwygiad B

    Cynhwysydd gyda SCR fel y cynigiwyd

    A12 – Rhif lluniad 035266, Diwygiad 007

    Tanc storio bwndiedig (llawn i’r ymylon) 15,000 litr

    Dogfennau a Gyflwynwyd Ers i’r Cais gael ei Dderbyn fel un Dilys

    REP01 Ymateb Wales and West Utilities i’r Ymgynghoriad

    REP02 Ymateb Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent i’r Ymgynghoriad

    REP03 Ymateb Cyngor Tref Coedffranc i’r Ymgynghoriad

    REP04 Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Ymgynghoriad

    REP05 Ymateb yr Awdurdod Glo i’r Ymgynghoriad

    REP06 Ymateb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i’r Ymgynghoriad

    REP07 Ymateb Cadw i’r Ymgynghoriad

    REP08 Adroddiad CBSCNPT ar yr Effaith Leol

    REP09 E-bost dyddiedig 17 Medi 2019

  • Adroddiad DNS/3213487

    29

    Atodiad A – Atodlen Amodau

    Amodau i’w hatodi wrth ganiatâd cynllunio ar gyfer cais rhannol ôl-weithredol am amgaefa wrth gefn weithredol sy’n bodoli eisoes ar gyfer cynhyrchu trydan i gefnogi’r Grid Cenedlaethol sy’n cynnwys 10 cynhwysydd cynhyrchu, ynghyd ag offer switsio cysylltiedig, mynediad i’r safle, triniaethau terfynau a pheiriannau a chyfarpar ategol gyda gosodiad arfaethedig peiriannau a chyfarpar ategol ychwanegol gan gynnwys gosod unedau Lleihau Catalytig Detholus:

    1. Caiff y gwaith o osod y cyfarpar a’r offer ategol ychwanegol a ganiateir drwy hyn ei ddechrau cyn pen pum mlynedd o ddyddiad y caniatâd hwn.

    Rheswm

    I gydymffurfio â gofynion Adran 91 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

    2. Caiff y datblygiad ei gyflawni yn unol â’r cynlluniau cymeradwy canlynol:

    Rhif lluniad 9000, Diwygiad A Cynllun Lleoliad y Safle

    Rhif lluniad PG-GA-01, Diwygiad A

    Gosodiad Unedau SCR

    Rhif lluniad 033351, Diwygiad 003

    Tanc bwndiedig storio olew glân (llawn i’r ymylon) 31,000 litr

    Rhif lluniad 033351, Diwygiad 003

    Tanc bwndiedig storio olew glân (llawn i’r ymylon) 31,000 litr

    Rhif lluniad ELL_STO808N01A Drychiadau

    Rhif lluniad WPS3143-GA-001007, Diwygiad 00

    Newidydd dosbarthu CU/CU Colled Safonol PDT 4000kVAWilson

    Rhif lluniad A2 24891 GA , Diwygiad A

    Manylion yr Ystafell Switsio

    Rhif lluniad LL-SP-09, Diwygiad B

    Cynllun a drychiadau arfaethedig gyda SCR

    Rhif lluniad PG-GA-02, Diwygiad B

    Cynhwysydd gyda SCR fel y cynigiwyd

    Rhif lluniad 035266, Diwygiad 007

    Tanc storio bwndiedig (llawn i’r ymylon) 15,000 litr

    Rheswm

    I sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gyflawni yn unol â’r dogfennau, y cynlluniau a’r lluniadau cymeradwyedig a gyflwynwyd gyda’r cais.

  • Adroddiad DNS/3213487

    30

    3. Caiff y gwaith o osod yr unedau SCR arfaethedig a chydrannau cysylltiedig ei gyflawni yn unol â’r Datganiad Dull Adeiladu cymeradwyedig.

    Rheswm

    Er budd diogelwch ar y priffyrdd a diogelwch cerddwyr yn unol â pholisïau SP20 a TR2 o Gynllun Datblygu Lleol CBSCNPT (2016).

    4. Ni cheir gweithredu’r generaduron / cyfleuster STOR am fwy na chyfanswm o 390 o oriau mewn unrhyw flwyddyn galendr. Rhaid i gofrestr ddiweddar o’r cyfryw weithrediadau - a fydd yn cynnwys manylion y dyddiad ac oriau gweithredu sydd wedi digwydd, gael ei chadw gan y gweithredwr a rhaid trefnu ei bod ar gael i’w harchwilio gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gais, a rhaid darparu crynodeb blynyddol (Ionawr - Rhagfyr) i’r Awdurdod Cynllunio Lleol heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ddilynol.

    Rheswm

    Er budd amwynder eiddo cyffiniol yn unol â pholisïau BE1, SP2, SP16 ac EN8 o Gynllun Dat