Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My...

31
Cynnwys y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol 1. Rheolau’r Tŷ a Gwybodaeth i staff 2. Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth 3. Gweithdrefnau Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth 4. Dogfennau Ategol Cyffredinol Cyfryngau Cymdeithasol 5. Dogfennau Ategol: (5a) Canllawiau Cyfrif Twitter Prifysgol Aberystwyth a (5b) Ffurflen Cyfrif Twitter Adrannol 6. Dogfennau Ategol: Creu presenoldeb yr adran ar Facebook /home/website/convert/temp/convert_html/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Transcript of Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My...

Page 1: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Cynnwys y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol

1. Rheolau’r Tŷ a Gwybodaeth i staff

2. Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth

3. Gweithdrefnau Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth

4. Dogfennau Ategol Cyffredinol Cyfryngau Cymdeithasol

5. Dogfennau Ategol: (5a) Canllawiau Cyfrif Twitter Prifysgol Aberystwyth a (5b) Ffurflen Cyfrif Twitter Adrannol

6. Dogfennau Ategol: Creu presenoldeb yr adran ar Facebook

7. Cyfrifon cyswllt cyfredol ar Facebook a Twitter (cipluniau sgrin)

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 2: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol

Bwriedir yr wybodaeth hon i helpu defnyddwyr ein holl sianeli Cyfryngau Cymdeithasol. Mae’n cynnwys gwybodaeth i ddefnyddwyr ac i staff.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cyfraniadau gan ein cymuned gyfan i’n sianelu Cyfryngau Cymdeithasol ac rydym ni’n credu’n gryf bod gan ein cymuned gyfan yr hawl i deimlo’n ddiogel ac yn hapus yn eu hymwneud â ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Rydym ni’n annog yr holl ddefnyddwyr i weithredu â pharch.

Mae ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i ymwelwyr drafod amrywiaeth o bynciau ac rydym ni bob amser yn falch i weld pobl yn rhyngweithio gyda ni a gyda’i gilydd mewn meysydd megis astudio gyda ni, ymchwil, newyddion, digwyddiadau ac unrhyw weithgareddau eraill sy’n ymwneud â myfyrwyr, staff neu gyn-fyfyrwyr. Rydym ni’n falch pe baech chi’n hoffi cyfrannu at ein sgyrsiau. Rydym ni’n gofyn i’r sawl sy’n dymuno cyfrannu nodi’r rheolau canlynol:

Rydym ni’n deall bod defnyddwyr ein presenoldeb cyfryngau cymdeithasol yn dymuno eu mynegi eu hunain a byddwn yn ceisio bod yn hyblyg ac yn annog trafodaeth a rhyngweithio ar bob lefel (gan gynnwys fideos, rhannu ffotograffau a thrafodaethau mewn fforymau). Fodd bynnag byddwn yn tynnu unrhyw bostiadau yr ystyriwn ni eu bod yn amhriodol mewn unrhyw ffordd.

Ni chaiff defnyddwyr ddefnyddio enw’r Brifysgol i hyrwyddo neu hybu unrhyw gynnyrch, barn, achos neu blaid wleidyddol. Ni chaniateir datgan bod Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi eich barn bersonol.

Gallai aflonyddu parhaus, unrhyw fath o fwlio, enllib, iaith anweddus, athrod, camdriniaeth neu anweddustra arwain at atal unigolyn yn barhaol. Dylech, cyhyd ag y bo’n bosibl, osgoi enwi neu ddynodi unigolion wrth bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gallai cynnwys masnachol hefyd fod yn agored i’w dynnu ymaith. Gallai postio gor-fynych, a'r hyn yr ystyriwn ni yn spamio ein tudalennau, arwain at atal defnyddwyr yn barhaol.

Rydym yn gofyn i’r sawl sydd â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol gadw mewn cof pwy sy’n gallu gweld eich proffil ac ymddwyn yn briodol. Gallech fod yn ffrindiau gyda chydweithwyr, myfyrwyr, darpar fyfyrwyr neu bartneriaid y Brifysgol a dylech felly ystyried yn ofalus cyn postio sylwadau am Brifysgol Aberystwyth ac unrhyw beth a allai beri tramgwydd neu y gellid ystyried ei fod yn torri rheolau cyfrinachedd.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal y datganiad o hawliau a chyfrifoldebau a weinyddir gan wefannau cyfryngau cymdeithasol allanol ac yn gofyn i’n dilynwyr wneud yr un modd. Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr, staff a chysylltiadau i ddefnyddio’r ddolen ‘report’ os ydynt yn dod ar draws cynnwys sarhaus.

Ni fydd Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am y sylwadau, ffotograffau, postiadau wal nag unrhyw ryngweithio gan ddefnyddwyr ein tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol. Caiff ein gwefannau

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 3: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

cyfryngau cymdeithasol eu gweinyddu a’u gwirio yn ystod yr wythnos waith arferol (Llun - Gwener).

Gwybodaeth i staff:

1. Ni ddylai postiadau ar y rhyngrwyd ddatgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth neu i drydydd parti sydd wedi datgelu'r wybodaeth i'r sefydliad.

2. Os yw cyflogai yn gwneud sylwadau ar unrhyw agwedd o weithgareddau’r Brifysgol, nid yw’n ddigon i nodi’n glir ei fod yn gyflogai a chynnwys ymwrthodiad. Dylai postiadau ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol fod yn broffesiynol a pharchus eu naws. Os yw cyflogai yn postio ar ran y Brifysgol, neu hyd yn oed fel aelod o staff sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, gallai hynny adlewyrchu ar enw da’r Brifysgol. Dylai aelodau o staff fod yn ymwybodol fel cyflogeion y Brifysgol y byddant yn dylanwadu ac yn ffurfio rhan o enw da’r Brifysgol arlein. Peidiwch â gwneud sylwadau sarhaus neu ddifrïol am fyfyrwyr, aelodau o staff neu unigolion eraill, a pheidiwch â phostio delweddau anweddus neu ddifrïol. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gymryd camau disgyblu os yw’n briodol ac, mewn achosion eithafol, gall difenwi arwain at achos cyfreithiol. Gweler hefyd y Polisi Gwasanaethau Gwybodaeth: http://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/socialnetworking/

3. Dylai cyflogeion warchod brand y Brifysgol ac wrth bostio ar bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol swyddogol y Brifysgol, ystyrir fod cyflogeion yn cynrychioli’r Brifysgol ac felly bydd ganddynt gyfrifoldeb i sicrhau bod pob cyfathrebu yn briodol (i’r gynulleidfa ac yn gyson â pholisïau eraill y Brifysgol). Dylai staff fod yn gywir a dylent barchu pobl eraill a’r gwaith y mae’r Brifysgol yn ei wneud.

4. Ni ddylai postiadau ar y rhyngrwyd gynnwys logo na nodau masnach y Brifysgol oni bai bod caniatâd yn cael ei geisio a’i roi gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol.

5. Rhaid i bostiadau ar y rhyngrwyd barchu hawlfraint, preifatrwydd, defnydd teg, datgelu ariannol a deddfwriaeth berthnasol arall.

6. Ni ddylai cyflogeion hawlio nac awgrymu eu bod yn siarad ar ran y Brifysgol, oni bai bod caniatâd yn cael ei roi i wneud hynny gan yr Uwch Dîm Rheoli.

7. Mae angen cytundeb y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer blogiau Corfforaethol, tudalennau Facebook, cyfrifon Twitter ac ati pan fydd cyflogai yn postio am y Brifysgol.

8. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i ofyn bod rhai pynciau penodol yn cael eu hosgoi, a bod rhai postiadau penodol a sylwadau amhriodol yn cael eu tynnu.

9. Dylai unrhyw ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yn ystod oriau gwaith gael ei wneud yn ofalus a chyn lleied â phosibl. Byddwch yn ymwybodol fod cydweithwyr yn aml yn ymwybodol o’r amser a gaiff ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol.

10. Rydym yn cynghori staff i gysylltu â’r Swyddog Cyfryngau Digidol am gyngor ac arweiniad wrth ymwneud â sianeli Cyfryngau Cymdeithasol.

11. Dylid anfon ceisiadau am wybodaeth sydd i’w phostio ar wefannau cyfryngau cymdeithasol sydd dan reolaeth Prifysgol Aberystwyth at y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol: [email protected]

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 4: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

12. Dylid anfon ceisiadau i gael tynnu cynnwys oddi ar wefan cyfryngau cymdeithasol sydd dan reolaeth Prifysgol Aberystwyth at y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol: [email protected]

13. Dylid anfon cais i sefydlu presenoldeb ar wefan Cyfryngau Cymdeithasol at y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol: [email protected] (Gweler hefyd isod ein Polisi Cyfryngau Cymdeithasol)

14. Caiff caniatâd i Dynnu, Ychwanegu Sylwadau a Phostio ar ran y Brifysgol a’i holl adrannau ei roi gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol, sydd yn ei dro wedi cael caniatâd i wneud hynny gan yr Uwch Dîm Rheoli. Dylid gwneud pob cais drwy’r cyswllt hwn.  

 

Rheolau Ymddygiad cyfredol mewn Cyflogaeth: http://www.aber.ac.uk/cy/hr/pandp/conduct/

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 5: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 2: Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio polisi Prifysgol Aberystwyth ar y defnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol allanol ar gyfer busnes swyddogol y Brifysgol.

Yn y ddogfen hon defnyddir y term ‘cyfryngau cymdeithasol’ i gwmpasu rhwydweithio cymdeithasol oni nodir yn wahanol.

1. Bydd trefniadau a chanllawiau’n ymwneud â’r defnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu goruchwylio gan y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol, gan adrodd i Grŵp Llywio'r We a'r Pwyllgor Recriwtio.

2. Rhaid cyflwyno pob cynnig i sefydlu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol newydd gydag oes ddisgwyliedig o dros 4 mis i’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i’w ystyried a lle bo angen ei adolygu gan y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol.

3. Rhaid cyflwyno pob cynnig i sefydlu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol newydd yn ymwneud â dysgu ac addysgu, gydag oes ddisgwyliedig o dan 4 mis i’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i’w ystyried a lle bo angen ei adolygu gan y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol.

4. Bydd unrhyw bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol a esgeulusir neu sy’n afraid yn cael ei adolygu gan y grŵp a bydd camau priodol yn cael eu cymryd lle bo angen.

5. Bydd presenoldeb cyfryngau cymdeithasol craidd sy’n adlewyrchu’r Brifysgol gyfan yn cael ei gyfarwyddo gan y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol a’i gynnal gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a’r Tîm Gwe ar lefel weithredol.

6. Bydd presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ymylol sy’n adlewyrchu gweithgareddau adran benodol neu sy’n cyfarwyddo cynnwys at gynulleidfa benodol yn cael ei oruchwylio gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a’i gynnal gan staff o’r adran berthnasol.

7. Bydd y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol yn cyflawni ei ddyletswyddau gyda’r amcanion canlynol:

a. Sicrhau gwydnwch gweithdrefnau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd darparu gwasanaeth cyson heb fylchau

b. Annog ymarfer da o ran confensiynau cyfryngau cymdeithasol

c. Gwarchod y Brifysgol, ei staff a’i myfyrwyr

d. Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth

e. Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau’r Brifysgol

f. Darparu canllawiau i gynorthwyo'r staff sy’n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 6: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

g. Hyrwyddo defnydd effeithiol ac arloesol o gyfryngau cymdeithasol

8. Caiff y polisi hwn ei adolygu’n flynyddol.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 7: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 3: Gweithdrefnau Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio gweithdrefnau Prifysgol Aberystwyth o ran ei defnydd o wefannau rhwydweithio cymdeithasol a chyfryngau cymdeithasol allanol ar gyfer busnes swyddogol y Brifysgol.

Yn y ddogfen hon defnyddir y term ‘cyfryngau cymdeithasol’ i gwmpasu rhwydweithio cymdeithasol oni nodir yn wahanol. Defnyddir y term ‘presenoldeb cyfryngau cymdeithasol’ i ddisgrifio nod ar wefan cyfryngau cymdeithasol (e.e. Tudalen Facebook, Grŵp Facebook, cyfrif Twitter, tudalen YouTube).

Caiff y polisi Cyfryngau Cymdeithasol ei oruchwylio gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a’r Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol (gweler Polisi Cyfryngau Cymdeithasol).

1. Presenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol Newydd

a. Rhaid cyflwyno pob cynnig i sefydlu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol newydd i’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i’w ystyried a lle bo angen caiff ei ddwyn i sylw’r Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol.

b. Rhaid i bob presenoldeb cyfryngau cymdeithasol arfaethedig gan y Brifysgol fod ag amcan strategol clir nad yw eisoes yn cael ei ddiwallu gan unrhyw bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol cyfredol sydd gan y Brifysgol.

c. Rhaid darparu cynllun ar gyfer cynnal y presenoldeb gan gynnwys y canlynol:

i. Amledd cynnal y presenoldeb

ii. Y lefelau o adnoddau staff y cynllunnir eu neilltuo i’w gynnal

iii. Adnoddau eraill (e.e. delweddau, fideos) a allai fod yn angenrheidiol

d. Rhaid darparu disgrifiad cryno o’r meini prawf a’r cynllun dadgomisiynu terfynol ar gyfer y presenoldeb cyfryngau cymdeithasol.

e. Rhaid enwebu dau weinyddydd penodol i fod yn gyfrifol am gynnwys y presenoldeb cyfryngau cymdeithasol newydd.

f. Argymhellir yn gryf fod y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol yn cael mynediad at y presenoldeb cyfryngau cymdeithasol newydd er mwyn lleihau’r perygl o golli mynediad yn sgil newidiadau staff nas rhagwelwyd.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 8: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

g. Rhaid peidio â defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes y Brifysgol mewn meysydd lle ceir gweithdrefnau cyfreithiol neu reoleiddiol ffurfiol (e.e. ceisiadau swyddi, derbyn myfyrwyr ac ati).

2. Presenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol Cyfredol

a. Bydd cofnod o bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol yn cael ei gadw gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol ar ran y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys manylion cyswllt yr aelodau hynny o staff sy’n gyfrifol am eu cynnal

b. Cynhelir adolygiad rheolaidd o bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol a chyflwynir adroddiadau mewn cyfarfodydd o’r Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd gweithgareddau trawiadol megis ymarfer da, ymgyrchoedd llwyddiannus neu esgeulustra yn cael eu codi gyda’r Grŵp.

c. Bydd y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol yn darparu canllawiau i’r staff hynny sy’n gweinyddu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol gan gynnig cyngor ar ymarfer da. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau’n gyfredol ac yn cyd-fynd â thueddiadau cyfryngau cymdeithasol.

d. Bydd yn ofynnol i weinyddwyr presenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol a sefydlwyd cyn cyflwyno’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol ddarparu'r manylion a ddisgrifir yn eitemau 1.a i 2.b yn y ddogfen hon.

3. Cydymffurfio

a. Mae pob presenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol yn rhwym i Gyfraith y Deyrnas Unedig.

b. Mae pob presenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol yn rhwym i reoleiddio a pholisi’r Brifysgol. Mae’r canlynol i'w nodi’n benodol:

i. Canllawiau Hunaniaeth Golegol

ii. Polisi hygyrchedd gwe

iii. Cynllun Cydraddoldeb

iv. Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith

v. Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth

vi. Polisi Diogelu Data

vii. Polisi ar y Defnydd o Ddeunydd Hawlfraint

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 9: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

4. Dysgu, Addysgu ac Ymchwil

a. Anogir y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ar gyfer cydweithio academaidd

b. Oni bai eu bod yn hanfodol i'r canlyniadau dysgu ni ddylid defnyddio cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu lle mae technoleg cefnogi dysgu cyfredol (e.e. Blackboard) yn cynnig swyddogaeth gyfartal

c. Bydd prosiectau sydd ag oes o lai na 4 mis lle ystyrir bod angen presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dibenion dysgu ac addysgu yn cael eu hystyried gan y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a'u cyfeirio at y Grŵp Cyfryngau Cymdeithasol os bydd angen.

5. Amrywiol

a. Gall y Brifysgol gyfeirio at safleoedd cyfryngau a rhwydweithio cymdeithasol wrth ymchwilio i gamymddygiad disgyblaethol (e.e. aflonyddu, twyllo ac ati) a bydd camau priodol yn cael eu cymryd gan yr awdurdod priodol.

b. Gall y Brifysgol fonitro fforymau a blogiau i gael adborth anuniongyrchol ar wasanaethau a chyfleusterau’r Brifysgol. Bydd yr ymateb i ddeunydd o’r fath yn cael ei ystyried gan yr awdurdod priodol.

c. Bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu hadolygu’n flynyddol.

6. Arweiniad a. Ceir arweiniad cyffredinol ar y defnydd o Gyfryngau Cymdeithasol drwy'r Wefan

hon: http://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/socialnetworking/

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 10: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Atodiad A

Presenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol Craidd a Phresenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol Ymylol

Ceir rhestr lawn o’n presenoldeb ar y ddolen ganlynol: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/social-media/

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol yw adolygu’r rhain yn rheolaidd ac adrodd yn flynyddol ar effaith Cyfryngau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Recriwtio.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 11: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 4: Dogfennau Ategol y Cyfryngau Cymdeithasol

Cefndir Cyfeirir at y Cyfryngau Cymdeithasol yn aml fel y we ‘darllen/ysgrifennu’. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at wybodaeth a hefyd i gyfrannu ati. Mae’r we darllen/ysgrifennu yn golygu’n gynyddol mai ein brand yw’r hyn y mae pobl yn ei ddweud ydyw. Mae’r we darllen/ysgrifennu yn galluogi meddwl creadigol, cymunedol sy’n agored a thryloyw ac a all fod yn llwyddiannus iawn. Gall hefyd fod yn anodd ei reoli yn enwedig os nad oes gennym ni’r gweithdrefnau i gysylltu’n ddiogel. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymwneud â’r Cyfryngau Cymdeithasol a diben y ddogfen hon yw diogelu’r Brifysgol parthed Cyfryngau Cymdeithasol a gwarchod ei defnyddwyr a’i staff rhag bygythiadau neu achosion gwirioneddol o fwlio, aflonyddu, enllib a pholisïau ymddygiad eraill. Pam fod PA yn ymwneud â’r Cyfryngau Cymdeithasol Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ddefnyddwyr amgylcheddau cyfryngau cymdeithasol mynych ac yn aml yn falch i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gyffredin iawn i ddarpar fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol ac ymgeiswyr gyd-gysylltu ar ein tudalennau. Maent yn holi cwestiynau i’w gilydd, yn rhannu profiadau a dathlu llwyddiannau. Rydym ni am helpu i adeiladu cymunedau i’r sawl sy’n dymuno cysylltu â ni yn yr amgylchedd Cyfryngau Cymdeithasol hwn. Ein bwriad yw darparu gwerth ychwanegol i’n dilynwyr a’n cefnogwyr a chyfoethogi eu sgyrsiau, cysylltiadau a chymunedau. Mae ein brand yn symud o fod yr hyn rydym ni’n ei ddweud ydyw i’r hyn mae pobl yn ei ddweud ydyw. Mae’n bwysig felly pan fyddwn ni’n ymwneud ag amgylcheddau cyfryngau cymdeithasol ein bod yn gwneud hynny â llais cyffredin ac eglurder o ran ein neges.

1. Gwasanaethau Penodol

Facebook:: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/social-media/facebook/ I. Mae PA wedi bod yn ymwneud â Facebook ers sawl blwyddyn er mwyn:

II. Adeiladu ar frand ac enw da PA fel Prifysgol addysgu ac ymchwil gystadleuol ryngwladol.

III. Chwarae rhan lawn yn natblygiad cymdeithasol Cymru, gan gynnwys cefnogi’r iaith Gymraeg drwy dudalennau sy’n hwyluso drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig a hefyd tudalennau dwyieithog.

IV. Cynnig cyfle i fyfyrwyr, ymgeiswyr a darpar fyfyrwyr rannu profiadau, gwneud cyfraniadau i gymunedau o ddiddordeb penodol, sgwrsio, cael atebion cyflym ac ymatebol i gwestiynau, cael gwybodaeth am y Brifysgol a’i gweithgareddau a hefyd rydym yn anelu at annog cyfathrebu ar draws pob lefel i randdeiliaid sy’n dewis cysylltu â ni.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Dr Russell Davies Rheolwr Marchnata 01970 62 2065 [email protected] Ian Harris Rheolwr Marchnata Digidol 01970 62 2065 [email protected] Mills Swyddog Cyfryngau

Cymdeithasol01970 62 2065 [email protected]

Simon Marshall Rheolwr y We 01970 62 2459 [email protected] Shipman Cynorthwyydd y We 01970 62 2459 [email protected]

Page 12: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

V. Mae gan PA bolisi i ddefnyddwyr ac aelodau o staff sy’n defnyddio'n tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol a geir yma: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/social-media/

VI. Dylai Unedau, Cyfadrannau, Staff ac Adrannau (o fis Mehefin 2011) anelu at ddatblygu tudalennau neu grwpiau mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol. Mae hyn yn caniatáu cyfathrebu ymarfer gorau ar draws y Brifysgol.

VII. Mae’r Brifysgol yn dilyn polisïau mewnol ar ymddygiad, gan gynnwys Parch a Chydraddoldeb yn y gwaith a Bwlio. Rydym yn anelu at roi amgylchedd diogel i’n defnyddwyr ar Facebook i gyfathrebu’n agored a chymryd y cyfrifoldeb i dynnu unrhyw ddeunydd y pennir ei fod yn ymosodol, neu yn gwrthdaro â deddfwriaeth allanol (gan gynnwys difenwi, enllib, gwarchod data ac ysgrifennu copi ac ati)

VIII. Caiff ein polisi ei adeiladu ar barch at ein gilydd a gall y rheini sy’n dymuno cysylltu â ni ar Facebook ddisgwyl cael eu trin yn deg, yn agored ac yn onest. Rydym ni’n disgwyl yr un peth.

Twitter I. Mae PA yn gysylltiedig â sawl Ffrwd Twitter y gellir eu canfod yma: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/social-media/twitter/ II. Mae gennym ganllawiau ategol i gyfrifon Twitter Prifysgol AberystwythIII. Dylai Unedau, Cyfadrannau, Staff ac Adrannau (o fis Mehefin 2011) anelu at ddefnyddio # (modd o gyd-gysylltu thema benodol ar Twitter) at ddefnydd adrannol. Mae hyn yn caniatáu i’r brif ffrwd gael llais cyson a chysondeb o ran neges. IV. Argymhellir fod staff yn defnyddio proffiliau personol neu broffesiynol (gan osgoi cymysgu’r ddau) a gofynnwn i fyfyrwyr a staff beidio â defnyddio’r Brifysgol neu frand y Brifysgol mewn cyfrifon personol, oni bai bod cytundeb y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol wedi’i sicrhau.

YouTube I. Mae gan PA bresenoldeb ar YouTube. (http://www.youtube.com/user/aberystwythuni) II. I drafod YouTube, cysylltwch â: James Bradbury-Willis (01970 628728) III. Dim ond brandio swyddogol a gaiff ei ddefnyddio ar sianel PA.

Gwasanaethau Eraill I. Rydym ni hefyd yn datblygu presenoldeb pellach ar safleoedd Cyfryngau Cymdeithasol megis Flickr, GooglePlus a Foursquare a gofynnwn i unrhyw ddefnyddwyr neu aelodau o staff sy’n dymuno cysylltu ag unrhyw fath o gyfryngau cymdeithasol edrych ar y ddolen ganlynol: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/social-media/onlinesafety/

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 13: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 5A: Canllawiau Cyfrif Twitter Prifysgol Aberystwyth

Canllawiau Defnyddiwr

Persona Prifysgol Aber

Cyfeillgar Barod i helpu ‘Savvy’ Addysgedig

Llais Prifysgol Aber

Dylech ‘chwarae rôl’ fel y Brifysgol Dylech swnio fel rhywun sy'n gwybod ac sy’n rheoli Defnyddiwch ‘ni’ yn hytrach na ‘fi’

URIs

Wrth drydar am ddigwyddiad neu eitem o newyddion mae cynnwys URI yn syniad da iawn. Os nad oes gennych URI i gyfeirio pobl, meddyliwch yn ofalus a oes gwerth i’r trydar.

Pan fyddwch yn cynnwys URI, dylech ei gwtogi bob tro. Os ydych yn creu dolen at dudalen gwe Aberystwyth, rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth dolenni naid: http://neidio.aber.ac.uk/index.php?

Os yw’r ddolen yn allanol, mewngofnodwch i’r cyfrif swyddfa Bit.ly er mwyn i ni allu dilyn y dolenni. Y manylion mewngofnodi yw:

Enw defnyddiwr: aber

Cyfrinair: wakeboard

Nodau @

Wrth ymateb i ddefnyddiwr arbennig, neu gyfeirio trydar at ddefnyddiwr arbennig, dechreuwch y trydar â @ ac yna enw trydar y defnyddiwr. Wrth gyfeirio at ddefnyddiwr penodol gwnewch yr un peth yng nghanol y frawddeg. e.e.

Edrych ymlaen at weld U2 yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ddim yn siŵr sut byddan nhw’n ffitio yn y Neuadd Fawr. Gweler @aberystwytharts am fanylion tocynnau

Hashtags #

Lle bo’n briodol defnyddiwch hashtag i farcio eich trydar. Er enghraifft:

“Mae Prifysgol Aber ar gau heddiw oherwydd eira trwm. Arhoswch gartref i chwarae! #eira”

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 14: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Neu

“Mae Prifysgol Aber ar gau heddiw oherwydd #eira”

Yma, yr hashtag yw #eira. Gallwch ddefnyddio nifer o hashtags, ond peidiwch os nad yw’n berthnasol oherwydd mae’n defnyddio gofod.

Defnyddiwch y hashtags penodol fel #WythnosCroesoAber neu #DiwrnodAgoredAber ar gyfer digwyddiadau. Defnyddiwch hashtags cyffredinol i eraill er enghraifft: Yr adran #Seicoleg.

Negeseuon Uniongyrchol (DM)

Yn arferol, dylem ateb yn yr un modd ag yr ydym yn derbyn Trydar. Naill ai gydag ateb @ neu DM.

Edrychwch am gyfleoedd lle gellid bod angen ymateb ehangach. Er enghraifft, os oes llawer o bobl yn holi am ddyddiad, ystyriwch anfon trydar a hefyd ateb.

Ar gyfer trydar personol ystyriwch ymateb @ fel ”Diolch am eich cwestiynau, fe wnawn ni ateb â DM nawr.”

Ar gyfer trydar dadleuol, trafodwch gyda’r tîm cyn anfon ateb. Os ydych chi'n anfon DM y tebygrwydd yw y byddant yn ei wneud yn gyhoeddus beth bynnag, felly mae ateb cyhoeddus cryf yn well.

Ail-drydar

Defnyddiwch yr arddull newydd i Ail-drydar bob tro (clicio’r botwm yn unig). Dylai ail-drydar fod yn gallu sefyll ar ei ben ei hun fel trydar a dylid ei gysylltu ag Aberystwyth, gyda’r un lefel o feddwl ac ymgynghori.

Gramadeg a Sillafu

Rydym ni’n argymell copïo eich trydar i Word i wirio’r sillafu. Mae bob amser yn syniad da gwirio eich trydar gyda rhywun cyn ei anfon.

Gallwch ddileu Trydar ond yn aml mae'n rhy hwyr i wneud hynny, felly cofiwch y dylai’r sillafu a’r gramadeg fod yn berffaith cyn trydar.

Peidiwch â thalfyrru i’r pwynt lle mae trydar yn anodd ei ddarllen. Dylech osgoi acronymau ac iaith neges destun os yw’n bosibl.

Nid ydym yn hoffi pethau fel “v” yn lle fi. Yn Saesneg, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahaniaethu'n iawn e.e. rhwng “their” a "there".

Rydych chi’n rhan o dîm rhithiol ac mae pawb yma i helpu’n gilydd. Gallwch gael cyngor, cymorth a chyfieithu trydar drwy: [email protected], ein tudalen cymorth cyfryngau cymdeithasol a thrwy ebostio [email protected] Gwnewch yn siŵr eich bod yn 100% hapus cyn trydar.

Amledd Trydar

Dylai dau neu dri thrydar y dydd fod yn iawn ar gyfer cyfrif Twitter sefydliadol. Gellir amseru trydar dros y penwythnos yn defnyddio Cotweet.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 15: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Ymarfer arferol

Yn y bôn, peidiwch â thrydar pethau rhyfedd.

Defnyddiwch frawddegau

Ydy eich sillafu a gramadeg yn gywir?

Peidiwch â thrin trydar fel datganiad i’r wasg

Nid oes y fath beth â phennawd , felly peidiwch â chreu un

Fel arfer mae URIs yn dod ar ddiwedd trydar (oni bai bod hashtags yn cael eu defnyddio)

Ydych chi’n gwybod beth yw # DM a @? Os nad ydych chi, fe ddylech chi!

Defnyddiwch ebychnodau’n ddarbodus

Peidiwch â defnyddio llythrennau bras

Gorffennwch eich brawddeg

Darllen yr hyn rydych chi’n ei ysgrifennu

Darllenwch beth rydych chi wedi’i ysgrifennu. Ydy’r trydar yn un gwerth chweil? Ydy’r trydar yn gwneud synnwyr? A allai fod yn gliriach?

Cynnwys y Trydar

Ydy’r Trydar yn ymwneud â’ch cyfrif Twitter? Ydy’r cynnwys yn gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth? Beth ydych chi’n ceisio ei wneud gyda’r trydar?

Co-Tweet

Newidiwch eich enw i on/off ar y golau gwyrdd - byddwch yn derbyn hysbysiadau ebost os ydych chi’n newid i ‘on’.

Mae gennym ni amserlen:

Tîm Gwe: Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Twitter: 9-5 Dydd Llun i Ddydd Iau a 9-4 Dydd Gwener. Ar gyfer materion mwy dadleuol, gallwch gael cyngor, cymorth a chyfieithu trydar drwy: [email protected], ein tudalen cymorth cyfryngau cymdeithasol a thrwy ebostio [email protected].

Tîm Marchnata: Bore cynnar (cyn 9) a gyda’r nos (ar ôl 4). Oriau swyddfa: Arlein i gynorthwyo ag unrhyw ymholiadau a phroblemau.

Cofiwch dreulio munud yn edrych a oes cydweithiwr wedi ateb cwestiwn yn barod cyn i chi ei ateb.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 16: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 17: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Jargon

Twitter: Gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a micro-flogio am ddim

Trydar: Neges a gaiff ei phostio ar Twitter

Hashtag: Gellir tagio trydar ag un neu fwy o hashtags sy’n eiriau neu ymadroddion â symbol hash (#) o'u blaen.

Tag: Tag yw gair neu derm allweddol anhierarchaidd sy’n cael ei neilltuo i ddarn o wybodaeth

URI: Byddai’r mwyafrif o bobl yn meddwl am URI (Uniform Resource Identifier) fel cyfeiriad gwe. Mae’r term URL yn debyg (yn dechnegol mae URL yn fath o URI).

Adnoddau Defnyddiol

Cwtogi URI

Ar gyfer cwtogi URI Aberystwyth defnyddiwch http://neidio.aber.ac.uk/index.php?

Ar gyfer cwtogi URI nad yw o Aberystwyth defnyddiwch http://bit.ly/

Gwasanaethau Ffotograffau Twitter (mewngofnodi fel Cyfrif Twitter)

http://twitpic.com/

Defnyddiwch CoTweet bob amser

http://cotweet.com/

Rhowch ystyriaeth i DDIOGELWCH bob amser. Peidiwch â chaniatáu i’r cyfrif gael ei gyfaddawdu.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 18: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 5B: Canllawiau Cyfrif Twitter Adrannaol (addaswyd)

Canllawiau Defnyddiwr

Persona: Ychwanegwch a thynnwch fel y gwelwch yn briodol.

Cyfeillgar Barod i helpu ‘Savvy’ Addysgedig

Llais: Ydych chi’n aelod unigol o staff ynteu’n cynrychioli adran neu sefydliad? Ychwanegwch a thynnwch fel y gwelwch yn briodol.

Dylech ‘chwarae rôl’ fel y Brifysgol Dylech swnio fel rhywun sy'n gwybod ac sy’n rheoli Defnyddiwch ‘ni’ yn hytrach na ‘fi’

URIs

Wrth drydar am ddigwyddiad neu eitem o newyddion mae cynnwys URI yn syniad da iawn. Os nad oes gennych URI i gyfeirio pobl, meddyliwch yn ofalus a oes gwerth i’r trydar.

Pan fyddwch yn cynnwys URI, dylech ei gwtogi bob tro. Os ydych yn creu dolen at dudalen gwe Aberystwyth, rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth dolenni naid: http://neidio.aber.ac.uk/index.php?

Os yw’r ddolen yn allanol gallwch ddefnyddio dolen naid allanol fel Bit.ly.

Nodau @

Wrth ymateb i ddefnyddiwr arbennig, neu gyfeirio trydar at ddefnyddiwr arbennig, dechreuwch y trydar â @ ac yna enw trydar y defnyddiwr. Wrth gyfeirio at ddefnyddiwr penodol gwnewch yr un peth yng nghanol y frawddeg. e.e.

Edrych ymlaen at weld U2 yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ddim yn siŵr sut byddan nhw’n ffitio yn y Neuadd Fawr. Gweler @aberystwytharts am fanylion tocynnau

Hashtags #

Lle bo’n briodol defnyddiwch hashtag i farcio eich trydar. Er enghraifft:

“Mae Prifysgol Aber ar gau heddiw oherwydd eira trwm. Arhoswch gartref i chwarae! #eira”

Neu

“Mae Prifysgol Aber ar gau heddiw oherwydd #eira”

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 19: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Yma, yr hashtag yw #eira. Gallwch ddefnyddio nifer o hashtags, ond peidiwch os nad yw’n berthnasol oherwydd mae’n defnyddio gofod.

Defnyddiwch hashtags penodol fel #WythnosCroesoAber neu #DiwrnodAgoredAber ar gyfer digwyddiadau. Defnyddiwch hashtags cyffredinol i eraill er enghraifft: Yr adran #Seicoleg.

DM (Negeseuon Uniongyrchol)

Yn arferol, dylech ateb yn yr un modd ag yr ydych yn derbyn Trydar. Naill ai gydag ateb @ neu DM.

Edrychwch am gyfleoedd lle gellid bod angen ymateb ehangach. Er enghraifft, os oes llawer o bobl yn holi am ddyddiad, ystyriwch anfon trydar a hefyd ateb yn uniongyrchol.

Ar gyfer trydar personol ystyriwch ymateb @ fel ”Diolch am eich cwestiynau, fe wnawn ni ateb â DM nawr.”

Ar gyfer trydar dadleuol, trafodwch gyda’r tîm cyn anfon ateb. Os ydych chi'n anfon DM y tebygrwydd yw y byddant yn ei wneud yn gyhoeddus beth bynnag, felly mae ateb cyhoeddus cryf yn well.

RT (Ail-drydar)

Defnyddiwch yr arddull newydd i Ail-drydar bob tro (clicio’r botwm yn unig). Dylai ail-drydar fod yn gallu sefyll ar ei ben ei hun fel trydar a dylid ei gysylltu ag Aberystwyth, gyda’r un lefel o feddwl ac ymgynghori.

Gramadeg a Sillafu

Rydym ni’n argymell copïo eich trydar i Word i wirio’r sillafu. Mae bob amser yn syniad da gwirio eich trydar gyda rhywun cyn ei anfon.

Gallwch ddileu Trydar ond yn aml mae'n rhy hwyr i wneud hynny, felly cofiwch y dylai’r sillafu a’r gramadeg fod yn berffaith cyn trydar.

Peidiwch â thalfyrru i’r pwynt lle mae trydar yn anodd ei ddarllen. Dylech osgoi acronymau ac iaith neges destun os yw’n bosibl.

Nid ydym yn hoffi pethau fel “v” yn lle fi. Yn Saesneg, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahaniaethu'n iawn rhwng e.e. “their” a "there".

Rydych chi’n rhan o dîm rhithiol ac mae pawb yma i helpu’n gilydd. Gallwch gael cyngor, cymorth a chyfieithu trydar drwy: [email protected], ein tudalen cymorth cyfryngau cymdeithasol a thrwy ebostio [email protected] Gwnewch yn siŵr eich bod yn 100% hapus cyn trydar.

Amledd Trydar

Dylai dau neu dri thrydar y dydd fod yn iawn ar gyfer cyfrif Twitter sefydliadol. Gellir amseru trydar dros y penwythnos yn defnyddio Cotweet.

Ymarfer arferol

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 20: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Yn y bôn, peidiwch â thrydar pethau rhyfedd.

Defnyddiwch frawddegau

Ydy eich sillafu a gramadeg yn gywir?

Peidiwch â thrin trydar fel datganiad i’r wasg

Nid oes y fath beth â phennawd , felly peidiwch â chreu un

Fel arfer mae URIs yn dod ar ddiwedd trydar (oni bai bod hashtags yn cael eu defnyddio)

Ydych chi’n gwybod beth yw # DM a @? Os nad ydych chi, fe ddylech chi!

Defnyddiwch ebychnodau’n ddarbodus

Peidiwch â defnyddio llythrennau bras

Gorffennwch eich brawddeg

Darllen yr hyn rydych chi’n ei ysgrifennu

Darllenwch beth rydych chi wedi’i ysgrifennu. Ydy’r trydar yn un gwerth chweil? Ydy’r trydar yn gwneud synnwyr? A allai fod yn gliriach?

Cynnwys y Trydar

Ydy’r Trydar yn ymwneud â’ch cyfrif Twitter? Ydy’r cynnwys yn gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth? Beth ydych chi’n ceisio ei wneud gyda’r trydar?

Co-Tweet neu Hootsuite (Ystyriwch ddefnyddio teclyn o’r fath os oes tîm ohonoch yn defnyddio’r un cyfrif Twitter)

Mae gan @AberUni amserlen, a allech chi ddefnyddio amserlen?

Tîm Gwe: Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Twitter: 9-5 Dydd Llun i Ddydd Iau a 9-4 Dydd Gwener. Tîm Marchnata: Bore cynnar (cyn 9) a gyda’r nos (ar ôl 4). Oriau swyddfa: Arlein i gynorthwyo ag unrhyw ymholiadau a phroblemau.

Ar gyfer materion mwy dadleuol, gallwch gael cyngor, cymorth a chyfieithu trydar drwy: [email protected], ein tudalen cymorth cyfryngau cymdeithaol (Rosemary Mills [email protected]) a thrwy ebostio [email protected].

Cofiwch dreulio munud yn edrych a oes cydweithiwr wedi ateb cwestiwn yn barod cyn i chi ei ateb.

Jargon

Twitter: Gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a micro-flogio am ddim

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 21: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Trydar: Neges a gaiff ei phostio ar Twitter

Hashtag: Gellir tagio trydar ag un neu fwy o hashtags sy’n eiriau neu ymadroddion â symbol hash (#) o'u blaen.

Tag: Tag yw gair neu derm allweddol anhierarchaidd sy’n cael ei neilltuo i ddarn o wybodaeth

URI: Byddai’r mwyafrif o bobl yn meddwl am URI (Uniform Resource Identifier) fel cyfeiriad gwe. Mae’r term URL yn debyg (yn dechnegol mae URL yn fath o URI).

Adnoddau Defnyddiol

Cwtogi URI

Ar gyfer cwtogi URI Aberystwyth defnyddiwch http://neidio.aber.ac.uk/index.php?

Ar gyfer cwtogi URI nad yw’n Aberystwyth defnyddiwch http://bit.ly/

Gwasanaethau Ffotograffau Twitter (mewngofnodi fel Cyfrif Twitter)

http://twitpic.com/

Defnyddiwch CoTweet (Gallwch ddefnyddio hyn i amserlennu trydar)

http://cotweet.com/

Rhowch ystyriaeth i DDIOGELWCH bob amser. Peidiwch â chaniatáu i’r cyfrif gael ei gyfaddawdu.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 22: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 6a Facebook i Adrannau

Cefndir

Mae’r syniad o greu Tudalen Cefnogwyr neu Grŵp i adrannau ar Facebook wedi’i ddynodi. Yr her yw creu a datblygu presenoldeb ar gyfer yr adran hon ar Facebook i greu cymuned o ddiddordeb ac ar yr un pryd galluogi i negeseuon canolog yr adran, y gyfadran a'r Brifysgol gael eu lleisio.

Fformatau cyfredol

Argymhellion ac Ystyriaethau

Argymhellir fel a ganlyn:

Dylid sefydlu un Tudalen Cefnogwyr neu Grŵp neu ddigwyddiad Facebook.

Caiff yr holl staff adrannol perthnasol fynediad at y dudalen hon fel Gweinyddwyr.

Caiff grŵp ei greu i weinyddwyr y dudalen allu trafod syniadau a rhannu ymarfer gorau neu lle bo angen ymuno â’r grŵp Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol cyfredol.

Caiff rhai rheolau sylfaenol eu sefydlu i ddefnyddwyr a staff.

Rhoddir mynediad i’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol sy’n gallu helpu gydag unrhyw broblemau a allai godi a chaiff y proffil Wrth Gefn ei ychwanegu.

Mae’r canlynol werth eu hystyried:

Gosodiadau preifatrwydd. A fydd angen proffil Facebook ar wahân ar staff ynteu a allant sicrhau bod eu proffil Facebook presennol yn ddigon preifat?

Cynnwys. Ystyriwch y cynnwys ar adegau penodol yn y flwyddyn. Ceisiadau, Derbyn, Amseroedd arholiad, dyddiadau cau traethodau, dyddiadau wythnos ddarllen a gwybodaeth modiwl. Peidiwch â chanolbwyntio ar y testun yn unig. Mae lluniau, blogiau, fideos a gemau yn fwy diddorol. Efallai y gallech greu dogfen o eitemau y byddwch chi'n eu postio a rhoi cyfrifoldeb i rywun sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio'n weithredol.

Rheoli. Argymhellir fod y dasg o gynnal y dudalen yn cael ei rhoi i un aelod o staff a all ei gwirio yn ddyddiol yn y bore ac anfon diweddariadau dwyieithog. Bydd y cydweithiwr hwn yn postio dan broffil yr adran. Cynghorir hefyd pan fydd aelodau eraill o staff yn dymuno postio gwybodaeth neu ateb cwestiynau, eu bod yn gwneud hyn fel nhw eu hunain. Mae hyn yn golygu y gellir diogelu amseru’r cynnwys a bydd yn osgoi dyblygu. Mae dyrannu rolau o fewn y tîm Cyfryngau Cymdeithasol yn bwysig.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 23: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Terfynau. Faint o oriau y byddwch chi’n eu treulio ar y dudalen? Pryd fydd hi’n iawn i ddefnyddio’r dudalen? Pa mor gyflym fyddwch chi’n ateb cwestiynau? Ydy’r staff yn barod i newid a dod yn fwy digidol? Peidiwch ag anwybyddu cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’ch maes. Atebwch bawb yn gyfeillgar.

Dealltwriaeth. Soniwch wrth bawb yn yr adran am y dudalen Facebook. Mae’n bwysig fod pawb yn gwybod beth sy’n digwydd. Efallai yr hoffech chi ystyried ad-drefnu cyfrifoldebau i gynnwys Facebook.

Marchnata. Ystyriwch lansio. Gallwn ddweud wrth bobl am y dudalen hon drwy:

1. Yr Ebost Wythnosol

2. Yn firaol drwy Twitter a Facebook

3. Hyrwyddo drwy Staff

4. Troednodyn ebost

5. Dweud wrth fyfyrwyr am y dudalen mewn ebost adrannol.

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 24: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Adran 6 (rhan 2)

Enw a manylion cyswllt:

Ysgrifennwch enwau eich staff detholedig isod, ynghyd â safle eu cyfrifoldeb:

Dylai ‘persona’ y cyfryngau cymdeithasol fod fel a ganlyn:

Beth yw eich agwedd at y cyfryngau cymdeithasol o ran amser ac adnoddau? Pwy fydd eich prif gyswllt Facebook?

Sut fyddwch chi’n sicrhau bod eich presenoldeb cyfryngau cymdeithasol yn cadw at y polisïau mewnol?

Yn ogystal â chynnwys ysgrifenedig, pa fathau eraill o ymglymiad cymdeithasol arlein ydych chi’n eu rhagweld?

Ni allwch chi reoli cyfryngau cymdeithasol, dim ond eu hwyluso. Disgwyliwch i ddefnyddwyr ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol, caniatewch hynny, ymatebwch i hynny a'i annog. Postiwch yn rheolaidd ac yn bwysicach atebwch yn rheolaidd; i’r sylwadau negyddol a’r rhai cadarnhaol.

Rhowch rywbeth arbennig i’r defnyddwyr. Nhw yw eich Cefnogwyr a’ch llysgenhadon naturiol chi a gallent gael dylanwad difrifol ar eich adran a’r Sefydliad. Ystyriwch bostio gwybodaeth ar Facebook yn gyntaf megis “Chi yw’r cyntaf i glywed am ein rhaglen newydd”. Ysgrifennwch un syniad yr hoffech ei wneud:

Canolbwyntiwch ar y gynulleidfa. Rhannwch wybodaeth sy’n berthnasol i’r defnyddwyr.

Gwiriwch eich sillafu a’ch gramadeg bob tro.

Yn olaf, mwynhewch. Dylai fod yn hwyl ac mae hwn yn gam hwyliog i greu cyswllt ag ymgeiswyr a myfyrwyr mewn ffordd newydd!

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 25: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

Cysylltwch â Rosemary Mills ar 01970 628483 neu [email protected] am ragor o wybodaeth.

Adran 7

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 26: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx

Page 27: Adran 1: Rheolau’r Tŷ ar Gyfryngau Cymdeithasol Web viewC:\Users\rzm\Documents\My Documents\Social Media Offcier 2011\Staff Policy for Social Media\Draft Policy.1\Contents page

/tt/file_convert/5a95080d7f8b9a451b8c3f5c/document.docx