Adolygiad lynyddol - Learned Society of Wales...Adolygiad lynyddol Mai 2011 – Mai 2012 “ “...

24
Adolygiad Blynyddol Mai 2011 – Mai 2012

Transcript of Adolygiad lynyddol - Learned Society of Wales...Adolygiad lynyddol Mai 2011 – Mai 2012 “ “...

  • Adolygiad Blynyddol

    Mai 2011 – Mai 2012

  • “ “

    Dathlu, cydnabod, cadw, gwarchod ac annog rhagoriaeth ym mhob

    disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y

    proffesiynau, diwydiant a masnach, y

    celfyddydau a gwasanaeth

    cyhoeddus;

    Hyrwyddo datblygiad dysg ac ysgolheictod a rhannu a chymhwyso

    canlyniadau ymholiadau ac ymchwil

    academaidd;

    Gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol

    ac arbenigol ar faterion sy'n effeithio

    ar les Cymru a'i phobl a datblygu

    trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus

    ar faterion o bwys cenedlaethol a

    rhyngwladol.

    Cen

    had

    aeth

    Am fwy o wybodaeth am y Gymdeithas, cysylltwch â: Dr Lynn Williams Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Blwch SP 586 Caerdydd CF11 1NU (29) 2037 6951 e-bost at: [email protected]

    neu ymwelwch â gwefan y Gymdeithas: www.learnedsocietywales.ac.uk

    Rhif Cwmni 7256948 Rhif Elusen Gofrestredig 1141526

    Diffinnir y cyfnod rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o’r Gymdeithas a’r nesaf yn Flwyddyn y Gymdeithas. Mae’r Adolygiad hon yn adrodd ar Flwyddyn y Gymdeithas ar gyfer y cyfnod rhwng y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 25 Mai 2011 a 23 Mai 2012.

  • Tudalen 3 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw

    academi ysgolheigaidd genedlaethol

    gyntaf Cymru ac yr oedd ei sefydlu

    ym mis Mai 2010 yn ddatblygiad

    pwysig iawn ym mywyd deallusol a

    diwylliannol ein cenedl. Mae gennym

    ni bellach egin academi dysg o’r

    math sydd wedi bodoli cyhyd mewn

    rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

    Yr ethos sy’n gyrru’r Gymdeithas yw

    Dathlu Ysgolheictod a

    Gwasanaethu'r Genedl. Ein nod yw

    dathlu, cydnabod, gwarchod ac

    annog rhagoriaeth ym mhob

    disgyblaeth ysgolheigaidd, yn y

    proffesiynau, mewn diwydiant a

    masnach, yn y celfyddydau ac mewn

    gwasanaeth cyhoeddus, er mwyn i

    Gymru gael ei chydnabod yn

    haeddiannol ym mhob man fel gwlad

    fechan, fedrus. Dros amser a chyda’r

    gefnogaeth briodol, bydd modd i’r

    Gymdeithas sicrhau bod gallu

    deallusol Cymru yn cael ei

    chynrychioli a’i hyrwyddo’n

    rhyngwladol. Bydd yn harneisio ac yn

    sianelu doniau'r genedl er budd y

    wlad, gan sicrhau bod modd i’n pobl,

    ein gwleidyddion a’n gwneuthurwyr

    polisi, ynghyd â’n pobl fusnes, gael

    gafael ar gyngor ysgolheigaidd,

    gwrthrychol, seiliedig ar ymchwil

    dda, ar faterion o bwys allweddol.

    Bydd yn gwarchod ac yn cynnal yr

    union weithgareddau hynny sy'n sail

    i fedr a deheurwydd Cymru, yn

    enwedig yn ystod y cyfnod anodd

    hwn.

    Dros gyfnod o flynyddoedd y bydd

    Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn

    aeddfedu'n llawn, ac, yn naturiol,

    bydd yr ystod o ddigwyddiadau a

    drefnir ganddi yn cynyddu dros

    amser. Does dim dadlau bod taith hir

    o’n blaenau cyn i ni allu efelychu

    academïau mawr Llundain a

    Chaeredin, a’r rhai sydd mor

    llewyrchus ledled Ewrop, Gogledd

    America a thu hwnt, ond fel y

    byddwn ni'n dangos yn y tudalennau

    nesaf, gyda chymorth hael Prifysgol

    Cymru ynghyd â chyfraniadau

    gwerthfawr o fannau eraill hefyd, yn

    enwedig y prifysgolion yng Nghymru

    sydd wedi cynnal ein digwyddiadau,

    mae’r Gymdeithas wedi mwynhau ail

    flwyddyn galonogol.

    Er enghraifft rydym ni wedi:

    ethol cohort cryf o saith deg a thri

    o Gymrodyr newydd, i ategu'r

    rhestrau rhagorol o Gymrodyr

    Cychwynnol a Chymrodyr a

    etholwyd yn yr Etholiad Cyntaf y

    llynedd; a

    dechrau ar hyd y llwybr at sicrhau

    Siarter Brenhinol i’r Gymdeithas

    (sydd ar hyn o bryd wedi’i

    chyfansoddi’n gwmni cyfyngedig

    drwy warant dan Femorandwm ac

    Erthyglau Cymdeithasu);

    ac mae pethau eraill yn dal i fynd yn

    eu blaen, megis:

    datblygu rhaglen gyffrous o

    ddarlithoedd ac achlysuron eraill;

    creu cysylltiadau â rhanddeiliaid

    allweddol ym myd academia

    Cymru, Llywodraeth Cymru a’r

    Gwasanaeth Sifil a thu hwnt; a

    chyfrannu at y drafodaeth ar

    bolisi cyhoeddus, er enghraifft

    wrth drafod cefnogaeth

    Llywodraeth Cymru i'n

    prifysgolion, polisi ar

    wyddoniaeth a pholisi cyllido

    ymchwil.

    Edrychaf ymlaen at gael adrodd ar ei

    chynnydd mewn Adolygiadau

    Blynyddol yn y dyfodol.

    Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS

    Llywydd

    Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu’r Genedl

    Cyflwyniad gan y Llywydd

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 4

    Rhaglen Digwyddiadau’r Gymdeithas: Cyfresi a Themâu

    Yn ystod y flwyddyn rydym ni wedi

    parhau i ddatblygu nifer o gyfresi o

    ddarlithoedd gyda rhai themâu

    arbennig sy’n ategu byd dysg, ac wedi

    trefnu a chyfrannu at raglen

    lwyddiannus sydd wedi cynnwys dros

    ugain o ddigwyddiadau.

    Y Cyfresi Darlithoedd ar hyn o bryd yw:

    Ffiniau - cyfres o ddarlithoedd lle

    gwahoddir academyddion o fri i drafod

    estyn ffiniau ymchwil ac i osod eu

    cyfraniadau eu hunain yn eu cyd-

    destun. Mae’r darlithwyr hyn yn

    ysgolheigion blaenllaw yn eu gwahanol

    ddisgyblaethau gyda rhai ohonynt yn

    ymwelwyr â Chymru.

    Penblwyddi - cyfres o ddarlithoedd yn

    nodi dathliadau arbennig neu ben-

    blwyddi, yn aml am bobl neu

    gyflawniadau cysylltiedig â Chymru.

    Gwahoddir academyddion nodedig i

    drafod arwyddocâd rhyw

    ddarganfyddiad neu’i gilydd neu i

    ddathlu bywyd neu ddigwyddiad.

    Ein Themâu yw:

    Dyfeisio, Arloesi a Newidiaeth

    Wrth galon ein dealltwriaeth o

    newidiaeth mae'r berthynas

    ryngweithiol rhwng agweddau

    technegol, masnachol a chymdeithasol

    darganfyddiadau, gwelliannau ac

    arloesi. Mae’r digwyddiadau a drefnir

    dan y thema hon yn archwilio’r

    elfennau sylfaenol hyn yn yr “economi

    gwybodaeth”.

    Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg

    Bu gan Gymru a’i phobl ran sylweddol

    yn nhwf gwybodaeth wyddonol ac yn y

    defnydd ohoni, ond mae hanes ac

    etifeddiaeth gwyddoniaeth a

    thechnoleg yng Nghymru wedi’u

    hesgeuluso i raddau helaeth. Mae’r

    thema hon yn datblygu hanes

    gwyddoniaeth a thechnoleg yn

    gyffredinol, a’r etifeddiaeth wyddonol a

    thechnolegol Gymreig yn benodol.

    Y Prifysgolion

    Mae Prifysgolion yn ganolog i

    ddatblygiad y byd modern. Mae'r hyn y

    mae unigolion, busnesau a

    llywodraethau yn ei ddisgwyl gan

    brifysgolion yn cynyddu, ac mae’r

    disgwyliadau hyn yn gwrthdaro ȃ’i

    gilydd weithiau. Mae'r cwestiwn Beth

    yw diben Prifysgolion? yn un y gellir ei

    ofyn ar hyd a lled y byd. Yn y

    digwyddiadau a drefnir dan thema Y

    Prifysgolion ceir cyfle i drafod eu

    swyddogaethau cymdeithasegol,

    economaidd, deallusol a diwylliannol.

    Ynni

    Mae cynhyrchu ynni, a'i ddefnyddio, yn

    sylfaenol i’n bywyd cymdeithasol,

    economaidd a gwleidyddol. Mae'r

    problemau sydd ynghlwm wrth ynni

    wedi esgor ar dechnolegau

    mawreddog, mentrau masnachol

    enfawr, dadleuon rhyngwladol chwerw,

    trafodaethau rhethregol brwd, daliadau

    tanbaid, a dyheadau sydd weithiau’n

    afrealistig. Dan y thema hon mae’r

    Gymdeithas yn edrych ar un o bynciau

    mawr y dydd, ynni, o sawl agwedd

    wahanol, gan herio damcaniaethau a

    chredoau gyda thrylwyredd

    academaidd a thystiolaeth.

    Yn ystod y flwyddyn penderfynwyd y

    dylid datblygu dwy thema arall hefyd:

    Bydd thema amlddisgyblaethol Nawdd

    yn edrych ar y gwahanol fathau o

    nawdd yn y celfyddydau a’r gwyddorau

    ac mewn bywyd cyhoeddus, fel y’i

    gwelir yng Nghymru, y DU a thu hwnt,

    gan drafod y cymhelliannau a’r dulliau

    o weithredu nawdd a’i ganlyniadau;

    Bydd Cymdeithas Sifil Cymru’n edrych

    ar ddatblygiad penodol y gymdeithas

    sifil yng Nghymru yng nghyd-destun

    datganoli pwerau hunan-reoli

    sylweddol yn ddiweddar i Gynulliad

    Cymru lled-annibynnol, drwy gyfres o

    ddarlithoedd sy’n rhychwantu

    cymdeithaseg a gwleidyddiaeth, hanes,

    astudiaethau diwylliannol a chyfryngau,

    a llenyddiaeth.

  • Tudalen 5 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    4 Mehefin 2011 yn Amgueddfa

    Genedlaethol Caerdydd

    Ancient Britons, Europe and Wales:

    New Research in Genetics,

    Archaeology, and Linguistics,

    Cynhadledd undydd a noddir ar y

    cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau

    Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

    a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac

    a drefnir gan yr Athro Syr Barry

    Cunliffe CBE FSA FLSW FBA a'r Athro

    John Koch FLSW.

    7 Mehefin 2011 ym Mhrifysgol

    Caerdydd

    The coldest march of Robert Falcon

    Scott, darlith yn y Gyfres

    Benblwyddi gan yr Athro Susan

    Solomon FRS, Prifysgol Colorado yn

    Boulder, a noddir gan y

    Gymdeithas, fel rhan o Gyfres

    Ddarlithoedd Scott, a drefnir gan Yr

    Athro Dianne Edwards CBE ScD

    FRSE FLSW FRS, Ysgol Gwyddorau’r

    Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol

    Caerdydd, i ddathlu canmlwyddiant

    taith y Capten Scott i Begwn y De.

    13 Gorffennaf 2011 ym Mhrifysgol

    Caerdydd

    Gravitational Waves: Listening to the

    True Music of the Spheres!, darlith gan

    yr Athro Bernard Schutz FInstP FLSW,

    Cyfarwyddwr Athrofa Ffiseg

    Disgyrchiant Max Planck (Sefydliad

    Albert Einstein) Potsdam, ac Athro yn

    yr Ysgol Ffiseg ac Astronomeg Prifysgol

    Caerdydd; trefnwyd gan yr Ysgol ar y

    cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

    ar achlysur Cynadleddau Amaldi-9 a

    NRDA-2011.

    20 22 Gorffennaf 2011 ym

    Mhrifysgol Bangor

    Writing Welsh History, 1850-1950:

    Contexts and Comparisons, cynhadledd

    i ddathlu Canmlwyddiant History of

    Wales (1911) J. E. Lloyd; gan nodi’r

    gwaith arloesol a wnaed gan Syr John

    Edward Lloyd yn sefydlu hanes Cymru

    fel disgyblaeth academaidd, trefnwyd

    y gynhadledd gan yr Ysgol Hanes,

    Hanes Cymru ac Archaeoleg ym

    Mhrifysgol Bangor ar y cyd â’r

    Gymdeithas; ymhlith y siaradwyr

    roedd nifer o Gymrodyr y Gymdeithas

    (yr Athro Thomas Charles-Edwards

    FRHistS FLSW FBA, yr Athro Robert

    Evans FLSW FBA, yr Athro Ralph

    Griffiths OBE DLitt FRHistS FLSW, yr

    Athro Prys Morgan FRHistS FSA FLSW

    a’r Athro Huw Pryce FLSW).

    27 Hydref 2011 ym Mhrifysgol

    Caerdydd

    Stability and Complexity in Model

    Banking Systems, darlith gan yr Athro

    yr Arglwydd May o Rydychen OM AC

    Kt FRS, Prifysgol Rhydychen, Llywydd y

    Gymdeithas Frenhinol 2000-2005. Yng

    nghyd-destun yr argyfyngau bancio

    diweddar, sydd wedi amlygu’r ffaith na

    chefnogwyd strategaethau cynyddol

    gymhleth ar gyfer rheoli risg mewn

    banciau unigol a chronfeydd

    buddsoddi â sylw cyfatebol i’r risgiau

    systemig cyffredinol, bu’r ddarlith yn

    trafod goblygiadau brasluniau

    mathemategol syml o “ecosystemau

    bancio” gan ddangos bod

    strategaethau sy’n tueddu i leihau risg

    i fanciau unigol yn gallu cynyddu

    tebygolrwydd methiant systemig.

    Y Rhaglen Digwyddiadau

    Yr Athro yr Arglwydd May

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 6

    1 Tachwedd 2011, ym Mhrifysgol

    Abertawe

    Forty Years of Software Engineering,

    darlith a drefnwyd ar y cyd â Changen

    De Cymru Cymdeithas Cyfrifiadura

    Prydain, gan yr Athro Brian Randell

    DSc FBCS FLSW, Athro Emeriws

    Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol ac Uwch

    Ymchwilydd, Prifysgol Newcastle, y

    cyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd ym

    Mhrifysgol Abertawe gan wyddonwyr

    cyfriadura nodedeig.

    1 Rhagfyr 2011 ym Mhrifysgol

    Caerdydd, a 2 Rhagfyr 2011 ym

    Mhrifysgol Abertawe

    The Genius of Michael Faraday; a

    William Grove: Wales’s Most Famous

    Scientist?, dwy ddarlith gan yr Athro

    Syr John Meurig Thomas DSc ScD

    FLSW FRS, Prifysgol Caergrawnt, a

    drefnwyd fel rhan o ddathliadau

    Blwyddyn Ryngwladol Cemeg, ar y cyd

    a chyda chefnogaeth grant hael gan y

    Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

    Roedd y ddarlith ym Mhrifysgol

    Caerdydd yn trafod llwyddiannau a

    darganfyddiadau Faraday gan ystyried

    athrylith un o’r cemegwyr gorau

    erioed.

    Roedd yr ail ddarlith, darlith Pen-

    blwyddi ym Mhrifysgol Abertawe, yn

    dathlu daucanmlwyddiant geni

    William Grove, “tad y gell danwydd”,

    a’i ymchwil arloesol ar dechnoleg

    celloedd tanwydd a chadwraeth ynni.

    7 Rhagfyr 2011 i 2 Mai 2011 yn

    Adeilad y Pierhead Bae Caerdydd ac

    ym Mhrifysgol Caerdydd

    Reforming European Economic

    Governance: Implications for the

    United Kingdom and Wales, cyfres o

    chwe digwyddiad, a drefnwyd gan yr

    Athro Kenneth Dyson AcSS FRHistS

    FLSW FBA, yr Athro Alistair Cole

    FRHistS AcSS FLSW, et al, ac a nodwyd

    gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Ysgol

    Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a

    Gwleidyddiaeth Caerdydd, gyda

    chefnogaeth y Gymdeithas.

    Roedd siaradwyr y gyfres yn ystyried

    goblygiadau’r heriau digynsail i

    lywodraethiant economaidd Ewrop, a

    ysgogwyd gan yr argyfwng ariannol ac

    economaidd byd-eang mwyaf ers y

    1930au, sydd wedi codi cwestiwn am

    gyfeiriad yr Undeb Ewropeaidd yn y

    dyfodol a bodolaeth yr Ewro. Fe’u

    tynnwyd o lywodraethau’r DU a

    Chymru ac o’r sector preifat, o

    sefydliadau’r UE, o Aelod

    Wladwriaethau eraill, ac o academia, i

    drafod dyfodol yr Undeb Ewropeaidd

    a’r opsiynau strategol y mae

    llywodraethau Ewrop, y DU a

    Chymru’n eu hwynebu wrth ymateb i’r

    materion hyn.

    Y Rhaglen Digwyddiadau

    Yr Athro Syr John Meurig Thomas

  • Tudalen 7 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Clocwedd o’r chwith: Jonathan Scheele, Y Comisiwn Ewropeaidd, Pennaeth Cynrychiolaeth yn y DU; Dr Kay Swinburne ASE, Y Blaid Geidwadol; Yr Athro Kenneth Dyson FLSW, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Alistair Cole FLSW, Prifysgol Caerdydd; Professor Bela Greskovits, Prifysgol Canolbarth Ewrop; Dr David Grant FLSW, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; y Gwir Anrh. Carwyn Jones, AS, Prif Weinidog Cymru.

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 8

    7 Mawrth 2012 ym Mhrifysgol Bangor

    Dylunio Bloodhound SSC, darlith

    Ffiniau Gymraeg, ar ddylunio’r car

    uwchsonig Bloodhound, gan yr Athro

    Kenneth Morgan FREng FLSW, a

    drefnwyd gan y Gymdeithas ar y cyd

    â’r Ysgol Peirianneg Electronig ym

    Mangor a’r Sefydliad Ffiseg (Cymru).

    26 Mawrth 2012 ym Mhrifysgol

    Caerdydd

    Darlith Goffa William Menelaus, From

    Here to Infinity, darlith gan yr

    Arglwydd Rees o Lwydlo OM FRS, y

    Seryddwr Brenhinol a Chyn Lywydd

    (2005-2010) y Gymdeithas Frenhinol,

    a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth

    Addysgol Sefydliad Peirianwyr De

    Cymru (SWIEET2007) ar y cyd â’r

    Gymdeithas.

    Yn ogystal â chynnig golwg ar ymchwil

    yr Arglwydd Rees i seryddiaeth ac

    astroffiseg, roedd y ddarlith yn trafod

    rhai o’r themâu a archwiliwyd ganddo

    yn ei Ddarlithoedd Reith i BBC Radio 4

    yn 2012 ac yn ei lyfr dilynol (â’r teitl

    From Here to Infinity): gwyddoniaeth

    a’i swyddogaeth yn y gymdeithas yn

    gyffredinol a’i phwysigrwydd yn yr

    21ain Ganrif.

    17 a 18 Ebrill 2012 ym Mhrifysgol

    Caerdydd

    Back to the Big Bang, the Large

    Hadron Collider, gan yr Athro Lyn

    Evans CBE FLSW FRS (CERN), a The

    Spectral Point of View on Geometry

    and Physics, gan yr Athro Alain Connes

    (College de France, IHES a Vanderbilt).

    Dwy ddarlith Ffiniau oedd y rhain a

    draddodwyd yn ystod Cyfarfod

    Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol

    a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS) ar

    Geometreg Anghymudol, a gyllidwyd

    gan WIMCS, Sefydliad Gwyddorau

    Mathemategol Isaac Newton, Prifysgol

    Caergrawnt a Gwasg Prifysgol

    Rhydychen, ac a drefnwyd gan yr

    Athro David Evans FLSW ar y cyd â’r

    Gymdeithas.

    Syr John Cadogan, Yr Arglwydd Rees a’r Athro Vernon Morgan FLSW

    Y Rhaglen Digwyddiadau 2011/12

  • Tudalen 9 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Croesewir cynigion gan academyddion ac eraill, yng Nghymru a thu hwnt, am ddarlithoedd,

    symposia a gweithgareddau a digwyddiadau eraill, fydd yn cryfhau a datblygu ein Rhaglen.

    20 Ebrill 2012 yng Nghanolfan

    Celfyddydau Sain Dunwyd, Coleg yr

    Iwerydd Castell Sain Dunwyd, Llanilltud

    Fawr

    The Prince of Welsh Romantics: Iolo

    Morganwg and his legacy, darlith am yr

    un a sefydlodd Orsedd Beirdd Ynysoedd

    Prydain gan yr Athro Geraint Jenkins

    FLSW FBA, cyn Gyfarwyddwr Canolfan

    Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

    Prifysgol Cymru a phrosiect y Ganolfan,

    Iolo Morganwg a’r Traddoiad

    Rhamantaidd yng Nghymru 17401918,

    a drefnwyd gan y Gymdeithas mewn

    partneriaeth â Choleg yr Iwerydd ac

    Eisteddfod Genedlaethol Bro

    Morgannwg.

    10 May 2012 yn Theatr Y Drwm,

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru,

    Aberystwyth

    Saunders Lewis: Ein Theatr Heddiw,

    darlith Gymraeg gan yr Athro Tudur

    Hallam (Academi Hywel Teifi, Prifysgol

    Abertawe) ar gyflwr y theatr Gymraeg

    gyfoes a’i pherthnasedd i weithiau

    dramatig Saunders Lewis, a drefnwyd

    gan Gronfa Goffa Saunders Lewis, ar y

    cyd ag Academi Hywel Teifi, Llyfrgell

    Genedlaethol Cymru a’r Gymdeithas.

    15 May 2012 ym Mhifysgol Caerdydd

    Building a Stronger Innovation Culture:

    The Benefits for Universities, business

    and the Economy in Engaging in

    Innovation and Enterprise, darlith

    Dyfeisio, Arloesi a Newid gan yr Athro

    Syr Christopher Snowden FRS FREng

    FIET FIEEE FCGI (Is-Ganghellor Prifysgol

    Surrey), a drefnwyd gan Ysgol

    Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ar y cyd

    â’r Gymdeithas.

    Y Rhaglen Digwyddiadau

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 10

    Bu sefydlu a gweithrediad y

    Gymdeithas ers iddi gael ei lansio yn

    2010 yn bosibl diolch i gymorth hael

    Prifysgol Cymru, a ymrwymodd yn y

    lle cyntaf i ddarparu grant dros gyfnod

    o dair blynedd rhwng 2009/10 a

    diwedd 2011/12, yn ogystal â gofod

    swyddfa a chymorth sylweddol arall o

    ran seilwaith. Yn ystod y flwyddyn

    ddiwethaf cafwyd ymrwymiad pellach

    ar gyfer y cyfnod o dair blynedd hyd at

    2014/15. Rydym ni’n ddiolchgar i

    Gyngor y Brifysgol am ei hymrwymiad

    i'n helpu ni i wireddu’r weledigaeth o

    academi genedlaethol i Gymru a

    galluogi’r Gymdeithas i barhau i

    gynnal ei busnes yn gwbl annibynnol.

    Rydym hefyd wedi parhau i dderbyn

    cymorth hael gan sefydliadau eraill.

    Maent yn cynnwys Prifysgolion

    Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a

    Bangor, ac APCC, a ddarparodd

    neuaddau ar gyfer digwyddiadau'r

    Gymdeithas yn ystod 2011/12. Mae

    Prifysgol Abertawe hefyd yn darparu

    cartref i wefan y Gymdeithas. Yn

    ogystal mae PricewaterhouseCoopers

    yn eu haelioni wedi darparu

    gwasanaethau archwilio i’r

    Gymdeithas pro bono. (Roedd cyfrifon

    archwiliedig cyntaf y Gymdeithas yn

    cwmpasu’r cyfnod rhwng ei

    hymgorffori ar 18 Mai 2010 a 31

    Gorffennaf 2011 ac fe'u cyflwynwyd

    yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar

    23 Mai 2012.)

    Yn 2011/12, am y tro cyntaf cawsom

    incwm drwy danysgrifiadau Cymrodyr,

    a ffioedd mynediad Cymrodyr

    newydd.

    Yn dilyn ein cais llwyddiannus i’r

    Comisiwn Elusennau i sicrhau statws

    elusennol, lansiodd y Cyngor Gronfa

    Apêl i Gymrodorion ym mis Tachwedd

    2011.

    Wrth iddi weithio i ddatblygu

    cynlluniau busnes a strategol y

    Gymdeithas (a fydd yn realistig ac yn

    gyflawnadwy yn ogystal â bod yn

    uchelgeisiol), mae’r Cyngor wedi

    cydnabod bod angen ymchwilio i

    ffynonellau eraill o gyllid ar frys er

    mwyn ein galluogi i ddatblygu rhaglen

    y Gymdeithas dros y blynyddoedd

    nesaf. Mae hyn ar waith eisoes a bydd

    yn datblygu ymhellach yn 2012/13.

    Staffio

    Mae’r lefelau cyllido cyfredol yn

    galluogi'r Gymdeithas i weithredu ar

    lefel gymharol syml ond ystyrlon.

    Adlewyrchir hyn yn y lefelau staffio yn

    2011/12 - Prif Weithredwr llawn

    amser (Dr Lynn Williams), a

    gefnogwyd ar y dechrau (tan fis Medi

    2011) gan Swyddog Gweinyddol rhan

    amser (Dr Ben Curtis).

    Ymddiswyddodd Dr Curtis ym mis

    Medi i ymgymryd â swydd

    academaidd. Rydym ni’n ddiolchgar

    iawn iddo am ei wasanaeth ac yn

    dymuno pob llwyddiant iddo. Ym mis

    Rhagfyr 2011, roedd y Gymdeithas yn

    falch i groesawu Dr Sarah Morse, a

    ymgymerodd â swydd newydd lawn

    amser Swyddog Gweithredol.

    Cyllid, Cymorth a Staffio

    “Elfen hanfodol o’n Cymdeithas

    yw annibyniaeth heddiw yn fwy

    nag erioed felly er bod ein

    Cymdeithas yn ddyledus iawn i’r

    cyllid cychwynnol a ddarparwyd

    gan Brifysgol Cymru, hoffem

    bwysleisio yr ystyriwn mai ni yw’r

    sefydliad Cymru-gyfan cyntaf sy’n

    annibynnol i’r Llywodraeth ac sy'n

    cefnogi rhagoriaeth ym mhob un

    o'r disgyblaethau ysgolheigaidd

    a’r proffesiynau, diwydiant,

    masnach a'r Celfyddydau a

    gwasanaeth cyhoeddus."

    Syr John Cadogan, Llywydd

  • Tudalen 11 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Gan gydnabod pwysigrwydd creu

    cysylltiadau â rhanddeiliaid i

    ddatblygiad y Gymdeithas, yn ystod y

    flwyddyn treuliodd y Swyddogion gryn

    amser yn sefydlu cysylltiadau ag

    amrywiaeth o sefydliadau a chyfarfod

    â chynrychiolwyr ohonynt. Roedd y

    rhain yn cynnwys:

    Is-Gangellorion a swyddogion eraill

    Prifysgolion Cymru a’u cyrff

    cynrychioliadol, Addysg Uwch

    Cymru a Chadeiryddion Addysg

    Uwch Cymru;

    amrywiaeth o wleidyddion

    Llywodraeth Cymru ac eraill ac

    uwch weision sifil (gan gynnwys:

    David Jones AS, Is-Ysgrifennydd

    Gwladol Seneddol Cymru; y Gwir

    Anrh. David Willetts AS, Gweinidog

    Gwladol dros Brifysgolion a

    Gwyddoniaeth; y Fonesig Gill

    Morgan, Ysgrifennydd Parhaol

    Llywodraeth Cymru; yr Athro John

    Harries FLSW, Prif Ymgynghorydd

    Gwyddonol Llywodraeth Cymru; Dr

    Emyr Roberts, Cyfarwyddwr

    Cyffredinol Addysg a Sgiliau

    Llywodraeth Cymru);

    swyddogion a chynrychiolwyr

    cymdeithasau dysgedig eraill, gan

    gynnwys y Gymdeithas Frenhinol,

    yr Academi Brydeinig, Cymdeithas

    Frenhinol Caeredin, y Gymdeithas

    Cemeg Frenhinol, Sefydliad Ffiseg

    (Cymru) a Chymdeithas

    Cyfrifiadura Prydain;

    swyddogion a chynrychiolwyr cyrff

    cenedlaethol eraill yng Nghymru,

    gan gynnwys y Llyfrgell

    Genedlaethol, yr Amgueddfa

    Genedlaethol, yr Eisteddfod

    Genedlaethol a’r Sefydliad

    Materion Cymreig;

    cynrychiolwyr y Comisiwn

    Ewropeaidd;

    swyddogion a chynrychiolwyr

    elusennau eraill gan gynnwys

    Ymddiriedolaeth Leverhulme ac

    Ymddiriedolaeth Addysgol

    Cymdeithas Peirianwyr De Cymru –

    SWIEET2007.

    Mae datblygiad y berthynas â

    SWIEET2007 yn enwedig yn werth ei

    nodi:

    yn ystod y flwyddyn derbyniodd

    Ysgrifennydd Cyffredinol y

    Gymdeithas, yr Athro John Tucker,

    wahoddiad i eistedd ar Fwrdd

    Ymddiriedolwyr SWIEET;

    cydweithiodd y Gymdeithas a

    SWIEET yn y Ddarlith Goffa William

    Menelaus flynyddol;

    cyflwynodd SWIEET grant o £3,000 i

    gynorthwyo gweithgareddau’r

    Gymdeithas yn ystod 2011/12 (y

    mae rhan o’r grant hwn yn cael ei

    defnyddio ar gyfer prosiect tymor hir

    i ddatlbygu Llyfryddiaeth

    Gwyddoniaeth, Technoleg a

    Pheirianneg yng Nghymru); a

    chan ddechrau yn 2013, bydd y

    Gymdeithas yn dyfarnu Medal

    Menelaus dan nawdd SWIEET.

    Meithrin Cysylltiadau

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 12

    Rhan o’n Cenhadaeth yw:

    Gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a

    sylwadau ysgolheigaidd annibynnol

    ac arbenigol ar faterion sy'n effeithio

    ar les Cymru a'i phobl, a datblygu

    trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus

    ar faterion o bwys cenedlaethol a

    rhyngwladol.

    Rydym ni wedi nodi amrywiaeth o

    feysydd polisi cyhoeddus y dylai’r

    Gymdeithas ymwneud â hwy dros y

    blynyddoedd nesaf, gan gynnwys:

    cyllid a pholisi addysg uwch

    cyllid a pholisi ymchwil

    polisi gwyddoniaeth gan gynnwys yr

    amgylchedd ac ynni

    polisi diwylliannol a threftadaeth

    polisi cymdeithasol gan gynnwys

    cydlyniad ac allgau cymdeithasol

    polisi economaidd

    a buom yn ymdrin â nifer o’r rhain yn

    ystod y flwyddyn.

    Y Bwlch Cyllido

    Ar 1 Mawrth 2011, cyhoeddodd y

    Cyngor bapur ar y Bwlch Cyllido (ar

    gael ar ein gwefan: http://learned

    societywales.ac.uk/node/62).

    Dangosodd y bu’n bolisi gan

    Lywodraeth Cymru dros y degawd

    diwethaf i dangyllido prifysgolion

    Cymru o’u cymharu â rhai Lloegr a’r

    Alban a bod y bwlch cronnol rhwng

    Cymru a Lloegr dros y deng mlynedd

    rhwng 2000 a 2009 dros £360 miliwn

    tra bod y bwlch rhwng Cymru a’r Alban

    dros £1 biliwn.

    “Y prifysgolion yw ceidwaid tymor hir dyfodol y Genedl. Ynddynt hwy heb os y ceir y rhan helaethaf o unrhyw ragoriaeth sydd yng Nghymru conglfaen ein gwybodaeth.”

    Parhaodd gwaith ar y pwnc hwn yn

    ystod rhan gyntaf 2011/12 ac ar 18

    Hydref 2011, cyhoeddom ni The

    Funding Gap, gohebiaeth y Gymdeithas

    gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau,

    Leighton Andrews AC, parthed cyllido

    Prifysgolion Cymru.

    “Mae gamblo dyfodol y prifysgolion, sydd eisoes yn fregus, […] yn beryglus i Gymru.”

    Cylchredwyd y papur, sydd hefyd ar y

    wefan (http://learnedsocietywales

    .ac.uk/node/283), yn eang a chafodd

    sylw yn y cyfryngau Cymreig.

    Polisi Gwyddoniaeth

    Yn ystod hydref 2011, gwahoddwyd ni i

    gynnig sylwadau ar ddrafft o

    Gwyddoniaeth i Gymru: agenda

    strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac

    arloesedd yng Nghymru a gyhoeddwyd

    gan Swyddfa’r Prif Ymgynghorydd

    Gwyddonol. Yn dilyn ymgynghori ag

    aelodau o’r Cyngor, ar ran y

    Gymdeithas cyflwynodd y Llywydd

    sylwadau’n bersonol i’r Prif

    Ymgynghorydd. Cyhoeddwyd fersiwn

    terfynol y ddogfen, a roddodd

    ystyriaeth i'r sylwadau a gyflwynwyd

    gan y Gymdeithas, gan Lywodraeth

    Cymru ar 12 Mawrth 2012.

    Polisi Cyllido Ymchwil

    Ar 21 Ionawr 2012, yn dilyn trafodaeth

    am y pwnc gan y Cyngor, ysgrifennodd

    y Llywydd at y Gwir Anrh. David

    Willetts AS, y Gweinidog Gwladol dros

    Brifysgolion a Gwyddoniaeth, i fynegi

    pryderon am newidiadau polisi

    diweddar a gyflwynwyd gan y Cyngor

    Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau

    Ffisegol (EPSRC) dan y teitl Shaping

    Capability ac yn benodol am y gofyniad

    newydd y bydd rhaid i ymgeiswyr am

    grantiau EPSRC “nodi’n glir y

    pwysigrwydd cenedlaethol sydd i’w

    prosiect ymchwil arfaethedig, dros

    gyfnod o 10-50 mlynedd”. Roedd y

    pryderon hyn yn adleisio'r hyn a

    fynegwyd gan nifer mawr o

    academyddion ar draws y Deyrnas

    Unedig.

    “Ni fyddai’r un o’r darganfyddiadau mawr sydd wedi newid y byd yn diwallu’r maen prawf hwn. Bydd lol ysgubol fel hyn yn ffafrio gwaith tymor byr yn seiliedig ar wybodaeth heddiw ond ni fydd o unrhyw werth i’r sawl sydd am fforio i feysydd anhysbys. Mae’n awgrymu diffyg gwybodaeth am natur darganfyddiadau gwyddonol sy’n tanategu cymwysiadau’r dyfodol. Mae cynllunio darganfyddiadau’n amhosibl .”

    Cyllido’r Celfyddydau Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol

    Mae ystyriaeth yn cael ei roi i osod y

    trafferthion ariannol penodol sy’n

    wynebu’r Celfyddydau, y Dyniaethau

    a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn bwnc

    ar gyfer menter polisi nesaf y

    Gymdeithas.

    Mentrau Polisi

    http://learnedsocietywales.ac.uk/node/62http://learnedsocietywales.ac.uk/node/62http://learnedsocietywales.ac.uk/node/283http://learnedsocietywales.ac.uk/node/283

  • Tudalen 13 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Yn ystod y flwyddyn cafwyd nifer o

    gyhoeddiadau gan y Gymdeithas, sydd i

    gyd ar gael drwy dudalen Cyhoeddiadau’r

    Gymdeithas. Y rhain yw:

    ail Anerchiad Blynyddol y Llywydd

    (25 Mai 2011);

    Adolygiad Blynyddol 2010/11 (25

    Mai 2011);

    Trafodion Symposiwm y

    Gymdeithas, What are Universities

    for?, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2011

    (21 Mehefin 2011);

    Sylwadau’r Gymdeithas ar ffioedd

    dysgu addysg uwch yng Nghymru

    (14 Gorffennaf 2011);

    The Funding Gap, gohebiaeth rhwng

    y Gymdeithas a’r Gweinidog Addysg

    a Sgiliau, Leighton Andrews AC, am

    gyllid Prifysgolion Cymru (18 Hydref

    2011);

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am

    y cyfnod 18 Mai 2010 i 31

    Gorffennaf 2011 (1 Chwefror 2012).

    Yn ogystal, yn ystod mis Medi 2011,

    cyhoeddwyd ysgrifau gan dri o’n

    Cymrodorion (yr Athro Wyn Roberts, yr

    Athro Dai Smith a’r Athro John Tucker) yn

    y Western Mail fel rhan o’r gyfres

    Education in Wales must do better: discuss.

    Cyhoeddiadau

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 14

    Hoffem longyfarch y Cymrodyr canlynol

    yn gynnes iawn ar eu hanrhydeddau,

    gwobrau a dyfarniadau yn ystod y

    flwyddyn:

    Yr Athro John Aggleton FMedSci

    FLSW FRS, Athro

    Niwrowyddoniaeth Wybyddol,

    Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd –

    etholwyd yn FRS, 2012

    Yr Athro Michael Charlton FInstP

    FLSW, Athro Ffisseg Arbrofol, Adran

    Ffiseg, Prifysgol Abertawe – cyd-

    enillydd Gwobr James Dawson

    Cymdeithas Ffisegol America am

    Ragoriaeth mewn Ymchwil Ffiseg

    Plasma, 2011

    Yr Athro Dianne Edwards CBE ScD

    FRSE FLS FLSW FRS, Is-Lywydd y

    Gymdeithas, ac Athro Ymchwil

    Nodedig mewn Palaeobotaneg, Yr

    Ysgol Gwyddorau Daear a Morol,

    Prifysgol Caerdydd - etholwyd yn

    Llywydd y Linnean Society of

    London (gan ddechrau ar 24 Mai

    2012)

    Yr Athro Steve Jones DSc FLSW FRS,

    Athro Geneteg, Coleg Prifysgol

    Llundain – etholwyd yn FRS, 2012

    Yr Athro Jim Murray FLSW,

    Pennaeth Adran Biowyddorau

    Moleciwlar, Yr Ysgol Biowyddorau,

    Prifysgol Caerdydd – cyd-enillydd

    gwobr Arloeswr Masnachol y

    Flwyddyn BBSRC, 2012

    Yr Athro Ole Petersen CBE FRCP

    FMedSci FLSW FRS – gwahoddwyd i

    draddodi ei ddarlith gyhoeddus

    gyntaf fel Aelod newydd o Academi

    Gwyddorau Genedlaethol yr

    Almaen Leopoldina ar noswyl

    agoriad ffurfiol Pencadlys newydd

    yr Academi yn Halle, 23 Mai 2012

    Yr Athro Hywel Thomas FREng

    FLSW FRS, Athro Peirianneg Sifil ac

    Athro UNESCO Datblygu

    Amgylchedd Cynaliadwy, Ysgol

    Peirianneg Prifysgol Caerdydd –

    etholwyd yn FRS, 2012

    Yr Athro Syr John Meurig Thomas

    DSc ScD FLSW FRS, Athro Er

    Anrhydedd Cemeg Cyflwr Soled,

    Adran Gwyddoniaeth Deunyddiau

    Prifysgol Caergrawnt - dyfarnwyd

    Medal Aur Kapitza gan Academi

    Gwyddorau Naturiol Rwsia, 2011;

    gwahoddwyd i draddodi Darlith

    Gwobr Henri LaBarre Jayne i

    Gymdeithas Athroniaeth America,

    2012

    Yr Athro Kenneth Walters DSc

    FLSW FRS, Athro Ymchwil Nodedig,

    Y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg,

    Prifysgol Aberystwyth – dyfarnwyd

    Gradd DSc er Anrhydedd gan

    Brifysgol Strathclyde, 2011

    Yr Athro Geraint Williams OBE

    FMedSci FRCP FRCPath FLSW,

    Athro Patholeg, Ysgol Meddygaeth

    Prifysgol Caerdydd – penodwyd yn

    OBE am wasanaethau i feddygaeth

    yn Anrhydeddau Pen-blwydd y

    Frenhines, 2011

    Anrhydeddau, Gwobrau a Dyfarniadau

  • Tudalen 15 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Un o’r camau pwysicaf i ni eu

    cymryd yn ystod 2011/12 oedd

    cynnal ein hail Etholiad ar gyfer

    Cymrodyr newydd. Etholwyd 73 o

    Gymrodyr newydd ym mis Ebrill

    2012, gan ddod â chyfanswm y

    Cymrodyr i 250. Mae’r Gymdeithas

    wedi’i chryfhau’n sylweddol gyda’r

    etholiad hwn, sy’n rhan o broses

    dreigl - un a fydd yn parhau am dair

    blynedd neu fwy - a fydd yn

    adeiladu Cymrodoriaeth gref,

    gynrychioliadol sy’n ymgorffori’r

    gorau o’r hyn y gall Cymru ei wneud

    yn y prif ddisgyblaethau

    academaidd.

    Rhestrir y Cymrodyr newydd ar y

    tudalennau sy’n dilyn.

    Y broses etholiadol

    Drwy enwebiad gan y Cymrodyr a

    etholwyd eisoes yr etholir

    Cymrodyr newydd i Gymdeithas

    Ddysgedig Cymru. Mae’r etholiad

    yn agored i wŷr a gwragedd o bob

    oed ac o bob cefndir ethnig:

    a ragorodd ac a enillodd fri

    mewn unrhyw un o'r

    disgyblaethau academaidd, neu,

    a hwythau'n perthyn i’r

    proffesiynau, i’r celfyddydau, i

    ddiwydiant, i fasnach neu i’r

    gwasanaethau cyhoeddus, sydd

    wedi gwneud cyfraniad arbennig

    i fyd dysg; ac

    sydd yn preswylio yng Nghymru,

    neu a aned yng Nghymru ond

    sydd yn preswylio yn rhywle

    arall, neu sydd fel arall â

    chyswllt penodol â Chymru.

    Cafodd yr enwebiadau a

    gyflwynwyd ar gyfer 2011/12 eu

    hystyried yn y lle cyntaf gan naw

    Pwyllgor Craffu gyda chyfanswm o

    58 o Gymrodyr ac ar sail eu cyngor

    hwy lluniodd y Cyngor ei restr o

    ymgeiswyr cymeradwy. Cyflwynwyd

    y rhestr honno i’r Gymrodoriaeth ei

    chadarnhau a’i hethol yn ffurfiol.

    ““Rydym wedi ethol cohort cryf o Gymrodyr newydd, i ychwanegu at y rhestr

    ragorol o Gymrodyr Cychwynnol a Chymrodyr.

    Mae ein Cymrodoriaeth yn cynrychioli arbenigedd a gwybodaeth a gydnabyddir yn

    rhyngwladol yn estyn o economeg i beirianneg drydanol ac o athroniaeth i ffiseg

    gronynnau. Mae’n gronfa o wybodaeth y gellir galw arni nad yw wedi'i chyfyngu

    gan rwystrau sefydliadol na gwleidyddol ac am y tro cyntaf mae gennym ni adnodd

    arbenigol hygyrch er budd Cymru.

    Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ein Cymrodoriaeth yn parhau i dyfu drwy etholiad

    a fernir drwy adolygiad cymheiriaid. Bydd cael eu hethol yn parhau i fod yn darged

    i’n hysgolheigion ifanc.”

    Syr John Cadogan

    Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 16

    Yr Athro (John) Hagan (Pryce) Bayley FRSC FRS FLSW Athro Bioleg Cemegol, Prifysgol Rhydychen

    Yr Athro Deirdre Beddoe FLSW Athro Emerita, Ysgol y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Morgannwg

    Yr Athro David Blackaby FLSW Athro Economeg, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Javier Bonet FLSW Athro Peirianneg, Pennaeth y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro (Anthony) Gareth Brenton FLSW Athro Spectometreg Más, Cyfarwyddwr yr Athrofa Spectometreg Más, Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Joseph Cartwright FGS FLSW Athro Geoffiseg, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro David Charles FLSW Athro Athroniaeth, Prifysgol Rhydychen

    Yr Athro Nickie Charles FLSW Athro Cymdeithaseg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Menywod a Rhywedd, Prifysgol Warwick

    Yr Athro Min Chen FBCS FEG FLSW Athro Delweddu Gwyddonol, Canolfan e-Ymchwil Rhydychen, Prifysgol Rhydychen

    Yr Athro y Fonesig June Clark DBE FRCN FAAN FLSW Athro Emeritws, Y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Alan Clarke FLSW Pennaeth Ymchwil, Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Vincenzo Crunelli FMedSci FLSW Athro Niwrowyddoniaeth, Adran Ymchwil Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Caerdydd

    Y Parchedig Athro Douglas (James) Davies DLitt AcSS SBStJ FLSW Athro Astudiaethau Crefydd, Adran Diwinyddiaeth a Chrefydd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Marwolaeth a Bywyd, Prifysgol Durham

    Yr Athro Sioned Davies FLSW Athro y Gymraeg a Phennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

    Dr Peter Dorey FRHistS FLSW Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth Prydain, yr Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

    Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12

  • Tudalen 17 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Yr Athro Gillian Douglas FLSW Athro y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro David (Eric) Edmunds FLSW Athro Emeritws, Adran Mathemateg, Prifysgol Sussex

    Yr Athro Nancy (Margaret) Edwards FSA FLSW Athro Archaeoleg Ganoloesol, Prifysgol Bangor

    Yr Athro Peter (Gerald) Edwards FLSW Athro Cemeg Anorganig, yr Ysgol Cemeg, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Ralph (William) Fevre FLSW Athro Ymchwil Cymdeithasol, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro John (Eirwyn) Ffowcs Williams DSc ScD FREng FIMA FRAeS FInstP FIOA FAIAA FRSA FLSW Yn flaenol: Athro Peirianneg Rank a Meistr Coleg Emmanuel, Prifysgol Caergrawnt

    Yr Athro Kevin (John) Flynn FLSW Athro Bioleg Forol a Phennaeth yr Adran Biowyddorau, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro (Thomas) Anthony Ford FLSW Athro Emeritws, Ysgol Cemeg, Prifysgol KwaZulu-Natal, Durban

    Yr Athro Walter (Kieran) Gear FLSW Athro Ffiseg Arbrofol a Phennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro William George DSc FRSC FLSW Athro Emeritws, Yr Adran Gwyddoniaeth a Chwaraeon, Prifysgol Morgannwg

    Yr Athro Claire (Jacqueline) Gorrara FRHistS FLSW Athro Astudiaethau Ffrengig, yr Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Matthew (Joseph) Griffin FLSW Athro Astroffiseg, yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd

    Y Parchedig Ddr Arglwydd Leslie (John) Griffiths o Benbre a Phorth Tywyn FLSW Gweinidog Goruchwyliol, Capel Wesley, Llundain; yn flaenorol Llywydd Cynhadledd y Methodistiaid

    Yr Athro John (Martin) Harper DMus FRCO(CHM) FRSCM FLSW Athro Ymchwil RSCM mewn Cerddoriaeth a Litwrgi, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol er Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, Prifysgol Bangor; Cyfarwyddwr Emeritws yr Ysgol Cerddoriaeth Eglwysig Frenhinol

    Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Athro Richard (Douglas) Harries o Bentregarth FRSL FLSW Athro Diwinyddiaeth Gresham; Athro Diwinyddiaeth a Chymrawd er Anrhydedd, Kings College, Llundain; yn flaenorol Esgob Rhydychen

    Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 18

    Yr Athro Oubay Hassan MBE DSc(Eng) FICE FLSW Pennaeth y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiannol, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro John Heywood Thomas DD FLSW Athro Emeritws Diwinyddiaeth, Prifysgol Nottingham

    Yr Athro Karen (Margaret) Holford FIMechE , FICE, FInstP FLSW Cyfarwyddwr Ysgol Peirianneg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Colin Hughes ScD FLSW Athro Microbioleg, Prifysgol Caergrawnt; Cymrawd, Coleg y Drindod, Caergrawnt

    Yr Athro Angela (Vaughan) John FRHistS FLSW Athro Hanes er Anrhydedd, Prifysgol Aberystwyth; yn flaenorol Athro Hanes, Prifysgol Greenwich

    Yr Athro (David) Barrie Johnson DSc FLSW Yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor

    Yr Athro David Wyn Jones FLSW Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Ian Rees Jones FLSW Athro Cymdeithaseg a Phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor

    Yr Athro John (David Stuart) Jones FLSW Athro Mathemateg, Prifysgol Warwick

    Yr Athro (William) Jeremy Jones FRSC FLSW Yn flaenorol: Athro a Phennaeth yr Adran Cemeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Athro Cemeg a Deon Cyfadran y Gwyddorau, Prifysgol Cymru Abertawe

    Yr Athro Bhushan (Lal) Karihaloo DEng FICE FLSW Athro Arloesi Concrit Hybrid Laing O’Rourke, yr Athrofa Mecaneg a Deunyddiau Uwch, Ysgol Peirianneg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro David Kay FRSPH FRGS FLSW Pennaeth y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd, Prifysgol Aberystwyth

    Yr Athro Douglas Kell FIBiol FLSW Athro Ymchwil Gwyddoniaeth Fioddadansoddiol, Prifysgol Manceinion; Prif Swyddog Gweithredol, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC)

    Yr Athro Wolfgang (Werner) Langbein FLSW Athro Ffiseg, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Andrew M L Lever FMedSci FRCP FRCPath FRSC FLSW Athro Clefydau Heintus, Yr Adran Meddygaeth, Prifysgol Caergrawnt

    Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12

  • Tudalen 19 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Yr Athro Michael Levi DSc(Econ) AcSS FLSW Athro Troseddeg, yr Ysgol Gwyddoniaeth Gymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Dewi (Meirion) Lewis FInstP FRAS FLSW Ymgynghorydd Diwydiant, Labordy Ffiseg Enynnol CERN, Geneva

    Yr Athro Roland (Wynne) Lewis DSc FREng FICE FLSW Athro Emeritws, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Anthony (Stephen Reid) Manstead FBPsS AcSS FBA FLSW Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Haydn Mason FLSW Athro Emeritws Ffrangeg, Prifysgol Bryste

    Yr Athro April (Mary Scott) McMahon FRSE FBA FLSW Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; yn flaenorol Pennaeth Ieithyddiaeth a’r Iaith Saesneg, ac Athro Iaith Saesneg Forbes, Prifysgol Caeredin

    Yr Athro (William) John Morgan FRAI FRSA FLSW Athro Addysg Rhyngwladol ac Economi Gwleidyddol, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Nottingham; Cadeirydd y Comisiwn Cenedlaethol Y Deyrnas Unedig dros UNESCO

    Yr Athro Russell (Edward) Morris FRSE FRSC FLSW Athro Cemeg Deunyddiau Strwythurol, Prifysgol St Andrews

    Yr Athro Tavi Murray FLSW Athro Rhewlifeg, Ysgol yr Amgylchedd a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Andrew Pelter DSc FRIC FLSW Athro Emeritws Cemeg Organig, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Djordje Peric DSc FLSW Canolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiannol, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Glyn O Phillips DSc FRSC FLSW Cadeirydd Gweithredol, Cwmni Phillips Hydrocolloid Research; yn flaenorol Pennaeth Gweithredol, Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

    Yr Athro Judith (Eleri) Phillips AcSS FLSW Athro Gerontoleg, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol, Prifysgol Abertawe

    Yr Athro Timothy (Nigel) Phillips DSc FLSW Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Timothy Porter FLSW Athro Emeritws Mathemateg, Prifysgol Bangor

    Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 20

    Yr Athro Alun (David) Preece FLSW Athro Systemau Gwybodaeth a Dealltwriaeth, Ysgol Gwyddor Gyfrifiadurol a Hysbyseg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Robert D Rafal FLSW Athro Niwrowyddoniaeth a Niwroseicoleg, Prifysgol Bangor

    Yr Athro Michael (Ivor) Reed AcSS FLSW Athro Dadansoddi Trefniadol, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Teresa (Lesley) Rees CBE AcSS FRSA FLSW Athro Gwyddorau Cymdeithasol, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr (Cymru) y Sefydliad Arweiniad mewn Addysg Uwch

    Yr Athro Anne (Elizabeth) Rosser FRCP FLSW Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro John Rowlands FLSW Athro Emeritws, Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

    Yr Athro Qiang Shen FBCS FLSW Athro Cyfrifiadureg a Phennaeth yr Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth

    Yr Athro Robin Stowell FLSW Athro Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Andrew Vincent FRHistS FLSW Athro Emeritws a chyn Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Valerie Walkerdine FRSA FLSW Athro Ymchwil Nodedig, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

    Yr Athro Christopher (John) Wickham FBA FLSW Athro Chichele Hanes Canoloesol, Prifysgol Rhydychen

    Y Parchedig Athro John Tudno Williams FLSW Yn flaenorol: Pennaeth y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth

    Yr Athro John (Patrick) Woodcock OBE DSc FInstP FIPEM FLSW Athro Emeritws Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol, yr Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd

    Cymrodyr a Etholwyd yn 2011/12

  • Tudalen 21 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

  • Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru |Tudalen 22

    Yr Athro Roger Owen FREng Yr Athro Keith Smith FRSC FLSW FLSW FRS

    Yr Athro Jane Aaron FLSW Yr Athro Ole Petersen CBE FLSW FRS

    Yr Athro David Boucher FRHistS Yr Athro Alan Shore FInstP FLSW AcSS FLSW

    Cynhaliwyd pum cyfarfod o’r Cyngor,

    bwrdd llywodraethu’r Gymdeithas, yn

    ystod 2011/12.

    Daeth tymor chwe aelod o Gyngor y

    Gymdeithas i ben yn ystod y flwyddyn

    (oni nodir yn wahanol, ar ddiwedd y

    Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23

    Mai 2012):

    - Yr Athro Roy Evans CBE FREng FICE

    FIStructE FLSW

    - Yr Athro Farwnes Ilora Finlay FRCP

    FRCGP FLSW

    - Yr Athro Geraint H Jenkins DLitt FLSW

    FBA (6 Hydref 2011)

    - Sir Ronald Mason KCB FRSC FIMMM

    FLSW FRS

    - Yr Athro Susan Mendus FLSW FBA

    - Yr Athro Derec Llwyd Morgan DLitt

    FLSW

    Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu

    gwasanaeth mewn cyfnod allweddol yn

    natblygiad y Gymdeithas.

    Yn ogystal â’r pum Swyddog, aelodau

    eraill y Cyngor yn ystod y flwyddyn

    oedd: -

    - Yr Athro Kenneth Dyson AcSS FRHistS

    FLSW FBA

    - Yr Athro Robert Evans FLSW FBA

    - Yr Athro Prys T J Morgan FRHistS FSA

    FLSW

    - Yr Athro John Wyn Owen CB FRGS

    FHSM FRSocMed FLSW

    - Yr Athro Keith G Robbins DLitt FRSE

    FRHistS FLSW

    - Yr Athro Sir John Meurig Thomas DSc

    ScD FLSW FRS

    - Yr Athro Robin H Williams CBE FInstP

    FLSW FRS

    Aelodau newydd o’r Cyngor

    Etholir aelodau’r Cyngor gan y

    Cymrodyr, o blith eu nifer.

    Etholwyd y Cymrodyr canlynol yn ystod

    y flwyddyn i wasanaethu fel aelodau o’r

    Cyngor am gyfnod o dair Blwyddyn y

    Gymdeithas, o ddiwedd y Cyfarfod

    Cyffredinol Blynyddol ar 23 Mai 2012

    tan ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol

    Blynyddol yn 2015:

    Cyngor y Gymdeithas

  • Tudalen 23 |Adolygiad Blynnyddol 2011-12 Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Is-Lywydd (Gwyddoniaeth, Technoleg

    a Meddygaeth)

    Y Llwyydd a Chadeirydd y Cyngor

    Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC

    PLSW FRS

    Parhaodd y pum Cymrawd a etholwyd i

    wasanaethu fel Swyddogion Cyntaf y

    Gymdeithas yn eu swyddi drwy’r

    flwyddyn:

    Yr Athro Dianne Edwards CBE ScD

    FRSE PLS FLSW FRS

    Yr Ysgrifennydd Cyffredinol

    Yr Athro John Tucker FBCS FLSW

    Is-Lywydd

    (Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r

    Gwyddorau Cymdeithasol)

    Yr Athro M Wynn Thomas OBE FLSW

    FBA

    Y Trysorydd

    Syr Roger Jones OBE FLSW

    Y Trysorydd

    Oherwydd pwysau dyletswyddau

    eraill, cyhoeddodd Syr Roger Jones

    OBE FLSW, a etholwyd gan y Cyngor

    yn 2010 i wasanaethu fel Trysorydd

    Cyntaf y Gymdeithas, ei fwriad i

    ymddiswyddo ar ddiwedd y

    flwyddyn (hynny yw diwedd y

    Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23

    Mai 2012). Ym mis Mawrth 2012

    etholodd y Cyngor yr Athro John

    Wyn Owen CB FRGS FHSM

    FRSocMed FLSW i olynu Syr Roger

    fel Trysorydd, i wasanaethu am y

    cyfnod o dair Blwyddyn y

    Gymdeithas yn dechrau ar 23 Mai

    2012. Rydym ni’n hynod o

    ddiolchgar i Syr Roger am ei

    gyfraniad i waith y Gymdeithas yn

    ystod ei blynyddoedd cynnar, ac

    rydym ni’n falch ei fod wedi cytuno i

    barhau i wasanaethu fel aelod o'r

    Cyngor. Edrychwn ymlaen at weithio

    gyda'r Athro Owen yn ei rôl newydd.

    Yr Athro John Wyn Owen CB

    FRGS FHSM FRSocMed FLSW

    Swyddogion y Gymdeithas

  • Adolygiad Blynyddol

    Mai 2011 – Mai 2012