Adolygiad Blynyddol 2019-20 · 2021. 1. 8. · Yn ystod hanner cyntaf 2019-20, trefnwyd...
Transcript of Adolygiad Blynyddol 2019-20 · 2021. 1. 8. · Yn ystod hanner cyntaf 2019-20, trefnwyd...
Adolygiad Blynyddol 2019-20
Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adolygiad
Blynyddol 2019-20 – blwyddyn o
gyflawniad mawr i’r Gymdeithas, ynghyd â
newid a heriau aruthrol i bob un ohonom.
Ym mis Mai 2020, roeddwn i wrth fy
modd o gymryd fy rôl fel Llywydd newydd
y Gymdeithas. Rydw i’n falch o arwain
Cymrodoriaeth o fwy na 550 o unigolion
eithriadol, pob un gyda chysylltiad cryf
â Chymru, sy’n cynrychioli rhagoriaeth
mewn meysydd niferus.
Gyda Chymru a’r byd wedi newid yn sgil
y coronafeirws, mae angen eu
harbenigedd yn fwy nag erioed arnom.
Ni ddylid tanbrisio’r heriau y mae’r
pandemig yn eu cyflwyno i addysg uwch
ac ymchwil, yn ogystal ag i gymdeithas
ehangach. Serch hynny, mae yna
gyfleoedd i ailgrwpio, ail-ddychmygu
a defnyddio doniau Cymru gyfan i
‘ailadeiladu’n well’. Mae’r ysbryd hwn o
gydweithredu’n hanfodol i’r Gymdeithas.
Rydw i wrth fy modd fod 43 Cymrawd
arall a 2 Gymrawd Er Anrhydedd
wedi ymuno â ni yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf, gan gynrychioli 18 prifysgol,
yn ogystal ag athrofeydd ymchwil a’r
sector preifat. Rydym hefyd wedi parhau
i wobrwyo rhagoriaeth trwy fedalau’r
Gymdeithas – gan gydnabod rhagoriaeth
gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa,
menywod mewn STEMM, peirianwyr ac
ysgolheigion addysg.
Croeso’r Llywydd
Cynnwys04
Medalau 2020 y Gymdeithas06Cyfrannu Arbenigedd08Hyrwyddo Dysgu a Dadlau10Dysgu yn y Cyfnod Clo11Digwyddiadau Eraill12Datblygu’r Gymrodoriaeth13
Adolygiad Ariannol
Crynodeb Ariannol
1922
Cymrodyr a Etholwyd yn 202014Swyddogion a Chyngor18
WEDI’I ARGRAFFU AR BAPUR WEDI’I AILGYLCHU (100%)
CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRUELUSEN COFRESTREDIG RHIF 1168622WWW.CYMDEITHASDDYSGEDIG.CYMRU
Cefnogi Ymchwil
2 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod yn
cyflwyno gweithgareddau o ansawdd
uchel, trwy ein Cymrodoriaeth yng
Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. Nid
oedd y flwyddyn a gwmpaswyd gan yr
adroddiad hwn yn eithriad.
Yn ystod hanner cyntaf 2019-20, trefnwyd
digwyddiadau proffil uchel gennym ar
Gymru a’r Byd, a lansiwyd ein llyfryn
yn dathlu uchafbwyntiau Astudiaethau
Cymru. Yn ogystal, galwom grŵp arbenigol
ar Un Iechyd (One Health) – sy’n cydnabod
y cysylltiadau rhwng iechyd dynol,
anifeiliaid ac amgylcheddol.
Yn dilyn y cyfnod clo cenedlaethol,
aethom yn ôl i ganolbwyntio ein
hymdrechion ar-lein, gan gyflwyno Her
Dysgwr Cyfnod Clo ar gyfer disgyblion
ysgol, a gweithio gyda’n Cymrodyr ar
weminarau arbenigol. Rydym wedi canfod
ffyrdd o gofleidio’r realiti newydd yn sgil
y pandemig, a’r cyfleoedd i arloesi heb y
cyfyngiadau daearyddol arferol.
Ni fyddai’r un o’r gweithgareddau hyn yn
bosibl heb gefnogaeth wych ein Cymrodyr,
nac ymroddiad ein tîm o staff dawnus.
Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i ffynnu
fel academi genedlaethol Cymru.
Yr Athro Hywel Thomas Llywydd
Martin PollardPrif Weithredwr
Trosolwg o’r Flwyddyn
Rydw i’n ddiolchgar i’m rhagflaenydd, Syr
Emyr Jones Parry, am ei gyflawniadau
yn ystod ei chwe blynedd fel Llywydd. Yn
ystod yr amser hwn, mae’r Gymdeithas
wedi tyfu’n athrofa genedlaethol gref gyda
llais arbenigol annibynnol uchel ei barch.
Hoffwn gydnabod hefyd gyflawniadau
mawr ein Llywydd Cychwynnol, Syr John
Cadogan. Mae’n drist gennym gofnodi y
bu iddo farw ym mis Chwefror.
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at ein
gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, gan
gynnwys ein partneriaid prifysgol hael
a’n tîm o staff diwyd. Edrychwn ymlaen at
barhau gyda’n gwaith da yn ystod 2020-21.
Syr John Cadogan CBE FIC FRS FRSE FRSC FLSW Llywydd Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru 1930-2020President“John Cadogan oedd y gwyddonydd,
fferyllydd, y gweinyddydd, y darlithydd
a’r trefnydd mwyaf galluog, gweithgar ac
effeithiol – popeth mewn un pecyn.”
Syr John Meurig Thomas
3Adolygiad Blynyddol 2019-20
4 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Cefnogi Ymchwil
Ym mis Ionawr, lansiom Rwydwaith
Astudiaethau Cymru a llyfryn ‘ciplun
ymchwil’ - sy’n hyrwyddo’r ystod eang o
brosiectau sy’n cryfhau’r ddealltwriaeth
o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n wahanol.
Anerchwyd y lansiad yn yr Eglwys
Norwyaidd, Bae Caerdydd gan yr
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon
a Thwristiaeth.
Ysbrydolwyd y ciplun gan ymagwedd
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
ac mae’n myfyrio ar y meysydd y mae eu
hangen er mwyn datblygu Cymru fel
gwlad gynaliadwy a deinamig. Mae’n
rhoi proffil i ddeugain maes ymchwil
Astudiaethau Cymru sy’n dod i’r
amlwg gan athrofeydd, sefydliadau a
phrifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys:
• Rhaglen FLEXIS (Systemau
Ynni Integredig Hyblyg) ar draws
prifysgolion
• Prosiect CHERISH, sy’n archwilio
effeithiau newid hinsawdd ar
dreftadaeth ddiwylliannol basn
Môr Iwerddon
• Gwaith ar ‘Welsh Plains’, defnydd
garw a gynhyrchwyd i ddilladu
caethweision ar blanhigfeydd yn
y Caribî
• Ymchwil i’r ffordd y gellir hyfforddi
arlunwyr i weithio mewn lleoliadau
gofal iechyd
• Effaith Model Caerdydd ar gyfer
Lleihau Troseddau
• Gwneud ymdrechion i adfywio
ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol
• Ymchwil ar ddau draddodiad
llenyddol Cymru
Astudiaethau Cymru
Cefnogi’r gymuned ymchwil
Yn ystod 2019-20, parhaom i dynnu sylw
at yr heriau sy’n wynebu’r gymuned
addysg uwch, ymchwil ac arloesedd.
Ymhlith y gweithgareddau eraill, trefnwyd
cyfarfod bord gron ar-lein gennym gyda’r
Campaign for Science and Engineering
(CaSE), sy’n cwmpasu dyfodol ymchwil
ac arloesedd yng Nghymru. Ystyriodd
cyfranogwyr o academia, diwydiant a
Llywodraethau Cymru a’r DU rôl ymchwil
ac arloesedd wrth gefnogi cymunedau
ffyniannus. Mae digwyddiadau pellach
ar y gweill, mewn perthynas â rôl cyrff
cyhoeddus Cymru a’n safle yn agenda
polisi’r DU.
Ym mis Ebrill 2020, gweithiom gyda’r
Academi Brydeinig, Cymdeithas
Frenhinol Caeredin ac Academi Frenhinol
Iwerddon i gynhyrchu adroddiad ar
y cyd ar Gronfeydd Strwythurol a
Buddsoddi Ewropeaidd. Tynnom sylw
at y rôl hollbwysig y mae’r cronfeydd hyn
wedi’i chwarae wrth gefnogi ymchwil
ac arloesedd ar hyd a lled y DU. Y
cyfraniad tuag at ymchwil ac arloesedd
yng Nghymru yw €125 y pen, pum
gwaith cyfartaledd y DU. Astudiodd yr
adroddiad sut y dyrennir ac y gweinyddir
y cyllid hwnnw ar hyn o bryd a gwnaeth
argymhellion ar yr hyn a allai gymryd eu lle,
sef Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Ymgynghorom â’n partneriaid prifysgol
ar hyd y flwyddyn ynghylch sut y gallem
gefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu
gyrfa ar hyd a lled Cymru. Cadarnhaom
yr angen am rwydwaith cenedlaethol
hygyrch sy’n cwmpasu pob disgyblaeth
academaidd. Byddai hyn yn galluogi
ymchwilwyr i rwydweithio ar draws
gwahanol sefydliadau, i gydweithredu
ar brosiectau ymchwil, ac i ddatblygu eu
gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol. Er
bod y cyfnod clo cenedlaethol wedi ein
hatal ni rhag rhedeg digwyddiadau peilot
corfforol, sefydlom rwydwaith e-bost dros
yr haf yn 2020, a bydd yn lansio cyfres o
seminarau ar-lein yr hydref hwn.
Adolygiad Blynyddol 2019-20 5
6 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Medalau 2020 y Gymdeithas Medal Frances Hoggan: Am ymchwilwyr benywaidd eithriadol yn STEMM
Enillydd: Yr Athro Haley Gomez, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Gomez yn ymchwilio i darddiadau llwch y gofod, sy’n ffurfio planedau creigiog fel y Ddaear. Derbyniodd hi hefyd MBE am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a seryddwyr.
“Fel gwyddonydd ac erbyn hyn yn rhiant i frawd a chwaer sy’n efeilliaid, mae’n bwysig i mi y gall y gymdeithas yn gyffredinol uniaethu â modelau rôl gwyddonol cadarnhaol a chael gwared ar ein rhagfarnau sylfaenol o’r ffordd y dylai gwyddonydd ‘edrych’.”
Medal Menelaus: Ar gyfer rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg
Enillydd: Yr Athro Nidal Hilal, Prifysgol Abertawe
Yr Athro Hilal yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y Centre for Water Advanced Treatment and Environmental Research (CWATER). Mae ei waith wedi gosod Prifysgol Abertawe ar y map byd-eang ar gyfer gwella’r cyflenwad dŵr yfed glân a thrin dŵr halogedig.
“Mae’n fraint cael gwobr Medal Menelaus. Bu fy ymchwil mewn technolegau croywi a thrin dŵr arloesol yn hollbwysig wrth fwydo byd sychedig.”
Medal Hugh Owen: Ar gyfer cyfraniadau at ymchwil addysgol
Enillydd: Yr Athro Sally Power, WISERD
Yr Athro Power yw Cyfarwyddwr Addysg Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD). Mae hi’n arwain astudiaeth arloesol yn casglu profiadau a chanfyddiadau pobl ifanc yng Nghymru.
“Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ddarparu platfform i arddangos ymchwil addysg. Mae datblygu cymuned ymchwil gynaliadwy a bywiog yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru.”
Adolygiad Blynyddol 2019-20 7
Categori’r Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes
Enillydd: Dr Rebecca Dimond, Prifysgol Caerdydd
Mae gwaith Dr Dimond mewn cymdeithaseg feddygol yn archwilio goblygiadau afiechydon genetig i gleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae hi’n ymchwilydd ansoddol y mae ei gwaith yn golygu siarad gyda chleifion am eu profiadau o afiechydon prin.
“Rydw i wrth fy modd o ennill y wobr hon. Bydd yn rhoi’r hyder i mi barhau a chael effaith, gobeithio, c ar gleifion a’u profiadau o
ofal iechyd.”
Categori Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth
Enillydd: Dr Jennifer Edwards, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr Edwards wedi meithrin enw rhyngwladol ym maes catalyddu a gwyddor faterol. Mae gan ei gwaith ystod o gymwysiadau, o lanweithio dŵr i lanhau prosesau diwydiannol ar raddfa fawr.
“Rydym bellach yn canolbwyntio ar ddefnyddio’n deunyddiau... i weld a fu’r datblygiadau a wnaethom (yn gallu bod) yn ddefnyddiol mewn meysydd meddygol a pheirianneg. Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr, mentoriaid, cydweithredwyr ac, wrth gwrs, i’m myfyrwyr, gan fod eu gwaith caled wedi gwneud hyn yn bosibl.”
Categori’r Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol
Enillydd: Dr Gwennan Higham, Prifysgol Abertawe
Mae ymchwil Dr Higham yn cwmpasu ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannaeth a dinasyddiaeth. Mae hi’n astudio’r berthynas rhwng hunaniaethau ethnig a dinesig a’r angen i ddiffinio dinasyddiaeth amlethnig Cymru.
“Mae dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a’r goblygiadau ar ddinasyddiaeth ac amlddiwylliannaeth yng Nghymru yn brosiect parhaus a fydd, yr wyf yn gobeithio, yn gweld datblygiadau pellach... rydw i wir yn ddiolchgar i Adran y Gymraeg a Phrifysgol Abertawe am gefnogi fy
nhaith ymchwil hyd yma.”
Cydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil
Medalau Dillwyn: Ar gyfer ymchwilwyr eithriadol arddechrau eu gyrfas
8 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Hyrwyddo lles ac iechyd y blaned
Dan arweiniad yr Athro John Wyn Owen,
gweithiom gyda Chomisiwn Bevan i
sefydlu grŵp llywio ar gyfer Un Iechyd
yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn cydnabod
bod iechyd bodau dynol, anifeiliaid ac
ecosystemau’n gydgysylltiedig, ac mae’n
ceisio gwella’n hiechyd a’n lles trwy weithio ar
draws y meysydd hyn.
Ym mis Tachwedd 2019, cynhaliodd Prifysgol
Fetropolitan Caerdydd ein cyfarfod Grŵp
Arbenigol Lefel Uchel cyntaf ar Un Iechyd.
Ymhlith y mynychwyr roedd Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Prif Swyddog
Milfeddygol, yn ogystal â chynrychiolwyr
Llywodraeth Cymru, InterAction Council,
Wellcome Trust, Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru Welsh
Water, Arup, a sawl prifysgol.
Yn anffodus, bu farw’r Athro Owen ar
ddechrau 2020. Gadawodd etifeddiaeth
hynod sylweddol am ymyriadau iechyd
yng Nghymru a’r byd. Rydym yn falch
o barhau â’i waith, gyda chynlluniau i
arddangos mentrau Un Iechyd yng Nghymru
a chefnogi ymchwil ar draws meysydd
perthnasol.
Cyfrannu Arbenigedd
Pwyllgor Addysg
Yn haf 2019, cyflwynodd Pwyllgor Addysg y Gymdeithas ymateb ar y cwricwlwm newydd drafft ar gyfer Cymru. Dilynwyd y gwaith hwn gan gyflwyniad i ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y Dyfodol Cymwysterau Cymru ar TGAU ym mis Chwefror 2020. Mae’r grŵp yn parhau i fonitro datblygiadau polisi mewn addysg, addysg uwch ac ymchwil ac arloesedd.
Yr Athro John Wyn Owen
Adolygiad Blynyddol 2019-20 99
Gwaith polisi yng Nghymru a thu hwnt
Yn ystod y flwyddyn, datblygom gynghrair
gyda’n cyd Academïau Celtaidd, sef
Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac
Academi Frenhinol Iwerddon. Bydd y
gynghrair yn lansio’n swyddogol yn yr
hydref yn 2020, gyda’r nod o hyrwyddo
cydweithredu a chydweithio ar ein cyd-
ddiddordebau polisi. Mae ein gwaith
cynnar wedi cynnwys datganiadau ar y
cyd ar ymgysylltiad Llywodraeth y DU
gyda’r gwledydd datganoledig, ac ar ei
chynigion i reoli nifer y myfyrwyr ar ôl
cyfnod clo’r coronafeirws.
Roedd ein gwaith polisi arall yn cynnwys:
• Cyfrannu at ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar ei
Strategaeth Ryngwladol ddrafft –
gan amlygu’r angen am lais Cymraeg
mwy hyderus, gyda ffocws ac amlwg
ar lwyfan y byd
• Cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau’r
Senedd ar gyllideb Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2020-21, gan
bwysleisio pwysigrwydd cryfhau
cyllid cysylltiedig ag ansawdd
ar gyfer addysg uwch, a dyrannu
cronfeydd digonol i ymchwil
a datblygu
• Cymryd rhan yng nghyrch canfod
ffeithiau’r Pwyllgor Economaidd a
Chymdeithasol Ewropeaidd ar
Brexit a’r Farchnad Sengl
• Rhoi tystiolaeth i ymchwiliad i’r
Gronfa Ffyniant Gyffredin
arfaethedig gan Bwyllgor Materion
Cymreig Tŷ’r Cyffredin
• Cymryd rhan yng ngrŵp
trawsbleidiol y Senedd ar
Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg
a Mathemateg
10 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Hyrwyddo Dysgu a DadlauCymru a’r Byd
Roedd proffil rhyngwladol Cymru yn
flaenllaw mewn polisi cyhoeddus yn 2019.
Wrth i baratoadau Brexit barhau, datblygodd
Llywodraeth Cymru ei Strategaeth
Ryngwladol newydd. Cyfrannom at y
dadleuon cysylltiedig trwy drefnu cyfres o
ddigwyddiadau Cymru a’r Byd.
Ystyriodd y digwyddiad agoriadol, sef
Strategaethau Pŵer Meddal, sut dylai
Cymru ei chyflwyno’i hun ar lwyfan y byd.
Rhoddodd Eluned Morgan AC (Gweinidog
y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol)
anerchiad cyweirnod. Dynodwyd treftadaeth
a diwylliant, dwyieithrwydd, gwerthoedd a
delfrydau, a diwylliant ymchwil ac arloesedd
y wlad fel rhai o’n ‘hasedau pŵer meddal’
allweddol. Cododd y digwyddiad y cwestiwn
canolog o ran pa nodau y dylem ddefnyddio’r
asedau hyn ar eu cyfer.
Nesaf, canolbwyntion ni ar Rôl y
Celfyddydau, Diwylliant a’r Gymraeg wrth
ddatblygu proffil rhyngwladol. Trafododd
David Anderson (Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Amgueddfa Cymru) asedau a dulliau
diwylliannol amlwg Cymru, ac ystyriwyd y lle
y defnyddion nhw ochr yn ochr â naratif y DU.
Amlygodd y siaradwyr eraill bwysigrwydd
meithrin sefydliadau cenedlaethol cadarn,
y Gymraeg fel caffaeliad rhyngwladol, a’r
cyfraniadau a wnaed gan lenyddiaeth
a’r teledu.
Edrychodd y trydydd digwyddiad ar
Brifysgolion fel Cymunedau Byd-eang.
Archwiliodd y cyfraniadau byd-eang a wnaed
gan y sector addysg uwch ac ymchwil yng
Nghymru – gan gynnwys recriwtio myfyrwyr,
cydweithrediad ymchwil a manteision
cysylltiadau byd-eang i’n cymunedau lleol.
Trafododwyd gan y rhai a gymerodd ran sawl
ffordd o wella apêl y sector yn rhyngwladol,
gan gynnwys cydweithredu cryfach a
gwneud yn fawr o faint a phriodweddau
unigryw Cymru.
Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Fetropolitan
Caerdydd, Amgueddfa Cymru a Phrifysgol
Bangor am gynnal y digwyddiadau hyn.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn dilyn y
digwyddiad terfynol yn yr hydref 2020.
Annual Review 2018-19
Enillodd rap am nitrogen a chyflwyniad i
ddamcaniaeth y cwantwm gystadleuaeth i
fyfyrwyr ysgol yng Nghymru a gynhaliwyd
dros yr haf 2020.
Gofynnodd ein Her Dysgu’r Cyfnod
Clo i fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 11 a 13
greu esboniwr ar bwnc y byddant yn ei
astudio yn y chweched neu’r brifysgol,
gan lenwi’r blwch a adawyd yn sgil canslo
arholiadau’r haf.
Roedd ystod y pynciau’n eang, gan
gwmpasu popeth o’r gronynnau lleiaf i
ddwyster y gofod pell.
Enillodd Grazia Obuzor, o Hawthorn High
School, Pontypridd, wobr Blwyddyn 11 gyda
rap am nitrogen, yn seiliedig ar y gân ‘My
Shot’ o sioe gerdd Hamilton. Daeth
Steffan Rhys Thomas, o Ysgol Gyfun
Glantaf yn ail gyda chyflwyniad ar y
bydysawd sy’n ehangu.
Enillydd cystadleuaeth Blwyddyn 13 oedd
Daniel Hunt, hefyd o Rondda Cynon Taf.
Esboniodd y disgybl o Ysgol Gyfun Bryn
Celynnog, mewn iaith glir, gymhlethdodau
damcaniaeth y cwantwm. Daeth Holly
Beacham, o St Albans RC High School
(Pont-y-pŵl) a Peredur Morgan o Ysgol
Penweddig (Aberystwyth) yn agos i’r
brig, am eu gwaith ar firoleg ac effaith
economaidd Covid-19.
Dysgu yn y Cyfnod Clo
“Hoffwn longyfarch a diolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am y gwaith a wnaed i helpu drwy gydol yr argyfwng coronafeirws: o gynorthwyo gyda’n canllawiau Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu i gynnal gweminarau dosbarth meistr, gwerthfawrogir y gwaith yn fawr.”
Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg
Adolygiad Blynyddol 2019-20 11
12
Digwyddiadau eraill
Organisation of events:
Y Tu Hwnt i’r GIG: Ydy Iechyd Wir yn ‘Global’? (Prifysgol Aberystwyth)Trafododd yr Athro Colin McInnes yr angen am atebion byd-eang i’n heriau iechyd, ac i feddwl yn ehangach am ‘iechyd y blaned’.
Materion Tramor a Llysoedd Domestig: Newid y Môr (Prifysgol De Cymru)Ystyriodd yr Arglwydd Lloyd-Jones, Ustus y Goruchaf Lys, sut gellir datrys anghydfodau rhwng cyfreithiau cenedlaethol a rhyngwladol.
Uwchgritigolrwydd: O Hylif Glas i Gemeg Werdd (Prifysgol Aberystwyth)Cyflwynodd yr Athro Syr Martyn Poliakoff Ddarlith Zienkewicz eleni, sy’n astudio ffenomenon hylifau uwchgritigol.
Archwilio Cymru’r Oesoedd Canol: Pŵer, Iaith/Ieithoedd a Llenyddiaeth(Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan)Taith a sgwrs ynghlwm â Llys Llywelyn, y 13eg llys brenhinol a ailadeiladwyd yn Sain Ffagan.
Wal Berlin yn Cwympo 30 Mlynedd yn Ddiweddarach: Hanes, Gwleidyddiaeth a Hunaniaeth (Prifysgol Caerdydd)Myfyrdodau haneswyr a gwneuthurwyr ffilmiau ar gwymp Wal Berlin.
Yr Hen Dwrneiod Llengar (Prifysgol Aberystwyth)Darlith ar feirniaid a thwrneiod y 19eg ganrif a hyrwyddodd y defnydd o’r Gymraeg mewn llysoedd a bywyd cyhoeddus.
Gŵyl Wyddoniaeth CaerdyddRoedd hyn yn cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau, ar draws sawl lleoliad, i ysbrydoli ymgysylltiad y cyhoedd gyda gwyddoniaeth a thechnoleg.
Cwricwlwm ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus? (Prifysgol Aberystwyth)Trafodaeth ar y cwricwlwm ysgol newydd gyda Kirsty Williams (Gweinidog Addysg), yr Athro Graham Donaldson a’r Athro Tom Crick.
Wynebau Niferus Clefyd y Siwgr Math 2 (Ysbyty Prifysgol Cymru)Darlith gan yr Athro F. Susan Wong, meddyg ymgynghorol ac arbenigwraig mewn clefyd y siwgr.
Morgan Llwyd o Wynedd 1619-1659 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)Yn nodi pedwar canmlwyddiant geni’r bardd gyda chyfres o gyflwyniadau arbenigol.
Ymchwil Newydd ar Gymru’r Oesoedd Canol Cynnar (Hwlffordd)Cynhadledd bob dwy flynedd o Grŵp Ymchwil Archeoleg Cymru’r Oesoedd Canol Cynnar.
Golau Newydd ar Gildas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)Archwiliodd Dr Iestyn Daniel y cwestiynau’n ymwneud â dogfen Ladin o’r chweched ganrif a adwaenir fel De Excidio Britanniae.
Ar Ymyl y Gofod / Y Gyfraith yn ein Llên (Eisteddfod Genedlaethol, Llanrwst)Dwy ddarlith yn yr Eisteddfod, gan yr Athro Eleri Pryse a’r Athro Gwynedd Parry.
Rydym yn ddiolchgar i drefnwyr a phartneriaid ein digwyddiad, gan gynnwys Technocamps, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare a Gwasg Prifysgol Cymru.
Yn ystod y flwyddyn, trefnwyd a chefnogwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill.
www.cymdeithasddysgedig.cymru
Adolygiad Blynyddol 2019-20 13
Datblygu’r Gymrodoriaeth
Mae dod yn Gymrawd
o’r Gymdeithas yn
nod rhagoriaeth, gan
gydnabod cyfraniad
eithriadol i fyd dysgu.
Anogwn enwebiadau
o bob disgyblaeth
academaidd,
gwasanaethau cyhoeddus
a’r sector preifat. Yn ystod
2019-20, gwnaeth ein
Pwyllgor Cymrodoriaeth
sawl gwelliant i’r broses
ethol i’w gwneud yn
gliriach, yn fwy hygyrch
a thryloyw.
Ar ôl ystyriaeth drylwyr
gan ein Pwyllgorau
Caffael, cafodd y 43
unigolyn a enwyd yn
y tudalennau canlynol
eu hethol yn Gymrodyr.
Cyhoeddom ddau
Gymrawd Er Anrhydedd
hefyd, ac roeddem
wrth ein bodd o’u
croesawu i Gyfarfod
Cyffredinol Blynyddol
2020. Cynhaliwyd hyn
trwy fideo-gynadledda
ac roedd yn gyfarfod
llwyddiannus o fwy na 120
o aelodau.
Yr Athro Margaret MacMillan CC CH HonFLSW
Mae’r Athro MacMillan
yn hanesydd byd-enwog,
yn arbenigwr ar yr
Ymerodraeth Brydeinig a
chysylltiadau rhyngwladol
yr 20fed ganrif (gan
gynnwys y Rhyfel Byd
Cyntaf). Mae hi wedi
ennill Gwobr Duff Cooper,
Gwobr Hessell-Tiltman
ar gyfer Hanes, Gwobr
Lenyddol y Llywodraethwr
Cyffredinol yng Nghanada,
a Gwobr Samuel Johnson
ar gyfer llyfrau ffeithiol.
Cyflwynodd Ddarlithiau
Reith 2018, ac mae’n
ddeallusyn cyhoeddus
adnabyddus sy’n
cyfrannu’n gyson at
ddadleuon yn y cyfryngau.
Y Fonesig Jocelyn Bell Burnell DBE FRS FRSE FRAS FInstP HonFLSW
Darganfu’r Fonesig
Jocelyn bylsarau fel
myfyrwraig ymchwil
mewn radio-seryddiaeth.
Cyflawniad gwyddonol
hynod arwyddocaol
ganddi oedd hwn, ond un
na dderbyniodd glod llawn
amdano ar y pryd.
Aeth ymlaen i fod yn
Llywydd y Gymdeithas
Seryddol Frenhinol,
yr Athrofa Ffiseg a
Chymdeithas Frenhinol
Caeredin. Yn 2018, enillodd
Wobr Darganfyddiad
Ffiseg gwerth $3miliwn,
a roddodd i greu swyddi
ymchwil i fyfyrwyr sy’n
perthyn i grwpiau sy’n cael
eu tangynrychioli.
Cymrodyr er Anrhydedd newydd
Cymrodyr a Etholwyd yn 2020
• Yr Athro Nathan Abrams FRHistS FHEA FLSW
Athro Astudiaethau Ffilm,
Prifysgol Bangor
• Yr Athro Catherine Barnard FLSW
Athro Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a
Chyfraith Llafur, Prifysgol Caergrawnt
• Yr Athro Lisa Collins FRSB FRSS FLSW
Pennaeth Ysgol, Ysgol Bioleg; Athro
Gwyddor Anifeiliaid; Cadeirydd
Bwyd-amaeth N8 mewn Systemau
Amaethyddol; Cyfarwyddwr Academaidd
Systemau Amaeth Clyfar, Athro Gwyddor
Anifeiliaid, Prifysgol Leeds
• Yr Athro Matthew Cragoe
FRHistS FLSW
Athro ar Ymweliad, Prifysgol Lincoln
• Yr Athro Thomas Crick MBE FIET
FBCS FLSW
Athro Addysg a Pholisi Digidol,
Prifysgol Abertawe
• Yr Athro Alun Davies FRCS
FEBVS FLSW
Athro Llawfeddygaeth Fasgwlaidd a
Llawfeddyg Ymgynghorol, Coleg Imperial,
Llundain
• Yr Athro Richard Dinsdale FLSW
Athro Systemau Amgylcheddol Cynaliadwy,
Prifysgol De Cymru
• Yr Athro Norman Doe FLSW
Athro’r Gyfraith, Prifysgol Caerdydd
• Yr Athro Gareth Evans FRCP FLSW Athro Geneteg Feddygol ac Epidemioleg Canser,
Prifysgol Manceinion
• Yr Athro Syr Malcolm Evans KCMG
OBE FLSW
Athro’r Gyfraith Ryngwladol
Gyhoeddus, Prifysgol Bryste
• Yr Athro Peter Excell FIET FBCS FLSW
Athro Emeritws, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
• Yr Athro Emeritws Peter Field FLSW
Athro Emeritws, Prifysgol Bangor
• Dr Dylan Foster Evans FLSW
Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol
Caerdydd
• Yr Athro Caroline Franklin FEA FLSW
Athro Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu
Creadigol, Prifysgol Abertawe
• Mr Jonathan Adams AADip RIBA FLSW
Jonathan Adams + Partners Architects Ltd
• Yr Athro Menna Clatworthy FLSW
Athro Imiwnoleg Drosiadol; Arenegydd
Ymgynghorol Er Anrhydedd;
Cyfarwyddwr Astudiaethau Clinigol,
Coleg Sir Benfro, Prifysgol Caergrawnt
14 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Cymrodyr a Etholwyd yn 2020
• Yr Athro Christopher Hann FLSW
Cyfarwyddwr, Athrofa Max Planck ar gyfer
Anthropoleg Gymdeithasol
• Yr Athro Glyn Hewinson FLSW
Cadeirydd Sêr Cymru II STAR a
Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth
Twbercwlosis Gwartheg, Prifysgol
Aberystwyth
• Dr E John Hughes CBE FRSA FLSW
Cyn Lysgennad Ei Mawrhydi i’r Ariannin
a Pharaguay; Athro ar Ymweliad mewn
Ymarfer, LSE IDEAS
• Yr Athro Ifan Hughes FLSW
Athro Ffiseg, Prifysgol Durham
• Dr Rhiannon Ifans FLSW
Cyn Gymrawd Anthony Dyson, Y Ganolfan
Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd,
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
• Yr Athro Emyr Lewis FLSW
Athro yn y Gyfraith a Phennaeth
Adran y Gyfraith a Throseddeg,
Prifysgol Aberystwyth
• Yr Athro Geraint Lewis FLSW
Athro Astroffiseg, Prifysgol Sydney
• Yr Athro Ambreena Manji FLSW
Athro Cyfraith Tir a Datblygu, Ysgol y
Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd,
a Llywydd y Gymdeithas Astudiaethau
Affricanaidd.
• Yr Athro Donna Mead OBE CStJ FLSW
Cadeirydd, Ymddiriedolaeth GIG
Prifysgol Felindre
• Yr Athro Jonathan Morris FLSW
Athro mewn Dadansoddi Trefniadol,
Prifysgol Caerdydd
• Dr Sue Niebrzydowski FLSW
Darllenydd mewn Llenyddiaeth yr
Oesoedd Canol, Prifysgol Bangor
• Ms Maxine Penlington OBE FLSW
Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr,
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
• Yr Athro Ceri Phillips FLSW
Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac
Iechyd ac Athro mewn Economeg Iechyd,
Prifysgol Abertawe
• Yr Athro John Pickett CBE FRS FLSW
Athro mewn Cemeg Fiolegol, Prifysgol
Caerdydd
• Yr Athro Ryszard Piotrowicz FLSW
Athro’r Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth;
Dirprwy Athro’r Gyfraith, Prifysgol
De Awstralia; Is-lywydd Cyntaf
GRETA, Grŵp Arbenigwyr Cyngor
Ewrop ar Weithredu yn Erbyn
Masnachu Bodau Dynol
15Adolygiad Blynyddol 2019-20
• Yr Athro David Ian Rabey FLSW
Athro Theatr ac Arfer Theatr,
Prifysgol Aberystwyth
• Yr Athro Dominic Reeve FICE FIMA
FRMetS FLSW
Athro Peirianneg Arfordirol a Phennaeth
Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg
Gyfrifiannol, Prifysgol Abertawe
• Yr Athro Geoff Richards FBSE
FIOR FLSW
Cyfarwyddwr, Athrofa Ymchwil
AO, Davos
• Yr Athro David Ritchie FInstP
CPhys FLSW
Athro Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Lled-ddargludo, Prifysgol Abertawe;
Athro Ffiseg Arbrofol, Prifysgol
Caergrawnt
• Yr Athro Julian Sampson FRCP
FMedSci FLSW
Athro Geneteg Feddygol, Ysgol
Feddygol Prifysgol Caerdydd
• Yr Athro Karl Schmidt FLSW
Athro, Yr Ysgol Fathemateg,
Prifysgol Caerdydd
• Yr Athro Keshav Singhal MBE
FRCS FLSW
Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol,
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg;
Athro ar Ymweliad, Prifysgol De Cymru,
Athrofa Gwyddor Feddygol India Gyfan
ac Ysgol Feddygol Anna, Mauritius
• Yr Athro Irena Spasić FLSW
Athro Gwyddor Gyfrifiannol;
Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil
Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd
• Yr Athro Martyn Tranter FLSW
Athro Bioddaeargemeg Pegynnol a
Chyfarwyddwr Canolfan Rewlifeg
Bryste, Prifysgol Bryste
• Yr Athro Elaine Treharne MArAd FSA
FRHistS FEA FLSW
Athro Roberta Bowman Denning yn
y Dyniaethau, Athro mewn Saesneg,
a gyda diolch i’r Athro Astudiaethau
Almaeneg ym Mhrifysgol Stanford, UDA
• Yr Athro Kathryn Woodward FLSW
Athro Emeritws, Cyfadran y
Celfyddydau a’r Gwyddorau
Cymdeithasol, y Brifysgol Agored
• Yr Athro Reyer Zwiggelaar FLSW
Pennaeth yr Ysgol Raddedig, Deon
Ymchwil Cysylltiol y Gyfadran ac
Athro’r Adran Gwyddor Gyfrifiannol,
Prifysgol Aberystwyth
•
16 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Adolygiad Blynyddol 2019-20 17
40
2010-11
2011-12
2012-13
2013-14
2014-15
2015-16
2016-17
2017-18
Menywod fel canran o gyfanswm y Gymrodoriaeth
% Enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr benywaidd
% y Cymrodyr newydd benywaidd a etholwyd
Athrawon benywaidd yn SAUau Cymru (Ffynhonnell: HESA)
35
30
25
20
15
10
5
0
2018-19
2019-20
Y gyfran o Fenywod yn y Gymrodoriaeth
Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a
Meddygaeth
87% 69%13% 31%
Y Dyniaethau, y Celfyddydau, Gwyddorau
Cymdeithasol a’r Gwasanaethau
Cyhoeddus
Iaith, Llenyddiaeth a Hanes, Damcaniaeth y Celfyddydau Creadigol a Pherormio
Hanes, Athroniaeth a Diwinyddiaeth
Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol, Addysg a’r Gyfraith
Gwasanaeth Cyhoeddus/Arall
Meddygaeth a Gwyddorau Meddygol
Gwyddorau Celloedd, Moleciwlau, Esblygu, Organebau ac Ecosystemau
Cemeg, Ffiseg, Seryddiaeth a Gwyddorau Daear
Cyfrifiadura, Mathemateg ac Ystadegau
Peirianneg
Cymrodyr y Dyniaethau, Celfyddydau, Gwyddorau Cymdeithasol a Gwasanaeth Cyhoeddus
Cymrodyr y Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth
Y Gymrodoriaeth Gyfan
Mae menywod bellach yn cyfansoddi 22% o Gymrodoriaeth y Gymdeithas. Mae cyfran y menywod a etholwyd fel Cymrodyr newydd yn parhau’n sefydlog ar 28%. Rydym wrthi’n ceisio gwella’r rhan hon o’n strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
22%
•
Swyddogion a ChyngorYmgorfforwyd y Gymdeithas fel Elusen Siarter Frenhinol yn 2015 (Rhif Elusen Gofrestredig:
1168622). Ein dogfennau llywodraethu presennol yw’r Siarter Frenhinol a’r Is-ddeddfau.
Mae’r rhain, ynghyd â Rheoliadau’r Gymdeithas, yn cyfansoddi’n offerynnau llywodraethu.
Swyddogion Llywydd
Syr Emyr Jones Parry GCMG FInstP
FLSW GCMG FInstP FLSW (tan fis Mai 2020)
Yr Athro Hywel Thomas CBE FREng FRS FLSW MAE (o fis Mai 2020)
Is-lywyddion
• Yr Athro Michael Charlton FInstP
MAE FLSW (Gwyddoniaeth,
Technoleg, Peirianneg, Mathemateg
a Meddygaeth)
• Yr Athro David Boucher FRHistS
FAcSS FLSW (Y Dyniaethau,
y Celfyddydau a’r Gwyddorau
Cymdeithasol) (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro Helen Fulton FSA FLSW
(Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r
Gwyddorau Cymdeithasol)
(o fis Mai 2020)
Trysorydd
• Yr Athro Keith Smith FRSC FLSW
Ysgrifennydd Cyffredinol
• Yr Athro K Alan Shore FInstP FLSW
Aelodau’r Cyngor Yn ogystal â’r Swyddogion, ffurfiodd y
Cymrodyr canlynol Gyngor y Gymdeithas
(bwrdd yr ymddiriedolwyr):
• Yr Athro Roger Awan-Scully (o fis Mai 2020)
• Yr Athro David Boucher (o fis Mai 2020)
• Dr Sally Davies
• Yr Athro Sioned Davies (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro David Evans (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro Clair Gorrara (o fis Mai 2020)
• Yr Athro Alma Harris (o fis Mai 2020)
• Yr Athro Ieuan Hughes
• Yr Athro John Jones
• Yr Athro Densil Morgan (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro John Morgan (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro Iwan Morus
• Yr Athro Tim Phillips (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro Qiang Shen (o fis Mai 2020)
• Yr Athro Hywel Thomas (tan fis Mai 2020)
• Yr Athro Terry Threadgold
• Yr Athro John V Tucker (o fis Mai 2020)
• Yr Athro Meena Upadhyaya (o fis Mai 2020)
• Dr Lynn Williams
Noddwr BrenhinolO fis Mehefin 2019 ymlaen, derbyniodd
Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru,
yn raslon wahoddiad y Gymdeithas i
barhau’n Noddwr Brenhinol am gyfnod arall
o bum mlynedd.
Etholwyd yr Athro Helen Fulton yn Is-lywydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Mai 2020.
18 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Adolygiad Blynyddol 2019-20 19
19
Adolygiad Ariannol
IncwmEin cyfanswm incwm yn ystod y flwyddyn oedd £321,179, sydd ychydig yn uwch o gymharu â’r flwyddyn gynt (£320,511). Parhaodd llawer o’n hincwm craidd (cyfanswm o £176,700) i ddeillio o brifysgolion yng Nghymru; darparon nhw grantiau digyfyngiad hael ac, mewn rhai achosion, grantiau ychwanegol ar gyfer prosiectau penodol. Ein ffynhonnell incwm bwysicaf nesaf oedd ffioedd derbyn a thanysgrifiadau gan ein Cymrodyr, sydd bellach yn cyfrif i dros 550 (£66,543). Ychwanegwyd at hyn gan y Cymorth Rhodd a hawliwyd yn erbyn ffioedd aelodaeth lle’r oedd hynny’n bosibl (£7,739).
Parhaodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i’n cynnal ni yn Adeilad y Gofrestrfa yng Nghaerdydd. Cafodd cefnogaeth mewn gwasanaethau’r Brifysgol ar gyfer y Gymdeithas – sydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau TG a chymorth gweinyddol –
ei phrisio am £29,370.
Parhaodd materion ariannol y Gymdeithas ar dir cadarn yn ystod 2019-20, er gwaetha’r amgylchiadau heriol yn ymwneud â phandemig y coronafeirws. Parhaom i arallgyfeirio’n llifoedd ariannu lle bo’n bosibl, gydag ymdrechion cynyddol i sicrhau cyllid cyfyngedig ar gyfer prosiectau yn ogystal â’n cyllid craidd. Chwaraeodd ein Cyngor a’n Pwyllgor Cyllid rôl weithgar mewn rheolaeth ariannol, gan helpu i ddiogelu cynaliadwyedd tymor hir yr elusen.
Cyflawnom warged o £24,139 yn ystod y flwyddyn, oedd yn cynnwys gwarged digyfyngiad o £16,921 a gwarged cyfyngedig o £7,218. Mae’r fantolen yn dangos i ni ddwyn ymlaen cyfanswm cronfa o £418,478 ar ddiwedd y cyfnod, yn cynnwys cronfeydd digyfyngiad o £402,167 a chronfeydd cyfyngedig o £16,311.
Grantiau gan Brifysgolion 56%
Ffioedd Aelodaeth 21%
Gwasanaethau a Roddwyd 9%
11%Grantiau a Rhoddion
Cymorth Rhodd 2%
Amrywiol 1%
Ffynonellau Incwm
20 www.cymdeithasddysgedig.cymru
Gwariant
Y cyfanswm gwariant eleni oedd £286,831.
Roedd hyn yn sylweddol is na chyfanswm
y flwyddyn flaenorol (£307,078), yn
bennaf oherwydd y cyfyngiadau ar ein
gweithgareddau a achoswyd gan y
pandemig. Mae rhai meysydd gwariant
gweithgarwch cyfyngedig wedi’u cario
drosodd i 2020-21.
Fel y blynyddoedd blaenorol, roedd ein
categori gwariant mwyaf ar weithgareddau
– gan gynnwys cynadleddau, gweithdai,
ac adeiladu Cymrodoriaeth y Gymdeithas
(£174,913). Ymhlith meysydd gwaith
allweddol eraill yn ystod y flwyddyn roedd
cyhoeddiadau (£42,190) a datblygu polisïau
(£47,713). Fel gyda nifer fawr o elusennau
eraill ein maint ni, y gost unigol fwyaf i’r
elusen – a gafodd ei chynnwys ym mhob
un o’r meysydd uchod – oedd staffio
(£202,519).
Cronfeydd wrth Gefn
Adolygodd y Gymdeithas ei pholisi
cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn.
Ein polisi newydd yw cynnal cronfa wrth
gefn am ddim o gostau craidd o chwe
mis (£132,645).
Mae gweddill cronfeydd digyfyngiad y
Gymdeithas (£259,006) bellach wedi’u
dynodi’n Gronfa Datblygiad Strategol.
Mae rhai cronfeydd wrth gefn ar ffurf
buddsoddiadau; cafodd eu gwerth
eu heffeithio eleni gan bandemig y
coronafeirws, ac rydym yn parhau i fonitro’u
perfformiad tymor hir.
Future developments
Mae llawer o gyfleoedd i’r Gymdeithas
ddatblygu ac ehangu ei gwaith – gan
gwmpasu meysydd fel addysg uwch a
pholisi ymchwil, ymgysylltiad dinesig, a
chefnogaeth i ymchwilwyr ar ddechrau
eu gyrfa. Er mwyn cynyddu ein heffaith,
rydym yn archwilio nifer o lwybrau am
gyllid ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys
gwireddu argymhellion cyhoeddus, gan
Adolygiad Diamond o addysg uwch yng
Nghymru, i’r Gymdeithas dderbyn cyllid
cyhoeddus craidd. Rydym hefyd yn parhau i
fynd ar drywydd incwm ymddiriedolaethau,
sefydliadau a ffynonellau incwm cyhoeddus
a phreifat eraill.
Astudiwyd cyfriflenni ariannol llawn y Gymdeithas yn annibynnol. Gellir gweld y cyfrifon yn llawn yn www.cymdeithasddysgedig.cymru.
Llywodraethu
0 20 4010 30 50 60
Datblygiad Polisi
Cyhoeddiadau
Gweithgareddau
7.7%
14.7%
16.6%
61.0%
Categorïau Gwariant
21
Mae’n bwysicach nag erioed i ni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo Cymru dramor. Mae hyn yn golygu defnyddio pob ased yn ein meddiant... Rydym yn cyflawni mwy wrth weithio gyda’n gilydd.
Eluned Morgan AM,
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol, yn siarad yn ein
digwyddiad Strategaethau Pŵer
Meddal, Tachwedd 2019
Adolygiad Blynyddol 2019-20 21
22 www.cymdeithasddysgedig.cymru
RECONCILIATION OF FUNDS/CYSONI CRONFEYDD
Total funds brought forward/Cyfanswm cronfeydd a ddygwyd ymlaen
385,246 9,093 394,339 378,658
Total funds carried forwardCyfanswm cronfeydd i’w dwyn ymlaen
402,167 16,311 418,478 394,339
Net gains on investments 2,248 - 2,248 -
Net Movements in Funds 16,656 (975) 15,681 14,345
Financial SummaryCrynodeb Ariannol Statement of Financial Activities for the year ending 31 July 2020Datganiad o Weithgareddau Ariannol yn y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2020
Unrestricted funds
Cronfeydd anghyfyngedig
2020£
Restricted funds
Cronfeydd cyfyngedig
2020£
TOTAL FUNDS
CYFANSWM CRONFEYDD
2020£
TOTAL FUNDS
CYFANSWM CRONFEYDD
2019£
INCOME AND ENDOWMENTS FROM/INCWM A GWADDOLION O:
Donations and legacies/ Rhoddion a chymynroddion
109,201 1,370 110,571 105,141
Charitable activities/Gweithgareddau elusennol
179,530 27,950 207,480 213,875
Investments/Buddsoddiadau 3,128 - 3,128 1,495
Total Income and EndowmentsCyfanswm Incwm a Gwaddolion 291,859 29,320 321,179 320,511
EXPENDITURE ON/GWARIANT AR:
Charitable activities/Gweithgareddau elusennol
264,729 22,102 286,831 307,078
Total Expenditure Cyfanswm Gwariant 264,729 22,102 286,831 307,078
Net (loss)/gain on investments/Enillion/(colledion) net ar fuddsoddiadau
(10,209) - (10,209) 2,248
Net Movement in Funds/ Symud Net mewn Cronfeydd 16,921 7,218 24,139 15,681
Adolygiad Blynyddol 2019-20 23
Balance Sheet as at 31 July 2020/Mantolen ar 31 Gorffennaf 2020
£2020
£2019
FIXED ASSETS/ASEDAU SEFYDLOG
Tangible assets/Asedau diriaethol - 556
Intangible assets/Asedau anniriaethol 10,516 5,370
Investments/Buddsoddiadau 42,039 52,248
Total Fixed Assets/Cyfanswm Asedau Sefydlog 52,555 58,174
CURRENT ASSETS/ASEDAU CYFREDOL
Debtors/Dyledwyr 20,544 63,230
Cash at bank and in hand/Arian yn y banc ac mewn llaw 375,225 293,621
Total Current Assets/Cyfanswm Asedau Cyfredol 395,769 356,851
LIABILITIES/RHW YMEDIGAETHAU
Creditors: Amounts falling due within one year
Credydwyr: symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn(29,846) (20,686)
NET CURRENT ASSETS/ASEDAU CYFREDOL NET 365,923 336,165
NET ASSETS/ASEDAU NET 418,478 394,339
THE FUNDS OF THE CHARIT Y/CRONFEYDD YR ELUSEN:
Restricted income funds/Cronfeydd incwm cyfyngedig 16,311 9,093
Unrestricted funds/Cronfeydd anghyfyngedig 402,167 385,246
TOTAL CHARIT Y FUNDS/ CYFANSWM CRONFEYDD YR ELUSEN
418,478 394,339