2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol...

12
Yr Wyddfa Pen y Fan Mynydd Du Pecyn Gwasanaethau i Gylchoedd Meithrin 2019-2020

Transcript of 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol...

Page 1: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

Yr Wyddfa Pen y Fan

Mynydd Du

Pecyn Gwasanaethau

i Gylchoedd Meithrin 2019-2020

Page 2: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

2

Gwasanaeth Mudiad Meithrin Mynydd Du Pen y Fan Yr Wyddfa

**Gwasanaethau Newydd** yn 2019/20

Cardiau thema newydd cynllun ‘Croesi’r Bont’ i atgyfnerthu a chyfoethogi iaith

Llyfr ymwelwyr *newydd* sy’n cydymffurfio gyda gofynion data newydd

Adnoddau Gŵyl Dewin a Doti ac ymgyrchoedd hybu a hyrwyddo eraill

Gwasanaeth atgoffa nad yw adroddiadau wedi eu derbyn gan y Comisiwn

Elusennau

x x x

Mynediad at linell gymorth gyfreithiol (DAS) a weinyddir trwy’r polisi yswiriant Diogelwch

Cyfreithiol Masnachol i gynghori ar nifer o faterion perthnasol i fywyd y ddarpariaeth x x x

Cefnogaeth Swyddog Cefnogi penodol fydd yn darparu cymorth, cyngor, arweiniad a

gwasanaeth bugeiliol. Disgwylir iddynt gynnal o leiaf 6 ymweliad y flwyddyn. x x x

Cefnogaeth Tîm o Swyddogion Cefnogi, Dirprwy Reolwr Talaith a Rheolwr Talaith yn yr ardal, sydd yn darparu cyngor arbenigol ar ystod o

bynciau. x x x

Cyfle i wneud cais i Gronfa Grant Mudiad Meithrin. x x x

Grant cychwynnol ar gyfer unrhyw gylch sy’n cael ei sefydlu o’r newydd. x x x

Cyfle i wneud cais am grant argyfwng pan fo cylch mewn trafferthion

ariannol (noder mai £500 yw’r uchafswm). x x x

Cyfrifoldeb cyfreithiol y pwyllgor rheoli gwirfoddol yw pob agwedd o reolaeth y Cylch Meithrin. Rydym yma i’ch cefnogi yn y gwaith hwn. Byddwn yn darparu cyngor, arweiniad ac anogaeth i chi. Weithiau, byddwn yn eich herio hefyd fel ffrind beirniadol. Mae’r Pecyn Gwasanaeth hwn yn amlinellu ein holl wasanaeth i chi fel Cylch Meithrin. Fel y gwelwch, mae tri lefel gwahanol y gallwch ddewis sef cynllun Mynydd Du, cynllun Pen y Fan, a chynllun yr Wyddfa. Mae’r gwahaniaethau rhwng y tri chynllun yn cael eu hegluro isod. Mae angen i chi fel pwyllgor benderfynu pa gynllun gwasanaeth yr ydych yn dymuno ei ddewis a rhoi gwybod i ni yn Mudiad Meithrin erbyn 12/07/2019.

Gwasanaethau Mudiad Meithrin i Gylchoedd Meithrin

Yr Wyddfa

Pen y Fan

Mynydd Du

Page 3: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

3

Mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol drwy academi (yn lleol, rhanbarthol ac ar-lein).

x x x

Gwahoddiad i fynychu cynadleddau/diwrnodau hyfforddiant a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

x x x

Gwahoddiad i gymorthfeydd cyffredinol lleol ar bynciau megis adnoddau dynol, cyllid, rheoli cylch.

x x x

Llyfr Mawr Piws.

x x x

Cylchlythyron cynhwysfawr yn darparu gwybodaeth am ddatblygiadau yn y maes gofal plant, cyfleoedd codi arian, arfer dda.

x x x

Hybysebu gwasanaeth y cylch trwy’r adran ‘Chwilio am Gylch’, Gwefan Mudiad Meithrin, eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol y Mudiad yn ogystal â hyrwyddo cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cylch.

x x x

Cyflenwad eang o adnoddau marchnata a chyhoeddusrwydd.

x x x

Hysbysebu swyddi ar wefan Mudiad Meithrin.

x x x

Llyfrau Cofnodi Damweiniau, Digwyddiadau, cyfrifon a chofrestr presenoldeb plant.

x x x

Plac cydnabyddiaeth o fod yn aelod o Mudiad Meithrin a chyrhaeddiad ansawdd Efydd (a thystysgrif aelodaeth blynyddol).

x x x

Cyfle i wneud cais am safon Arian a safon Aur (cynllun ansawdd ‘Safonau Serennog’)

x x x

Llyfrau Bach Piws (e.e. Staffio, Cyllid, Estyn, Diogelu Plant).

x x x

Mynediad at fewnrwyd Mudiad Meithrin ac Adnoddau e-Ddysgu.

x x x

Gwasanaeth a hyfforddiant uwch-sglilio iaith.

x x x

Yswiriant Eiddo (diogelwch yn erbyn colli neu difrod i eiddo) a Cholli Refeniw.

x x x

Yswiriant Indemniad Cyhoeddus, Cyflogwyr, Cynnyrch.

x x x

Cyfle i ennill gwobr sy'n cydnabod llwyddiannau gwirfoddolwyr a chylchoedd o fewn

amrywiol gategorïau yn Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin.

x x x

Hyfforddiant a chymorth wrth gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Gwiriad Diogelu a Gwahardd (GDG) ‘uCheck’.

x x x

Adnoddau Dysgu Amrywiol ar ffurf copi caled (CD, pecynnau hyfforddiant achlysurol ayyb).

x x x

Gwasanaeth Mudiad Meithrin

Mynydd Du

Pen y Fan Yr Wyddfa

Page 4: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

4

140 o sticeri ‘Helpwr Heddiw’ a Phyped llaw Dewin. x x x

Yswiriant Indemniad Ymddiriedolwyr Elusen (*i bob lefel aelodaeth eleni*). x x x

Gwasanaeth Cyfieithu a phrawf ddarllen (trwy e-bostio [email protected],

dyraniad blynyddol o eiriau).

1,000 o

eiriau

2,000 o

eiriau x

Mynediad i raffl i ennill Parti Piws ac ymweliad gan y Prif Weithredwr. x x

Aelodaeth i ‘Clwb 100’ am flwyddyn gyfan. x x

Sefydlu'r cylch fel 'Sefydliad Corfforedig Elusennol' (SCE, neu CIO). x

Cost am 1 flwyddyn (Medi 2019 - Awst 2020) £149 £219 £299

Cofrestru ‘Cylch Ti a Fi’ *Am ddim unwaith eto eleni* £0 £0 £0

Baner deniadol ‘Cylch Meithrin’ neu ‘Cylch Ti a Fi’ ar gyfer eich safle £30 £30 £30

Cyfanswm

£179

£249

£329

Gwasanaeth Mudiad Meithrin Mynydd Du Pen y Fan Yr Wyddfa

Camau Nesaf

Dewiswch gynllun Mynydd Du, Pen y Fan neu Yr Wyddfa.

Cofier fod modd cofrestru fel cylch cyfansawdd (sy’n cynnwys y Cylch Ti a Fi) heb gost ychwanegol.

Mae modd ychwanegu baner deniadol ‘Cylch Meithrin’, ‘Cylch Ti a Fi’ neu ‘Cylch Meithrin/Ti a Fi‘ (dyluniad isod) am £30 ychwanegol.

50cm x 90cm

Page 5: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

5

Cefnogaeth Swyddog Cefnogi penodol

Bydd Swyddog Cefnogi penodol ar gael ar gyfer

eich cylch fydd yn darparu cymorth, cyngor,

arweiniad a gwasanaeth bugeiliol. Bydd y

Swyddog yn:

ymweld â Chylch Meithrin o leiaf unwaith

pob hanner tymor i arsylwi ar bob agwedd

o fywyd y cylch ac i adnabod anghenion,

heriau, pryderon ac arfer da.

ymweld â chylchoedd Ti a Fi/meithrinfeydd

dydd o leiaf unwaith pob tymor.

ymateb i ymholiadau cyffredinol ar y ffôn a

thrwy e-byst.

Mynychu cyfarfodydd achlysurol y

pwyllgorau i ddarparu hyfforddiant

anwytho ac annog rheolaeth dda o fewn y

cylch.

Bod yn rhan o broses penodi Arweinydd

staff y cylch a bod yn rhan o banel penodi

staff eraill pan fo angen.

Helpu fel rhan o dîm i baratoi at arolwg

(AGC/Estyn/Cynllun

Ansawdd y Mudiad -

Safonau Serennog).

Fel rhan o dîm,

datblygu ac ehangu

gwasanaethau

Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a

datblygu darpariaethau newydd ble fo

bylchau wedi ei hadnabod.

Cefnogaeth Tîm o Staff Taleithiol Bydd modd i’r cylch dderbyn gwasanaeth

estynedig gan Reolwr Talaith, Dirprwy

Reolwr Talaith a Swyddogion Cefnogi eraill

sy’n arbenigo ar y materion canlynol:

Diogelu Plant Marchnata / Cyhoeddusrwydd

Codi arian / Ymgeisio am nawdd

Hyfforddi a Datblygu Staff Cynhwysiant

Iaith / Dilyniant i Addysg Gymraeg

Ti a Fi Adnoddau Dynol / Cyflogaeth

Rheoli ac Arwain Ansawdd a Safon (AGC, Estyn,

Dechrau'n Deg, Safonau Serennog)

Cyfnod Sylfaen

Rheoli Busnes

Cyllid

Arbenigedd Tîm ‘Cymraeg i Blant’

Cefnogaeth gan staff Mudiad Meithrin

Esboniad pellach am y gwasanaethau a gynigir

5

Page 6: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

6

Cymorth Ariannol

Cronfa Grant Mudiad Meithrin Bydd cyfle i bob cylch wneud cais am grant. Bydd ystod o symiau ariannol rhwng £100 a £5,000 ar gael i Gylchoedd Meithrin drwy gystadleuaeth agored.

Grant Cychwynnol Mudiad Meithrin Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch i brynu nwyddau ac adnoddau angenrheidiol ar gyfer sefydlu Cylch o’r newydd. Grant Argyfwng Mudiad Meithrin Gall unrhyw Gylch Meithrin sydd mewn argyfwng ariannol wneud cais am grant. Wrth gyflwyno’r cais bydd disgwyl i’r cylch gyflwyno cynlluniau byr a hir dymor sy’n cadarnhau cynlluniau sydd mewn lle i drawsnewid y sefyllfa ariannol. Grantiau unwaith yn unig yw’r grantiau hyn a £500 yw’r uchafswm posib.

Cynigion Arbennig i gylchoedd meithrin a rhieni gan y cwmniau

yma:

Y Gorau o Gymru; Atebol; Sain; Mwnci; Crefftau'r Bwthyn a Si-lwli

Manylion pellach i ddilyn yn eich pecynnau cadarnhau!

Page 7: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

7

Hyfforddiant

Mae cyfleoedd i ymestyn sgiliau ar gael drwy

Academi.

Mae modd i’r Cylch fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi,

datblygu a dysgu drwy Academi.

Bydd y cyfleoedd dysgu sy'n cael eu cynnig o dan faner Academi yn cwmpasu pob agwedd o

waith y Mudiad - o faterion ieithyddol, addysgol a gofal i faterion gweinyddol a rheoli.

Bydd yr hyfforddiant hwn hefyd yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd amrywiol, gan gyfuno cyrsiau

traddodiadol wyneb yn wyneb â chyrsiau modern ar-lein, lle gall yr unigolyn ddysgu ar adeg sy'n

gyfleus iddo ef/hi.

Bydd modd rhannu gwybodaeth, arferion da a syniadau gyda holl gymuned Mudiad Meithrin

drwy’r fewnrwyd hefyd.

Cynadleddau/diwrnodau hyfforddiant

Gwahoddir y Cylchoedd Meithrin i fynychu diwrnodau hyfforddiant a fydd yn darparu gwybodaeth

amrywiol a pherthnasol am waith y blynyddoedd cynnar. Bydd gweithgareddau ymarferol a

phecynnau adnoddau ar gael.

Cymorthfeydd lleol

Bydd cyfle i’r Cylchoedd fynychu sesiynau lleol yn achlysurol i dderbyn cyngor ar amrywiaeth o

faterion, gan gynnwys rheoli staff, materion cyllidebol, rheoli cylch, datblygu/materion busnes.

Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol – mae cyfle i fyfyrwyr gymhwyso i dderbyn y cymhwyster Lefel 3

Gofal Plant perthnasol.

www.meithrin.cymru/lefel3/

www.meithrin.cymru/7

Page 8: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

8

Gwybodaeth

Adnodd digidol ar lein - adnodd i bwyllgorau rheoli gwirfoddol.

Ewch i: www.meithrin.cymru/i-bwyllgorau

Ffolder Llyfr Mawr Piws

Dyma’r ffolder sy’n darparu

gwybodaeth gynhwysfawr ar bob

elfen o reoli Cylch Meithrin. Mae

gwybodaeth gyffredinol ar agweddau

o waith Cylch Meithrin ynghyd

ag atodiadau cynhwysfawr yn

darparu gwybodaeth ar y canlynol:

Cyfansoddiadau

Trefnu a chynnal pwyllgorau

Polisïau amrywiol sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a

rheoleiddiol

Ffurflenni a chanllawiau i rieni a staff y cylch ar elfennau iechyd a

diogelwch, adnoddau dynol a chaniatâd gan rieni

Pecyn penodi a chyflogi staff sy’n cynnwys disgrifiadau swyddi,

canllawiau cyfweld a chytundebau cyflogaeth

Gwybodaeth a thempledi ar gynnal asesiadau risg

Llyfrau Bach Piws

Cylchlythyr tymhorol —

Bydd Mudiad Meithrin yn danfon cylchlythyr tymhorol i

bob cylch fydd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol

e.e. datblygiadau yn y maes gofal plant, cyfleoedd codi

arian, rhannu arferion da.

8

Page 9: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

9

Hysbysebu gwasanaeth y cylch

Mae holl ddarpariaethau gofal plant Mudiad

Meithrin yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan

trwy ddefnyddio’r dudalen ‘chwilio am ofal

plant’. Mae rhieni a darpar-rieni yn gallu chwilio

am wasanaeth ofal plant trwy ddefnyddio map

rhyngweithiol. Mae manylion y cylch yn cael ei

ddarparu i’r rhieni sy’n disgrifio’r gwasanaeth,

amseroedd agor a manylion cyswllt. Mae hwn

yn gyfle gwych i farchnata a hyrwyddo

gwasanaeth y cylch. Rhaid i’r cylch ein hysbysu

o unrhyw newid i’ch gwasanaeth i ni

ddiweddaru’r wefan.

Adnoddau marchnata a chyhoeddusrwydd

Mae cyflenwad eang o daflenni marchnata a

chyhoeddusrwydd ar gael

un ai gan y Swyddogion

Cefnogi lleol, ar y

fewnrwyd, neu trwy

gysylltu ag adran

farchnata Mudiad

Meithrin. Gellir hefyd

farchnata unrhyw ddigwyddiadau yn y

cylchoedd trwy anfon gwybodaeth i’r adran

farchnata fel bod modd eu rhoi ar gyfrifon

Twitter, Facebook a gwefan y Mudiad.

Hysbysebu Swyddi

Mae cyfle i hysbysebu unrhyw swydd wag ar

safle swyddi Mudiad Meithrin. Hysbysebwyd

250 o swyddi llynedd a chafwyd 79,329 o

ymwelwyr i’r wefan.

Marchnata/Cyhoeddusrwydd

Adnoddau

Llyfrau Cofnodi Damweiniau, presenoldeb a chyfrifon Bydd copi caled o Lyfr Damweiniau/

Digwyddiadau, Llyfr Ymwelwyr, Llyfr

Cyfrifon a Chofrestr yn cael ei ddarparu i

bob cylch.

Plac yn cadarnhau aelodaeth gyda

Mudiad Meithrin (ynghyd â thystysgrif)

Bydd plac safonol yn cadarnhau bod y cylch

yn aelod o’r Mudiad ac yn cydymffurfio â’r

safonau disgwyliedig. Wrth gydymffurfio â’r

safonau disgwyliedig mae pob cylch yn

derbyn safon ansawdd efydd, bydd cyfle i

ymgeisio am safon Seren Arian a Seren Aur

o dan gynllun ansawdd y Mudiad sef

‘Safonau Serennog’. 9

Page 10: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

10

E-lyfrgell Adnoddau Dysgu - Mae mynediad at filoedd o adnoddau

amrywiol drwy fewnrwyd Mudiad Meithrin.

Siop Dewin a Doti - Mae siop Dewin a Doti yn gwerthu nwyddau unigryw’r

Mudiad ac ar gael trwy’r wefan www.meithrin.cymru/siop.

Adnoddau Dysgu Amrywiol - Mae Mudiad Meithrin yn cynhyrchu

amrywiaeth eang o adnoddau dysgu yn benodol at ddefnydd y cylchoedd.

Byddant ar gael i’r cylch ar ffurf electroneg neu gopi caled yn ddibynnol ar lefel y gwasanaeth.

Y Fewnrwyd - Dyma adnodd cynhwysfawr tu hwnt sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i staff a

phwyllgorau’r cylchoedd gan gynnwys dogfennau a gwybodaeth diogelwch data, rheoli staff,

iechyd a diogelwch, iaith, marchnata ayyb.

Strwythur Cyfreithiol

Gwasanaeth atgoffa Mae’n ofynnol i bob cylch sydd ag incwm o £5,000 neu fwy gofrestru fel elusen gyda’r Comisiwn

Elusennol. Mae’n gyfrifoldeb ar bob elusen i hysbysu’r Comisiwn Elusennau am eu hincwm a'u

gwariant yn brydlon bob blwyddyn (erbyn diwedd mis Ionawr i’r rhan fwyaf o Gylchoedd

Meithrin). Gall effeithio ar enw da’r elusen, rhwystro ceisiadau grant, dylanwadu ar gytundebau a

thendrau ayyb os nad yw Cylch yn cydymffurfio. Byddwn yn danfon nodyn atgoffa ym Mis

Chwefror (trwy e-bost) i unrhyw Gylch Meithrin sydd heb gyflawni’i dyletswyddau adrodd

ariannol i’r Comisiwn Elusennau.

Sefydlu'r cylch fel 'Sefydliad Corfforedig Elusennol' Mae Mudiad Meithrin yn argymell bod pob cylch yn sefydlu ei hunan fel Sefydliad Corfforedig

Elusennol, sydd yn wahanol i sefydlu fel elusen arferol. Mae’r strwythur hwn yn rhoi mwy o

ddiogelwch i ymddiriedolwyr ac aelodau Pwyllgorau, yn enwedig pe byddai’r cylch yn gorfod cau

ac os byddai’r cylch yn fethdalwr. Mae’r Mudiad yn cynnig gwasanaeth i sefydlu’r cylch o dan y

drefn yma gyda’r Comisiwn Elusennol. Bydd hyn yn cynnwys:

pecyn sy’n cynnwys model o gyfansoddiad a’r ffurflenni hanfodol i’w cwblhau a’u harwyddo gan y Pwyllgor (bydd adran weinyddol Mudiad Meithrin yn mewnbynnu’r cais cychwynnol ar ran y cylch)

pecyn gwybodaeth sy’n darparu esboniad manwl o’r strwythur a sut i gydymffurfio i weithredu yn gywir

hyfforddiant anwytho i’r Pwyllgor yn esbonio’r strwythur, y diogelwch mae’n ei gynnig a sut i gydymffurfio â’r gofynion blynyddol (e.e. cyflwyno cyfrifon, awdit ar gyfrifon)

Gwasanaeth Yr Wyddfa yn unig

Page 11: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

11

Yswiriant

Yswiriant Indemniad Cyflogwr

Diogelwch yn erbyn anaf i gyflogeion gan

gynnwys gwirfoddolwyr, hyfforddeion ayyb a/

neu niwed i’w heiddo. Mae terfyn o £10,000,000

ar gyfer unrhyw un digwyddiad.

Yswiriant Indemniad Cyhoeddus

Diogelwch yn erbyn anaf i aelod o’r cyhoedd

(unrhyw un nad yw’n gyflogai) a/neu niwed i’w

heiddo. Mae terfyn o £10,000,000 ar gyfer un-

rhyw un digwyddiad a thaliad (excess) o £100

ar gyfer pob colled.

Yswiriant Indemniad Ymddiriedolwyr Elusen Indemniad yn erbyn colled ariannol o ganlyniad i weithred anghyfiawn ar ran ymddiriedolwr, llywodraethwr neu reolwr. Mae hyn yn cynnwys costau amddiffyniad i’r endid/ Mae terfyn in-demniad o £100,000 ar gyfer unrhyw un dig-wyddiad mewn unrhyw un cyfnod yswirio. Mae taliad (excess) o £1,000.

Yswiriant Cynnyrch

Diogelwch yn erbyn anaf i’r cyhoedd (unrhyw un nad yw’n gyflogai) a/neu niwed i’w heiddo yn deillio o gynnyrch a gyflenwyd (e.e gwenwyn bwyd o frechdan mewn bore coffi). Mae terfyn o £10,000,000 ar gyfer unrhyw un digwyddiad mewn unrhyw un cyfnod yswirio. Mae taliad (excess) o £100 ar gyfer pob colled.

Yswiriant Diogelwch Cyfreithiol Masnachol Costau cyfreithiol hyd at £250,000 wrth ddelio gydag anghydfod cytundeb, anghydfod cyflogaeth ac ymchwiliadau HMRC, gan gynnwys ffioedd proffesiynol. Mynediad at linellau cymorth cyfreithiol amrywiol trwy gwmni DAS. Os oes problem adnoddau dynol cyfeiriwch y peth at y llinell gymorth.

Yswiriant Colli Refeniw Indemniad ar gyfer colled neu leihad mewn incwm o ganlyniad i golled niwed i eiddo e.e. os oes tân neu lifogydd. Does dim taliad (excess).

Yswiriant Anonestrwydd Gweithwyr Indemniad am golledion eiddo, gan gynnwys arian, a achoswyd yn uniongyrchol o ganlyniad i weithredoedd o dwyll neu anonestrwydd gan unrhyw aelod o staff/aelod o’r pwyllgor. Terfyn yr indemniad yw £25,000. Mae taliad (excess) o £500 ar gyfer pob colled. Yswiriant Eiddo (Taliad ‘excess’ : £100)

Diogelwch ar gyfer niwed i eiddo cyffredinol / addasiadau tenant: £30,000 swm yswirio-adeilad yn unig

Adeiladau dros dro: £5,000

Nwyddau cyfrifiadurol: £2,000 swm yswirio-adeilad yn unig

Cyfrifiadur symudol (lap-top): £700 swm yswirio (diogelwch mewn unrhyw fan yn y DU)

Arian: tu allan i oriau busnes arferol mewn sêff wedi ei gloi- £2,500 tu allan i oriau busnes arferol ddim mewn sêff wedi ei gloi - £500

Gwydr: diderfyn

Cynhwysydd storio: £3,000 gan gynnwys nwyddau wedi ei storio mewn cynhwysydd wedi ei gloi

11

Page 12: 2019-2020...2019/04/17  · Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch

12

Arall Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin

Bydd pob cylch yn cael cyfle i gael ei enwebu am wobr sy'n

cydnabod llwyddiannau staff a gwirfoddolwyr cylchoedd o fewn

amrywiol gategorïau. Bydd gwahoddiad i’r rhai fydd wedi

cyrraedd y 3 uchaf i fynychu’r Seremoni Gwobrau flynyddol i

dderbyn gwobr arbennig a chydnabyddiaeth.

Yn y Seremoni hon hefyd bydd cyfle i anrhegu staff a

gwirfoddolwyr sydd wedi cyflawni 20 mlynedd o wasanaeth i’r

Mudiad, ynghyd â chyhoeddi enillwyr y prif grantiau.

Gwiriadau Diogelu a Gwahardd (DBS, CRB gynt)

Mae Mudiad Meithrin eisoes wedi dod i gytundeb gyda

chwmni ‘uCheck’ i brosesu gwiriadau GDG y cylchoedd

(manylion llawn yn y daflen wybodaeth ynghlwm). Trwy’r

cytundeb yma mae’r ffi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth

wedi’i hepgor i bob Cylch Meithrin. Fe fydd eich Swyddog

Cefnogi lleol ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth yn ôl

yr arfer ar gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac fe fydd y

swyddog cefnogi gweinyddiaeth ar gyfer y dalaith ar gael

i gynnig hyfforddiant lleol ar sut i gynnal y gwiriadau.

Mae’n broses syml a chyflym i gofrestru, trwy lenwi

ffurflen fer (gweler gyferbyn) ac mae modd cynnal

gwiriadau ar liniadur neu dabled:

12