10576 Y Naturwaithr - Cymdeithas Edward Llwyd · Cymdeithas Edward Llwyd Sefydlwyd Cymdeithas...

76
Rhifyn Dathlu C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 13 Rhagfyr 2003 Cymdeithas Edward Llwyd yn 25 oed

Transcript of 10576 Y Naturwaithr - Cymdeithas Edward Llwyd · Cymdeithas Edward Llwyd Sefydlwyd Cymdeithas...

Rhifyn Dathlu

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau CymdeithasEdward LlwydPris i’r cyhoedd Rhifyn arbennig £3.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwygymhorthdal gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 13 Rhagfyr 2003

Cymdeithas Edward Llwyd

yn 25 oed

Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod “y naturiaethwr gorauyn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu dros eu gwarchod.Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Dafydd Dafis, Rhandirmwyn, Llywydd a sylfaenydd Cymdeithas Edward Llwyd, ynastudio Lili’r Wyddfa ar Glogwyn Du’r Arddu,Yr Wyddfa, Mai 2003

Llun: Ifor Williams

Clawr ôl:

Lili’r Wyddfa (neu Brwynddail y Mynydd) Lloydia serotina

Llun: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

Cymdeithas Edward Llwyd 2002 – 03

Llywydd: Dafydd Davies

Cadeirydd: Harri Willliams

Is-gadeirydd: Ieuan Roberts

Trysorydd: Ifor Griffiths

Ysgrifennydd: Megan Bevan, “Y BlewynGlas”, Porthyrhyd, Sir GaerfyrddinSA32 8PR.

Ysgrifennydd Aelodaeth: Iwan Roberts,3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun,Sir Ddinbych LL15 1BT.

Y NaturiaethwrCyfres 2, Rhif 13, Rhagfyr 2003.

Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

Dyluniwyd gan: MicroGraphics

Argraffwyd gan: Design 2 Print

Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 13 Rhagfyr 2003

Gair gan y Golygydd 3Goronwy Wynne

Dilyn Afon Twrch 4Dafydd Dafis

Blodau’r Mynydd 6Elizabeth C. Ellis

Cofio’r Llwybrau 9Harri Williams

Atgofion 11Gwyn Jones

Argraffiadau o Rydychen 13Bethan Wyn Jones

Dathlu Jiwbili Arian 16Dafydd Dafis

Y Fran Goesgoch 18Dave Lamacraft ac Adrienne Stratford

Adar Conwy 22Alun Williams

Addysg ar y Fferm 24Jonathan Neale

Enwau Byd Natur 25Twm Elias

Ieir Bach yr Haf 30Twm Elias

Gwella BywoliaethFfermwyr Tlawd 31Einir M Young

Cyfrinachau’r Cen 34Duncan Brown

Erwau’r Pysg 35N. Closs-Parry

Coed Derw 37C. Ll. G.

Gwarchod y Wiwer Goch 39Craig Shuttleworth

Diogelu Planhigion Prin 43Rhodri Clwyd Griffiths a M. Dolores Lledò

Brych y Gro 46Emrys Evans

Y Balerina Binc 48Gareth Wyn Griffiths a Gary Easton

Craig-adwy-wynt 51John Davies

Llên y Llysiau 54

CerddiGwyn Thomas 55Eluned Mai 56

Llun Pwy? 56

Nodiadau NaturLlysiau 59Mamaliaid 60

Lleoedd a’r Bardd 61Lun Roberts

Wyddich chi 63

LlythyrauBeti Hughes 64Dilys Parry 65

AdolygiadauDysgl Bren 66High Summits of Wales 68Gwraig Orau o’r Gwragedd 68Wild Flowers 70

Cynnwys

3

Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm,Treffynnon,

Sir Fflint, CH8 8NQ.

Ffôn: 01352 780689

Dyma ni yn bump arhugain oed.Dywedodd rhywun nadoedd pen blwydd yndweud pa mor bell y maedyn wedi mynd, ond pamor hir y bu ar y ffordd!Pa mor bell a gerddoddCymdeithas Edward

Llwyd mewn chwarter canrif?Dyma ychydig o ystadegau (dywedodd

rhywun arall fod ystadegau fel bicini - yndangos yr hyn sy’n ddiddorol ond yncuddio’r hyn sy’n bwysig!).

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1978 ganDafydd Dafis, Rhandirmwyn, SirGaerfyrddin. Erbyn hyn, mae gennym drosfil o aelodau.

Ar hyn o bryd, trefnir oddeutu 120 ogyfarfodydd maes bob blwyddyn (mae hwnyn well enw na ‘theithiau cerdded’ -gobeithio ein bod yn gwneud mwy nacherdded!). Mae’r stondin ar faes y‘Steddfod wedi bod yn llwyddiant mawr acyn tyfu mewn poblogrwydd ac yn gwellamewn diwyg o flwyddyn i flwyddyn.

Trefnir nifer (dim digon) o gyfarfodyddgwaith e.e. codi waliau cerrig yn Rhes-y-Cae, plannu moresg yn Harlech, plannucoed yn Abergwyngregyn.

Cynhelir darlithoedd a chyfarfodyddcymdeithasol yn rheolaidd e.e. y ddarlithflynyddol yn Licswm, Sir y Fflint.Ym misTachwedd eleni, roedd y neuadd yn orlawni wrando ar Iolo Williams yn sôn am ‘AdarCymru’.

Mae’r Gynhadledd Flynyddol ynymweld â gwahanol ardaloedd yngNghymru, gyda darlithoedd,arddangosfeydd, cyfarfodydd maes ac atiac mae’r Cyfarfod Blynyddol yn rhoi cyfle ibawb leisio barn.

Mae’r Naturiaethwr wedi ymddangos ynddifwlch o’r cychwyn - rhyw 46 rhifynerbyn hyn ac, ers rhai blynyddoedd, mae’rCylchlythyr yn ein cadw gyda’n gilydd ac ynrhannu gwybodaeth a syniadau.

Mae gwerthu da ar ein llyfr newyddPlanhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn, yrail yn y gyfres ar enwau Cymraeg.

Mae’r Is Bwyllgor Marchnata wedidatblygu’n gyson ac yn awr yn gwerthupob math o nwyddau er budd y Gymdeithas.

Mae prosiect Llên y Llysiau yn paratoierthyglau ar y berthynas rhwng dyn â’rplanhigion.

Dros y blynyddoedd, bu’r Gymdeithasyn lleisio barn ar nifer o bynciauamgylcheddol, megis melinau gwynt.

Rhoddir grantiau sylweddol i fyfyrwyr aci eraill i helpu gyda gwaith ymchwil.

Mae gennym Lyfrgell fechan wedi’i lleoliym Mhlas Tan y Bwlch, canolfan sydd bobamser yn ein cefnogi.

Chwiliwch amdanom ar y we, y cyfeiriadyw www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Dylem gofio bod hyn i gyd yn dibynnuar waith gwirfoddol yr aelodau. Rydw inewydd gwblhau tair blynedd felCadeirydd - cyfnod sydd wedi cryfhau fyargyhoeddiad o werth y Gymdeithas yn yGymru gyfoes a charwn ddiolch ynddiffuant iawn i bawb sy’n cyfrannu morhael mewn amser, arian a brwdfrydedd atGymdeithas Edward Llwyd.

Mae ’na air yn y Beibl yn rhywle sy’ncrynhoi’r cyfan -

“Canys yr oedd gan y bobl galon iweithio”.

Pen blwydd hapus a daliwch ati.G.W.

Derbyniais lythyr gan Alun Wyn Bevan,athro ysgol a darlledwr o Frynaman, yn fyngwahodd i arwain taith ar hyd yr afonTwrch, afon sy’n ymuno â’r afon Tawe ynYstalfera yn rhanbarth uchaf Cwmtawe.Ynei lythyr, gofynnodd i mi dynnu sylw’rgrwp at bethau’n ymwneud â byd natur.Dylwn sôn yma fy mod wedi bod yndarllen llyfr yng nghyfres Gwyl Dewi arEdward Lhuyd FRS 1660-1709 gan FrankEmery (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru1971). Cafodd aelodau’r Gymdeithas gyflei gwrdd â’r awdur pan oedd yn traddodi eidrydedd ddarlith yn y gyfres Edward LhuydMemorial Lectures a gynhaliwyd yr adeghonno yn Oriel Eryri (AmgueddfaGenedlaethol Cymru) - ar 3 Mawrth 1985.Ei destun oedd ‘Edward Lhuyd andSnowdonia’. Gwnaeth ei lyfr ar EdwardLhuyd argraff ddofn arnaf ac roedd iddylanwadu ar ganlyniadau’r daithroeddwn ar fin ei harwain nid nepell o’mhen gartref yng Nghwmgiedd.

Man cyfarfod y daith oedd y bont (SN755 126) dros yr afon Twrch ynYstradowen, pentref ger Cwmllynfell yn SirGaerfyrddin. Dilynwyd y llwybr sy’ndechrau ym Mhowys ar ochr ddwyreiniolyr afon.Ymhlith y coed ar lan yr afon,mae’r ddwy dderwen, Derwen Goesog(Quercus robur) a’r Dderwen Ddigoes(Quercus petraea) ac ar eu dail gwelwydGwyfyn Gwyrdd y Dderwen (Tortrixviridana), gwyfyn sy’n perthyn i’r grwpmicrolepidoptera ac sy’n bennaf gyfrifol amddifa dail ein coed derw. Er iddyn nhwddodwy wyau ar y brigau yn ystod Mehefina Gorffennaf, ni fyddat yn deor tan fis Maiy flwyddyn ganlynol. O dan y coed ac ar ytomennydd glo ar hyd y rhan hon o’r daithgwelwyd y canlynol:

Bedwen Lwyd (Betula pubescens),Helygen Lwyd (Salix cinereasubsp.oleifolia), Edafeddog Lleiaf (Filagominima), Peradyl Bach (Leontodonsaxatalis), Pysen y Ceirw (Lotuscorniculatus), Creulys y Rhosydd (Seneciosylvaticus), Gruw Gwyllt (Thymuspolytrichus), Meillionen Goch (Trifoliumpratense), Meillionen Wen (Trifolium repens),Gliniogai (Melampyrum pratense), CaldristLlydanddail (Epipactis helleborine),Marchrawn Mawr (Equisetum telmateia).Diddorol yw nodi pan oeddem ar y daithugain mlynedd yn ddiweddarach, fod yMarchrawn Mawr yn dal i dyfu yn yr unman a thra roeddwn yn tynnu sylw at yplanhigyn, estynnodd Dyfed Elis Griffithsffosil i mi roedd wedi’i gasglu o’r domen logerllaw; darn o’r ffosil Calamites oedd ac ynperthyn i’r un grwp, Sphenopsida, ag yw’rMarchrawn Mawr. Mae’r Sphenopsidawedi’u rhannu’n bedwar grwp: Hyeniales,Sphenophyllales, Calamitales ac Equisitalesa hwn yw’r unig grwp sy’n fyw heddiw,-ffosilau yw’r lleill i gyd. Tyf y MarchrawnMawr hyd at uchder o chwe troedfedd ahwn yw’r talaf o’r genws ym Mhrydain.

Wedi i ni groesi’r bompren ar draws yrafon Twrch, cawsom ein hunain yn SirGaerfyrddin a’r peth cyntaf a dynnodd einsylw oedd Aethnen (Populus tremula) unigar lan yr afon. Roedd mewn man delfrydolgan fod y goeden yn mynnu cael digon oolau; ni all oddef cystadleuaeth gan goedsy’n taflu cysgod. Mae’n perthyn i’r grwp ogoed a elwir poplys ac, fel pob poplysen,mae’r coed gwryw a’r coed benyw arwahân. Enw Cymraeg arall arni yw Tafod yMerched am fod y dail yn symud mewnunrhyw awel o wynt!

4

Dilyn Afon Twrch Taith gyntaf Cymdeithas Edward Llwyd

8 Gorffennaf 1978Dafydd Dafis

5

O’n blaen, roedd ceunant dwfn a thrabod y rhan fwyaf o’r parti yn cael hoe fach,mentrodd dau ohonom i mewn i’r hafn.Roedd ei ochrau’n uchel a serth, y golau’nwan a lleithder yr awyr yn uchel. Anoddoedd mynd iddo ond cawsom eingwobrwyo pan ddaethom ar draws yRhedynen Gyfrdwy (Osmunda regalis),Gwrychredynen Galed (Polystichumaculeatum), Duegredynen Werdd(Asplenium viride) a’r Gronnell (Trolliuseuropaeus), tair rhedynen ac un llysieuynblodeuog i lonni calon naturiaethwr.

Ar ôl i’r ddau ohonom ymuno â’rgweddill, roedd peth dringo o’n blaen iddod o hyd i’r llwybr sy’n arwain atFfrydiau Twrch. Aeth y llwybr â ni ar drawsllethr gwlyb ac yma gwelsom Gorhedydd yWaun yn codi o’i nyth ac yna’n disgyn ganredeg o’n blaen a llusgo un aden ar y llawrmewn ymdrech i dynnu ein sylw o’r nyth.Rhestrwyd y planhigion oedd yn tyfu ar yllethr hwn fel bod record gennym ohonynt.Roeddent yn cynnwys un planhigynannisgwyl:

Gwlyddyn Mair y Gors (Anagallistenella), Grug (Calluna vulgaris), GrugDeilgroes (Erica tetralix), Creiglus(Empetrum nigrum subsp.nigrum), LlysiauCrist (Polygala vulgaris), HelyglysGorweddodl (Epilobium brunnescens),Briwydden y Rhosdir (Galium saxatile),Gefel-lys y Gors (Hammarbya paludosa),Eurinllys y Gors (Hypericum elodes), Llafn yBladur (Narthecium ossifragum), Melog yCwn (Pedicularis sylvatica), Tafod y Gors(Pinguicula vulgaris), Tresgl y Moch

(Potentilla erecta), Corsfrwynen Wen(Rhyncospora alba), Clychlys Eiddew(Wahlenbergia hederacea). Gan fod ytegeirian bach Gefel-lys y Gors yn unanghyffredin ceir mwy o wybodaeth o’igynefin trwy restru planhigion ychwanegola nodwyd ar y daith gyntaf hon:Sbigfrwynen Goch (Eleocharis quinqueflora),Clwbfrwynen y Mawn (Tricophorumcespitosum), y mwsoglau Scorpidiumscorpioides tebyg i fwydod du!, Sphagnumauriculatum, S.cuspidatum a S.nitens. Mae’rtri olaf o ddiddordeb arbennig am fodGefel-lys y Gors yn aml yn tyfu mewnclustog o figwyn. Hefyd, nodwyd gerllaw’rtegeirian y llysiau’r afu Ricardia pinguis aR.multifida.

Wedi cyrraedd Ffrydiau Twrch lle maedwr yn byrlymu o’r ddaear, dechreuoddfwrw glaw o ddifrif. Erbyn hyn, roedd dauarall wedi ymuno â ni ar ôl cerdded drwy’rniwl dros y mynydd o Benycae ymmlaenau Cwmtawe. Troesom ar ein sodlaua gwneud ein ffordd ar frys trwy’r glawtrwm yn ôl i’r ceir ac ymlaen i’r George IVyng Nghwmtwrch am bryd o fwyd.Yn ysgwrs a gawsom, roedd y grwp am i mibaratoi adroddiad o’r daith ac yn awyddusam ragor o deithiau. Wedi cyrraedd adref,roeddwn wedi penderfynu beth oedd angenei wneud - sefydlu cymdeithas a’i galw ynGymdeithas Edward Llwyd gan ei fod efwedi’i alw ‘y naturiaethwr gorau yn awr ynEwrop’ a chael cylchgrawn a’i alw YNaturiaethwr. Roedd dod i’r fathbenderfyniad yn hawdd; byddai gwireddu’rfreuddwyd yn llawer anoddach.

Ar gais y diweddar Wil Jones, Croesor, ycofnodais daith Cymdeithas Edward Llwydi weld blodau’r mynydd yn ardalBeddgelert ar yr ail ar bymtheg o Fehefin,1995, a chyda caniatad parod Ann, eibriod, y mae’n ymddangos yma.Naturiaethwr oedd Wil a theithiau naturoedd y teithiau a arweinid ganddo - pobtaith wedi ei threfnu’n ofalus, ei wybodaethyn sicr a’i iaith yn goeth. Nid sawl milltir odaith oedd yn bwysig ond sawl anifail, sawladeryn, sawl coeden, sawlblodyn a sawl cen y sylwydarnynt. Cymdeithas i sylwiar gyfoeth byd natur ywCymdeithas Edward Llwydyn ei hanfod, ac er morddifyr yr holl deithiau nidpob taith sy’n cyflawni’rgofynion hyn. Byddai’rteithiau a arweinid gan Wilyn cyflawni holl amcaniony Gymdeithas a phawb arddiwedd y teithiau yngyfoethocach ei wybodaethac yn well naturiaethwr migredaf,

Ddydd Gwener, yr unfedar ddeg ar hugain o Hydref2003, ymunais ag Ann, atheulu a chyfeillion Wil iweld plannu Derwen yngNghoed Llyn Mair gerMaentwrog - ei hoff fangre - i gofioamdano. Bydd y goeden yn tyfu ac ynharddu’r fan ac yn llawn atgofion. Byddplac yno yn dynodi ‘Coeden Wil’. Ewchdraw i Goed Llyn Mair i wylio’r tyfiant.

Troi o’r A4058 ger arwydd MenterCoedwigaeth Cae’r Gors - rhwng RhydDdu a Beddgelert, a chyfeirio i faes parciohwylus. Dyma fan cychwyn y daith oedd i

fynd â ni i Foel yr Ogof i weld rhai oflodau’r mynydd.

Bore digon llaith a thywyll ydoedd - ynsicr nid y tywydd a ddisgwylid ar drothwyGwyl Ifan. Clywn amryw yn darogan glaw,“Glaw mae hi’n addo a gwaeth yn yp’nawn.” Ond “am y tywydd gorau tewi,” adyma gychwyn - dau ar hugain ohonomdan arweiniad Wil Jones, y naturiaethwr oGroesor - heb anghofio cyfraniad Ann eibriod i’r daith.

O’n blaenau ‘roeddMoel Hebog, Moel yrOgof a Moel Lefn ac o’ncwmpas y cymoedd -Cwm Llwy, CwmBleiddiaid, Cwm Llefrith aChwm Meillionen.Cyrraedd ffordd y goedwig- coedwig fytholwyrdd ablannwyd gan y ComisiwnCoedwigaeth. Mae’r fforddtrwy’r goedwig yn ffordddda hawdd i’w cherdded arhoddai hyn fwy o gyfle ini i sylwi ar natur o’ncwmpas ac nid oeddprinder o bethau diddoroli ddenu ein sylw.

Arhoswyd i sylwi aramryw o flodau gwylltion.- rhai cyffredin fel Melog y

Cwn (Pedicularis sylvatica) a’rBlodyn Menyn (Ranunculus acris) ondhefyd mewn pwll bychan gwelsom yrEllesgen (Iris pseudacorus) ac ar ymyl yffordd tyfai Helyglys Seland Newydd(Epilobium nerterioides). Sut yn y byd ydeath y blodyn hwn o hyd i Feddgelerttybed? Gwelwyd Tafod y Gors (Pinguiculavulgaris) a Mefus Gwyllt (Fragaria vesca).Oedwyd hefyd i wrando ar y Troellwr Bach

6

Blodau’r mynyddyn ardal Beddgelert

Elizabeth C. Ellis

Wil Jones, Croesor

(Locustella naevia) y Dryw Eurben (Regulusregulus) a Thelor yr ardd (Sylvia borin)sydd mor debyg ei gân i gân y TelorPenddu (Sylvia atricapilla)

Trwy’r goedwig rhed Afon Meillionen,Afon Hafod ’Ruffydd Isaf ac Afon CwmDu i ymuno ag Afon Colwyn ar ei thaith iFeddgelert. Roedd tir llaith y goedwig yngynefin delfrydol i redyn. Gwelsom RedynMair (Athyrium filix-femina), MarchRedynen (Dryopteris filix-mas) a’r RhedynGwib (Blechnum spicant) sydd â’i goesyn felasgwrn pennog. Er mai coedwigfytholwyrdd yw Coedwig Cae’r Gors,gwelwyd ambell Ffawydden Gopr (Fagussylvatica) â’i dail coch-ddu yn sefyll allanynghanol y gwyrdd.

Cerdded ymlaen nes cyrraedd llecynagored lle ‘roedd llawer o goed wedi eutorri. Dyna pryd y clywyd y gair cinio -gair y mae croeso iddo ar bob taith! Aros, ahawdd fu cael lle i eistedd gan fod ynoddigonedd o fonion coed. O’r awyr rwy’nsiwr yr edrychem fel criw o ddyneddon yn

cael parti. Roedd yn llecyndelfrydol i aros am ginio, onibaii bla o wybed benderfynuciniawa yr un pryd â ni!Taniodd un o’r criw sigâr.Hamlet tybed? Wn i ddim, ondmi wn mai’r ysmygwr hwnnwoedd yr hapusaf yn ein plith ynystod amser cinio.

Wedi’r wledd, ymlaen amychydig cyn troi trwy goed, lle’roedd angen cryn ofal wrthdroedio - ac yna tros gamfa i leagored.Ymlaen ar i fyny atgraig lle tyfai llwyni o Bren yDdannoedd (Sedum rosea).

’Roeddem erbyn hyn islawOgof Owain Glyndwr, ac ‘roeddniwlen ysgafn yn chwarae migrhwng y creigiau a’r ogof eihunan fel pe’n gwgu arnom.Nid aethom i fyny i’r Ogof ondmentrodd nifer ohonom i agennepell oddi tani, ac yn wirdyma uchafbwynt y daith -cyfoeth o flodau mynydd.’Roedd Pren y Ddannoedd yma

eto, ei enw yn cyfeirio ato fel planhigynllesol at boen y ddannoedd. Enw arall arnoyw Rhoslys, sy’n cyfeirio at y persawr a geirwrth wasgu ei wraidd.Yn yr agen hefydtyfai’r Tormaen Serennog (Saxifragastellaris), planhigyn eiddil yr olwg ondrhyfeddol ei wytnwch. Serch ei enw Lladin‘saxum’ yn golygu craig a ‘frango’ - yngolygu torri, go brin y gall ei wreiddiauhollti cerrig. Ers talwm ar sail ei enwLlandin defnyddid ef fel meddyginiaeth atgerrig y bustl.Yn yr ail ganrif ar bymtheghonnid y gallai ei wreiddiau, pe cymysgidhwy a gwin â finegr, wella’r Pla. Gallymwthio ei wreiddiau i’r hafnau culaf ac ynunol â’r Serennog yn ei enw ymddengys eifod yma yn yr ucheldir yn ceisioymgyrraedd at y sêr.

Roedd Tormaen arall yma hefyd, yTormaen Mwsoglyd (Saxifraga hypnoides).Yr ucheldir yw ei gynefin yntau ac mae’ngyffredin yng Nghymru, yn enwedig ynEryri. Ceir ef hefyd yn y Pennines, yn

7

Craf y Geifr (Allium ursinum) ger ogof Owain Glyndwr

8

Ardal y Llynnoedd ac yn yr Alban a gallfyw cyn uched â phedair mil o drodfeddiuwchlaw’r môr. Blodyn gwyn ydyw gydagwawr binc ar ymylon ei flagur.

Tlws hefyd oedd y Rhedyn Corniog neuRedynen y Graig (Phegopteris connectilis).Tyfai’r Eurwialen (Solidago virgaurea) ymahefyd, ond nid oedd eto yn ei flodau. Panflodeua bydd ei flodau euraidd yngwrthgyferbynu â’i gefndir llwydaidd. Bumynd mawr arno fel llysieyn llesol at wellaclwyfau.

Sigla’r Pabi Cymreig (Meconopsiscambrica) ei ben euraidd yn yr awel. Aed âllawer o’r blodyn hwn o’i gynefin i erddi,ond mynnodd llawer ohono ddychwelyd i’rgwyllt. Gwelais ef yn sirioli ymyl y fforddyn Rhyd Ddu ar fy nhaith heddiw.Ynwahanol i bob pabi arall, gwasgar y PabiCymreig ei hadau trwy hollt ac nid fel ofocs pupur.

Tri blodyn arall a welwyd yn yr agenoedd y Gronnell (Trollius europaeus) Surany Mynydd (Oxyria digyna) a’r Arianllys(Thalictrum flavum) a’r cwbl yn werth eugweld.

Wrth gychwyn yn ôl daethom ar drawsllwyni o Graf y Geifr (Allium ursinum)mewn pantle rhwng creigiau. Dyna i chwiolygfa - ei betalau gwyn fel lês gywrain yn

cyhwfan yn yr awel. Teulu’r Garlleg yw’rplanhigyn hwn, ac arferid ei ddefnyddio iroi blas ar fwyd. Rhoddai flas Garlleg arlefrith y gwartheg a’i bwytâi hefyd. Pesathrech y planhigyn gallech arogli Garlleg.Ei enw saesneg yw Ransoms a nododdJohn Ray pan ar ei daith trwy Gymru ardrywydd planhigion yn 1662 mai ar ôl yplanhigyn hwn yr enwyd Ramsay Island, -sef Ynys Dewi ar arfordir Penfro, a hynnyoherwydd fod cymaint o’r blodau hyn yntyfu ar yr ynys.

‘Nôl â ni tros y gamfa i lecyn agored llebu clicio prysur ar y camerau i roi ar gof achadw lun o’r criw hwyliog.

Dychwelyd i ffordd y Goedwig i’wthroedio’n ôl i’r maes parcio, - ond nid ynhollol yr un ffordd chwaith - mae’rGoedwig yn labrinth o lwybrau.

Do wir cafwyd taith hynod ddiddorol acagorwyd cil y drws ar fyd cyfoethogblodau’r ucheldir - a do - fe gadwodd yglaw y bu cymaint darogan amdano - draw.Ni chafwyd dim mwy na rhyw smwc o lawmynydd.

Fuoch chi rywdro yng nghyffiniau OgofOwain Glyndwr? Os byth y cewch y cyfle,peidiwch â’i golli - yn enwedig ym misMehefin.

Pabell y Gymdeithas, Eisteddfod 1993Iris Davies, Iwan Roberts, Joan Dafis, Dafydd Dafis Llun: Brian Evans

Deng mlynedd yn ôl

9

Mae’n rhyfedd darllen yr hen gopïau o’rNaturiaethwr a cheisio cofio ar ba daith ybum ac ar ba ddyddiad. Mae’n wir bodaml i daith wedi’i gwneud droeon ond maerhyw newydd-deb ynddynt bob tro.Mae sawl taith o dan arweiniad y diweddarDilwyn Roberts yn dod i gof, fel yr un ym1988 ar Gefn Sidan, a’r cerdded i weldolion y llong Paul ar Ben y Tywyn. Fel ygwyr llawer, nid traeth syth yw Cefn Sidanond un tro hir a’r terfyn byth yn y golwga’r cerdded hir yn ôl i’r maes parcio ahynny cyn dyfod y dyddiau blin a’r talu amfynd i’r traeth.

Ond yr amser gorau o fod gyda Dilwynoedd yn nechrau’r 80au ac ar y troeon panwelwyd y gwr hwnnw yn ei elfen yncofnodi adar Dyffryn Tywi yn enwedig, ygwyddau gwylltion. Anodd yw dychmygugwell golygfa na thros 3000 o’r gwyddautalcen gwyn (Anser albifrons albifrons) ynhedfan dros gastell Dryslwyn, ar ôl codi o’rmeysydd pori rhwng Ro Fawr a Thw Pica.Daeth tro ar fyd, ac am amryw o resymauprinhau wnaethant hyd at 1998 pan naddaeth yr un teulu yn ôl.

Wn i ddim sawl tro y bu Ken Maddocksâ thaith i lawr Ogof Ffynnon Ddu ond, arun yn unig y bum i. Roedd y cerdded ilawr yn weddol hawdd trwy’r agenni culyng ngolau’r lamp ond y cerdded yn ôloedd waethaf. Roedd pob gris fel mynydd

yn y mwrllwch du ac erbyn cyrraedd golaudydd, roedd coesau pawb yn codi’nawtomatig ac felly y bu am bron i wythnos.

Wrth drefnu taith, rhaid cofio bron ynddieithriad, bod yn rhaid dod yn ôl i’r mancychwyn. Da y cofiaf y cyfarfod ger Penlle’rCastell rhwng Rhydaman a Chlydach yn’83 a thaith i lawr yr afon Clydach ganolrhain yr hen ddiwydiant glo ac wedyn ynôl i’r ffordd fawr a’r Filltir Fain o’nblaenau. Roedd rhan olaf y daith yn unionfel hen lun o fyddin Napoleon yndychwelyd o Foscow - un llinell hir o’rblinedig rai.

Ac o sôn am ddod yn ôl i’r dechrau, butaith o Gefn Cribwr i’r Twmpath Dilwithuwch ben Maesteg pan gollwyd yrarweinydd (ni chofiaf ei weld ar daithwedyn) a rhywsut cael hyd i lwybr oedd ynmynd i lawr drwy’r coed. Rhyfeddod mawri bawb oedd ein gweld yn nrws cefnOrendy Margam a’r cerbydau yng NghefnCribwr!!

Diddorol yw gweld yn Rhifyn 4 o’rNaturiaethwr, hysbysu taith ar 8 Tachwedd1980 - ‘Creigiau a Mwynau Manod’.Llinell hyfryd o gynghanedd sain! Anoddyw credu mai ar ddamwain ei lluniwyd acfelly dyma her,- englyn i gynnwys y llinellhon.

Cofio’r LlwybrauHarri Williams

Ein dymuniadau gorau i Harri, fel Cadeirydd newydd Cymdeithas Edward Llwyd.

10

tYR YMDDIRIEDOLAETH GENEDLAETHOL CYMRUTHE NATIONAL TRUST WALES

Llongyfarchiadau i'r Naturiaethwr ar eibenblwydd yn 25 oed!

Os hoffech ein cefnogi neu ymuno â ni,

ffoniwch: 0870 458 4000

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yngwarchod dros 43,000 hectar (107,000 o aceri) o gefn gwlad yn ogystal â dros 137 milltir oarfordir yng Nghymru. Yr YmddiriedolaethGenedlaethol yw'r corff cadwraeth mwyaf yn Ewrop.

11

Atgofion am a fu(Dyledwr wyf)

Gwyn Jones (Gwyn Pen y Garn)

Drycin a’m gyrrodd i babell CymdeithasEdward Llwyd ar faes yr EisteddfodGenedlaethol yn Abergwaun ym 1986.Cael fy hun mewn pabell fach gyda gwra’m hamddifadodd o bum punt heb ddimtrafferth a finnau’n credu y cawn ynoloches di-dâl. Byddwn yn arfer cyfarfodDafydd Dafis yn Rali Flynyddol AdranAllanol y Brifysgol cyn iddo sefydlu’rGymdeithas, yntau’n hyfforddwrdosbarthiadau a finnau’n ysgrifennyddDosbarth Pen y Garn am tua ugainmlynedd. Cefais gyfle i barhau f ’addysgyng nghwmni’r cymeriadau crwn ydeuthum i’w nabod yn rhengoedd yGymdeithas, gan ddechrau trwy ddilynBrian Evans, yr ysgrifennydd ymroddgar, iben Pumlumon Fawr. Nid oedd ond ynrhaid gwrando ar haearn yn hogi haearn i

elwa’n fawr a hynny mewn cwmni diddan adireidus. Ddoe ddiwethaf, Aled Jones,mathemategwr, seryddwr, hanesydd yndyfynnu Wittgenstein yr athronydd ymMelin y Coed, Llarnwst. Deuthum ynymwybodol o faint y gymwynas yr oeddolynydd Twm Sion Cati, (onid oedd yrogof yn gyfleus iddo ger Rhandirmwyn?)wedi’i gyflawni wrth fynd â’m pum puntoddi arnaf i ddyn braidd ar chwâl, ar ôlymddeol ond cwta ddwy flynedd ynghynt.

Gallaf ddweud na fu fawr o Sadyrnau arun adeg, pryd y byddai taith neu waith, nafyddwn wedi fy machu yn y tresi rhywlerhwng Mynydd y Rhiw a Mynydd y Gwair.Ni fu’n edifar gennyf chwaith fentro morbell â Llanilltud Fawr yn y Fro, nachroesi’r ffin ddwy waith i Sir Amwythiggyda’n Golygydd galluog i astudio corsyddac i droedio’r Long Mynd. Symbylodd hynfi i fynd yn ôl i Wenlock Edge yng ngwladA E Houseman ac i’r Stiperstones.

Buom ar goll mewn niwl ar y MynyddDu ond gan fod Dewi Caerfyrddin gyda ni,buan iawn y daethom o hyd i’r ‘bwlch tuathref’. Cymerodd fwy o amser i ni ddodtrwyddi ar Fynydd Hiraethog cyn dod ohyd i’r hyn sy’n cyfateb i’r Hafod Lom.Bum yn cellwair efo Norman Closs Parry aHari Huws gan edmygu eu gallu ibroffwydo dyfodiad y Gwanwyn i HafodElwy lle ces ‘eira’n uwch na chynffonbuwch’ heb gymorth y benllwyd neu‘bydd-byw-yr-eidion-du’ sef blagur plu’rgweunydd. Clywais ymadrodd tebyg am ymilfyw gan John Cae’r Gof, y Foel,hanesydd y cawsom ein goleuo ganddo arlawer i daith gan gynnwys hanes y Crynwyrym Maldwyn. Tra’n sôn am John, dawcyfraniad dau hen gydymaith iddo aninnau i’r cof: ‘Olion ddoe ddadlennoddin/A nefoedd ein cynefin’ o gywydd coffa iJohn Huw,Y Plasau ac ‘Yn y wlad ysgolydoedd/Yn ei gwm dysgedig oedd’ i’wgymydog Tom yr Erw, Llanymawddwy ganaelod arall, y bardd/amaethwr TegwynJones.

Er nad wyf yn fotanegydd, cefais grap argymunedau o blanhigion yr ucheldir,diolch yn bennaf i’r ecolegydd, Dr R ElfynHughes a chefais fudd o ddilyn IorwerthEllis Williams i Gwm yr Afon Goch iastudio effaith pori ac o ddilyn yr hen Wil,

Emrys Evans yn traethu ar daith Cylchu’r ManodMawr, a’r awdur yn gwrando.

12

Croesor i’r Arddu, Cnicht, a Chadair Idris.Gwnes ymdrech i helaethu’m gwybodaetho blanhigion neilltuol trwy ddilyn MaldwynThomas i’r Gadair i weld y tormaen cochar ddiwrnod gwlyb trybeilig; Dafydd Dafisi Melin Cwrt, Resolfen i weld rhedyn prinac Iwan Roberts i Lanarmon yn Iâl i weldplanhigion y garreg galch. Bum hefyd yngNghwm Idwal yn gweld planhigion EdwardLlwyd a chofiaf ddarllen am yr Athro JohnLloyd Williams yn mynd â myfyrwyr yno ogwmpas y Pasg. Daethant i lawr o’rmynydd ar eu cythlwng i gael te mewnbwthyn ger Llyn Ogwen. Ceisiai’r Athroffraeth brysuro’r hen wraig yno i wneudpethau ynghynt ond cafodd ei atgoffaganddi nad oedd yn rhaid prysuro ond iwneud un peth, sef dal chwannen.

Dylwn gydnabod goddefgarwch apharodrwydd y mwyafrif o aelodau’rGymdeithas i’m derbyn i’r seiat, ergwaethaf f ’ymdrechion i sicrhau dyfodol i’rfferm deuluol ar yr ucheldir. CofiafWilliams Condry yn cellwair y dylai’rGymdeithas deimlo’n bryderus ‘am i milwyddo i ymdreiddio i’w rhengoedd’.Cawsom ‘ryddid Ynys Hir’ ganddo yngnghysgod Iwan, y mab hynaf ac aelod o’rRSPB ar ôl i ni fod yno fel teulu yn torri allosgi’r ‘rydidendrons’ chwedl Twm Elias.Dylwn nodi ei farn digamsyniol ar gyfer ynaturiaethwyr hynny nad ydynt eto’nwladwyr, bod yn rhaid llosgi grug. Bu’nholi am y gair hirlwm ac anfonaisgyfieithiad bras o englyn y Cilie iddo acawgrymu bod ‘the long tarrying of winter’gan ei gyfaill R S Thomas yn berthnasol.

Bum ar bymtheng niwrnod gwaith, llainag un y flwyddyn ar gyfartaledd. Torribrwgaets yn Niwbwrch a Chors Geirch a’r‘rydidendrons’ ym Mhlas Tan y Bwlch aNant Gwynant; plannu morhesg ar ForfaHarlech a choed yn Nhalgarreg a dinoethichwareli yn Llandeilo a Llangadog.Adeiladu giat mochyn yn Nhremadog aphompren yn Chwilog o dan gyfarwyddydDafydd Hughes, Ty Croes Bach, Rhiw a’rhen Wil, Efail Rhos yn hwsmon. Cefaiswahoddiad i Dy Croes Bach i godi’rnenffyrch amser ail godi rhan o’r ty ffermyn yr hen ddull. Bellach mae’r tai allan yno

wedi’u toi â hesggan gynnwys sgubornewydd, lle gallplant ddod iymarfer trin coedgyda hen offer.

Ni cheir y melysheb y chwerw achefais ysgytiad gerLlannerch-yrfa ganmai fi oedd yr olaf isiarad ag Emrys

Harries a’r cyntaf i’wddarganfod wedisyrthio’n farw ar

daith i’r Drygarn Fawr o dan arweiniadDafydd Dafis. Gwasgarwyd ei lwch ar daithgyda’i gyfaill Arwel Michael o Gwm Gieddi’r Tyle Garw ar y Mynydd Du ger carreglle byddai Emrys yn hoffi mynd am dro,‘Carreg Emrys’ erbyn hyn. Bellach, mae’rhen Howard Lloyd wedi ein gadael onddaliaf i glywed ei lais yn dyfynnu Landor ini uwch Llanthony, Henry Vaughan, ySiluriad yn Nhre Tyr ac yn adrodd hanesCarnhuanawc, un o ‘Hen Bersoniaidllengar’ a Bedwyr Lewis Jones yng NghwmDu. Gwelsom gerrig beddau ym Mhatrisioa Chwm Iou wedi’u lliwio o lysiau gandeulu’r Brute sy’n dal i amaethu yn yrardal. ‘Et tu Brute’, yn ôl Howard i gofio’renw. Gogwyddai hen eglwys Cwm Iou ibob cyfeiriad ond, yn ôl adroddiad ycynllun atgyweirio yn y cyntedd, ‘thechurch is now at rest’. Byddai Howard aminnau’n cwyno am hen arferiad gwarthusDafydd a Dewi o ddiflannu ar ambellSadwrn i ddilyn cwrs daeareg yn Abertawe.Buom yn dyfalu a oedd cydberthynascadarnhaol rhwng hyn a’r amseroedd ybyddai Llanelli yn chware Abertawe? Tabeth, bod ‘too much yn ormod, oedd ydyfarniad ar y daeareg’.

Cyngor Dewi, yr hen gerddwr cadarn aphrofiadol, i mi yng Nghwm Wysg efoHywel Price ar ôl i mi gwyno i’m cefn,oedd ‘wado bant’ ac mae’n werth yrymdrech i fwrw mlân a cheisio dal atiymhlith aelodau gwerinol, goleuedig a gwâry Gymdeithas.

Tom Llwyngwilym gyntac Erw Garegog wedyn,yn cofnodi, yn ôl ei arferefo’i bwt o bensil

13

Argraffiadau o’r dathluyn Rhydychen

Bethan Wyn JonesTalwrn,Ynys Môn

Ar un olwg roedd mynd i Loegr i ddathlupen blwydd Cymdeithas sy’n edrych arryfeddodau naturiol Cymru yn ddewis od.Eto, credaf fod penderfyniad aelodau’rGymdeithas i fynd i Rydychen i ddilyn ôltroed Edward Llwyd yn un cywir. Rhywbedwar dwsin ohonom ni fentrodd i Golegyr Iesu i ymuno yn nathliadau’rGymdeithas, a braf iawn oedd cael cyfle iweld rhai hen gyfeillion ac i gyfarfod â rhainewydd.

I Goleg yr Iesu, Rhydychen yr aethEdward Llwyd pan fu farw ei dad yn 1682,ac yntau’n ddwy-ar-hugain oed, ac roeddyn brofiad gwych cael cyfle i aros yngNgholeg yr Iesu a cheisio dychmygu sutroedd hi yno yn nyddiau Llwyd. Mae’n burdebyg fod y capel yn ddigon tebyg i’r hynydyw heddiw - yn gymharol fach a’r setilawn mor galed ag unrhyw sêt capel mewnunrhyw le o addoliad yng Nghymru. Ermwyn i Llwyd gael derbyn addysgprifysgol, roedd yn rhaid iddo fod yn aelodo’r Eglwys Anglicanaidd ac roedd ynorfodol i’r myfyrwyr fynychu oedfa ar ySul. Ond tybed ble roedd meddwl Llwydyn crwydro wrth syllu ar y ffenestri lliw ynystod yr oedfa? Mi wyddom nad oedd o’nderbyn athrawiaeth y Beibl am y dilyw erenghraifft, ac mae’n bur debyg fod eiwybodaeth am anifeiliaid, planhigion affosiliau eisoes yn ddigon eang i beri iddoddechrau meddwl am ddamcaniaethaugwahanol i’r creu.

Roedd Edward Llwyd yn fab i BrigetPryse, Glanfrêd - un o deulu enwogGogerddan ac Edward Lloyd, Llanforda,

Croesoswallt. Cafodd ei fagu gyda theuluei dad yn Llanforda, ac yn ifanc iawn mifyddai wrth ei fodd yn trampio’r ardal i

chwilio amblanhigion affosiliau. Mae’nfy atgoffa ibraidd o hanesy CarlLinnaeus ifancgan fod hwnnwhefyd o’r unanian ac yngwirioni ardeitho’r wladyn rhydd ichwilota achasglu. Mae’ndebyg fodEdward Llwydhefyd wedi dodo ddan

ddylanwad y botanegydd Edward Morgan,Bodysgallen ac mae sawl hanesyn amdanoyn crwydro’r wlad o gwmpas ei gartref yncasglu a chofnodi.

Cwta flwyddyn fu Edward Llwyd yngNgholeg yr Iesu cyn iddo fo gaelgwahoddiad gan Elias Ashmole ei hun iweithio’n ei amgueddfa newydd ynRhydychen. Erbyn heddiw, y ‘Museum ofthe History of Science’ ydi’r Hen Ashmolean,ond mae’r adeilad fwy neu lai fel roedd oyn nyddiau Llwyd. Stephen Johnston o’ramgueddfa roes gyflwyniad i ni ar sut leoedd yna yng nghyfnod Llwyd a beth syddi’w weld yno heddiw.

Fel rhan o ddathliad Cymdeithas Edward Llwyd yn 25 oed eleni, aeth rhyw 50 o’r aelodau ar ymweliad â Rhydychen i ddilyn ôl troed Edward Llwyd. Dyma ddau adroddiad yn

cofnodi’r un profiad trwy lygaid gwahanol.

Ffiolredynen Frau (Cystopterisfragilis) Rhan o gasgliad Llwyd.Trwy ganiatad Fielding-Druce,Herbarium, Rhydychen

14

Roedd Elias Ashmole wedi etifedducasgliad John Tradescant a’i fab oedd ynarddwyr i’r goron ac yn wyr oedd wediteithio a chasglu’n helaeth. Felly rhwngcasgliad Ashmole ei hun a chasgliadTradescant roedd yna gryn dipyn o waithrhoi trefn ar bethau, ac yn yr henAshmolean y dechreuodd Edward Llwydwneud hynny.

Tri llawr sydd yna i’r adeilad, ac ar yllawr ucha mae’n debyg oedd yr ystafell bledechreuodd Llwyd weithio yn 1683.Ynddifyr iawn, mae gwaith atgyweirio wedicael ei wneud yno yn ystod y blynyddoedddiwethaf, ac yn y llwch dan un o’r lloriau,fe ddaethpwyd ar draws darn o seren fôrhefo rhif arni. Mae’n wybyddus fod ganLlwyd ddiddordeb byw yn yrEchinodermata a thybed oedd hon ynsbesimen o un o’r casgliadau y buodd o’ngweithio arnyn nhw?

Yn nghyfnod Edward Llwyd, labordycemeg oedd yn y seler ac ystafell i edrychar ryfeddodau byd natur ar y llawr cyntaf.Da oedd deall fod y cyhoedd, sef ffermwyrcyffredin o’r ardal o gwmpas Rhydychen,yn arfer galw i fewn ar ddiwrnod marchnadi weld y rhyfeddodau. Roedd rhai yngwaredu at yr arferiad yma, ac yn synnu’n

fwy fyth eu bod yn gadael merched hyd ynoed i fewn yno!

Ond nid lle i astudio, trefnu, ymchwilioa chatalogio yn unig oedd yr Ashmolean yny cyfnod yma. Roedd o hefyd yn fan bleroedd myfyrwyr yn cael eu dysgu, ac mifyddai Llwyd wedi bod yn rhan anhepgoro’r dysgu a’r ymchwilio yn ogystal â’rcatalogio.Yn yr ail ganrif-ar-bymtheg roeddyr Hen Ashmolean ar flaen y gâd osafbwynt arloesi ym myd ymchwil a dysguam wyddoniaeth ac fe barodd y drefn ymao ddysgu ac ymchwilio am tua dau ganmlynedd.

Dr Robert Plot oedd ceidwad cyntaf yramgueddfa ac fe benododd Llwyd yn is-geidwad ar yr amgueddfa yn 1687. Llwydhefyd wnaeth ei ddilyn fel Ceidwad yramgueddfa yn 1691 - swydd roedd o wedibod yn ei llygadu ers tro. Dydi hi ddimcyfrinach fod Edward Llwyd wedi bod ynhynod o feirniadol o Plot yn ystod eiflynyddoedd olaf, serch mai Plot oedd wedirhoi ei gyfle cyntaf iddo ac wedi bod ynfentor iddo am sawl blwyddyn.

Yn ogystal â gweld copi o’i lyfr fegafwyd cyfle i weld peth o gasgliad Llwydei hun yn Amgueddfa Byd Natur yBrifysgol.Yno ein harweinydd oedd Mr

Rhan o gasgliad Llwyd o ffosiliau.

15

Paul Geoffrey oedd yn ddigon caredig igasglu at ei gilydd ran o gasgliad Llwydmewn llond dau gâs gwydr. Fe nododd fodLlwyd yn hoff iawn o fynd ar deithiau iwneud gwaith maes a chasglu ei hun acamryw o’r teithiau hynny i Gymru.

“He was a man very much ahead of histime,” meddai Paul Geoffrey am Llwyd,gan nodi mai ychydig iawn o’r 1766 offosiliau y gallai eu harddangos i ni.Hyfrydwch oedd cael cyfle i weld llyfrLlwyd oedd yn trafod ffosiliau o Brydainac a gyhoeddwyd yn 1699, a rhaid cofiomai 120 o gopïau a gyhoeddwyd ynwreiddiol. Gyda llaw, roedd o wedi eiysgrifennu (mewn llawysgrifen ynnaturiol!) mewn Lladin, ond mae eiddisgrifiadau o mor gywir fel fod moddadnabod y ffosiliau roedd o’n cyfeirio atynnhw hyd yn oed heddiw.

Cafwyd cyfle i ymweld â LlysieufaFielding/Druce yn Rhydychen ble mae rhaio’r planhigion a gasglwyd gan Llwyd yncael eu cadw. Difyr oedd edrych ar unenghraifft a gweld fod yna nodyn wedi eisgrifennu yn Gymraeg yn nodi mai’r fan ycasglwyd o oedd ar “Clogwyn Du yn yrArddu - Snowdon”, ac wedi cael eiarwyddo “D. Lloyd”. Mae’n debyg ei fodyn arferiad yn y cyfnod hwnnw i alwunrhywun oedd wedi bod yn gweithio acyn dysgu’n y brifysgol yn ddoctor o rancwrteisi ac fel arwydd o werthfawrogiad o’rgwaith roedd o’n ei wneud. Dyna’r ‘D’ oflaen y Lloyd.

Amheuthun hefyd oedd gweld rhan ogasgliad Tradescant yn yr Ashmolean

Newydd, sef y casgliad y bu Llwyd yngweithio arno. Mi gawsom ni hefyd weld ycatalogau luniwyd gan Llwyd yn ystod ycyfnod cynnar dan gyfarwyddyd Dr RobertPlot, yn ogystal â ‘Llyfr y Noddwyr’, blemae’r unig lun hyd y gwyddom ni oEdward Llwyd.

Mi fu Edward Llwyd farw o niwmoniayn 1709 ac yntau’n ddim ond 49 mlwyddoed - niwmonia roedd o wedi ei ddal drwy

weithio’n rhy galed a chysgu ar wely tampyn yr Hen Ashmolean, yn ôl pob tebyg.

Roedd yn wych cael cyfle i ymweld âRhydychen i weld ble roedd o wedi byw,meddwl, casglu, catalogio, ymchwilio adysgu, ond i mi be sy hyd yn oed yn wellydi fod y Gymdeithas sy’n arddel ei enw yndathlu ei phen blwydd eleni yn bump-ar-hugain oed. Mae’r diolch am hynny ynbennaf i Dafydd Davies, Rhandir Mwyn,oedd yn Rhydychen hefo ni ac oedd ynrhan mor allweddol o’r dathlu.

Coleg yr Iesu, Rhydychen

Drws y Dwyrain, yr Hen Ashmolean, Rhydychen

16

Dathlu Jiwbili Arian Ymweliad y Gymdeithas â Rhydychen

18-20 Awst 2003Dafydd Dafis (Llywydd Cymdeithas Edward Llwyd)

I goroni’r flwyddyn bwysig hon yn hanesCymdeithas Edward Llwyd, penderfynwydymweld â Choleg Iesu, Rhydychen, lle buEdward Llwyd yn fyfyriwr ym 1682 ac aadnabyddir fel y ‘Coleg Cymreig’.Roeddem yn awyddus i weld lle bu Llwydyn byw am y rhan helaethaf o’i fywyd ganweithio yno a marw yno. Gadawyd y cyfano’r trefniadau cymhleth yn nwylo MalJames - mae ein dyled yn fawr iddo.Dymunol iawn oedd cael 47 aelod ar yrymweliad a’u bod hwy wedi’u rhannu bronyn gyfartal rhwng gogledd a de Cymru.

Wedi cyrraedd Coleg Iesu ar brynhawndydd Llun, 18 Awst, manteisiodd niferohonom ar y cyfle i grwydro o amgylch ycoleg. Cawsom weld capel (1621) y coleg,un o’r enghreifftiau gorau sydd obensaerniaeth grefyddol Jacobeaidd.Agorwyd drysau’r Neuadd Fawr lleroeddem i gael ein prydau bwyd; mae’nenghraifft ardderchog o hen neuaddaucoleg gyda’i nenfwd wedi’i foldio a’ibaentio, waliau yn addurn o baneli a nifero luniau sy’n cynnwys portread o Syr JohnRhys (1840-1915) a fu’n brifathro arGoleg Iesu o 1895-1915, y bachgen tlawda anwyd ym mwthyn Aberceiro Fach wrthdroed Pumlumon yng Ngheredigion ond, adyfodd i fod yn ysgolhaig a ieithydd enwog.Roedd yr amser a gawsom yn llyfrgell ycoleg yn rhy fyr o lawer o ystyried ydrysorfa o lyfrau oedd yno. Un llyfr addangoswyd i mi oedd HistoriaConchyliorum.Yr awdur oedd Martin Listerac ym 1685, cyflwynodd ei gasgliad ogregyn i’r hen Amgueddfa Ashmole ynogystal â thros fil o’r darluniau gwreiddiolohonynt a wnaethpwyd gan ei ddwy ferchSusannah a Mary ar gyfer y llyfr.Cyflwynodd Llwyd ei gopi ef o’rConchyliorum i Goleg Iesu a dyma’r llyfr a

welais i. Gerllaw’r coleg mae Eglwys SantMihangel. Aethom i mewn a mynd i’r AleGymreig gan fod Edward Llwyd wedi’igladdu oddi tani ym 1709. Nid oes unrhywarwydd ar y muriau fod Llwyd wedi’igladdu yn yr eglwys. Wedi swper ar eindiwrnod cyntaf yn Rhydychen, aethom iYstafell Habakuk i wrando ar Simon aMererid Moffett yn sôn am eu profiadaufel myfyrwyr yn Rhydychen, Mererid yngNgholeg Somerville i ferched a Simon yngNgholeg Iesu. Ar ôl priodi, aethant i fyw ynCrundale ger Hwlffordd yn Sir Benfro.

Bore trannoeth, aethom ar daith fer ogwmpas y colegau. Rhannwyd ni yn ddaubarti a chawsom ddau dywysyddproffesiynol i’n tywys. Mynd yn gyntaf iTheatr Sheldon a adeiladwyd ym 1664-70gan Syr Christopher Wren.Yma y cynheliry seremoniau graddio a’r cyfan trwygyfrwng yr iaith Ladin. Cawsom olwg arLyfrgell Bodley. Hon yw prif lyfrgellPrifysgol Rhydychen ac mae’n un o’r rhaimwyaf, mwyaf cyfoethog a hynaf yn y byd.Cafodd yr hawl ym 1610 i gael copi o bobllyfr a gyhoeddir ym Mhrydain ac felly,daeth yn llyfrgell hawlfraint gyntaf; maepump ohonynt erbyn hyn gan gynnwysLlyfrgell Genedlaethol Cymru.

Aethom heibio i dy’r seryddwr EdmondHalley yn New College Lane; mae’n wrenwog am iddo broffwydo y byddai comedeto i’w gweld ym 1758.Yng Nghapel yColeg Newydd (1379!), buom yngwerthfawrogi ac yn rhyfeddu at drysorau’radeilad - y ffenestri lliw o’r saith rhinwedd,cerflun Lasarus gan Epstein, llun Sant Iagogan El Greco a crosier William deWykeham, Esgob Caerwynt

Yn y prynhawn, aethom ar daithgerdded i hen Amgueddfa Ashmole lle bu

17

Llwyd yn Geidwad; erbyn hyn, fe’i gelwiryn Amgueddfa Hanes Gwyddoniaeth. Honyw’r amgueddfa gyhoeddus hynaf ymMhrydain - agorwyd ym 1683 pan oeddLlwyd yn fyfyriwr yng Ngholeg Iesu ac, ynei amser ef, gelwid hi yn AmgueddfaAshmole.Yn awr, mae ynddi offergwyddonol sy’n dyddio’n ôl i amser maith;maent yn cynnwys: astrolabau watshis achlociau, offer meddygol a bwrdd duEinstein. Cawsom ein croesawu gan yceidwad, Dr Johnston ac aeth â ni i fyny’rgrisiau i’r ystafell lle bu Llwyd yn treuliollawer o’i amser. Soniodd am y newidiadaui’r amgueddfa ers dyddiau Llwyd, ydefnydd a wneir ohoni yn awr ac yn ygorffennol. Crwydro wedyn drwy’ramgueddfa i weld offer gwyddonol sy’ndyddio’n ôl mor bell â’r nawfed ganrif.

Treuliwyd gweddill y prynhawn ynAmgueddfa Byd Natur PrifysgolRhydychen.Yn yr adeilad hwn, maecasgliadau swolegol, daearegol,entomolegol a mwynyddol i ddiddori’rymwelydd.Yr hyn sy’n eich taro ar unwaithwrth fynd i mewn yw deinosor deugaintroedfedd o hyd ac un lleol yw.Yrarddangosion o ddiddordeb arbennig iaelodau’r Gymdeithas oedd dau gasarddangos o ychydig o ffosilau Llwyd gangynnwys yr ail argraffiad o’i lyfr ar ffosilauLithophylacii Britannici Ichnographai, ycatalog cyntaf o ffosilau a gyhoeddwyd ymMhrydain. Roedd yr argraffiad cyntaf ynLladin ond yr ail yn Saesneg; y llall oeddcas gwydr o’r ysgerbwd mwyaf cyflawn o

ddyn Paleolithig ym Mhrydain ygwyddys amdano (camenwyd‘Dynes Goch Pafiland’). LleolirOgof Pafiland ar lan y môr ym MroGwyr.Y noson honno, daeth PhilipPowell, cyn Is Geidwad AdranDaeareg yr amgueddfa a oeddnewydd ymddeol, i draddodi darlithi ni ar hanes yr amgueddfa.Gofynnodd Marian Davies oDycoch, Abertawe iddo ar ddiweddei ddarlith: “Pryd allai Cymruddisgwyl cael yr ysgerbwd yn ôl?”Ni fodlonwyd yr un ohonom gyda’iateb!

Dydd Mercher, 20 Awst, rhaidoedd brysio i Ardd Fotaneg Rhydychen arlan yr afon Cherwell lle cawsom gyfle ifwynhau amrywiaeth eang o goed, llwyni ablodau o fewn golwg i dwr ColegMagdalen. Brysio eto wnaeth ychydigohonom o’r ardd i ymweld ag AdranGwyddorau Planhigol lle cedwir rhai o’rplanhigion a gasglodd Llwyd ac a welir ynHerbariwm Fielding/Druce yno. Da oeddgweld y planhigion mewn cyflwr da trichan mlynedd wedi’u casglu, rhai ohonyntyn brin iawn o fynyddoedd Eryri, fel: Derig(Dryas octopetala), Tormaen yr Eira(Saxifraga nivalis) a Choredynen Alpaidd(Woodsia alpina).

Yna, anelu at Amgueddfa Ashmole llecroesawyd ni gan Dr Arthur MacGregor.Aeth â ni i Ystafell Tradescant, ystafell ybyddai gan Edward Llwyd gyfrifoldebcuradurol drosti pan oedd yn yr HenAshmole.Yn ei anerchiad, talodd deyrngeduchel iawn i Llwyd gan ei ddisgrifio fel uno’r goreuon a welodd Prifysgol Rhydychen.Dangosodd rai o gatalogau llawysgrifolLlwyd i ni. Roedd wedi casglu’r rhain panoedd yn cynorthwyo Dr Robert Plot,ceidwad cyntaf yr Ashmole; Llwyd a’idilynodd fel ceidwad. Gwelsom hefyd Llyfry Cymwynaswyr.

Dilyn Edward Llwyd, Rhydychen, 2003

18

Y frân goesgoch(Pyrrhocorax pyrrhocorax)Mae’r frân goesgoch yn aderyn prin sy’nprinhau yn Ewrop ac, o ganlyniad, mae’ncael ei hamddiffyn yn unol ag Atodiad 1Cyfarwyddeb CE 79/409/EEC (GwarchodAdar Gwyllt). Mae’r aderyn enigmatig hwnar y rhestr ambr yng Nghymru a Lloegr feladeryn o bryder cadwraeth, ac wedi’i restrufel prif rywogaeth bioamrywiaeth danAdran 74 y Ddeddf Cefn Gwlad a HawliauTramwy yng Nghymru a rhywogaethLBAP* trwy’r rhan fwyaf o Gymru.

Aelod o deulu’r frân yw’r frân goesgoch.Gellir gwahaniaethu rhyngddi â brain erailloherwydd ei phig coch, crwm, trawiadol, eichoesau coch a’i phlu du gloyw.

Roedd gynt yn gyffredin yn y DU, ondgwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer yfrân goesgoch yn ystod y ddeunawfedganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac,erbyn hyn, mae wedi’i chyfyngu iboblogaethau ynysig yng Nghymru,Cernyw, Gogledd Iwerddon a’r HebridesMewnol.

Yn ôl yr arolwg diweddaraf yn 2002,mae 262 o barau yng Nghymru, sy’ncynrychioli tua 75% o boblogaeth Prydain,a chynnydd poblogaeth fridio o 40% ers1982. Mae hyn yn cymharu’n ffafriol â’r142 pâr ym 1982 a 177 pâr ym 1992.(Thorpe a Johnstone, 2003). Nodcychwynnol yr arolwg oedd nodi nifer yparau bridio er mwyn cadarnhau statws

Gweithio dros y frân goesgochyng Nghymru

Dave Lamacraft ac Adrienne StratfordSwyddfa Gogledd Cymru RSPB Cymru, Maes y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2DW

19

cadwraeth y frân goesgoch yng Nghymru.Mae ei statws rhestr ambr yng Nghymrua’r DU yn adlewyrchu’r ymateb cadarnhaoli adfer cynefin ac yn dynodi prydercadwraeth cymedrol. Cysylltir y frângoesgoch gydag amrywiaeth o gynefinoeddnaturiol, lled-naturiol ac amaethyddol llemaent yn bwydo ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n byw mewn tail a phridd ac ynddibynnol iawn ar reolaeth tir i ddarparuamodau bwydo addas.

Prosiect Adfer Cynefin y FrânGoesgochCyllidwyd y prosiect tair-blynedd, ynrhannol, gan raglen Amcan Un yr UndebEwropeaidd o Ebrill 2000 i Fawrth 2003.(Y dull sylfaenol oedd gweithreduamrywiaeth o gamau eiriolaeth, rheoli tir,rheoli profion a monitro yn canolbwyntioar 19 Ardal Allweddol (gweler Map 1),sydd wedi’u dewis oherwydd eupwysigrwydd i’r frân goesgoch, er mwyncynnal a chadw’r cynefinoedd hyn ar eucyfer).

Rheoli CynefinNodwyd prosiectau yn y cynlluniau rheoliArdaloedd Allweddol a’u gweithredu wrth igyfleoedd godi. Roedd prosiectau’namrywio ac yn cynnwys rheoli rhedyn,adfer cloddiau a gwaith cyfalafol ar adfertir pori.

Gweithio mewn partneriaethGweithredwyd y prosiectau gydagamrywiaeth eang o bartneriaid oedd yncynnwys ffermwyr unigol, yrYmddiriedolaeth Genedlaethol, AwdurdodParc Cenedlaethol Eryri, Cyngor CefnGwlad Cymru, Cyngor Sir Ceredigion,Prosiect Rhostiroedd Byw Sir Benfro aGrwp Astudio Brân Goesgoch Sir Benfro.

Lluniwyd cynlluniau rheoli ar gyfer pobun o’r 19 Ardal Allweddol gan nodiblaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Cafoddcynefinoedd eu rheoli trwy gyllidoprosiectau’n uniongyrchol neu trwyddylanwadu ar ddulliau rheoli sefydliadaua chynlluniau eraill e.e. Tir Gofal, yr

Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ChyngorCefn Gwlad Cymru.

Y Frân Goesgoch yn ChwarelPenmaenmawrBu gweithwyr mewn chwarel yng NgogleddCymru yn helpu i sicrhau safle nythupwysig i’r frân goesgoch yn ystod 2002 a2003.

Mae’r frân goesgoch wedi bod yn maguyn chwarel Penmaenmawr ersblynyddoedd, ond roedd y nyth yn darged

Castellmartin

Marloes

Tyddewi

De Ceredigion

Canol Ceredigion

Gogledd Ceredigion

Craig yr Aderyn

CanolbarthCymru

CilanAberdaron

Trefor

Nantlle LlanberisYr Wyddfa

Blaenau Ffestiniog

Ynys Lawd

Gogledd Môn

Penmaenmawr

Cwmystradllyn

Map 1: Cynllun Adfer Cynefin y FrânGoesgoch: Ardaloedd Allweddol

Y Fran Goesgoch

20

cyson i gasglwyr wyau anghyfreithlon.Soniwyd am y rhain ar raglen Crimewatchy BBC yn ddiweddar.Yn dilyn cyfarfodgyda staff prosiect RSPB Cymru, gwnaethstaff y chwarel newidiadau sylfaenol ondeffeithiol i safle’r nyth. Mae’r frân goesgochyn dychwelyd i’r un safle nythu am nifer oflynyddoedd. Bu brain croesgochPenmaenmawr yn defnyddio sied wag arsafle’r chwarel i adeiladu nyth glyd,wlanog. Bu staff y chwarel yn adeiladu agosod gridyllau metel cryf ar y ffenestri a’rdrysau i rwystro pobl heb awdurdod rhagmynd i mewn. Roedd y frân yn gallu mynda dod fel y mynnai. Talwyd costau’r gwaithgan Hansons Aggregates, perchnogionchwarel Penmaenmawr, gwaith sydd eisoeswedi bod yn llwyddiant mawr gan i’r adarallu magu tri chyw iach yn 2003.

Y Frân Goesgoch ym Morfa IsafGorchuddir darn o rostir arfordirol ganborfeydd bras trwchus gan nad oedd y tirwedi cael ei bori’n helaeth ers i ferlod fodyno. Mae’r brain croesgoch yn nythu achlwydo gerllaw.Y farn oedd mai ail-gyflwyno merlod i bori’r safle oedd y fforddorau i reoli’r lleoliad. Gwnaed gwaithffensio a rhoddwyd cyflenwad o ddwr ar ysafle a bellach, mae merlod lleol yn pori’rtir.

Prosiectau yn y DyfodolMae prosiect newydd cyffrous wedillwyddo i ennill grant sylweddol o dros£1m gan yr Undeb Ewropeaidd**. Prosiect

partner cadwraeth yw ‘On’d Ydi AdarCymru’n Wych!’ (AWBB) sy’n gweithredugyda’r nod o uno cymunedau,tirfeddiannwyr, ffermwyr, sefydliadaupartner, a RSPB Cymru er mwyn gwneudgwahaniaeth i’r amgylchedd lleol, i’rcymunedau gwledig a threfol ac i’r adarlleol yn yr ardal Amcan Un.

Cyfanswm yr arian ar gyfer y prosiect yw£2.1m, gyda £1.1m yn dod o gyllidEwropeaidd, £300,000 o GomisiwnCoedwigaeth Cymru, £106,000 o GyngorCefn Gwlad Cymru, £100,000 ychwanegoloddi wrth Enfys (rhan o raglen MeysyddGlas a Chymunedau Cynaladwy CronfaCyfleoedd Newydd a weinyddir yngNghymru gan Gyngor GweithreduGwirfoddol Cymru), a’r gweddill yn dododdi wrth RSPB Cymru.

Saith rhywogaeth allweddol o adar tirfferm yw canolbwynt y prosiect sef ygrugiar ddu, y frân goesgoch, ygornchwiglen, y betrisen, coch y berllan,golfan y mynydd a’r bras melyn. Mae’rsaith yn adar sy’n achosi pryder o safbwyntcadwraeth yng Nghymru.

Bydd prosiect AWBB yn dwynmanteision economaidd ac amgylcheddol isaith ardal weithredol yng Nghymru. Byddamrywiaeth eang o brosiectau ar raddfafechan yn cael eu cynnal yn Rhuthun (SirDdinbych), Pen Llyn, Sir Fôn, Mawddach(Gwynedd),Ynys-hir (Ceredigion),Abergwaun (Sir Benfro), Abertawe a Gwyr.

Bydd ‘On’d Ydi Adar Cymru’n Wych!’yn hybu economïau lleol trwy gynydducyfleoedd ar gyfer cyfraniad gan ygymuned ac ennyn diddordeb twristiaid acymwelwyr â Chymru.

Bydd y prosiect yn parhau i ddatblygu’rgwaith a ddechreuwyd yn ystod prosiectadfer cynefin y frân goesgoch.

Bydd datblygu rhwydwaith mawr obrosiectau cadwraeth syml ond effeithiolyng ngogledd, gorllewin a de Cymru yngalluogi gwirfoddolwyr o bob oed a gallu igymryd rhan a gwneud gwahaniaethgwirioneddol i fywyd gwyllt yn eucymuned. At hynny, nod AWBB fydd denutwristiaid ac ymwelwyr i Gymru i ymuno

Brain Coesgoch yn bwydo ar dir glas.

21

â’r prosiectau hyn i gymryd rhan mewnteithiau a gweld y casgliad anhygoel o adargwyllt sydd yng Nghymru.

Prosiect tair blynedd yw ‘On’d Ydi AdarCymru’n Wych!’ ac mae’n un o’r rhaglennicadwraeth cymunedol mwyaf a welwyderioed yng Nghymru.

*Cynllun Gweithredu BioamrywiaethLleol’• ** Cyllidwyd ‘On’d Ydi Adar Cymru’n

Wych!’ yn rhannol gan raglen AmcanUn yr Undeb Ewropeaidd trwy GronfaArweiniad a Gwarant AmaethyddolEwrop (EAGGF).

• Mae EAGGF yn gosod yr amcanioncanlynol;

1. Helpu i ddiogelu’r cyswllt rhwng ffermioarallgyfeiriol a’r tir.

2. Gwella a chefnogi elfen gystadleuolamaethyddiaeth fel gweithgareddallweddol mewn ardaloedd gwledig.

3. Sicrhau arallgyfeirio economaidd mewnardaloedd gwledig.

4. Helpu i sicrhau bod cymunedau’nffynnu mewn ardaloedd gwledig.

5. Diogelu a gwella’r amgylchedd, ytirwedd a’r etifeddiaeth wledig.

Cyd-drefnir ‘On’d Ydi Adar Cymru’nWych! gan RSPB Cymru mewnpartneriaeth â Chomisiwn CoedwigaethCymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru acEnfys (rhan o raglen Meysydd Glas aChymunedau Cynaladwy CronfaCyfleoedd Newydd a weinyddir yngNghymru gan Gyngor GweithreduGwirfoddol Cymru).

LlyfryddiaethThorpe, RI a Johnstone, I (2003) The

Status of the chough (Pyrrhocoraxpyrrhocorax) in Wales 2002. Welsh BirdsCyf.3 Rhif. 5 (2003) 354-362. CymdeithasAdareg Cymru.

Thorpe, RI a Young, A (2002) ThePopulation Status of Birds in Wales: ananalysis of conservation concern, 2002-2007 Welsh Birds Cyf. 3 Rhif. 4 (2002)289-302. Cymdeithas Adareg Cymru.

Gregory, RD, Wilkinson, NI, Robinson,JA, Brown, AF, Hughes, J, Proctor, DA,Gibbons, DW a Galbraith, CA (2002) Thepopulation status of birds in the UnitedKingdom, Channel Islands and Isle ofMan: an analysis of conservation concern2002-2007. British Birds 95: 410-450

Beth am hysbysebu?Mae’r Naturiaethwr yn cyrraedd oddeutu 3,000 o ddarllenwyr ddwywaith yflwyddyn.

Tudalen lawn £1001/2 tudalen £501/4 tudalen £25

Cysylltwch â’r swyddog hysbysebion: Mrs. Heulwen Bott, Orchard Croft, HillRoad North, Helsby, Cheshire WA6 9AF (01928) 723351neu â’r Golygydd.

22

Adar ConwyAlun Williams

Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst

Yn ystod y degawd olaf, mae’r nifer owarchodfeydd gwylio adar wedi cynyddu arhyd arfordir Gogledd Cymru, gwarchodfayr RSPB yng Nghonwy, ym Madryn gerLlanfairfechan, Abergwyngregyn, TraethLafan a’r Foryd ger Caernarfon.Datblygwyd dwy o’r gwarchodfeydd ymayn dilyn gwaith gwella yr A55 ac un o’mhoff lecynnau gwylio adar yw gwarchodfa’rGymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adaryng Nghonwy.Yn wreiddiol, roedd ynllecyn i daflu llaid o wely’r aber wrth greuffos i adeiladu twnel o dan afon Conwy.Cafwyd y syniad o droi’r domen ynwarchodfa nature gan Mr David Phillips oGyngor Aberconwy ac ers 1993 mae o danofal yr RSPB.

Crewyd 15 hectar o lynnoedd, 4cuddfan a chanolfan ymwelwyr a thros dwyfilltir o lwybrau natur. Mae gwarchod

cynefinoedd yn golygu gwaith caled i’rwarden presennol Mr Alan Davies, golygagadw golwg manwl ar lefel y dwr fel boddigon o fwd a dwr bas i ddenu adar mudo,torri’r borfa i ddenu cwtiaid a phibyddion inythu, creu cynefin arbennig igornchwiglod a phlannu miloedd o goed.

Yr adeg orau i ymweld â’r warchodfa,yw pan fydd llanw uchel yn gwthio’r adaro’r aber i orffwys ar yr ynysoedd ac arlannau y llynnoedd. Nid yw’n denu nifermawr iawn o adar y glannau ond ceiramrywiaeth da gan gynnwys gylfinirod(Numenius arquata) rhostogod cynffonddu(Limosa limosa) rhostogod cynffonfraith(L.lapponica), pibyddion coesgoch (Tringatotanus), piod y môr (Haematopusostralegus), pibyddion (Tringa nebularia) aphibyddion y mawn (Calidris alpina). Mae’rllynnoedd yn dal nifer mawr o hwyaid

Hwyaden Lwyd.

23

llydanbig (Spatula clypaeta), hwyaidllwydion (Anas strepera), hwyaid pengoch(Aythya ferina), hwyaid brongoch (Mergusserrator), chwiwellod (Anas Penelope) ahwyaid llygad-aur (Bucephala clangula) yn ygaeaf. Ar hyn o bryd sef mis Hydref maesawl pâr o hwyaid cochion i’w gweld(Oxyura jamaicensis) gyda’r ceiliog a’i bigglas yn amlwg iawn.Ysgwn i beth yw barndarllenwyr y Naturiaethwr am gynlluniau’rLlywodraeth i ladd yr hwyaid hyn, un oadar cynhenid America, gan fod y ceiliogodwedi hedfan i Sbaen ac yn bygwth yrhwyaden goch benwen (Oxyuraleucocephala) sy’n aderyn prin iawn ynSbaen. Mae’r ceiliogod pengoch yn trechuceiliogod y benwen ac yn cymharu gyda’rieir. Gan fod y croesiad yn ffrwythlon maeofn y bydd nifer y benwen yn prinhau acyn diflannu o’r wlad.

Mae sawl pâr o gornchwiglod (Vanellusvanellus) wedi nythu ac mae cân yrehedydd (Alauda arvensis) i’w chlywed ynweddol gyson, dau aderyn sydd wediprinhau a diflannu fel adar nythu o sawlrhan o Gymru.

Mae 42 o wahanol adar wedi nythu yn ywarchodfa gan gynnwys y cwtiad torchogbach (Charadrius dubius) a rhegen y dwr(Rallus aquaticus) ac mae 215 o adargwahanol wedi’u cofnodi ers 1993. Ar broni bob ymweliad yn ddiweddar, rwyf wedigweld glas y dorlan (Alcedo atthis) ynpysgota o flaen y ganolfan ymwelwyr.Ynystod mis Tachwedd, mae’r drudwy(Sturnus vulgaris) yn dod i glwydo, tuahanner miliwn ohonynt! Os am eu gweld,dylech gyrraedd rhyw awr cyn iddi nosi ac

mae’n olygfa anhygoel gyda degau ofiloedd yn troelli a chwyrlio fel un cynclwydo. Mae sawl aderyn prin wedi’ugweld, gan gynnwys y fronlas (Lusciniasvecica) a llydandroed Wilson (Phalaropustricolor). Hefyd, gwelir gwalch y pysgod ynrheolaidd bob hydref. I athrawon sy’ndarllen yr erthygl hon mae’n lle da iawn ifynd â phlant am ddiwrnod o waith maesac mae athrawon Cymraeg ar gael i helpu.

Byddwch angen tua dwy awr i gerdded ogwmpas y warchodfa.Yn ogystal â’r adar,cofnodwyd dros 25 o loynnod byw, ac arddiwedd y gwanwyn, mae’r borfa yn llawno flodau gwyllt. Ar lan yr afon, lle maenifer o gerrig mawr, mae cyfle da i weld athynnu llun y carlwm (Mustela erminea);ym mis Mai, rwyf wedi gweld teulu ochwech yn chwarae a’r rhieni yn lladdcwningen o flaen fy llygaid.

Cewch groeso cynnes yng Nghonwy bobamser ac os nad oes llawer o adar ogwmpas, mae cyfle i brynu llyfr,sbiendrych newydd, bwyd i fwydo’r adarneu gerdyn Nadolig.

Pibydd Coesgoch Cornchwiglen

Pioden y Môr

24

Rwy’n siwr y gall y rhan fwyaf ohonomgofio trip ysgol i gefn gwlad, neu daithgerdded i hel pethau ar gyfer y ‘BwrddNatur’.Yn ôl pob tebyg, roedd hi’n braf, ycoed yn blaguro, yr awyr yn fyw a swnpryfetach yn hedfan hwnt ac yma.Rhamantaidd iawn; ond onid oes ynarywbeth arbennig mewn bod allan yn yrawyr agored yn dysgu am y byd o’ncwmpas?

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cydnabodpwysigrwydd a gwerth cefn gwlad i fydaddysg ac mae wedi datblygu ambell ifenter i hyrwyddo hyn. Prif bwrpas cynllunFfermio Tir Gofal yw gwella safonauamgylcheddol ar ein ffermydd ond maehefyd yn gyfle i ffermwyr ddatblyguadnoddau addysgol yng nghefn gwlad.Ymwelais ag un o ffermydd Tir Gofal ynddiweddar a braf oedd gweld beth oeddyno.

Mae Phyllis Evans yn ffermio defaid acychydig o wartheg ar lethrau Moel Ddu ynY Gelli, Prenteg, ger Porthmadog. Maecynllun Tir Gofal wedi galluogi Mrs Evansi ddatblygu ‘Taith Gerdded Fynyddig’ sy’nagored i grwpiau ysgol, trwy drefniant.Mae’r llwybr yn dilyn hen ffordd drol uwchben Dyffryn Madog neu ‘Traeth Mawr’ fely gelwid y lle cyn i’r cob gael ei adeiladu

ym 1831. Gynt, arferai’r môr gyrraeddAberglaslyn ond, erbyn heddiw, mae tuaphedair milltir o’r môr!

Yn wir, mae yna lawer o bethau i’wgweld ar y daith ac mae Mrs Evans wedi’unodi mewn adroddiad cynhwysfawr a difyr.Ynddo, ceir braslun o hanes yr ardal, ybrodorion a’u barddoniaeth. Gwelwyd bodteulu o 10 o bobl yn byw ym mwthyn TaiCochion ym 1881 ond, erbyn heddiw,mae’n dy haf i deulu o Lundain. Mae ynalawer testun trafod ymysg y grug a’r brwynyma a pha le gwell i blant ddysgu nag ynnosbarth eang ein cefn gwlad?

Mae cynllun Tir Gofal wedi helpuPhyllis Evans i gynnal amodau teg ar gyferbyd natur ac, ar yr un pryd, mae hi wedigallu defnyddio’r cynllun at nod sydd yr unmor bwysig. Rydym i gyd yn gwybod bodffermio wedi dioddef yn ystod yblynyddoedd diwethaf hyn ond, tra bodmodd defnyddio’r tir i greu rhywbeth owerth a safon, wel hir oes i gynllun TirGofal a brain coesgoch y Foel Ddu yw fynghân!

Addysg ar y FfermJonathan Neale

Uwch swyddog cadwraeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru

25

Wyddoch chi be ydy picrelys, banhadlenEtna neu efwr enfawr? Enwau arblanhigion ydyn nhw ac os edrychwch yn ygyfrol newydd ‘Enwau Planhigion Blodeuol,Conwydd a Rhedyn’ a gyhoeddwyd ganGymdeithas Edward Llwyd yn ddiweddar,cewch eu henwau gwyddonol a Saesneghefyd. Enwau ar blanhigion lled newydd i’rwlad yw y rhain - yn blanhigion gardd wedidianc i’r gwyllt neu wedi cyrraedd yma’nddamweiniol, mae’n bosibl. Mae’n ddacael yr enwau hyn oherwydd y galw mawram enwau a thermau Cymraeg ynymwneud â byd natur gan addysgwyr,cyfieithwyr, a naturiaethwyr yn gyffredinoly dyddiau hyn.

Ceir enwau Cymraeg ar greaduriaiad aphlanhigion o gyfnod cynnar iawn adiddorol yw olrhain eu datblygiad a’rymgais yn ddiweddar i’w safoni gan BanelEnwau Cymdeithas Edward Llwyd.Ynsicr, gall ein geirfa hanesyddol ddweudllawer amdanom ac am ein perthynas â’r

byd o’n cwmpas dros y canrifoedd.Yn yMabinogi, er enghraifft, sydd â’ugwreiddiau mewn traddodiad llafar hynafoliawn, gwelwn gyffyrddiadau’r hen grefyddGeltaidd a llawer o gysylltiadau mytholegolâ rhai o’r creaduriaid a’r planhigion agrybwyllir e.e. Eryr Gwernabwy, CarwRhedynfre,Y Twrch Trwyth, Eog LlynLlyw, yr Afanc chwedlonol a’r defnydd ganGwydion y Derwydd o’r dderwen a’rerwaint i greu Blodeuwedd.

Yn Llawysgrifau’r Canol Oesoedd sy’ncynnwys y cywyddau, fersiynau o GyfraithHywel Dda a gweithiau MeddygonMyddfai ayyb, gwelir mai’r creaduriaid a’rplanhigion defnyddiol neu economaiddbwysig megis anifeiliaid yr helwriaeth a’ranifeiliaid a phlanhigion sy’n gysylltiedig agamaethyddiaeth, crefftau ameddyginiaethau, gaiff y prif sylw. Cofiwchnad planhigion yn unig a ddefnyddidmewn ryseitiau meddygol - sonir am waedllysywen a bustl ceiliog ynghyd â sugllysiau’r wennol mewn un rysait ar gyfer yllygaid! Rhydd enwau lleoedd, llawerohonynt yn hynafol iawn, nifer mawr oenwau i ni hefyd e.e. Carreg yr honwy,Coed y Bleiddiau, Eryri, Chwilog, Cegidfaayyb. Prin yw’r enwau ar bethau nadoeddent yn economaidd bwysig ond maeambell un yno e.e. y cyfeiriad at euryn - yraderyn melyn prin hwnnw a gofnodwydgan Gerallt Gymro ar ei daith drwy Gymruyn y 12fed ganrif ac oni sonir am yddrudwen yn stori Branwen?

Erbyn yr 16eg a’r 17eg ganrif, rhwngllawysgrifau Williams Salesbury, y casgliada elwir yn Welsh Leech Book, a chopïau oweithiau Meddygon Myddfai, gellir creurhestr go sylweddol o enwau planhigion.Dyma hefyd pryd y cwyd yr hen broblem oba blanhigyn yw p’run. Gwelwn, rhwng yr

Enwau Byd NaturTwm Elias

Yn seiliedig ar sgwrs Twm Elias adeg lansio ‘Enwau Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn’yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod, Awst 2003

26

enwau sydd erbyn hyn yn hynafol, yramrywiaethau rhanbarthol a lleol ohonynta chymysgwch pan fydd nifer o blanhigion

gwahanol yn cael yr un enw, fod angencryn ofal weithiau!

Gwelir y casgliadau cyntaf o enwau yn ygeiriaduron printiedig cynnar megisDictionarum Duplex, John Davies, Mallwyd(1632) ac yn Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb,Thomas Jones (1688). Ceir atodiad difyriawn o enwau Cymraeg/Saesneg arblanhigion meddyginiaethol, coed affrwythau, oedd, yn sicr, yn adlewyrchiadteg o brif ddiddordeb pobl y cyfnod mewnplanhigion.Ymgorfforwyd rhestrau tebygmewn rhai geiriaduron Cymraeg byth oddiar hynny e.e. Geiriadur Llysieuol (atodiad iGeiriadur Llogell), Ellis Jones (1840).Ynddiweddarach, roedden nhw’n cynnwysenwau anifeiliaid ac adar hefyd e.e. YGeiriadur Mawr, H Meurig Evans a W OThomas (1958). Rhaid peidio ag anghofioychwaith yr enwau o fyd natur yngnghyfrol Edward Llwyd - yr ArchaeologicaBritannica (160&) ac yn ei Parchialia (agyhoeddwyd mewn dwy ran ym 1909 ac1910).

Nid oedd ymdriniaeth wyddonol oenwau planhigion yn y Gymraeg tan yWelsh Botanology, Hugh Davies (1813) pangyflwynodd yr awdur ei restr enwau mewn

trefn fotanegol. Aeth ati i fathu enwau panoedd angen llenwi bylchau, gan greu,mae’n rhaid cyfaddef, ambell i erthylrhyfeddol! Cafwyd rhestrau o enwauanifeiliaid, adar, ymlusgiaid, pysgod aphlanhigion yn Faunula Grustnesis, JohnWilliams (1830) hefyd. Ond eto, yngyffredinol, y pethau defnyddiol a gafodd yprif sylw o bell ffordd, fel y gwelwn yn ytoreth o lyfrau meddygol a milfeddygol agyhoeddwyd yn y 19eg ganrif e.e. Llysieu-lyfr Teuluaidd, R Price ac E Griffiths(1849); y Llysieu-lyfr Teuluaidd D T Jones(1881); Y Meddyg Anifeiliaid, E a JEdwards (1837). Bu’n rhaid aros tan ynddiweddar iawn i’r pethau nad oeddent owerth economaidd, gael enwau.

Roedd y 19eg ganrif yn gyfnod oddadeni rhyfeddol mewn cyhoeddi yn yGymraeg ac roedd y fersiwn Cymraeg oAddysg Chambers (2 gyfrol, 1851 ac 1860)a Hanes y Ddaear a Chreaduriaid Byw oeddyn gyfieithiad o weithiau Oliver Goldsmith(2 gyfrol 1866), yn uchelgeisiol ac ynarloesol.Ymdriniai’r cyfrolau hyn â bydnatur o bob cwr o’r byd ond bod euharddull yn sych grimp a’r enwau Cymraegyn dra chlogyrnaidd! Siom enfawr oedd 10cyfrol Y Gwyddoniadur Cymreig (agyhoeddwyd rhwng 1856 ac 1879) oedd,er gwaetha’i enw, yn ddim amgenach naGeiriadur Beiblaidd!

Hefyd, ceir llawer o erthyglau ynymwneud â byd natur yng nghylchgronauniferus y 19g ganrif e.e. Cyfaill yr Aelwyd,YSylwedydd,Y Gwladgarwr, Golud yr Oesayyb.Ymhlith y goreuon oedd Cymru O MEdwards, lle cyhoeddwyd nifer mawr oerthyglau difyr gan naturiaethwyr brwdmegis Richard Morgan ac eraill, rhwng1891 ac 1927.

Roedd diwedd y 19eg ganrif yn gyfnod ogolli cyfle. Tra bod y gwyddorau biolegoldisgrifiadol (tacsonomegol) yn eu bri acymgyrchoedd brwd i fathu a safoni enwauar greaduriaid, adar, gwyfynod ayyb mewnnifer o wledydd Ewrop fel Lloegr aFfrainc, ni chafwyd hynny yma.Yn hyn obeth, roedd y sefydliadau a ddylai fod wediymgymryd â’r gwaith - y Brifysgol a’r

27

Beth am hysbysebu?Mae’r Naturiaethwr yn cyrraedd oddeutu 3,000 o ddarllenwyr ddwywaith yflwyddyn.

Tudalen lawn £1001/2 tudalen £501/4 tudalen £25

Cysylltwch â’r swyddog hysbysebion: Mrs. Heulwen Bott, Orchard Croft, HillRoad North, Helsby, Cheshire WA6 9AF (01928) 723351neu â’r Golygydd.

Amgueddfa Genedlaethol yn ddiweddarch- yn esgeuluso eu dyletswyddau ynddybryd drwy fethu/gwrthod â safoni abathu enwau Cymraeg. Eto fyth, gwelwydambell lygedyn o oleuni wrth i raiunigolion brwd, o fewn a thu allan i’rcylchoedd academaidd hyn, wneud gwaitharloesol e.e. Cymdeithas Llafar Gwlad, danarweiniad T Shankland a fu’n defnyddioholiaduron (ym 1891) i gasglu’r enwaulleol ar adar. Ceir rhestrau enwaugwerthfawr yn Flora of Anglesey andCarnarvonshire J E Griffith (1895), Adarein Gwlad J Ashton (1906) a Fauna ofNorth Wales H E Forest (1907).

Er mai cymharol ychydig o gyfrolau bydnatur a gyhoeddwyd dros yr hanner canmlynedd nesaf, heblaw am gyfrol fechanGeiriadur o Enwau Blodau Gwyllt, G IforHarry (1934); yr enwau Cymraeg yn WelshFerns H A Hyde ac A E Wade (1940) aGeirfa Natur Wynn P Wheldon (1945),roedd yn gyfnod llewyrchus i gylchgronauar gyfer plant ac athrawon. CafwydCymru’r Plant (1929 - ) a pheidied neb aganghofio cyfraniadau naturiaethwyr fel T GWalker yn ei golofnau rheolaidd yn YCymro a’r Herald Gymraeg yn yr 1940au -50au a Ted Breeze Jones yn Yr Athro aCymru’r Plant yn yr 1950au - 80au.

Yna, yn yr 1960au, gwelwyd cyhoeddidau gasgliad pwysig o enwau: Enwau Adar(1962) ac Enwau Blodau, Llysiau a Choed(1969) - y ddwy gyfrol gan Meirion Parry.Erbyn hyn, roedd cryn bwysau yn codi o’r

byd addysg am enwau a thermau am fydnatur a’r amgylchedd yn y Gymraeg. Hebamheuaeth, roedd cyhoeddi cylchgrawn YGwyddonydd o 1963 ymlaen, yn un o’rdigwyddiadau pwysicaf yn hanes cyhoeddigwyddonol yn y Gymraeg ac yn symbyliadi ddadeni eithriadol mewn cyhoeddi ambynciau technegol dros y deugain mlyneddnesaf. Do, cychwynnodd nifer o bethau yny 60au ac roedd dechrau cyhoeddi o ddifrifyn y meysydd gwyddonol yn rhan oddeffroad cenedlaethol ehangach y cyfnodpan na chymerai’r Gymraeg ei chyfyngui’w rhigol ddiwylliannol mwyach.

Cyhoeddwyd Termau Bioleg (1967) acEnwau Planhigion (1969) gan Wasg yBrifysgol - ill dau’n ymdrechion braidd yn

28

wan i safoni enwau, er yn llenwi bwlch ar ypryd. Cafwyd ychydig mwy o lwyddiantgyda’r Geiriadur Termau Gwasg y Brifysgol(1973), Termau Bioleg, Cemeg a GwyddorGwlad CBAC (1982) a Flowering Plants ofWales R G Ellis (1983). Ar y llaw arall,roedd Rhestr o Adar Cymru (AmgueddfaGenedlaethol Cymru) Ted Breeze Jones aP H Jones (1973) yn llwyddiant mawr oran safoni enwau.

Y cam mawr nesaf, yn sicr, oedd sefydluCymdeithas Edward Llwyd ym 1979 adechrau cyhoeddi Y Naturiaethwr. Daethi’r amlwg yn syth ar deithiau’r Gymdeithasbod angen dybryd am enwau safonol argreaduriaid a phlanhigion o bob math.Ynfwy na hynny, roeddem ar drothwy OesAur (1979-95) mewn cyhoeddi a darlleduar radio a theledu am bynciau natur yn yGymraeg - oedd yn pwysleisio’n fwy fyth yrangen am enwau. Roedd Seiat Byd Natur(1951-1994) ar y radio; Awyr Iach, BiliDowcar a Chefn Gwlad ar y teledu; ycylchgronau Cynefin (1982-90), GwaithMaes (1989 - ) a Dan Haul (1991 -99)mewn bri ac o 1975 hefyd, tyfoddpoblogrwydd cyrsiau natur cyfrwngCymraeg ym Mhlas Tan y Bwlch.

Sefydlodd Cymdeithas Edward Llwydbanelau o arbenigwyr mewn gwahanolfeysydd ac yn gynnar yn yr 1980au,dechreuwyd cyhoeddi rhestrau o enwausafonol ar greaduriaid a phlanhigion yn YNaturiaethwr:

Enwau Mamoliaid (1981); Ieir Bach yrHaf (1982); Pysgod Dwr Croew (1983);

Gwalchwyfynod (1984); Gwesynod aMursenod (1985); Cregyn a Molwsgiaid erailly Môr (1985); Creaduriaid y Traeth aGwymonau (1986); Ffyngau (1987); PysgodMôr (1988); ac Amffibiaid,Ymlusgiaid aChrwbanod Môr (1989).

Adolygwyd ac ehangwyd amryw o’rrhestrau hyn ac, ym 1994, casglwyd niferohonynt at ei gilydd a’u cyhoeddi ynCreaduriaid Asgwrn Cefn, sef y gyfrol gyntafyn y gyfres arfaethedig: Cyfres EnwauCreaduriaid a Phlanhigion (CymdeithasEdward Llwyd).Yn fuan wedyn, sefydlwydpanel newydd i fynd ati i baratoi’r ail yn ygyfres: Enwau Planhigion Blodeuol, Rhedyn aChonwydd (a gyhoeddwyd yn 2003) ac aethrhai ati i gasglu deunyddiau ar gyfertrydedd cyfrol a fydd yn ymwneud agenwau creaduriaid diasgwrn cefn.

Yn y cyfamser, gwelwyd cyhoeddi nifero gasgliadau pwysig o enwau lleol yn yr1990au: Enwau Adar Dewi E Lewis (1994)ac Enwau Blodau Gwen Awbery (1995) - yddau yng Nghyfres Llafar Gwlad ac EnwauPlanhigion Dafydd Davies ac Arthur Jones(1995). Cafwyd hefyd Flora of FlintshireGoronwy Wynne (1993) gydag enwauCymraeg ar y planhigion a PlanhigionCymru a’r Byd D Hayes (1995). Camymlaen sylweddol arall oedd Geiriadur yrAcademi Bruce Griffiths a Dafydd GlynJones (1995) sy’n cynnwys nifer mawr oenwau ar greaduriaid a phlanhigion owledydd Prydain a rhannau eraill o’r bydhefyd.

Cafodd enwau ar adar tramor sylw ganTed Breeze Jones a thra’n ffilmio dramor argyfer rhaglenni teledu Awyr Iach, aeth ati ibaratoi rhestrau (heb eu cyhoeddi) oenwau Adar Morocco (1989) ac AdarGambia (1990). Hefyd, lluniodd achyhoeddodd Rhestr o Adar Ewrop TedBreeze Jones a Ruurd Jorritsma (1996) i’whymgorffori mewn rhestr o enwau adar yny gwahanol ieithoedd Ewropeaidd: Namesof the Birds of the Western Palearctic RJorritsma (1996). Ceir hefyd Rhestr o AdarAwstralia Peter H Edwards (1999); Rhestr oAdar Affrica Ddeheuol D Fear (2000) acmae Rhestr o Adar y Byd yn yr arfaeth

OY Meddyg Anifeiliaid gan John Edwards, Caerwys aJohn Edwards, Abergele.

29

erbyn hyn hefyd.Yn yr un modd, talwydsylw i’r mamaliaid ac ymgorfforwyd EnwauMamaliaid Ewrop yn rhan o AnviouBronneged Europa (2003) - cyfrol Lydaweg,Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg agyhoeddwyd gan Ofis ar Brezhoneg.

Bu sefydlu Cyngor Cefn Gwlad Cymruym 1992 yn hwb mawr i’r ymgyrch i luniorhestrau enwau a thermau Cymraeg.Roedd polisi dwyieithog statudol y corffnewydd hwn a chyrff eraill, yn golygu bodangen enwau safonol ar gyfer eucyhoeddiadau cyhoeddus o bob math - yndaflenni gwybodaeth, byrddau dehongliayyb. Cynyddodd y galw’n sylweddol erbyndiwedd yr 1990au wrth i’r Cynghorau Sir,y Parciau Cenedlaethol ayyb, fabwysiaduCynlluniau Bioamrywiaeth i warchodrhywogaethau a chynefinoedd sy’n brinneu’n prinhau.

Golyga’r Cynlluniau Bioamrywiaeth(sydd dan reolaeth y CynulliadCenedlaethol erbyn hyn) bod mwy o angennag erioed am safoni enwau ac am fathu,yn ôl yr angen, ar gyfer rhai rhywogaethauprin (neu anghyfarwydd) na fu erioed

enwau Cymraeg na Saesneg arnynt o’rblaen - dim ond yr enwau gwyddonol.Amserol felly, yw cyhoeddi EnwauPlanhigion Blodeuol, Rhedyn a Chonwydd(2003) ar bapur yn ogystal ag ar y we(gwelerwww.cymdeithasedwardllwyd.com).

Mae’n amlwg bod llawer o waith i’wwneud eto, ond, o leiaf, rydym ar einffordd. Eisoes, darparwyd rhestrau lledgyflawn o enwau Rhywogaethau MorolSion Roberts (Cyngor Cefn Gwlad);Termau Coedwigaeth (ArnePommerening); Gwyfynod, Mwsogau, Cenayyb (Panel Enwau Cymdeithas EdwardLlwyd) ac mae’r panel i ymdrin ag enwaucreaduriaid diasgwrn cefn, wedi dechrauar ei waith.Yn naturiol hefyd, bydd angenehangu a diweddaru’r rhestrau agyhoeddwyd yn y Naturiaethwr yn yr1980au e.e. enwau ffyngau - am ei fod ynfaes sydd wedi cynyddu cymaint yn eiboblogrwydd ers hynny nes bodnaturiaethwyr a chyfieithwyr yn gweiddiarnom am enwau!Nid wyf yn mynd i sôn am yr ymgyrch

fawr arall - i gysoni a datblygu corff odermau cefn gwlad ac amgylcheddol. Maehonno’n stori arall! Digon yw dweud bod ygalw yn fawr, fel y mae am yr enwau, ialluogi’r Gymraeg i ddatblygu’n rhwydd anaturiol i ddelio â phob agwedd o fydnatur a rheolaeth yr amgylchedd.Llyfryddiaeth

Llyfryddiaeth y Cymru, Gol: D SilvanEvans (1869)

Gweithgarwch Byd Natur a’r DadeniDiweddar, Twm Elias, Llais Llyfrau (Rhan1: Gaeaf 1983, Rhan 2: Gwanwyn 1984)

Adar Cymru: Ffynonellau yn y GymraegDafydd Guto Ifan (1985)

Libri Walliae, Eluned Rees (1980)Llyfrau Ymarferol Echdoe, R Elwyn

Hughes (1998)Llyfryddiaeth Ddetholedig Ted Breeze

Jones, Dafydd Guto Ifan (2001)

30

Mae’n debyg y cofir Awst a Medi 2003 felun o’r tymhorau gorau i ieir bach yr haf agwyfynod ers aml i flwyddyn. Cafwydtymhorau da iawn yn 2000 a 1996 hefyd,ond ddim hanner cystal ag eleni.Yr uchafbwynt oedd nifer helaeth yrhywogaethau ymfudol o’r cyfandir. Roeddyr iâr fach dramor yn eithriadol o niferusnid yn unig drwy Gymru, ond, yn ôlgwraig o Ynysoedd Orkney a gyfarfyddaisganol Medi, roedd llawer yno hefyd acambell un wedi cyrraedd Ynysoedd yShetland - sy’n anarferol iawn. Ceircofnodion prin ohonynt, ambell flwyddyn,yn cyrraedd cyn belled â Gwlad yr Iâ.Bydd yn ddifyr clywed os digwyddoddhynny eleni.

Ymfudwyr eraill trawiadol oedd y fantellgoch oedd mor niferus ymhobman ac yn“meddwi” ar yr alcohol epleswyd arffrwythau megis afalau ac eirin wedicwympo. Cafwyd cofnodion hefyd o’r iârfach felen - yn Llyn, Pendein, ac amryw osafleoedd yn ne a de-orllewin Cymru. Bu’ndymor eithriadol hefyd i’n hieir bachbrodorol, fel yr iâr fach amryliw fu â’iniferoedd yn boenus o isel ers rhaiblynyddoedd, y peunog, brych y coed ac ynarbennig, mae’n dda cael dweud, y coporbach a’r adain garpiog. Gyda llaw, bu rhaiieir bach yn ymledu’n araf tua’r gogledders rhai blynyddoedd ac, eleni,cyrhaeddodd yr adain garpiog cyn belled âFife a brych y coed cyn belled â’rHebrides.

Nid yn aml y bydd y wasg yn rhoi llawero sylw i wyfynod ond, ddiwedd Awst aMedi, roedd y papurau, y radio a’r teleduyn llawn hanes am y ddau lindysungwalchwyfyn y benglog enfawr addarganfyddwyd yn gwledda ar wlyddtatws ar dir Prifysgol Bangor yn

Abergwyngregyn. Dywedwyd bod ypatrwm penglog ar gefn yr oedolyn ynarwydd marwolaeth, ac y rhoddai’r gwalch,Hannibal Lecter, chwiler y gwyfyn yngngheg y sawl a lofruddid ganddo yn Silenceof the Lambs! Bu i’r lindys hyn chwileru adeor yn oedolion yng ngerddi’r Brifysgolyn Nhreborth.

Cafwyd cofnodion eraill o walchwyfynody benglog - 4 oedolyn ar arfordir Môn acun yn Abererch, Llyn. Os clywsoch am fwyohonynt, gadewch i’r golygydd wybod.Cofnodwyd gwalchwyfyn y briwydd, sy’nanghyffredin iawn, yng ngardd John Haroldyn Rhiwlas, ger Bangor, a threuliodd AledJones orig ddifyr yn ei ardd ymMhenrhyndeudraeth yn astudio campau’rcreadur hynod o chwim hwnnw - ygwalchwyfyn hofran - yn hofran fel aderyny si i sugno neithdar o wyddfid. RoeddAled o fewn modfeddi iddo ac ar ôl tuaawr cofiodd am ei gamera - ond roedd ycreadur wedi gwibio ymaith erbyn iddoddychwelyd!

Cafodd y gwyfyn ymfudol - y fforcharian - lwyddiant mawr hefyd ac roeddentymhobman! Da hefyd yw nodi bodgwyfynod prin megis gwladwr Ashworthwedi’i weld ym Mhensychnant eto eleni acy darganfuwyd safle newydd i’r Blomer’srivulet ger Porthmadog. Cofnodwyd hefydy gwesyn oren, sydd wedi dechrau ymleduo dde Lloegr, am y tro cyntaf ymMeirionnydd - ger Llanuwchllyn.

Ieir Bach yr Haf a GwyfynodTwm Elias

Plas Tan y Bwlch (Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri)

31

Crynodeb Un o brif nodweddion ardaloedd cras alled-gras y byd yw’r amrywiaeth yn yrhinsawdd. Mae modelau sy’n rhagweld ynewid yn hinsawdd y byd yn darogan body gwahaniaethau yn mynd i waethygu.Mae’n debygol y bydd dechrau’r tymorgwlyb yn fwy anwadal a’r glawiad yngawodydd trymach a llai aml.Yr her fawr iffermwyr felly yw gallu gwneud y defnyddgorau posibl o’r dwr sydd ar gael.Yndraddodiadol, mae’n rhaid i’r ffermwyrsydd heb ffordd o ddyfrhau eu cnydau,aros i’r glaw ddechrau cyn hau eu had.Canlyniad hyn yw y gall y tymor gwlyb arbrydiau fod yn rhy fyr i gnydau dyfu acaeddfedu.

Mae ffermwyr a gwyddonwyr wedi ceisiogoresgyn y problemau hyn drwy ddatblygumathau o gnydau sy’n aeddfedu’n gynnarac sy’n osgoi sychdwr; drwy ddatblygudulliau o gynaeafu a chadw dwr a thrwyddefnyddio dulliau o ddyfrhau. Ond ergwaetha’r ymdrechion hyn, mae’r

ansicrwydd sy’n gysylltiedig â dechrau’rtymor gwlyb yn achosi problemau iffermwyr, tlawd neu gefnog. Maetrawsblannu o feithrinfeydd yn ffordd ogynilo dwr, lleihau’r perygl o golli cnydauac egino clytiog, yn lleihau’r amser y mae’rcnwd yn ei dreulio yn y cae cyn aeddfeduac yn cynyddu’r cynnyrch (cafodd 79-90%o ffermwyr fu’n gweithio gyda ni yngNgogledd Ghana fwy o gnwd - mewn rhaiachosion ddwywaith yn fwy o gnwd ar ôltrawsblannu).

Gair am sorgwm a miled perlogSorgwm yw’r pumed grawnfwyd o bwys yny byd (yn dilyn gwenith, reis, indrawn abarlys (haidd)). Caiff ei dyfu yn bennaf ynardaloedd lled-gras y trofannau a’r is-drofannau. Mae angen tymheredd uchelarno (27-28°C yw’r gorau) ac mae’ngwrthsefyll gwres yn well na’rgrawnfwydydd eraill. Mae tipyn oamrywiaeth yng ngallu’r is-rywogaethau iwrthsefyll sychdwr ac mae rhai is-

Gwella bywoliaeth ffermwyrtlawd gyda Sorgwm

(Sorghum bicolor (L.) Moench) a miled perlog (Pennisetum glaucum [L.] R. Br.) wedi’i drawsblannu.

Dr. Einir M.YoungCanolfan Astudiaethau Tir Cras, Prifysgol Cymru, Bangor.

[email protected]

Llun 2: Mrs Apangbun ar lain o filed perlog a gafoddei drawsblannu. Mae mwy o blanhigion ac maeganddynt dywysennau mwy.

Llun 1: Mrs Apangbun ar lain o filed perlogwedi’i hau.

32

rywogaethau yn gallu dioddef cyfnodausych yn hynod o dda.

Miled Perlog yw un o’r miledau mwyafpoblogaidd ac mae’n tyfu mewn ardaloeddpoeth. Mae miled cynnar - sy’n aeddfedumewn 2-3 mis yn cael ei ystyried yn ‘gnwdgwaredigaeth’ mewn gwledydd fel Ghanagan ei fod yn torri’r newyn sy’n gyffredinpan fydd bwyd yn brin rhwng daugynhaeaf. Mae miled hefyd yn gallugwrthsefyll prinder dwr.

Trawsblannu a phrinder dwrYn aml, mae’r glawiad yn anwadal arddechrau’r tymor a’r cnydau’n egino’nglytiog yn y caeau. O ganlyniad, byddffermwyr yn ceisio gwneud iawn am hyndrwy deneuo a thrawsblannu

eginblanhigion sorgwm a miled perlog ilenwi’r bylchau. Ond nid yw’r arfer hwn ynddigon i ddatrys problemau’r ffermwyr ganfod y planhigion a drawsblannwyd ynaeddfedu’n hwyrach na’r rhai a heuwydgyda llaw ac yn cael eu heffeithio gan blâuac afiechydon yn ogystal â diffyg dwr arddiwedd y tymor.

Mae gwaith a wnaed gan y GanolfanAstudiaethau Tir Cras1 wedi dangos bodmodd addasu’r arfer hwn yn llwyddiannus.Mae codi eginblanhigion sorgwm a miledperlog mewn meithrinfeydd (Lluniau 1-4)cyn iddi ddechrau bwrw, ac yna’u

trawsblannu i’r cae pan eu bod rhwng 10-50 diwrnod oed ar ôl i’r glaw gysoni (Llun5), yn fodd i oresgyn y problemau sy’ngysylltiedig â glawiad anwadal. Mae’reginblanhigion, er eu bod yn dioddefrhywfaint o sioc trawsblannu, yn achub yblaen ar yr hadau sy’n cael eu hau’n sythac angen llai o amser yn y cae cynaeddfedu. Felly, mae’r cnwd yn llai agoredi niwed petai’r glaw’n darfod yn gynnar.(Blwch 1). Mae canlyniadau treialon gydaffermwyr ar eu caeau eu hunain yn dangosbod modd cynyddu’r cynnyrch hefyd. Maemwy o fanylion i’w gweld ar wefan yprosiect

(http://www.bangor.ac.uk/transplanting/)

Yn Zimbabwe yn ystod y tymor diwethaf(2002), er yr holl broblemau yn y wlad,

llwyddodd rhai ffermwyr ibarhau â’r rhaglendrawsblannu a chawsomlythyr brwdfrydig gan MrsRumbidzai Dhodho yndweud:

“Rwyf am adael i chi wybodam y llwyddiant a gefais gyda’rcynllun trawsblannu sorgwm ynystod tymor 2001-2002. Ergwaetha’r sychdwr ofnadwy agawsom yn Zimbabwe eleni,rwy’n falch i adrodd fy modwedi llwyddo i fedi 1 x 50kg osorgwm oddi ar lain bach o dir(50m x 20m). Roedd hyn ynannisgwyl iawn o ystyried yglawiad anwadal a gawsom

drwy’r wlad, yn enwedig ym Masvingo.Rydym wedi dechrau paratoi einmeithrinfeydd ac yn gobeithio y cawn lawiadgwell eleni. Byddwn yn gadael i chi wybod yrhanes - mae’n bosib gwneud sadza a barablasus iawn o’r sorgwm”.

DiweddgloMae nifer o nodweddion i’r dechneg. Gellirei haddasu ar gyfer nifer o isrywogaethausy’n cael eu tyfu ac sydd ar gael yn lleol.Mae’r ffermwyr yn gyfarwydd â chreumeithrinfeydd a thrawsblannu planhigioneraill (e.e. coed, llysiau, tybaco). Dim ondychydig bach o ddwr sydd ei angen. Gellir

Meithrinfa yn cael ei rhannu gan dair ffermwraig yn ardal Chivi,Zimbabwe.

33

plannu cyfres o feithrinfeydd nes i’r glawddechrau a thu hwnt i hynny er mwyngwneud yn sicr bod eginblanhigion o’r oedpriodol ar gael i’w trawsblannu os yw’rglaw’n hwyr, neu os bydd yn bwrw’nafreolaidd ar ddechrau’r tymor.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygustrategaeth ar gyfer ymestyn y dechneg a’ihaddasu ar gyfer sefyllfaoedd lleol mewngwahanol wledydd.

Blwch 1Daeth ffermwyr yn Ghana a Zimbabwe i’rcasgliad fod:• Cnwd sydd wedi’i drawsblannu’n gallu

cael ei gynaeafu ynghynt ar adeg panfydd y bwyd sy’n weddill o’r tymor cyntyn brin a phrisiau bwyd yn y farchnadyn ddrud. Gellir cadw’r cynhaeaf felbwyd i’r teulu neu ei werthu.

• Mae planhigion wedi’u trawsblannu ynaml yn cynhyrchu mwy o rawn - gan fodmwy o dywysennau arnynt a’r rheini’nfwy.

• Os yw’r glaw’n hwyr yn cyrraedd, gellircadw’r eginblanhigion yn ymeithrinfeydd a’u trawsblannu wedi iddiddechrau bwrw.

• Gall y cnwd aeddfedu hyd yn oed osyw’r glaw’n peidio’n gynnar, gan fod yplanhigion yn 10-50 diwrnod oed yncael eu trawsblannu.

• Mae angen llai o lafur ar gnwd wedi’idrawsblannu ar rai adegau yn y tymore.e. nid oes angen chwynnu mor aml.Fel arfer wrth chwynnu am y tro cyntafbydd y ffermwyr yn teneuo’r tyfiant acyn trawsblannu i lenwi bylchau. Wrthdrawsblannu bydd y ffermwyr yngwneud yn sicr bod y cnwd wedi’iblannu mewn rhesi taclus a chan nadoes angen teneuo, mae’r broses yn llaibeichus ac nid oes cymaint o blanhigionyn cael eu difetha.

• Nid yw tyfu hadau mewn meithrinfeyddmor wastraffus â hau â llaw yn syth i’rpridd gan ei bod yn debygol iawn ybydd yn rhaid ail a thrydydd hau wrthi’r cnwd fethu oherwydd diffyg dwr.

• Mae hadau yn y meithrinfeydd ynegino’n well nag yn y cae gan fod moddi’r ffermwyr edrych ar eu hôl yn well.

• Gellir gwerthu eginblanhigion sy’nweddill er mwyn creu cyllid.

• Mae gofalu am feithrinfeydd ar ddiweddy tymor sych pan fydd pob man ynfrown ac yn sych yn codi calonnau’rffermwyr.Roedd Mrs Apangbun (Llun 1 a 2) yn

un o’r ffermwyr o Ankpaliga yn ArdalGorllewin Bawku, yn Rhanbarth DwyrainUchaf Ghana. Sylwodd hi, fel llawer, bodtwf yn well a bod planhigion wedi’utrawsblannu yn cynhyrchu tywysennaumwy na’r rhai wedi’u hau’n draddodiadol.

Roedd ffermwyr eraill fu’n cymryd rhanwedi’u plesio gymaint â’r canlyniadau ar eullain arbrofol 10m x 10m nes iddynt greumwy o feithrinfeydd er mwyn trawsblannuyn y ffermydd sy’n bell o’r pentref. HonnaiMr Adam Abumumuni o Fumbisi, ArdalBuilsa, fod gwneud hyn wedi “achub” eifferm miled.Yn wir, llwyddodd rhwng 79-90% o’r ffermwyr oedd yn cymryd rhan, igynyddu eu cynhaeaf gyda rhai ohonynt yndyblu eu cnwd. Ffynhonnell:Young &Mottram 2001

CydnabyddiaethCafodd y gwaith gwreiddiol yn Zimbabweei ariannu drwy haelioni’r canwr enwog,Mr Roger Whittaker drwy YmddiriedolaethDdatblygu Prifysgol Cymru Bangor.Rydym yn ddiolchgar iddo ef ac i’rffermwyr fu’n gweithio gyda ni.

Ariannwyd y gwaith o Ebrill 1998 iIonawr 2003 gan Gronfa Hyblyg AdranDatblygiad Rhyngwladol (DFID)Llywodraeth y Deyrnas Unedig er buddgwledydd sy’n datblygu (Prosiect R7341).Nid yw’r farn a fynegir o angenrhaid ynfarn DFID ac ni all DFID dderbyncyfrifoldeb am unrhyw wybodaeth agyflwynir.

1 Young, E., and Mottram, A. (2001).Transplanting sorghum and pearl millet asa means of increasing food security insemi-arid, low-income countries. TropicalAgriculture Association Newsletter December2001, pp. 14-17.

34

Planhigion synhwyrol iawn yw cen y coed.Maen nhw fel petaen nhw’n ymateb i bobchwa ac awel, i bob pelydr o haul rhwng ydail ac i bob diferyn o law sy’n eu trochi.Mae rhai yn arwydd o awyr glân, rhai orisgl “melys” a rhai, hyd yn oed, yn arwyddo hirhoedledd y goedwig sy’n eu cynnal.

Yng Ngwarchodfa Natur GenedlaetholCoedydd Aber, ger Llanfairfechan, un o’rpymtheg a mwy o gen prin sy’n arwydd obarhad y coed yno dros gyfnod maith, yw

llabed yr ysgyfaint neu Lobariapulmonaria. Cyfeiria enwCymraeg hwn, gyda llaw, at gredyr hen feddygon bod planhigionyn gwella’r anhwylderau a ddawi’r rhannau o’r corff y maent ynymdebygu iddynt. Dyna oeddDysgeidiaeth y Cyfeirnodau.

Er i ddyffryn Aber gael eiddinoethi o’r goedwig hynafoldros y ddwy ganrif ddiwethaf,diau bod rhai coed wedi parayno’n ddidor dros ganrifoeddmewn llecynnau diarffordd. Palecynnau yw’r rhain felly?Gallwn resymu mai’r unionfannau lle mae’r llabed ynffynnu heddiw ydynt.

Nid yw’r mathau hyn o gen areu gorau ar y llethrau serth agafodd eu hadfeddiannu gangoed yn ddiweddarach. Nidydynt ychwaith ar yr ambelldderwen sy’n britho’r henborfeydd. Coed y ceunant, arlannau Afon y Rhaeadr Fawr,sy’n cynnig lloches iddyntheddiw. Bu’n geunant coediogerioed, mae’n debyg, diolch ierwinder y tir a’r trugaredd fellya gafodd rhag y fwyell a’r lli.

Mewn pethau bychain adirodres y mae amryw gyfrinachau.Yma,croeniach disylw ar risgl coed sy’n datgelupwt o hanes am ein tir a’r hyn a wnaeth, a’rhyn na wnaeth, ein cyndeidiau arno. O’igofnodi’n fanwl, gall ddatgelu llawncymaint â deddfau brenhinoedd.

Cyfrinachau’r CenDuncan Brown

Llabed yr ysgyfaint (Lobaria pulmonaria)

35

Mewn rhai o lynnoedd Sutherland yn yr Alban y deuthum ar draws y llyngyren bysgodgyntaf. Wedi diwrnod da ar Badenloch a darparu’r brithyll i’r badell yn y gwersyll gyda’rnos, sylwais ar y llyngyren denau goch rhyw 1cm o hyd, yn gwingo drwy gnawd cefn ybrithyll!

Dywedodd y cipar wrthyf ei fod yn bla, mai adar bwydo-ar-bysgod oedd un ogludyddion y parasit, ond o rostio’r brithyll yn iawn, nad yw’n effeithio ar ddyn! Nifedrwn feddwl am fwyta brithyll weddill yr antur honno.

Gellwch ddychmygu fy nhrallod o ddarganfod y parasit yng nghnawd brithyll yn LlynNantlle ym Mai 2001, Ebrill 2002 ac eto eleni, a’i fod wedi ymledu i Lyn y Gadair a LlynCwellyn hefyd. Mae rhai o bysgotwyr Llyn Padarn wedi’i gofnodi yno yn ogystal. Hyd ynhyn, nid wyf wed ei ddarganfod yn y torgochiaiad (Salvelinus perisii).

Dyletswydd pob naturiaethwr o bysgotwr pan wêl rhywbeth amheus ac allan o’rcyffredin, yw dweud wrth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Dyna a wnes a chael pobcydymdeimlad a chydweithrediad gan gynnwys canlyniadau eu hymchwil. Dyfynnaf rano’i hadroddiad a chanlyniadau rhwydo Llynnoedd Nantlle, Llyn y Gadair a Llyn Cwellyn.

Cwestiwn diddorol yw “O ble y daeth y pysgod garw i Lyn Nantlle?”

Yn y blynyddoedd diwethaf, yr wyf wedi gweld cynnydd mawr yn yr adar canlynol ogwmpas y llynnoedd a enwyd:

– Yr Wylan Benddu

– Gwylan y Penwaig

– Yr Wylan Gefnddu Leiaf

Mae cynnydd hefyd yn nifer y Fulfran a’r Hwyaden Ddanheddog. Sefydlog yw nifer yCreyr Glas sydd hefyd yn bwyta pysgod.

Tybed ai’r domen sbwriel enfawr ger Nantlle sy’n denu’r gwylanod?

Bygythiadau yn erwau’r pysgNorman Closs-Parry

Rhywogaeth

Brithyll BrownCrothell (Roach)

Tens (Tench)

3015

1

53%87%

100%

2224

2.5

3+ i gydHyd at 7+

?

83%0%

0%

Nifer y �pysgod a �ddaliwyd

% ieir Cyfartaledd�hyd(cm)

Oed�(Blynyddoedd)

% yn cario�parasit

Canlyniadau rhwydo tagell [gill netting] 22-23 Ebrill 2002 ar Lyn Nantlle; drwy garedigrwydd A.A.C.

36

Parasit Eustrongylides DiphyllobothriumMath o barasit Nematod Llyngyren (cestode)Gwestai cyntaf Oligochaete (llyngyren) Copepods (e.e Cyclops)

Gwestai olaf Adar sy'n bwyta pysgod�(efallai nid gwylanod)

Adar sy'n bwyta pysgod�gan gynnwys gwylanod

Bygythiadau i bysgod Mewn hen bysgod gyda�chynnyd yn niferoedd y�parasit gall frwythloni�

ddigwydd

Gall pysgod gario nifer�mawr (500) cyn marw.�Uchafswm hyd yn hyn�ym mhysgod Gogledd�Cymru yw 40 mewn un�

pysgodyn

Bygythiadau mwyaf: Lleihad yn nifer y�pysgotwyr oherwydd�

gwrthwynebiad �cyhoeddus yn arwain i�golled yn yr economi�

leol

Gall rhai rhywogaethau�dreiddio famaliaid�

megis y dyfrgi a'r minc�a hyd yn oed dyn.�Dalier sylw - dylid�coginio pysgod yn�

drylwyr.

Statws Mae'r ddau fath o barasit yn gyffredin. Efallai mai�Diphyllobothrium sydd fwyaf cyffredin

Statws lleol: Dargaanfuwyd y ddau fath yn Llyn Natlle, Llyn y�Gadair a Llyn Cwellyn. Mae tystiolaeth pysgotwyr�

yn awgrymu bod y parasitau hyn yn Llyn�Padarn hefyd

Graddau heintio: Mae graddau heintio yn lled uchel ar bod rhifau�parasit yn y pysgod unigol yn isel yn gyffredinol�

yn nheip Eustrongylides

Bygythiad tymor hir: Lleihad yn nifer y pysgod gan achosi colledion�ecolegol ac ariannol yn lleol drwy golli'r pysgota

gyda dyn yn�bosibilrwydd

�Rhai ffeithiau am y parasitiau:-

37

Prynhawn Sadwrn, 22 Ebrill 1876 oedd hipan aeth Francis Kilvert a’i gydymaith igerdded ym Mharc Moccas1 ar lan yr AfonGwy â’r gwanwyn yn byrlymu drwy’rgoedwig. Wrth ddychwelyd yn y gwyll iReithordy Monnington, ei lety am y nosonhonno ar gyfer gwasanaethu yn yr Eglwysdrannoeth, daethant ar draws yr hyn agredai ar y dechrau oedd yn hen adfailllwyd, twr anferth a weddnewidiwyd wrthagoshau ato, yn dderwen fawr ‘the king oakof Moccas Park’, fel y cofnododd yn eiddyddiadur. Coeden anferth, doredig achafniog oedd hi, eto’n glasu blagurnewydd, ei chwmpas yn mesur 33troedfedd. Tybiodd Kilvert ei bod yn 2000(2 fil!) o flynyddoedd oed! Edmygai’n fawrgoed derw Parc Moccas - ‘those grey oldmen of Moccas’ gan ddefnyddio 12ansoddair yn un ribidires i’w disgrifio.

Drannoeth, fore Sul, sonia am dawelwchysbrydoledig y llecyn o gwmpas yr Eglwyswrth glywed y tair cloch yn canu tu draw ihen blasdy llwyd teulu Glyndwr a sylwi ar‘the flat and broken gravestone of OwenGlendwrdwy (sic) divine’ wrth fynd imewn i’r addoldy. Dros gan mlynedd ynddiweddarach euthum i mewn i’r Eglwysfechan, wyngalchog ac ar ôl holi ble’r oeddy fan, cael fy nhywys gan wr lleol at yfeddfaen a orweddai ar ei hyd yn ddienwynghanol chwyn a glaswellt wrth ymyl ydrws. Bum yn pendronni ynglyn â

tharddiad yr enwau Moccas a hen blasdyDôl y Moch yn Nyffryn Maentwrog a oeddyn adnabyddus am yr hen goedwig fawr aberthynai i’r stâd yn y gorffennol, y rhanfwyaf ohoni yn cynnwys coed derw. Onddyna ddarllen hanes Dôl y Moch gan G JWilliams (1854-1933), ysgolfeistr,daearegwr a hynafiaethydd, brodor oFlaenau Ffestiniog a chael yr eglurhadhwn:

Credwn nad oes a fyno ‘moch’ yn enwyr hen Balasdy hwn, mwy nag mewnenwau lleoedd eraill yn y plwyf a’r wlad,ddim â’r creaduriaid a adwaenir wrth yrenw hwnw, ond mai mòch (rapids) yw yrystyr. Sylwer fod rapids, mwy neu lai, ynagos i bob lle o’r enw yn y plwyf hwn, erenghraifft, Bwlch y Moch, Llenyrch yMoch a Dôl y Moch, yn gystal aLlanrhaiadr-moch-nant etc., mewn rhanauo Gymru.2

Dôl y Mòch felly ac nid Dôl y Moch!(Ond! gw. Ifor Willimas, Enwau Lleoedd

(1945) t.23. Gol.)Yng nghopïau cynnar ‘Y Naturiaethwr’,

ceir gan gyn Uwch Warden GwarchodfeyddDyffryn Maentwrog, William I JonesCroesor, lawer o hanes y Dyffryn osafbwynt gwyddonol yr arbenigwr achofnodion yn disgrifio teithiau cerddeddiddorol a arweiniodd yno i aelodau’rGymdeithas.Yng nghylchgrawn Ionawr1980, cawn hanes ‘GwarchodleoeddDyffryn Maentwrog a’r Cylch’ ganddo acyn yr erthygl, pwysleisia William Jonesmai’r Dderwen Mes Di-goes Orllewinol(Quercus petraea) yw’r pren sy’n ffynnuorau yno oherwydd y tirwedd addas a’rglaw trwm (dros 70" y flwyddyn) sy’ndisgyn ar y Dyffryn3. Dywed fod y cynefina grëir gan y derw gyda’r cyfoethocaf syddar gael i gynnal adar ac anifeiliaid a rhyddrestrau manwl o adar, blodau, mwsogau a

COED DERWC.Ll.G.

Dôl y Moch, Dyffryn Maentwrog

38

llysiau’r afu a ddibynna ar y gynhaliaethhon.

Mewn sgwrs dros y ffôn efo Twm Elias,Uwch Ddarlithydd Plas Tan y Bwlch amDdyffryn Maentwrog, dywedodd maisafle’r goedwig hon yn Sir Feirionnydd, ynhytrach na’r coed eu hunain, oedd drosgannoedd o flynyddoedd oed, oherwyddplannu coed a’u tyfu i’w torri i lawr er llesyr economi, ac yna ail blannu fu’r patrwmyma. Gan fod llethrau’r Dyffryn yn serth,nid oedd modd cynhyrchu tir pori naphlannu llysiau ar raddfa eang, ond gellidllwyddo ar waelod y Dyffryn ac ar ycopaon, i dyfu coed. Safai’r angenamdanynt yn ddisyfl, barhaol ar hyd ycanrifoedd. Ar waelod y Dyffryn, gwnaeddodrefn, trawstiau adeiladu, mastiaullongau ayyb o’r coed talsyth a dyfai ynomewn pridd da. Ond, roedd mynd hefyd argoed y copaon. Coed ceimion, fforchog,cryfion y byddai seiri coed yn chwilioamdanynt i gael tameidiau arbennig iadeiladu tai a llongau gan fod darnau coedar siâp fforch yn gryfach na darnau wedi’uhoelio at ei gilydd os oedd y graen ynrhedeg efo’r tro.Y rhain oedd y gorau a’rcryfaf yn y byd. Ceid bod plyg mewncoeden gam yn arbed gwaith stemio acfelly’n ddefnyddiol iawn. Cesglid y rhisglwrth gwrs i baratoi lledr. Fel ym MharcMoccas, arferid troi moch i’r goedwig yn yrhydref i wledda ar fes, cnau a madarch.

Rydym yn ffodus bod un cofnod i’w gaelyn yr ail ganrif ar bymtheg o’r galw a fu argoed derw Dôl y Moch. Prynwyd y plasdyym 1643 gan Siôn Sions, mab RichardJones, Craflwyn4, i fab Siôn Sions a’i wraigAnn o Fraich y Bib, sef Richard Jones, Dôly Moch, y canodd William Phylip y‘Cywydd i ofyn derwen dro’ Ed.Prys iRich.Jones, Dôl y Moch’5 . wyr i’rArchddiacon Edmwnd Prys oedd EdwardPrys6 a deallwn o ddarllen y cywydd maiangen pren da sydd arno ar gyfer gwneuddistiau, coffrau a byrddau. Dywed y barddyn union sut bren y dymunai Edward Prysei gael a sut bren na wnaiff y tro o gwbl:

Rhodd a gais y gwr rhwyddwych -Dierwin wedd derwen wych,

Bur, llawngorph o bren llingoed,O bren cu o burion coed.Nid derwen flin, grin ’i gwraidd,Fregus ac yn afr’ogaidd,Derwen heb un irbren ailAil i Edward yn ’i adail.

Coeden o lawr y dyffryn, felly, nid un o’rcopaon, sy’n addas yn y cyswllt hwn. Â’rbardd ymlaen i ganmol derwen - ei thyfiantgwyrthiol o’r fesen, ei chryfder ac ystod eibywyd:

Ni luniwyd un pren lanachNa’r dderwen o’r fesen fach,Gorau erioed o’r holl goedyddYw’r dderwen ar gangen gwydd.Cryfa’i bara’n y byd,Hynaf a hwyaf hefyd.

Sonia am rinwedd y rhisg a’r dail rhagllawer dolur, y mes rhag cur a’r mangoedat wneud tân buddiol i bawb. Does dimmodd byw hebddi:

Rhaid i holl Gred lle’i cedwirFyw wrth hon ar fôr a thir.Ym mhob glyn er cyn canoedY hi yw Pen Capten y coed.

Mae’r hen blasdy yn dal i sefyll heddiwac yn ganolfan i blant ysgol o SwyddGaerhirfryn. Erys y simneiau tal yn dystioni’w oed a gellir gweld rhai o hen arfbeisiauPymtheg Llwyth Gwynedd ar y waliau yn yllofftydd. Ond i gerddwyr talogCymdeithas Edward Llwyd, trysor DyffrynMaentwrog yw ei warchodfeydd cyfoethoga’r myrdd llwybrau drwy goedwigoeddhardd un o ddyffrynnoedd tlysaf Cymru.

1 Kilvert, Francis, Kilvert’s Diary 1870-1879,(1986), Century Hutchinson Ltd.

2 Williams G.J Hanes plwyf Ffestiniog o’rCyfnod Boreuaf (1882), Hughes a’i Fab.

3 Jones, W.I. Gwarchodleoedd DerwMaentwrog a’r Cylch Y Naturiaethwr (1980),

4 Hemp, W.J. Plas Dôl-y-Moch, ArchaeologiaCambrensis (1949) t.301.

5 Davies, Glenys, Noddwyr Beirdd ym Meirion(1974) Archifdy Sir Feirionnydd.

6 Llsgr. M 130,35, LlGC7 Griffiths, J.E. (gol.) The Pedigrees of

Anglesey and Caernarvonshire Families, (1914)

39

CyflwyniadAr un adeg roedd y wiwer goch Sciurusvulgaris yn gyffredin mewn nifer ogoetiroedd yng Nghymru, ond dros y degmlynedd ar hugain diwethaf, mae’rniferoedd wedi gostwng yn drawiadol.Digwyddodd hyn i raddau helaeth iawnoherwydd iddi gael ei disodli gan y wiwerlwyd ddwyreiniol ddieithr, Sciuruscarolinensis, o Ogledd America.Y dyddiauhyn, dim ond ychydig o boblogaethau owiwerod coch sydd ar gael a’r rheini wedieu gwasgaru yn eang, a dim ond mewn tairfforest y mae niferoedd hyfyw i’w canfodbellach. Lleolwyd y boblogaeth fwyaf yngnghoedwig Clocaenog, Sir Ddinbych, trabo niferoedd llai i’w canfod o hyd ynfforestydd Tywi a Chrychan yngnghanolbarth Cymru.Yr olaf o’r tri prifsafle yng Nghymru yw planhigfa MynyddLlwydiarth ar Ynys Môn, lle yr achubwyd yboblogaeth o wiwerod coch oedd ar fin eucolli gan raglen gadwraeth wedi eichydgysylltu.

Tra bod poblogaethau wiwerod coch ynparhau i ostwng yn genedlaethol, mae’r

cynnydd yn y niferoedd ar Ynys Môn ynanghyffredin, ac o ganlyniad gall ycanlyniadau fod yn fuddiol i brosiectaucadwraeth mewn mannau eraill. Foddbynnag, cyn i ni edrych ar y gwaith yn YnysMôn, efallai y bydd yn ddefnyddiol i roiamlinelliad byr o’r rhesymau pam fod ywiwer lwyd wedi disodli’r goch frodorol arraddfa mor eang.

Wiwerod llwyd a chochMae wiwerod coch llawn dwf yn gymharolfychan, gan bwyso 270-320g fel arfer. Maehyn gryn dipyn yn llai na’r 500-650g agofnodwyd ar gyfer wiwerod llwyd llawndwf. Hadau coed yw prif fwyd y ddau fatho wiwer; byddant hefyd yn bwyta ffyngau,blodau oddi ar goed a blagur. Foddbynnag, er gwaethaf y gorgyffwrddcyffredinol yma o ran diet, mae’n amlwgfod gan wiwerod llwyd fantais gystadleuol,yn enwedig felly mewn nifer o fathau ogoetiroedd llydanddail.

Mewn cynefin llydanddail, bydddwyseddau poblogaeth wiwerod llwydllawn dwf yn amrywio’n aml rhwng 3 a 8 oanifeiliad yr hectar, lle bo dwyseddau ynllai nag un anifail yr hectar mewn clystyrauconwydd fel arfer. O’u cymharu, anaml ybydd poblogaethau o wiwerod coch llawndwf yn fwy nag un anifail yr hectar yn ynaill fath o goetir na’r llall. Os edrychwnni’n fanylach ar y gwahaniaethaurhyngrywiogaethol hyn mewn cynhwyseddcario cynefin, gallwn ddechrau deall dull ywiwer lwyd o ddisodli’r wiwer goch ynecolegol.

Dangosodd ymchwil a wnaed yn niweddy 1980au fod wiwerod llwyd yn gallu

Gwarchod y Wiwer GochSciurus vulgaris yng Nghymru:

Gwersi o Ynys MônCraig Shuttleworth

Swyddog Cynllun y Wiwer Goch, Menter Môn

Wiwer goch llawn dwf.

40

treulio’r protein mewn mes derw yn wellna wiwerod coch oherwydd bod eu systemdreulio yn gallu trin y polyphenols yn yrhedyn yn well. O ganlyniad, mewncynefinoedd sy’n cynnwys coed derw, byddgan y wiwer lwyd fantais sylweddol. Gallhyn gael ei wneud yn waeth oherwydd eubod yn dwyn storfeydd bwyd y wiwerodcoch. Mewn un astudiaeth, canfuwyd fodwiwerod llwyd wedi manteisio ar hyd at66% o gelciau bwyd a guddiwyd ganwiwerod coch. Nid yw’n syndod deall fellyfod presenoldeb poblogaeth sefydlog owiwerod llwyd yn gostwng graddfacynnydd wiwerod coch ifanc yn lleol ac ynarwain at ostyngiad yn y boblogaeth.

Yn lleol, bydd poblogaethau o wiwerodcoch yn goroesi’n hwy mewn clystyrauconwydd, yn wir mae rhai achosion sydd achryn dystiolaeth iddynt, er nad ydynt ynrhai cynrychioladol iawn, o boblogaethaucymysg coch/llwyd yn cydfyw am sawldegawd. Bydd mantais y wiwer lwyd yn llaimewn clystyrau conwydd yn amlwg, ynenwedig mewn cynefinoedd lle bo’rbyrwydden (sbriws) yn tyfu yn bennaf.Gall hyn fod oherwydd fod y cynefinoeddyma yn brin o adnoddau, lle bo maintbychan hadau’r coed yn ei gwneud hi’nanodd i’r wiwer lwyd fwy oroesi. Foddbynnag, ni ddylem anghofio’r ffaith mai’rwiwer lwyd yw’r unig rywogaeth o wiwersydd i’w ganfod bellach mewn nifer oblanhigfeydd conwydd yng Nghymru erbod niferoedd mawr o’r rheini i’w cael yma(185,000 o hectarau). Os oes unrhyw fathpenodol o gynefin conwydd yn cynniglloches tymor hir i’r wiwer goch mewn

gwirionedd nid yw hyn wedi ei brofi hydyma.

Yn olaf, hyd yn oed os gallwn ddod ohyd i’r math o gynefin sy’n cyfyngu arymosodiad gan wiwerod llwyd mae’r peryglo drosglwyddo clefyd yn para. Byddwiwerod llwyd yn aml yn cario’r firws ‘redsquirrel para-pox’ er nad ydynt ynarddangos unrhyw symptomau clinigol.Fodd bynnag, os bydd yn cael eidrosglwyddo i boblogaeth o wiwerod coch,gall y firws arwain at golledion sylweddol.Bu’r firws para-pox yma’n rhan o’r broseso ddisodli wiwerod coch gan wiwerodllwyd yn lleol.Cyfle unigrywDechreuodd prosiect wiwerod coch YnysMôn yn niwedd yr 1990’au, pangydnabuwyd fod yr ynys yn cynnig cyfleunigryw i wrthdroi, yn lleol, y patrwmcenedlaethol o boblogaethau’n mynd i’wcolli. Erbyn hynny roedd y sefyllfa’nddifrifol iawn, â dim ond cipolygonachlysurol o wiwerod coch yn cael eucofnodi ym mhlanhigfa conwydd MynyddLlwydiarth, sy’n cynnwys 244 hectar.Roedd poblogaethau o wiwerod llwyd wedihen sefydlu ledled yr ynys.

Yn Ionawr 1998 cychwynnwyd ar raglensystematig ar gyfer wiwerod llwyd ganganolbwyntio’n arbennig ar FynyddLlwydiarth a’r coetiroedd llydanddailhynny o fewn 3km i’r safle. Daliwydwiwerod llwyd gan ddefnyddio maglau dal-yn-fyw a’u lladd wedyn. Pwyswyd ywiwerod coch a ddaliwyd, a chawsant eumesur ac aseswyd eu cyflwr atgynhyrchiol.Rhoddwyd tatw clust yn nod parhaol ar

Blwyddyn

Maintpoblogaeth llawn dwfgwanwyn

*(n)

Atgenhedlu gan rhai benywaiddllawn dwf a rhai

blwydd (%)

Cyfradd goroesirhai llawn dwfo’r flwyddynflaenorol (%)

Cynnydd rhai ifanco’r flwyddynflaenorol (%)

1999 38-43 73 72 Dim data2000 72-82 65 74 752001 79-114 58 70 402002 78-95 70 65 16

Deinameg poblogaeth y wiwer goch ym mhlanhigfa Mynydd Llwydiarth

bob wiwer goch unigol. Bu’r data agasglwyd o ganlyniad i’r maglu yn fodd oamcangyfrif maint y boblogaeth ac asesufaint oedd yn cael eu hatgenhedlu (Tabl 1).

* Cyfrifiadau poblogaethau ‘caeëdig’oran y Lleiafswm o rai Byw aThebygolrwydd Cyson eu dal.

Tynnwyd cyfanswm o 68 o wiwerodllwyd o’r blanhigfa yn ystod 1998 a dimond dyrnaid o anifeiliaid a ddaliwyd mewnblynyddoedd diweddarach. Canfuwyd ywiwer lwyd estron olaf yn haf 2001. Mewnmannau eraill lladdwyd sawl mil o wiwerodllwyd mewn clystyrau llydanddail. Bu

ymateb poblogaeth y wiwerod coch yndrawiadol â graddfeydd ffafriol oatgenhedlu a goroesi. Dyblodd yboblogaeth yn ei maint ac erbyn 2002roedd y goedwig bron â chyrraedd eichynhwysedd cario os nad oedd wedi eigyrraedd. Adlewyrchwyd hyn gan ostyngiadgraddol yng nghyfraddau cynnydd mewnrhai ifanc yn lleol (Tabl 1).Yn ystod 2001,canfuwyd y torllwyth cyntaf o wiwerodcoch mewn coetir llydanddail gerllaw.Gwelwyd wiwerod coch yn chwilota’n amlmewn clystyrau cyll ac, er boddhad mawriddynt, dywedodd pobl leol fod anifeiliaidyn ymweld â byrddau adar mewn gerddi.

Camau cadwraeth ychwanegolBu cynnal awtopsia ar wiwerod llwyd ynfodd i’r prosiect fonitro lefelau cyflwr ycorff, dyddodiad braster a graddfaatgenhedlu. Byddai’r wybodaeth yma yngallu cael ei defnyddio i amcangyfrifniferoedd yn y dyfodol. Fodd bynnag, er

bod data maglu o’r fath yn ddefnyddiol,roedd angen gwaith ychwanegol os amwarchod y wiwer goch yn llwyddiannus.

Codwyd blychau nythu wiwerod iddarparu data ynglyn â rhag-ddiddyfnu agraddfeydd marwolaeth ymhlith rhai hebgyrraedd llawn dwf, maint y torllwyth adyddiau esgoriadau. Gallai blychu nythufod yn werthfawr o ran canfod cychwynclefydau difrifol.

Mewn partneriaeth â’r ComisiwnCoedwigaeth, sefydlwyd cyfarwyddiadauynglyn â rheoli coetiroedd er mwyncynyddu cynhwysedd Mynydd Llwydiarth iddal wiwerod coch. Roedd maint cymharolfychan y coetir, a’r ffaith fod clystyraullydanddail gerllaw, yn golygu nad oeddpolisi’r DU o reoli clystyrau i gau wiwerodllwyd allan yn bennaf yn un addas.

Er mwyn mesur y perygl o glefydau ganwiwerod llwyd mewnfudol, profwydsamplau gwaed am wrthgyrff i’r firws redsquirrel para-pox mewn nifer o anifeiliaid aladdwyd. Dangosodd hyn fod tua 60-70%o unigolion wedi dod i gyffyrddiad â’r firwsa bod ganddynt wrthgyrff yn eu gwaed.Mae ymchwil yn cael ei wneud ar hyn obryd i’r effaith y mae rheolaeth drylwyr ynei gael ar raddfeydd clefydau ymhlithpoblogaethau’r wiwer lwyd.

Yn olaf, er bod amrywiaeth eang o gyrffgwledig yn cefnogi’r rhaglen o warchod ywiwer goch, roedd cefnogaeth y bobl leolyn hanfodol. Sefydlwyd ‘Cyfeillion yWiwerod Coch’ ac erbyn hyn mae drosddau gant o aelodau.

Y Cochion yn DychwelydYn fuan yn 2002 cydnabuwyd nad oeddanifeiliaid yn debygol o ledu llawer y tudraw i rywfaint o goetiroedd llydanddailbychan cyfagos oherwydd bod fforestMynydd Llwydiarth yn gymharolanghysbell.Yn wahanol i’r wiwer lwyd,mae’r wiwer goch yn llai tueddol o groesidarnau eang o dir agored. O ganlyniad, pebyddai wiwerod coch yn dychwelyd igynefinoedd y buont ynddynt o’r blaen arYnys Môn, yr unig ffordd y gellid cyflawnihyn fyddai drwy brosiect o ailgyflwynowedi ei gynllunio’n ofalus.

41

Archwilio wiwer goch.

Byddai hwn yn gam dadleuol, gan nafu’r mwyafrif o achosion diweddar oryddhau yn y DU yn llwyddiannus. Erhynny penderfynodd Menter Môn, mewnpartneriaeth â Sw Mynyddig Cymru, iymgymryd â rhaglen ryddhau. Felrhagarweiniad i’r astudiaeth, archwiliwydcanlyniadau’r treialon blaenorol yn y DU.Roedd yr astudiaethau hyn wedi dangosfod methiant i gael gwared ar wiwerod

llwyd o fannau rhyddhau yn ffactorhanfodol bwysig.

Planhigfa binwydd arfordirol fawr (770hectar) fforest Niwbwrch fydd safle’railgyflwyno yn Ynys Môn. Mae’r ffaith fody coetir ar wahân i glystyrau llydanddailcyfagos yn ei wneud yn safle delfrydol.Mae niferoedd y wiwerod llwyd sy’npreswylio yno wedi eu gostwng ynsylweddol eisoes (Ffigur 1) ac y maemaglu’n mynd rhagddo. Os bydd y broseso ryddhau wiwerod coch yn llwyddiannus,rhagwelir y bydd coedwig Niwbwrch yncynnwys un o’r poblogaethau mwyaf owiwerod coch yng Nghymru yn y pendraw.

Wiwerod coch CymreigMae prosiect Ynys Môn wedi dangos y gallrhaglen gadwraeth leol wedi ei chydgysylltu

achub poblogaethau o wiwerod coch rhagmynd i’w colli. Mae’n hollol bosib’ wrthgwrs y bydd y prosiect yn methu â chaelgwared ar y wiwer lwyd yn gyfangwbl o’rynys, er gwaethaf ein bwriadau gorau. Erbod hyn yn bosib’, byddai gwneud dimwedi golygu y byddai’r anifail hyfryd aphoblogaidd hwn wedi diflannu’n fuaniawn o Ynys Môn.

Fodd bynnag, mae’r sefyllfa leol yngadarnhaol ar hyn o bryd; lleihawydpoblogaeth wiwerod llwyd yr ynys arraddfa eang a sylweddol. Mae gennymgofnod da o ddosbarthiad daearyddol yddau rywogaeth erbyn hyn a dealltwriaethfanwl o ddemograffeg poblogaeth y wiwergoch. Mae hyn i’r gwrthwyneb yn hollol ifannau eraill yng Nghymru, lle maepoblogaethau yn dal i gael eu disgrifio arsail ffiniau daearyddol y coedwigoedd lley’u canfyddir yn unig, yn amlach napheidio. Wrth gwrs mae hyn yn ei gwneudhi’n amhosib’ i asesu newidiadau yn yboblogaeth, i deilwrio cadwraeth isefyllfaoedd lleol, ac i fesur pa moreffeithiol yw cyfarwyddiadau rheoli lleol.Os yw poblogaethau wiwerod coch am gaeleu gwarchod ar y tir mawr, yna bydd rheoliwiwerod llwyd mewn modd ymosodol ynhanfodol ac y mae’n rhaid caeldealltwriaeth well o boblogaethau wiwerodcoch.

42

Wiwer lwyd ifanc a ddaliwyd

40

35

30

25

20

15

10

5

01 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20

Sesiwn 1

Sesiwn 2

Sesiwn 3

Diwrnod

Nif

er y

r an

ifei

liaid

a d

daliw

yd

Ffigur 1 Rheoli wiwerod llwyd yn Niwbwrch ynystod 2002. Canlyniadau tair sesiwn maglu 20diwrnod gan ddefnyddio 90 o faglau dal-yn-fyw.

43

Mae planhigion yn rhan hanfodol odreftadaeth naturiol y byd ac yn elfenallweddol yng nghynaladwyedd y byd.Maent yn adnoddau angenrheidiol: awyr aanadlwn, ffynhonnell fwyd ddiguro, sawldeunydd craidd a meddyginiaethau. Aceto, petai’r gyfradd gyfredol o gollicynefinoedd yn parhau, bydd 30-50% oholl rywogaethau planhigion y gwyddomamdanynt yn diflannu erbyn diwedd yganrif hon. Mae hon yn her fyd eanganferthol.

Yn gynyddol ledled y byd, mae gerddibotaneg yn datblygu’n bwysig ar gyfercadwraeth bioamrywiaeth gan chwaraerhan hanfodol yn yr ymdrech hon i greu

dealltwriaeth o blanhigion sydd angen eugwarchod.

Newid cymharol ddiweddar oedd newidrôl gerddi botaneg o fod ynarddangosfeydd planhigion i fod ynsefydliadau sy’n seiliedig ar gadwraeth, ac ymae’n adlewyrchu’r hyn sydd wedidigwydd mewn swau. Unig ddiben sw erstalwm oedd arddangos casgliad oanifeiliaid. Erbyn heddiw, maent yn cynnalymchwil rhyngwladol a rhaglennimagwraeth ar gyfer cadwraeth ac ynailgyflwyno anifeiliaid prin. Mae’r un pethyn wir am erddi botaneg - cedwirplanhigion yn gaeth o fewn ‘Arch Noa’rhag ofn i’r boblogaeth wyllt ddiflannu abod angen ei hailgyflwyno. Gwneir gwaithymchwil ar y safle ac allan yn y maes ermwyn cadw’r planhigion yn eucynefinoedd naturiol.

Roedd sefydlu Gardd FotanegGenedlaethol Cymru yn cyd-ddigwydd agymwybyddiaeth ddigyffelyb o’r angen brysam ddogfennu, deall a chadw planhigion yDdaear. ’Mae’n fenter llawn dychymyg sy’ncyflwyno cyfle i Gymru ddatblygu sefydliadcenedlaethol o arwyddocâd a brirhyngwladol - yr ardd fotaneg genedlaetholgyntaf a grëwyd gyda chadwraeth yn graiddiddi.

I ddechrau, bydd ein rhaglenwyddoniaeth yn canolbwyntio ar gadwraethplanhigion Cymreig prin a rhai sydd mewnperygl. Nid yw hyn yn bersbectif plwyfolond yn hytrach yn bersbectif rhyngwladol.Bydd hyn yn cyflawni nod allweddol ygymuned fotanegol ryngwladol, sef gosodcyflawni cadwraeth o fflora ei hardal ei hunyn brif nod gerddi botaneg .

Mae rhai yn ystyried bod y sawl sy’nymwneud â chreu gardd fotaneg yngNghymru wedi cymryd cam gwag. Oni

Diogelu planhigion prin CymruRhodri Clwyd Griffiths a M.Delores Lledò

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Cerddinen Daren Fach (Sorbus leyana)

fyddai’n fwy cyffrous creu gardd fotanegym Mrasil gyda’i amrywiaeth toreithiog a’rbygythiad tra hysbys i’r fforestydd glawtrofannol? Gwaetha’r modd, gan amlaf nidydym yn gwerthfawrogi na chymryddiddordeb yn yr hyn sydd ar garreg eindrws.

Mae Cymru yn wlad gydag amrywiaetho dirwedd, hinsawdd, daeareg aphriddoedd. Adlewyrchir hyn yn yramrywiaeth o wahanol gynefinoedd, pobun â’i fflora ei hun, er enghraifft: clogwyniyn uchel i fyny ar fynyddoedd Eryri sy’ndarparu lloches i gymunedau arctig-alpaiddgan gynnwys planhigion megis Lili’rWyddfa (Lloydia serotina) a’r TormaenSiobynnog (Saxifraga cespitosa). Twynitywod de Cymru sy’n gartref i Grwynllys yTwyni (Gentianella uliginosa), a Gefell-lys yfignen (Liparis loeselii), a chreigiaucalchfaen, a chlogwyni BannauBrycheiniog sy’n cynnal poblogaethau o raio’n Heboglys prinnaf. Mae nifer oblanhigion Cymreig yn brin iawn ac y maeeu bodolaeth dan fygythiad. Tyf rhai yngNghymru yn unig ac ni chanfyddir hwy ynunman arall yn y byd. Efallai na fyddai eucolli yn effeithio ar ein bodolaeth ni, serchhynny gall fod iddynt briodweddaumeddyginiaethol. Pwy sy’n ddigon dewr ibenderfynu pa blanhigion sy’n werth eucadw a pha rai na ddylid eu cadw? Sutgellir gwahaniaethu? Yn bwysicach fyth, osyw gwlad megis Cymru yn methuamddiffyn ei phlanhigion, sut y gallwnddisgwyl i wledydd sy’n datblygu, a gaifffanteision tymor byr o ddifa’r amgylchedd,wrando arnom a chynllunio ar gyferdyfodol hirdymor cynaladwy.

Ar y cyd â nifer o fudiadau, yn bennafPrifysgol Cymru, Amgueddfeydd acOrielau Cenedlaethol Cymru a ChyngorCefn Gwlad Cymru, rydym yn cynnalymchwil i gadwraeth planhigion prinCymru. Mae ein gwaith yn canolbwyntioar faes systemeg gadwraeth gan ddefnyddiotechnegau moleciwlaidd DNA.

Mae’r planhigion yr ymchwilir iddynnhw’n cynnwys:

Lafant Penfro, (Limoniumtranswallianum)Planhigyn sy’n endemig i Gymru yw hwn,a dim ond mewn un safle mae’r blodynporffor prydferth hwn yn tyfu, yn SirBenfro, ar glogwyni môr carreg galch sy’nwynebu’r de ger Dinbych y Pysgod.

Penboeth yr yd, (Galeopsis segetum) Ar hyn o bryd, mae’r rhywogaeth hon wedidiflannu o Ynysoedd Prydain. Cafodd eigweld ddiwethaf ger Bangor, Gwynedd ym1975, lle’r oedd yn tyfu fel chwynnyn tir âr.Rydym yn ceisio ail-sefydlu’r rhywogaethhon.

Cerddinen Darren Fach, (Sorbusleyana) Dim ond yn Ne Cymru mae’r rhywogaethhon yn tyfu’n wyllt, ar ddau glogwyngarreg galch ym Mannau Brycheiniog, llecafodd ei darganfod gyntaf ym 1896.Mae’n debygol nad yw’r boblogaeth fyd-eang wyllt yn fwy na 16 o goed aeddfed.Ynystod mis Awst 1998 cafodd Sorbus leyanaei disgrifio gan y Gronfa Fydeang ar gyferNatur, Canolfan Fonitro Genedlaethol yByd ac Undeb Cadwraeth y Byd fel“coeden brinnaf Prydain” a chafodd eigosod yn y categori uchaf o rywogaethaudan fygythiad: rhywogaeth “dan FygythiadEnbyd”. Mae gan yr Ardd Fotaneggasgliadau o bob un ond dwy o’r coedgwyllt, naill ai’n hadblanhigion neu’ngasgliadau wedi’u trawsblannu.

Heboglys Nedd, (Hieracium nidense)Mae Heboglys Nedd yn brin ac ynendemig i Gymru, a dim ond tua 30 oblanhigion sydd ar ôl ar lond llaw o gerrigmawrion mewn un afon yn SirFrycheiniog, ac, o bosibl, mewn un saflearall yng Ngogledd Cymru. Maeplanhigion yn cael eu tyfu mewn niferoeddsylweddol yn yr Ardd Fotaneg er mwyndiogelu’r poblogaethau hyn ac er mwyngwneud yn sicr bod planhigion ar gael i’whailgyflwyno i safleoedd addas yn ydyfodol.

44

Ewch allan i weld, ac wedi gweld, rhowch gymorth i ddiogeluprydferthwch tirluniau unigryw, amrywiol abregus Cymru.

Am wybodaeth pellach: 01938 552525 / 556212 Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Ty Gwyn, 31 Y Stryd Fawr, Y Trallwng, Powys, SY21 7YD

www.cprw.org.uk, [email protected]

Ewch allan i weld, ac wedi gweld, rhowch gymorth i ddiogeluprydferthwch tirluniau unigryw, amrywiol abregus Cymru.

Am wybodaeth pellach: 01938 552525 / 556212 Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Ty Gwyn, 31 Y Stryd Fawr, Y Trallwng, Powys, SY21 7YD

www.cprw.org.uk, [email protected]

Heboglys y Ffiol, (Hieracium cyathis) Mae Heboglys y Ffiol yn blanhigynPrydeinig prin ac endemig sy’n tyfu mewnpum safle’n unig yng Nghymru a Gwlad yrHaf

Canri Dryflwyddol, (Centauriumscilloides) Mae gan y Ganri Dryflwyddol flodyn pinchardd iawn, ac mae’n aelod o deulu’rcrwynllys. Mae’n wahanol i’r GanriGyffredin gan fod ganddo flodau mwy acmae’n dryflwyddol, gan ymledu drwygyfrwng ymledyddion sy’n ffurfio mat sy’npara drwy gydol y flwyddyn.

Mae unig boblogaethau cynhenidPrydeinig y planhigyn hwn yn gyfyngedig iGymru, mewn rhan fechan o arfordirGogledd Penfro. Roedd y rhywogaeth honyn arfer tyfu yng Nghernyw ond, ynanffodus, collwyd poblogaethau Cernywers 80au’r ugeinfed ganrif. Mae rhaipoblogaethau’n tyfu ar lawntiau yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn Iwerddon ondcredir mai planhigion sydd wedi ‘dianc’ oerddi yw’r rhain.Yn fydeang, dydi’r GanriDryflwyddol ddim yn blanhigyn cyffredin,ac mae bron yn endemig i Ewrop, gan dyfu

ar arfordir Ffrainc, Sbaen, a Phortiwgal.Mae’n tyfu hefyd yn Ynysoedd yr Asores llemae ganddo flodau gwynion, a chredir eifod yn is-rywogaeth wahanol yno.

Rydym yn cydweithio â Dr Tim Rich ynyr Amgueddfeydd, a Stephen Evans oGymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain, iddiogelu’r rhywogaeth.

Creylys Cymreig (Senecio cambrensis)Rhywogaeth newydd a darddodd o SirFflint ac un o’r rhywogaethau mwyafdiweddar i esblygu hyd y gwyddom.Gwyddom iddo ddatblygu ar ôl croesiadrhwng S.vulgaris brodorol a S.squalidus agyflwynwyd drwy ardd fotaneg Rhydychen.Gan ddefnyddio technegau moleciwlaiddrydym yn astudio sut y daeth y rhywogaethhon i fodolaeth a sut y mae’n esblygu.

**************Dr Rhodri Clwyd Griffiths: Rheolwr-

Gyfarwyddwr BioTechniwm, menter ar ycyd rhwng y WDA a’r ardd fotaneg.

Dr M.Delores Lledò:Yn enedigol oValencia, Sbaen, ymunodd â’r ArddFotaneg fel botanegydd cadwraeth yn Awst2002 o’r Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew.

45

46

Dywed entomolegwyr bod yna ddau fath oFrych y Gro yn ynysoedd Prydain ond body ddau fath mor debyg i’w gilydd fel maianodd iawn, iawn yw dweud y gwahaniaethrhyngddynt. Brych y Gro yw’r enwcyffredin ar y pryf Sialis lutaria yn ardalFfestiniog.Yr ‘Alderfly’ yw ei enw ynSaesneg ac enwau eraill arno yw ‘Orl Fly’ a‘Hump Back’.Yr un sydd â’i enw uwchben hyn o lith a welir o gwmpas yllynnoedd tra bo’r math arall Sialisfuliginosa yn dueddol o gael ei weld yngnghyffiniau afonydd. Mae’n bryf sy’n eithafcyffredin yn ei dymor ac mae iddoddosbarthiad eang. Daw i’r golwg ym misMai - weithiau yn weddol gynnar a throarall yn nes i ddiwedd y mis - gan barhauyn amlwg hyd at ddiwedd mis Mehefin.Y fanw yw’r fwyaf o ran maint, yn drichwarter modfedd o hyd tra mai rhywbwtyn hanner modfedd yw’r gwryw. Mae’rpen yn ddu a’r corff yn llwyd-dywyll - bronyn ddu. Lliw yr adenydd - pedair ohonynt,sy’n wythiennog - yw gwinau gyda smotiauduon arnynt. Pan fydd yn gorffwys, maeBrych y Gro yn cau ei bedair adain yn glosar ei gilydd fel to ty uwch ben ei gorff.Yny ffurf hwn, nid yw’n annhebyg i deulu obryfed o’r enw ‘gorbryfed’ mewn rhaiardaloedd, ac yn wyddonol y Trichoptera(S. Caddis Flies).Mae’r tebygrwydd hwnwedi arwain rhai i gredu mai perthyn i’rteulu eithaf lluosog hwnnw y mae. Mewngwirionedd, er y tebygrwydd o ran ffurf,does dim perthynas o gwbl rhyngddynt.Mae Brych y Gro mewn dosbarthiad urddcwbl wahanol. Tra bod adenydd yTrichoptra wedi’u gorchuddio â mân flewac yn teimlo’n feddal i’r cyffyrddiad, maeadenydd Brych y Gro yn gwbl llyfn, ynsgleiniog, yn galed ac yn wythiennog.

Diddorol iawn, iawn yw cylch bywydBrych y Gro - cylch bywyd sydd ychydigyn wahanol i unrhyw bryf arall, hyd ygwyddys. Mae’r cylch yn cychwyn gyda’rfanw yn dodwy ei hwyau, wedi i’r rheinigael eu ffrwythlonni gan y gwryw. Gwnahynny ar ryw blanhigyn megis gweiryn, neubabwyryn neu’i gilydd sy’n gwyro dros ydwr neu’n agos ato neu efallai ar wynebmaen neu greigen yn y dwr. Gwna hyn ynddestlus iawn, yn ddefodol ac yn ddeddfol;nid eu hau ar wasgar a gadael iddyntgymryd eu siawns, ond yn hynod odrefnus. Gwna hyn fel bod gan y larfa, sefy bywydyn bychan, bychan a ddaw o’r wy,bob siawns o ddisgyn i’r dwr neu o fedrucyrraedd y dwr unwaith y mae wedi deoro’r wy.Rhwng 500 ac 800 yw nifer yr wyau syddgan fanw Brych y Gro i’w dodwy ac maehi’n gwneud y gorchwyl pwysig hwn mewndull tu hwnt o ofalus. Os mai rhyw glwtbychan, gwastad o faen neu o garreg y maehi wedi’i ddewis i ddodwy arno, yna mae’ntrefnu’r wyau’n rhesi rheolaidd twt y naillwrth ochr y llall. Os mai pabwyryn neuweiryn crwn yw’r dewisedig fan, yna, rhoiryr wyau yn gylch ar gylch a hynny’ndrefnus, daclus, am goes y planhigyn.Dywedir am fanw Brych y Gro, petairhywun yn ei symud pan ar ganol y ddefodo ddodwy, a’i rhoi hi mewn man arallgerllaw, byddai hi’n dod yn ôl a gorffenyno cyn mynd ati i ddodwy clytiad arall ynrhywle gwahanol. Fel y dywed un awduramdani, ‘Un hynod o drefnus yw’r henfenyw yna’.Ymhen rhyw ddeng niwrnod, mae’r larfa’ndeor o’r wy, yn disgyn i’r dwr neu mae’nddigon agos ato i fedru ymgripian iddo acymgladdu yn y llaid ar ei waelod. Treulia’rlarfa’r deuddeng mis nesaf ar wely’r llyn,

Brych y Gro (Sialis lutaria)Emrys Evans

yn araf dyfu a datblygu gan fwrw’i groenbob yn hyn a hyn, nes dod yn fodfedd neufwy o hyd. Mae’n datblygu, hefyd, i fod yngreadur milain ac ymosodol iawn, yn barodi herio creaduriaid eraill mwy nag ef eihun, eu trechu a’u lladd ac yna eu bwyta.Ei loches yn ystod y cyfnod hwn o’i fywydyw twnel yng ngwely’r llyn.Yno, mae’nllechu, heblaw pan fydd yn mentro allan ichwilio am ysglyfaeth - a dyna pryd y maeei brif elyn, y pysgodyn, debycaf o daroarno. Ei liw, a rydd rhywfaint o gymorthiddo osgoi cael ei weld ar y cyrchoeddbwyd hyn, yw gwinau tywyll ar ei rannauuchaf, tra bod ei rannau isaf yn felynaidd ihufenaidd. Os llwydda i osgoi ei arch elyna chyrraedd ei lawn dwf, mae’n gadael eiloches twnelog am y tro olaf, nid i chwilioam brae, ond i anelu am lan y dwr ac amdir sych. Mae’n cefnu ar ei gartref gwlyb,yn ymgripian i’r tir am ychydig droedfeddineu hyd yn oed lathenni, yn dod o hyd iglwt o dir meddal ac, ar unwaith , ynymgladdu o’r golwg ynddo. Gall fynd, ardro, gymaint ag wyth modfedd i’r pridd.Yno, mae’r creadur bwystfilaidd hwn ynbwrw’i groen am y tro olaf ac yn troi’n hyn

a elwir yn chwiler (S.pupa). Dyma’r cyfnoda’r cyflwr llonydd a disymud yn ei hanes,pan mae’r trawsnewid gwyrthiol yndigwydd y tu mewn i blisgyn y chwiler.Cymer hyn rhyw bythefnos i’w gyflawni aco’r pridd a’r llaca, mae pryf yn ei lawn faintyn tyllu ei ffordd i olau dydd gan adael o’iôl blisg, ac, ar hwnnw, argraff holl organaua ffurf y chwiler.Wedi’i fywyd cyfyng, tywyll, twnelog, arwely’r llyn, mae Brych y Gro yn lledu eiadain i ryddid y bywyd golau, heulog,uwch ben y dwr ac i wneud ei ran iddiogelu dyfodol y llinach. Rhyfeddol ynwir yw’r trawsnewid hyn o larfa i chwiler acyna i bryf. O greadur bwystfilaidd acysglyfaethus a digon hyll yr olwg - petaihi’n weddus dweud hynny am un ogreaduriaid distadl y Bod Mawr - daw uno’r pryfed mwyaf dof a diniwed y gellir eiddychmygu i rannu ein byd. Mae Brych yGro yn greadigaeth newydd mewn mwynag un ffordd; mae ei holl natur wedinewid, mae ei ffurf yn gwbl newydd. Prinbod dim ar ôl i’n hatgoffa o’i fywyd isel,tywyll, trahaus a lleidiog ar wely’r llynonibai efallai, rhywfaint o’r lliw gwinau aoedd iddo yr adeg honno. Er ei fod wedi’ifagu yn y dwr ac, ar ffurf larfa, wedi treuliocyfnod hwyaf ei fywyd, ac er bod y pryf i’wgael o gwmpas y glannau, eto, mae’ngyndyn i’w ryfeddu i fentro ar y dwr. Maefel petai wedi gwneud diofryd na wnagymaint â gwlychu gwadnau ei draed ynnwr y llyn os medr mewn rhyw fodd osgoihynny.Os lluchir Brych y Gro ar y dwr, heb oedidim, mae’n anelu am y lan agosaf. Ei unigbwrpas mewn bywyd bellach yw cael hyd igymar a gwneud ei ran ym mharhâd ei hil.Pryf diddorol iawn yw Brych y Gro.

47

Brych y Gro

48

Nid yw’r ffyngau wedi denu llawer o sylwgan y Cymry yn hanesyddol, fel y gwelir obrinder yr enwau cyffredin amdanynt. Erhynny, mae’r ffaith bod cymaint o dirweddCymru (tua 70%) yn lastir lled-naturiolwedi arwain at ddiddordeb cynyddol yn yffyngau sy’n byw yn y cynefinoedd hyn.Mae sôn bod nifer mawr o Almaenwyr ynymweld â’r Canolbarth er mwyn casglumadarch hud(Psilocybe semilanceata). Efallaiy dylai’r Bwrdd Croeso ymdrechu i hybu’ragwedd hon ar dwristiaeth! Yn ogystal,darganfuwyd yn ddiweddar genws newyddo ffwng yn ardal Aberystwyth gyda’r enwCyllamyces aberensis.Y rheswm bod y ffwnghwn wedi osgoi sylw cyhyd yw ei fod ynbyw o fewn rwmen gwartheg ac yn tyfu ilai na milimetr o faint, ond eto mae’n

hanfodol bwysig i’r fuwch gan ei fodyn gallu torri i lawr seliwlos o’rborfa.

Os ymwelwch â glastiroedd syddheb eu hail-hadu neu eu gwrteithioyn ystod yr hydref (o Awst hydRhagfyr), mae’n debyg iawn i chiddod ar draws y capiau cwyr, sef ymadarch lliwgar (coch, gwyn,melyn, gwyrdd, piws, pinc) seimllydsy’n perthyn i’r genws Hygrocybe. Osafbwynt Ewropeaidd, mae capiaucwyr Cymru’n bwysig iawn gan eubod mor gyffredin.Yn yr Iseldiroedddim ond tua 200 hectar o ‘lastircapiau cwyr’ sy’n bodoli bellach ganfod cymaint o amaethyddiaeth dwysyno. Gan fod nifer helaeth olastiroedd Cymru ar lethrau neu’nanghysbell, maent wedi cael eurheoli mewn dull helaeth iawn a hebgael eu haredig na’u gwrteithio. Maeambell i fynwent a lawnt hirsefydlog

yn cynnal nifer mawr o’r capiau cwyr.Yrenwocaf yw lawnt Llanerchaeron yngNgheredigion. Darganfuwyd 34rhywogaeth (o’r tua 40 rhywogaethEwropeaidd) mewn ardal o lai na 0.25 ha.O ganlyniad, dynodwyd lawntLlanerchaeron a hefyd Disgwylfa (bannauBrycheiniog) yn SSSI ar sail eu ffyngau.

Mae’n debyg bod nifer ohonoch hebsylwi rhyw lawer ar y capiau cwyr yn ygorffennol. Felly, mae cyfle dros y misoeddnesaf i chi gymryd rhan yn arolwg ymudiad Plantlife (www.plantlife.org.uk/) igasglu gwybodaeth am eu dosbarthiad.Ybalerina binc (Hygrocybe calyptriformis) ywun o’r delaf a’r hawsaf i’w hadnabod (llun1). Fe’i hystyrir yn fadarchen brin iawnond mae’n bosibl bod hyn yn ganlyniad i’r

Ydi’r balerina binc yn dawnsio yneich gardd chi?

Gareth Wyn Griffith a Gary EastonSefydliad y Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Cymru, Aberystwyth SY23 3DD, [email protected]

Hygrocybe calyptriformis

49

prinder o bobl sydd wedi chwilio amdani.Felly os y gwelwch hi, cofiwch sôn wrthPlantlife trwy eu tudalennau gwe (neuwrthym ni) gan nodi’r lleoliad, dyddiadayyb.Y rhywogaeth brin arall yw Hygrocybespadicea (llun 2; llai nag 20 safle ymMhrydain, 5 ohonynt yng Nghymru).

Un cwestiwn sydd wedi codi yw pammae’r capiau cwyr mor gysetlyd ynglyn â’ucynefin. Trwy ein hymchwil ynAberystwyth mae’n ymddangos eu bod ynsensitif iawn i nifer o arferion amaethyddol,yn arbennig gwrteithio a chalchu (er eu

bod yn ddigon cyffredinar lastiroedd calchog).Maent yn ffynnu mewnpriddoedd gwael gan eubod yn gallu defnyddionitrogen o’r hwmws acyn methu cystadlu â’rffyngau eraill mewnpriddoedd mwymaethlon. Maent hefydyn hirhoedlog ac yntyfu i ffurfio cylchoeddtylwyth teg hyd at 10 mo ddiamedr. Anaml yceir capiau cwyr arborfeydd sydd wedi’uharedig o fewn sawldegawd. Felly maedyfodiad y tractor agwrteithiau artiffisial

ers y rhyfel wedi bod yn her sylweddoliddynt. Trwy gyllid gan Gyngor CefnGwlad Cymru, rydym hefyd yn arolygudros 50 o lastiroedd pwysicaf Cymru ermwyn darganfod a ydi’r capiau cwyr ynymateb i aflonyddwch ecolegol yn yr unffordd â phlanhigion a phryfed prin.Ybwriad yw rhannu unrhyw wybodaethnewydd trwy safle gwe y Capiau Cwyr(http://www.aber.ac.uk/capcwyr).Yn ycyfamser, cofiwch chwilio amdanynt apheidiwch â gwrteithio eich lawnt!

Hygrocybe spadicea

50

Mae Aberglasney, Sir Gaerfyrddin, yn un o

brosiectau adfer gerddimwyaf cyffrous yWlad.Mae

nodweddion garddwriaethol gwych a hanes dirgel

i'r gerddi. O fewn naw erw'r arddmae chwe gardd

wahanol gan gynnwys tair gardd o fewn waliau.Yn

y canol, mae clwysty a llwybr rhagfur unigryw o

oes Elisabeth/Jacobeaidd wedi'u hadnewyddu'n

llwyr.Dyma'r unig enghraifft sydd wedi goroesi yn y

DU.Hefyd,mae yno gaffi gwych, siop ac arwerthiant

planhigion.

ORIAU AGORYn agored bob dydd (heblaw Dydd Nadolig)Oriau agor yr Haf 10.00am - 6.00pm

(mynediad olaf am 5.00pm)Oriau agor y Gaeaf 10.30am - 4.00pm

Ffôn/Ffacs: 01558 668998

E-bost: [email protected]: www.aberglasney.org

51

Mae Craig-adwy-wynt rhwng Pwllglas aLlanfair Dyffryn Clwyd, rhyw ddwy filltiri’r de o Ruthun. Mae’n un o’r safleoeddgorau am loynod byw. Cafwyd 32 o’r 34rhywogaeth y gwyddom amdanynt yngngogledd Cymru, yma ar y garreg galch ynystod y degawd diwethaf. Prynwyd ywarchodfa bwysig hon gan y Gymdeithaser Gwarchod Glöynod (ButterflyConservation) yn 2001 gan sicrhau 20 erwo’r safle gydag arian y Gymdeithas ynghydâ grant gan y Cyngor Cefn Gwlad. Rydymhefyd yn ddiolchgar i Mr a Mrs Steve ycynberchnogion am eu cydweithrediadparod.

Ar ben y bryncyn, mae palmantcalchfaen, math arbennig o graig dyllog allyfn. Mae’r rhan fwyaf o’r cynefin hwn yngngogledd Lloegr gyda dim ond un neuddwy enghraifft yng Nghymru. Oherwyddy rhigolau a’r tyllau yn y graig, mae’r‘palmant’ yn rhoi lloches i amrywiaeth oblanhigion y garreg galch yn ogystal ag irywogaethau sy’n fwy nodweddiadol ogoedydd. Hefyd, mae ambell lecyn o briddasidig wedi’i ffurfio lle mae llystyfiant wedidechrau pydru.Ymhlith y planhigionnodweddiadol, ceir Pig-yr-aran Rhuddgoch(Geranium sanguineum), Tafod y Bytheiad(Coenoglossum officinale),MeligwelltPendrwm (Melica nutans), a’r Lloer-

Craig-adwy-wynt, Sir Ddinbych -hafan i’r Glöyn Byw

John Davies

Tegeirian Llydanwyrdd (Platanthera chlorantha)

redynen (Botrychium lunaria). Maeplanhigion nodweddiadol o hengoedlannau megis Marddanhadlen Felen(Lamiastrum galeobdolon), Bresychen y Cwn(Mercurialis perennis), Briwydd Bêr (Galiumodoratum), Suran y Coed (Oxalisaccetosella), Tafod yr Hydd (Phillitisscolopendria) a Chlust yr Arth (Saniculaeuropaea) yn dangos pa mor hir y bu’rholltau yn y graig yn rhoi lleithder achysgod iddynt. Canlyniad anghyffredinarall o effaith y rhigolau ynghyd â phoricaled gan ddefaid am flynyddoedd yw’rcoed ‘bonsai’ naturiol, - y Ddraenen Wena’r Onnen yn arbennig - sydd wedi galluegino yng ngwaelod yr hollt allan ogyrraedd ceg y ddafad.

Y rheswm pennaf dros brynugwarchodfa Craig-adwy-wynt yw’r FrithegBerlog (Boloria euphrosyne) (Pearl-borderedFritillary). Mae’r glöyn hwn wedi prinhaugymaint ym Mhrydain nes bod ywarchodfa hon yn un o’i gadarnleoedd yngNghymru.Yn ystod 1997, dim ond 17 saflea gafwyd ym Mhrydain a bellach, mae rhaio’r rhain wedi diflannu. Mae’r graig noetha hen ddail marw y Rhedyn Ungoesynghyd â digonedd o’r fioled yn gwneud ycynefin hwn yn ddelfrydol i’r lindysyn.Mae’r berthynas rhwng y rhedyn a’r fioledyn allweddol. Fel rheol, mae lindys yFritheg Berlog yn bwyta’r Fioled Gyffredin

(Viola riviniana) yn unig, tra bod rhai’rFritheg Berlog Fach (Boloria serene) a’rFritheg Werdd (Argynnis aglaja) yn bwydoar amryw o fioledau gan gynnwys Fioled yGors (Viola palustris) a’r Fioled Flewog (V.hirta).

Dangosodd ymchwil gan GymdeithasGwarchod y Glglöynod fod cysgod yrhedyn ifanc ym mis Ebrill, ynghyd â rhyw15cm o drwch o’r hen ddail o’rblynyddoedd cynt, yn codi’r tymheredd ogwmpas y fioledau gymaint â 15 neu 20gradd yn uwch na’r tymheredd amgylchol.Mae’r Fritheg Berlog yn deffro o’i chwsgfel lindysyn yn y gwasarn dail (leaf litter)ynghynt na’r rhelyw o wyfynod ac felly,mae’r cysgod a’r cynhesrwydd hyn ynangenrheidiol. Gall y glöyn ifanc dorheuloar y gwasarn sydd hefyd i raddau yn mygu

tyfiant planhigioneraill ar wahân i’rfioled. Fodd bynnag,os bydd y gwasarn ynrhy dew, gall hyd ynoed y fioledddiflannu. Maecyflenwad o neithdargan flodau cynnarmegis Glesyn y Coed(Ajuga reptans) aChwerwlys yr Eithin(Teucrium scorodonia)hefyd ynnodweddiadol osafleoedd da i’rFritheg Berlog.

Gwelwn felly, fodrheoli’r safle’n anodd.

52

Y Fritheg Berlog – ffurf albino

Y Fritheg Berlog (Boloria euphrosyne)

Mae gwirfoddolwyr yn arbrofi drwy dorri’rrhedyn ac yna ei gribinio oddi ar fannauarbennig. Rydym yn cadw golwg ar dyfianty rhedyn a’r fioled ac yn sylwi pryd mae’rgwyfyn benywaidd yn dodwy wyau arnynt.Dyma waith tymor hir i benderfynu ar ypatrwm gorau o dorri’r rhedyn.

Cafodd y newidiadau cyflym mewnamaethyddiaeth a choedwigaeth yn ystodyr ugeinfed ganrif effaith andwyol ar yFritheg Berlog.Yn weddol sefydlog o rantiriogaeth, eto yn gallu ail sefydlu drosbellter o ychydig filltiroedd, roedd wedi’iaddasu’n dda i’r patrwm clytiog o wahanolgynefinoedd yn dilyn yr hen drefn o reolicoedwigoedd. Hefyd, byddai clytwaith oredyn, yn dilyn y defnydd a wnaed ohonoi’w roi o dan yr anifeiliaid. Ers yr ail ryfelbyd, bu’r duedd i blannu conwydd arraddfa fawr, lleihau llwybrau drwy’r

goedwig a mannau agored eraill, ynghyd ârhoi’r gorau i dorri rhedyn, neu i’w ddifayn gyfangwbl, yn gyfrifol am leihau’rcynefin sydd ar gael i’r glöyn hwn ac eraill.Felly, amcan y mesurau cadwraeth ywceisio gwarchod neu ail greu rhai o’rcynefinoedd arbennig hyn - cynefinoeddsy’n newid yn naturiol os na chânt eurheoli.

Mae nifer o loynod pwysig eraill syddangen eu gwarchod ar y safle, gan gynnwysy Gwibiwr Llwyd (Erynnis tages), yGwibiwr Brith (Pyrgus malvae), y FrithegBerlog Fach (Boloria selene) a’r GwrmynGlas (Aricia agrestis). Mae angencynefinoedd arbennig ar bob un o’r rhain,cynefinoedd sydd ar gael iddynt ar Graig-adwy-wynt gyda glaswelltir llawn blodau,creigiau noeth a llwyni cysgodol. Gan nadoes pori ar y safle a chan mai dim ondychydig o wningod sydd o gwmpas, maellwyni a phrysgwydd yn tyfu dros y borfaagored mewn llawer lle. Mae rhai o’r coedyn werthfawr o safbwynt byd natur ondrhaid eu rheoli’n ofalus.

Bu nifer o wirfoddolwyr a chontractwyrproffesiynol yn gweithio’n galed ar y safleers dwy flynedd. Mae’r canlyniadau’nardderchog ac o fudd i’r glöynod ac i’rbywyd gwyllt yn gyffredinol. Ond maemwy i’w wneud a’r bwriad yw trefnucynllun pori fydd o gymorth i reoli’rtyfiant. Bydd angen trwsio’r waliau a’rffensys a bydd eisiau arian agwirfoddolwyr. Mae’r Cyngor Cefn Gwladyn ysgwyddo rhan o’r baich ac mae’rGymdeithas Glöynod yn ddiolchgar iawn iYmddiriedolaeth CODA am gefnogaeth.

Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu âJan Miller (01352) 711198 neu RobWhitehead (01824) 704507 neu ‘ButterflyConservation’ Abertawe (01792) 642972.

53

Craig-adwy-wynt – rhan o’r palmant carreg galch

54

Y mae’r gyfres hon yn olrhain cysylltiadaullenyddol a hanesyddol gwahanol blanhigion.Sôn am y defnydd a wnaed o redyn yngngogledd orllewin Môn y mae RolantWilliams yn yr ysgrif hon.

Yn y llyfr The Life and Works of LewisMorris 1701 - 1765, gan Hugh Owen, ceirdisgrifiad pur fanwl o’r diwydiant lludwrhedyn Pteridium aquilinum ym Môn.Pwrpas y gwaith oedd cynhyrchu potash,i’w werthu yn fwyaf arbennig i’rdiwydiannau gwneud sebon a gwydr ahefyd i’r todd-dai. Noda Lewis Morris foddiwydiant o’r fath yng nghyffiniau Dulas(Ynys Môn) ac yn wir dywed fodcynhyrchu lludw rhedyn yn gyffredin iawnar hyd llawer o’r glannau cyfagos.Yn oes yMorrisiaid yr oedd Dulas yn borthladdprysur oherwydd y fasnach ymenyn, ceirch,penwaig, glo a chalch a hefyd byddai’rlludw rhedyn yn cael ei allforio oddi yno.

Yr oedd y broses o dorri a llosgi’rrhedyn ac yna glanhau a mesur y lludw yngalw am gryn ofal gan ei bod yn hanfodolbod y lludw o ansawdd arbennig os am fodo unrhyw werth masnachol.Ychwanegirhefyd na ddylid torri’r crop rhedyn yn yrun man am fwy na thair blynedd rhaggwanhau’r tyfiant.

Roedd gan bob aelwyd neu losgfan drigweithiwr i ofalu amdani ac fel arferbyddai’r llosgfannau mor agos i’r môr agoedd yn bosibl, er mwyn hwyluso casglu’rcynnyrch.

Yn ôl y pecaid y mesurid y lludw i’wwerthu a byddai’r broses yma eto yn galwam ofal a sylw arbennig.Yr oedd yn bwysigbod y lludw’n cael ei fesur gan osgoiunrhyw wasgu neu ysgwyd diangen. Byddaihyn yn lleihau’r siawns iddo setlo a rhoibargen i’r prynwr a cholled i’r gwerthwr.

Yn y pedwardegau a’r pumdegau cynnaro’r ganrif ddiwethaf byddwn yn cael grynbleser, fel llawer un arall a dyfodd i fyny ofewn cyrraedd hwylus y glannau, o gasglu

drec môr [“broc môr” i lawer ohonom].Un o’r traethau gorau am ddrec ar ôlgwynt go dda o’r gogledd-ddwyrain oeddPorth y Gwichiaid, traeth dan gaeau RhosMynach. Weithiau byddai’r helfa mor dda(a’r ffordd adref mor bell!) fel y byddai’nrhaid gadael drec ar ôl i’w gasglu’nddiweddarach. Roedd un guddfan, addefnyddiwn yn dra hwylus, o gerrig, ac arsiap crochan mawr a’r cwbl wedi’iorchuddio gan ddrysni a rhedyn.

Ychydig yn ôl tra’n cerdded y glannau,bu’n rhaid i mi adael wyneb caregog traethPorth y Gwichiaid a mynd i mewn i’r tir oachos llanw uchel, a deuthum wyneb ynwyneb â’r guddfan unwaith eto. Mae’rmaint a’r siap yn debyg i’r hyn a ddisgrifiryn llyfr Hugh Owen a diau bod tyfiant yrhedyn yn y ddeunawfed ganrif mor gryf osnad yn gryfach na thyfiant heddiw. Mae’rlleoliad yn addas, ychydig o lathenni ynunig o ben y traeth a hawdd fuasai cludo’rlludw i Ddulas mewn cwch rhwyfo i’wlanhau a’i baratoi ar gyfer ei allforio. Maemwy o weddillion o’r fath ar dir y Penrhynuwchben cesail Morfa Dulas er nad oescymaint o’r gwaith cerrig yn sefyll. Credaffod yr un pwrpas gwreiddiol i’r rhainhefyd.

CydnabyddiaethEstyn yr awdur ei ddiolch i J.O Hughes,

Bryngalas (Jaci Chwillan Bach) a BrianHope, Moelfre am eu diddordeb yn ypwnc.Ymddangosodd yr erthygl gyntaf ymmhapur bro Yr Arwydd.

Cysylltwch â safle wê’r Gymdeithaswww.cymdeithasedwardllwyd.org...ac fe welwch safle newydd arbrofol y

prosiect gyda chyfle i fewnbynnu eichsylwadau. neu wrth gwrs, os yw’n wellgennych, yna rhowch nodyn ar bapur a’ianfon at

Haf Meredydd, 14 Stryd Wesla,Porthmadog, Gwynedd LL49 9DS

Llên y LlysiauY Prosiect sy’n cloddio am yr aur o dan y rhedyn

55

Y TITW BYCHAN BLINAF UN (Parus parvus iratissimus)

Aderyn na welid ond yn anfynychYdyw hwn, y Titw Bychan Blinaf Un;

Ond, bellach, y mae o’n ymwelydd cysonÂ’n pur hoff Walia wen; yn wir,Y mae o, ysgatfydd, erbyn hyn

Yn ymsefydlydd yma.

Ei gynefin ydyw meysydd parcio -Cyhoeddus. Ac os bydd rywbryd ar y rheini

Unrhyw osgo at orlenwi fe fydd o Yn troi’n ddifrifol ymosodol.Bydd ei wep o yn cras-gochi,

A bydd ynddo duedd gref i frochiA neidio-neidio yn ei unfan.

Yna bydd y Titw Bychan hwn yn gweiddiEi rybudd nodweddiadol:“Nopaciniyr, nopaciniyr;

Hopit, hopit, hopit.”

O’i anwybyddu fe fydd oYn cynddeir-wirioneddol-iogi

Ac yna bydd yn rhydd-amrywio’i gri-Hyn i amddiffyn ei diriogaeth.

“Onlimi, onlimi, onlimi,Onlimi hiyr, onlimi hiyr, onlimi”.

Yr unig ffordd i’w setlo, ar fy ngwir,Ydyw, mewn adaryddol iaith,Ailadrodd wrtho’n bendant,Yn gadarn ac yn groyw glir,

“Dosomadi, dosomadi,Dosomadi grinc, dosomadi grinc.”

Ac fe encilia yntau wedyn,Ond odid, mewn dau chwinc.

Gwyn Thomas

Cerddi

56

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD(bron ugain mlynedd yn ôl)

Crwydro’r maes mewn rhyw EisteddfodSylwi ar babell lwyd ei gwedd,

Tuag ati prysur gamuA gweld Dafydd yn ei sedd

O’i Randirmwyn yn llawn syniadauAm gadwraeth, iaith a llên,

Gwarchod Cymru a’i thrysorauHyn i gyd a’i hyfryd wên.

Tyfodd o’r plentyndod hwnnwGymdeithas glodwiw Edward Llwyd,

Denu’r Cymry, Gog a HwntwA chael mil a mwy i’w rhwyd.

Crwydro llwybrau môr a mynyddRhyfeddodau ar bob cam,

Gwarchod blodau prin y gweunydd,Cadw Cymru yn ddinam.

Eluned Mai, Llangadfan, Awst 2003-11-09

LLun Pwy?

Pwy yw’r gwr â’r het?Cliw: gwr cadarn fel y graig

Afonwch air at y Golygydd - byddgwobr am y llythyr gorau.

Yr ateb i’r gystadleuaeth yn Rhifyn 12 (Mehefin2003) oedd Syr George Stapeldon.Cafwyd dau ymateb cywir a’r ddau yn haeddu eucyhoeddi (a’u gwobrwyo!)

Ffwrnes BlwmCaerffiliCF83 1NF

Annwyl GoronwyLlun o Syr George Stapeldon sydd yn Y Naturiaethwr mis

Mehefin, dyn a oedd i gael cryn ddylanwad arna i fel bachgen ysgol, er na wyddwn hynny.Roedd fy nhad, a oedd yn beiriannydd mwyngloddio, wedi gorfod treulio’r rhan fwyaf o’ifywyd proffesiynol yn Affrica, yn awyddus iawn i mi ddewis gyrfa a fyddai’n caniatau i migadw at fy ngwreiddiau. Roedd wedi trefnu i mi gael ymweld â’r Fridfa Blanhigion yngNgogerddan. Ond ‘nid oedd gwyrthiau’r Arglwydd’ yno i mi’n fachgen pymtheg oed.‘Boring’ oedd fy ymateb wedi gweld y rhesi planhigion yn y tai gwydr gyda’i capiau plastigyn edrych mor ddifywyd. Dallwn i ddim bod wedi bod yn fwy anghywir, nac ychwaith ynfy nhybiaeth yn yr ysgol fod botaneg yn bwnc difywyd, llai diddorol na swoleg apheirianneg.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ges gyfle i ddechrau amaethu ar y bryniau y tu ôl iGogerddan, sylweddolais mor bwysig ac yn wir mor gyffrous oedd gwaith y FridfaBlanhigion, IGER erbyn heddiw - Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd.

Roedd Mynydd Gorddu yn y chwedegau canol mewn cyflwr amaethyddol gwael, a’rffridd yn arbennig yn ddim byd ond rhedyn ac eithin. Mewn hinsawdd amaethyddolwahanol iawn i heddiw ail hadwyd y tir i gyd gan weiriau a meillion Gogerddan ynseiliedig yn bennaf ar rygwellt parhaol S23 ar y tir pori a S24 yn y caeau gwair, a’rmeillion gwyn mân S184. Cynrychioli arloeswr y Fridfa - George Stapeldon, mae’ndebyg, oedd y llythyren S ac mae’n deyrnged i addasrwydd a gwytnwch cynhyrchiol yrhadau a feithrinwyd yng Ngogerddan ar gyfer ffermydd ucheldir Cymru, fod porfarhygwellt 23 a’r meillion mân ar fanc Mynydd Gorddu, sydd heddiw o amgylch traed ymelinau gwynt, yn dal i ffynnu’n gryf heb orfod ail hadu ers bron i ddeugain mlynedd.Eto, am resymau na alla i eu dirnad mae S23 a nifer o hadau Gogerddan yn anodd os nadyn amhosibl eu cael heddiw.

Un o broffwydi cynaladwyedd amaethyddol oedd George Stapeldon a byddai’nddiddorol clywed ei farn am rai o ddatblygiadau heddiw. Beth tybed fyddai ei farn amamaethu organig neu am dechnoleg GM? Mae enghreifftiau gwych o arloesi organig felRachel’s Dairy, nepell o Gogerddan, sydd wedi meithrin marchnad lwyddiannus i’wcynnyrch. Ond ai’r llwybr organig yw’r ffordd ymlaen at y nod o gynaladwyedd ar gyferamaethu Cymru yn gyffredinol? I wyddonydd, mae rheolau’r Gymdeithas Bridd ynanghyfforddus o artiffisial ac fel petaent yn hannu yn fwy o ideoleg nag o reswm. Maerhwystrau, er enghraifft, ar gywiro diffyg potash mewn planhigyn, er bod potash yn dod offynhonnell gwbl naturiol.Yn hytrach na chanolbwyntio ar gael lleiafrif ffermydd igydymffurio â’r dull organig, tybed na fyddai George Stapeldon yn credu mai’r fforddymlaen fyddai i amaethwyr ffermydd Cymru gyfan feithrin dulliau cynaladwy mewnbwn

57

isel yn eu hamaethyddiaeth, yn seiliedig ar fagu planhigion fyddai’n gallu ymgynnal gydallai o gymorth artiffisial yn nhir a thywydd Cymru.

Wedyn, mae cwestiwn llosg GM.Yma eto, mae prinder gwerthuso cytbwys a gormod oaddo gwyrthiau ar y naill law ac o godi bwganod ar y llaw arall. Mae angen gwahaniaethurhwng y dadleuon gwyddonol a’r camddefnydd masnachol o’r dechnoleg gan gwmniau felMonsanto. Mae’n destun pryder bod yna waharddiad gwleidyddol cywir yng Nghymru arhyn o bryd, sy’n llesteirio unrhyw ymchwil i’r maes, tra bod gennym sefydliad yn IGER osafon ryngwladol a allai ymchwilio i bosibiliadau’r dechnoleg yn arbennig i gynaladwyeddamaethyddol yng Nghymru. Pam y dylai camddefnydd un cwmni o’r dechnoleg mewn uncnwd, yn bennaf, mewn perthynas ag un chwynladdwr, gau’n meddyliau i bosibiliadau’rdechnoleg mewn ffyrdd diogel a chyffrous mewn cyfeiriadau eraill?

Mae Cyngor Nuffield ar Biofoeseg wedi cyfeirio at fwy na dwsin o gnydau sy’n cael eudatblygu, yn bennaf mewn prifysgolion, a allai fod o gymorth mawr i ffermwyr y trydyddbyd. Mae’r rhain yn cynnwys haidd i wrthsefyll sychdwr yn Affrica a thatws uchel mewnprotin ar gyfer yr India. Ac yn nes adre, beth petaem, er enghraifft, yn medru ehangugallu meillion i glymu nitrogen o’r awyr i blanhigion porfa eraill a thrwy hynny osgoi’rangen am wrtaith nitrogen o’r sach? Neu, er enghraifft, wella maethlonrwydd porfeyddnaturiol ein mynyddoedd i wartheg duon? Byddai caniatau ail sefydlu pori cytbwys ar ymynyddoedd o fudd mawr i’r ecoleg a bioamrywiaeth yn ogystal ag amaethyddiaeth yrucheldir.

Beth fyddai George Stapeldon yn ei feddwl tybed?Yn gywir iawn

Dafydd Huws

Llys Maelgwn, Pen-y-garn, Ceredigion

Annwyl GyfaillLlun yw o R G Stapeldon, ‘Yr Hen Stapal’ i Llywelyn Phillips.

Hanai o deulu o amaethwyr a morwyr o Ddyfnaint, yr olaf i adeiladu llongau pren ynAppledore. Gwyddai ei fam am weithiau Darwin, Huxley a Spencer. Bu Stapeldon ifancyn Suez yn gweithio i’r cwmni llongau teuluol ond dychwelodd i Gaergrawnt i astudioamaethyddiaeth y tro hwn, yn lle gwyddoniaeth.Yr unig gais am swydd a wnaeth erioedoedd fel Trefnydd Amaeth Dyfnaint. Methodd, a threuliodd yr haf ar fferm arloeswrgwella tir garw o’r enw Tribble yn Nyfnaint. Tebyg bod y profiad wedi’i ysbrydoli a’iysgogi i ddechrau ar ei yrfa chwildroadol a gwaith mawr ei fywyd, ynghyd â dylanwadTurreson yr ecolegydd o Sweden yn nes ymlaen.Ym 1912, cafodd wahoddiad i fod yngynghorwr botaneg amaethyddol yn Aberystwyth. Gwnaeth arolwg o borfeydd o fôr ifynydd a gwelodd fod angen hadau o’r mathau cynhenid o weiriau a geid yn y porfeyddprin, gorau. Ef oedd y dyn pan ddaeth yr awr i fod yn bennaeth y fridfa arfaethedig ym1919 ond gwrthododd wneud cais am y swydd a bu’n rhaid i’r Coleg ei chynnig iddo. Gobrin y byddai’r Fridfa annibynnol wedi’i sefydlu oni bai am ei safiad ef, p’run bynnag, ganfod Caergrawnt yn bychanu’r syniad ac yn cynnig ‘gorsaf allanol’ fel cyfaddawd. Cafoddei benodi’n athro mewn botaneg amaethyddol ond gan nad oedd fawr o elfen addysguynddo, gadawodd y gwaith i’r darlithydd ac aeth ati i saernio’r Fridfa gyda T J Jenkin ar eiddeheulaw, arloeswr mawr yng ngeneteg y gweiriau.

Nid gwyddonydd fel y cyfryw oedd ond gwr gyda gweledigaeth fawr ac eang, athronydda ‘phroffwyd yr oes newydd’ fel y tystia llyfr Robert Walter amdano. ‘Sais efo anianawd

58

Celtaidd’ a ysbrydolodd ei gydweithwyr ac mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn rhanbellach o hanes rhamantus llwyddiant bydeang y Fridfa. Gellir ei gyffelybu, yn ôl unohonynt, i John Maynard Keynes, gwr mawr anuniongred arall. Credaf mai ‘Y Tir,Heddiw ac Yfory’ yw ei lyfr pwysicaf heb anghofio un ar Disraeli. Fy unig gof ohono ywym Mhwllpeiran ac yntau’n ei ddillad lliwgar, gwasgod wlân wedi’i chlymu am ei ganol,yn tanio ac ail danio ei bibell, gan golli hanner y baco yn ei frwdfrydedd heintus.

Gwyn Jones

59

Ar ddiwrnod llwydaidd yn niwedd Mehefin, cyfarfu aelodau’r Gymdeithas Redynnau(British Pteridological Society) ger murddyn gwag ar lethr digysgod - mur o gonwydddigroeso o’n blaenau, porfa asidig a thomennydd mwyngloddio o’n hôl a dim sôn amredynen yn unlle. Dyma ddechrau poeni - a oedden ni yn y lle anghywir? Y murddynoedd hen swyddfa gwaith plwm Esgair Hir lle galwodd George Borrow 150 o flynyddoeddyn ôl ar ei daith o Fachynlleth i Bontarfynach. Roedd y lle’n ferw o brysurdeb a chafoddsgwrs gofiadwy gyda’r gweithwyr.

Ar ôl mynd trwy’r giat o’r tir glas i’r coed, daeth y rhedyn i’r golwg: Cryptogrammacrispa (Rhedynen Bersli) mewn chwarel fach Athyrium felix-femina (Rhedynen Fair),Dryopteris dilatata (Marchredynen Lydan), D. filix-mas (Marchredynen Gyffredin) a nifero ffurfiau o D.affinis (Marchredynen Euraidd) ar y tomennydd sbwriel ac ar fin un o’rnentydd. Toc, daethom at fwynglawdd Esgair Fraith gyda thomennydd mawr o briddtywodlyd wedi’u gwenwyno gan fetelau, bron iawn yn noeth ar wahân i ambell damaid oweiriau megis Agrostis (maeswellt) sy’n gallu gwrthsefyll y llygredd.Yma, gwelwyd amrywo Ophioglossum vulgatum (Tafod y Neidr), ambell blanhigyn o Botrychium lunaria (Lloer-redynen), swp mawr o’r farchrawnen groesryw Equisetum x dycei ac ambell glwstwr oDryopteris oreades (Marchredynen y Mynydd).

Mewn siafft ar y llechwedd gwelsom Asplenium viride (Duegredunen Werdd) a rhagormewn hen gafn olwyn (rhod) gerllaw yn y coed; dyma’i unig safle yng Ngheredigion. Maehon a llawer o’r rhedyn eraill yn blanhigion calchgar (S. calcicoles) neu’n dibynnu argyflenwad o fwynau ac, yn ôl pob tebyg, yn tyfu cystal yma am fod y gwaith cloddio ynystod y tair canrif ddiwethaf wedi dod â mwynau a chreigiau calchog i’r wyneb. Rhaid body berthynas rhwng natur wenwynig y pridd a’r cyfoethogi gan fwynau yn amrywio o le i legan effeithio ar ddosbarthiad y planhigion. Dichon bod gallu rhai planhigion i wrthsefyllhalogiad metelau yn fwy nag eraill ac felly’n rhoi mantais iddynt. Roedd rhedyn calchgarllawer mwy cyffredin yn tyfu ar y morter yn y waliau cerrig: Asplenium ruta-muraria(Duegredynen Goesddu, Cystopteris fragilis (Ffiolredynen Frau) a Phyllitis scolopendrium(Tafod yr Hydd). Ar lain llydan o rosdir ger Afon Lluest-gota lle nad oedd coed conwyddwedi’u plannu gan y Comisiwn Coedwigaeth am resymau gwarchod y tirlun, cafwyd trio’r cnwbfwsoglau: Lycopodium clavatum (Cnwbfwsogl Corn Carw), Diphasiastrum alpinum(Cnwbfwsogl Alpaidd) a Huperzia selago (Cnwbfwsogl Mawr). Peth anghyffredin yw dod ohyd i’r tri gyda’i gilydd erbyn hyn - diffyg pori gan ddefaid sy’n gyfrifol am eu llwyddiantyma.

NodiadauLlysieua yng Ngheredigion

Defaid, mwynau, conwydd a rhedyn

60

Yn gysylltiedig â’r mwyngloddiau mae Llyn Nantycagl ac yno cawsom Isoetes lacustris(Gwair Merllyn), I. echinospora (Gwair Merllyn Bach) a’u croesryw hynod brin. Mewncafn olwyn ddwr ar y mynydd agored, roedd Polystichum setiferum (GwrychredynenFeddal), P. aculeatum (Gwrychredynen Galed) a’u croesryw. Ar ddiwedd y dydd, cawsom34 rywogaeth a chroesrywogaeth o redyn a’u perthnasau, cyfanswm rhyfeddol mewn unsafle a dysgwyd llawer am wahanol effeithiau dyn ar y planhigion dros y canrifoedd.

Arthur Chater, Aberystwyth

NodiadauMamaliaid yn ystod 2003

Yn ystod mis Mehefin, gwelwyd chwe Morfil Trwyn Potel ym Môr Iwerddon rhwngYnys Manaw a Merin Rheged (Solway Firth). Dilynodd grwp o wylwyr, y ‘Solway Sharkand Sea Mammal Survey’ eu hynt am dair wythnos mor bell ag aber Afon Clud (Firth ofClyde) i’r gogledd. Mae prinder gwylwyr ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac mae’n anoddcofnodi symudiadau mamaliaid y môr. Os gallwch chi helpu, byddwn yn falch iawn oglywed gennych. Gwelodd capten yr Island Princess sy’n hwylio o gwmpas Ynys Seiriol,40 dolffin yn ystod mis Gorffennaf - mae pethau diddorol o’n cwmpas!

Darganfuwyd safle newydd i’r Pathew (Dormouse) mewn gwarchodfa natur gerLlanharan, rhwng Caerdydd a Phenybont ar Ogwr yn ddiweddar, ond mae’r bwriad iadeiladu ffordd osgoi yn bygwth y safle. Mae’r perchennog wedi gosod blychau ar eu cyferac mae’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt leol yn cadw golwg ar y sefyllfa. Mae gwaithmonitro’r Pathew hefyd yn digwydd ar safle Coed Gelli Hir ar Benrhyn Gwyr.

Cafwyd adroddiad o Bowys gan Phil Morgan bod John Messenger o YmddiriedolaethBywyd Gwyllt Vincent wedi dod o hyd i’r Ystlum Du (Barbastrelle) yn Aberedw, SirFaesyfed yn ystod mis Gorffennaf a bod y Dr Peter Smith wedi darganfod Ystlum Leisleri’r gogledd o Bontypwl yng Ngwent - y cyntaf yng Nghymru (er bod cofnod o un yngNghaergybi, y tybir iddo gyrraedd yno ar fwrdd llong). Mae Phil hefyd wedi bod yndefnyddio dulliau radio i leoli’r Ystlum Deuliw (Daubenton’s Bat) mewn coedlan ger yrAfon Wysg. Os yw’r ’slumod yn dipyn o ddirgelwch i chi beth am anfon am y llyfryn TheBats of Britain and Ireland gan Henry Schofield a Tony Mitchell-Jones, i’w gael am £3oddi wrth Vincent Wild Life Trust, 85 Whitehall Court, London SW1A 2EL Ffôn: 0207930 3160.

Mae’r Dr Craig Shuttleworth yn adrodd bod gwaith newydd ei gwblhau ar y WiwerGoch ym Môn, yn dangos bod agwedd o’i geneteg (mitochndrial DNA) yn unigryw ymMhrydain. Pan archwiliwyd cnewyllyn y gell (nuclear DNA) gwelwyd mai ychydig iawn oamrywiad genetig sy’n y boblogaeth ym Môn. Mae’n fwriad felly i gyflwyno genoteipiaunewydd i’r Ynys.

Amcangyfrifir bod rhwng 30,000 a 50,000 o ddamweiniau ar y ffordd bob blwyddyn yncael eu hachosi gan geirw a llawer o bobl yn cael eu lladd o’r herwydd. Mae’n fwriadceisio darganfod y llecynnau gwaethaf a cheisio gostwng y nifer o ddamweiniau. Am fwy owybodaeth, cysylltwch â Jackie Brinton, Menter Ceirw Cymru, Blwch Post 39,Aberhonddu, LD3 8WD Ffôn: 01874 636148 Ffacs: 01874 636840.

Frances Cattanach,Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. [email protected]

61

LLEOEDD A’R BARDDRhyw flwyddyn yn ôl, gosododd Lun Roberts dasg i ddarllenwyr Y Naturiaethwr iadnabod cerddi byd natur. Roedd yr ymateb yn dda.Y tro hwn, mae Lun, sy’n awr ynbyw yn Rhuthun, yn ein herio i adnabod y LLE a’r BARDD. Anfonwch eich atebion at yGolygydd (gweler y cyfeiriad ar y dudalen flaen). Bydd gwobrau i’r goreuon.

1. Mi wyddwn fod arall swyn ynot tiNa cherrig a pharodi ac enw i mi -Mae ienctid fy Nghenedl yn dy hirgof di.

2. Olion fy hil a welaf - ac aelwydA foddwyd ganfyddaf,

Ail agor craith i’r eithafA wnaeth Cwm yr hirlwm haf.

3. Oblegid mi gaf ynoYng nghri’r ystormus wynt

Adlais o’r hen wrthryfelA wybu fenaid gynt.

A chanaf â’r hen angerddWrth syllu tua’r ddôr

Ar greigiau ...........A thonnau gwyllt y môr.

4. Welsoch chi mo afon Teifi’n Llifo’n araf drwy y cwm?Welsoch chi mo flodau’r eithinAr y llethrau’n garped trwm?

5. Mae yno ugain mil o saintYm mraint y môr a’i genlli,

Ac nid oes dim a gyffry heddY bedd yn ....................

6. Ond mae rhyw ddewin a dieflig hudYn gwneuthur gweld ei wyneb i mi’n nef,

Er nad oes dim gogoniant yn ei bryd,Na godidowgrwydd ar ei lannau ef -

Dim byd ond mawnog â’i boncyffion brau,Dau glogwyn a dwy chwarel wedi cau.

7. O dan draed, roedd blodau’n drwch,Cerddem ymysg eu harddwch; ......Acw o lom graig, clywem griYr wylan, ferch môr heli;Hoyw donnai ei hadanedd,Llyfn, clir fel arfod llafn cledd;

8. O mwyn yw cyrraedd canolY tawel gwmwd hwn

O’m dyffryn diwydiannolA dull y byd a wn;

A rhodio’i heddwch wrthyf f ’hunNeu gydag enaid hoff, cytun.

9. Er bod yr haf, pan ddêl ei oedYn deffro’r coed i ddeilio,

Ni ddeffry dyn, a gwaith ei lawSy’n ddistaw ymddadfeilio.

10. Does yno ddim ond corsydd brwynMedd rhai, ac ambell gorlan gerrig,Dim byd ond mawn a bryniau’r wyn ....A gwynt mewn gwern yn deud ei gwyn.

11. Ynysig a’i thir isel - yn îr ollDan yr haul ar awel,

O’i mewn y mae im wîn a mêlY bywyd diwyd tawel.

12. Pert iawn yw ’i wisgoedd yr amser hyn, -Yr eithin yn felyn a’r drisi’n wyn,A’r blode trad brain yn batshe mowrionAr lechweddodd gwyrdd, fel cwmwle gleishon;Lle mae’r gwrug ar y graig yn bwnge,Fe dingech fod rhywun yn tanu’r llethre.

13. Bywiol Eden y blodau, - bro y mêl,Bro mill a phwysiau;

Bro llawn cnwd, bro llwyni cnau,A bro annwyl y bryniau.

14. I wlad y gelltydd a’r blodau gwylltion,Lle tyf y llys, y mefys a’r mafon ......Aroglau gyddfau gwyddfid yn y gwrychA thonnog wrid y rhos yng nghloddiau’r ardd.

15. Yng nghesail y moelydd unig,Cwm tecaf y cymoedd yw, -

Cynefin y carlwm a’r cadno,A hendref yr hebog a’i ryw.

62

63

Wyddoch chi?

......bod y Fôr-wennol Fechan, un o adar prinaf Cymru, yn nythu ar y traeth gerGronant, rhwng Prestatyn a’r Parlwr Du? Mae gelynion lu yn ei bygwth - pobl,llwynogod, adar ysglyfaethus ac ambell i lanw uchel. Er gwaetha’r rhain i gyd, cafwydblwyddyn eithriadol o dda eleni. Daeth yn agos i gant o barau i nythu ar y safle a chafwydy nifer mwyaf erioed o gywion - hyn ar ôl cynllun gwarchodaeth gofalus iawn.

......pryd y daeth y Wiwer Lwyd i’r wlad hon? Gwyddom iddi gael ei rhyddhau’nfwriadol ger Macclesfield yn sir Gaer ym 1876. Cadwyd pâr ohonynt mewn cawell i’wdangos i gyfeillion. Pan ballodd y diddordeb, agorwyd y drws! Buan iawn y daethant ynbla yn yr ardal. Efallai bod rhywbeth tebyg wedi digwydd mewn lleoedd eraill cyn hynny,ond mae tystiolaeth sicr yn brin.

......bod ‘afal prinnaf y byd’ wedi’i ddarganfod ar Ynys Enlli? Mae’n debyg bod gwylwyradar wedi dod ar draws yr afal blasus ar ddamwain. Credir ei fod yn dyddio’n ôl i gyfnody mynachod yn y drydedd ganrif ar ddeg.

......bod pryf copyn (corryn) mwyaf Prydain wedi’i ddarganfod eleni ar GamlasTennant ym Mhant y Sais ger Jersey Marine, Abertawe. Mae corff Corryn Rafftio’r GorsGalch (Fen Raft Spider) bron i fodfedd o hyd, gyda streipiau gwyn ar hyd ei ochrau.Mae’r blew ar ei goesau yn golygu y gall ymlithro dros wyneb y dwr i ddal ei brae.

......bod 1,800 o ffermwyr Cymru wedi ymuno â’r cynllun Tir Gofal. Mae’r CyngorCefn Gwlad yn gwneud taliadau o £18 miliwn iddynt.

......bod yr Ystlum Pedol Mwyaf (Greater Horseshoe Bat) yn dal ei dir yn Sir Benfro.Bu bron â diflannu yn ystod yr wythdegau ond, erbyn hyn, mae’n cynyddu’n sylweddolgyda thros 200 o enedigaethau eleni. Mae’r ystlum i’w weld yn Stackpole, Slebets aLlwyngwair.

......bod y dyfrgi bellach wedi ail sefydlu dros y rhan fwyaf o Brydain - er yn brin iawnmewn llawer ardal.Ym 1977, gwnaed arolwg o 3,000 o safleoedd a chaed bod dyfrgwnmewn 6% ohonynt; erbyn 1991 roedd hyn wedi codi i 23% ac eleni roedd dyfrgwn mewn36% o’r safleoedd.

......bod adroddiad gan y Field Studies Council yn 2002 yn dod i’r casgliad nad oes fawrddim gwaith maes yn digwydd wrth ddysgu bioleg yn ysgolion Prydain. Dywedir mai’rprif reswm am hyn yw pwysau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac ofn ymddysg athrawon rhagcael eu cymryd i gyfraith o dan y ddeddf Iechyd a Diogelwch.

64

LlythyrauBwlchtocyn, Pwllheli.

Annwyl GoronwyYn ei llyfr diddorol ‘Ni’n Dau’, mae’r awdur a’r gwyddonydd Dr

Eirwen Gwynn, wrth edrych yn ôl dros gyfnod ei phlentyndod yn Llyn yn ystod y dauddegau, yn dwyn i gof ddwy goeden fawr oedd yn sefyll ‘fel dau filwr’ y naill ochr a’r llalli’r fynedfa i ardd ffrynt y ty oedd yn gartref iddi ar y pryd, sef Pen y Bont, Abersoch, coeda ddisgrifia fel Coed Cas gan Fwnci. Diwreiddiwyd y coed hynod hyn pan ledwyd yffordd sy’n arwain dros bont Afon Soch i mewn i’r pentref. Bellach fel Riverside y caiff ygwesty ei adnabod, mwya’r piti.Dod ag atgofion bore oes yn yr ‘Abar’ wna Coed Cas gan Fwnci i minnau ac, i blentyn,roedd ei siâp od a phigog ynghyd â’r enw Saesneg ‘Monkey Puzzle’ yn codi rhyw

chwilfrydedd ynof.Wrth fynd am dro ers talwm, wrth yr enw Saesneg ycyfeiriai fy Mam atynt gan ychwanegu bod y sawl oeddyn byw yn y ty yn siwr o fod â chysylltiad â’r môrmewn rhyw ffordd neu’i gilydd.Dywedai y byddai’n arferiad gan longwyr ddod ag uno’r coed hyn yn ôl adref ar ddiwedd mordaith dramor,fel anrheg i’r teulu i’w phlannu yng ngardd y cartref.Hawdd fyddai credu hynny gan fod ‘pobl môr’ ynniferus iawn yn yr ardal y pryd hynny, ond tybed maihen goel gwlad Llyn oedd hyn? Eto, sylwais fod amrywo’r coed hyn i’w gweld ar hyd arfordir Aberteifi, ardal

arall sydd, fel Llyn, â’r hen gysylltiad morwrol. Tybed a oedd cael un o’r coed hyn yn eichgardd ffrynt yn cael ei gyfrif fel rhyw fath o ‘status symbol’ o gyfnod oes y FrenhinesFictoria?!Adeiladwyd dau dy sylweddol yn Abersoch ym 1900 ar waelod allt droellog ac maeCoeden Cas gan Fwnci wrth fynedfa’r ddau dy. Gwn fod aelodau o’r hen deuluoedd hynwedi bod yn forwyr yn y cyfnod cynnar hwnnw.Yn ddiweddar, fe ddadorchuddiwyd plac ar ffermdy Trygarn yn Sarn Mellteyrn, Llyn,man geni’r artist Moses Griffith ym 1747 ac yng ngardd ffrynt y ty sylweddol hwn, ceircoeden dalsyth Cas gan Fwnci. Cofiwyd am gysylltiad yr artist â’r naturiaethwr ThomasPennant ond go brin bod y goeden yno ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg ychwaith!Diddorol fyddai cael sylwadau’r arbenigwyr a pheth o gefndir a tharddiad y coedrhyfeddol hyn.

Beti Isabel Hughes

Diolch am y sylwadau difyr.Mae’r goeden yn hanu o Chile. Daeth y gyntaf i’r wlad hon yn 1795. Casglwyd yr

hadau gan Syr Archibald Menzies yn Valpariso, a chyflwynod nhw i Syr Joseph Banks, ynKew. Mae’r goeden yn tyfu’n dda ar arfordir y gorllewin ond y mae hefyd i’w chael led-led Prydain. Mae enghreifftiau da yn Hafodunos, Llangernryw ac ym Mhlas Nannau,Dolgellau.

Gol.

Coeden Cas gan Fwnci (Araucaria)

Hwlffordd, Sîr Benfro.Annwyl Goronwy

Mewn ymateb i’ch cais am gyfraniadau i’r Naturiaethwr, dymaymdrech bitw i lenwi bwlch petai gwir angen.1. Tra’n cerdded yn ardal Nanhyfer ar 25.10.03, synnais weld cenawon ar y coed cyll ablagur y dail newydd yn wyrdd cyn i’r hen ddail orffen disgyn.Yna, wrth chwilio dangastanwydden bêr, darganfod bod y wiwer lwyd wedi achub y blaen arnom.Yn ffodus,roedd un neu ddau glwstwr pigog newydd ddisgyn ond heb agor. Ond o, y siom!Disgwyliwn weld y ffrwyth yn frown a blasus yr olwg ond, er iddo lenwi’r plisgyn roedd ynwyn a diflas a heb aeddfedu o gwbl.Ai’r newid yn yr hinsawdd sy’n cymhlethu cydbwysedd natur fel hyn neu ai dyma’r drefnarferol a finnau heb sylwi o’r blaen?2. Tra’n ciniawa dan goeden dderwen wrth gerdded yn Nyffryn Aeron yn ystod un ogyfarfodydd maes Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas, deuthum o hyd i blu’r barcud arlawr yn ein hymyl. Mae’n amlwg iddo fod yn gloddesta ar hen sgerbwd oedd gerllaw. Ayw adar yn colli eu plu yn rheolaidd yn ystod cyfnod penodol neu adeg o’r flwyddyn?Amgaeaf y cenawon a chastan bêr. Roedd rhai o’r cenawon wedi agor mwy na’r rhain ondofnaf na fyddent yn goroesi yn y post.

Diolch am y Naturiaethwr - mae’n bleser ei dderbyn.

Yn ddidwyllDilys Parry

Diolch am y llythyr.1.Y coed cyll.Yn sicr, mae’r tymhorau’n newid, a thyfiant y

gwanwyn yn datblygu’n gynharach o flwyddyn i flwyddyn. Ond, mae gweld dail newyddcyn i’r hen rai ddisgyn, yn anarferol yn fy mhrofiad i. Rhaid cofio bod y cenawon, neu’r‘cynffonnau wyn bach’ sy’n cael eu ffurfio tua diwedd yr haf, yn aros yn dyn ac yn galeddrwy’r gaeaf ac yna’n agor i fwrw eu paill tua Chwefror a Mawrth.2.Y Gastanwydden Bêr. Mae’r enw Saesneg ‘Spanish Chestnut’ yn ein hatgoffa maicoeden o dde Ewrop a gwledydd Môr y Canoldir yw hon, er ei bod wedi ymgartrefu’ndda yn yr ynysoedd hyn (mae’n llai cyffredin yn yr Alban ac yn weddol brin ynIwerddon).Yn Ffrainc, defnyddir y cnau i fwydo gwartheg a moch.Yng ngogledd Ewrop,mae’r cnau’n gyndyn i aeddfedu a phlenir y coed yn bennaf am eu harddwch.Yma, yngNghymru, mae’r cnwd cnau yn anwadal, rhai’n aeddfedu’n dda ac eraill yn methu. BuDilys yn anlwcus!3. Plu’r Barcud. Mae adar yn bwrw eu plu ac yn tyfu rhai newydd bob hyn a hyn er mwynadnewyddu rhai sydd wedi treulio neu ar gyfer y tymor nythu. Mae’r hwyaid yn colli plu’radenydd i gyd gyda’i gilydd ar ôl y tymor magu gan fethu â hedfan am gyfnod. Ond mae’rrhan fwyaf o adar yn adnewyddu eu plu yn raddol gydol eu hoes. Tybed a oedd y Barcuda welodd Dilys wedi bod mewn sgarmes?

Gol.

65

Dysgl Bren a Dysgl ArianR Elwyn HughesY Lolfa 2003317 tud.ISBN 0-86243-660-5 £14.95

Yn y gyfrol gynhwysfawr hon, trafodir hanes maeth a bwyd yng Nghymru. Rhennir y llyfryn chwech adran a gwelir ôl ymchwil manwl ar bob un.Ysgolor yn y Gwyddorau Naturiolyw R Elwyn Hughes ac mae’n awdur nifer helaeth o gyhoeddiadau ar hanes maetheg agwyddoniaeth.Yn ei ragymadrodd, cyfeiria at ei fwriad i ysgrifennu hanes maetheg yngNghymru dros y canrifoedd ond sylweddolai y byddai’n ormod o dasg.Yr hyn a wna yn yllyfr yw trafod chwech agwedd a berthynai i’r Bwydydd Cymreig: 1) Tair gwedd ar fwyd yCymru, 2) Hanes y Sgyrfi, 3) Melltith y Mallryg, 4) Diodydd Bonedd a Gwreng, 5)Bwyta’n Wyllt, Cynhaliaeth Byd Natur, 6) Llyfrau Coginio Cymraeg hyd at ddiwedd ybedwaredd ganrif ar bymtheg.Yn ôl yr awdur, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am gyflwr a statws maethegol yboblogaeth Gymraeg yn y cyfnodau cyn yr ugeinfed ganrif. Dywedir bod yn rhaiddibynnu ar dystiolaeth anuniongyrchol e.e. data am y cnydau a gynhyrchwyd, marchnataayyb neu dystiolaeth anecdotaidd. Nodir bod gorbwyslais ar ddiet a phrinder maeth alluniaeth trigolion cyffredin yn niwedd y ddeunawfed ganrif ond bod tystiolaeth o’rcyfnodau cynharach yn ansicr.Ymdrinir yn fanwl â ‘Bwyd y Cestyll’ ac, yn gysylltiedig âhyn, trafodir y tri chyfansoddyn lluniaethol sef protin, caloriau a fitamin C. Gwelircyfeiriadau at fanylion bwyd yn y cestyll ar gyfer y milwyr oedd yn bresennol.Yn niwedd ybennod, ceir tablau manwl i nodi cymeriant dyddiol y pen ym 1861 ac 1991.Ar ôl bwyd y cestyll, trafodir bwyd y plastai. Cafwyd y wybodaeth hon yn aml o’r canumoliant lle roedd y beirdd yn cyfeirio at ‘fwydydd egsotig’ y cyfnod. Mae amrywiaethhelaeth o ddeunyddiau coginio a llenyddiaeth ar gael sy’n profi arferion bwyta’r cyfnod yny plastai. Drwy gyfeirio at wahanol awduron ac adroddiadau o’r cyfnod, ymdrinir yn fanwlâ’r bara, yr adar, y cigoedd, y llysiau ayyb a ddefnyddid a’r dulliau o’u cadw a’u coginio; -adran gynhwysfawr, addysgiadol a diddorol. Hefyd, cyfeirir at y bedwaredd ganrif arbymtheg a’r newid ym mhatrwm bwyta, yn arbennig diet y bobl gyffredin. Nodirymdrechion i drafod coginio a bwydydd yn wyddonol tua 1820 ond, erbyn tua 1860,cyfeirir at ddadansoddiad cemegol o natur a phriodoleddau bwyd o safbwynt gwyddonol.Cyfeirir at waith Edward Smith yn teithio Cymru ac fel y llwyddodd i gael gwybodaetham fwydydd ‘Y Werin Gymreig’.Yn y bennod ar hanes Sgyrfi, ceir ymdriniaeth fanwl ar fitamin C. Faint ohonom sy’ngwybod faint o’r fitamin hwn sydd mewn dail briallu a’r defnydd a wnaed ohonynt? Unddeilen yn cynnwys 10 miligram o’r fitamin! Trafodir y Sgyrfi ac olrheinir yr hanes ynfanwl ac, yn ôl yr awdur, ‘oni bai am ddyfodiad y tatws rhwng 1750 ac 1900, mae’n buramheus faint ohonom fyddai ar ôl i drafod y materion hyn’.Yn yr adran ‘Tatws i Bawb’,ceir hanes y datblygiad o 1660 ymlaen ac fel yr oedd tatws yn ddanteithfwyd ar ydechrau. Ceir manylion am dyfu tatws yng Nghymru a’r dylanwad ar y diet. Trafodir ydiffyg fitamin C ar garcharorion ac ar breswylwyr y tlotai a nodir bod gan llywodraeth ycyfnod bolisi oedd yn sicrhau bod y diet yn cyfateb i’r ‘sefyllfa leol’. Wrth gloi’r bennod,

66

Adolygiadau

cyfeiria’r awdur at bwysigrwydd dail a phlanhigion gwyllt yn y cyfnodau cyn-hanesyddolac yna at datws rhwng y ddeunawfed a’r ugeinfed ganrif.Yn y bennod ‘Hanes Rhyg yng Nghymru’, gwelir nodiadau manwl ar ddatblygiad y Rhyg(Rye) a’i le yn y diet. Ceir sylwadau ar wahanol fathau o fara drwy’r canrifoedd aphwysigrwydd Rhyg yn economi Cymru. Trafodir y cysylltiad rhwng mallrygedd acymddygiad h.y. afiechydon newrolegol, hysteria ayyb. Diddorol yw darllen am ydamcaniaethau am y diwygiadau crefyddol a’r symptomau a gysylltir â mallrygeddnewrolegol.Yn y bennod ar ‘Diodydd Bonedd a Gwreng’, trafodir yr angen am ddwr yn y corff adadansoddir y gwahanol ddiodydd drwy’r canrifoedd. Cymherir y diodydd yng Nghymrua Lloegr. Eglurir pwysigrwydd bragod, sef cwrw wedi’i felysu â mêl ond, ychydig owybodaeth am wenyn a mêl a geir yn economi Cymru yn yr oesoedd cynnar.Yn ôl yrawdur, ‘dim ond gan yr uchelwyr yr oedd mêl mewn bri - mae’n anodd credu bod medderioed wedi bod yn ddiod gyffredin ymhlith y werin Gymreig’ ond, nodir bod diod griafolyn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd.Yn y bennod ar ‘Bwyta yn Wyllt’, cyfeirir at nodweddion y dyn cyntefig, sef casgluplanhigion ac anifeiliaid gwyllt, yr ‘hel â’r carw’ cynnar. Ond, roedd ymwybyddiaeth oblanhigion ‘da a drwg’ yn hanfodol rhag bwyta cynnyrch anaddas ac i ddeall gwerth ybwyd naturiol. Rhestrir nifer o blanhigion gwyllt y gellid eu defnyddio yn y gegin e.e. dailDant y Llew mewn salad, blagur Helyglys ifanc yn lle Asparagws, dail Danadl Poethion,gwreiddiau Dail Arian ayyb - peth o’r wybodaeth hon wedi’i chasglu o lyfrau fel ‘TheCottager’s Companion’ William Salisbury, ‘Cottager’s Manual’ J C Loudon (1840). Cymheriry patrymau yng Nghymru â’r hyn a ddefnyddid yn Iwerddon. Rhestrir eto nifer o lysiau agofnodwyd gan ‘Rutty - A Natural History of the County of Dublin’(1772). Ceir cyfeiriad atEdward Lhuyd a’i ymchwil ond siomedig oedd y wybodaeth am flodau a bwydydd -hynny, yn wir, am nifer helaeth o astudiaethau a chyfeirir at waith Lewis Morris, Môn.Ynôl yr awdur, y cyfeiriad mae’n debyg sydd fwyaf cynhwysfawr yw’r un a gofnodwyd ganIolo Morgannwg. Er hynny, nid oes sicrwydd faint o goel y gellir ei roi ar yr hyn a restrirmewn gwahanol adroddiadau. Ond, er yr holl ddefnydd o blanhigion, gwelir bodtraddodiad ymhlith y Cymry i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt - cwningod, adar a physgod.Yn ôl yr ymchwil, gwelir lleihad yn y teuluoedd a ddibynnai ar fwyd natur. Manylir arblanhigion fel yr Efwr, Criafolen, gwreiddiau Tegeiran, mes ayyb. Cyfeirir at ‘Argyfyngau aBwydydd Ymylol’. Trafodir achosion a symbylai pobl i droi at ffynonellau eraill o fwydmewn cyfnodau o newyn a chynni. Ond, yn ôl yr awdur, ‘cyndyn iawn oedd y Cymry osyrthio yn ôl at fyd natur am ffynonellau ategol’. Tri rheswm a gofnodir - ceidwadaeathgysefin y Cymru, ofn gwenwyndra a’r ansicrwydd rhwng planhigion meddyginiaethol aphlanhigion cynhaliol.Hefyd, trafodir llenyddiaeth coginio Cymraeg hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif arbymtheg. Cyfraniad tra diddorol, a bron yn ddieithriad, adlewyrchir y duedd at baratoibwydydd ar gyfer y breintiedig. Ar derfyn y llyfr, ceir rhestr fanwl o lyfrau’r cyfnod.Cyfrol gynhwysfawr ar arferion bwyta’r Cymru yw Dysgl Bren a Dysgl Arian.Yn yrhagymadrodd, cyfeiria’r awdur at y ffaith ei fod wedi bod yn crynhoi nodiadau ar y pwncers deng mlynedd. Hawdd credu hynny oherwydd manylder y gwaith. Ceir tudalennau ogyfeiriadaeth a nodiadau manwl ar ddiwedd pob pennod ac, yn sicr, dengys hyn ymanylder a’r wybodaeth sy’n y llyfr. Mae’n gyfrol arbennig o werthfawr ar hanes y Cymrua’u dull o dderbyn maeth. Cyfrol na ellir ei hepgor os am wneud astudiaeth neu waithymchwil ar fwyd y Cymry. Mae’r termau’n ddieithr i’r darllenydd cyffredin ac, ar adegau,yn anodd i’w darllen yn rhwydd. Mae dros 300 tudalen o ffeithiau, ystadegau adadansoddiad manwl wedi’u rhoi ar gof a chadw. Diolch am y gyfrol.

Beryl Lloyd

67

The High Summits of Wales - A Guide to Walking theWelsh HewittsGraham UneyGwasg Logaston - 1999322 tud. £14.95

Peidiwch â chael eich camarwain gan deitl y llyfr difyr hwn gan mai yr ‘High Summits’ ywyr HEWITTS sef Hills of England, Wales and Ireland above Two Thousand feet’.Rhennir y llyfr yn ddwy ran - y cyntaf yn disgrifio’r gwahanol fynyddoedd a’r ail ynolrhain sut y bu i’r awdur lwyddo i’w cerdded i gyd mewn un daith. Mae’n rhaid dweudiddo lwyddo i wneud yr hanner cyntaf yn ddifyr i bawb ac nid yn unig i’r rhai fyddai’nbwriadu cerdded y copaon.Yn ogystal â thrafod yr amrywiol lwybrau, mae ganddowybodaeth eang o Hanes Cymru, Hanes Mynydda, Daearyddiaeth, Botaneg a Chwedlauam y gwahanol ardaloedd o amgylch y copaon. Ac, rwy’n falch o ddweud ei fod yn parchuenwau Cymraeg (gyda rhai cyfieithiadau) e.e. Llyn Tegid.Byddai’r llyfr hwn yn ddefnyddiol iawn fel llawlyfr i’r rhai hynny sy’n trefnu teithiau. Ceirynddo ddyfyniadau difyr allan o hen lyfrau fel ‘Pennant’ a cheir aml i gyfeiriad at ein‘Lhuyd’ ni! Mae’r mapiau gan Brian Byron yn anarferol o ddifyr gydag effaith 3D acmae’r lluniau yn yr hanner cyntaf o hen gardiau post, brasluniau ayyb, yn ychwanegu at ymwynhad. Ond, rhaid dweud nad yw safon y lluniau yn yr ail hanner gystal ag yr ydymwedi arfer ei ddisgwyl yn y math hwn o lyfr. Maent wedi’u tynnu gan yr awdur tra’ngwneud y daith hir hon ac, ar y cyfan, maent yn siomedig. Mae’n amlwg nad oedd ytywydd o’i blaid.Wedi dweud hyn, fodd bynnag, mae hanes y daith yn ddigon difyr gan ei fod yn sylwi athrafod y bywyd gwyllt a’r planhigion y daeth ar eu traws ac yn mynegi ambell i gyffro felgweld Boda Tinwen am y tro cyntaf. Cefais i brofiad tebyg uwch ben Llangollen.Mae £15 yn bris eithaf drud am lyfr clawr meddal ond fe’i hargraffwyd ar bapur safonolac o’r herwydd, mae’n llyfr sy’n bleser ei ddarllen.

Dafydd Meirion Jones

Gwraig Orau O’r GwrageddEnid Pierce RobertsGwasg Pantycelyn. Dim dyddiad.100 tud.Pris £5.00

Llyfr clawdd meddal yw hwn wedi’i argraffu’n ddeniadol. Ceir 100 tudalen ynddo gydanifer o luniau du a gwyn ynghyd â geirfa a mynegai i’r ryseitiau a’r meddyginiaethau yn ycefn. Ar ôl rhagarweiniad, cawn bennod yn rhoi cip olwg ar ardal Ystymcolwyn a’idrigolion cyn troi at brif gynnwys y llyfr, sef bwydydd a meddyginiaethau. Ceir rhestr hira manwl o bob math o ryseitiau a meddyginiaethau.Y wraig yn y llyfr yw Merryell Williams (1629 -1703) a briododd John Williams, gwrcefnog iawn a oedd yn byw ym mhlasty Ystymcolwyn ger Meifod. Tirfeddiannwr oeddgydag amryw o stadau a’i galluogai ef i fyw yn fras.Roedd Ystymcolwyn yn dy nobl iawn gyda gardd fawr wedi’i hamgylchynnu gan wal obriddfeini uchel i gysgodi’r ardd a chadw gwres y dydd i mewn. Roedd amrywiaeth o

68

ffrwythau, llysiau a pherlysiau’n cael eu tyfu ar gyfer y teulu a phawb oedd yn gweiniarnynt. Merryell Williams oedd brenhines yr ardd ac yr oedd yn hyddysg yng ngwerthmeddyginiaethol yr holl berlysiau.Ymddengys bod boneddigesau’r cyfnod hwnnw’ncymryd cryn ddiddordeb mewn perlysiau ac yn ymwybodol o’u gwerth iachusol. Roeddganddynt ryseitiau ar gyfer bron pob anhwylder a byddent yn cynnig y gwahanol foddion idrigolion yr ardal yn ogystal ag i’w teuluoedd.Cymerai Merryell Williams gryn ddiddordeb mewn coginio ac aeth ati i gasglu ryseiiauoedd yn eiddo i’w theulu a’r rhai a gafodd gan berchnogion plastai eraill. Cofnododd ycyfan a chyrhaeddodd y llawysgrifau hyn ein Llyfrgell Genedlaethol ymhen amser.Synnais wrth ddarllen mai cig oedd y prif fwyd gan ei fod yn rhatach ac yn llawer haws eigynhyrchu na bara.Ymddengys felly eu bod wedi darganfod hanfodion yr ‘Atkins diet’ymhell cyn i’r creadur hwnnw gael ei eni!Yn oes y meicrodon, mae’n anodd amgyffred pa mor gyntefig oedd y cyfarpar ar gyfercoginio yn yr ail ganrif ar bymtheg. Gwnaed yr holl gelfi yn lleol gan y saer a’r gof. Rhaidoedd coginio ar dân coed syml ynghanol y llawr oherwydd nid oedd grât yn y gegin tandri chwarter canrif ar ôl marwolaeth Merryell Williams. Diddorol oedd dysgu mai un dullo goginio adar fel brain a gwylanod oedd eu lapio, heb eu pluo, mewn clai ac wedyn eugosod ar y tân ei hun i’w rhostio. Er na ddywedir hynny, credaf mai dim ond cywion braina gwylanod oedd ar fin gadael y nyth, a ddefnyddid.Fel y byddech yn tybied, mae amryw o’r ryseitiau’n cynnwys dogn go dda o berlysiau asbeisys. Rhaid oedd wrth yr ychwanegion hyn, wrth gwrs, oherwydd nid oedd y cigoeddbob amser yn ffres. Mae’r ryseitiau’n dueddol o fod yn rhai cymhleth. Er enghraifft, dymarysait ei phwdin reis:

‘Cymerwch hanner pwys o reis a’i ferwi mewn chwart o laeth newydd nes bydd yreis yn feddal iawn; rhowch gaead tynn ar y llestr a’i adael dros nos. Boredrannoeth, cymerwch 6 wy a 4 gwynwy a’u cymysgu i’r reis gyda hanner pwys osiwet biff wedi ei falu’n fân, nytmeg wedi ei gratio, 2 neu 3 llwyaid o siwgr, bronbeint o hufen, ychydig o resins a chyrens. Rhowch ef mewn dysgl yn y popty a byddawr yn ddigon i’w grasu.’

Nid wyf yn credu y byddwn i’n hoffi powlaid ohono ar ôl cinio’r Sul, gwell gennyf o lawerbwdin reis fy mam!Mae’r holl feddyginiaethau a gynigir yr un mor gymhleth. Amheuaf yn fawr hefyd afyddai’r mwyafrif ohonynt o unrhyw les. Cymherwch y rysait at wella llyngyr:

‘Toddwch a chymysgwch ynghyd geiniogwerth o dyrpentin a’r un faint o thus, euteunu ar ledr tenau, ei osod ar y bogail a thorri twll ar ganol y plastr ar gyfer ybogail.Ymhen dwy awr bydd y llyngyr wedi mynd.’

Yr hyn sy’n gyffredin i’r holl ryseitiau yw’r addewid eu bod yn siwr o wella’r anhwylder.Mae’r llyfr yn ddiddorol a darllenadwy dros ben, fel y byddech yn disgwyl gan awdur morbrofiadol. Credaf y byddai o ddiddordeb mawr i’r rhai sy’n ymddiddori yng nghrefftau’rcartref, megis coginio a meddyginiaethau, yr oes a fu.Yn bersonol, nid wyf yn meddwl ybyddaf yn profi yr un o’r ryseitiau, gwell gennyf rai Delia Smith o lawer!

Elfed H Evans

69

Wild Flowers of Britain and IrelandMarjorie Blamey, Richard Fitter, Alastair FitterA&C Black 2003ISBN 0-7136-5944-0482 tud. Lluniau lliw ar bob tud.Clawr meddal £16.99

Pan oeddwn i’n hogyn, ychydig iawn o lyfrau da oedd ar gael i adnabod blodau. Llyfrauda, sylwch! Erbyn hyn, mae’r silffoedd yn gwegian a bydd rhywun yn gofyn i mi byth ahefyd pa un yw’r gorau. Fy ateb bob tro yw ‘yr un sy’n eich siwtio chi’. Mae rhai yn hoffidisgrifiadau manwl, eraill yn dibynnu ar ‘allweddau’ technegol, rhai yn gofyn amffotograffau lliw, paentiadau lliw i eraill, darluniau manwl du a gwyn i un a mapiaudosbarthiad i’r llall - ac felly ’mlaen.Mae enwau awduron y gyfrol hon yn gwarantu safon uchel - Richard ac Alastair Fitter(tad a mab) yn fotanegwyr ac awduron hynod brofiadol a Marjorie Blamey yn artistcydnabyddedig. Gyda llaw, mae Marjorie Blamey yn 85 oed a Richard Fitter yn 90, fellydoes dim diffyg profiad!Mae hwn yn llyfr sylweddol gyda 482 o dudalennau. Ar y dudalen dde, mae lluniau lliwgyda’r enwau Saesneg yn unig; ar y dudalen chwith, mae disgrifiad o bob rhywogaeth,ynghyd â’r enw Lladin. Syniad da yw’r mapiau bychain ar ymyl y ddalen yn dangosdosbarthiad y planhigyn dros wledydd Prydain ac Iwerddon.Ar y cyfan, mae’r llyfr yn dilyn y drefn wyddonol gyfoes, gyda theulu’r Blodyn Menyn(Ranunculaceae) ar y dechrau ac yn gorffen gyda’r gweiriau. Mae’r rhedyn yn dilyn arddiwedd y llyfr.Mae’r tudalennau rhagarweiniol yn ddefnyddiol. Ceir eglurhad o’r gwahaniaeth rhwngplanhigion blodeuol a rhedyn, eglurir y drefn o ddosbarthu planhigion yn wyddonol acheir sylwadau buddiol ar ddosbarthiad ac ecoleg. Mae rhestr termau ynghyd â lluniaubychan defnyddiol. Ceir cyfres o symbolau i ddynodi prinder ac mae rhestr o lyfrau achymdeithasau ar gyfer y rhai sydd am dreiddio ymhellach i ‘fyd y blodau’.Yn wahanol i’r rhelyw o lyfrau o’r fath, mae’r coed i gyd wedi’u casglu at ei gilydd, waethbeth fo’u teulu ac, yn rhyfeddach fyth, mae’r gweiriau, yr hesg a’r brwyn i gyd mewn unadran - ond wedi’u dosbarthu yn ôl ffurf y fflurgainc (inflorescence). Er enghraifft, ceir

Flowers in erect stout spikes - GrassesFlowers in erect stout spikes - SedgesFlowers in erect slender spikes - GrassesFlowers in erect slender spikes - Sedges

- efallai y bydd y cynllun hwn yn help i adnabod rhai o’r planhigion hyn sy’n gallu bodmor anodd i’w henwi.Syniad gwreiddiol arall yw neilltuo 7 tudalen ar ddiwedd y llyfr ar gyfer planhigionarbennig (specialities yw’r gair) Ynysoedd Sili, gorllewin Cernyw ac Iwerddon; ac mae dwydudalen o’r planhigion sydd (yn ôl pob tebyg) wedi marw o’r tir.Mae’r argraffu’n glir ar bapur da a gellir cario’r llyfr mewn poced (fawr).Ychydig iawn o wallau a welais wrth bori’n frysiog drwy’r gyfrol. Ar dud. 133, does dimenw gyferbyn â llun rhif 3, ‘Barren Strawberry’ ac ar y mapiau, mae Ynys Môn i bobpwrpas wedi suddo o dan y tonnau.Dyma ychwanegiad diddorol i’r nifer mawr o lyfrau sy’n ein helpu i adnabod y blodau;edrychaf ymlaen at ei ddefnyddio.Yn ôl y broliant, efallai mai dyma’r arweiniad gorauerioed i’r blodau gwylltion. Efallai’n wir - amser a ddengys.

G.W.

70

71

YLI . . .DAU ANRHEG NADOLIGDELFRYDOL!

NATURIAETHWRMAWR

MÔR A MYNYDDBywyd a Gwaith J. Lloyd Williams

DEWI JONES

YLIGwyn Thomas a Ted Breeze Jones

. . . priodas rhwng gair a llun sy’n hyfrydwch i’r glust a’r llygad

Gwasg DwyforPen-y-groes, Caernarfon • Ffôn: 01286 881911

Daeth y gyfrol gyntaf Anifeiliaidy Maes Hefyd a dwy ddawn

adnabyddus ynghyd i greu cyfrolunigryw – dawn y dewin geiriauGwyn Thomas, a lluniau gwychTed Breeze Jones o fyd natur.

Dyma’r ail gyfrol – YLI – y maeyma fyrdd o ryfeddodau!

36 tudalen lliw llawn. £5.95

Hanes bywyd a gwaithJ. Lloyd Williams – y gwerinwr a’rysgolhaig, y gwyddonydd a’r athro,

y llenor a’r Cymro.

Roedd yn fotanegydd wrth reddf gydadiddordeb arbennig ym mlodau’r

mynydd ac yn ei elfen yn sgrialu dros ycreigiau yn chwilio am blanhigion

Arctig-Alpaidd!

168 tudalen (8 mewn lliw). A5.£12.50

Yn eich siop lyfrau lleol nawr

72

A hoffech ddysgu mwy amsut i adnabod planhigion?

Waeth a ydych yn ymddiddori eisoes yn ymaes, neu’n ddechreuwr pur, bydd y cyrsiauhyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am ecolegdwy ardal arbennig, ac am y planhigion sy’ntyfu ynddynt. Gallent hyd yn oed gynrychioli’rcam cyntaf i yrfa newydd, gan fod prinderaruthrol o unigolion gyda’r sgiliau adnabodplanhigion sydd eu hangen ym meysyddcadwraeth a gwaith amgylcheddol.

Mae dau gwrs ar gael, a’r ddau wedi eudysgu gan Gymry Cymraeg. Bydd holladnoddau’r cwrs ar gael yn y ddwy iaith, arhagwelir y bydd cymysgedd o siaradwyrCymraeg a phobl di-Gymraeg yn cymrydrhan. Y mae hefyd wefannau cynhwysfawr argyfer y ddau gwrs:

Adnabod Planhigion / Plant Identification ynNganolbarth Cymry (pump dydd yn ystodgwyliau’r Pasg, aros yn Prifysgol CymruAberystwyth)

http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/Planhigion/

Ecoleg Ddaearol / Terrestrial Ecology yn yBurren, Iwerddon (saith dydd yn ystod misMedi, aros yng Nghanolfan Maes Turlough)

http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/modiwlau/iwerddon/

Mae’r niferoedd yn gyfyngedig ar gyfer y ddaugwrs. I sicrhau lle, gorau po gyntaf i chifynegi’ch diddordeb gan ofyn am fwy ofanylion gan :

CYRSIAU ADNABOD PLANHIGION AC ECOLEG

PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH

Canolfan Edward Llwyd, Adeilad Cledwyn,Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Cymru,

Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DA.E-bost: [email protected]

Ffon: (01970) 621828, Ffacs: (01970) 622307

Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod “y naturiaethwr gorauyn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu dros eu gwarchod.Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Dafydd Dafis, Rhandirmwyn, Llywydd a sylfaenydd Cymdeithas Edward Llwyd, ynastudio Lili’r Wyddfa ar Glogwyn Du’r Arddu,Yr Wyddfa, Mai 2003

Llun: Ifor Williams

Clawr ôl:

Lili’r Wyddfa (neu Brwynddail y Mynydd) Lloydia serotina

Llun: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

Rhifyn Dathlu

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau CymdeithasEdward LlwydPris i’r cyhoedd Rhifyn arbennig £3.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwygymhorthdal gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 13 Rhagfyr 2003

Cymdeithas Edward Llwyd

yn 25 oed