facebook.com/taicalon...Tai Calon ei ail ben-blwydd ym mis Gorffennaf gyda’r newyddion ei fod wedi...

16
Cwrdd â’ch Timau Cymdogaeth newydd a llawer mwy www.taicalon.org facebook.com/taicalon @taicalon Dymuniadau gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Nadolig 2012 / Rhifyn 8 calon y mater

Transcript of facebook.com/taicalon...Tai Calon ei ail ben-blwydd ym mis Gorffennaf gyda’r newyddion ei fod wedi...

  • Cwrdd â’ch Timau Cymdogaeth newydd a llawer mwy

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

    Dymuniadau gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

    Nadolig 2012 / Rhifyn 8

    calon y mater

  • Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gallwch gadw mewn cysylltiad â ni a chael gwybod beth sy’n digwydd.

    Ffôn: Ffoniwch ni ar 0300 303 1717 rhwng 9am a 5pm Llun i Gwener. Mewn argyfwng mae ein gwasanaeth “allan o oriau” ar gael ar 0300 303 1717.

    E-bost: [email protected]

    Ffacs: 01495 290 501.

    Ymweld neu ysgrifennu atom yn: Tai Calon, Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau NP13 3JW

    Gwefan: Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol amdanom a’r holl newyddion diweddaraf ar www.taicalon.org.

    facebook: Ymunwch â’n tudalen drwy ein “hoffi” yn facebook.com/taicalon

    Twitter: Dilynwch ni @taicalon

    Os oes gennych stori i’w dweud wrthym, neu os hoffech i ni gynnwys rhywbeth yn rhifyn nesaf ein cylchlythyr, cysylltwch â:

    Hefina Rendle, Rheolydd Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, yn Solis One, neu drwy e-bost

    [email protected]

    Cynnwysz Cadw mewn Cysylltiad 2

    z Newidiadau ar y Ffordd 3

    z Prynu Solis One 3

    z Rheolwyr Cymdogaeth Newydd 4

    z BRfm ... Tai Calon ar y Radio 6

    z Golwg Tai Gwarchod 1

    z Mae’n Dda Siarad 2

    z Hel Atgofion 2

    z Erobeg Cadair Freichiau 2

    z Deg cyngor da i osgoi pen tost Nadolig 7

    z Cynllun Amgylcheddol 8

    z Cystadleuaeth Arddio 9

    z Bwrdd newydd / CCB 10

    z Calendr 11

    z Llawlyfr newydd i denantiaid 11

    z Marcio metel 12

    z Cynghorwyr tanwydd 13

    ORIAU AGOR Y NADOLIG A’R FLWYDDYN NEWYDD

    Bydd Solis One yn cau am y Nadolig am 5 pm ddydd Gwener 21 Rhagfyr.

    Bydd yn agor eto ddydd Llun 31 Rhagfyr, rhwng 9am a 5pm.

    Bydd ar gau ddydd Calan ac yn ail-agor am 9am ddydd Mercher 2 Ionawr.

    Mewn argyfwng ffoniwch ein rhif tu allan i oriau 0300 303 1717.

    Gofynnir i chi gofio ein bod yn debygol o gael nifer fawr o alwadau yn dilyn y gwyliau.

    Cadw mewn Cysylltiad

    Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

    2

  • Dathlodd Cartrefi Cymunedol Tai Calon ei ail ben-blwydd ym mis Gorffennaf gyda’r newyddion ei fod wedi prynu ei swyddfa a’i bencadlys yn y Blaenau. Symudodd Tai Calon i Solis One ar y diwrnod y cafodd ei ffurfio ar 26 Gorffennaf 2010.

    Llywodraeth Cymru oedd yn berchen yr adeilad 56,004 troedfedd sgwâr. Dywedodd Jen Barfoot, y Prif Weithredydd, “Roedd yn gwneud synnwyr i’w brynu’n awr, a pheidio gorfod talu rhent am flynyddoedd mawr

    i ddod ac felly cytunodd ein Bwrdd ei brynu.”

    Cymerodd Tai Calon y les 10 mlynedd i ddechrau gydag opsiwn i brynu’r adeilad a gafodd ei godi yn 2003.

    Dywedodd y Cadeirydd, Philip Crozier, “Roedd rhesymau ariannol cryf dros brynu Solis One. Bydd yn ein galluogi i wneud arbedion sylweddol yn y dyfodol, a drwy fod yn berchen yr adeilad a’r tir cysylltiedig, gallwn wneud defnydd gwell ohono i gefnogi gwasanaethau i denantiaid.”

    Cynrychiolwyd Tai Calon gan Jeremy Symons, Cyfarwyddydd gydag Asiantaeth Ddiwydiannol Cooke & Arkwright.

    Prynu Solis One

    3

    Rydym yn gwneud nifer o newidiadau yn y ffordd y gallwn eich cefnogi a gwella pethau i chi.

    Bydd ein Rheolwyr Cymdogaeth newydd a’u timau’n gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal. Mae mwy o fanylion ar y dudalen nesaf.

    Jeremy Symons, Cooke & Arkwright,

    David Lloyd, Ysgrifennydd y Cwmni, Jen

    Barfoot a Philip Crozier

    Newidiadau ar y Ffordd ... Ydych chi’n Barod?

    Bydd llawer yn digwydd yn 2013 hefyd.

    Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid y system budd-daliadau. Gallai effeithio arnoch chi os ydych chi’n hawlio unrhyw fudd-dal, os ydych mewn gwaith neu allan o waith. Byddwch yn barod, mynnwch yr wybodaeth yn awr. Mae gwybodaeth yn y

    cylchlythyr yma ac ar ein gwefan www.taicalon.org.

    Mae gennym hefyd daflenni a llyfryn hirach yn esbonio’r newidiadau. Cadwch olwg amdanynt yn eich cymuned neu ofyn i aelod o staff am fanylion.

    Hoffem ddiolch i’r Waundeg Warriors am eu help gyda’n hymgyrch.

  • 4

    Cwrdd aelodau ein Timau Cymdogaeth newyddMae Cartrefi Cymunedol Tai Calon yn mynd yn agos a phersonol gyda thenantiaid. Mae’n creu 10 swydd newydd wrth i ni sefydlu timau cymdogaeth lleol i ofalu am eich cartrefi.

    Mae hyn ar ben y 50 o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant y mae ei gontractwyr wedi eu cynnig i bobl ifanc YN UNIG yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Mae Tai Calon yn recriwtio Pennaeth Cymunedau a naw arall wrth iddo ailstrwythuro gweithrediad dydd-i-ddydd y busnes.

    “Mae tenantiaid yn ganolog i’n holl waith,” meddai Jen Barfoot, y Prif Weithredydd.

    “Rydym eisiau i’n sefydliad fod â mwy fyth o ffocws ar anghenion tenantiaid a’u cymunedau. I wneud hynny, rydym yn creu timau cymdogaeth, un ar gyfer pob un o dri chwm Blaenau Gwent.”

    Caiff pob tîm ei arwain gan Reolydd Cwm. Bydd hefyd 12 o Reolwyr Cymdogaeth gyda phob un ohonynt yn gofalu am tua 500 o gartrefi.

    Dywedodd Andrew Myatt, Cyfarwyddydd Cymunedau a Thai, “Ein Rheolwyr Cymdogaeth fydd ein llygaid a’n clustiau yn y gymuned. Byddant yn dyrannu tenantiaethau newydd, yn cefnogi tenantiaid ac yn gofalu am eu hardal. Ar gyfer ein tenantiaid, bydd ein timau cymdogaeth yn dod yn

    wynebau adnabyddus sydd ar gael pan maent eu hangen.”

    Mae rhai o’r tîm eisoes yn eu swyddi, ac mae Tai Calon hefyd yn penodi Pennaeth Cymunedau, Rheolydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheolydd Uned Cymorth Busnes, Rheolydd Cwm, tri Rheolydd Cymdogaeth a thri Rheolydd Eiddo.

    Dywedodd Bill Pearch, Cyfarwyddydd Asedau a Gwasanaethau Eiddo, “Drwy ddod â gwahanol rannau o’r busnes ynghyd, byddwn yn gallu gwella’r ffordd y gweithiwn a gwella ein gwasanaeth i denantiaid. Mae’n ymwneud yn llwyr â bod yn amserol, proffesiynol ac effeithiol.”

    “Mae hwn yn amser gwirioneddol gyffrous i ni,” meddai Jen Barfoot. “Rydym yn benderfynol i wneud ein gwasanaethau mor lleol ag sydd modd ar gyfer tenantiaid. Bydd ein timau cymdogaeth newydd yn ein galluogi i wneud yn union hynny. Mae Tai Calon yn benderfynol i ddod y gorau y gall fod.”

    Ar hyn o bryd mae Tai Calon yn cyflogi ychydig dros 280 aelod o staff. Mae’n anelu recriwtio mor lleol ag sydd modd a defnyddio’r arian a ddaw hynny i hyrwyddo busnesau lleol ac

    economi Blaenau Gwent.

    Mae hefyd yn benderfynol i gynnig cynifer o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant ag sydd modd i bobl ifanc. Mewn gwirionedd, mae Tai Calon a’i gontractwyr rhyngddynt wedi darparu 50 o brentisiaethau, swyddi a lleoliadau gwaith. Mae rhai o’r lleoliadau hefyd wedi arwain at gyflogaeth lawn-amser.

    “Mae’r hyn yr ydym wedi llwyddo i’w wneud mewn cyfnod mor fyr yn rhagorol,” meddai Hayley Selway, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Tai.

    “Mae’n wych gweld beth fedrir ei gyflawni pan ddeuwn ni a’n partneriaid ynghyd.”

    Un o’r rhai sydd wedi sicrhau swydd yw Lee Poulson, tenant a fynychodd gwrs plastro a drefnwyd gan Tai Calon. Roedd mor benderfynol i gael swydd fel iddo blastro ei gartref ei hun i brofi i’r contractwr, R and M Williams, y dylent ei gyflogi ac fe wnaethant.

    Mae cwmni arall, Keepmoat, wedi creu 5 prentisiaeth ynghyd â dau leoliad ac mae hefyd yn addo cynnig pum cyfle hyfforddi arall eleni.

    Mae wyth o bobl ifanc eraill ar leoliadau cynnal a chadw gerddi gyda Green Earth @ Tai Calon wedi mynd ymlaen i waith

  • 5

    pellach ac mae gan un swydd barhaol gyda Tai Calon.

    Cafodd Kyle Hemmings gontract 12 mis gan Tai Calon ar ôl ymuno am wyth wythnos ar brofiad gwaith a drefnwyd gan y Ganolfan Byd Gwaith. Bu Kyle yn gweithio dros dro yn yr adran Gwasanaethau Cwsmeriaid pan wnaeth gais llwyddiannus am rôl Cynghorydd Ynni. Darllenwch fwy am swydd newydd Kyle yn nes ymlaen yn y cylchlythyr.

    “Roeddwn wedi colli fy ngwaith oherwydd y dirywiad yn y sector gweithgynhyrchu, felly rwyf yn falch iawn i fod â swydd eto ar ôl chwe mis allan o waith. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fy swydd newydd. Rwyf

    wedi mwynhau gweithio mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid a helpu’r tenantiaid sy’n ein ffonio bob dydd gyda’u hymholiadau,” meddai Kyle.

    “Mae’n wych meddwl ein bod yn helpu cynifer o bobl ifanc i fynd i waith,” meddai Jen Barfoot.

    “Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’n partneriaid a’n staff sy’n eu cefnogi a’u hannog wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd.”

    Mae Tai Calon hefyd yn trefnu cyfleoedd hyfforddiant a chyrsiau yn y swyddfa yn y Blaenau. Un ohonynt yw cynllun wyth wythnos sy’n arwain at gymhwyster mewn Gofal Cwsmeriaid.

    Y Tîm Cymdogaeth Newydd

    Llongyfarchiadau! Enillodd Diane Bennett o Waundeg Warriors wobr Arweinydd Cymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru yng Nghaerdydd a drefnwyd gan Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru. Roedd Tai Calon hefyd ar y rhestr fer am y wobr Grymuso a Chynnwys Cymunedau gyda’n cynllun hyfforddi tenantiaid i gynnal arolygon boddhad

  • 6

    Ym mis Gorffennaf fe wnaethom ddarlledu ein sioe gyntaf ar Brfm, 97.3 fm “Tai Calon on the Radio” sy’n mynd allan bob dydd Mercher am 10am ac yn awr o gerddoriaeth a sgwrs.

    Y gwesteion ar y rhaglen gyntaf oedd Paul Winterson, Pennaeth Rheoli Asedau, ac Eve Woolhouse, Gweithredydd Tir a Chyfreithiol. Ers hynny mae ein gwesteion wedi cynnwys Philip Crozier, Cadeirydd Tai Calon, John Sexton, Cyfarwyddydd Hafan Dysgu newydd Coleg Gwent yng Nglynebwy, yn ogystal â staff o Gyngor Blaenau Gwent a Heddlu Gwent.

    Mae Christine Morgan a Diane Bennett o Waundeg Warriors hefyd wedi ymddangos ar y sioe, ynghyd â Philip Harrison o Dîm Gweithredu Preswylwyr y Drenewydd.

    Mae gan Cyngor Ar Bopeth ei slot misol ei hun ar ôl ymddangos ar y sioe i siarad am gyngor arian a newidiadau i’r system budd-daliadau.

    Y syniad tu ôl i’r rhaglen yw gadael i denantiaid wybod beth sy’n digwydd o fewn Tai Calon a’u cymuned. Rhoddwn newyddion yn gyson i wrandawyr ar y newidiadau mewn budd-daliadau a sut y

    gellid effeithio arnynt. Mae Kelsey, Chloe a Natasha o’n tîm Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol hefyd yn westeion rheolaidd i roi manylion digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi a gynhelir ar draws y sir.

    Daeth y syniad am y rhaglen ar ôl i ni glywed fod BRFm £3,000 yn fyr o’r cyllid oedd ei angen i osod erial newydd, a fyddai’n gwarantu fod pob rhan o Flaenau Gwent yn derbyn y gwasanaeth. Fe wnaethom gyfrannu’r arian ar ôl i denantiaid gytuno talu hanner o Gronfa Gwella’r Amgylchedd.

    Cysylltwch â ni os hoffech ymddangos ar y rhaglen neu os oes gennych syniad ar gyfer sioe yn y dyfodol. Byddem hefyd yn falch i hysbysebu eich digwyddiadau cymunedol neu chwarae cais. Gallwch anfon neges e-bost at [email protected] neu ffonio Damian a Hefina ar 0300 303 1717.

    Gwrandewch ar “Tai Calon on the Radio” ar BRfm 9.3fm bob bore Mercher rhwng 10am a 11am. Gallwch hefyd glywed y sioe ar-lein a thrwy fynd i dudalen ‘Gwrando Eto’ ar www.brfm.co.uk.

    BRfm; Tai Calon ar y Radio

  • 7

    Nadolig 2012 / Rhifyn 5

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

    Mae’n Dda cael Gair

    Hel Atgofion

    Erobeg Cadair Freichiau

    GwarchodGolwg Tai

  • 8

    Hel Atgofion Mae Tai Calon yn cynhyrchu ffilm fer y Nadolig hwn am yr hen ddyddiau ym Mlaenau Gwent.

    Bydd y tîm yn recordio cyfweliadau gyda thenantiaid a gaiff eu darlledu ar ein sianel YouTube yn ogystal â rhaglen arbennig ar “Tai Calon on the Radio.”

    Bywyd mewn safle tai gwarchod oedd thema “Tai Calon on the Radio” ar Noson Calon Gaeaf.

    Bu Audrey Barnes ac Elaine Singleton yn siarad ar y rhaglen am eu profiad o fyw mewn tai gwarchod.

    Dywedodd Audrey Barnes, sy’n byw yng Nghwrt Davey Evans yn Abertyleri, “Roeddwn yn poeni i ddechrau y gallwn fod wedi gwirfoddoli i gymryd rhan heb ystyried y peth yn iawn, fodd bynnag roedd yn brofiad

    gwych. Doeddwn i ddim wedi bod ar raglen radio o’r blaen ac roedd yn ddiddorol tu hwnt gweld sut y cafodd y rhaglen ei llunio.”

    Meddai Elaine Singleton, o Fflatiau Glanyrafon yn y Blaenau,. “Fe wnes fwynhau’r profiad ac roedden nhw’n groesawgar iawn. Roedd yn ddiddorol clywed am gynlluniau eraill ac fe fyddwn wrth fy modd yn ei wneud eto.”

    Siaradodd y ddwy fenyw am pam y gwnaethant benderfynu

    symud i dai gwarchod a faint y maent yn mwynhau “byw annibynnol”. Fe wnaethant hefyd siarad am y llu o weithgareddau a gynhelir yn eu safleoedd bob mis.

    Ychwanegodd Audrey Barnes, “Rwy’n falch ei fod yn swnio’n iawn gan nad oeddwn wedi paratoi dim byd. Fe wnaeth staff Tai Calon fi i deimlo’n wirioneddol gartrefol.”

    Golwg Tai Gwarchod 2

    Mae hon yn ffordd dda o gadw’n heini a chwrdd â ffrindiau newydd. Cynhelir sesiwn o Erobeg Cadair Freichiau yng Nghwrt Davey Evans unwaith y mis. Gall unrhyw un gymryd rhan ac ymunodd 15 o bobl yn y dosbarth ymarfer ym mis Tachwedd. Wedyn roedd sesiwn ar fwyta’n iach gyda chyfle i flasu dewis o seigiau maethlon.

    Dywedodd Lynne Brown, Rheolydd y Cynllun, “Buom yn cynnal y dosbarth am tua blwyddyn

    ac mae’n boblogaidd iawn. Mae erobeg cadair freichiau’n rhoi holl fanteision ymarfer rheolaidd, codi cyfradd y galon yn uwch na lefel gorffwys, ond heb yr effaith neu risg codwm. Wedyn fel arfer cawn sgwrs ar amrywiaeth o bynciau gwahanol.”

    Cynhelir y dosbarth nesaf ym mis Ionawr. I gael mwy o fanylion cysylltwch â Lynne Brown ar 01495 294761.

    Erobeg Cadair Freichiau

    Mae’n dda cael gair!

  • 7

    Mae’r Nadolig yn amser o roi, ond dydych ddim eisiau rhoi pen tost ei’ch hunan yn y Flwyddyn Newydd gyda biliau a dyledion na allwch eu fforddio. Mae’n rhwydd iawn gorwario - mae cynigion i’ch denu a phwysau i brynu, ond mae’n rhaid i chi benderfynu faint y gallwch fforddio cyn i chi ddechrau gwario.

    1 Cynllunio’n gynnar ar gyfer y Nadolig Byddwch yn realistig a threfnu cyllideb. Gweithiwch allan faint y byddwch yn ei wario ar bob person - a chadw at hynny. Rheolwch ddisgwyliadau ar yr hyn y gallwch chi neu Siôn Corn ei roi.

    2 Peidio anghofio’r biliau bob dyddCofiwch fod yn rhaid dal i dalu am y rhent, biliau cyfleustod, biliau bwyd a dyledion eraill - a gall canlyniadau peidio gwneud hynny fod yn ddifrifol. Er ei bod yn Nadolig, dylech gael eich blaenoriaethau’n iawn.

    3 Peidio â bancio ar orddrafftOs ydych angen mwy o arian, peidiwch â mynd i orddrafft heb siarad gyda’ch banc yn gyntaf - bydd yn llawer drutach.

    4 Cadw pethau’n symlOs gallwch fforddio talu am eich nwyddau i gyd gydag arian neu gerdyn debyd, peidiwch cael eich darbwyllo i gymryd cytundeb credyd estynedig os nad ydynt yn wirioneddol yn rhatach yn y pen draw.

    5 Siopa o amgylchEdrychwch o amgylch i gael y pris gorau. Prynwch yr hyn rydych ei eisiau ac nid yr hyn mae pobl eraill yn ddweud eich bod angen. Byddwch yn ofalus gyda gwarantau estynedig; gallai costau trwsio fod yn llai na chost y warant.

    6 Prynu’n ddiogel i fod yn ddiogelBeth bynnag yw’r ddêl, beth bynnag y demtasiwn, peidiwch â phrynu gan fasnachwyr diawdurdod a pheidiwch â benthyca gan fenthycwyr diawdurdod. Gall yr arbedion a’r cyfleustod dechreuol gostio mwy i chi yn y pen draw.

    7 Darllen y print mânEdrychwch am unrhyw beth ychwanegol sydd wedi’i guddio mewn cytundeb credyd. Gweithiwch allan beth yw’r cyfanswm taladwy. Sicrhewch fod y rhandaliadau misol o fewn eich cyllideb cyn llofnodi. Gall credyd di-log ymddangos yn ddeniadol, ond os nad ydych yn talu ar amser neu’n colli taliad, gallai fod yn rhaid i chi dalu llawer mwy.

    8 Gwneud eich gwiriadau credyd eich hunOs byddwch yn defnyddio cerdyn credyd, edrychwch o amgylch a chymharu telerau. Mae rhai cardiau’n codi cyfraddau llog uchel ond yn rhoi cyfnodau di-log neu ddisgownt. Trefnwch ar gyfer yr holl gostau hyn a rhoi’r dyddiadau talu yn eich dyddiadur.

    9 Bod yn drefnusMae llawer i feddwl amdano adeg y Nadolig. Os ydych wedi benthyca arian, peidiwch anghofio y bydd yn rhaid i chi wneud taliad cyn hir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu ar amser, hyd yn oed os mai dim ond yr isafswm yw hynny, neu byddwch yn gorfod talu costau ychwanegol.

    10 Dechrau cynllunio a chynilo ar gyfer y Nadolig nesaf Unwaith y bydd y Nadolig drosodd, mae’n werth edrych beth wnaethoch yn dda a’r hyn na wnaethoch cystal. Dysgwch o’ch camgymeriadau a dechrau cynllunio sut y byddwch yn gwneud pethau’n wahanol y flwyddyn nesaf. Gallai hyn hefyd fod yn amser da i ddechrau cynilo ar gyfer y Nadolig nesaf.

    Fodd bynnag, os ydych yn poeni sut i ddod â deupen llinyn ynghyd y Nadolig yma, neu mewn trafferthion gyda dyled ac yr hoffech siarad yn gyfrinachol gyda rhywun, cysylltwch â’ch CAB lleol. Ffôn: 01443 878 058 Testun: 07 53 50 500 53 E-bost: [email protected]

    Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gallwn drefnu i rywun eich ffonio’n ôl.

    Gallwch hefyd glywed CAB yn ei slot rheolaidd ar “Tai Calon on the Radio”.

    Deg cyngor da i osgoi pen mawr ar ôl y Nadoliggan Cyngor Ar Bopeth

  • 8

    Mae Tai Calon yn gwario £111 miliwn erbyn 2015 i godi cartrefi pawb ohonoch i Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae’r gwaith ar y targed ac ar gyllideb.

    Mae rhan ohono yn cynnwys ymrwymiad gennym i wella’r amgylchedd yn eich cymuned. Enw’r cynllun yw Rhaglen Gwella’r Amgylchedd a bydd yn costio mwy na £10 miliwn.

    Mae’n golygu ein bod wedi ymrwymo i ddarparu tenantiaid gyda chartrefi sydd:

    “... mewn amgylchedd deniadol a diogel” a

    “... mewn amgylchedd y gall preswylwyr gysylltu ag ef” a

    “... mewn amgylchedd y gallant fod yn falch i fyw ynddo.”

    a lle dylai pobl fedru:

    “... fwynhau’r amgylchedd y maent yn byw ynddo”

    “... bod eisiau cymryd cyfrifoldeb am yr amgylchedd.”

    Dywedodd Andy MacDougall, rheolydd y prosiect, “Dengys ymchwil a phrofiad na ddylid gorfodi gwelliannau amgylcheddol ar gymunedau a’u bod yn debygol i fod yn llawer mwy llwyddiannus pan maent wedi helpu i gynllunio a gweithredu cynlluniau yn eu cymdogaethau eu hunain.”

    Bydd trafodaethau ar beth a wneir, a ble, yn dechrau’n gynnar yn 2013. Gall tenantiaid benderfynu fod gwella mynediad i gerddwyr yn flaenoriaeth allweddol yn eu cymdogaethau neu gallai hynny fod yn ddarparu lleoedd parcio o ansawdd gwell. Mae cynlluniau gwella posibl eraill yn cynnwys:

    • Gwella llwybrau.

    • Creu gofod hamdden a chwarae anffurfiol.

    • Creu gofod tyfu ar gyfer rhandiroedd a gerddi cymunedol.

    • Gwella waliau ffin, rheiliau a ffensys.

    • Cynyddu diogelwch drwy wella goleuadau a chynllunio.

    Gan weithio gyda sefydliadau partner, nod Tai Calon yw adfywio a thrawsffurfio cymdogaethau drwy welliannau i’r amgylchedd sydd wedi’u cynllunio’n dda ac a arweinir gan y gymuned i wella ansawdd bywyd tenantiaid a phreswylwyr yn nhermau:

    • Iechyd a lles corfforol

    • Mwy o ysbryd cymunedol a pherchnogaeth

    • Gostwng troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

    • Gwella datblygiad plant a chyrhaeddiad addysgol.

    Cyn belled ag sy’n bosibl, mae Tai Calon yn anelu i ddefnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol, gan greu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant yn y sir.

    Os hoffech fwy o wybodaeth am Raglen Gwella’r Amgylchedd Tai Calon, cysylltwch ag Andy MacDougall, Rheolydd Prosiect ar 0300 303 1717.

    GWELLA EICH AMGYLCHEDD

  • 9

    Gardd orau1af – Phillip Williams, TredegarEnillodd Mr Williams gyda’i ardd wych. Mae’r cyfan yn debyg i ardd ddirgel gyda bwâu, goleuadau ac ardal ddecio hardd. Mae hefyd fur enwogrwydd yn dangos hen esgidiau ei deulu.

    2il – Graham Williams, Tredegar Hwn oedd y tro cyntaf i Mr Williams gymryd rhan mewn cystadleuaeth arddio. Fodd bynnag, yn 72 oed, mae’n dal i fwynhau edrych ar ôl ei ardd, sy’n edrych yn wych. Caiff ei helpu gan ei wraig Marlene, sydd hefyd yn 72 oed.

    3ydd – Stanley Burnett, Brynithel, AbertilleryCafodd Mr Burnett ganiatâd i droi darn o dir gwastraff yn ymyl ei gartref yn ardd hyfryd.

    Gardd orau dechreuwyr (tenantiaethau dan 3 oed)1af – Stuart Watson a Marlene Watson, BrynmawrMae’r fam a’r mab wedi gweithio’n galed iawn i gynllunio eu gardd fendigedig mewn llai na 20 mis.

    2il – Madonna Reynolds, RhasaDechreuodd Mrs Reynolds weithio ar ei gardd hyfryd pan symudodd i’w chartref newydd yn Ionawr 2011.

    Gardd Gymunedol Orau1af – Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Cwrt PeacehavenMae cynifer o bobl wedi cymryd rhan yn y prosiect fel ei fod wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o falchder. Aeth y gymdeithas ati i drawsnewid ei phatio cymunedol a gardd ar ôl llwyddo i sicrhau bron £3,000 gan Gronfa Gwella’r Amgylchedd Tai Calon. Mae’r grŵp hefyd yn tyfu a gwerthu ei lysiau ei hun i helpu ariannu’r gymdeithas.

    Potiau/Cynwysyddion a Basgedi Crog Gorau1af – Madonna Reynolds, RhasaGwobr arall iddi yng nghystadleuaeth eleni.

    2il – Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Cwrt Peacehaven Gwobr arall i’r gymdeithas.

    Gerddi GodidogFe wnaethom gynnal ein cystadleuaeth arddio gyntaf yn ystod yr haf. Cawsom gynigion gwych a gwelsom wledd o flodau. Da iawn chi bawb.

  • Daeth tua 30 aelod i Solis One am ein hail Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Llun 24 Medi 2012. Roedd y cyfarfod ar agor i’n holl aelodau. Diben y CCB yw rhannu ein llwyddiant dros y deuddeg mis diwethaf a sôn am ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ar ôl derbyn cyflwyniad gan aelodau’r Tîm Gweithredol, gofynnwyd i aelodau bleidleisio ar benodi aelodau’r Bwrdd.

    Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent wedi enwebu pum aelod newydd a nodwyd gan y cyfarfod:

    • Graham Bartlett• Keren Bender• Keith Chaplin• Jim McIlwee• Bernard WillisAilbenodwyd dau aelod annibynnol i’r Bwrdd:

    • Andrew Bateson• Philip Crozier

    Adroddwyd canlyniadau’r etholiad tenantiaid i’r cyfarfod. Roedd 21.4% o gyfanswm poblogaeth tenantiaid wedi cymryd rhan yn y bleidlais. Y canlyniadau oedd:

    1.Shirley Ford 1,115 (25.79%) pleidlais - etholwyd

    2.Philip White 1,114 (25.78%) pleidlais - etholwyd

    3.Margaret Retallick 1,067 (24.69%) pleidlais - etholwyd

    4.Julia Gregg 1,027 (23.76%) pleidlais

    Roedd rhan nesaf y cyfarfod yn ymwneud â materion ariannol Tai Calon. Cyflwynodd Tania Cregg o’n harchwilwyr allanol y datganiadau ariannol a gymeradwywyd gan y cyfarfod.

    Darn olaf y busnes oedd ailbenodi Haines Watts yn archwilwyr allanol Tai Calon am flwyddyn arall.

    Mynegodd y Bwrdd ei werthfawrogiad am waith caled ac ymroddiad yr aelodau oedd yn gadael y Bwrdd yn neilltuol Julia Gregg, Godfrey Thomas a John Williams.

    Ail Gyfarfod Blynyddol Cyffredinol Tai Calon

    10

  • Mae 2013 bron yma a byddwn yn anfon Calendr Tai Calon atoch i’ch helpu i gadw lan ar yr hyn sy’n digwydd y flwyddyn nesaf. Tynnwyd y lluniau gan denantiaid ac os hoffech chi anfon llun i’w ystyried ar gyfer 2014, cadwch eich llygad ar agor am ein cystadleuaeth.

    Mae’r calendr yn cynnwys dyddiad ein 3ydd Diwrnod Hwyl Tenantiaid a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhelir ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf. Bu diwrnod hwyl eleni yn gymaint o lwyddiant fel i ni redeg allan

    o docynnau. Felly archebwch yn gynnar i osgoi siom. Mae’r calendr hefyd yn cynnwys y dyddiadau cau ar gyfer cystadleuaeth arddio 2013 a gwobrau Gwneud Gwahaniaeth.

    Byddwch hefyd yn derbyn copi o’r Llawlyfr Tenantiaid newydd. Cadwch ef yn ddiogel, mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am eich tenantiaeth. Byddwn yn anfon mwy o dudalennau i ychwanegu ato yn y misoedd nesaf

    Beth sydd ymlaen!

    Y Bwrdd Newydd

    Philip Crozier

    Chair

    Fred Davies Is-gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Rheoli Asedau

    Elaine Townsend

    Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad, Archwilio a Risg

    Graham Bartlett

    Andrew Bateson

    Keren Bender

    Keith Chaplin

    Shirley Ford

    Roy Jones

    Jim McIlwee

    Nigel Perring

    Steve Porter

    Margaret Retallick

    Philip White

    Bernard Willis

    Cyfetholwyd Debbie Green i’r Bwrdd.

    11

    at the heart of your community

    Tenant Handbook

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

    Visit our offices or write to us at:Tai Calon Community Housing, Solis One, Rising Sun Industrial Estate, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3JW.

    Telephone us on: 0300 303 1717

    Text taicalon to 60030, followed by your message.

    Fax: 01495 290 501

    Email us at: [email protected]

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

    at the heart of your community

    Tenant Handbook

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

    Visit our offices or write to us at:Tai Calon Community Housing, Solis One, Rising Sun Industrial Estate, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3JW.

    Telephone us on: 0300 303 1717

    Text taicalon to 60030, followed by your message.

    Fax: 01495 290 501

    Email us at: [email protected]

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

  • Gochelwch, ladron metel ... Mae Tai Calon a Heddlu Gwent yn marcio boeleri gwres canolog, rheiddiaduron a phibelli gyda deunydd arbennig sydd i’w weld dan olau uwchfioled.

    Mae’r sefydliadau’n gweithio gyda Smartwater i wneud yn sicr y gall ein hoffer a phibelli gael ei ganfod yn rhwydd os caiff eu dwyn.

    Caiff y cynllun ei gynnig i denantiaid i gadw eu heiddo’n ddiogel hefyd.

    Dywedodd Andrew Myatt, Cyfarwyddydd Cymunedau a Thai, “Bob tro mae’n rhaid i ni roi boeler gwres canolog newydd yn lle un a gafodd ei ddwyn, mae’n golygu fod gennym lai o arian i’w wario ar ein gwasanaethau i denantiaid. Maent yn talu eu rhent i ni i wella eu cartrefi ac nid i’w roi ym mhoced lleidr.”

    Mae Rees Edwards, tenant o Frynmawr yn cytuno. “Rwy’n credu fod hyn yn syniad gwych ac roeddwn yn falch iawn i gael y metel yn fy nghartrefi wedi eu marcio.”

    Mae iardiau a gwerthwyr sgrap ar draws Gwent wedi llofnodi cod ymddygiad newydd sy’n golygu fod yn rhaid i unrhyw un sy’n ceisio gwerthu metel ddangos cerdyn adnabod gyda llun.

    Mae hefyd weithdrefnau arbennig ar gyfer cludo a gwerthu ag unrhyw beth a gafodd ei farcio gan Smartwater.

    Mewn cyrch 16 mis mae Heddlu Gwent wedi gwneud bron 900 arést ac atafaelu mwy na 1,500 cerbyd.

    Dywedodd y Prif Arolygydd Marc Budden o Heddlu Gwent, “Rydym yn cymryd lladrad metel yn ddifrifol iawn, ac yn groes i’r hyn y mae rhai pobl yn ei gredu, nid yw’n drosedd heb ddioddefwyr. Cafodd pobl eu lladd yn dwyn metel ac mae hefyd yn costio degau o filoedd o bunnau i fusnesau a chartrefi ar draws y sir. Fel Heddlu, rydym yn benderfynol i wneud popeth a allwn i ddal lladron metel ac atal y gofid a achosant.”

    Gall tenantiaid brynu offer Smartwater gennym ni am bris rhatach o £8.

    Marcio metel!

    12

  • Mae’r cynnydd mewn prisiau ynni yn golygu ei bod yn anodd cadw ein cartrefi’n dwym

    Fodd bynnag, gyda chymorth gan y Gronfa Adfywio Meysydd Glo, mae Tai Calon wedi lansio gwasanaeth cyngor ynni am ddim.

    Gall ein Cynghorwyr Ynni, Kyle Hemmings, Sarah Herbert

    a Tom Blackshaw (a welir yn y llun) ymweld â chi yn eich cartref i roi llawer o gynghorion a gwybodaeth ddefnyddiol ar:

    Systemau Gwresogi a Dŵr Poeth

    • Defnydd effeithiol o’r system

    • Defnyddio rhaglennydd

    • Defnyddio’r thermostatau

    Gostwng defnydd o ynni yn y cartref a’ch biliau

    • Mesurau arbed ynni yn eich cartref

    Delio gyda Dyledion Tanwydd

    • Gwybodaeth ar sefydliadau a all eich helpu i ddelio gyda dyledion nwy, trydan a dŵr

    • Deall eich biliau cyfleustod

    • Sut i ddarllen eich mesuryddion

    Gostwng cost eich tanwydd

    • Sut i newid cyflenwr

    • Deall tariffau ynni

    • Newid opsiynau talu

    • Disgownt Cartref Cynnes

    • Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth

    Os hoffech ymweliad cartref am unrhyw fater yn gysylltiedig ag ynni, cysylltwch â ni ar 0300 303 1717 os gwelwch yn dda.

    Mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i gynnal gwiriad diogelwch blynyddol ar ein holl gyfarpar, ffliwiau a ffitiadau nwy yn eich cartref. Caiff y gwaith hwn ei wneud gan beiriannydd sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe dan Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio)1998.

    Bydd y peiriannydd hefyd yn rhoi gwasanaeth i’n boeleri a’n cyfarpar fel eu bod yn parhau i weithio’n effeithlon, effeithiol a diogel.

    Byddant hefyd yn profi larymau mwg ac yn edrych ar eich cyfarpar megis tannau nwy a ffyrnau.

    Pan fyddwch yn gosod eich ffwrn a chyfarpar nwy eraill eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflogi peiriannydd cymwys sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe.

    Cynhelir gwiriad diogelwch nwy unwaith y flwyddyn a byddwn yn ceisio trefnu apwyntiad ar amser sy’n gweddu i chi.

    Gofynnir i chi wneud yn siŵr fod rhywun adref i’n galluogi i gynnal yr arolwg. Os yw’r apwyntiad yn anghyfleus, ffoniwch ni ar 0300 303 1717 i drefnu dyddiad newydd os gwelwch yn dda.

    Os ydych yn methu rhoi mynediad i ni gallwn gymryd camau cyfreithiol a gallech gael eich troi o’ch cartref. Medrwn hefyd godi tâl arnoch am ein costau wrth fynd â’r achos i’r llys.

    COFIWCH FOD Y GWIRIAD DIOGELWCH NWY BLYNYDDOL ER MWYN EICH CADW CHI A’CH ANWYLIAID YN DDIOGEL.

    Diogelwch Nwy

    Cadw’n Dwym ac Arbed Ynni

    13

  • Newidiadau i fudd-daliadauMae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud nifer o newidiadau i’r system budd-daliadau. Mae’n cyflwyno un budd-dal newydd, Credyd Cynhwysol, yn lle nifer o fudd-daliadau ar gyfer pobl mewn gwaith a di-waith. O fis Hydref 2013 ymlaen, un-budd-dal ac un taliad misol fydd. Caiff hawlwyr presennol eu symud i Gredyd Cynhwysol yn raddol.

    Wyddoch chi sut yr effeithir arnoch?

    Disgwylir i chi drefnu eich arian a thalu eich biliau, yn cynnwys eich rhent. Cysylltwch gyda ni ar 0300 303 171 os gwelwch yn dda os hoffech gael help i drefnu eich arian.

    Y “dreth ystafelloedd gwely”

    Bydd hyn yn effeithio ar bob aelwyd dan oedran ymddeol o fis Ebrill 2013.

    Penderfynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd budd-dal tai teuluoedd o oedran gwaith sy’n tanddefnyddio eu cartref yn cael ei ostwng gan 14% ar gyfer un ystafell wely wag a 25% ar gyfer un neu fwy o ystafelloedd gwag.

    Y rheolau yw:

    • Un ystafell wely ar gyfer y tenant a’u partner

    • Un ystafell wely ar gyfer unrhyw un 16 oed a throsodd (megis plentyn wedi tyfu lan neu gwpl dros 16 oed)

    • Disgwylir i ddwy chwaer neu ddau frawd dan 16 rannu ystafell wely

    • Disgwylir i ferch neu fachgen rannu ystafell wely gyda brawd neu chwaer os yw’r ddau ohonynt dan 10 oed

    • Nid yw plant maeth yn cyfrif fel rhan o’r aelwyd ar gyfer dibenion budd-dal

    • Lle rhennir gofal plentyn, bydd lle mae’r plentyn yn byw yn seiliedig ar bwy bynnag sy’n derbyn y budd-dal plant.

    Chi fydd yn gyfrifol am dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a dderbyniwch mewn budd-dal tai a’ch rhent.

    Mae gennym gyfrifydd budd-daliadau fydd yn dangos i chi sut bydd y newidiadau yn effeithio ar eich gwefan, www.taicalon.org

    Budd-dal y Dreth Gyngor

    Bydd hyn yn effeithio ar unrhyw un sy’n derbyn budd-dal y dreth gyngor. O fis Ebrill 2013 ymlaen, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn disgwyl i bawb wneud cyfraniad tuag at y dreth gyngor, hyd yn oed os nad ydynt yn talu dim ar hyn o bryd. Bydd pob awdurdod

    lleol yn penderfynu os yw’n dymuno rhoi budd-dal y dreth gyngor a faint. Os hoffech gael manylion y cynllun, ffoniwch Gyngor Blaenau Gwent ar 01495 311556 os gwelwch yn dda.

    Chi fydd yn gyfrifol am dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a dderbyniwch mewn budd-dal a’ch treth gyngor.

    Budd-dal Tai

    Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dymuno annog pawb i drin eu harian eu hunain. Felly, o fis Hydref 2013 ymlaen, ni chaniateir i denantiaid sy’n derbyn Credyd Cynhwysol i gael eu costau talu wedi’u talu’n uniongyrchol i ni, eich landlord. Yn lle hynny, caiff ei dalu i chi a chi fydd yn gyfrifol am wneud yn sicr y caiff eich rhent ei dalu’n llawn, ar amser, bob tro. Y ffordd rwyddaf yw drwy drefnu Debyd Uniongyrchol.

    Cofiwch y bydd eich cartref mewn risg os ewch i ôl-ddyled.

    Hoffech chi gael mwy o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu? Ffoniwch ni heddiw ar 0300 303 1717.

    a

    www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon