“ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

7
“Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr.Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940 Amddiffyn y Genedl -“Y Genedl yn Rhyfela” Brwydr Prydain Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

description

Brwydr Prydain. “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”. Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940. Synfyfyrio ac Ystyried. Amddiffyn y Genedl - “Y Genedl yn Rhyfela”. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. A wnaeth y Luftwaffe - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

Page 1: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

“Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr.”

Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940

Amddiffyn y Genedl -“Y Genedl yn Rhyfela”

Brwydr Prydain

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

Page 2: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

A wnaeth y Luftwaffe fychanu amddiffynfeydd

a phenderfynoldeb Prydain?

Darparwyd y delweddau gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

Page 3: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

Gohiriodd Adolf Hitler gyrch i oresgyn Prydain ar 17 Medi 1940.

Cafodd ei ohirio am amser amhenodol.

Cwestiwn Allweddol: Oedd Brwydr Prydain a’i chanlyniad yn drobwynt

mawr yn yr Ail Ryfel Byd?

Er mai ar ei phen ei hun yr oedd Prydain yn ymladd yn erbyn yr

Almaen, llwyddodd i drechu byddin a oedd yn fwy mewn nifer. Roedd

system amddiffyn Prydain wedi sicrhau y byddai’r frwydr yn erbyn yr

Almaen a’i chynghreiriad yn parhau. Rhoddodd ganlyniad y

fuddugoliaeth gyfle i luoedd arfog Prydain ‘gael eu gwynt atynt’ ac

ailymgynull. Cafodd yr Ymerodraeth Brydeinig gyfle i adennill nerth a

chynllunio ar gyfer ymuno â maes y gad mewn lleoedd eraill - yn

Affrica a Môr y Canoldir, ym Môr yr Iwerydd a maes o law yn Ewrop.

Yn y cyfamser, trodd yr Almaen tua’r dwyrain a lansio ‘Operation

Barbarossa’ yn erbyn Rwsia yn 1941. Nawr, roedd yr Almaen yn

brwydro ar ddau ffrynt.

Page 4: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

Oedd brwydr Prydain yn drobwynt

yn yr Ail Ryfel Byd?

Goresgyn Ffrainc - Mehefin 1940

Ymosod ar Rwsia –

1941

Gohirio Operation Sea Lion

Methodd y Luftwaffe a goruchafu Prydain

Dydd-D (glanio yn Normandie) – Mehefin

1944

Awyrlu Prydain ac UDA yn bomio trefi a dinasoedd yr

Almaen

Beth fyddai wedi digwydd pe byddai’r Almaen wedi goresgyn a threchu Prydain Fawr?

Page 5: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

Ydy hi’n bosibl edrych ar Frwydr Prydain fel un o brif drobwyntiau’r Ail Ryfel Byd?

“Nododd tair brwydr fawr ddiwedd y cyfnod amddiffynnol cyntaf

i’r Cyngrheiriaid: Brwydr Prydain yn y Gorllewin, atal ymosodiad

yr Almaen wrth ffiniau Moscow yn Rwsia; a Brwydr Midway yn y

Môr Tawel.

Ym mhob un o’r buddugoliaethau hyn, ac ar ôl cyfres o

broblemau milwrol trychinebus, sicrhaodd y Cynghreiriaid

fuddugoliaeth a roddodd stop ar luoedd yr Axis. Rhoddodd hynny

amser iddynt gael eu gwynt atynt ac adeiladu ar eu nerth cyn

mynd ati i amddiffyn.

Brwydr Prydain oedd y gyntaf a gellir dadlau, mai hi oedd y

bwysicaf. Pe na byddai’r RAF wedi ennill y dydd, mae’n bosibl na

fyddai’r brwydrau eraill wedi digwydd o gwbl; neu, pe bydden

nhw wedi digwydd, gallai’r canlyniadau fod wedi bod yn wahanol. Alfred Price, The Battle of Britain (1990)

Page 6: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

Ydy hi’n bosibl edrych ar Frwydr Prydain fel un o brif drobwyntiau’r Ail Ryfel Byd?

“Pe byddai lluoedd awyr Goering wedi llwyddo i ddinistrio

amddiffynfeydd Prydain, mae’n debygol iawn y byddai Hitler wedi

manteisio ar y cyfle i anfon ei fyddinoedd i oresgyn y wlad.

Cyfranodd y 3,000 o beilotiaid Dowding yn aruthrol at y dasg o

berswadio America y gallai Prydain oroesi, a’i bod yn werth ei

chefnogi.”Len Deighton, The Battle of Britain (1980)

Page 7: “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw  y  bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”

“Fe wnaeth Brwydr Prydain lawer i newid agweddau a

disgwyliadau. Cafodd y frwydr ei hymladd yng ngolau dydd ac

yng ngŵydd miliynau o wylwyr. Roedd sylwebaeth annogol a

digyffelyb Winston Churchill yn ddylanwad ar agweddau ymhell y

tu hwnt i ffiniau Prydain. Fe wnaeth y natur Dafydd a Goliath oedd

i’r frwydr - yr adroddiadau a’r lluniau am fomio Llundain a

dinasoedd eraill Prydain, gwroldeb peilotiaid Prydain, yn ogystal â

miliynau o ddynion a merched ar y ddaear - lawer i ennyn

cydymdeimlad i’n hachos ni.”

Roedd hynny i gyd yn ffactor aruthrol o bwysig yn natblygiad y

rhyfel yn erbyn yr Almaen.”Richard Townshend Bickers, The Battle of Britain (1990)

Ydy hi’n bosibl edrych ar Frwydr Prydain fel prif drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd?