Llafariaid a Chytseiniaid

Post on 03-Jan-2016

116 views 0 download

description

Llafariaid a Chytseiniaid. Llafariaid a Chytseiniaid. Mae dau deulu o lythrennau sef : y llafariaid a’r cytseiniaid Mae ‘h’ yn aml yn ymddwyn fel llafariaid mewn gramadeg , er ei fod yn cael ei gyfrif yn swyddogol fel cytsain . Ond , mwy am hynny ymhellach ymlaen. Tasg. - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of Llafariaid a Chytseiniaid

Llafariaid a Chytseiniaid

Llafariaid a ChytseiniaidMae dau deulu o lythrennau sef:

y llafariaid a’r cytseiniaid

Mae ‘h’ yn aml yn ymddwyn fel llafariaid mewn gramadeg, er ei fod yn cael ei gyfrif yn swyddogol fel cytsain. Ond, mwy am hynny ymhellach ymlaen ....

a b c ch d dd ef ff g ng h i lll m n o p ph rrh s t th u w y

TasgMae’r gair yn cychwyn gyda ...

afal llafariaid cytsain

pensil llafariaid cytsain

cwpwrdd llafariaid cytsain

olwyn llafariaid cytsain

blodyn llafariaid cytsain

AtebionMae’r gair yn cychwyn gyda ...

afal llafariaid cytsain

pensil llafariaid cytsain

cwpwrdd llafariaid cytsain

olwyn llafariaid cytsain

blodyn llafariaid cytsain

Yr Enw

Yr Enw

Enw yw gair sy’n cynrychioli:

- person

- peth

- lle

Mae pob un o’r rhain yn enw:

llyfr darlith Elin Pwllheli

Yr Enw

Enwau gwrywaidd neu fenywaidd

Mae enw yn y Gymraeg yn wrywaidd neu’n fenywaidd.Weithiau fe all fod y ddau!

Mae dros 2/3 o enwau Cymraeg yn wrywaidd a llai na 1/3 felly yn fenywaidd.

Mae adnabod cenedl enw yn bwysig iawn gan fod llawer iawn o bethau yn y frawddeg neu’r ymadrodd yn dibynnu ar yr wybodaeth yma.

Cenedl EnwMae geiriadur yn ddefnyddiol wrth geisio gwella safon eich iaith.

Fel arfer dyma sut y ceir gwybodaeth am genedl enw mewn geiriadur:

e.b. neu eb = enw benywaiddn.f. neu nf = noun feminine

e.g. neu eg = enw gwrywaiddn.m. neu nm = noun masculine

egb neu e.g.b. = enw sy’n gallu bod yn wrywaidd neu’n fenywaidd

myfyriwrBen. / Gwr.

Tasg – enw benywaidd unigol?enw gwrywaidd unigol?

car

Ben. / Gwr.

papur

Ben. / Gwr.

llyfr

Ben. / Gwr. llew

Ben. / Gwr.

myfyriwr

Gwr.

Atebion

car

Gwr.

papur

Gwr.

llyfr

Gwr. llew

Gwr.

Diwedd yr uned!