• Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn •...

Post on 11-Jul-2020

0 views 0 download

Transcript of • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn •...

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu hambwrdd dwr sy’n llenwi’i hunFel ni, mae adar angen diod. Dyma ddull da o roi d∑r i’r adar – a bydd eich hambwrdd yn dal i lenwi!

Cadwch yn ddiogelYn lle bo’r adar yn lledaenu afiechyd i’w gilydd (ac i chi), golchwch yr hambwrdd yn aml. Gofynnwch i oedolyn wneud hynny y tu allan gan wisgo menig a defnyddio hylif golchi gwan. Dylent olchi eu dwylo yn syth wedyn.

• Soser potyn planhigyn

• Potyn iogwrt mawr crwn

• Siswrn/tyllwr

1 Gwnwewch dwll yn y potyn rhyw 4mm ar draws ac 1cm o’r ymyl

2 Llenwch y potyn â d∑r, yna rhowch y soser potyn planhigyn ar ei ben.

3 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered, gan eu cadw gyda’i gilydd. Bydd d∑r yn llifo o’r potyn

iogwrt i’r soser hyd lefel y twll. Pan fydd adar yn yfed o’r hambwrdd, bydd d∑r o’r potyn yn llenwi’r hambwrdd trwy’r amser.

fel hyn

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu magl tatwsPwy sydd wedi bod yn bwyta fy nhaten? Rhowch datws drwy’u crwyn allan i ddarganfod beth sydd wedi bod yn eu bwyta.

• Tatws drwy’u crwyn

• Cyllell

• Ffyn coctel neu blyciwr

1 Torrwch y tatws trwy’u crwyn yn eu hanner ar eu hyd.

2 Gosodwch nhw gyda’r croen ar i fyny ar dir llaith mewn man o’r ffordd.

3 Codwch nhw ymhen 24 awr. Peidwch ag edrych arnyn nhw cyn hynny!

4 Os oes rhywbeth wedi bod yn bwyta eich taten, defnyddiwch ffyn coctel neu blyciwr i weld os gallech ddod o hyd iddyn nhw (ond peidiwch â’u brifo!). Wedyn, rhyddhewch nhw’n ôl i’r fan lle cawsoch hyd iddyn nhw.

Beetle by Alekss and slug by guy (both fotolia.com)

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu sugnwrDyma ffordd clyfar i ddal trychfilod a’u gweld yn agos. A’r cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw sugno!

• Cynhwysydd bychan clir â chaead iddo

• Morthwyl a hoelion neu siswrn (i wneud twll bach)

• Gwellt hyblyg

• Darn bach o ddefnydd tenau fel clwtyn cegin neu deits.

• Band elastig

• Clai

1 Gofynnwch i oedolyn wneud tyllau maint gwellt yng nghaead a gwaelod y cynhwysydd.

2 Torrwch chwarter isaf y gwellt, y rhan sydd ddim mor hyblyg. Cadwch y ddau ddarn.

3 Lapiwch eich clwtyn neu eich teits o gwmpas un pen o’r darn hiraf o’r gwellt a’i ddal yn ei le gyda’r band elastig.

6 Gwthiwch y clai o gwmpas unrhyw le gwag.

4 Gwthiwch ben arall y gwelltyn hir drwy gaead y cynhwysydd fel bod y pen sydd wedi’i orchuddio yn y potyn.

5 Gwthiwch y gwelltyn bach drwy’r twll yng ngwaelod y cynhwysydd.

7 Rhowch y caead ar y cynhwysydd. Rydych yn barod.

Dal trychfilodDaliwch ben y gwelltyn byrraf dros eich trychfil a sugnwch ar y gwelltyn hiraf. Caiff y trychfil ei sugno i fyny.

Byddwch yn garedig efo'r trychfilodDewisiwch y trychfilod sy’n ddigon bach i gael eu sugno drwy’r gwelltyn. Peidiwch â’u cadw’n rhy hir – rhyddhewch nhw i’r fan lle cawsoch hyd iddyn nhw mor fuan â phosibl.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu potel dal trychfilodSut mae gwylio trychfilod heb iddyn nhw ddianc? Mae hen botel ddiod yn ardderchog ar gyfer dal a gwylio trychfilod.

• Potel ddiod 500ml sych a glân

• Clingfilm

• Band elastig

• Siswrn

Gwyliwr trychfilod Storfa trychfilod

Cadw’n ddiogelMae torri poteli yn waith anodd, felly gofynnwch am gymorth oedolyn gyda hyn.

Mae hen botel ddiod yn ardderchog ar gyfer

1 Torrwch draean uchaf y botel i ffwrdd a defnyddiwch glingfilm i guddio’r gwddf. Daliwch y clingfilm yn ei le gyda’r band elastig.

2 Ewch i hela gyda’ch potel dal trychfilod.

1 Torrwch bedwar o fflapiau siap U ben i waered yn agoriad hanner isaf y botel. Sicrhewch eu bod wedi eu torri tua 5cm o’r gwaelod.

2 Pan fyddwch yn gollwng trychfilyn i mewn, plygwch y fflapiau am i fewn, un ar ôl y llall. Nawr mae gennych gaead i’ch storfa drychfilod.

3 Peidiwch ag anghofio gollwng y trychfilod yn ôl i’r union fan y cawsoch hyd iddyn nhw, unwaith rydych wedi gorffen dod i’w hadnabod..

Buwch goch gota gan arlindo71 (istockphoto.com)

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu pwll dwr bachHoffech chi warchodfa natur gwlyptir eich hun mewn powlen golchi llestri?

• Powlen golchi llestri

• Graean a cherrig mawr

• Boncyffion a brigau

• Planhigion pwll brodorol fel cyrnddail a milddail

• Planhigion pwll mewn potyn, e.e. milddail d∑r

1 Palwch dwll ddigon mawr fel bo’r bowlen olchi llestri yn gorffwys ynddo. Ceisiwch ei wneud mor wastad â phosibl.

2 Llenwch waelod y bowlen â graean. Adeiladwch ysgol o gerrig mawr i fyny un ochr fel bo’r llygod a’r llygod d∑r yn gallu dianc. Rhowch ambell i frigyn ynddi ar gyfer gweision y neidr sy'n hedfan heibio. Sodrwch waelod pob brigyn gyda cherrig trwm.

3 Llenwch y bowlen â d∑r – glaw, os yn bosibl.

4 Gorchuddiwch ochrau’r bowlen gyda cherrig a boncyffion. Claddwch y planhigion potyn mewn cerrig mân, a gollyngwch blanhigion pwll eraill i mewn iddi.

5 Gwyliwch y bywyd gwyllt yn cyrraedd!

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu maglYdych chi’n gwybod beth sy’n rhedeg o gwmpas yn y nos? Dyma eich cyfle i ddarganfod sut. Gallai fod yn ddifyr!

• Potyn iogwrt neu gwpan plastig

• Trywel

• Banana

• Siswrn

1 Gwnewch dyllau bach yng ngwaelod y cwpan neu’r potyn.

2 Dewisiwch le i roi eich magl. Byddai lle gyda llawer o blanhigion o gwmpas yn ddelfrydol – dyna ble mae’r trychfilod yn byw.

3 Palwch dwll yr un maint â’ch potyn neu’ch cwpan.

4 Gwthiwch eich potyn neu’ch cwpan i mewn fel bod yr ymyl yr un lefel â’r tir.

5 Rhowch ddarn o fanana tu mewn, ac ychwanegwch ychydig o ddail i roi cysgod i’ch trychfilod.

6 Gadewch y magl yno dros nos ac yna ewch i weld beth sydd y tu mewn.

7 Unwaith rydych wedi casglu ac edrych ar eich trychfilod, cofiwch fynd â’ch potyn allan i’w rhyddhau eto. Cofiwch beidio â gadael unrhyw botyn yn y ddaear.

Byddwch yn ffeind i'ch trychfilodDim ond ar noson sych y dylech roi eich magl allan, neu gallai’r creaduriaid bach foddi! Rhyddhewch nhw lle daethoch o hyd iddyn nhw.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu traciwr anifeiliaid

Dewch i ddarganfod pwy sydd wedi bod yn effro dros nos wrth i chi gysgu'n sownd!

• Hambwrdd pobi

• Astell fechan neu bren mesur hir

• Tywod mân, gwlyb

• Desgl fechan fas

• Bwyd ci neu gath

1 Llenwch yr hambwrdd â thywod gan lyfnhau’r wyneb gydag ochr y pren mesur neu’r astell. 3 Gadewch eich defnydd tracio allan dros nos er mwyn

gweld yn y bore a oes ôl traed wedi’i adael ynddo. Taflwch y bwyd anifeiliaid i ffwrdd yn y bore, cyn iddo fynd yn ddrwg.

2 Rhowch ychydig o fwyd anifail yn y ddesgl a’i gosod yn dynn yng nghanol yr hambwrdd.

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu blwch compostDewch i ddarganfod pwy sy’n bwyta sbarion eich ffrwythau. Adeiladwch flwch i drychfilod fel y byddan nhw wrth eu bodd yn bwyta.

• Blwch cardbord

• Bwyd compost fel croen tatws, calon afal a hen bapur

• Cerrig mân

• Brigyn bach

1 Agorwch waelod a thop y blwch cardbord. Gwyliwch rhag styffylau miniog.

2 Dewisiwch lecyn cysgodol a throwch eich blwch wyneb i waered gyda’r fflapiau tuag allan. Pwyswch y fflapiau i lawr gyda cherrig bychan.

3 Llenwch eich blwch compost gyda bwyd compost (ond dim byd wedi’i goginio). Mae angen iddo fod yn llaith, felly dyfriwch yn rheolaidd, ond dim ond ychydig ar y tro. Peidiwch â gadael i’r blwch feddalu.

4 Cadwch y caead wedi’i gau gyda rhywbeth ysgafn fel brigyn.

5 Bydd creaduriaid compost yn siwr o ddarganfod y wledd yn fuan. Sbeciwch yn aml i weld beth sy’n bwydo y tu mewn.

6 Ymhen amser, bydd eich blwch cardbord yn dechrau troi’n gompost ei hun! Dyna pryd bydd angen rhoi eich blwch compost ar y domen gompost. Neu gallwch ei blannu i’r ddaear gan adael i’r anifeiliaid ddianc.

Byddwch angen

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu ty draenogPan fyddwch chi’n effro, mae draenogod yn cysgu. Adeiladwch blasdy cwsg i gadw’r draenog yn hapus.

• Blwch cardbord mawr, trwchus

• Siswrn

• Bag nwyddau mawr, cryf

• Hen bapurau newydd

• Gwellt neu wair sych a glân

• Brigau

1 Gwnewch fynedfa i’r blwch tua 15cm sgwâr.

2 Torrwch agoriad 15cm o hyd a 5cm o led ar bob ochr. Rhain fydd y tyllau aer.

3 Rhowch y papurau newydd wedi’i malu gyda’r gwair sych neu’r gwellt y tu mewn.

4 Rhowch y blwch mewn man cysgodol wrth ymyl gwrych neu lwyn. Mae angen i’r fynedfa wynebu’r de, os yn bosibl. Nid o’r de y mae glaw yn cyrraedd, fel arfer.

5 Gorchuddiwch ran ucha’r blwch gyda’r bag nwyddau.

6 Rhowch bentwr o frigau o gwmpas y blwch ac ar ei ben, nes ei fod yn edrych yn debyg i grwb camel. Llenwch y mannau gwag gyda mwy o ddail a gwair.

7 Nawr gadwch lonydd iddo, yn y gobaith y cewch ymwelydd bach pigog.

Byddwch yn ffeind i'r draenogod.Er waetha’r demtasiwn, peidiwch ag edrych y tu mewn i’r t≈ draenog rhwng misoedd Mai a Medi. Os yw’r fam wedi geni rhai bach ynddo, fe allai eu gadael.

Diolch i Gymdeithas Cadwraeth Draenogod am y syniad yma.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Cadw’n ddiogelDefnyddiwch y morthwyl yn ofalus ac araf – mae taro’r hoelion yn dyner yn well na tharo’n wyllt. Gofalwch rhag taro’ch bysedd eich hun na neb arall.

Creu blwch nythuMeddyliwch – yn fuan, gallai’r blwch rydych chi’n ei greu fod yn llawn o gywion bach!

• Astell bren 150-180mm o led, 1330-1580mm o hyd a 15mm o drwch

• 14 o hoelion pen crwn wedi’u trin, 3.5cm o hyd

• 6 o hoelion pen crwn bychan wedi’u trin, 15mm o hyd

• Stribed o rwber (fel tiwb mewnol hen feic)

• Morthwyl bychan

1 Gofynnwch i oedolyn dorri’r astell bren i’r maint a ddangosir yma a gwneud twll ym mlaen y blwch.

2 Cysylltwch yr ochrau i’r cefn gyda thair hoelen bob ochr.

3 Gosodwch y darn gwaelod yn ei le a’i hoelio i’r ochrau. Defnyddiwch ddwy hoelen bob ochr.

4 Hoeliwch y blaen i’r ochrau gyda phedair hoelen.

5 Gyda’r hoelion bychan, glynnwch un ochr o’r stribed rwber i’r pren fel caead – hwn fydd y colfach. Rhowch y caead ar ben y blwch a hoelio ochr arall y stribed rwber i’r blwch. Ond peidiwch â hoelio’r caead i lawr, wrth gwrs!

6 Ffeindiwch fan tawel yn yr ardd. Bydd yr ardal delfrydol rhwng dau a phumb metr o’r ddaear, ddim o fewn cyrraedd cathod, ac yn wynebu rhwng y gogledd a’r dwyrain. Os ydych yn ei roi mewn coeden, defnyddiwch wifren yn hytrach na hoelion.

 

twll diamedr 25 - 35mm

Stribed rwber

Ochr

Ochr

Blaen

To

Gwaelod

Cefn

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu twll i lyffantodHoffech chi fyw yn rhywle tywyll, gwlyb ac oer? Efallai ddim, ond dyna’n union y mae llyffantod diog yn chwilio amdano.

• Hen botyn blodau clai tua 20cm ar y top

• Trywel

• Dail, mwsog a gwellt

1 Dewisiwch ardal sy'n oer, cysgodol ac o'r ffordd. Byddai o dan lwyn yn arbennig o addas, rhywle na

fyddai pobl eraill yn ei ganfod. 4 Llenwch y potyn i’w hanner gyda dail, mwsog a

gwellt a gwasgarwch fwy o gwmpas y potyn. Nawr arhoswch nes bod llyffant yn dewis eich potyn fel ei gartref yn ystod y dydd.

2 Palwch dwll tua 10cm o ddyfnder a’r un hyd â’ch potyn. Os gallwch, palwch y twll yn wynebu'r de.

3 Rhowch y potyn yn y twll ar ei ochr fel ei fod wedi’i hanner gladdu. Dylai ceg y potyn wynebu’r de (oddi wrth rhan fwya’r gwynt a’r glaw).

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Plannwch goedenDaliwch goeden fechan iawn yn eich llaw. Un diwrnod gallai fod yn fwy na’r t≈. Onid yw hynny’n rhyfeddol? Cychwynnwch ei thaith i fod yn gawr. Bydd yn parhau i dyfu am hir oes ar ôl i chi dyfu'n oedolyn.

• Coeden frodorol fechan iawn (criafolen, helygen neu geiriosen wyllt fyddai’n dda)

• Rhaw

• Esgidiau neu esgidiau glaw

• Menig

• Bwced dyfrio

1 Edrychwch ar wreiddiau eich coeden fechan er mwyn penderfynu maint y twll y bydd angen i chi ei balu. Dylai fod yn ddigon mawr i beidio â gwasgu’r gwreiddiau’n dynn. Dylai wyneb y pridd fod rhyw 5cm uwchben y gwreiddiau.

4 Gwasgwch y pridd i lawr yn dyner gyda chefn eich sawdl. Peidiwch â gwasgu’r pridd i lawr yn rhy galed rhag rhwystro d∑r i gyrraedd y gwreiddiau.

5 Rhowch ddigon o ddiod i’r goeden. Mae’n sychedig iawn!

2 Palwch y twll gan adael y pridd wrth ei ymyl.

3 Rhowch y goeden yn y twll. Daliwch hi tra eich bod yn rhoi’r pridd yn ôl yn y twll. Dylai ffurfio twmpath ychydig yn uwch na’r tir o gwmpas.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).

Creu rhwyd i drochi pwllA oes bwystfilod yn y pwll? Dewch i ddarganfod drwy greu rhwyd i'w dal.

• Par o deits

• Gwifren hongian côt

• Tâp cryf i lapio parsel neu dâp cludo

• Siswrn

• Edau a nodwydd

• Brigyn bamb∑

1 Crëwch bâr o siorts hir gyda’r teits drwy dorri rhan fwyaf o’u coesau. Nawr clymwch y coesau gyda’i gilydd. Mae gennych rwyd!

3 Rhowch eich rhwyd dros y wifren, plygwch y top yn ôl drosto a’i wnïo i’w le.

4 Sythwch ben bachog y wifren a’i osod ar y brigyn bamb∑ gyda’r tâp.

5 Nawr rydych yn barod i fynd i drochi pwll.2 Plygwch y wifren hongian côt nes fod yr ochrau’n

sgwâr fel yn y llun.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu blwch ystlumodWrth i chi gysgu yn eich gwlâu gyda'r os, mae ystlumod angen rhywle i gysgu'n sownd hefyd. Mae rhai ystlumod yn ddigon bychan i ffitio mewn blwch matsis, felly mae’r blwch yma’n berffaith fel man clwydo.

• Astell bren wedi’i dorri’n bedwar hyd gwahanol

• Stribedi tenau o bren wedi’u torri rhwng 15cm a 25cm o drwch (a dim mwy)

• Hoelion

• Gwifren

1 Torrwch ddau stribed tenau o bren i hyd yr ail ddarn hiraf o’r astell bren. Rhowch nhw wrth ben y darn

mawr o bren ar bob ochr. Rhowch yr ail ddarn o’r astell ar ei ben a’i hoelio i’w le.

2 Torrwch ddau stribed tenau i hyd y trydydd darn hiraf o’r astell bren. Rhowch nhw wrth ben yr ail ddarn o bren ar bob ochr. Rhowch y trydydd darn o’r astell ar ei ben a’i hoelio i’w le.

3 Hoeliwch y darn lleiaf o’r astell ar ei ben i greu to.

4 Tarwch ddwy hoelen fawr i mewn i’r blwch ystlumod fel y dangosir yn y llun. Defnyddiwch wifren i’w gysylltu wrth goeden neu adeilad.

5 Ceisiwch ei roi mewn man cysgodol gyda lle clir i hedfan o’i flaen.

Diolch i Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod am y cynllun yma.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu ty gwenynByddwch yn brysssur! Adeiladwch nyth i wenyn sydd ddim yn bysssian (nac yn pigo ’chwaith). Gallwch greu nyth er mwyn i wenyn bach unig ddodwy eu wyau ynddo. A gallai buwch goch gota ei ddefnyddio fel llecyn i gysgu dros y gaeaf.

• Potel ddiod blastig

• Clai

• Siswrn

• Brigau bamb∑ byr o’r un maint i gyd

• Llinyn

1 Torrwch dop y botel blastig fel bod gweddill y botel tua chentimedr yn hirach na’r brigau bamb∑. 4 Defnyddiwch linyn i hongian y botel mewn man

heulog ar goeden, sied neu wal. Gwnewch yn siwr ei bod yn gwynebu i lawr rhyw ychydig rhag i’r glaw fynd iddi.

2 Gwthiwch y clai i waelod y botel.

3 Glynwch y brigau yn galed i’r clai (y pen agored allan)gan ddal ati nes bod y botel yn llawn

Thanks to the Bat Conservation Trust for this design.

Cadw’n ddiogelMae torri poteli yn anodd, felly gofynnwch i oedolyn eich helpu gyda hyn.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu bwced chwilodBeth yw pwrpas bwced gyda thyllau ynddo? Bod yn gartref da i ddihirod bach. Mae pob math o chwilod yn byw mewn pren a dail wedi pydru. Gall bwced chwilod fod yr union beth i’w helpu i oroesi.

• Bwced blastig

• Cyllell grefft

• Cerrig

• Rhisgl coed

• Rhaw

• Boncyffion

1 Gofynnwch i oedolyn dorri tyllau crwn 3cm yn ochrau a gwaelod y fwced. Dyma ddrysau i'r chwilod.

4 Llenwch y fwced gyda rhisgl coed hyd tua 10cm o’r brig, yna rhowch haen o bridd drosti.

5 Rhowch foncyff neu ddau arall ar y brig ac yna caiff y chwilod ddewis rhwng y boncyffion uchaf a’r rhai sydd wedi’u claddu. Perffaith!2 Palwch dwll o faint y fwced gan roi’r pridd wrth ymyl.

3 Claddwch y fwced yn y twll. Rhowch gerrig mawr yn ei gwaelod, gan ychwanegu boncyff neu ddau i sefyll ynddi. Bydd chwilod yn dodwy eu wyau yn y boncyffion a’r lindys yn bwyta’r pren pydredig. Hmm, blasus, ynte?

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu gaeaf-gysgfanHoffech chi wybod lle mae llyffantod yn mynd yn y gaeaf? Mae llyffantod, brogaod ac ymlusgiaid yn gaeafgysgu yn ystod y misoedd oer. Gaeaf-gysgfan yw enw’r cartref mawr i’r creaduriaid hyn. Dechreuwch balu!

• Rhaw

• Boncyffion a changhennau

• Brics a cherrig mawr

• Dau neu dri darn o beipen law (holwch mewn siop offer am ddarnau sbâr)

1 Palwch dwll tua 50cm o ddyfnder a 1.5 metr ar draws.

2 Llanwch y twll gyda boncyffion, canghennau, brics a cherrig mawr. Gadwch ddigon o le rhyngddyn nhw.

4 Gorchuddiwch y brics a’r canghennau gyda phridd nes bod gennych dwmpath tua hanner metr o uchder. Gwnewch yn siwr nad ydych chi’n cuddio mynedfeydd y peipiau.

5 Disgwyliwch nes bo’r llyffantod a’r brogaoed yn hopian a chropian i mewn.3 Gwnewch dwneli mynedfa gyda’r peipiau glaw ar yr

ochrau. Dylai pen y peipiau fod ar lefel y tir.

Byddwch angen

Diolch i Wildlife Watch am y syniad hwn.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu nyth cacwnBeth am wenu ar wenyn? Mae breninesau cacwn yn chwilio am nyth i fagu eu plant. A gallwch chi greu un iddyn nhw!

• Potyn blodau clai tua 20cm ar draws y top

• Teilsen neu lechen

• Darn o bibell dd∑r hanner metr o hyd

• Siswrn

• Gwellt, gwair neu ddefnydd gwely anifail anwes

1 Palwch dwll ddigon mawr fel pan fo’r potyn wyneb i waered bydd traean ohono yn y twll. 5 Rhowch un pen o’r bibell yn y potyn, yna’n ofalus

trowch y potyn wyneb i waered i mewn i’r twll, gan adael gweddill y bibell yn gorwedd ar waelod y ffos (gyda’r tyllau ar y gwaelod).

6 Claddwch rhan fwya’r bibell mewn pridd, gan adael y pen yn sefyll allan o’r tir rhyw fymryn. Dyma fynedfa’r gwenyn.

2 Palwch ffos fach tua 10cm o ddyfnder a thua 20cm o hyd.

3 Rhowch wair, gwellt neu ddefnydd yn y potyn fel ei fod tua thraean llawn.

4 Gofynnwch i oedolyn dorri tyllau bychan yn y bibell dd∑r gyda siswrn ar hyd un ochr. Bydd rhain yn gadael i dd∑r ddraenio ohono.

Cadw’n ddiogel. Gobeithio y daw gwenynen neu gacynen i letya. Peidiwch â phoeni y byddan nhw’n eich pigo chi – os na wnewch chi niwed iddyn nhw, wna nhw ddim byd i chi.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).

Creu gwesty trychfilodAdeiladwch eich gwesty trychfilod eich hun! Codwch d∑r moethus fel cartref i fuchod coch cota, llyffantod, brogaod a draenogod gan ddefnyddio gwastraff yr ardd. Ychwanegwch faint a fynnwch o loriau.

• Brics

• Stribedi o bren

• Teils to neu ffelt to

Ar gyfer y llenwad (unrhywbeth o’r canlynol)

• Gwellt, gwair, hen ddail, mwsog, tywod

• Tiwbiau cardbord a cherdyn rhychiog

• Pibelli plastig a cheramig o faint a lled amrywiol

• Cerrig

• Brigau bamb∑ gwag

• Bonion planhigion marw gwag

• Moch coed

• Boncyffion gyda thyllau o faint amrywiol

1 Dewiswch lecyn gwastad yn yr haul neu mewn ychydig o gysgod ar gyfer eich gwesty. 5 Daliwch ati nes bydd eich gwesty mor uchel ag y

dymunwch, yna gorchuddiwch y cyfan gyda theils neu ffelt fel bod gan eich gwesty do rhag y glaw. Rhowch frics ar ben y cyfan er mwyn cadw’r to yn ei le.

2 Gosodwch y brics ar ffurf H. Llanwch y gofod rhyngddyn nhw gyda chymysgedd o’r canlynol - gwellt, gwair, hen ddail, mwsog, tywod.

3 Taenwch stribedi o bren neu balet dros y brics a llanwch y gofod gyda pheth o’r llenwad.

4 Ychwanegwch haen arall o stribedi pren neu balet a’i lanw eto gyda’r llenwad.

Mwy o’r gwylltGall lloriau’ch gwesty fod yn gartref i greaduriaid amrywiol. Gall llyffantod a brogaod gladdu eu hunain mewn tywod yn y llawr isaf. Mae buchod coch cota yn gaeafgysgu mewn tiwbiau gwag ac yn nythu mewn gwellt. Bydd creaduriaid bychan eraill yn byw ymhlith y dail a’r mwsog ac mewn tyllau yn y boncyffion.

Cadw’n ddiogel.Peidiwch ag adeiladu eich gwesty yn rhy uchel a thenau – rhag ofn iddo syrthio.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu rhwyd ysgubDyma ddaliwr trychfilod perffaith ar gyfer hela mewn gwair uchel. Beth wnewch chi ei ddal heddiw?

• Hen orchudd gobennydd neu fag nwyddau

• Tâp parsel

• Gwifren hongian côt

1 Plygwch y wifren i siap diemwnt 3 Defnyddiwch fachyn y wifren fel dolen. Lapiwch y tâp o gwmpas unrhyw rannau pigog.

Ysgubwch mewn steilY ffordd orau i ddefnyddio’ch rhwyd yw i ’sgubo’n ysgafn drwy’r gwair hir. Bydd y trychfilod yn disgyn i’r rhwyd, yn hytrach na chael eu chwipio i ffwrdd..

2 Gyda’r tâp parsel rhowch ben y bag/gobennydd ynghlwm i’r diemwnt.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu bar i löywod bywSut mae hudo glöyn byw? Mae glöynnod byw yn sugno neithdar melys o flodau a ffrwythau aeddfed. Dyma ddiod i'w denu nhw er mwyn i chi gael eu gweld.

• Powlen gymysgu

• Fforc

• Llwy

• Banana gor-aeddfed

• Siswrn

• Llinyn

• Plât papur

1 Torrwch y fanana i’r fowlen a’i stwnsio gyda’r fforc. 3 Ar ddiwrnod heulog, clymwch y llinyn uchaf wrth gangen a llwythwch y stwnsh banana ar y plât. Gwyliwch y glöynnod byw yn galw.

2 Tyllwch dri thwll o gwmpas y plât papur (heb fod yn rhy agos at yr ochr) a thynnwch ddarn o linyn drwy

bob twll. Clymwch ben pob llinyn.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu potel i fwydo adarDyma beth difyr i’w wneud… a bydd yr adar yn ei hoffi, hefyd. Gosod pensiliau i’r adar lanio arnyn nhw trwy hongian llecyn bwydo perffaith.

• Potel ddiod neu lefrith

• Siswrn

• Llinyn

• Pensiliau neu lwyau pren

• Hadau adar

1 Torrwch dyllau bychan maint pin yng ngwaelod y botel fel bod unrhyw dd∑r yn draenio allan.

2 Torrwch dyllau o bob ochr y botel, fel y gallwch wthio’r pensiliau neu’r llwyau trwyddyn nhw.

3 Torrwch fflap ychwanegol 3cm o hyd yn agos at dop pob twll a gwthiwch o i mewn. Bydd hyn yn galluogi’r adar i gyrraedd yr hadau, a rhwystro glaw rhag mynd i mewn.

4 Llenwch y botel gyda hadau adar.

5 Sgriwiwch gaead y botel a chlymwch y llinyn am wddf y botel. Nawr gallwch hongian y botel fwydo ar gyfer adar llwglyd.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu bwydwr afal i'r adarCrëwch unrhyw un o’r rhain a bydd yr adar yn ddihafal o hapus!

• Afal meddal

• Tyllwr digreiddio neu sgiwer afal

• Hadau blodyn yr haul (yn eu plisgyn)

• Tri brigyn bach

• Llinyn

1 Gofynnwch i oedolyn dynnu calon yr afal neu wneud twll trwy’r canol. 4 Gwnewch safle clwydo trwy wthio’r ddau frigyn arall

i mewn i hanner isaf yr afal.

5 Clymwch y llinyn wrth goeden a disgwyl i’r adar ddod yno.

2 Tynnwch linyn trwy’r twll yn yr afal a chlymwch y darn gwaelod i frigyn.

3 Gwthiwch hadau blodyn yr haul i mewn i hanner uchaf yr afal.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu cebab adarNa, na, nid cebab wedi’i gwneud o adar! Gwnewch cebab blasus o fwyd, ei hongian tu allan, a disgwyl i’r adar wahodd eu hunain am ginio.

• Gwifren flodau

• Llinyn

• Bwyd cebab ar gyfer adar, fel afalau, bara, caws caled a rhesins

1 Hel popeth sydd i’w rhoi yn y cebab. Dewiswch fwyd a fyddai’n dda i’r adar. Torrwch y darnau mawr

o fwyd i mewn i ddarnau maint marblen.4 Clymwch ddolen o linyn am y wifren gylch gan

hongian y cebab er mwyn i’r adar ei fwyta.

2 Gwthiwch y wifren flodau drwy’r pytiau bach yn ofalus, gan adael rhyw 8cm ar y ddau ben. Plygwch y ddau ben fel dau fachyn bach.

3 Plygwch y wifren i ffurfio cylch, gan gloi’r ddau ben am ei gilydd.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu bwydwyr moch coedGwledd i'r adar yn y gaeaf wrth i chi faeddu'ch dwylo.

• Moch coed (a’r pinwydd wedi sychu er mwyn iddyn nhw agor!)

• Hadau adar

• Rheisins

• Cnau daear

• Caws wedi’i falu

• Siwed neu lard

• Powlen gymysgu

• Siswrn

• Llinyn

1 Gwnewch y gymysgedd bwyd adar i ddechrau. Cynheswch y lard i wres yr ystafell, ond peidiwch â’i doddi. Yna, torrwch o’n ddarnau bach a’u rhoi yn y fowlen gymysgu.

4 Rhowch y moch goed yn yr oergell am rhyw awr i setio. Nawr gallwch eu hongian gan roi pryd i gynhesu’r adar.2 Ychwanegwch y cynhwysion eraill i’r fowlen.

Cymysgwch nhw gyda’ch bysedd, nes bo’r saim yn dal y llanast gludiog gyda’i gilydd.

3 Clymwch linyn ym mhen y moch coed, ac yna’u llenwi gyda’r bwyd adar.

Cadwch yn ddiogelPeidiwch â gwneud hyn os oes gennych alergedd cnau. Hyd yn oed os nad oes gennych alergedd, peidiwch â bwyta unrhyw gnau daear sydd wedi cael eu gwerthu fel bwyd adar. Nid ydyn nhw’n addas i ni eu bwyta.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu tomen foncyffionAdeiladwch fyd dirgel ar gyfer yr holl greaduriaid bach sy’n dod allan yn y nos. Gall tomen o foncyffion a brigau greu cysgod i bob math o anifeiliaid, o lyffantod a madfallod i nadroedd filtroed. Does dim yn well gan y creaduriaid bach na phryd o goed pydredig.

• Rhaw

• Boncyffion a brigau

• Dail

• Mwsog

• Gwellt

1 Chwiliwch am fan cysgodol ar gyfer eich pentwr boncyffion a phalwch dwll bas.

2 Pentyrrwch y boncyffion yn y twll gan roi’r rhai mwyaf yn y gwaelod.

3 Ychwanegwch ganghennau a brigau bach ar dop y pentwr. Gollyngwch ddail, mwsog a gwellt i lenwi'r gofod rhyngddyn nhw.

Gwrachen ludw gan paulrommer (fotolia.com)

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu pentwr cerrigChwiliwch am y cerrig a’r creigiau mwyaf sydd wrth law a chrëwch bentwr cerrig. Bydd yn gartref a chuddfan ardderchog i greaduriaid fel llyffantod, madfallod a chwilod mawr.

• Cerrig a chreigiau o faint gwahanol

• Rhaw

• Menig

1 Palwch dwll bas i leoli’r pentwr cerrig.

2 Adeiladwch y pentwr, gan roi’r creigiau mwyaf i lawr ynddo i ddechrau. Gofalwch beidio â gwasgu’ch bysedd rhwng y creigiau. Llenwch y tyllau gyda cherrig llai.

3 Nawr gadwch lonydd iddo. Gwyliwch a fydd adar yn chwilio am drychfilod ynddo a phryfed copyn yn rhedeg drosto.

Chwilen gan Alekss (fotolia.com)

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu gardd glöynnod bywYdych chi’n hoffi melysion? Mae glöynnod byw yn eu hoffi, hefyd – hynny yw, neithdar melys. Adeiladwch siop felysion iach i löynnod byw trwy dyfu planhigion i’w gwirioni. Dewiswch berlysiau – mae nhw’n blanhigion gwydn sy’n cynhyrchu llawer o flodau ac yn gallu byw am flynyddoedd.

• Cwpanau plastig neu botiau iogwrt

• Bagiau plastig clir

• Blwch ffenest, potyn neu dwb

• Graean neu ddarnau mân o hen botyn

• Pridd neu gompost heb fawn

• Tywod

• Trywel

• Hadau perlysiau fel mintys y graig, rhosmari, teim, cennin syfi

• Bwced dyfrio

3 Cymysgwch eich pridd gyda thywod, yna llenwch y twb.

4 Nawr torrwch dyllau o faint cwpan neu botyn yn y pridd a symudwch eich egin i’r twb.

5 Rhowch y twb mewn llecyn heulog. Dyfriwch eich perlysiau (ond ddim gormod!) a gwyliwch nhw’n tyfu a blodeuo. Dowch yn llu, löynnod byw!

2 Llenwch waelod y potyn neu’r twb gyda graean neu ddarnau mân o botyn. Mae perlysiau’n casáu gwreiddiau gwlyb, felly gwnewch yn siwr fod d∑r yn draenio i ffwrdd yn hawdd.

Butterfly by proxyminder (istockphoto.com)

1 Dechreuwch drwy dyfu eich planhigion dan do. Llenwch gwpanau plastig neu botiau iogwrt gyda phridd a gwasgarwch hadau ar ei ben. Gorchuddiwch nhw â bagiau plastig, gan ddyfrio rhyw ychydig, a chadwch nhw dan do nes bo’r egin ychydig wythnosau oed.

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu dôl fechanGwasgarwch tamaid o hud ar y ddaear. Gall hadau edrych yn ddiflas ond arhoswch i weld pa flodau fydd yn tyfu. Mae dôl o flodau gwyllt yn hyfryd ar gyfer pob math o greaduriaid bach.

• Pecyn o hadau blodau gwyllt

• Pecyn o hadau glaswellt mân (nid rhygwellt, sy’n tyfu’n rhy gryf a chyflym)

• Cribin

• Pedair brigyn

• Llinyn

• Siswrn

1 Mae angen paratoi’r tir i ddechrau. Cliriwch yr ardal o borfa a chwyn, yna cribiniwch y tir fel bo’r pridd yn foel.

4 Rhowch y brigau ym mhob cornel. Clymwch linyn o’u cwmpas er mwyn gweld lle mae’r ddôl wedi’i phlannu. Byddai hynny’n rhwystro pobl eraill (a chithau!) rhag sefyll yno’n ddamweiniol.

2 Cymysgwch y ddau becyn o hadau gyda’i gilydd, a’u gwasgaru'n ysgafn ar y tir.

3 Cerddwch dros yr ardal er mwyn pwyso’r hadau yn dyner i’r pridd. Yna dyfriwch eich dôl rhyw ychydig.

5 Gwyliwch eich dôl yn tyfu!

Blodau gwyllt gan Ernie Janes (rspb-images.com)

Byddwch angen

Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).

Creu gardd saladYdych chi’n fodlon rhannu’ch bwyd? Tyfwch blanhigion salad y gallwch eu bwyta, yna wedi i chi gael llond eich bol, gadewch i lindys glöynnod gael y gweddill.

• Twbyn neu flwch sil ffenestr

• Compost di-fawn

• Paced o hadau dail salad

• Trywel

• Bwced dyfrio

1 Gwnewch yn siwr nad oes chwyn yn y compost. 3 Pan fydd eich dail salad wedi tyfu, tynnwch rai i’w bwyta.

4 Mae’n debyg y gwelwch löynnod gwyn yn glanio ar eich cnwd. Edrychwch o dan y dail am eu wyau – casgliad bach o smotiau.

5 Chwiliwch am drywydd tyllwyr y dail. Mae’r trychfilod bach yn dodwy eu wyau tu fewn i’r dail, yna bydd eu larfa yn bwyta eu ffordd allan, gan adael twneli bach troellog yn y dail.

2 Plannwch eich hadau gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y paced.

Lettuce by Cora Müller (fotolia.com)